Winamp Logo
Siarad Secs Podcast Cover
Siarad Secs Podcast Profile

Siarad Secs Podcast

English, Comedy, 1 season, 13 episodes, 7 hours, 46 minutes
About
Lisa Angharad a'i gwesteion yn siarad am ryw a rhywioldeb mewn ffordd agored a gonest. Mae'r podlediad yma'n trafod themâu o natur rywiol ac yn cynnwys iaith gref.
Episode Artwork

Pam dwi'n trafod rhywedd yn y dafarn yn Llanuwchllyn

Lisa Angharad yn sgwrsio gyda Meilir Rhys am ei rywedd ('gender') a'i rywioldeb ('sexuality'), pam ei fod yn gwrthod y labeli taclus a pham ei fod yn hoffi eu trafod yn y dafarn yn Llanuwchllyn. Mae'r podlediad yma'n trafod rhyw yn agored. Cynhyrchwyd gan Astud i BBC Sounds.
8/4/202138 minutes, 44 seconds
Episode Artwork

Jess Davies: Modelu, rhyw a ffeministiaeth

Lisa Angharad yn sgwrsio gyda Jess Davies am ei phrofiad o fodelu 'glamour', pam bod hi'n bwysig bod merched yn mwynhau rhyw a sut i deimlo'n dda am ein cyrff ('body positivity'). Mae'r podlediad yma'n trafod rhyw yn agored ac yn cynnwys iaith gref iawn. Cynhyrchwyd gan Astud i BBC Sounds.
7/28/202145 minutes, 14 seconds
Episode Artwork

Pam fod dynion strêt eisiau rhyw gyda brenhines drag?

Lisa Angharad yn sgwrsio gyda Kris Hughes am baganiaeth, y profiad o ddod allan yng ngogledd Cymru yn yr 80au a pham bod gymaint o ddynion syth/heterorywiol eisiau rhyw gyda brenhines drag enwocaf Cymru, Maggi Noggi. Mae'r podlediad yma'n trafod rhyw yn agored ac yn cynnwys iaith gref iawn. Cynhyrchwyd gan Astud i BBC Sounds.
7/21/202149 minutes, 47 seconds
Episode Artwork

Y gwir am ryw lesbiaidd

Lisa Angharad yn sgwrsio gyda'r actor a cherddor Emmy Stonelake am ryw lesbiaidd cariadus (sy'n wahanol iawn i'r hyn sydd mewn pornos), a'r profiad o fod yn panrywiol ('pansexual'). Mae'r podlediad yma'n trafod rhyw yn agored ac yn cynnwys iaith gref iawn. Cynhyrchwyd gan Astud i BBC Sounds.
7/14/202141 minutes, 1 second
Episode Artwork

Y boen wrth drio am blant

Lisa Angharad yn holi Nia Parry am ei phrofiad personol o drio am blant, cael problemau wrth feichiogi, cael plant a pha effaith gafodd y cyfan ar ei pherthynas â rhyw. Mae'r podlediad yma'n trafod rhyw yn agored ac yn cynnwys iaith gref iawn. Cynhyrchwyd gan Astud i BBC Sounds.
7/7/202134 minutes, 23 seconds
Episode Artwork

Pam dwi'n dewis gwneud gwaith rhyw

Lisa Angharad yn cael sgwrs arbennig gyda gweithiwr rhyw sydd yn egluro sut ddechreuodd yn y swydd a pham ei fod yn dewis gwneud hynny. Mae'r podlediad yma'n trafod rhyw yn agored ac yn cynnwys iaith gref.
6/30/202139 minutes, 7 seconds
Episode Artwork

Curo'r cywilydd

Lisa Angharad yn sgwrsio gyda'r cartwnydd a chyflwynydd Siôn Tomos Owen a'r ffeminydd ac arbenigwraig hanes Sara Huws. Maen nhw'n trafod ein 'cywilydd' am ryw - eu profiadau personol, ei effaith ar unigolion, a sut allwn ni ddod drosto. Mae'r podlediad yma'n trafod themâu o natur rywiol ac yn cynnwys iaith gref iawn.
8/30/201934 minutes, 40 seconds
Episode Artwork

‘Dwi ddim yn teimlo fel menyw na dyn’

Mae Rhi Kemp-Davies yn hyfforddi ac addysgu pobl am ryw, ac yn y podlediad yma mae Rhi yn rhannu ei stori bersonol am fyw fel person aneuaidd (non-binary) yng Nghymru heddiw. Maen nhw hefyd yn trafod y profiad o gynghori pobl traws (trans) ar berthnasau a rhyw. Mae'r podlediad yma'n cynnwys themâu o natur rywiol a iaith gref.
8/23/201938 minutes, 13 seconds
Episode Artwork

Sut i roi condom ar fanana

Lisa Angharad yn sgwrsio gyda'r sgwennwr ac actor Alun Saunders a'r fyfyrwraig feddygaeth Ffraid Gwenllian. Maen nhw'n rhannu eu profiadau o drafod rhyw wrth dyfu fyny, addysg rhyw mewn ysgolion, ac yn trafod sut i siarad am ryw gyda'ch plant a'ch rhieni. Oes rhaid iddo fod mor anodd a chwithig? Mae'r podlediad yma'n trafod themâu o natur rywiol ac yn cynnwys iaith gref.
8/16/201936 minutes, 42 seconds
Episode Artwork

Be' dwi 'di dysgu wrth wylio porn

Lisa Angharad yn sgwrsio gyda'r actores a sgwennwr Hanna Jarman a'r cyfarwyddwr artistig Elgan Rhys. Maen nhw'n trafod pornograffi, eu profiadau o ysgrifennu ac actio mewn dramâu sy'n cynnwys golygfeydd rhyw, a'r defnydd o iaith wrth gael rhyw. Mae'r podlediad yma'n trafod themâu o natur rywiol ac yn cynnwys iaith gref.
8/9/201937 minutes, 3 seconds
Episode Artwork

Ydw i'n 'bi'?

Strêt, hoyw, lesbian, deurywiol - oes angen label? Lisa Angharad yn sgwrsio gyda'r artist Elin Meredydd a'r comedïwr Steffan Alun am eu rhywioldeb, yr orgasm benywaidd, a pha mor agored ydyn nhw am ryw. Mae'r podlediad yma'n trafod themâu o natur rywiol ac yn cynnwys iaith gref.
8/2/201937 minutes, 16 seconds
Episode Artwork

Helo, libido!

Pam bod hi mor anodd i drafod dy libido? Yr actores Carys Eleri a'r myfyriwr nyrsio John Vale sy'n ymuno â Lisa Angharad i drafod libidos a'u profiadau, da a drwg, o ddefnyddio dating apps. Mae'r podlediad yma'n trafod themâu o natur rywiol ac yn cynnwys iaith gref.
7/26/201933 minutes, 8 seconds
Episode Artwork

Croeso i bodlediad Siarad Secs

Croeso i bodlediad Siarad Secs gyda Lisa Angharad a'i gwesteion yn siarad am ryw a rhywioldeb mewn ffordd agored a gonest.
7/25/201944 seconds