Winamp Logo
Pigion: Highlights for Welsh Learners Podcast Cover
Pigion: Highlights for Welsh Learners Podcast Profile

Pigion: Highlights for Welsh Learners Podcast

Welsh, Languages, 1 season, 323 episodes, 3 days, 8 hours, 27 minutes
About
Y darnau gorau o raglenni BBC Radio Cymru gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith. BBC Radio Cymru highlights for Welsh learners.
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr, y 30ain o Ionawr 2024

Pigion Dysgwyr – Arfon Jones Mae deiseb sy'n galw am ddefnyddio’r enw Cymru a Chymru'n unig ac i beidio â defnyddio'r enw 'Wales' wedi casglu dros un-deg un mil o lofnodion. Cyn-athro o Hen Golwyn ddechreuodd y ddeiseb a chafodd Rhodri Llywelyn sgwrs gydag Arfon Jones wythnos diwetha ar Dros Ginio. Deiseb PetitionLlofnodion SignaturesPrif Weithredwr Chief ExecutiveGwyrthiau MiraclesBras BoldTristwch SadnessCefnogwyr FansDigwyddiad EventPigion Dysgwyr – Siop Del Wel ie, tybed wnawn ni glywed y cefnogwyr yn gweiddi Cymru yn lle Wales yn y dyfodol. Cawn weld on’d ife? Nos Fawrth diwetha ar ei rhaglen cafodd Caryl Parry Jones sgwrs gyda Del Jones. Mae Del yn dod o Garn Fadryn ym Mhen Llŷn yn wreiddiol ond yn byw nawr yng Nghlynnog Fawr gyda’i phartner Math. Erbyn hyn mae hi wedi dilyn ei breuddwyd ac agor siop yng Nghricieth a hefyd mae hi‘n rhedeg gwasanaeth glanhau. Dyma Del yn esbonio y daith gymerodd hi ar ôl iddi hi adael ei swydd fel rheolwr gwesty…… Breuddwyd DreamPenderfyniad DecisionCryfder StrengthYmchwil ResearchFfyddlon FaithfulRhan amser Part timeY Cyfnod clo LockdownHeriol ChallengingPigion Dysgwyr – Treorci A phob lwc i Del gyda’i menter newydd on’d ife? Ar eu rhaglen Sadwrn cafodd Shelley Rees a Rhydian Bowen Phillips air gyda rhai oedd wedi dod i dafarn y Lion yn Nhreorci . Mae yna gynllun wedi dechrau yn nhrefi Aberdâr a Threorci i annog dysgwyr i fynd i siopau ble mae yna siaradwyr Cymraeg yn gweithio, er mwyn iddyn nhw allu defnyddio eu Cymraeg y tu allan i’r dosbarth. Hapus i Siarad yw enw’r cynllun ag un oedd yn y Lion oedd Jo… Menter VentureAnnog To encourage Sylweddoli To realiseDwy fenyw Dwy ddynesIeuenctid YouthDiwylliant CultureYn ddifrifol (o ddifri) SeriouslyPigion Dysgwyr – Guto Bebb On’d yw hi’n bwysig rhoi cyfle i ni gyd fedru defnyddio’n Cymraeg yn y gymuned? Da iawn a phob lwc i griw Hapus i Siarad. Gwestai Beti George ar Beti a’i Phobol ddydd Sul diwetha oedd cyn Aelod Seneddol Aberconwy Guto Bebb. Un o’i ddiddordebau mwya ydy cerddoriaeth fel buodd e’n sôn wrth Beti... Aelod Seneddol Aberconwy Former Aberconwy MPDiléit DiddordebGor-ddweud To exaggerateBuddsoddi’n helaeth To invest massivelyCasgliad A collectionMynd at fy nant i Interests meDw i’n dueddol o I tend toPigion Dysgwyr – Mills and Boon Pedair mil o albymau? Wel dyna beth yw casgliad helaeth on’d ife? Thema rhamantus oedd ar Dros Ginio bnawn dydd Iau pan buodd Lissa Morgan yn sôn am gyfres ramant Mills and Boon. Mae Lissa wedi bod yn ysgrifennu llyfrau i’r cwmni a dyma hi i ddweud ei stori. Cyhoeddi To publishCyflwyno To introduceCynhyrchiol ProductiveMor awyddus So eagerTu hwnt BeyondPigion Dysgwyr – Grav Digon o ramant ar Dros Ginio ar ddydd Santes Dwynwen! Ers degawd bellach mae’r actor Gareth John Bale wedi bod yn perfformio y sioe un dyn “Grav” am hanes bywyd y chwaraewr rygbi a’r darlledwr Ray Gravelle, o Fynydd-y-garreg ger Cydweli. Ond cyn bo hir bydd y sioe yn teithio i Adelaide yn Awstralia. Dyma Gareth i sôn mwy… Degawd DecadeRhyfeddol AmazingAntur AdventureYmateb ResponseCwpla GorffenCawr GiantPwysau PressureDehongliad InterpretationGwyro To deviateGofod SpaceYn uniongyrchol Directly
1/30/202412 minutes, 57 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr, y 23ain o Ionawr 2024.

Pigion Dysgwyr – Anne Uruska Wythnos diwetha roedd hi‘n 80 mlynedd ers brwydr Monte Cassino yn yr Eidal. Un fuodd yn brwydro ar ran y fyddin Bwylaidd yn erbyn yr Eidalwyr a’r Almaenwyr, oedd tad Anne Uruska o Aberystwyth. Roedd Stanislaw Uruski yn rhan o gatrawd fuodd yn brwydro rhwng Napoli a Rhufain am fisoedd lawer. Dyma Ann i sôn am hanes ei thad…. Byddin Pwylaidd Polish ArmyCatrawd Regiment Brwydro To fight Hanu o To haul fromCipio To captureGwlad Pwyl PolandDengid DiancRhyddhau To releaseMewn dyfynodau In exclamation marksY Dwyrain Canol The Middle EastPigion Dysgwyr – Esgusodwch Fi Anne Uruska yn fanna‘n sôn am hanes diddorol ei thad, ac mae’n siŵr bod llawer ohonoch chi’n nabod Anne fel un o diwtoriaid Cymraeg i Oedolion Prifysgol Aberystwyth. Gwestai diweddar y podlediad Esgusodwch Fi, sydd yn trafod materion sydd yn berthnasol i’r gymuned LGBT+, oedd y cyfarwyddwr ffilm Euros Lyn. Mae Euros wedi cyfarwyddo Dr Who, Happy Valley, Torchwood, Sherlock yn ogystal â nifer o gyfresi eraill. Dyma fe i sôn am un o’i brosiectau diweddara sef Heartstopper i Netflix…. Cyfarwyddwr DirectorCyfresi SeriesDiweddara Most recentDau grwt Dau fachgen Eisoes AlreadyEhangach WiderCenhedlaeth GenerationProfiad ExperienceYn ddynol HumanHoyw Gay Pigion Dysgwyr – Antarctica Euros Lyn oedd hwnna’n sôn am y gyfres Heartstopper sydd i’w gweld ar Netflix. Does dim llawer o bobl sy’n gallu dweud eu bod nhw wedi bod yn Antarctica. Ond un sydd wedi bod yno yw y biolegydd morol Kath Whittey, a buodd hi’n siarad am y profiad ar raglen Aled Hughes fore Mawrth diwetha…. Biolegydd morol Marine biologistLlong ShipCynefin HabitatAnghyfforddus UncomfortableSbïad EdrychPigion Dysgwyr – Diwrnod Cenedlaethol yr Het Mae Kath yn gwneud i Antartica swnio fel planed arall on’d yw hi? Roedd Dydd Llun yr wythnos diwetha yn ddiwrnod cenedlaethol yr het. Un sydd a chasgliad sylweddol o hetiau yw Angela Skyme o Landdarog ger Caerfyrddin. Dyma hi’n sgwrsio gyda Shan Cothi am y casgliad sydd ganddi Casgliad sylweddol A substantial collectionCael gwared To get ridHen dylwyth Old familyMenyw DynesDrych Mirror Pigion Dysgwyr – Clare PotterA dw i’n siŵr bod Angela’n edrych yn smart iawn yn ei hetiau. Bardd a pherfformwraig ddwyieithog yw clare e. potter, ac mae ganddi MA o Brifysgol Mississippi mewn Llenyddiaeth Affro-Garibïaidd. Mae Clare wedi cyfieithu gwaith y bardd Ifor ap Glyn i’r Saesneg ac mae hi wedi bod yn Fardd y Mis Radio Cymru. Mae'n dod o bentref Cefn Fforest ger Caerffili yn wreiddiol a Saesneg oedd iaith y cartref a'r pentref. Cafodd hi ei hysbrydoli gan athro Cymraeg Ysgol Gyfun Coed Duon ac aeth ati i ddysgu'r iaith. Dyma i chi flas ar sgwrs gafodd hi gyda Beti George Llenyddiaeth LiteratureBardd PoetYsbrydoli To inspireMam-gu NainEmynau HymnsRhegi To swearO dan y wyneb Under the surfaceFfili credu Methu coelioBraint A privilegePigion Dysgwyr – Nofio Gwyllt Beti George yn fanna’n sgwrsio gyda clare e. potter ar Beti a’i Phobol ddydd Sul diwetha. Owain Williams oedd gwestai rhaglen Shelley a Rhydian ddydd Sadwrn ar gyfer slot newydd o’r enw Y Cyntaf a’r Ola. Owain yw cyflwynydd cyfres newydd ar S4C o’r enw Taith Bywyd sydd ar ein sgriniau ar hyn o bryd. Yn Llundain mae e’n byw a dyma fe’n sôn wrth Shelley a Rhydian am y nofio gwyllt mae e’n ei wneud…. Degawdau DecadesLlynnoedd Lakes
1/23/202412 minutes, 34 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr, y 16eg o Ionawr 2024.

Pigion Dysgwyr – Gwyneth Keyworth Mi fydd yr actores o Bow Street ger Aberystwyth, Gwyneth Keyworth, yn perfformio mewn cyfres ddrama deledu newydd, Lost Boys and Fairies cyn bo hir. Dyma Gwyneth ar raglen Shelley a Rhydian yn sôn mwy am y ddrama a’i rhan hi ynddi. Cyfres SeriesYmdrin â To deal with Mabwysiadu To adoptHoyw GayTyner Gentle Pigion Dysgwyr – Ian Gwyn Hughes Gwyneth Keyworth oedd honna’n sôn am ei rhan hi yn y ddrama deledu newydd Lost Boys and Fairies . Gwestai Arbennig rhaglen Bore Sul oedd Ian Gwyn Hughes, Pennaeth Cyfathrebu Cymdeithas Bêl-droed Cymru. Yn ystod ei sgwrs gyda Betsan Powys mi soniodd Ian am ei weledigaeth pan ddechreuodd weithio efo’r Gymdeithas Bêl-droed. Gweledigaeth VisionPennaeth Cyfathrebu Head of CommunicationCyflwyno IntroduceNaws Cymreig A Welsh ethosPlannu hadau Planting seedsGorfodi To forceDiwylliant CultureHunaniaeth IdentityCynrychioli To representBalchder PrideYmateb To respondGan amlaf More often than not Pigion Dysgwyr – Nayema Khan Williams Cofiwch y gallwch chi wrando ar sgwrs gyfan Ian Gwyn Hughes unrhyw bryd sy'n gyfleus i chi drwy fynd i wefan neu ap BBC Sounds. Nayema Khan Williams ymunodd â Beti George ar Beti a’I Phobol wythnos diwetha. Mae Nayema a’i gŵr Osian yn rhan o gyfres Gogglebocs Cymru ar S4C ar hyn o bryd. Mi gafodd hi ei magu yng Nghaernarfon, ond roedd ei rhieni – Mirwas Kahn a Zari Kahn yn dod o Bacistan yn wreiddiol. Daeth ei thad draw yn y 50 i Gaernarfon, ac ar y dechrau mi fuodd o’n gwerthu bagiau o gwmpas tafarndai. Wedyn mi fuodd yn gwerthu bagiau ym marchnad Caernarfon ac mewn marchnadoedd eraill am flynyddoedd. Dyma Nayma yn sôn am ei ffydd…… Ffydd FaithDwyn i fyny Brought upGweddïo To prayAballu And so onPigion Dysgwyr – Pilates Nayema Khan Williams o Gaernarfon yn fanna yn sôn ychydig am Islam. Drwy gydol wythnos diwetha thema Rhaglen Aled Hughes oedd “ Dydy hi byth yn rhy hwyr” sef cyfres o eitemau i annog gwrandawyr i sylweddoli nad ydy hi byth yn rhy hwyr i wynebu sialensau newydd. Mi ymwelodd Aled ag Eirian Roberts yng Nghaernarfon i gael gwers Pilates. A dyma sut aeth pethau Annog To encourage Garddwrn WristY glun The hipAnadlu To breathAsennau HipsTueddu i or-ddatblygu Tend to over developSbio Edrych Pigion Dysgwyr – Chloe Edwards Gobeithio bod Aled yn iawn ynde ar ôl yr holl ymarferion Pilates ‘na! Dydy hi byth yn rhy hwyr i ddysgu Cymraeg chwaith, ac un sydd wedi profi hynny ydy Chloe Edwards. Fore Mercher diwetha ar raglen Aled Hughes mi soniodd Chloe wrth Aled am y daith mae hi wedi gymryd i ddod yn rhugl yn yr iaith. Trwy gyfrwng Through the mediumGweithgareddau Activities Pigion Dysgwyr – Pantomeim Ac mae Chloe newydd ymuno â thîm tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion Prifysgol Bangor. Pob lwc iddi hi ynde? . Nos Fawrth ddiwetha ar ei rhaglen mi gafodd Caryl Parry Jones sgwrs gyda Rhian Lyn Lewis. Mae Rhian ar hyn o bryd yn chwarae rhan un o’r gwragedd drwg ym Mhanto y Friendship Theatre Group yn Theatr y Ffwrnes, Llanelli. Gofynnodd Caryl iddi hi’n gynta ers pryd mae’r cwmni wedi bod yn perfformio Pantomeim Elusennau CharitiesLlwyfan StagePres ArianBant I ffwrddY brif ran The main partYmylol PeripheralTywysoges PrincessTylwyth teg Fairy
1/16/202412 minutes, 44 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr, y 9fed o Ionawr 2024.

Pigion Dysgwyr – Jessica Robinson Cynrychiolydd Cymru yng Nghystadleuaeth Canwr y Byd, cafodd ei gynnal yng Nghaerdydd yn 2023, oedd y soprano o Sir Benfro Jessica Robinson. Ddydd Calan, hi oedd gwestai Shan Cothi ar ei rhaglen, a gofynnodd Shan iddi hi yn gynta beth oedd ei gobeithion hi am 2024…. Cynrychiolydd RepresentativeGŵyl gerddorol Musical festivalSafon QualityAnelu ato To aim forDatganiad RecitalYn elfennol bwysig Of prime importanceCydbwysedd BalanceCyfansoddwyr ComposersCyfeilio To accompanyDehongliad Interpretation Pigion Dysgwyr – Sion Tomos Owen Wel mae blwyddyn brysur iawn o flaen Jessica yn does? Bardd y Mis ar gyfer mis Ionawr ar Radio Cymru, ydy Sion Tomos Owen o Dreorci. Mae Sion yn arlunydd ac yn fardd, ond mae o hefyd yn un o gyflwynwyr rhaglen Cynefin ar S4C. Dyma fe ar Ddydd Calan yn sgwrsio gyda Sara Gibson, oedd yn cadw sedd Aled Hughes yn gynnes, i sôn am un o uchafbwyntiau 2023 iddo fe…. Bardd y mis Poet of the monthArlunydd ArtistCyflwynwyr PresentersUchafbwyntiau HighlightsMurluniau MuralsOgofau CavesTafliad carreg A stone’s throwAmgenach DifferentDylunio DesigningArbrofi ExperimentingPigion Dysgwyr – Meleri Wyn James Sion Tomos Owen oedd hwnna, Bardd y Mis Radio Cymru yn sôn am graffiti. Bob wythnos ar raglen Bore Sul mae gwestai yn rhannu straeon a phrofiadau. Ar rifyn ola 2023, yr awdures Meleri Wyn James o Aberystwyth fuodd yn siarad gyda Betsan Powys. Meleri enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Boduan a hi hefyd ydy awdures y gyfres boblogaidd, Na Nel. Dyma hi i sôn am sut mae arferion darllen plant, yn ei barn hi, wedi newid yn ystod y blynyddoedd diwetha … Y Fedal Ryddiaith The Prose MedalGofid ConcernAnnog To encourageDychymyg ImaginationAnnibynnol IndependentGwnïo To sewPwytho To stitchPenderfynol DeterminedDisgyblaeth DisciplineDadwneud To undoPigion Dysgwyr – Liz Saville Roberts Ie, mae hi mor bwysig i annog plant i ddarllen ond yw hi? A gobeithio bydd llyfrau Meleri yn llwyddo i wneud hynny yndife? Aelod Seneddol Dwyfor Meirionydd, Liz Saville Roberts oedd gwestai Beti a’i Phobol yr wythnos hon. Mi gafodd hi ei magu yn Llundain ond mi gafodd hi ei denu i Gymru oherwydd ei diddordeb yn y Mabinogi. Ar ôl astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth mi aeth yn newyddiadurwraig ag yn ddarlithydd cyn iddi hi droi at wleidyddiaeth. Dyma hi’n sôn am ei diddordeb yn y Mabinogi…. Cofiwch bod yna gyfle i glywed y rhaglen gyfan ar BBC Sounds. Cafodd hi ei denu She was luredY Chweched Sixth formTraethawd estynedig DissertationCyhoeddiad A publicationWedi gwirioni Wedi dwlu arFel petai Seems to Bellach yn yr etholaeth In the constituency by nowRhyfedd StrangePigion Dysgwyr – Dylan Jones Liz Saville Roberts oedd honna’n sôn am sut oedd y Mabinogi wedi dylanwadu ar ei bywyd hi. Y ceffyl oedd thema Troi’r Tir fore Sul, ac un oedd yn siarad ar y rhaglen oedd Dylan Jones o Foelfre ger Abergele. Mae Teulu Dylan, ers y 70au, wedi bod yn cyflenwi ceffylau ar gyfer y diwydiant ffilm. Dyma fe i sôn mwy... Wedi dylanwadu Had influencedCyflenwi To supplyDiwydiant IndustryPigion Dysgwyr – Cleif Harpwood Ceffylau Cymru yn chwarae rhan bwysig mewn ffilmiau a rhaglenni teledu. Difyr yndife? Mi fuodd Dei Tomos yn recordio yn ddiweddar yng Nghwm Afan ar gyfer ei raglen Nos Sul. Un gafodd ei fagu yn yr ardal ydy’r cerddor Cleif Harpwood ac mi fuodd o’n sôn wrth Dei am hanes Cymreictod y cwm…… Cerddor MusicianY Canol Oesoedd The Middle AgesArglwyddi LordsYr Ucheldir The HighlandsCaerau FortsCors halenog Salty marshMintai TroopBraw A frightCenhadu Doing missionary work Y groesgadoedd The crusadesYmestyn To extend
1/9/202415 minutes, 41 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr, yr 2il o Ionawr 2024.

1 John ac Alun – ymweld â Phorthdinllaen: Ar drothwy Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd eleni aeth John ac Alun am dro o gwmpas eu hoff lefydd ym Mhen Llŷn, a dewis John oedd cael mynd draw i Borthdinllaen, a rhoi gwahoddiad i Meinir Pierce Jones, un o ferched yr ardal i ddod yno am sgwrs.Arwyddocâd Significance Cysgod diogel Safe shelter Delfrydol Ideal Dyfnder Depth Porthladdoedd Ports Gofaint Blacksmith Seiri Carpenters Safle diwydiannol An industrial site Gan fwya Mostly Argian Good Lord Trochi traed Paddling2 Clip Aled Hughes:Mae hi’n anodd meddwl am Borthdinllaen fel safle diwydiannol yn tydy? Tybed faint o’r twristiaid sy’n mynd yno bob blwyddyn sy’n gwybod am hanes y lle?Ac mi arhoswn ni ym Mhen Llŷn efo’r clip nesa ‘ma. Ar Orffennaf y 26ain y llynedd, wrth edrych ‘mlaen at Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd, mi gafodd Aled Hughes gwmni’r Archdderwydd Myrddin ap Dafydd ac aeth y ddau i gopa’r Eifl, a dyma chi flas o’u sgwrs.Awgrym A suggestion Machlud Sunset Rhufeiniaid yn cilio The Romans withdrawing Anwybyddu To ignore Gwyddelod Irish people Gwaywffon Spear Penwaig Herring Dinasyddiaeth Citizenship Diwylliedig Cultured Tyndra ar y ffin Tension on the border3 Beti a’i Phobol:Dipyn bach o hanes ardal yr Eifl yn fanna gan yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd.Sioned Lewis oedd gwestai Beti a'i Phobol ar y 7fed o Fai 2023. Mae Sioned yn Gwnselydd ac yn Seicotherapydd ac yn dod yn wreiddiol o Ddolwyddelan yn Sir Conwy. MI fuodd hi’n gweithio mewn sawl maes gwahanol, yn gwerthu tai, yn y byd teledu a gyda Mudiad Ysgolion Meithrin. Sioned ydy Cwnselydd y rhaglen Gwesty Aduniad ar S4C. Yn y clip hwn mae hi’n sôn am ei hamser yn dioddef o gancr y fron:Archdderwydd Archdruid Cancr y fron Breast cancer Efo chdi Gyda ti Cwffio Ymladd Dychmygu Imagining Cyfres Series Triniaethau Treatments Ffydd Faith Blin Yn grac Ymdopi Coping Y blaenoriaeth The priority4 Bore Cothi:Sioned Lewis oedd honna’n siarad am ei phrofiad o fod efo cancr y fron.Ar Fedi’r 27ain y llynedd, mi roedd Max Boyce yn dathlu ei ben-blwydd yn 80, ac i nodi’r garreg filltir arbennig yma mi fuodd Max allan ar y ffordd unwaith eto yn perfformio mewn cyfres o gyngherddau. Mi gafodd Shan sgwrs efo Max cyn y daith, gan gychwyn drwy ofyn oedd y penderfyniad i deithio eto’n un anodd? Carreg filltir Milestone Yr hewl (heol) The road Rhoi’r ffidil yn y to To give up Cwpla Gorffen Ysbrydoli To inspire Clwb gwerin Folk club Uniaethu To identify Ystyried To consider5 Caryl Parry Jones: Y bytholwyrdd Max Boyce yn dathlu ei ben-blwydd drwy berfformio - wel be arall ynde? Yn ôl ym mis Mai 2023 cafodd Caryl sgwrs gyda Heather Hughes. Mae Heather yn aelod o grŵp nofio Titws Tomos Môn. Yn 2019 mi gafodd hi waedlif ar yr ymennydd a chyflwr o’r enw Hydrocephalus, sef dŵr ar yr ymennydd. Ers hynny mae hi’n nofio yn y môr ym mhob tywydd. Yn y clip hwn cawn glywed Heather yn sôn am ei phrofiad, a pha mor llesol ydy nofio yn y môr iddi hi:Bytholwyrdd Evergreen Gwaedlif ar yr ymennydd Brain haemorrhage Cyflwr Condition Llesol Beneficial Poblogrwydd Popularity Llwythi Loads Goro Gorfod6 Trystan ac Emma:Dyna enw da ar y grŵp ynde – Titws Tomos Môn!Ddechrau mis Rhagfyr mi gafodd Rhaglen Trystan ac Emma wahoddiad i Gaffi Largo ym Mhwllheli. Mi fuodd yna lawer o hwyl a sbri yn y caffi - yn siarad efo’r staff ac efo pobl leol. Un ohonyn nhw oedd Christine Jones o dre Pwllheli:Haeddu To deserve Bobol annwyl! Goodness me! Brolio To boast Yn rhagori Surpasses Nionyn picl Pickled onion7 Ffion Dafis:Christine Jones – un o gymeriadau ardal Pwllheli yn dod â llwyth o hwyl a chwerthin i Gaffi Largo’r dre.Ac yn ardal Pwllheli oedd yr Eisteddfod Genedlaethol eleni wrth gwrs ac yno cafodd fersiwn e-lyfr o’r nofel boblogaidd iawn, Un Nos Ola Leuad gan Caradog Pritchard, ei lawnsio, efo’r actorion John Ogwen a Maureen Rhys yn ei darllen. Yn y clip hwn ar raglen Ffion Dafis mae John yn sôn am y tro cynta daeth o ar draws y nofel:Digwyddiad Event Gwerthfawrogi To appreciate Beirdd Poets Lleuad Moon Gwên ryfeddol A wonderful smile Dagrau Tears Atgof Recollection
1/2/202420 minutes, 55 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr 2il o Ionawr 2024.

1 Uffern Iaith y Nefoedd:Brynhawn Sadwrn diwetha mi glywon ni raglen arbennig o’r Sioe banel hwyliog Uffern Iaith y Nefoedd dan ofal Gruffudd Owen. Y panelwyr oedd Richard Elis, Sara Huws, Llinor ap Gwynedd a Lloyd Lewis. Rownd cyfieithu caneuon oedd hon:Nid anenwog Famous (not unfamous) Cyffwrdd To touch Dychwelyd To return Aflonyddu To disturb Nadoligaidd Christmasy Clych Bells2 Elin Fflur a’r Gerddorfa:Dipyn bach o hwyl yn dyfalu caneuon oedd wedi eu cyfieithu’n wael yn fanna. Ddechrau’r mis, mi gafodd cyngerdd arbennig ei gynnal efo Elin Fflur yn canu gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Tudur Owen oedd yn arwain y noson a dyma i chi foment emosiynol o’r rhaglen pan mae Tudur yn holi Elin am hanes ei chân fwya poblogaidd, sef Harbwr Diogel – y gân gafodd ei hysgrifennu gan Arfon Wyn, wrth gwrs, a’r gân enillodd cystadleuaeth Cân i Gymru yn 2002:Cerddorfa Orchestra Breintiedig tu hwnt Privileged beyond Crïo Llefain Cryndod Tremor Golygu To mean Oesol Everlasting Uniaethu To identify Mor gyfarwydd So familiar3 Rhaglen Cofio:Noson emosiynol iawn i Elin Fflur, ac i Tudur hefyd, yng Nghanolfan Pontio ym Mangor.Nadolig oedd thema rhaglen archif Cofio gyda John Hardy brynhawn Sul, a Noswyl Nadolig yn thema arbennig felly. Un o draddodiadau mawr y Nadolig yn y capeli ydy plant bach yn perfformio Drama’r Geni, ac mae llawer o hwyl wrth i’r plant grwydro o’r sgript weithiau. Dyma glip o ddau weinidog yn cofio ambell i ddrama o’r fath:Drama’r Geni Nativity play Gweinidog Minister Hogyn Bachgen Gŵr y llety Innkeeper Yn ffradach Chaotic Ymgnawdoliad Incarnation Beichiog Pregnant Gweddi A prayer Mo’yn Eisiau 4 Chwalu Pen:On’d oes yna hwyl efo Drama’r Geni pan mae’r plant yn penderfynu mynd eu ffordd eu hunain?Un o uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr Ŵyl ydy’r cwis poblogaidd Chwalu Pen, a chafodd y rhaglen ei darlledu brynhawn Gwener diwetha yr 22ain o Ragfyr. Mari Lovgreen oedd yn trïo cadw trefn ar Catrin Mara, Arwel Pod Roberts, Welsh Whisperer a Mel Owen. Dyma nhw’n trio dyfalu’r rownd gyntaf ond cyn hynny, Mari sydd yn ein hatgoffa o’r rheolau:Uchafbwyntiau Highlights Darlledu To broadcast Dyfalu To guess Atgoffa To remind Rheolau Rules Y flwyddyn a fu The past year Cwblha! Complete! Cyn seren Former star5 Ho Ho Hywel:Mae Mel yn amlwg yn nabod ei chaneuon Nadoligaidd yn tydy?Ar ddydd Nadolig mi fuodd Hywel Gwynfryn a Rhiannon Lewis yn mwynhau straeon a chaneuon yng nghwmni gwesteion ar y rhaglen arbennig Ho Ho Hywel. A dyma’r comedïwr Dilwyn Morgan yn rhannu rhai o’i atgofion cynnar am y Nadolig :Atgofion Memories Tro ar ôl tro Time after time Tyddyn bach A smallholding Ar lethrau On the slopes Hel tai Going from house to house Comisiwn Coedwigaeth Forestry Commission Beudy Cowhouse Wedi sychu’n grimp Dry as a bone6 Talwrn Nadolig:Cystadleuaeth rhwng timau o feirdd ydy’r Talwrn ac unwaith eto eleni mi fuodd yna raglen arbennig o’r Talwrn – sef Talwrn Nadolig rhwng dau dîm o feirdd amrywiol – sef tîm Bethlehem a thîm Nasareth. Un o’r tasgau oedd sgwennu cerdd ysgafn ar y testun ‘Cinio Nadolig’, a dyma gynnig Iwan Rhys o dîm Bethlehem:Cerdd Poem Strach A mess Fflwr Blawd Llysfwytäwr pybyr A staunch vegetarian Ffili treulio Can’t digest Di dafod Tongueless Llosg cylla Heartburn Yn sgit Keen on Ysgewyll Sprouts Achwyn Cwyno Tynn Tight Egwyddor Principle Newydd garw Bad news7 Rhaglen Ifan:Bydd Y Talwrn yn ôl ar Radio Cymru ar y seithfed o Ionawr am saith o’r gloch efo rhifyn arbennig rhwng Ysgol Glan Clwyd ac Ysgol Maes Garmon. Yr actores Catrin Mara oedd gwestai Ifan Jones Evans ar ei raglen yn ddiweddar. Sôn oedd Catrin am yr anrheg Dolig gorau a’r gwaetha gafodd hi erioed:Allweddell Keyboard Cwningen Rabbit Wedi gwirioni Wedi dwlu ar Cwffio Ymladd Alla i ddim dychmygu I can’t imagine Hwyrach Efallai Erchyll Terrible
12/26/202319 minutes, 53 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr 19eg o Ragfyr 2023.

1 Aled Hughes :Mair Tomos Ifans fuodd yn siarad efo Aled Hughes yn ddiweddar am rai o hen draddodiadau Nadolig gwledydd Ewrop. Mae Mair yn actores, cantores, sgriptwraig, darlithydd a thiwtor. Ond erbyn hyn mae’n treulio llawer iawn o amser yn adrodd straeon ac yn arwain gweithdai mewn ysgolion:Traddodiadau Traditions Diniwed Innocent Darn o bren A piece of wood Boncyff A log Ymwybodol Aware Ymddangos Appearing Melysion Sweets Curo To beat Carthen A cover Penodol Specific Gwasgaru’r llwch Dispersing the ash2 Ffion Dafis :Golwg yn fanna ar rai o draddodiadau Nadolig gwahanol iawn sydd i’w gael yng ngwledydd Ewrop gan Mair Tomos Ifans.Mi fuodd y pianydd rhyngwladol Llŷr Williams yn perfformio yng Nghanolfan Pontio ym Mangor yn ddiweddar, ac mi gafodd Ffion Dafis sgwrs efo fo am sut mae o’n mynd ati i ymarfer a dewis ei raglen ar gyfer perfformio:Bysedd Fingers Hyblyg Flexible Ymwybodol Aware Toriadau Breaks Yn fwy cyfarwydd More familiar Dehongli To interpret Datblygu To develop Amlygu ei hun Manifests itself3 Bore Cothi :Y pianydd Llŷr Williams oedd hwnna’n rhannu ambell i gyfrinach efo Ffion Dafis am sut mae o’n paratoi at berfformio.Ddydd Llun yr 11eg o Ragfyr, Alison Huw y gogyddes oedd gwestai Shân Cothi. Trafod ‘sprouts’ oedd hi, neu ysgewyll Brwsel yn Gymraeg. Nid pawb sy’n hoff iawn o’r ysgewyll naci! Ond yma mae Alison yn sôn am ffordd hyfryd o’i weini ar gyfer eich cinio Dolig:Cyfrinach Secret Ysgewyll Sprouts Gweini To serve Cnau castanwydden Horse chestnut Hallt Salty Plisgo Peeling Ffwrn Popty Moethus Luxurious Rhwydd Hawdd Yn glou iawn Yn gyflym iawn4 Dros Ginio :Wel dyna i chi ambell i syniad am ginio Dolig llwyddiannus, ond be am lwyddo i fwynhau parti Nadolig?Mae yna ymchwil sy’n dangos bod nifer o bobl yn teimlo'n bryderus yn y partïon hyn. Mirain Rhys o Adran Seicoleg Coleg Prifysgol Met Caerdydd, a ‘Mr Cymdeithasu’ Stifyn Parri sy'n trafod sut mae paratoi'n gymdeithasol ar gyfer y partïon? Pryder a chynnwrf Anxiety and excitement Curiad fy nghalon My heartbeat Anadlu Breathing Baglu To trip Chwydu Vomiting Pynciau Topics Osgoi To avoid Sleifio mewn To sneak in Corwynt Hurricane Dadleuol Controversial Ysgogwyr Stimuli5 Rhaglen Caryl Parry Jones:Wel dyna ni wedi cael syniadau coginio Nadolig, syniadau am sut i fwynhau partïon Nadolig ac rŵan dan ni’n mynd i glywed pa fath o Nadolig bydd Helen Evans o Fethesda yn ei fwynhau. Dyma i chi flas ar sgwrs rhwng Helen a Shelley Rees oedd yn cadw sedd Caryl yn gynnes nos Fawrth y 12fed o Ragfyr. Unig blentyn Only child Ysbrydoli To inspire Wedi mopio efo Wedi dwlu ar Y diwrnod canlynol The following day Llond tŷ A houseful
12/19/202315 minutes, 15 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr y 12fed o Ragfyr 2023.

Pigion 12fed Rhagfyr:1 Bore Coth:Pan oedd Shân Cothi yn darlledu o’r Ffair Aeaf yn Llanelwedd yn ddiweddar, mi wnaeth hi gyfarfod â dwy fenyw, sef Francis Finney a Marcia Price. Roedd y ddwy wedi penderfynu dysgu Cymraeg, felly dyma eu gwahodd ar Fore Cothi am sgwrs:Darlledu Broadcasting Cancr y fron Breast cancer Diolch byth Thank goodness Dipyn bach yn iau A little bit younger2 Beti a’i Phobol:Francis a Marcia oedd y ddwy yna, ac mi roedden nhw wedi dysgu Cymraeg yn wych gyda Dysgu Cymraeg Gwent yn doedden nhw?Prif ganwr y band Edward H. Dafis, Cleif Harpwood, oedd gwestai Beti George nos Sul diwetha. Mae cwmni recordiau Sain newydd ryddhau casgliad o holl draciau’r band iconig hwn, er mwyn dathlu hanner can mlynedd ers iddyn nhw ffurfio. Yma mae Cleif yn sôn am ei ddyddiau efo’r bandiau Edward H Dafis ac Injaroc:Rhyddhau To release Cerddorion penna(f) Leading musicians Yn eitha disymwth Quite suddenly Y gynulleidfa The audience Arbrofi To experiment Atgas Obnoxious Y fath wawd Such scorn Bradwyr Traitors Cyfoes Modern Esblygu To evolve3 Trystan ac Emma Gwener 1af Rhagfyr:Hanes diddorol bywyd byr y band Injaroc yn fanna gan Cleif Harpwood.Bob Nadolig dros gyfnod yr Adfent mae trigolion pentref Corris ger Machynlleth yn addurno eu ffenestri. Ar Trystan ac Emma yn ddiweddar mi fuodd un sy’n byw yn y pentre, sef Elin Roberts, yn sgwrsio am y traddodiad arbennig yma yn y pentref:Addurno To decorate Dadorchuddio To unveil Ymgynnull To congregate Cynllunio To plan Goleuo To light 4 Aled Hughes:Yn tydy hi’n braf gweld yr holl oleuadau Dolig yng nhai pobl yr adeg hon o’r flwyddyn? Da iawn pobl Corris am wneud y mwya o gyfnod yr Adfent.Drwy’r wythnos diwetha ar ei raglen mi fuodd Aled Hughes yn siarad efo gwahanol unigolion sydd wedi cymryd rhan yn ymgyrch Defnyddia Dy Gymraeg Comisiynydd yr Iaith. Mae’r sgyrsiau yn pwysleisio sut mae defnyddio’r Gymraeg wedi bod o fantais yn y gwaith o ddydd i ddydd. Yn y clip yma mae Aled yn sgwrsio efo Gareth Williams, un o hyfforddwyr y Scarlets am sut mae o’n defnyddio’r Gymraeg yn ei waith:Mantais Advantage Hyfforddwyr Coaches Cyfathrebu Communicating Y prif nod The main aim Carfan Squad Cryn dipyn Quite a few Agwedd Aspect Adborth Feedback Unigolyn Individual Cyfarwydd Familiar5 Dros Ginio:Gareth Williams oedd hwnna’n gweld mantais mawr mewn defnyddio’r Gymraeg i gyfathrebu efo aelodau o garfan y Scarlets.Ddydd Mawrth y 5ed o Ragfyr roedd hi’n Ddiwrnod Rhyngwladol Gwirfoddoli. Mae Ruth Marks o Gyngor Gweithredu Gwirfoddoli Cymru, wedi dweud fod y sector o dan bwysau ofnadwy. Hedd Thomas, o’r Cyngor, a Gwenno Parry sy’n gwirfoddoli gyda Radio Ysbyty Gwynedd fuodd yn tafod hyn efo Jennifer Jones ar Dros Ginio:Gwirfoddoli To volunteer Pwysau Pressure Argyfwng Crisis Gostyngiad Reduction Cyfleoedd Opportunities Cynrychioli To represent Trafferthion Problems Difrifol Serious Newydd raddio Just graduated Wedi bod wrthi Been at it6 Ifan Jones Evans:Wel dyna ni , tasech chi eisiau helpu allan efo’r gwaith gwirfoddoli cysylltwch â’r mudiad gwirfoddoli lleol. Dw i’n siŵr bydd yna ddigon o gyfleodd i chi.Brynhawn Mercher diwetha, cychwynnodd Ifan ar gyfres newydd o sgyrsiau ar ei raglen. Mae o’n trafod hoff bethau’r Dolig gyda gwestai arbennig bob wythnos, o rwan tan Dolig. A dechreuodd o mewn steil a hynny yng nghwmni Gary Slaymaker:Cymdeithasu To socialise Cwrdda lan To meet up Ymwybodol Aware Sbort Hwyl Yn llethol Overwhelming Nadoligaidd Christmasy Emynau Hymns Cytgan Refrain Nefolaidd Heavenly
12/12/202316 minutes, 19 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr Rhagfyr y 5ed 2023.

1 Bore Cothi: Sioe Aeaf.Ddydd Llun Tachwedd 27 roedd rhaglen Bore Cothi yn darlledu o’r Ffair Aeaf yn Llanelwedd. Cafodd Shân gwmni mam a merch, sef Ffion a Leia Lloyd-Williams o fferm Bathafarn ger Rhuthun. Roedden nhw wedi bod yn dangos ceffyl yn y Ffair, sut aeth hi tybed?Darlledu Broadcasting Y Ffair Aeaf The Winter Fair Gwisg Costume Fel pin mewn papur Immaculate Awyrgylch Atmosphere Rhan-frîd Part breed Is-bencampwr Reserve Champion2 Ffion Emyr: Tips Pwdin Dolig.Roedd Ffion, Leia a Shân hefyd i weld wrth eu boddau gyda’r Ffair Aeaf on’d oedden nhw? Ddydd Sul Tachwedd 26 roedd hi’n Stir Up Sunday sef y Sul ola cyn yr Adfent, a dyma’r diwrnod traddodiadol i bobl wneud eu pwdin Dolig! Y nos Wener cyn hynny rhannodd Ffion Emyr ychydig o dips ar sut i wneud pwdin Dolig. Roedd Ffion wedi casglu’r tips yma gan chefs enwog fel Delia Smith, Andrew Dixon a Nigella Lawson. Socian To soak Fel rheol As a rule Gorchuddio To cover Llysieuol Vegetarian Blawd Flour Ffigys Figs Cnau wedi malu Chopped nuts Ychwanegwch! Add! Sinsir Ginger Heb wres Without heat 3 Carl ac Alun Gwener 24ain yn lle Trystan ac Emma: Dr Who.Wel dyna ni felly, o dan y gwely â’r pwdin Dolig! Tips defnyddiol iawn yn fanna gan Ffion Emyr. Wel mae Dr Who yn ôl! Dych chi wedi cael cyfle i weld y gyfres newydd eto? Dw i’n siŵr bod Ianto Williams o Faesybont ger Caerfyrddin wedi ei gweld gan ei fod yn superfan y gyfres. Fore Gwener Tachwedd 24, Carl ac Alun oedd yn cadw sedd Trystan ac Emma yn gynnes rhwng 9 ag 11 a chaethon nhw sgwrs gyda Ianto a’i glywed yn sôn am ei gasgliad o ddeunyddiau Dr Who Cyfres Series Casgliad Collection Deunyddiau Materials Gwerthfawr Valuable Wedi ei arwyddo Signed Halais i Mi wnes i anfon Yn amlwg Obviously Unigryw Unique Cyfrannu at To contribute to4 Ffion Dafis: Aled Hall mewn opera newydd.Ianto Williams oedd hwnna’n sôn am ei gasgliad o ddeunyddiau Dr Who. Aled Hall, y tenor operatig o Bencader, Sir Gaerfyrddin oedd yn cadw cwmni i Ffion Dafis yn ddiweddar. Yn y clip hwn, mae Aled yn trafod ei ran yn yr opera newydd Men Sheds, gafodd ei chyfansoddi gan y cerddor Lenny Sayers. Mae’r opera hon yn ceisio codi ymwybyddiaeth o broblemau iechyd meddwl dynion:Cafodd ei chyfansoddi Was composed Codi ymwybyddiaeth Raising awareness Cymeriad Character Aeth ati Went at it Ymdrin â Dealing with Ymgynnull To congregate Cymunedau di-rif Countless communities Cysyniad Concept Angen trafod Need to discuss5 Aled Hughes:Mae’n dda gweld opera ar thema modern er mwyn codi ymwybyddiaeth o broblemau iechyd meddwl, on’d yw hi? Wythnos diwetha, Arwyn Tomos Jones o Brifysgol Caerdydd, fuodd yn sôn am hen feddyginiaethau gydag Aled Hughes. Dyma i chi flas ar y sgwrs: Meddyginiaethau Medicines Canrif Century Hollol hurt Totally stupid Ysgyfaint Lung Danadl poethion Stinging nettles Dant y Llew Dandelion Tlodi Poverty Cyn bwysiced â As important as Moddion Medicine Hylif Liquid Dim sail No foundation6 Dros Ginio:Dyna ddiddorol on’d ife fel roedd pobl yn defnyddio‘r byd natur o’n cwmpas yn feddyginiaethau yn y gorffennol. Ddydd Mawrth diwetha, banciau bwyd oedd yn cael sylw ar Dros Ginio gyda Jennifer Jones. Mae mwy a mwy o alw am y banciau bwyd y dyddiau hyn, ond mae llai ac yn llai o bobl yn cyfrannu bwyd at y banciau. Yn y clip hwn, Trey McCain, Rheolwr Banc Bwyd Arfon sy’n egluro’r sefyllfa i Jennifer. Mae Trey yn dod o Mississippi yng ngogledd America yn wreiddiol ond wedi dysgu Cymraeg yn rhugl. Budd-daliadau Benefits Hanfodol Essential Gwendidau Weakness Credyd Cynhwysol Universal credit Cyflenwadau Provisions Pwysau Pressure Galluogi To enable Pryderus Concerned Neges The shopping Uniongyrchol Direct Ar y gweill In the pipeline
12/5/202317 minutes, 33 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr Tachwedd yr 28ain 2003.

1 Byd y Bandiau Pres:Ar raglen Byd y Bandiau Pres nos Sul y 12fed o Dachwedd, John Glyn Jones, oedd gwestai Owain Gruffudd Roberts. Mi roedd John Glyn yn arfer arwain Seindorf Arian yr Oakeley, Blaenau Ffestiniog ond yn y clip nesa ma, cofio Band Pres Ieuenctid Gwynedd a Môn mae’r ddau, pan oedd Owain yn aelod o’r band a John yn arwain:Arwain Seindorf Arian To conduct the Silver Band Band Pres Brass band Ieuenctid Youth Dyddiau aur Golden era Tu hwnt o lwyddiannus Extremely successful Uchafbwynt Highlight Safon Quality Pencampwriaeth Championship Ac felly bu And so it was Disgyblion Pupils2 Beti a’i Phobol:John Glyn Jones ac Owain Gruffudd Roberts oedd y rheina’n cofio eu hamser efo’r band pres.Tomos Parry, cogydd a pherchennog tri bwyty yn Llundain oedd gwestai Beti George yn ddiweddar. Mae Tomos yn dod o Ynys Môn yn wreiddiol, ond erbyn hyn mae o’n brysur yn rhedeg bwytai Brat, Mountain a Brat Outdoors. Mi enillodd o seren Michelin yn Brat, ei fwyty cyntaf. Yma, mae’n sôn am bobl enwog sydd wedi bod yn ei fwytai:Cynhwysion Ingredients Yn weddol gyson Fairly regularly Aballu And so on Cefnogol Supportive Ysbrydoli To inspire Cerddoriaeth Music3 Rhaglen Ifan gyda Hana Medi yn cyflwyno:Tomos Parry y cogydd oedd hwnna, ac mae’n amlwg bod pobl enwog ar draws y byd yn mwynhau dod i’w fwytai.Gwestai ar raglen Hana Medi oedd Esyllt Ellis Griffiths Llysgenhades Sioe Frenhinol 2024. Mi fuodd hi’n sôn am gale ndr sy newydd ei gyhoeddi i godi arian at apêl y Sioe Frenhinol yn 2024 – Sioe’r Cardis fel mae’n cael ei galw! Ond ddim calendr arferol ydy hon, o na ond un noeth!…Llysgenhades Ambassador Noeth Naked Pwyllgorau Committees Trefniadau Arrangements Pen tost Cur pen Balch Pleased Ar y cyfan On the whole Ffili Methu Elusennau Charities Cwympo mas Falling out Cneifio Shearing4 Rhalgen Ffion Dafis:Wel dyna i chi gesys ynde? Dw i’n siŵr bydd y calendr yn gwerthu’n arbennig o dda!Ar Sul y 19eg o Dachwedd, Hywel Gwynfryn oedd gwestai Ffion Dafis. Mae Hywel newydd gyhoeddi cofiant yr actores Siân Phillips, ac mae o ar gael yn y siopau rŵan ar gyfer y Nadolig. Yma mae Hywel yn sgwrsio am y broses o sgwennu‘r cofiant:Cofiant Biography Rŵan ac yn y man Now and then Yn awyddus Eager Hunangofiant Autobiography Deugain mlynedd 40 years Rhwyd Net Daeth e i fwcwl Came to fruition Gogwydd An angle I raddau To an extent Ffynhonnell Source Ysgrifau Articles 5 Dros Ginio:Ia, dyna fasai anrheg Nadolig gwerth chweil i rywun ynde - cofiant Sian Phillips gan Hywel Gwynfryn.Ers dechrau'r rhyfel yn Gaza, mae'r bardd Iestyn Tyne wedi bod yn cydweithio gyda beirdd o Balesteina i gyfieithu eu gwaith a rhoi llwyfan Gymraeg i'w lleisiau a'u profiadau. Mi fuodd o’n trafod y gwaith efo Rhodri Llywelyn ar Dros Ginio bnawn Llun wythnos diwetha:Beirdd Poets Llwyfan A stage Barddoniaeth Poetry Estyn allan To reach out Mewn difri Seriously Ymwybyddiaeth Awareness Gweithred fach A small deed6 Aled Hughes:Prosiect diddorol iawn gan Iestyn Tyne yn cyfieithu gwaith beirdd Palesteina i’r Gymraeg.Ddydd Mawrth yr 21ain o Dachwedd, Lisa Fearn y gogyddes yn oedd yn cadw cwmni i Aled Hughes. Sôn am daffi triog oedd hi ac am y traddodiad o fwyta’r taffi yr amser yma o’r flwyddyn:Taffi triog Treacle toffee Cyflaith Toffee Yn rheolaidd Regularly Traddodiad Tradition Gwirionedd Truth Canrif Century Ar ddihun Awake
11/28/202315 minutes, 31 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr Tachwedd yr 21ain 2023.

Clip 1 Trystan ac Emma: Buodd Steffan Long o Gaerdydd yn sgwrsio ar raglen Trystan ac Emma yn ddiweddar, ac yn sôn am ei waith fel cynorthwyydd dysgu Saesneg mewn Ysgol yn Tokyo, a dyma i chi flas ar y sgwrs: Cynorthwyydd Assistant Ma’s Allan Hir dymor Long term Parhau Continue Disgyblion Pupils Mymryn A little Clip 2 Rhaglen Cofio: Steffan Long oedd hwnna’n sôn am ei waith mewn ysgol yn Tokyo. Wythnos diwetha roedd hi’n Sul y Cofio a dyna beth oedd thema rhaglen Cofio gyda John Hardy. A dyma i chi glip o Harold Williams yn sôn am ddod i Lanrwst fel ifaciwî o Lerpwl yn ystod yr Ail Ryfel Byd: Ail Ryfel Byd Second World War Trais Violence Pledu cerrig Throwing stones Cyfnod Period Yn achlysurol Occasionally Mynd yn eu holau Returning Lleia’n byd o sôn oedd The less it was mentioned Buan iawn Very soon Clip 3 Bwrw Golwg: Hanes rai o ifaciwîs Llanrwst yn fanna ar raglen Cofio. Ar Bwrw Golwg ar y 12fed o Dachwedd, mi roddwyd sylw i Diwali neu Ŵyl y Goleuni, sy’n cael ei dathlu gan Hindŵiaid a Sikhiaid. Yn y clip nesa ‘ma mae Mohini Gupta, sydd wedi dysgu Cymraeg, yn sôn am draddodiadau’r Ŵyl hon efo Gwenfair Griffith: Goleuni Light Traddodiadau Traditions Addurno To decorate Gweddïau Prayers Buddugoliaeth Victory Tywyllwch Darkness Gwahodd ffyniant Inviting prosperity Pryder amgylcheddol Environmental concern Ymdrechion i annog Efforts to encourage Melysion Confectionary Byrbrydau Snacks Clip 4 Rhaglen Aled Hughes: Mae’n swnio fel bod dathliadau Diwali yn llawn o fwyd blasus yn tydy? DJ Katie Owen oedd gwestai Aled Hughes yn ddiweddar. Mae Katie wedi dilyn Cymdeithas Bêl-Droed Cymru ar draws y byd yn chwarae cerddoriaeth i’r cefnogwyr, ac mae hi wedi dysgu Cymraeg. Buodd Katie ar y rhaglen Iaith ar Daith efo’i mentor Huw Stephens yn 2021. Mi gafodd Aled â Katie sgwrs yng Nghanolfan Iaith Genedlaethol Nant Gwrtheyrn, ac yn y clip hwn mae hi’n sôn am gymaint mae hi’n caru dysgu Cymraeg: Cymdeithas Bêl-Droed Cymru Football Association of Wales Cefnogwyr Fans Mo’yn Eisiau Cerddoriaeth Music Ar goll Lost Mi ddylet ti fod You should be Clip 5 Rhaglen Caryl: Dal Ati Katie, mi fyddi di’n rhugl cyn bo hir, dw i’n siŵr. Lowri Cêt oedd yn cadw cwmni i Caryl ddechrau’r wythnos diwetha. Mae Lowri yn chwarae rhan Sindarela ym mhantomeim blynyddol Theatr Fach Llangefni. Yma mae’n dweud mwy am y sioe: Stori draddodiadol Traditional story Llysfam gas Wicked stepmother Annifyr Unpleasant Yn gyfarwydd â Familiar with Hyll Ugly Gwisgoedd Costumes Cymeriadau Characters Yn brin iawn Very rarely Hawlfraint Copyright Clip 6 Bore Cothi: Wel am hwyl ynde? A phob lwc i griw Theatr Fach Llangefni efo’r pantomeim. Bob nos Fawrth mae’r rhaglen Gwesty Aduniad i’w gweld ar S4C. Mae’r rhaglen yn trefnu aduniad i bobl sydd wedi colli cysylltiad â’i gilydd ond hefyd yn trenu i bobl gyfarfod â’i gilydd am y tro cynta mewn amgylchiadau arbennig. Mae’n gyfres boblogaidd ac emosiynol iawn. Nos Fawrth y 14eg o Dachwedd roedd Guto Williams o Dregarth ar y rhaglen. Mae Guto wedi cael ei fabwysiadu ac yn awyddus i ddod o hyd i’w deulu coll: Aduniad Reunion Mabwysiadu To adopt Adlewyrchiad Reflection Magwraeth Upbringing Rhieni maeth Foster parents Tebygolrwydd Similarity Cam mawr A big step Greddf Instinct Parch Respect Ffawd Lwc Clamp o stori A huge story
11/21/202316 minutes
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr Tachwedd y 14eg.

Clip 1: Bore Cothi Bore Llun y 6ed o Dachwedd, Mici Plwm oedd yn cadw cwmni i Shân Cothi. Gan ei bod hi’n dymor piclo a gwneud siytni, dyma gael sgwrs efo’r prif biclwr ei hunan. Yma mae Mici yn sôn am nionod brynodd o yn Roscoff, Llydaw, a sut mae o am eu piclo mewn cwrw: Nionod Winwns Llydaw Britanny Ar gyrion Ger Bragdai Breweries Arbrofi To experiment Eirin Plums Eirin tagu Sloes Hel Casglu Y werin The common people Byddigion Posh people Clip 2 – Rhaglen John ac Alun. Www, nionyn wedi ei biclo mewn cwrw, swnio’n ddiddorol yn tydy? Roedd ‘na barti mawr ar Raglen John ac Alun ar y 5ed o Dachwedd– parti penblwydd y rhaglen yn 25 oed! Ac mi ymunodd Dilwyn Morgan yn yr hwyl hefyd, a buodd hi’n gyfle i hel atgofion. Yma, mi gawn ni glywed clip o’r archif sef rhaglen gyntaf John ac Alun cafodd ei darlledu yn ôl yn Ebrill 1998: Hel atgofion Reminisce Darlledu To broadcast Dipyn o gamp Quite an achievement Para To last Cyflwyno Presenting Cynulleidfa Audience Wch chi be? You know what? Cefndir Background Clip 3: Dros Ginio John ac Alun yma o hyd, ac yn boblogaidd iawn gyda gwrandawyr Radio Cymru. Yn ddiweddar mae llawer mwy o bobl ifanc yn delio efo eco-bryder, sy’n cael ei achosi drwy boeni am effeithiau newid hinsawdd. Mae Fflur Pierce o Ddyffryn Nantlle yn un o’r rheini, a buodd hi’n sôn wrth Cennydd Davies wythnos diwetha am y profiad o fyw efo’r cyflwr hwn: Eco-bryder Eco anxiety Newid hinsawdd Climate change Cyflwr Condition Yn fengach Yn ifancach Baich A burden Teimlo’n euog Feeling guilty Rhwystredig Frustrating Gwyddonwyr Scientists Sbio Edrych Amgylchedd Environment Clip 4: Newid Hinsawdd a Fi Does na ddim llawer o fanteision i newid hinsawdd nac oes, ond mi glywon ni am un fantais ar y rhaglen Newid Hinsawdd a Fi bnawn Sul y 5ed o Dachwedd. Aeth Leisa Gwenllian draw i Winllan y Dyffryn ger Dinbych. Mae newid hinsawdd yn golygu ei bod yn bosib cynhyrchu gwin yn Nyffryn Clwyd hyd yn oed. Yma mae Leisa yn sgwrsio efo perchennog y winllan, Gwen Davies sydd wedi dysgu Cymraeg: Cynhyrchu To produce Perchennog Owner Gwinllannoedd Vineyards Cynnydd sylweddol A substantial increase Yn yr un gwynt In the same breath Gwinwydd Vine Arallgyfeirio Diversify Datblygu To develop Aeddfedu To mature Cysgodi To shelter Clip 5: Rhaglen Ifan Ia, mae na sawl gwinllan wedi agor yng Nghymru dros y blynyddoedd diwetha yn does? Er dw i ddim yn cofio clywed am un mor ogleddol a Gwinllan y Dyffryn chwaith. Pob lwc a iechyd da i holl gynhwychwyr gwin Cymreig! Yn ddiweddar ar raglen Ifan, tra bod Hana Medi yn cadw ei sedd yn gynnes, sgwrsiodd Hana gyda Cefin Evans o glwb Dyfed Dirt Bikes. Mae Cefin wedi teithio yr holl ffordd o Gymru i’r Ariannin i wylio cystadleuaeth arbennig iawn, un o brif gystadlaethau Enduro’r Byd, a hynny gan fod ei fab Rhys yn cystadlu yno ar ran y clwb: Ariannin Argentina Eang Wide Mas Allan Bola Bol Paratoi To prepare Tlodi Poverty Gwerthfawrogi To appreciate Clip 7 – Beti a’i Phobol Wel dyna brofiad gwych i glwb Dyfed Dirt Bikes ynde? Dw i’n siŵr eu bod wedi mwynhau pob eiliad o’r daith arbennig i’r Ariannin. Bronwen Lewis, y gantores, oedd gwestai Beti George nos Sul ddiwetha. Cafodd Bronwen ei magu ym Mlaendulais a daeth yn amlwg ar y gwefannau cymdeithasol yn ystod y cyfnod clo, wrth iddi hi ganu o’i chartref a rhannu’r perfformiad ar Facebook. Mi fuodd Branwen yn cystadlu ar raglen deledu The Voice yn y gorffennol ac mae’n cyflwyno rhaglen ar Radio Wales ar foreau Sul ar hyn o bryd: Amlwg Prominent Gwefannau cymdeithasol Social media Yr aelwyd The home Tad-cu Taid Ffili Methu Arweinydd Conductor Mas Allan
11/14/202317 minutes, 33 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr Tachwedd y 7fed 2023.

Clip 1 Rhaglen Trystan ac Emma: Ddydd Gwener Hydref 27, pan oedd hi bron yn Galan Gaeaf, ysbrydion oedd yn cael sylw ar raglen Trystan ac Emma. Mae Islwyn Owen yn Ysbrydegydd neu Spiritualist Medium, ac mae’n dweud bod ganddo’r gallu i gysylltu a derbyn negeseuon gan ysbrydion. Yn y clip nesa ‘ma mae o’n sôn am ysbrydion yn cysylltu efo fo drwy freuddwydion: Calan Gaeaf Halloween Ysbrydion Spirits Ysbrydegydd Spiritualist Medium Breuddwydion Dreams Cryn dipyn Quite a bit Arferol Usual Chwalu fy mhen Blew my mind Manwl Detailed Clip 6: Rhaglen Dros Ginio: Rhaglen arall fuodd yn trafod ysbrydion ond ar ddiwrnod Calan Gaeaf y tro hwn, oedd Dros Ginio. Dyma i chi Rheinallt Rees, cynhyrchydd y podlediad 'Ofn’, yn sôn wrth Jennifer Jones am ei brofiadau ysbrydol ei hun, a pham bod na fwy o ddiddordeb gan bobl yn y byd paranormal y dyddiau hyn ... Cynhyrchydd Producer Cyffwrdd To touch Unigryw Unique Canolbwyntio To concentrate Synau Sounds Awel Breeze Gwyddonol Scientific Ymennydd Brain Llwydni Mould Esboniadwy Explainable Yn ein plith ni Amongst us Clip 4 Rhaglen Aled Hughes: O mam bach, roedd yr holl sôn am ysbrydion yn ein paratoi ni’n dda at ddiwrnod Calan Gaeaf yn doedd? Ac ar y diwrnod hwnnw mi gafodd Aled Hughes sgwrs efo’r Dr Adam Coward sydd yn arbenigo mewn marciau gwrachod mewn tai. Mae Adam yn dod o Missouri yn wreiddiol, wedi dysgu Cymraeg, ac yn byw yn ardal Aberystwyth erbyn hyn. Dyma i chi ran o’r sgwrs lle mae Aled yn holi Adam lle basai rhywun yn dod o hyd i farc gwrachod a sut basai rhywun yn ei nabod: Gwrachod Witches Pren Wood Trawstiau Beams Ar bwys Wrth ymyl Amrywiol lefydd Various places Cuddio To hide Rhwymo To wrap Am wn i As far as I know Saer maen Stone mason Clip 5 Rhaglen Bore Cothi/ Heledd Cynwal yn cyflwyno: Wel dyna ddigon am wrachod ac ysbrydion, mae’n hen bryd i ni droi at rywbeth ysgafnach yn tydy? Bob nos Fercher ar S4C mae ail gyfres Gogglebocs Cymru i’w gweld am 9 o’r gloch. Buodd Heledd Cynwal yn cadw sedd Shân Cothi yn gynnes yn diweddar a chafodd hi sgwrs efo un o sêr y gyfres, sef Annaly Jones o Gaerfyrddin. Mae Annaly yn sôn yn y clip yma am gymaint mae hi’n mwynhau bod yn rhan o’r rhaglen: Ail gyfres Second series Ysfa A strong desire O’r dechrau’n deg From the very beginning Parchedig Reverand Ta beth Beth bynnag Wedi cydio Has caught on Ymateb Response Annog To encourage Clip 7: Rhaglen Rhys Mwyn: Mae Annaly wrth ei bodd efo’r gyfres yn amlwg, ac mae hi’n lot o sbort yn tydy? Ar raglen Rhys Mwyn nos Lun Hydref 30, mi fuodd Clare Potter o Gefn Fforest ger Caerffili, oedd yn Fardd y Mis Radio Cymru yn ystod mis Hydref, yn sgwrsio efo Rhys am ei chyfnod yn astudio llenyddiaeth Affro Caribïaidd yn New Orleans a Mississippi a dyma i chi flas ar y sgwrs: Llenyddiaeth Literature Dwlu ar Wrth fy modd efo Cymhariaeth Comparison Clip 8: Rhaglen Caryl: Clare Potter oedd honna’n sgwrsio efo Rhys Mwyn am lenyddiaeth Affro Caribïaidd. Nos Fawrth ddiwetha, Delyth Eirwyn, y cyn actores, ond sydd erbyn hyn yn Bennaeth Drama yn Ysgol Bro Morgannwg, oedd gwestai Caryl Parry Jones. Sôn am fwyd cysur oedd hi, ac yma mae’n trafod lobsgóws fel ei bwyd mwya cysurus pan oedd hi yn sâl: Cysur Comfort Cig eidion Beef Mor gysurus So comforting Trwchus Thick Maeth Nutrition Anwydog Full of cold Gwaith cnoi Chewy Taten A potato Cennin a phannas Leeks and parsnips Tewhau To thicken Blawd corn Cornflour
11/7/202317 minutes
Episode Artwork

Podlediad Pigion Dysgwyr Hydref 31ain 2023

Bob wythnos ar raglen Bore Cothi mae Shân yn sgwrsio efo gwesteion am eu Atgofion cynta. Ac yn y clip hwn mae Tara Bethan yn cofio am yr arogl cynta, ac mae’r arogl yma wedi gwneud dipyn o argraff arni hi: Atgofion Memories Arogl Smell Argraff Impression Chwyslyd Sweaty Dw i’n medru eu hogla fo I can smell it Cael fy ngwarchod Being looked after Golygu’r byd Means the world Delwedd Image Carco To take care of Tara Bethan yn fanna yn cofio aroglau chwyslyd y reslars! Fel rhan o Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg mae Aled Hughes wedi gwirfoddoli i gymryd rhan yng nghynllun Siarad y Ganolfan Dysgu Cymraeg. Yn ddiweddar mi gafodd ei sgwrs gyntaf gyda’i bartner dysgu, sef Chloe Edwards, sy’n byw ym Mhenmaenmawr ond sydd yn wreiddiol o Cryw. Dyma Chloe yn sôn am sut daeth hi i ddysgu Cymraeg yn y lle cyntaf: Gwirfoddoli Volunteering Unrhyw gysylltiad Any connection Ymwybodol Aware Gwatsiad Gwylio Anhygoel Incredible Wel mae Aled wedi cael partner Siarad diddorol iawn yn Chloe yn tydy o? Francesca Sciarrillo oedd gwestai Ffion Emyr, hi oedd enillydd Medal y Dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a’r Fro yn 2019. Cafodd Francesca ei magu yn Sir y Fflint, ond Eidalwyr ydy ei theulu hi. Mi ddysgodd Francesca Gymraeg fel oedolyn ac erbyn hyn mae hi’n ac yn gweithio i Gyngor Llyfrau Cymru, yn hyrwyddo darllen i blant a phobol ifanc. Hyrwyddo To promote Wastad Always Parchu penderfyniad Respect the decision Cymuned Community Diolchgar Thankful Mor raenus So polished Heriol Challenging Gwerthfawr Valuable Ac mae Francesca yn gweithio’n rhan amser erbyn hyn fel tiwtor Cymraeg i Oedolion. Yr actores Mali Ann Rees oedd gwestai Beti George wythnos diwetha. Pan oedd hi’n 17 oed mi fuodd hi’n fyfyrwraig mewn Coleg yn India am ddwy flynedd yn astudio bagloriaeth rhyngwladol. Mae Mali yn un o’r actoresau mwya enwog Cymru ac wedi actio yn Craith, The Tourist Trap a The Pact. Mae hi hefyd yn un o dair sy’n cyfrannu i’r podlediad wythnosol, Mel Mal a Jal, sef tair Cymraes siaradus. Yn y clip hwn mae Mali yn trafod y profiad o hiliaeth gafodd yn yr ysgol ac yn India: Hiliaeth Racism Bagloriaeth rhyngwladol International Baccalourate Beirniadaeth Critisism Hunaniaeth Identity Hiliol Racist Chwerthin To laugh Trin To treat Gwerthfawr Valuable Mali Ann Rees oedd honna’n sôn am brofiadau o hiliaeth annifyr iawn gafodd hi yn yr Ysgol ac yn y coleg. Nos Lun y 23ain o Hydref Marci G oedd yn sedd Caryl Parry Jones ac mi gafodd o gwmni Sian Elin Thomas oedd yn sôn am ddathliadau penblwydd Aelwyd Crymych yn 80 oed. Mae Sian wedi bod yn aelod ei hun am nifer o flynyddoedd ac yn y clip mi wnewch chi ei chlywed yn egluro beth yn union ydy Aelwyd yr Urdd... Aelod Member Cefnogol Supportive Traddodiad Tradition Arwain Leading Dathliad A celebration Llywydd anrhydeddus Honorary President Arddangosfa Exibition Lluniaeth Refreshments A penblwydd hapus i Aelwyd Crymych a gobeithio i chi ddathlu mewn steil ynde? Nos Fawrth ddiwetha ar raglen Georgia Ruth, roedd Glyn ac Ellis o’r band Mellt yn cadw cwmni iddi hi. Roedden nhw wedi dod adra i Aberystwyth i ymweld â rhai o’r lleoliadau oedd yn bwysig iddyn nhw fel band, gan gynnwys y sied yng ngwaelod gardd tŷ Glyn lle buon nhw’n recordio. Yn y clip hwn mae Glyn yn sôn wrth Georgia am bwysigrwydd geiriau eu caneuon, a’r defnydd o Gymraeg naturiol, bob-dydd: Lleoliadau Locations Cymhleth Complicated Denu mewn To draw in Pert Pretty Sa i’n gwybod Dw i ddim yn gwybod
10/31/202315 minutes, 44 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr Hydref yr 24ain 2023

Siw Hardson Ar raglen Trystan ac Emma roedd Siw Harston, sy’n dod o Landeilo yn wreiddiol ond sydd nawr yn byw yn Surrey, yn sgwrsio am y siaradwyr Cymraeg mae hi wedi dod ar eu traws dros y blynyddoedd, ym mhob rhan o’r byd: Anhygoel Incredible Cynhesrwydd i’r enaid Warmth for the soul Y tu hwnt i Beyond Rogue Jones Does ots ble fyddwch chi, dych chi’n siŵr o glywed y Gymraeg, on’d dych chi? Buodd Mari Grug yn holi Bethan Mai o’r band Rogue Jones, ar raglen Ffion Dafis yn ddiweddar, hyn ar ôl iddyn nhw ennill Gwobr Gerddoriaeth Gymreig, nos Fawrth y 10fed o Hydref. Dyma i chi flas ar y sgwrs: Gwobr Gerddoriaeth Gymreig Welsh Music Prize Sylw Attention Llafur cariad Labour of love Yn ariannol Financially Gwefreiddiol Thrilling Cyfweliadau Interviews Ffydd Faith Llinach Pedigree Rhyfedd Strange Toddi To melt Jenny Adams A llongyfarchiadau mawr i Rogue Jones, yn llawn haeddu’r wobr. Roedd hi’n Wythnos y Dysgwyr wythnos ddiwethaf ar Radio Cymru a Heledd Cynwal oedd yn sedd Shan Cothi fore Llun Hydref 16, a chafodd hi sgwrs gyda Jenny Adams, sy’n dod o Surrey yn wreiddiol, ond sy’n byw ym Machen, ger Caerffili ar hyn o bryd: Yn llawn haeddu Wholly deserving Cyfathrebu Communicate Swyddogol Official Profiad Experience Codi hyder To raise confidence Disney Jenny Adams oedd honna – un o’r nifer fawr o ddysgwyr y Gymraeg glywon ni ar Radio Cymru yn ddiweddar. Ddydd Llun rhoddodd Dros Ginio sylw i’r ffaith bod cwmni Disney yn 100 oed, a Catrin Heledd fuodd yn holi’r Dr Elain Price sy’n darlithio ar ffilm a theledu, am ddylanwad y cwmni ar y byd ffilmiau dros y blynyddoedd: Darlithio To lecture Dal dychymyg To catch the imaginagion Yn ddiweddarach Later on Cydamseru Synchronize Arloesi To innovate Wrth wraidd At the root of Dyfeisio To invent Bodoli To exist Addasu To adapt Cyfarwydd Familiar Tybio To suppose Mai Lloyd Dr Elain Price yn fanna yn rhoi ychydig o hanes cwmni Disney i ni. Fore Mawrth wythnos ddiwethaf ar raglen Aled Hughes, Mai Lloyd o Aberteifi oedd yn edrych yn ôl ar ei hamser yn Trinidad a Tobago dros yr haf, yn cystadlu efo’r ddisgen yng Ngemau Ieuenctid y Gymanwlad: Disgen Discus Y Gymanwlad The Commonwealth Uchafbwyntiau Highlights Pobl hŷn Older people Gareth Wyn Jones A dw i’n siŵr byddwn ni clywed llawer iawn mwy am Mai yn y dyfodol, a hithau’n amlwg wedi mwynhau’r cystadlu. Gwestai Ifan Jones Evans yn y clip nesa yw ffermwr mwya enwog Cymru, sef Gareth Wyn Jones. Mae ganddo ddilyniant mawr ar y cyfryngau cymdeithasol. Yn ddiweddar, mae wedi croesi carreg filltir anferth ac wedi cyrraedd miliwn o danysgrifwyr ar ei sianel You Tube: Dilyniant Following Cyfryngau cymdeithasol Social media Carreg filltir anferth Huge milestone Tanysgrifwyr Subscribers Diwydiant amaeth Agricultural industry Ymdopi To cope
10/24/202313 minutes, 8 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr Hydref yr 17eg 2023

Pigion Dysgwyr – Peris Hatton Mae Peris Hatton newydd gyhoeddi llyfr ar gasglu crysau pêl-droed o wahanol gyfnodau. Enw’r llyfr yw “The Shirt Hunter”. Mae e wedi bod yn casglu ers dros dau ddeg pum mlynedd….dyma fe i sôn mwy am yr obsesiwn ar raglen Aled Hughes. Newydd gyhoeddi Just published Cyfnodau Periods of time Ddaru Wnaeth Poblogaidd Popular Oddeutu Tua Mwydro To bewilder Newydd sbon Brand new Offer Equipment Pigion Dysgwyr – Jane Blank Peris Hatton oedd hwnna’n sôn am ei obsesiwn gyda chrysau pêl-droed. Ar BBC Sounds ar hyn o bryd mae’r awdures Jane Blank yn sôn am hanes ei theulu mewn cyfres o’r enw “Fy Achau Cymraeg”. Roedd hi ar raglen Shan Cothi wythnos diwetha i sôn ychydig am ei theulu. Dyma i chi flas ar y sgwrs... Cyfres Series Achau Lineage Mamgu a tad-cu Nain a taid Ambell i deulu Some families Chwant Desire Tyrchu’n ddwfn To dig deep Pigion Dysgwyr – Beti George Ewch i BBC Sounds os ydych chi eisiau clywed rhagor o’r sgwrs ddifyr honno. Ers bron i bedwar deg mlynedd mae Beti George wedi cyflwyno Beti a’i Phobol. A hi oedd gwestai gwadd Shelley a Rhydian yn ddiweddar ar eu rhaglen Sadwrn. Dyma Beti i esbonio ychydig am gefndir y rhaglen wythnosol mae hi’n ei chyflwyno Yn ddiweddar Recently Bodlon Willing Enghraifft berffaith A perfect example Hyn a’r llall This and that Croesawu To welcome Dwys Intense Pigion Dysgwyr – Ifan Huw Dafydd Ac mae Beti wastad yn neis on’d yw hi, ac yn cael sgyrsiau diddorol gyda’i gwestai. Yn ddiweddar buodd yr actor Ifan Huw Dafydd ar daith gerdded Llwybr y Pererinion sef y Camino Frances, i Santiago de Compostela yn Sbaen. Roedd e’n codi arian i elusen Jac Lewis. Mae elusen Jac Lewis yn cefnogi lles meddwl pobl ifanc ac yn cynnig help i’w teuluoedd... Dyma Ifan Huw Dafydd ar raglen Ifan Jones Evans yr wythnos diwetha yn rhannu ambell i stori o’r daith. Pererinion Pilgrims Elusen Charities Lles meddwl Mental welfare Traddodiad Tradition Bys troed Toe Crwtyn Bachgen Anhygoel Incredible Llwch Ashes Gwasgaru Scatter Pigion Dysgwyr – Heledd Garddio Llongyfarchiadau mawr i Ifan Huw Dafydd am lwyddo i wneud y daith arbennig hon, ac roedd cwmni diddorol iawn ganddo ar y ffordd on’d oedd? Weithiau mae ‘Heledd Garddio’ yn cyfrannu at raglen Caryl Parry Jones i rannu ei chyfrinachau garddio gyda Caryl a’r gwrandawyr. Ond wythnos diwetha rhannodd Heledd gyfrinach wahanol iawn gyda Caryl sef beth fasai ei pharti delfrydol hi…… Cyfrannu To contribute Cyfrinachau Secrets Delfrydol Ideal Crybwyll To mention Plentynaidd Childish Sa i di meddwl Dw i ddim wedi meddwl Pigion Dysgwyr – Awduron Mae parti Heledd yn swnio’n llawer o hwyl on’d yw e? Mae awduron plant ar draws Prydain wedi cyfarfod yn Abertawe yn ddiweddar i gynnal sesiynau storïau ac awduro. Dau oedd yno oedd y gŵr a’r wraig Thomas Docherty a Helen o Abertawe. Maen nhw hefyd wedi dysgu Cymraeg i lefel uchel iawn. Dyma nhw ar raglen Ffion Dafis i sôn am eu gwaith…. Awduro Authoring Amser maith yn ôl A long time ago Antur Adventure Cyfleoedd Opportunities Pe byddai rhywun Tasai rhywun Dwlu ar Wrth ei bodd efo Mamiaith Mother tongue
10/17/202311 minutes, 30 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr Hydref 10fed 2023

Pigion Dysgwyr – Ellis Massarelli Mae Ellis Massarelli yn organydd ifanc ac yn feistr ar yr offeryn. Fore Mercher diwetha cafodd Ellis air gyda Shan Cothi ar ei rhaglen, gan esbonio iddi hi ble yn union buodd e’n chwarae’r organ ar hyd y blynyddoedd. Offeryn Instrument Cadeirlan Cathedral Tŷ Ddewi St David‘s Prif organydd Chief organist Dirgrynu Vibrating Datsain Echo Pigion Dysgwyr – Richard Holt Ellis Massarelli oedd hwnna a dw i’n siwr bod dyfodol disglair i’r organydd ifanc. Mae stori Richard Holt, y cogydd a'r gŵr busnes o Ynys Môn, yn un ddiddorol iawn. Buodd e’n gweithio i’r cogydd enwog Marcus Wareing yn Llundain cyn mynd i’r y Llu Awyr i fod yn beilot, ond doedd ganddo mo’r arian i dalu am yr hyfforddiant i hedfan awyren. Erbyn hyn mae e’n rhedeg busnes teisennau, siocled a gin llwyddiannus yn Melin Llynon yn Llanddeusant ar Ynys Môn, ac yn mwynhau cyflwyno Yr Academi Felys ar S4C. Dyma fe’n rhoi hanes cael les Melin Llynon ar Beti a’i Phobol... Disglair Bright Melin Mill Llu awyr Airforce Digwydd bod As it happens Ceisiadau Applications Hyrwyddo To promote Colled A loss Dim rhyfedd No surprise Cau cymryd Refusing to take Pigion Dysgwyr – Elan Davies Felly os oes dant melys gyda chi, Melin Llynon ar Ynys Môn yw’r lle i fynd. Mae’r actores Elan Davies newydd ennill y brif wobr yn The Stage Debut Awards yn ddiweddar. Roedd Elan yn chwarae rhan Laura yng nghynhyrchiad diweddar Cwmni’r Frân Wen a Sherman Cymru o’r ddrama Imrie. A dyma Elan ar Dros Frecwast fore Mawrth i sôn mwy am y ddrama… Cynhyrchiad Production Yn ddiweddar Recently Y brif wobr The main award Dynol Human Arallfydol Otherworldly Darganfod To discover Llwyfan Stage Diwydiant Industry Ehangach Wider Pigion Dysgwyr – Neud Dim Deud A llongyfarchiadau, on’d ife, i Elan am ennill y wobr bwysig honno. Ar BBC Sounds ar hyn o bryd mae’r awdur Llwyd Owen yn ein harwain ni ar daith drwy hanes Hip-Hop a Rap Cymraeg. Teitl y rhaglen yw Neud nid Deud, a dyma glip o Llwyd Owen yn sôn am sut daeth e ar draws Hip-Hop a Rap am y tro cyn-taf….. Y Brifwyl Yr Eisteddfod Genedlaethol O bob cwr From every corner Unigolion Individuals Rhan allweddol A key part Yn ddiarwybod Unknowing Argraffadwy Impressionable Curiadau a chwpledi Beats and couplets Cynhyrchu To produce Pigion Dysgwyr – Chroma Arhoswn ni gyda’r byd miwsig modern yn y clip nesa yma, ond nid hip hop y tro yma ond roc trwm. Band tri darn o Bontypridd yw Chroma ac maen nhw ar fin rhyddhau eu halbwm newydd, a nhw oedd gwestai gwadd rhaglen Shelley a Rhydian. Dyma Katie, lleisydd y band, i sôn mwy am gyfle arbennig caeth y band i gefnogi un o grwpiau mawr yr Unol Daleithiau Ar fin rhyddhau About to release Lleisydd Vocalist Cyhoeddi’r Eisteddfod Proclaiming the Eisteddfod Manceinion Manchester Diolchgar Thankful Anhygoel Incredible Pigion Dysgwyr – Retro Foo Fighters! Mae’n dipyn o gamp i Chroma gael rannu gig gyda nhw on’d yw hi? Mae Yvonne Holder yn prynu a gwerthu gwrthrychau a chynnyrch Retro. Dych chi’n cofio y Tamagotchi oedd yn boblogaidd iawn tua trideg mlynedd yn ôl? Wel dyma Yvonne i sôn mwy amdanyn nhw gydag Aled Hughes ar ei raglen ddechrau wythnos diwetha. Gwrthrychau a chynnyrch Objects and products Bwydo To feed Cyflwr Condition Credi di byth You’ll never believe Enghreifftiau prinnaf The rarest examples Prinder Scarcity Dymunol Desirable
10/10/202313 minutes, 10 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr Hydref 3ydd 2023

Pigion Dysgwyr – Heather Jones Mae’r tri chlip cynta i gyd am bobl amlwg sy wedi dysgu Cymraeg, a beth am i ni gychwyn gyda’r gantores Heather Jones? Yn yr ysgol dysgodd Heather Gymraeg yn ail iaith, ond buodd hi’n perfformio a recordio yn y Gymraeg am flynyddoedd maith. Mae Heather newydd gyhoeddi ei bod hi wedi canu’n fyw am y tro ola ac ar Bore Cothi esboniodd hi wrth Shan Cothi sut dechreuodd ei gyrfa ym myd canu Amlwg Prominent Cyhoeddi Announce Ymennydd Brain Yn gyfangwbl Completely Tinc Tone Pigion Dysgwyr – Johnny Tudor Mae’n rhyfedd meddwl na fyddwn yn clywed llais Heather Jones ar lwyfannau Cymru eto on’d yw hi? Dysgu Cymraeg fel oedolyn ar gwrs Wlpan yng Nghaerdydd wnaeth y diddanwr, y dawnsiwr a’r canwr Johnny Tudor, ac roedd e’n dathlu 60 mlynedd ym myd adloniant eleni. Ar gyfer rhaglen Ffion Dafis bnawn Sul, aeth Lily Beau draw i gartre Johnny i’w holi. Dyma fe gydag un stori fach o’i yrfa... Diddanwr Entertainer Dynwared To impersonate Llwyfan Stage Pigion Dysgwyr – Dinbych y Pysgod A dw i’n siŵr bod gan Johnny lawer iawn o straeon difyr eraill o’i yrfa hir ym myd adloniant. Mae Jo Heyde wedi dysgu Cymraeg ac yn byw yn Ninbych y Pysgod erbyn hyn. Mae hi’n fardd, yn barddoni yn Gymraeg, ac wedi ennill cadair am ei barddoniaeth. Nos Fawrth diwetha ar raglen Caryl esboniodd Jo pam daeth hi i fyw i dde Sir Benfro yn y lle cyntaf…… Dinbych y Pysgod Tenby Bardd Poet Hala Treulio Dim syndod No surprise Yn syth bin Straight away Unigryw Unique Haenau Layers Tirwedd Landscape Llanw Tide Cyfnewidiol Changeable Awen Muse Pigion Dysgwyr – Lliw Ddall Wel dyna i chi dri sy wedi dysgu Cymraeg yn wych, ac sydd wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr i’r byd Cymraeg. Diolch Heather, Johnny a Jo. Mae Owen Jones o Gaerdydd yn un o’r 1 o bob 12 dyn sydd yn lliwddall, ond yn ôl gwyddonwyr dim ond 1 o bob 200 o ferched sy‘n lliwddall ac mae Bethan Rhys Roberts yn un ohonyn nhw. Ar gyfer Bore Sul yr wythnos diwetha trïodd Owen a Bethan sbectolau arbennig sydd i fod i gywiro eu golwg...dyma sut aeth pethau …. Cyfraniad gwerthfawr A valuable contribution Lliwddall Colour blind Yn ôl According to Gwyddonwyr Scientists Cywiro eu golwg Correct their eyesight Llachar Bright Sefyll mas To stand out Cyfoethog Rich(colour) Ffug Fake Pigion Dysgwyr – 1973 Wel newyddion da i‘r rhai sy’n lliwddall on’d ife – mae’n debyg bod y sbectol newydd yn gweithio! Mae’r flwyddyn 1973 yn cael ei gyfri’n flwyddyn arbennig ym myd gwneud ffilmiau. Ond beth oedd mor arbennig am y flwyddyn honno? Cafodd Dion Wyn sgwrs gydag Owain Llyr ar Dros Ginio yr wythnos diwetha i esbonio mwy….. Cyfnod Period of time Hogiau Bechgyn Tywyll Dark Agwedd Attitude Eithafol Extreme Naws Mood Anhygoel Incredible Pigion Dysgwyr – Max Boyce Dion Wyn ac Owain Llyr oedd y rheina’n sgwrsio am pa mor bwysig oedd 1973 i fyd y ffilmiau. Ddydd Mercher diwetha roedd y canwr a’r diddanwr Max Boyce o Lyn Nedd yn dathlu ei ben-blwydd yn 80 oed. Mae Max wedi bod yn diddanu pobl Cymru ac ar draws y byd ers diwedd y 60au. Cafodd Aled Hughes gyfle i holi Jed O’Riley o Glwb Rygbi Glyn Nedd sy’n ei adnabod e’n dda…. Cymuned Community Sgwrs ddifyr An interesting conversation Ymwybodol Aware Pwysigrwydd Importance
10/3/202312 minutes, 19 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr Medi'r 26ain 2023

Pigion Dysgwyr – Y Wladfa Mae Llinos Howells o Ferthyr Tudful yn gweithio ar hyn o bryd yn y Wladfa, sef y rhan o‘r Ariannin ble mae siaradwyr Cymraeg yn byw. Yn ei gwaith bob dydd mae hi‘n dysgu Cymraeg i blant yr ysgolion lleol. Wythnos diwetha cafodd Aled Hughes gyfle i sgwrsio gyda hi i weld sut mae pethau‘n mynd hyd yn hyn... Yr Ariannin Argentina Union fis A month exactly Rhagbrofion Preliminary competition Llefaru Reciting Braint o feirniadu The honour of adjudicating Deng mlynedd ar hugain 30 years Cyngerdd mawreddog A grand concert Croesawgar Welcoming Twymgalon Warm-hearted Pigion Dysgwyr – Ann Evans Llinos Howells oedd honna’n brysur iawn yn y Wladfa, ond i weld yn mwynhau bob eiliad. Merch arall o Ferthyr sydd yn y clip nesa - Ann Evans, dorrodd record Cymru i ferched dros 65 oed yn Hanner Marathon Casnewydd fis Mawrth diwetha, ond sydd erbyn hyn wedi cyflawni camp arall. Bythefnos yn ôl roedd hi yn Kenya yn cymryd rhan mewn ras barodd bump o ddiwrnodau drwy ardaloedd cadwraeth y wlad. Roedd rhaid rhedeg 30 milltir y dydd mewn tywydd poeth iawn. Dyma hi‘n sgwrsio gyda Alun Thomas ar Bore Sul ac yn sôn am un digwyddiad arbennig ar y daith…… Tu fas i Tu allan i Cyflawni camp To fulfil an achievement Ardaloedd cadwraeth Conservation areas Heol (hewl) Ffordd Eiddo Possessions Perchen Ownership Dwyn To steal Gofidus Worried Rhydd Loose Dros y dibyn Over the precipice Pigion Dysgwyr – Karen Wynne Mae merched Merthyr yn hoff iawn o antur on’d dyn nhw? Ac roedd hi’n dipyn o antur i’r actores Karen Wynne yn ddiweddar wrth iddi hi gael ei derbyn i’r Cylch Hud. Dyma Karen ar raglen Bore Cothi wythnos diwetha yn sôn wrth Shan am y broses o gael eich derbyn i’r cylch arbennig hwn……. Cylch Hud Magic Circle Mynd amdani Going for it Syth bin bot Straight away Digwydd bod Happened to be Hanu Deriving from Sêl bendith Seal of approval Gweinidog Minister Hud a lledrith Magic Honni To claim Arallfydol Otherworldly Pigion Dysgwyr – Hafodwennog Basai’r gair ‘hudolus’, falle, yn un gair i ddisgrifio taith Aelwyd Urdd Hafodwennog i Ffrainc. Mae’r aelwyd yn y wlad fel rhan o ymgyrch Cymru yng Nghwpan Rygbi’r Byd. Cafodd Ifan Evans gwmni Gwenan Evans a Dai Baker o’r Aelwyd ar ei raglen yr wythnos diwetha i sôn mwy am daith... Hudolus Magical Ymgyrch Campaign Swmpus Substantial Arweinyddion cyfrifol Responsible leaders Gweithdai Workshops Cytgan Refrain Pigion Dysgwyr – Gwion Clarke A dw i’n siŵr bod aelodau’r Aelwyd wedi ysbrydoli cefnogwyr Cymru yn ystod y gêm bwysig honno yn erbyn Awstralia yn Lyon. Nos Fawrth diwetha cafodd Caryl Parry Jones sgwrs gyda Gwion Clarke o Gaernarfon. Mae Gwion yn sgriptio darnau comedi ac yn gomedïwr ei hun, a dyma fe’n sôn wrth Caryl am sut dechreuodd e yn y maes……. Ysbrydoli To inspire Testunau List of competitions Creadigol Creative Edmygu brwdfrydedd Admire the enthusiasm Buddugol Successful Doniol Funny Deunydd Material Llifo To flow Difrifol iawn Very serious Tawelwch Silence Pigion Dysgwyr – John Shaw A phob lwc i Gwion gyda’r gigs on’d ife? Ar Dros Frecwast fore Mercher clywon ni lais John Shaw. Mae John yn byw yn Utah ond roedd ei deulu’n dod Gymru yn wreiddiol. Alun Thomas aeth draw i Ysgol Llangynwyd ger Maesteg i weld John ar ei ymweliad cynta â gwlad ei gyn-deidiau Cyndeidiau Forefathers Gwyddonydd coedwig Forestry scientist Gweddill The rest of Annerch To address Troedio llwybrau Treading the paths Y bedwaredd ganrif ar bymtheg 19th century Cysylltiad Connection Degawdau Decades Bedyddwyr Baptist Emyn Hymn
9/26/20233 minutes, 34 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr Medi'r 19eg 2023

Pigion Dysgwyr – Podlediad I Fyfyrwyr Bore Llun diwetha cafodd Aled Hughes sgwrs ar ei raglen gyda Cerith Rhys-Jones a Steffan Alun Leonard. Mae’r ddau wedi rhyddhau podlediad newydd o’r enw 'Sgwrsio am Brifysgol' sy'n rhoi blas i ddarpar-fyfyrwyr ar beth yw bywyd coleg, gyda phrofiadau myfyrwyr go iawn. Rhyddhau To release Darpar-fyfyrwyr Prospective students Rhannu profiadau Sharing experiences Gwerthfawr Valuable Cyflwyno To present Teimlo’n gartrefol Feeling at home I ryw raddau To some extent Yn gwmws Yn union Rhinwedd Merit Mewnwelediad Insight Trawstoriad eang A wide cross-section Pigion Dysgwyr – Tomatos Podlediad gwerthfawr iawn ac amserol hefyd gyda chymaint o fyfyrwyr yn cychwyn ar eu taith brifysgol yn ystod y mis hwn. Ychydig wythnosau yn ôl ar Pigion clywon ni sgwrs rhwng Adam Jones sef Adam yn yr Ardd a Shan Cothi. Rhoddodd Adam her i Shan i dyfu tomatos ac adrodd yn ôl ar ddiwedd yr haf ar sut aeth pethau. Dyma ddarn o’r sgwrs gafodd y ddau wythnos diwetha…. Her A challenge Teimlo fel oes Feels like ages Crasboeth Scorched Yn y cnawd In the flesh Awdurdod Authority Pencampwyr Champions Carotsen Moronen Llawn cystal Just as good Iseldiroedd Netherlands Chwerw Bitter Pigion Dysgwyr – Fflemeg Wel pwy fasai’n meddwl mai rhywun o’r Iseldiroedd sy’n gyfrifon am liw oren moron, on’d ife! Iseldireg wrth gwrs yw iaith y wlad honno, ond mae hi hefyd yn cael ei siarad mewn rhan o Wlad Belg sef Fflandrys. Ac yn Fflandrys yn ddiweddar mae'r Gweinidog Addysg wedi cyhoeddi cynlluniau i wneud Iseldireg yn unig iaith yr iard ysgol. Mae’r Dr Guto Rhys, yn byw ac yn magu ei blant yn Fflandrys a dyma fe i esbonio mwy am y sefyllfa ar Dros Ginio bnawn Mawrth…… Cenhedlaeth Generation Tafodieithoedd Dialects Cymhleth Complicated Pryder A concern Gorfodi To compel Tybio To presume Anniddigrwydd Discontent Anghyfleus Inconvenient Iaith leiafrifol Minority language Iaith rymus A powerful language Pigion Dysgwyr – Bethan Rhys Roberts Hanes sefyllfa gymhleth ieithoedd Gwlad Belg yn fanna gan Dr Guto Rhys. Mae’n wythnos a hanner bellach ers i ddaeargryn nerthol daro dinas Marrakech ac ardaloedd cyfagos. Un oedd yn y ddinas ar y pryd oedd Bethan Rhys Roberts, un o newyddiadurwyr BBC Cymru. Dyma hi ar raglen Bore Sul yn esbonio beth ddigwyddodd ar yr union eiliad pan darodd y daeargryn…… Daeargryn nerthol A powerful earthquake Hynafol Ancient Strydoedd culion Narrow streets Sŵn byddarol A deafening noise Dychrynllyd Frightening Ymgynnull To congregate Llafnau Slabs Dymchwel To collapse Sgrialu Scrambling Anhrefn Disarray Yn reddfol Instinctively Pigion Dysgwyr – La Liga Ac yn drist iawn wrth gwrs buodd miloedd o bobl farw ym Morocco yn dilyn y daeargryn. Bethan Rhys Roberts yn fanna yn rhoi syniad i ni o’r sefyllfa ddychrynllyd ym Marrakesh. Mae tîm pêl-droed pentre Llanfairpwll ar Ynys Môn wedi cael noddwyr newydd ar gyfer y tymor newydd. Mi fydd enw’r gynghrair Sbaenaidd - LaLiga - ar flaen crysau'r chwaraewyr eleni. Ie wir, darn o España ar dir Ynys Môn. Hannah Thomas ydy ysgrifennydd y tîm, a dyma hi i esbonio mwy ar Dros Frecwast fore Mercher Noddwyr Sponsors Ysgrifennydd Secretary Yn raddol Gradually Pwyllgor Committee Manteision Advantages Hogia Bechgyn Diolchgar Thankful Denu To attract Pigion Dysgwyr – Clwb Ifor Bach Wel dyna ni, tybed fyddwn ni’n gweld Llanfairpwll yn chwarae yn erbyn Barcelona neu Real Madrid yn y dyfodol! Dych chi wedi ymweld â Chlwb Ifor Bach yng Nghaerdydd erioed? Sefydlwyd y clwb bedwar deg o flynyddoedd yn ôl er mwyn rhoi llwyfan i fandiau Cymraeg chwarae, a hefyd fel man ble gallai siaradwyr Cymraeg y Brifddinas ddod i gymdeithasu. Nos Sul darlledwyd rhaglen i nodi y garreg filltir bwysig, hon ac mae cyfle wrth gwrs i chi wrando ar y rhaglen gyfan ar BBC Sounds….. Llwyfan A stage Darlledwyd Was broadcast Carreg filltir Milestone Sylfaenwyr Founders Cyfeddach Companionship Hwb cymdeithasol Social hub Sefydliad Establishment Cynhyrchydd Producer Pigion Dysgwyr – Rhys Taylor Sefydliad arall oedd yn dathlu carreg filltir arbennig oedd Ysgol Gyfun Penweddig, Aberystwyth, a dathlu pumdeg o flynyddoedd ers ei sefydlu oedd yr ysgol hon. Cafodd y cerddor Rhys Taylor sgwrs gyda Caryl Parry Jones wythnos diwetha gan fod Rhys yn gyn-ddisgybl yr ysgol. Nos Sadwrn roedd e’n un oedd yn cymryd rhan mewn cyngerdd yn Nghanolfan y Celfyddydau y dre fel rhan o’r dathliadau Cerddor Musician Breintiedig Privileged Oes euraidd Golden age Preswyl Residential Cerddorfeydd Orchestras Brolio To boast T’mod Rwyt ti’n gwybod
9/19/202317 minutes, 9 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr Medi'r 12fed 2023

Pigion Dysgwyr - Gruffydd Vistrup Parry Mae Gruffydd Vistrup Parry yn byw yn Nenmarc sydd, yn ôl yr ystadegau, y wlad leia “stressful” yn Ewrob. Dyma Gruffydd i sôn mwy am y rhesymau symudodd e i’r wlad yn y lle cynta ar raglen Bore Cothi wythnos diwetha…. Ystadegau Statistics Calon Heart Ymchwil Research Perthynas Relationship Pigion Dysgwyr - Y Meddyg Rygbi Ac mae Gruffudd yn swnio’n hapus iawn gyda’i benderfyniad i symud i Ddenmarc on’d yw e? Dw i’n siŵr eich bod wedi sylwi bod Cwpan Rygbi’r Byd newydd ddechrau gyda’r gêm agoriadol rhwng Ffrainc a Seland Newydd. Mae Dewi Llwyd wedi bod yn dilyn Dr Gareth Jones, un o'r meddygon sy'n delio â'r nifer cynyddol o anafiadau ym myd rygbi. Enw’r rhaglen yw Y Meddyg Rygbi ac mae’r rhaglen gyfan i’w chlywed ar BBC Sounds wrth gwrs, ond dyma Gareth Jones yn sôn mwy am ei waith Nifer cynyddol Increasing number Fel petai So to say Sylweddoli To realise Curiad i’r pen Knock to the head Y Gweilch The Ospreys Pigion Dysgwyr – Angharad Jones Gobeithio na fydd Dr Gareth yn rhy brysur gydag anafiadau i’r pen yn ystod Cwpan y Byd on’d ife? Bore Mercher ar ei raglen, cafodd Aled Hughes gyfle i siarad ag Angharad Jones, sydd yn athrawes Gymraeg yn Ysgol Casgwent. Beth sy’n arbennig am Angharad yw ei bod hi wedi dysgu Cymraeg ei hunan a hynny mewn blwyddyn yn unig. Dyma hi i sôn mwy am ei siwrne i ddod yn siaradwr Cymraeg... Casgwent Chepstow Tad-cu Taid Sa i’n gallu Dw i ddim yn medru Trosglwyddo To transmit Yn gyfrifol am Responsible for Mo’yn Eisiau Dwyieithrwydd Bilingualism Dw i’n dyfalu I guess Her A challenge Pigion Dysgwyr – Mari Catrin Jones Gwych iawn Angharad, yn un o nifer o athrawon sy wedi dod yn rhugl yn y Gymraeg mewn blwyddyn, drwy ddilyn y Cwrs Sabothol. Mae’r Athro Mari Catrin Jones yn ddarlithydd ieithoedd ym Mhrifysgol Caergrawnt ac ar Raglen Dei Tomos wythnos diwetha clywon ni hi’n sôn am un o ieithoedd llai Ynysoedd Prydain sef iaith ynys Jersey, sydd ond ychydig filltiroedd wrth gwrs oddi ar arfordir Normandy yn Ffrainc. Darlithydd Lecturer Caergrawnt Cambridge Pedwaredd ganrif ar bymtheg 19th century Saesneg oedd ei piau hi English took over Ariangarwch Avarice Yn gwmws Yn union Yn raddol Gradually Y plwyf The parish Goresgyn To invade Alltudio To exile Pigion Dysgwyr – Y Drenewydd Diddorol on’d ife? A phob lwc i’r rhai sy’n ceisio ail-godi iaith Jersey. 24 awr yn…..yw slot achlysurol Caryl Parry Jones ar ei rhaglen gyda’r nos ble mae hi’n gwahodd person o dre neu bentre gwahanol i sôn am y lle a’r pethau sydd i’w gwneud yno. Tro Y Drenewydd oedd hi nos Fawrth a dyma Nelian Richards sy’n dod o’r dre i sôn mwy, gan ddechrau gydag un o ddynion enwog y dre sef Robert Owen….. Achlysurol Occasional Cefnog Cyfaethog Sefydlu To establish Gweithlu Workforce Diwygiwr cymdeithasol Social Reformer Pigion Dysgwyr – Eilyr Thomas Hanes un o enwogion y Drenewydd, Robert Owen yn fanna ar raglen Caryl Parry Jones. Cafodd Shan Cothi sgwrs gyda’r athrawes ganu Eilyr Thomas yr wythnos diwetha. Yn ystod ei gyrfa mae hi wedi hyfforddi cantorion enwog fel i Jessica Robinson a Trystan Llŷr Griffiths a llawer o rai eraill. Dyma hi i sôn am sut dechreuodd hi ei hunan ar ei gyrfa ym myd canu O ddifri Seriously Rhinweddau Merits Angerddol Passionate Ymroi To commit Datblygiad y llais The development of the voice Trueni Bechod Ymgodymu Tackling
9/12/202313 minutes, 57 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr Medi'r 5ed 2023

CERYS MATTHEWS YN HOLI… Roedd Dafydd Iwan yn dathlu ei ben-blwydd yn 80 oed ar Awst 24 a dydd Llun Gwyl y Banc roedd yna raglen arbennig i ddathlu bywyd Dafydd a Cerys Matthews oedd yn ei holi... Alawon Tunes Ystyried To consider Offerynnau Instruments Trefniadau Arrangements Cofnodi To record (in writing) Barddoniaeth Poetry Ddim llawer o bwys Dim llawer o ots Hen dad-cu Great grandfather Erw Acre Trosglwyddo To transmit BORE SUL …ie mae Dafydd Iwan yma o hyd – pen-blwydd hapus iawn Dafydd! Iwan Griffiths gafodd gwmni’r cyflwynydd a’r canwr clasurol Wynne Evans. Mae Wynne yn gallu dweud nawr ei fod yn gogydd enwog yn ogystal â chanwr gan ei fod wedi cyrraedd rowndiau cyn-derfynol y rhaglen deledu “Celebrity MasterChef” sy’n cael ei gyflwyno gan Gregg Wallace a John Torode… Cyflwynydd Presenter Y rowndiau cyn derfynol The semi finals Alla i ddychmygu I can imagine Ar waetha hynny In spite of that Beirniaid Judges Ieuenctid Youth Yr her anodda The most difficult challenge Yn glou Yn gyflym Fy hunllef My nightmare BETI A’I PHOBOL ..ac erbyn hyn mae Wynne wedi cyrraedd y rownd derfynol, a phob lwc iddo fe’r wythnos yma on’d ife? Elin Maher o Gasnewydd oedd gwestai Beti George yn ddiweddar. Mae wedi byw yn y ddinas ers 20 mlynedd ac mae hi wedi gweithio fel athrawes ac ymgynghorydd ym myd addysg ac nawr yn Gyfarwyddwr Rhieni dros Addysg Gymraeg. Mae hi wedi bod yn weithgar iawn yn sicrhau twf addysg Gymraeg yng Ngwent. Ymgynghorydd Consultant Cyfarwyddwr Director Agweddau Attitudes Ddim o reidrwydd Not necessarily O blaid In favour of Brwydr A battle Dealltwriaeth Understanding Heb os nac oni bai Without doubt Cael ei chydnabod Being acknowledged Diwylliant Culture FFION DAFIS Braf clywed bod agweddau tuag at y Gymraeg wedi gwella yng Ngwent on’d ife, diolch i bobl fel Elin Maher. Hanna Hopwood fuodd yn cadw sedd Ffion Dafis yn gynnes bnawn Sul. Buodd hi’n sgwrsio am raglen newydd i blant, Dreigiau Cadi, gyda’r cynhyrchydd Manon Jones. Roedd y bennod gynta ar S4C ddydd Mercher yn dangos anturiaethau y dreigiau bach drwg Bledd a Cef ar Reilffordd Talyllyn yng Ngwynedd… Cynhyrchydd Producer Pennod Episode Anturiaethau Adventures Dreigiau Dragons Y gyfres The series Gwirfoddolwyr Volunteers Delfrydol Ideal Rhaglennni dogfen Documentaries Fel petai As it were Golygfeydd Scenes BORE COTHI Bach o hanes Dreigiau Cadi yn fanna ar raglen Ffion Dafis. Caryl Parry Jones fuodd yn cadw sedd Shan Cothi yn gynnes ar raglen Bore Cothi a dyma i chi ran o sgwrs gaeth Caryl gyda Carol Garddio am dyfu perlysiau... Perlysiau Herbs Hyblyg Flexible Adnabyddus famous Trilliw Tricolour Deniadol Attractive Goresgyn To survive Llachar Bright Gwydn Tough IFAN JONES EVANS Digon o ‘tips’ ar dyfu perlysiau yn fanna gan Carol Garddio. Y gantores a’r cyflwynydd radio, Bronwen Lewis, oedd gwestai rhaglen Ifan Jones Evans yn sôn am ryddhau ei sengl diweddara, Un Dau Tri, ac yn sôn hefyd am pam dewisodd hi’r teitl yma i’r sengl. Rhyddhau To release Diweddara The most recent Brwdfrydedd Enthusiasm Cytgan Refrain Cynulleidfa Audience Moyn Eisiau
9/5/202316 minutes, 8 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr Awst 29ain 2023

Pigion Dysgwyr – Stacey Mae Shelley Rees a Rhydian Bowen Phillips wedi bod yn cadw sedd Emma Walford a Trystan Ellis Morris yn gynnes dros yr wythnosau diwetha ac yn ddiweddar caethon nhw air gydag un ddysgodd Gymraeg 25 mlynedd yn ôl. Stacey Blythe yw ei henw hi, mae hi’n storïwraig ac yn gerddor sy’n dod o Birmingham yn wreiddiol ond sy’n byw yng Nghaerdydd erbyn hyn... Storïwraig Storyteller (female) Cerddor Musician Tmod Ti’n gwybod Cyfansoddwraig Composer (female) Ceinciau Branches Bodoli To exist Enaid Soul Pigion Dysgwyr – Eiry Palfrey Stacey Blythe yn fanna yn dal yn frwd dros y Gymraeg ar ôl ei dysgu 25 mlynedd yn ôl. Mae llyfr newydd ei gyhoeddi gan Eiry Palfrey sy’n sôn am hanes a thraddodiad dawnsio gwerin yng Nghymru. Llwybrau’r Ddawns yw enw’r llyfr, a dyma Eiry yn sôn wrth Nia Parry, oedd yn cadw sedd Aled Hughes yn dwym yr wythnos diwetha, am gefndir cyhoeddi’r llyfr Brwd Enthusiastic Dogfen Document Cyfrifol Responsible Dow dow Very slowly Dallt y dalltings Knowing the ins and outs Hoelion wyth Eminent people Adfer To restore Aelwydydd Homes Pigion Dysgwyr – Dwyeithrwydd Bach o hanes dawnsio gwerin yng Nghymru yn fanna gan Eiry Palfrey, awdures Llwybrau’r Ddawns. Roedd ymchwil diweddar yn dangos bod gan unigolion oedd yn ddwyieithog sgiliau cof gwell na phobl oedd yn unieithog, ond dyw hi ddim mor syml â hynny yn ôl Dr Peredur Glyn Webb-Davies. Dyma fe’n sôn am yr unig elfen o’r ymchwil sy’n dangos bod cof gwell gan bobl ddwyieithog na’r rhai sy’n gallu siarad un iaith yn unig... Ymchwil Research Dwyieithog Bilingual Llefaru To speak Cymhleth Complicated Cadarnhau To confirm Pigion Dysgwyr – Elin Maher Ond wrth gwrs mae sawl mantais dros fod yn ddwyieithog on’d oes yna? Yn enwedig yn Nghymru’r dyddiau hyn. Mae Elin Maher yn dod o Gwm Tawe’n wreiddiol ond yn byw yng Nghasnewydd gyda’i theulu ers ugain mlynedd. Buodd hi’n gweithio’n galed dros y blynyddoedd yn datblygu addysg Gymraeg, a’r Gymraeg o fewn y gymuned, yng Ngwent. Hi hefyd oedd gwestai Beti George ar Beti a’i Phobol wythnos diwetha a dyma hi’n sôn am ambell i her oedd rhaid ei hwynebu wrth ymladd dros addysg Gymraeg yn y Sir. Her A challenge Safleoedd Sites Agwedd Attitude Cynghorwyr Councillors Ddim o reidrwydd Not necessarily Brwydr A fight Dealltwriaeth Understanding Heb os nac oni bai Without doubt Cydnabod To acknowledge Dychymyg Imagination Pigion Dysgwyr – Adri A diolch byth am bobl fel Elin sy’n dal i frwydro dros addysg Gymraeg on’d ife? Mae Heledd Cynwal wedi bod yn cadw sedd Shan Cothi yn gynnes yn ddiweddar, a dydd Mercher diwetha gwahoddodd hi ddysgwraig Cymraeg o’r Iseldiroedd sef Adri Witens ar ei rhaglen. Mae Adri yn byw mewn tref fechan ger dinas yr Haag a dysgodd Gymraeg ar ôl iddi hi ymweld ag Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen ddechrau’r 80au. Dyma hi’n sôn am daith awyren ddiddorol gaeth hi yn y gorffennol... Iseldiroedd Netherlands Anaddas Unsuitable Tanwydd Fuel Suddo To sink Arfordir Coastline Creigiau Rocks Darlledu To broadcast Doniol Funny Pigion Dysgwyr – Dianne Roberts On’d yw Atri’n gymeriad a hanner? Dianne Roberts yw Trysorydd Sioe Arddwriaethol Llangernyw ger Llanrwst. Eleni mae’r Sioe yn dathlu ei bod wedi cael ei chynnal am 175 o flynyddoedd. Dyma Dianne i sôn mwy.. Sioe arddwriaethol Horticultural show Annog To encourage Hen bryd About time Hud a lledrith Magic
8/29/202313 minutes, 13 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr Awst 22ain 2023

Pigion Dysgwyr – Hiraethog Mae yna ymgyrch ymlaen ar hyn o bryd gan Twristiaeth Gogledd Cymru i ddenu ymwelwyr i ardal Hiraethog yng ngogledd Cymru. Sara Gibson oedd yn cadw sedd Aled Hughes yn gynnes wythnos diwetha wrth i Aled gymryd gwyliau bach ar ôl yr Eisteddfod. Dyma Eifion Jones o Lansannan, yn siarad â Sara am yr ardal arbennig hon Ymgyrch Campaign Denu To attract Ywen Yew Cynaliadwy Sustainable Murluniau Murals Cerflun Statue Taflunydd Projector Pererinion Pilgrims Treffynnon Holywell Pigion Dysgwyr – Brechu Disgrifiad o ardal Hiraethog yn fanna gan Eifion Jones. Gyda’r sôn bod straen newydd o Covid wedi ymddangos cafodd Beti George sgwrs ar Beti a’i Phobol gyda meddyg teulu ddaeth i amlygrwydd ar ddechrau’r pandemig. Chwaraeodd Dr Eilir Hughes ran bwysig wrth geisio rheoli Covid-19 yn ei gymuned. Cafodd ei enwebu am ei waith ar gyfer un o wobrau Dewi Sant a dyma Beti yn ei holi … Amlygrwydd Prominance Enwebu To nominate Sefydlu To establish Brechu To vaccinate Pellter Distance Rhwystredigaeth Frustration Darparu To provide Cyflawnoch chi gampweithiau You achieved great things Gwirfoddolwyr Volunteers Herio To challenge Pigion Dysgwyr – Drws y Coed Gan obeithio na fydd rhaid i Dr Eilir Hughes gyflawni campweithiau tebyg yn y dyfodol agos on’d ife? Yr wythnos diwetha ar raglen Dei Tomos aeth Dei â’r gwrandawyr ar daith i ardal Drws y Coed yn Eryri. Dyma Bob Morus yr hanesydd lleol i sôn am rywbeth ddigwyddodd i gapel Drws y Coed yn 1892 Anferthol Huge Ailadeiladu To rebuild Difrod Damage Addoliad Worship O’r herwydd As a consequence Oedfaon Services Anghydffurfiol Nonconformist Olion Remains Amlinell Outline Helaethu To extend Pigion Dysgwyr – Eisteddfod 1956 Bob Morus oedd hwnna’n adrodd hanes capel Drws y Coes gyda Dei Tomos. Gyda'r miloedd erbyn hyn wedi gadael Boduan ac Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd, mae yna edrych ymlaen mawr at Eisteddfod 2024 yn Rhondda Cynon Taf. Dydy'r Eisteddfod ddim wedi bod yn yr ardal honno ers 67 o flynyddoedd. Aberdâr yng Ngwm Cynon oedd y lleoliad ym 1956, ac ar Dros Frecwast yr wythnos diwetha buodd Alun Thomas yn siarad â rhai o drigolion y cwm oedd yno bryd hynny, gan gynnwys yr actores Gaynor Morgan Rees cafodd ei magu yn yr ardal. Oedd yr eisteddfod honno’n wahanol i eisteddfodau’r dyddiau hyn tybed? Trigolion Residents Dawnsio gwerin Folk dancing Ymgasglu To congregrate Emynau Hymns Cerflun Statues Seremoni cyhoeddi Proclamation ceremony Profiad gwefreiddiol A thrilling experience Cymeradwyo Applauding Bythgofiadwy Unforgettable Pigion Dysgwyr – Dill Jones Wel mae’n amlwg bod Gaynor Morgan Rees , a dw i’n siŵr llawer iawn o drigolion Rhondda Cynon Taf yn edrych ymlaen yn arw at y Steddfod. Dych chi wedi clywed am Dill Jones o Gastell Newydd Emlyn? Wel yr wythnos diwetha roedd hi’n ganrif ers iddo fe gael ei eni. Roedd e’n feistr ar y piano ac yn enwedig ar arddull y Stride sef math o jazz oedd yn boblogaidd yn 20au a 30au’r ganrif ddiwetha. Dyma’r cerddor jazz Tomos Williams yn sgwrsio gyda Bethan Rhys Roberts ar Bore Sul am fywyd Dill Jones….. Canrif Century Arddull Style Trwy gydol ei yrfa Throughout his career Ymwybodol iawn Very aware Cymreictod Welshness Angerdd Passion Yn gwmws Exactly Crebwyll Creativity Cyd-destun Context Trwytho Immersed Pigion Dysgwyr – Deintyddiaeth Hanes y pianydd jazz Dill Jones yn fanna ar Bore Sul. Dydd Iau diwetha ar Dros Ginio cafodd Gwenllian Grigg gwmni Siwan Phillips, sydd ar ei blwyddyn ola’n astudio deintyddiaeth ym Mhrifysgol Bryste. Gofynnodd Gwenllian iddi hi yn gynta faint oedd ei hoedran hi pan benderfynodd mai deintydd oedd hi am fod? Profiad gwaith Work experience Deintyddfa Dentist surgery Amgylchedd gweithio Working environment Mantais Advantage Digwydd bod As it happens Hynod o hir Extremely long Cystadleuol Competitive
8/22/202314 minutes, 11 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr Awst 15fed 2023

S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Trystan ab Ifan dw i ac i ddechrau'r wythnos yma … Pigion Dysgwyr – Dechrau‘r Steddfod Buodd Radio Cymru‘n darlledu o Faes yr Eisteddfod ym Moduan drwy’r wythnos diwetha gan ddechrau am ganol dydd ar y dydd Sadwrn cyntaf. Dyma sut dechreuodd y darlledu…… Darlledu To broadcast Cynnau tan To light a fire Cynnal To maintain Blodeuo To flower Eisteddfodwr o fri A renowned Eisteddfod person Hawlio To claim Deuawd Duet Craith A scar Llwyfan Stage Noddi To sponsor Pigion Dysgwyr – Martin Croydon …ac wrth gwrs bydd blas ar sawl darllediad o’r Eisteddfod yn y podlediad wythnos yma, gan ddechrau gyda Martyn Croydon enillodd wobr Dysgwr y Flwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddeg mlynedd yn ôl. Daw Martin o Kidderminster yn wreiddiol, ond erbyn hyn mae o’n byw ym Mhen Llŷn. Gwobr Prize Enwebu To nominate Rowndiau terfynol Final rounds Gwrthod To refuse Cyfweliad Interview Beirniaid Judges Cynifer So many Cyfathrebu To communicate Ysbrydoli To inspire Cynulleidfa Audience Terfynol Final Pigion Dysgwyr – Dysgwr y Flwyddyn Ac roedd Martyn yn un o’r criw fuodd yn brysur iawn yn cynnal gweithgareddau Maes D yn Steddfod Boduan. Ond pwy enillodd gwobr Dysgwr y Flwyddyn eleni tybed? Roedd pedwar ymgeisydd ardderchog wedi cyrraedd y rownd terfynol, a dydd Mercher yn yr Eisteddfod cyhoeddwyd mai Alison Cairns yw Dysgwr y Flwyddyn eleni. Daw Alison yn wreiddiol o’r Alban ond mae hi a’i theulu erbyn hyn yn byw yn Llannerchymedd ar Ynys Môn. Dyma hi’n sgwrsio ar Post Prynhawn yn dilyn y seremoni wobrwyo. Y gymuned The community Pigion Dysgwyr – Esyllt Nest Roberts de Lewis A llongyfarchiadau i Alison ar ennill y wobr – dwi’n siŵr bydd hi’n mwynhau ei blwyddyn. Daw Esyllt Nest Roberts de Lewis yn wreiddiol o Bencaenewydd ger Pwllheli ond mae hi erbyn hyn yn byw yn ardal Gymraeg Patagonia, sef Y Wladfa, ac wedi bod yno ers nifer o flynyddoedd. Ar Dros Frecwast yr wythnos diwetha cafodd Kate Crocket gyfle i’w holi hi gan ofyn iddi’n gynta iddi pam aeth hi allan i’r Wladfa yn y lle cynta? Yn y cyfamser In the meantime Annerch To address (a meeting) Y cyfryngau The media Dylanwadu To influence Rhyngrwyd Internet Yn anymwybodol Unaware Pigion Dysgwyr – Cai Erith Ac Esyllt oedd yn arwain Cymru a’r Byd, sef y Cymry sy’n byw ym mhob rhan o’r byd erbyn hyn, yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni Os chwiliwch chi ar BBC Sounds gwelwch raglen arbennig wnaeth Aled Hughes ei recordio dan y teitl Mordaith. Rhaglen yw hi lle mae Aled yn hwylio o amgylch Penrhyn Llŷn yn sgwrsio gyda rhai o drigolion yr ardal. Morwr yw Cai Erith a dyma fe’n sôn ychydig am ei fywyd Penrhyn Peninsula Trigolion Residents Porthladdoedd Ports Yn llythrennol Literally Wedi dy hudo di Has lured you Pigion Dysgwyr - Ffobia Hanes bywyd diddorol Cai Erith yn fanna ar raglen Mordaith. Buodd Catrin Mai yn siarad ag Emma Walford a Trystan Ellis Morris ar eu rhaglen yn ddiweddar. Mae gan Catrin ffobia anarferol iawn… sbyngau, neu sponges! Dyma Emma yn holi Catrin gynta……. Cyffwrdd To touch Colur Makeup Fatha Yr un fath â Trin To treat Nadroedd Snakes Corynnod Pryfed cop Arnofio To float Amsugno To absorb
8/15/202313 minutes, 42 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr Awst 8fed 2023

Pigion Dysgwyr – Lloyd Lewis Gwestai arbennig Bore Sul yn ddiweddar oedd y rapiwr Lloyd Lewis. Mae e wedi perfformio ar y cae rygbi, ar deledu, ac mae e’n falch ei fod e'n Gymro Cymraeg aml-hil. Dyma Lloyd yn sôn wrth Betsan Powys am ei ddyddiau ysgol... Yn ddiweddar Recently Aml-hil Mixed-race Amrywiaeth Variety Ystyried To consider Pigion Dysgwyr - Nofio yn y Seine Y rapiwr o Cwmbrân , Lloyd Lewis oedd hwnna’n sgwrsio gyda Betsan Powys. Cyn bo hir mae'n bosib bydd pobl Paris yn gallu nofio yn yr afon Seine. Mae can mlynedd union wedi mynd heibio ers i nofio yn yr afon gael ei wahardd am fod gwastraff o bob math yn peryglu iechyd y nofwyr. Dyma Ceri Rhys Davies sy'n byw ym Mharis yn sgwrsio gyda Dewi Llwyd ar Dros Ginio wythnos diwetha…... Gwahardd To ban Deugain mlynedd 40 years Cydnabyddiaeth Acknowledgement Brwnt Budr Yn raddol Gradually Mynd i’r afael To get to grips Breuddwyd gwrach Pipe dream Pigion Dysgwyr – John Eifion Jones Ac ers y sgwrs honno daeth y newyddion bod nofio yn y Seine wedi cael ei wahardd eto oherwydd lefel y gwastraff yn yr afon. Gobeithio bydd popeth yn iawn erbyn Gemau’r Olympaidd on’d ife? Yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn yn 1999 enillodd y tenor John Eifion Jones y Rhuban Glas i gantorion. Mae’r Rhuban Glas neu Gwobr Goffa David Ellis yn 80 oed eleni ac ar Raglen Bore Cothi wythnos diwetha gofynnodd Shan Cothi i John Eifion Jones, beth oedd e’n gofio am yr adeg enillodd e’r gystadleuaeth…… Gwobr Goffa Memorial Prize Y to ifanc The young generation Y darnau gosod The set pieces O’r neilltu To one side Unawd Solo Nefolaidd Heavenly Dehongli To interpret Pigion Dysgwyr – Bara Caws Y tenor John Eifion Jones oedd hwnna’n sôn am yr adeg enillodd e’r Rhuban Glas, ond pwy fydd yn ennill y Rhuban yn Eisteddfod Boduan tybed? Ac yn ystod wythnos y Steddfod eleni, bydd Cwmni Theatr Bara Caws yn perfformio Dinas, sef gwaith un o ddramodwyr enwoca’r ardal sef Wil Sam Jones. Ysgrifennodd Wil Sam y ddrama ar y cyd â’r awdur Emyr Humphreys. Aeth Ffion Dafis draw i holi Betsan Llwyd, Cyfarwyddwr Artistig y cwmni, gan ofyn iddi hi pam penderfynodd y cwmni berfformio Dinas yn y Steddfod…. Enwoca Most famous Ar y cyd â In collaboration with Cyfarwyddwr Artistig Artistic Director Talu teyrnged To pay tribute Anghyfarwydd Unfamiliar Yng nghrombil yr adeilad In the depths Euraidd Golden Traddodiad llenyddol Literary tradition Llygad y ffynnon The source (lit: the eye of the well) Diddanu To entertain Pigion Dysgwyr – Alan Whittick Drysau a grisiau amdani felly! Mae dramâu Theatr Bara Caws wastad yn boblogaidd yn yr Eisteddfod a digwyddiad poblogaidd, a phwysig, arall ydy cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn - gwobr sy’n bedwar deg oed eleni. Ac i ddathlu, mae na aduniad mawr o holl enillwyr blaenorol y wobr wedi ei drefnu yn yr Eisteddfod eleni. Un o’r dysgwyr cynta i ennill y wobr hon oedd Alan Whittick, sydd yn byw yn ardal Llangurig ger Llanidloes ym Mhowys. Dyma fe ar Bore Sul yn sgwrsio gyda Betsan Powys Aduniad Reunion Blaenorol Previous Cyflwyno To introduce Ymddiddori To be interested in Trwy gyfrwng Through the medium of Yn anad dim More than anything Pigion Dysgwyr – Rhedeg yn Araf Ac mae pedwar o ddysgwyr gwych yn cystadlu am y wobr – cawn wybod ddydd Mercher pwy sydd wedi ennill Dych chi wedi clywed am y arfer ddiweddara o Redeg yn Araf? Mae Siwan Elenid yn arwain Clwb Rhedeg yn ardal y Bala, a buodd hi’n siarad gyda Jennifer Jones bnawn Mawrth diwetha ar Dros Ginio am yr arfer newydd yma... Hygyrch Accessible Cynhwysol Inclusive Cyfryngau cymdeithasol Social media Oriawr Watch
8/8/202313 minutes, 54 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr Awst 1af 2023

SHELLEY & RHYDIAN Yr awdures Manon Steffan Ros oedd gwestai Shelley a Rhydian bnawn Sadwrn. Mae Manon wedi ennill Gwobr Medal Yoto Carnegie am ei llyfr “The Blue Book of Nebo” sy’n gyfieithiad o’i llyfr “Llyfr Glas Nebo” enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn 2018. Sut deimlad oedd ennill gwobr Carnegie tybed… Y Fedal Ryddiaith The prose medal Wedi gwirioni Over the moon Braint Privilege Enwebu To nominate Rhestr fer Short list Coelio Credu Trosi To translate Yn reddfol Instinctively Addasu To adapt Llenyddiaeth Literature Hunaniaeth Identity CLONC Manon Steffan Ros oedd honna’n sôn am lwyddiant anferthol “Llyfr Glas Nebo” sydd wedi ei gyfieithu i nifer fawr o ieithoedd. Roedd rhaglen gomedi newydd ar Radio Cymru dros y penwythnos, wedi cael ei hysgrifennu gan Tudur Owen, Sian Harries a Gareth Gwynn. Mae Gareth yn dysgu Cymraeg, a dyma i chi Radio Clonc... Sy berchen Who owns Yn sgil As a result of Disgyrchiant Gravity Wedi cythruddo Has angered Atal To stop Synau Sounds Cael eu hystyried Being considered Anferth Huge Gwichian To squeak Y diweddara The most recent ALED HUGHES Doniol iawn on’d ife? Blas ar Radio Clonc yn fanna – rhaglen gomedi newydd Radio Cymru. Cafodd Aled Hughes sgwrs gyda Gwilym Morgan, enillydd Medal y Dysgwyr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Sir Gaerfyrddin 2023, a hefyd gyda Rebecca Morgan, ei athrawes, a hithau wedi ennill Medal y Dysgwyr yn 2018. Mae Gwilym yn ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Esgob Llandaf, Caerdydd a dyma fe’n sôn am ei gynlluniau ar gyfer y dyfodol... Doniol Funny Disgybl Pupil Ysbrydoli To inspire Cwblhau To complete Y genhedlaeth nesa The next generation Yn amlwg Obvious Ewch amdani Go for it ALED HUGHES Wel dyna stori dda on’d ife? Yr athrawes a’r disgybl wedi ennill Medal y Dysgwyr Eisteddfod yr Urdd. Ar raglen Aled Hughes clywon ni Iestyn Tyne, bardd preswyl Eisteddfod Llyn ac Eifionydd, yn sôn am y llaw-lyfr lliwgar ar gyfer ymwelwyr a dysgwyr, neu siaradwyr newydd, i’r Eisteddfod eleni. Aled Hughes fuodd yn ei holi. Bardd preswyl Resident poet Deunydd Material Diwylliant Culture Arwynebol Superficial Annog To encourage Gafael weddol A reasonable grasp Cenedl ddwyieithog A bilingual nation Safbwynt Perspective Pwyllgor Llen Literature committee Gwaddol Residue BORE COTHI On’d yw hi’n dda o beth bod yr Eisteddfod yn gwneud yn siŵr bod croeso i bawb ym Moduan eleni? Mae’r tri chlip nesa i gyd i wneud ag amaethyddiaeth, a hynny gan fod y Sioe Fawr, neu’r Sioe Frenhinol wedi cael ei chynnal yn Llanelwedd yr wythnos diwetha. Bechgyn “Trio” oedd gwesteion arbennig Shân Cothi yn y Sioe Fawr a chafodd Shân sgwrs gyda’r tri cyn iddyn nhw ganu ar lwyfan Radio Cymru yn y Sioe. Mae’r cantorion Emyr Wyn Gibson, Bedwyr Gwyn Parri a Steffan Lloyd Owen yn dathlu 10 mlynedd eleni fel Trio. Amaethyddiaeth Agriculture Y Sioe Fawr The Royal Welsh Dwlu Hoff iawn Asiad y lleisiau The blend of the voices Cyfarwyddiadau Instructions Yn unigol Individually Doniau Talents Yndw Ydw Droeon Many times BORE COTHI Un arall welodd Shan Cothi ar faes y Sioe Fawr yn Llanelwedd fore Iau oedd Huw Williams o’r Felinheli ger Caernarfon. Mae Huw yn ffarmwr balch ac ar dân dros gefn gwlad ac amaethyddiaeth. Balch Proud Ydy glei Of course it is Golygfeydd godidog Superb views Yn gyfarwydd Familiar Cynnyrch Produce Ffasiwn angerdd Such passion Dieithr Unfamiliar Beirniadu To judge Annerch To address (a meeting) BETI A’I PHOBOL ..ac mae Huw yn llawn angerdd dros amaethyddiaeth on’d yw e? Mared Rand Jones oedd gwestai Beti George. Cafodd ei magu ar fferm yng Ngheredigion, ac ymunodd hi â’r Ffermwyr Ifanc pan oedd hi’n ddeuddeg oed. Erbyn hyn hi yw Prif Weithredwr y mudiad a dyma hi’n sôn am ei thad wnaeth ddysgu Cymraeg ar ôl cwrdd â mam Mared... Prif Weithredwr Chief Executive Bant I ffwrdd Mynychu To attend
8/1/202318 minutes, 16 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr Gorffennaf 25ain 2023

Pigion Dysgwyr – Deborah Morgante Mae Deborah Morgante yn dod o Rufain yn yr Eidal ac wedi dysgu Cymraeg. Ar Dros Ginio bnawn Mawrth diwetha soniodd Deborah am y gwres tanbaid sydd wedi taro’r Eidal a gwledydd eraill Môr y Canoldir. Dyma Jennifer Jones yn gofyn i Deborah yn gyntaf pa mor brysur oedd Rhufain…lle sydd fel arfer yn llawn twristiaid….. Gwres tanbaid Intense heat Môr y Canoldir Mediterranean Sea Rhufain Rome Mewn gwirionedd In reality Rhybuddio To warn Oriau mân y bore The early hours Mas Allan Dioddef To suffer Pigion Dysgwyr – Aled Hughes Mi alla I dystio I’r gwres achos ro’n I ar Ynys Sicilly yn ystod yr wythnos. Mae Grayer Palissier yn siaradwraig Cymraeg newydd ac yn byw yn y Wyddgrug. Mae hi’n dod o Ynys Manaw yn wreiddiol a phenderfynodd hi ddysgu Cymraeg pan oedd ei phlant yn fach. Dyma hi’n esbonio wrth Aled Hughes yn ddiweddar pam bod gan y band Daniel Lloyd a Mr Pinc ran fawr i chwarae yn ei phenderfyniad i barhau i ddysgu’r iaith…… Ynys Manaw Isle of Man Parhau To continue Rhoi’r gorau i To give up Anhygoel Incredible Achub To save Gwerthfawrogi To appreciate Pigion Dysgwyr – Adam yn Yr Ardd Llais Daniel Lloyd wedi ysbrydoli Grayer i gario ymlaen gyda’i Chymraeg. Da on’d ife? Dych chi’n tyfu tomatos o gwbl ac wedi gweld tomato bach yn tyfu y tu mewn i domato arall? Dyma Adam Jones neu Adam yn yr Ardd yn esbonio wrth Shan Cothi pam bod hynny’n digwydd….. Ysbrydoli To inspire Planhigyn Plant Y cnwd cynta The first crop Gorfwydo To overfeed Aeddfedu To mature Yn gyson Regularly Bwydo To feed Pigion Dysgwyr – Caryl Dyna ni felly– peidiwch â gorfwydo eich tomatos! Ar ei rhaglen nos Fercher cafodd Caryl Parry Jones air gyda Sion Wyn o Ddinbych. Mae e’n aelod o’r Ford Gron yn y dref ac esboniodd wrth Caryl beth yw cefndir y mudiad Y Ford Gron The Round Table Bodoli To exist Mudiad Rhyngwladol An international movement Rhyw ben Sometime Cymdeithasol Social Achosion da Good causes Gweithgareddau Activities Hwyrach efallai Chwarel Quarry Angenrheidiol Necessary Pigion Dysgwyr – Messi Sion Wyn oedd hwnna’n rhoi ychydig o hanes y Ford Gron yn Ninbych. Mae un o chwaraewyr pêl-droed gorau'r byd, Lionel Messi, wedi ymuno â thîm pêl-droed Inter Miami yn yr Unol Daleithiau. Mae llawer yn ei gyfri’n un o'r pêl-droedwyr gorau erioed ac Ar Dros Frecwast fore Gwener cafodd Dafydd Morgan sgwrs gyda Dafydd Williams sy’n byw yn Miami am sut mae’r ddinas wedi ymateb i’r newyddion yma…. Yr Unol Daleithiau The USA Ymateb To respond Pigion Dysgwyr – Cennin Pedr Dw i’n siŵr bydd hi’n newid mawr i Messi orfod perfformio mewn stadiwm mor fach on’ bydd hi? Mae rhai gwyddonwyr yn credu gallai Cennin Pedr fod yn ateb i ran o broblem cynhesu byd eang. Cafodd Catrin Haf Jones sgwrs gyda’r arbenigwr Dr Rhys Jones o Brifysgol Aberystwyth, i gael rhagor o wybodaeth am hyn… Gwyddonwyr Scientists Cennin Pedr Daffodils Cynhesu Byd Eang Global warming Ymchwil Research Gwymon môr Seaweed Heriau Challenges Cynaeafu To harvest Meddiginiaeth Medicine Sylweddau Substances Cynalwadwy Sustainable Gwraidd Root Y diwydiant amaeth The agricultural industry
7/25/202311 minutes, 28 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr 18fed o Orffennaf 2023

Pigion Dysgwyr – Bore Sul Mae’r cogydd Tomos Parry o Ynys Môn ar fin agor ei fwyty newydd yn Soho Llundain, ac ar Bore Sul yn ddiweddar cafodd Bethan Rhys Roberts sgwrs gyda fe am ei fenter newydd ……… Cogydd Chef Ar fin About to Dylanwadu To influence Cynhwysion Ingredients Gwair Grass Gwymon Seaweed Crancod Crabs Cynnyrch Produce Pigion Dysgwyr – Trystan ac Emma A phob lwc i Tomos gyda’i fwyty newydd on’d ife? Llwyfan y Steddfod ydy enw sengl newydd y canwr o Fethel ger Caernarfon, Tomos Gibson. Mae e ar hyn o bryd yn fyfyriwr yng Ngholeg Menai, a buodd Tomos yn sôn wrth Trystan ac Emma am y broses o gynhyrchu’r sengl Cynhyrchu To produce Ddaru o gymryd Cymerodd Cerddorion Musicians Cynnwys Including Unigol Individual Trefnu To arrange Profiad Experience Cyfansoddi To compose Braint A privilege Pigion Dysgwyr – Dei Tomos Wel dyna Tomos arall i ni ddymuno pob lwc iddo heddiw – Tomos Gibson o Fethel gyda’i sengl newydd Llwyfan y Steddfod Yn ddiweddar darlledwyd rhaglen arbennig o Brifysgol Caergrawnt. Buodd Dei Tomos yn sgwrsio gyda nifer o’r Cymry Cymraeg sy’n astudio yno, ond yn gynta cafodd air gyda Mari Jones sy’n athro Ffrangeg ag yn gymrawd yng ngholeg Peterhouse. Gofynnodd Dei iddi yn gynta am hanes ei gyrfa…… Darlledwyd Was broadcast Caergrawnt Cambridge Cymrawd Fellow Tafodiaith y Wenhwyseg The South East Wales dialect Safoni To standardise Mam-gu Nain Doethuriaeth PhD Ehangais i I expanded Anogaeth Encouragement Arolygwr Supervisor Pigion Dysgwyr – Aled Hughes Wel ie, mae’n drueni gweld rhai o’r tafodieithoedd yma’n diflannu on’d yw e? Ar Instagram a Facebook mae Cynllun Cofnod 2023 yn ceisio cofnodi enwau llefydd bro yr Eisteddfod eleni. Morwen Jones sydd yn rhedeg y prosiect a chafodd air gyda Aled Hughes ar ei raglen ddydd Mawrth diwetha…… Cofnod A record Pwyllgor celf Art Committee Codi ymwybyddiaeth raising awareness Yn sylfaenol Basically Yn dueddol o Tend to Y galon The heart Penillion a cerddi Verses and poems Atgofion Memories Croesawus Welcoming Mwynhad Enjoyment Pigion Dysgwyr -Aderyn y Mis Ie, on’d yw hi’n bwysig cadw a chofnodi’r hen enwau d’wedwch? Aderyn y Mis ar raglen Shan Cothi y mis yma yw’r Gnocell Fraith Fwya. Heledd Cynwal oedd yn cadw sedd Shan yn dwym a gofynnodd hi i’r adarwr Daniel Jenkins Jones sôn yn gynta am gynefinoedd y gnocell … Cnocell Fraith Fwya Great spotted woodpecker Cynefinoedd Habitats Aeddfed Mature Cynrhon Maggots Dychmyga Imagine Tiriogaeth Territory Cyfarwydd Familiar Disgyrchiant Gravity Pigion Dysgwyr – Ifan Evans Daniel Jenkins oedd hwnna’n sôn am y Gnocell Fraith Fwya . Mae Alan Hughes o Bentrefoelas yn 85 mlwydd oed ac wedi hyfforddi nifer fawr o drigolion yr ardal i i yrru ceir. Mae’n debyg mai dim ond 2 berson arall ar draws Prydain sy wedi bod yn hyfforddi yn hirach nag Alan. Dyma fe’n rhoi ychydig o’i hanes ar raglen Ifan Evans ddydd Mercher diwetha Yn dragwyddol All the time
7/18/202312 minutes, 17 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr 11eg o Orffennaf 2023

Pigion Dysgwyr – Cerys Hafana Cerys Hafana, y cerddor ifanc o Fachynlleth oedd gwestai Beti George ar Beti a’i Phobol wythnos diwetha. Mae hi’n chwarae’r delyn ers pan oedd hi’n 7 mlwydd oed. Daeth hi i Fachynlleth i fyw yn blentyn bach o ddinas Manceinion. Dyma hi’n sôn am sefyllfa byd cerddoriaeth werin yng Nghymru, ymhlith pobl ifanc. Cerddor Musician Telyn Harp Ymhlith Amongst Offeryn Instrument Cerddoriaeth (g)werin Folk music Mae’n ddilys It’s valid Mynegi eich hunain To express yourselves Llawysgrifau Manuscripts Plant yn eu harddegau Teenagers Ysbrydoliaeth Inspiration Pigion Dysgwyr – Cernyweg Y cerddor Cerys Hafana oedd honna’n sgwrsio gyda Beti George. Enillodd Matt Spry wobr Dysgwr y Flwyddyn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn 2018 ac aeth ymlaen i fod yn diwtor Cymraeg gyda Phrifysgol Caerdydd. Mae’n dod o Aberplym neu Plymouth yn wreiddiol, ac nawr mae e wedi bod yn dysgu Cernyweg ers tua 8 mis. Wythnos diwetha ar raglen Aled Hughes cafodd Matt air gydag Aled i esbonio pam ei fod wedi mynd ati i ddysgu’r iaith … Cernyweg Cornish language Yn bennaf Mainly Ar y ffin On the border Cysylltu To contact Wythnosol Weekly O gymharu â Compared to Anhawsa Most difficult Yn rheolaidd Regularly Hynod o bwysig Extremely important Pigion Dysgwyr – Talwrn A phob lwc i Matt gyda’r Gernyweg on’d ife? Cystadleuaeth rhwng dau dîm o feirdd ydy’r Talwrn a’r wythnos diwetha y ddau dîm oedd yn cymryd rhan oedd Tir Iarll a’r Glêr, mewn rhaglen cafodd ei recordio yn Neuadd Pontyberem. Dyma Ceri Wyn Jones i osod tasg y limrig….. Dim peryg No danger Barddoniaeth Poetry Gosod tasg Setting the task Unwaith y flwyddyn Once a year ‘Na ryfedd That’s strange Awgrymais I suggested Fy ffiol oedd lawn My cup was overflowing Pigion Dysgwyr – Gyrru Dramor Wel dyna ddau limrig doniol on’d ife? P’run enillodd tybed? Dych chi wedi gyrru dramor erioed? Un sydd wedi gwneud yn aml yw arbenigwr moduro Rhaglen Bore Cothi, Mark James. Wythnos diwetha cafodd Mark sgwrs gyda Shan Cothi am beth sydd angen ei gofio pan dych chi’n gyrru ar gyfandir Ewrop. Tramor Overseas Arbenigwr Expert Cyfandir Continent Esgeuluso To neglect Trwydded yrru Driving license Pigion Dysgwyr – Dafydd Morgan Pethau i chi gofio wrth yrru ar gyfandir Ewrop yn fan’na ar Bore Cothi. Awn i gyfandir arall nawr – Awstralia. Mae Dafydd Morgan o bentre Ffarmers yn Sir Gaerfyrddin wedi bod yn byw yn Awstralia ers mis Medi y llynedd. Mae Dafydd wedi bod yn gweithio ar ffermydd y wlad a dyma fe i sôn wrth Ifan Evans am y tywydd yno ar hyn o bryd….. Gaeafau Winters Porfa Pasture Sulwair Silage Plannu To plant Ffrwythlon Fertile Pigion Dysgwyr – Rhys Mwyn Wel dyna ni, nid Cymru sy’n cael y glaw i gyd! Yn y cylchgrawn Far Out mae’r cerddor a’r canwr Paul Weller, fuodd gyda band The Jam, wedi dewis yr albwm Hotel Shampoo gan Gruff Rhys fel un o’i hoff albymau. Ymhlith ei hoff albymau eraill roedd rhai gan y Beatles, Stevie Wonder, Bob Marley a David Bowie. Dyma Rhys Mwyn ar Dros Frecwast fore Iau diwetha’n sôn am gerddoriaeth Rhys a’r Super Furry Animals Tueddu i Tend to Edmygu neu gwerthfawrogi Admire or appreciate Petai Tasai Arbrofol Experimental Cydnabod To acknowledge
7/11/202312 minutes, 1 second
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr 4ydd o Orffennaf 2023

Pigion Dysgwyr – Carie Rimes Perchennog Llaethdy Gwyn ym Methesda yng Ngwynedd yw Carie Rimes. Sgwrsiodd Carie gyda Shan Cothi wythnos diwetha, am wobr mae’r llaethdy newydd ei hennill ennill, sef y caws Cymreig gorau yng ngwobrau artisan Gwyl Gaws Melton Mowbray, a hynny am y trydydd gwaith yn olynol. Perchennog llaethdy Dairy owner Gwobr Award Yn olynol In succession Llefrith dafad Sheep’s milk Unigryw Unique Tueddu i Tends to Llwyddiant Success Pigion Dysgwyr – Glastonbury A llongyfarchiadau mawr i Laethdy Gwyn am ennill y wobr fawr on’d ife? Ar Dros Ginio yn ddiweddar cafodd Cennydd Davies air gyda’r hanesydd pop Phil Davies. Buodd Phil yn edrych yn ôl dros Ŵyl Glastonbury gafodd ei chynnal yng Ngwlad yr Haf yn ddiweddar……. Gwlad yr Haf Somerset Darnau Pieces Digon rhwydd Easy enough Ro’n i’n synnu braidd I was rather surprised Amau To suspect Denu To attract Fel mae’r sôn Apparently Ei bai hi oedd o It was her fault Pigion Dysgwyr – Dr Owain Rhys Hughes Ddim pawb wedi plesio Phil Davies yn Glastonbury felly! Gwestai Beti George ar Beti a’i Phobol yr wythnos diwetha oedd Dr Owain Rhys Hughes . Mae’n dod yn wreiddiol o Benmynydd ar Ynys Môn, ac esboniodd e wrth Beti ychydig am system o’r enw Synapsis sef meddalwedd sy’n galluogi doctoriaid teulu i gael mynediad i system sy’n siarad gyda’r ysbyty a'r arbenigwyr Meddalwedd Software Galluogi To enable Arbenigwyr Specialists Yn rhad ac am ddim Free of charge Cystadleuaeth Competition Hyd yn oed Even Pigion Dysgwyr – Dros Ginio Dr Owain Rhys Hughes oedd hwnna’n esbonio pam bod Synapsis yn cael ei ddefnyddio yn Lloegr ond ddim yng Nghymru. Mae dwy fyfyrwraig o Ysgol Feddygaeth Caerdydd newydd gyhoeddi podlediad dan y teitl Paid Ymddiheuro. Elin Bartlett a Celyn Jones Hughes ydy eu henwau nhw, a dydd Mawrth diwetha ar Dros Ginio cafodd y ddwy sgwrs gyda Jennifer Jones. Dyma Elin yn gynta i i ddweud pam aeth hi ati i greu’r podlediad Wastad Always Unigol Individual Gwragedd Women Pigion Dysgwyr – Porthcawl Doedd gan Celyn fawr o ddewis cymryd rhan nag oedd? Aeth Caryl Parry Jones â ni i Borthcawl wythnos diwetha yng nghwmni Richard Howe ar gyfer yr eitem 24 awr yn…Dechreuodd Richard drwy sôn am ei fagwraeth yn y dre… Magwraeth Upbringing Ers sawl blwyddyn for a number of years Cefn gwlad The countryside Mas o’m cynefin Out of my habitat Gwylanod Seagulls Heidio To flock Pigion Dysgwyr – Mari Pritchard Richard Howe yn amlwg yn falch iawn o’i wreiddiau ym Mhorthcawl. Cafodd Shan Cothi sgwrs gyda Mari Pritchard ar ei rhaglen yr wythnos diwetha. Mae Mari wedi bod yn brysur ar hyd y blynyddoedd yn hyfforddi ac yn arwain corau yn y gogledd yn ogystal â gweithio ym maes Theatr Ieuenctid. Dyma hi i sôn mwy am ei magwraeth ym mhentre Rhosmeirch ar ynys Môn Cyflawni To achieve Anferthol Huge Meithrin To nurture Dawn Talent Cyfathrebu To communicate Ffin Border Ydy glei of course it is Elwa To gain Heriol Challenging Ysbryd Spirit
7/4/202311 minutes, 56 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr 27ain o Fehefin 2023

Pigion Dysgwyr – Sulwyn Thomas Gwestai gwadd rhaglen Bore Cothi ddydd Llun wythnos diwetha oedd y darlledwr Sulwyn Thomas. Am flynyddoedd lawer roedd gan Sulwyn raglen yn y bore ar Radio Cymru. Roedd e’n dathlu ei ben-blwydd yn 80 yn ddiweddar a gofynnodd Shan Cothi iddo fe beth yw cyfrinach cadw’n ifanc ei ysbryd Darlledwr Broadcaster Cyfrinach Secret Ysbryd Spirit Ffodus Lwcus Cam bihafio Misbehaving Newyddiadurwr Journalist Bant I ffwrdd Dyfalu To guess Pigion Dysgwyr – Ann Ellis Sulwyn Thomas yn fanna’n swnio’n llawer ifancach nag wythdeg oed, a gobeithio iddo fe fwynhau’r dathlu yn Nhŷ Ddewi on’d ife? Ann Ellis yw un o benaethiaid cwmni Mauve Group sydd ar fin cael ei bresenoldeb cynta yng Nghymru. Mae’r cwmni yn helpu busnesau sefydlu mewn gwledydd newydd ar draws y byd. Yn ddiweddar ar raglen Bore Sul sgwrsiodd Ann gyda Bethan Rhys Roberts a dyma hi‘n sôn am sut dechreuodd y cwmni mewn cwpwrdd yn yr Eidal…. Sefydlu To establish Ar fin cael About to have Penaethiaid Heads Hardd Pretty Uwchben Above Pigion Dysgwyr – Richard Hughes Rhyfeddol on’d ife, fel mae’r cwmni bach wedi tyfu i weithio mewn dros gant o wledydd! Richard Hughes o Gaernarfon oedd gwestai gwadd Beti George ar Beti a’i Phobol yr wythnos diwetha. Mae e wedi bod yn gweithio ym maes cyfrifiadureg a mathemateg ers y 60au. Mae'n rhaglennydd cyfrifiadureg ac wedi gweithio ar systemau ym meysydd awyr Heathrow a Charles de Gaulle. Cynhaliodd Beti y sgwrs ar Zoom a gwrandewch ar be sydd gan Richard i ddweud am hynny….. Cyfrifadureg Computer science Rhaglennydd Programmer Yn ddyddiol Daily Arbenigo To specialise Chwedl y Sais As they say in English Addas Appropriate Rhan helaeth The majority Dadansoddi To analyse Pigion Dysgwyr – Ian Parry Mae ieithoedd cyfrifiadureg yn swnio’n llawer mwy cymhleth na’r Gymraeg on’d yn nhw? Buodd Ian Parri’n gweithio fel newyddiadurwr, fel tafarnwr ac fel tiwtor Cymraeg i Oedolion ac nawr mae e newydd gyhoeddi llyfr ar Wyddeldod. Buodd Ian yn gyrru o amglych arfordir Iwerddon am naw wythnos yn ei gartre modur. Dyma fe i sôn mwy am y daith wrth Dei Tomos... Gwyddelod Irishness Y Weriniaeth The Republic Dulyn Dublin Ymestyn To extend Y machlud The sunset Yn ei anterth At its peak Trefniant swyddogol Official arrangement Penrhyn Peninsula Yn ei sgil As a consequence Pigion Dysgwyr – Talwrn Ian Parri oedd hwnna’n sôn am ei daith o gwmpas Iwerddon. Cystadleuaeth rhwng timau o feirdd ydy Y Talwrn a’r wythnos diwetha y ddau dîm oedd yn cymryd rhan oedd Dros yr Aber a Dwy Ochr i’r Bont. Cafodd y rhaglen ei recordio yn Neuadd Bentref Y Groeslon yng Ngwynedd. Dyma Ceri Wyn Jones yn gosod un o’r tasgau ar gyfer y beirdd… Mawl Praise Dychan Satire Casâf Dwi’n casáu Hy Audacious Yr heidiau The swarm Oedi Staying Cyn ymlwybro Before making their way Fe lofruddiaf I will murder Malwod di-frys Unhurried snails Ochneidio Groaning Pigion Dysgwyr – Cor Dysgwyr Ardal Wrecsam Dw i’n falch mai malwod mae Rhys am eu lladd – ro’n i’n poeni am ychydig pwy oedd e’n mynd i fwrw gyda’r rhaw yna! Bore Mercher diwetha ar raglen Shan Cothi cafodd Shan gwmni Pam Evans Hughes. Pam yw arweinydd Côr Dysgwyr Ardal Wrecsam, neu Côr DAW, a dyma hi i esbonio mwy am hanes y côr… Bwrw To hit Rhaw Spade Arweinydd Conductor Cerddorol Musical Trwy gydol fy oes All my life Traddodiadol traditional
6/27/202310 minutes, 59 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr 20fed o Fehefin 2023

Pigion Dysgwyr – Dorian Morgan Bore Llun wythnos diwetha ar ei rhaglen, cafodd Shan Cothi gwmni Dorian Morgan. Mae Dorian newydd ddod yn ôl o daith 60 diwrnod ar draws Ewrop, dyma fe i ddweud mwy am y daith... Bant I ffwrdd Cledrau Rails (of railway) Pasg Easter Galluogi To enable Yn ddi-dor Uninterrupted Pigion Dysgwyr – Trystan ac Emma Wel cafodd Dorian fargen yn fanna on’d do fe? Dw i ‘n siŵr ei fod wedi gweld nifer o wledydd Ewrop yn y 60 diwrnod yna! Yn ddiweddar ar raglen Trystan ac Emma clywon ni raglen arbennig i ddathlu’ Campio a Charafanio’. Mae Geth Tomos yn garafaniwr brwd ac esboniodd e wrth Trystan ac Emma pam ei fod mor hoff o’i garafán Yn ddiweddar Recently Brwd Enthusiastic Cerddor Musician Hafan o heddwch A peaceful haven Adlen Awning Troedfedd A foot (measurement) Pigion Dysgwyr – Carno Mae Geth Tomos yn amlwg wrth ei fodd yn aros yn ei garafán. Ym mhentre Carno ym Mhowys mae tafarnwr wedi bod yn tynnu peintiau o gwrw ers 60 blynedd. John Williams yw ei enw ac enw’r dafarn yw Y Tŷ Brith. Craig Duggan aeth draw ar ran Dros Frecwast yn ddiweddar i’w weld.. Llefydd Places Cofiadwy Memorable Cyflog Wages Degawdau Decades Y gyfrinach The secret Y gymuned gyfan The whole community Gwŷr Menfolk Pigion Dysgwyr – Vaughan Smith Pobl Carno oedd y rheina’n sôn am y tafarnwr John Williams. Daw Vaughn Smith o’r Unol Daleithiau ac mae wedi dysgu Cymraeg i lefel uchel iawn. Mae e wedi bod ar ei daith gynta i Gymru. Ond y peth rhyfeddol am Vaughn yw ei fod yn gallu siarad 36 o ieithoedd!! Rhyfeddol Amazing Ffinneg Finnish Cyfandiroedd Continents Pigion Dysgwyr – Heledd Fflur 36 o ieithoedd – waw mae Vaughn yn polyglot go iawn on’d yw e? Arbenigwraig garddio rhaglen Caryl yw Heledd Fflur a’r wythnos diwetha ar ei rhaglen esboniodd Heledd wrth Caryl pa lysiau sydd yn dda i’w hau yr adeg yma o’r flwyddyn Arbenigwraig Expert (female) Hau To sow Cnwd Crop Mewn rhes In a row Sicrhau To ensure Hedyn A seed Tyfiant Growth Dyfrio To water Egino To germinate Cynhesach Warmer Pigion Dysgwyr – Alwyn Sion Ac arhoswn ni gyda garddio yn y clip nesa ‘ma. Yr wythnos diwetha roedd y diddanwr Alwyn Sion yn dathlu ei ben-blwydd yn 70 oed. Gwahoddodd Shan Cothi e ar ei rhaglen, mae e’n arddwr brwd a dyma fe i sôn am ei lysiau arbennig Diddanwr Entertainer Mwy na lai More or less Canolbwyntio To concentrate Uchafbwynt Highlight Efeilliaid Twins Yr hyd a’r lled The length and breadth
6/20/202311 minutes, 2 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr 13eg o Fehefin 2023

Pigion Dysgwyr - Aled Hughes Mae Siop Tir a Môr yn Llanrwst wedi ennill y wobr am siop Pysgod a Sglodion orau Gogledd Cymru gan ddarllenwyr y Daily Post. Aeth Aled Hughes draw i siarad â pherchennog y siop Wyn Williams yn ddiweddar.. Ddaru ni Wnaethon ni Estyniad Extention Yn werth ei weld Worth seeing Llymaid A swig Coelio Credu Gwaith haearn Iron works Gwyrth Miracle Caniatâd Permission Sefyll yn llonydd Standing still (H)wyrach Efallai Pigion y Dysgwyr – Myfanwy Alexander Llongyfarchiadau i Tir a Môr on’d ife? Mae’r bwyd yn swnio’n flasus iawn. Dych chi wedi bod yn Nhrefaldwyn o gwbl? Mae hi’n dref hanesyddol ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr, ac yn dref oedd yn boglogaidd iawn gyda Julie Christie a Salman Rushdie. Dyma Myfanwy Alexander yn dweud mwy wrth Rhys Mwyn... Y ffin The border Hamddenol Leisurely Ling di long At your own pace Awyrgylch Atmosphere Bodoli To exist Pensaerniaeth Architecture Ffynnu To thrive Llonyddwch Tranquillity Cuddio To hide Pigion Dysgwyr – Carwyn Graves Mae Myfanwy Alexander yn amlwg yn meddwl y byd o’r dref fach bert ym Mhowys – Trefaldwyn. Gwestai Beti George ar Beti a’i Phobl yr wythnos diwetha oedd yr hanesydd bwyd Carwyn Graves. Dyma fe i roi ychydig o hanes y crempog ….. Pancos Crempogau Llydaw Brittany Delwedd image Marchnata Marketing Yn sgil hynny Because of that Dydd Mawrth Ynyd Shrove Tuesday Lletygarwch Hospitality Y cynnyrch The produce Anghofiedig Forgotten Hynafol Ancient Pigion Dysgwyr – Sharon Morgan Ie wir, mae’r crempog yn rhy flasus i’w gadw at Ddydd Mawrth Ynyd yn unig , on’d yw e? Buodd yr actor Dafydd Hywel farw yn diweddar ac ar Bore Cothi wythnos diwetha clywon ni’r actores Sharon Morgan, sy’n perthyn i Dafydd, yn edrych yn ôl ar ei yrfa. Dirdynnol Poignant Munud o dawelwch A minute’s silence Dan ofalaeth Under the supervision of Ysbrydoliaeth Inspiration Llwyfan Stage Aruthrol Stupendous Darlledu To broadcast Dawn anhygoel Incredible talent Cofiadwy Memorable Pigion Dysgwyr – Caryl Mari Grug oedd yn cadw sedd Shan yn gynnes yn fanna ac yn sgwrsio gyda Sharon Morgan, a bydd colled mawr ar ôl Dafydd Hywel, mae hynny’n sicr. O dro i dro mae Caryl Parry Jones ar ei rhaglen yn ‘treulio 24 awr yn…’ sef cyfle i bobl sôn am beth sydd i’w wneud yn rhai o bentrefi a threfi Cymru. Tro Nefyn ym Mhen Llŷn oedd hi yr wythnos diwetha a chafodd Caryl sgwrs gyda Mared Llywelyn am yr hyn sydd i’w wneud yn y dref…. Digwydd bod Happened to be Harddwch Beauty Rhyngwladol International Llongau Ships Penwaig herrings Amgueddfa Forwrol Maritime Museum Pigion Dysgwyr – Dei Tomos Dw i’n siŵr bod Nefyn wedi bod yn brysur iawn yn ystod y tywydd braf yma, mae’n lle hyfryd iawn. Cyn athrawes Gymraeg o Ddinbych yw golygydd newydd cylchgrawn Merched y Wawr sef Y Wawr. Cafodd Dei Tomos gyfle i sgwrsio gydag Angharad Rhys yr wythnos diwetha am ei rôl newydd. Golygydd Editor Rhifyn Edition Cynrychiolydd rhanbarth Regional representative Profiad Experience Golygu To edit Cyfrannu To contribute Croesair Crossword Mewn trafferth In difficulty Ymgymryd â To undertake
6/13/202312 minutes, 27 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr 6ed o Fehefin 2023

Pigion Cofio Amelia Earhart 28.05 Gan fod Eisteddfod yr Urdd yn cael ei chynnal yn Llanymddyfri wythnos diwetha, y dref honno a Sir Gar oedd thema’r rhaglen archif Cofio gyda John Hardy. Buodd e’n chwilio am hanesion o’r sir a dyma i chi glip bach o raglen “Ddoe yn ôl” o 1983 a Gerald Jones, cyn bennaeth Brigâd Dan Sir Gaerfyrddin yn llygad dyst i Amelia Earhart yn glanio ym Mhorth Tywyn o’r America yn 1928. Llygad dyst Eye witness Arbenigo To specialise Lodes Merch Ehedeg Hedfan Porth Tywyn Burry Port O bellter From a distance Pigion Bore Sul Nicky John 28.05 Hanesion diddorol am Amelia Earhart yn fanna gan Gerald Jones . Gwestai arbennig Iwan Griffiths ar raglen Bore Sul oedd Nicky John, y gohebydd chwaraeon. Mae hi wedi gweithio ar raglen Sgorio ar S4C ers tua 17 o flynyddoedd, a dyma hi’n sôn am uchafbwyntiau ei gyrfa. Gohebydd Correspondent Uchafbwyntiau Highlights Dychryn To frighten Gwibio heibio Flying past (lit: darting past) Rhyngwladol International Braint Privilege Ar lawr gwlad At grassroots level Pigion Shelley & Rhydian Llyr Ifans 27.05 Wel ma Nicky John wrth ei bodd gyda’i gwaith on’d yw hi? Llyr Ifans oedd gwestai Shelley a Rhydian bnawn Sadwrn. Mae o’n cymryd rhan yn y rhaglen Iaith ar Daith ar S4C ar hyn o bryd yn helpu’r actor Neet Mohan, sydd i’w weld ar Casualty, i ddysgu Cymraeg. Buodd Llyr hefyd yn actio ar Casualty ddwywaith ac wedi dod ar draws Neet yn y gyfres... Cyfres Series Digwydd bod It so happened Bellach By now Awydd Desire Gweithgareddau Activities Carchar Rhuthun Ruthin Gaol Anhygoel Incredible Synau Sounds Pigion Bore Cothi Marlyn Samuel 29.05 A tasech chi eisiau gweld pa mor dda yw Llŷr fel tiwtor mae’n bosib ei weld yn dysgu Neet at S4C Clic. Elain Roberts enillodd Fedal Ddrama Eisteddfod yr Urdd eleni , ond cafodd Shan Cothi sgwrs gyda un o gyn enillwyr y Fedal - yr awdures Marlyn Samuel. Enillodd Marlyn y Fedal yn Eisteddfod yr Urdd Merthyr Tydfil yn 1987. Ei ffug enw oedd ‘Sallad‘ – pam tybed? Wel ‘roedd Marlyn yn ffan mawr o’r opera sebon Dallas, ond tasai hi wedi rhoi Dallas fel enw basai pawb wedi ei hadnabod – felly penderfynodd droi’r enw o gwmpas! 22 oed oedd Marlyn ar y pryd, ac yn gweithio fel Gohebydd Môn a Gwynedd i’r rhaglen radio Helo Bobol Ffug enw Pseudonym Ffodus Lwcus Y flwyddyn cynt The previous year Testunau Syllabus (list of competitions) Cynrychiolydd Representative Fy nghyfnither My female cousin Duwadd annwyl Dear me Rhybudd Warning Dim siw na miw Not a word Pigion Siarcod Jake Davies 29.05 Marlyn Samuel oedd honna’n cofio’r adeg pan enillodd hi Fedal Ddrama Eisteddfod yr Urdd. Y biolegydd Jake Davies, oedd yn sôn am siarcod oddi ar arfordir Cymru ar y rhaglen wyddonol Yfory Newydd. Mae’n gweithio i Gyfoeth Naturiol Cymru ac i Sw Llundain, a dyma fe’n siarad am ei waith yn astudio’r moroedd ym Mhen Llŷn... Cymunedau Communities Gwaith maes Fieldwork Abwyd Bait Mecryll Mackerels Rhywogaethau Species Bad achub Lifeboat Cynefinoedd Habitats Pigion Sara Gibson 31.05 Hawdd iawn gweld bod Jake yn frwd iawn am ei waith on’d yw hi? Bore Mercher roedd Sara Gibson yn cadw sedd Aled Hughes yn dwym. Cafodd hi sgwrs am y pryder ynglŷn â datblygiad deallusrwydd artiffisial. Dyma’r cerddor Lewys Meredydd yn sôn am effaith AI ar greu cerddoriaeth... Brwd Enthusiastic Pryder Concern Deallusrwydd Intelligence Creu Creating Bwrlwm Babble Yn y bôn Essentially Ffynnu To flourish Meddalweddau Software Cynhyrchu To produce
6/6/202312 minutes, 33 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr 31ain o Fai 2023

Rhaglen Caryl Parry Jones Ar ei rhaglen wythnos diwethaf, mi gafodd Caryl sgwrs efo Ieuan Mathews o Gwmni Theatr Pontypridd. Mae’r cwmni ar hyn o bryd yn llwyfannu y sioe gerdd Grease. Mi ofynnodd Caryl iddo fo‘n gynta, faint o sioeau maen nhw‘n arfer perfformio bob blwyddyn... Llwyfannu - To stage Sioe gerdd - Musical Cymeriadau - Characters Iesgob annwyl! - Good grief! Y brif ran - The main part Rhaglen Bore Sul Yn 1963 recordiwyd Cymanfa Ganu arbennig yn Neuadd Albert Llundain gyda dros 5,000 o gantorion yn cymryd rhan. Mi roddodd Alun Thomas, cyflwynydd y rhaglen, apêl ar y cyfryngau cymdeithasol am unrhyw un oedd yn bresennol yn y recordiad hwnnw i gysylltu efo fo. Ac yn wir, mi gafodd ymateb gan Non Thomas, sy’n dod o Ferthyr yn wreiddiol, ond sy'n byw yn Hirwaun yng Nghwm Cynon erbyn hyn... Cymanfa Ganu - A hymn singing festival Cyflwynydd - Presenter Cyfryngau cymdeithasol - Social media Ymateb - Response Ymuno â - To join Gwasanaeth sifil - Civil Service Dipyn o fenter - Quite a venture Profiad - Experience Dych chi’n gallu dychmygu - You can imagine Y wefr - The thrill Rhaglen Trystan ac Emma Mi fuodd Casi ac Elen o Ysgol Treganna, Caerdydd yn ddigon lwcus yn ddiweddar i dderbyn llythyr arbennig iawn yn y post. Roedden nhw wedi anfon llythyr at y naturiaethwr a’r darlledwr enwog David Attenborough. Mi ofynnodd Trystan ag Emma i’r ddwy pam penderfynon nhw anfon llythyr ato fo... Darlledwr- Broadcaster Yn ddiweddar - Recently Arwr - Hero Cyflwyniad - Presentation Brathu - To bite Sefydlu - To establish Baswn i’n tybio - I would assume Rhaglen Ar Blât Y ddarlledwraig Siân Thomas oedd gwestai Beca Lyne-Pirkis ar ei chyfres yr wythnos diwethaf. Dyma Sian yn sôn am wyliau gwahanol iawn gafodd hi yn y gorffennol... Mis mêl - Honeymoon Sa i’n gwybod - Dw i ddim yn gwybod Wedi gweini ar iâ - Served on ice Trwchus - Thick Amrwd - Raw Cig carw - Venison Anhygoel - Incredible Pert - Pretty Yn go gloi - Quite quickly Rhaglen Aled Hughes Mae Tegan Rees o Gwm Rhondda yn fyfyrwraig newyddiaduraeth, ond mae hi hefyd wedi cynrychioli Cymru mewn Bowlio Lawnt. Wythnos diwethaf ar raglen Aled Hughes mi ofynnodd Nia Parry (a oedd yn cyflwyno yn lle Aled Hughes) i Tegan, pryd dechreuodd hi chwarae bowls... Newyddiaduraeth - Journalism Cynrychioli - To represent Wastad - Always Chdi - Ti Pryderus - Concerned Cyffro - Excitement Braslun - Outline Rhaglen Caryl Parry Jones Ar Ynys Môn mae na griw o ferched yn nofio’n gyson yn y môr drwy’r flwyddyn hyd yn oed yng nghanol y gaeaf. Maen nhw’n nofio dan faner Nofwyr Titws Tomos Môn!! Dyma un ohonyn nhw, Sian, i sôn mwy wrth Caryl Parry Jones… Yn gyson - Regularly Hyd yn oed - Even Baner - Flag Titw Tomos - Blue Tit Calon - Heart Trochiad - Ducking Canmol - Praise
5/31/202312 minutes, 37 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr 23ain o Fai 2023

Pigion Dysgwyr – Ewan Smith ...ar ei raglen wythnos diwetha cafodd Aled Hughes sgwrs gydag awdur sydd hefyd yn siaradwr Cymraeg newydd, ac wedi dysgu Cymraeg i lefel uchel iawn. Ewan Smith yw ei enw, a dyma Aled yn ei holi’n gynta am ble yn union mae e’n byw… Cylchgronnau Merched Women’s magazines Aelod Member Hen Ferchetan Old Maid (title of folk song) Prif gymeriad Main character Am hwyl For fun Gwasg Press Cyhoeddi Publish Yn seiliedig ar Based on Yn addas i Suitable for Pigion Dysgwyr – Wil Rowlands Ewan Smith oedd hwnna’n sôn am ei nofel Hen Ferchetan sydd yn addas i ddysgwyr lefel Canolradd ac Uwch. Gwestai Beti George yr wythnos hon oedd yr artist o Ynys Môn, Wil Rowlands. Esboniodd Wil wrth Beti sut cwrddodd e â dau eicon enwog ar yr un diwrnod. Un oedd Andy Warhol a dyma Wil i esbonio pwy oedd y llall... Hap a damwain llwyr Pure luck Efrog Newydd New York Ynghlwm â Connected to Cynhadledd Conference Waeth i mi I might as well Cyfarwydd familiar Pen ar gam Head tilted Wedi llorio Floored Difaru To regret Manteisio To take advantage of Pigion Dysgwyr – Valmai Rees Cwrdd â Johnny Cash ond methu â chofio ei enw, doniol on’d ife? Roedd tad Valmai Rees o Foelfre ar Ynys Môn, yn gapten ar longau masnach ac yn cael teithio’r byd gyda’i swydd. Ond yr hyn sydd yn arbennig am Valmai yw ei bod hi a’i mam yn cael teithio gyda fe ar rai o’r teithiau yma. Ar raglen Dei Tomos yn ddiweddar buodd Valmai’n sôn wrth Dei am y profiad hwnnw… Llongau masnach Merchant ships Morwrol Sea-faring Del Pert Hynod o hardd Extremely pretty Ganwyd fi I was born Cefnforoedd Oceans Dim mymryn o ofn No fear whatsoever Pigion Dysgwyr – Debra Drake Hanes teulu morwrol Valmai Rees yn fanna ar raglen Dei Tomos. Ar Bore Cothi ddydd Mawrth cafodd Shan air gyda Debra Drake. Mae Debra wedi bod ar gyfres Sewing Bee ar y teledu. Dyma Debra yn dweud wrth Shan beth mae hi wedi bod yn ei wneud ers iddi hi fod ar y gyfres…. Cyfres Series Andros o dda Really good Gwnïo neu wau Sewing or knitting Gwaith saer Carpentry Cyflawni rhywbeth To achieve something Campwaith Masterpiece Goro Gorfod Pigion Dysgwyr – Seiclo …ac mae Debra Drake wedi bod yn brysur iawn ers iddi fod ar Sewing Bee on’d yw hi? Gwahoddodd Caryl Parry Jones Ben a Brond o Glwb Hoci Un Olwyn Caerdydd, i gael sgwrs fach ar ei rhaglen nos Fercher. Dyw Caryl erioed wedi eistedd ar feic un olwyn, a gofynnodd hi i Ben yn gynta ers pryd roedd e’n seico fel hyn… Olwyn Wheel Poblogaidd Popular Ymunais i â I joined Pigion Dysgwyr – Trey McCain Mae angen dipyn o sgil i chwarae hoci ar feic un olwyn on’d oes? Yn ddiweddar buodd Aled Huws ar ymweliad â Banc Bwyd Arfon ac yno gafodd air gyda Trey McCain, Americanwr sydd wedi dysgu Cymraeg yn rhugl. Dyma Trey yn sôn am pwy, a faint o bobl sydd yn ymweld â’r banc bwyd y dyddiau hyn….. Wedi cynyddu’n sylweddol Has increased substantially Yn ddiweddar Recently Yn gyson Consistently Profi caledi Suffering hardship Cywilydd Shame Cyfathrebu To communicate Hanfodol Essential Ti bo Rwyt ti’n gwybod
5/23/202314 minutes, 26 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr 16eg o Fai 2023

Pigion Dysgwyr - Catherine Woodword Wythnos diwetha ar ei rhaglen cafodd Shan Cothi sgwrs gyda Catherine Woodward. Roedd Catherine yn dathlu ei phen-blwydd yn 80 oed a dyma Shan yn gofyn iddi hi sut yn union oedd hi am ddathlu’r pen-blwydd arbennig hwn... Dathliadau Celebrations Cysylltu To contact Becso Poeni Gwisgo lan To dress up Noswaith i ryfeddu A wonderous evening Casglu To collect Bryd ‘ny At that time Pigion Dysgwyr – Betty Williams … a gobeithio bod Catherine wedi cael parti gwych on’d ife? Gwestai Beti George ar Beti a’i Phobl oedd cyn Aelod Seneddol Conwy Betty Williams. Dyma hi’n esbonio wrth Beti pam aeth hi i fyd gwleidyddiaeth yn y lle cynta… Cyngor Plwyf Parish Council Cludiant Transport Pwyllgorau Committees Yr awydd i gynrychioli The desire to represent Araith Speech Oedi To hesitate Mynwentydd Cemeteries Llwch llechen Slate dust Cydymdeimlad Sympathy Deddfu To legislate Pigion Dysgwyr – Ifan Gwilym Y cyn aelod seneddol Betty Williams oedd honna’n sgwrsio gyda Beti George. Dych chi’n credu mewn ofergoelion? Fasech chi’n cerdded o dan ysgol, neu pasio rhywun ar y grisiau? Carl ac Alun fuodd yn cadw sedd Trystan ag Emma yn dwym yn ddiweddar ac ofergoelion ym myd chwaraeon oedd un o’r pynciau buon nhw’n eu trafod ar y rhaglen. Dyma Ifan Gwilym i sôn mwy am hyn… Cyn aelod seneddol Former MP Ofergoelion Superstitions Twym Cynnes Tyfu barf To grow a beard Rownd cynderfynol Semi-final Hylendid Hygiene Y garfan The squad Trwy gydol Throughout Pigion Dysgwyr – Non Parry Ifan Gwilym oedd hwnna’n sôn am ofergoelion byd chwaraeon. Mae cyfres newydd o Ar Blât wedi cychwyn ar Radio Cymru gyda’r cogydd Beca Lyne-Perkis yn cyflwyno. Yn y bennod gynta ddydd Sul Non Parry o’r band Eden oedd y gwestai. Gofynnodd Beca iddi hi beth oedd ei hatgof cynta o goginio… Atgof cynta First memory Glöwr Coal miner Uwchben Above Arogl Smell Gallwn i ddychmygu I could imagine Llanast Mess Prysurdeb Rush Hylif Liquid Unigryw Unique Pigion Dysgwyr – Mullett Non Parry yn fanna’n cofio am brofiadau coginio ei phlentyndod. Beth sydd gan Rod Stewart, Paul McCartney, Dolly Parton a Miley Cyrus yn gyffredin…wel buon nhw i gyd gyda mullet ar un adeg. Dydd Mawrth diwetha ar Dros Ginio cafodd Jennifer Jones sgwrs gyda’r hanesydd ffasiwn Sina Haf i sôn am yr adfywiad sy wedi bod yn y steil gwallt arbennig yma…. Adfywiad Revival Eitha trawiadol Quite striking Poblogaidd Popular Gwar Nape of the neck Y ganrif gyntaf The first century Cerflun Statue Amlwg Obvious Pigion Dysgwyr – Twm Morys Wel y mullet amdani felly!! Bore Iau ar raglen Aled Hughes buodd y bardd Twm Morys yn rhoi ychydig o hanes y siantis môr. Ond oes yna draddodiad canu siantis yng Nghymru? Dyma Twm i sôn mwy… Traddodiad Tradition Perchnogion llongau Ship owners Cyflogi To employ Cyfandaliadau Shares Milwyr Soldiers Emynau Hymns Mor gyfarwydd â nhw So familiar with them Gwerin Folk Amrywio To vary
5/16/202313 minutes, 19 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr 9fed o Fai 2023

Pigion Dysgwyr – Sioned Lewis Sioned Lewis oedd gwestai Beti a'i Phobol, wythnos diwetha. Mae hi'n gwnselydd ac yn seicotherapydd a hi yw cwnselydd rhaglen Gwesty Aduniad ar S4C. Mae hi’n dod o Ddolwyddelan yn wreiddiol a buodd hi'n gweithio mewn sawl swydd wahanol, yn gwerthu tai, yn y byd teledu a gyda Mudiad Ysgolion Meithrin. Yn 1999 roedd rhaid i Sioned adael ei swydd oherwydd canser y fron ac roedd hynny’n adeg ofnadwy iddi hi. Ond yn y clip yma, sôn mae hi am ei ffrind gorau pan oedd hi’n ifancach... Pwdu To pout Golau Fair Del Pert Diog Lazy Crafu To scratch Gwrthod symud Refusing to move Wedi hen fynd Long gone Pigion Dysgwyr – Eluned Lee Sioned Lewis yn sôn am Pwyll ei cheffyl bach a’i ffrind gorau ar Beti a’i Phobol. Roedd rhaglen Shan Cothi yn rhoi sylw i wirfoddoli yr wythnos diwetha ac mae Eluned Lee yn gwirfoddoli gyda’r RSPB ar Warchodfa Ynys Lawd, Ynys Môn. Dyma hi i sôn ychydig am y Warchodfa… Gwarchodfa Ynys Lawd South Stack Nature Reserve Gwirfoddoli To volunteer Clogwyni Cliffs Nythu To nest Angerddol Passionate Braint Privilege Cyd-destun Context Goleudy Lighthouse Gweladwy Visible Y grug a’r eithin The heather and gorse Pigion Dysgwyr – Biden Mae Eluned yn amlwg wrth ei bodd yn gwirfoddoli ar Ynys lawd. Ar raglen fore Sul yn ddiweddar cafodd Elliw Gwawr gyfle i holi Robert Jones o dalaith Vermont yn yr Unol Daleithiau. Mae Robert wedi dysgu Cymraeg a dyma fe‘n sôn am y gwahaniaeth mae e’n ei weld rhwng y cyn Arlywydd Donald Trump a Joe Biden, gan ddechrau gyda Biden. Talaith State Cyn arlywydd Former President Yn iau Younger Pryderu To worry Pigion Dysgwyr – I Tunes Barn Robert Jones yn fanna am Joe Biden a Donald Trump. Mae hi’n ugain mlynedd ers i gwmni Apple lansio iTunes Store. Ar Dros Ginio bnawn Mawrth buodd John Hywel Morris sydd yn Uwch Reolwr gyda PRS yn esbonio wrth Jennifer Jones sut a pham dechreuodd yr arfer o lawrlwytho cerddoriaeth…… Uwch Reolwr Senior Manager Lawrlwytho To download Teyrnasu To reign Ffrydio To stream Diwydiant cerddoriaeth The music industry Elwa To profit Dioddef To suffer Poblogaidd Popular Darlledwyr Broadcaster Pigion Dysgwyr – Bryn Jones Wel ie, does dim llawer o siopau recordiau go iawn y dyddiau hyn nag oes, gyda chymaint o gyfle i lawrlwytho cerddoriaeth. Mae Bryn Jones yn byw yn Poznan, Gwlad Pwyl ac wedi priodi merch o’r wlad honno. Ond ei gariad cynta oedd tîm pêl-droed Wrecsam. Roedd tad Bryn yn ffan mawr o Wrecsam yn ogystal ond yn anffodus buodd e farw bedair blynedd yn ôl. Beth fasai tad Bryn wedi ei wneud o’r holl sylw sy wedi bod i dim pêl-droed Wrecsam yn ddiweddar tybed? Dyma Bryn yn sgwrsio gyda Carl ac Alun ar eu rhaglen arbennig nos Fawrth… Y pumdegau The 50’s Dw i’m Dw i ddim Ymysg Amongst Trychineb Disaster Gwead The fabric Cydnabod To acknowlege Pigion Dysgwyr – Linda Gittins Ac roedd y rhaglen honno yn cyd-fynd gyda thaith bws y tîm pêl-droed o gwmpas dinas Wrecsam a dw i’n siŵr basai tad Bryn wedi bod wrth ei fodd o weld cymaint o bobl ar y strydoedd i groesawu’r tîm. Ar ei rhaglen yr wythnos diwetha cafodd Shan Cothi sgwrs gyda Linda Gittins. Hi, Penri Roberts a’r diweddar Derek Williams oedd tîm creadigol sioeau Cwmni Theatr Maldwyn. Dyma Linda i sôn am daith y tîm i Lundain... Y diweddar The late Hwyrach Perhaps Gwrandawiadau Auditions Trio ein gorau glas Trying our best Ym mhob agwedd In every aspect Cefn llwyfan Back stage Lodes fach y wlad A country girl Rhywbeth byw Something live Gwefr Thrill Iasol Thrilling Boed hi’n Whether it be
5/9/202312 minutes, 37 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr 2il o Fai 2023

Pigion Dysgwyr – Geraldine MacByrne Jones Mae Geraldine MacByrne Jones yn yn byw yn Llanrwst, ond yn dod o’r Wladfa yn wreiddiol, sef y rhan o Ariannin ble mae’r Gymraeg yn dal i gael ei siarad. Yr wythnos diwetha buodd hi’n sgwrsio gyda Aled Hughes am sut mae’r ddwy wlad, Cymru a’r Ariannin wedi ei hysbrydoli i farddoni….. Ariannin Argentina Ysbrydoli To inspire Barddoni To write poetry Tirwedd Landscape Ysbryd Spirit Daearyddiaeth gorfforol Geography Dychymyg Imagination Ysgogi To motivate Digwyddiadau hanesyddol An historical event Pigion Dysgwyr – Dafydd Cadwaladr Mate ydy’r diod mwya poblogaidd yn y Wladfa ond basai nifer yn dweud mai te ydy diod mwya poblogaidd Cymru, ac roedd hi’n Ddiwrnod Rhyngwladol Yfed Te yn ddiweddar. Ar eu rhaglen fore Gwener buodd Trystan ac Emma yn sgwrsio gyda un sydd yn ffan enfawr o yfed te sef Dafydd Cadwaladr o Fethesda. Dyma fe i sôn am ei hoff de… Nodweddiadol Typical Arogl Aroma Cryfhau a chyfoethogi To strengthen and enrich Cwdyn Bag Ysgafnach Lighter Amrywiaethau Varieties Deilen A leaf Cychwyn crino Begins to wither Gwelltglaets Green grass Pigion Dysgwyr – Clare Mackintosh Dafydd Cadwaladr oedd hwnna’n sôn am ei hoff de. Ar ei rhaglen am y Celfyddydau, buodd Ffion Dafis yn sgwrsio gyda’r nofelwraig boblogaidd o ogledd Cymru, Clare Mackintosh. Dyma Clare yn esbonio ychydig am ei gyrfa cyn iddi ddod yn nofelwraig llawn amser… Poblogaidd Popular Cefndir Background Defnyddiol Useful Ymchwilio To research Troseddau Crimes Pigion Dysgwyr – Iola Ynyr Clare Mackintosh yn sôn am sut mae hi wedi dod â’i phrofiadau fel ditectif i mewn i’w nofelau. Dydd Sul ar Beti a’i Phobol, Iola Ynyr oedd y gwestai. Mae Iola yn cynnal gweithdai ‘Ar y Dibyn’ – sydd yn herio’r stereoteip o bobol sydd â dibyniaeth. Buodd Iola yn gaeth i alcohol ar un adeg ond mae hi wedi derbyn cymorth 12 cam ac mae hi’n sobor nawr ers dros bedair blynedd. Yn y clip nesa mae hi’n sôn am y prosiect Ar y Dibyn... Ar y dibyn On the edge Herio To challenge Dibyniaeth Addiction Yn gaeth i Addicted to Camdrin sylweddau Substance abuse Digon difyr Interesting enough Unigolion Individuals Llenyddiaeth Cymru Literature Wales O nerth i nerth From strength to strength Y weledigaeth The vision Yn benodol Specifically Pigion Dysgwyr – Bethan Wyn Jones A phob lwc i brosiect ‘ Ar y Dibyn’ on’d ife? Mae’r naturiaethwraig a’r ddarlledwraig Bethan Wyn Jones newydd ymddeol o ysgrifennu erthyglau a hefyd o gyfrannu i raglen byd natur Galwad Cynnar ar Radio Cymru. Buodd Dei Tomos ar ei raglen yn sgwrsio gyda hi’n ddiweddar gan ddechrau drwy ei holi am sut dechreuodd hi ysgrifennu colofn i’r Herald Cymraeg. Darlledwraig Broadcaster Rhywiogaethau Species Arfordir Môn Anglesey coast Planhigion meddigyniaethol Medicinal plants Y golygydd The editor Ymateb darllenwyr Readers’ response Rwbath rwbath Any old thing Wedi mynd i drafferth Had gone to the bother Pigion Dysgwyr – Aderyn y Mis Ac i aros gyda byd natur, bob mis ar raglen Shan Cothi mae’r adarwr Daniel Jenkins Jones yn sgwrsio gyda Shan am un aderyn penodol. Y tro yma roedd Heledd Cynwal yn cadw sedd Shan yn dwym a’r aderyn dan sylw gan Daniel oedd Gwennol y Bondo. Ydych chi’n gallu dweud y gwahaniaeth rhwng Gwennol y Bondo a Gwennol cyffredin? Dyma Daniel yn esbonio... Gwennol y Bondo House Martin Gwennol cyffredin An ordinary Sparrow Plu Feathers Gwddf Neck Cynffon fforchog Forked tail Pryfetach Insects Uchder Hight Tebygol Likely
5/2/202312 minutes, 39 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr 25ain o Ebrill 2023

Pigion Dysgwyr – Nia Williams Cafodd Aled Hughes gwmni y seicolegydd Nia Williams yr wythnos diwetha i drafod chwerthin. Pam bod ni chwerthin tybed, a pha effaith mae chwerthin yn ei gael ar y corff? Dyma Nia’n esbonio... Chwerthin Laughter Treiddio i mewn To penetrate Ymwybodol Aware Ysbrydoli To inspire Cadwyn A chain Pryderus Concerned Dygymod efo To cope with Dychwelyd To return Parhau To continue Pigion Dysgwyr – Andy Bell Nia Williams oedd honna’n sgwrsio gydag Aled Hughes am chwerthin. Am dros ganrif, Sydney oedd dinas mwyaf poblog Awstralia. Ond erbyn hyn Melbourne sydd gyda’r teitl hwnnw, ar ôl i ffiniau‘r ddinas newid i gynnwys rhannau o ardal Melton. Ond mae rhai 'Sydneysiders' fel mae nhw'n cael eu galw - yn anhapus - ac yn cwestiynu'r ffordd y mae Melbourne wedi mynd ati i ehangu. Cafodd y newyddiadurwr Andy Bell sy’n byw yn Awstralia air am hyn gyda Jennifer Jones ar Dros Ginio bnawn Mawrth….. Canrif Century Poblog Populous Ffiniau Borders Ehangu To expand Diffiniad Definition Maestrefi Suburbs Tyfiant Growth Tiriogaethau Territories Taleithiau States O ganlyniad As a consequence Pigion Dysgwyr – Delyth Badder Hanes brwydr dinasoedd Awstralia yn fanna gan y newyddiadurwr Andy Bell. Mae Dr Delyth Badder yn casglu hanes llên gwerin o Gymru ac credu’n gryf bod gwahaniaeth rhwng yr ysbrydion sy’n cael eu gweld yng Nghymru a’r rhai sy’n cael eu gweld yng ngweddill gwledydd Prydain, fel y buodd hi’n egluro wrth Rhys Mwyn, nos Lun... Llên gwerin Folklore Ysbrydion Spirits Cael eu crybwyll Being alluded to Dros Glawdd offa Over Offa’s Dyke Gwrachod Witches Tylwyth teg Fairies Amaethyddol Agricultural Ystrydebol Stereotyped Cynfas wen White sheet Ystyrlon Meaningful Pigion Dysgwyr – Cob Wel dyna ni, mae hyd yn oed ein gwrachod a’n tylwyth teg yn wahanol yng Nghymru! Yn ddiweddar buodd John Dilwyn yn sgwrsio gyda Dei Tomos ar ei raglen nos Sul am hanes adeiladu y Cob ym Mhorthmadog. Dyma John i sôn am William Alexander Maddox cynllunydd y Cob Dyn dŵad A stranger Ei hoel o His mark Magwraeth freintiedig A privileged upbringing Etifeddo eiddo To inherit property Tirfeddiannwr Landowner Bargyfreithiwr Barrister Gwaed Gwyddelig Irish blood Mi gladdwyd y tad His father was buried Harddwch Beauty Tynfa The pull Pigion Dysgwyr – Caryl Ac erbyn hyn wrth gwrs mae Ffordd Osgoi Porthmadog yn croesi’r Traeth Mawr, a does dim rhaid defnyddio’r Cob o gwbl. Daw Pegi Talfryn o Seattle yn wreiddiol a daeth i Gymru ar ôl syrthio mewn cariad â’r Gymraeg a chwedlau Cymraeg. Mae hi’n diwtor Cymraeg erbyn hyn ac wedi sgwennu nofelau arbennig ar gyfer dysgwyr. Ond mae yna genre arbennig o lyfrau sydd yn apelio at Pegi ar hyn o bryd, a dyma hi’n sôn mwy am hynny wrth Caryl Parry Jones Ffordd osgoi By-pass Chwedlau Fables Cyfuno To combine Ffuantus Bogus Annwfn The underworld Pigion Dysgwyr – Aled Hughes Pegi Talfryn oedd honna’n sôn am y math o lyfrau mae hi’n mwynhau eu darllen ar hyn o bryd. Daw Marta Listewnik o Poznan yng Nghwlad Pwyl a dydd Iau sgwrsiodd Aled Hughes gyda hi am ei chariad at y Gymraeg, gan ddechrau gyda’r gwaith mae hi wedi ei wneud yn cyfieithu nofel Caradog Pritchard, Un Nos Ola Leuad i Bwyleg…. Gwlad Pwyl Poland Pwyleg Polish I ba raddau To what extent Pa mor gyffredin How common Cydbwysedd balance Adolygiadau Reviews Cyfleu To convey Profiadau plentyndod Childhood experiences
4/26/202315 minutes, 2 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr 18fed o Ebrill 2023

Bore Cothi Dim ond ers blwyddyn mae Angharad Jones yn dysgu Cymraeg ac eto erbyn hyn mae hi’n ddigon rhugl i gynnal sgwrs ar Radio Cymru gyda Shan Cothi. Mae hi’n dod o Fedwas ger Caerffili a gofynnodd Shan iddi hi faint o Gymraeg oedd yn ei theulu... Pert Del Yn ôl According to Cenhedlaeth Generation Mo’yn Eisiau Llywodraeth Cymru The Welsh Government Ffili credu Methu coelio Yn gyffredinol Generally Llwyfan Stage Y Talwrn Angharad Jones oedd honna sydd wedi dysgu Cymraeg yn wych a hynny mewn blwyddyn yn unig. Cystadleuaeth rhwng timau o feirdd ydy Talwrn Radio Cymru ac yn aml iawn mae beirdd gorau a mwya profiadol Cymru yn cymryd rhan. Yr wythnos diwetha ar Y Talwrn, cynhaliwyd cystadleuaeth wahanol i’r arfer. Am y tro cyntaf dwy ysgol oedd yn cymryd rhan sef Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg ac Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr, Caerdydd a hynny yng Nghapel Bethel, Rhiwbeina. Pennill ymson Soliloquy Goruchwyliwr Invigilator Lleddf Miserable (but also = minor in music) Y gamp The achievement Dychmygu To imagine Diniwed Innocent Uniaethu To identify (with) Arswydus Frightening Cyfoes Modern Haeddu To deserve Ergyd A blow Beti a’i Phobol Dau bennill ymson arbennig yn fanna gan y disgyblion, a’r Meuryn, Ceri Wyn Jones, yn hapus iawn gyda’r ddau. Ar raglen Beti a’i Phobol, Al Lewis oedd y gwestai. Mewn sgwrs agored ac emosiynol ar adegau, buodd yn sôn wrth Beti am y profiad o golli ei dad yn ifanc a’r effaith gafodd hynny arno fe. Meuryn Adjudicator Marwolaeth Death Cyhoeddi To announce Anghyfforddus Uncomfortable Amddiffyn fy hun Defending myself Galar Bereavement Claddu To bury Cynhyrchydd Producer Degawd Decade
4/18/202311 minutes, 7 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr 11eg o Ebrill 2023

Pigion Dysgwyr – Al Lewis Ar Beti a’i Phobol dydd Sul diwetha cafodd Beti gwmni y cerddor Al Lewis fel gwestai. Esboniodd Al sut aeth e ati i sgwennu llythyrau ac i e-bostio er mwyn cael gwaith yn Nashville, Tennessee a llefydd eraill…… Cynhyrchydd Producer O fewn Within Cerddoriaeth Music Dychmygu To imagine Breuddwydion Dreams Hynod dalentog Extremely talented Profiad anhygoel An incredible experience Hwb A boost Ar y trywydd iawn On the right track Cael ei barchu Being respected Pigion Dysgwyr – Sonia Edwards Profiad anhygoel i Al Lewis yn fanna yn Nashville, Tenesse. Buodd y nofelydd Sonia Edwards yn sgwrsio gyda Dei Tomos ar ei raglen yr wythnos diwetha am ei nofel ddirgelwch newydd. Dyma Sonia i sôn mwy…. Llacio To loosen Dirgelwch Mystery Llofruddiaeth Murder Yn feddalach Softer Ymgynghori To consult Ymchwil To research Cyffuriau Drugs Darganfod To discover Yn ymarferol Practical Doethuriaeth PhD Pigion Dysgwyr – Jason Mohammad A dyna i chi Sonia Edwards yn rhoi blas i ni ar ei nofel ddirgelwch newydd fydd yn y siopau’n fuan. Un o westai Shelley a Rhydian yn ddiweddar oedd y darlledwr Jason Mohammad. Mae Shelley a Rhydian yn rhoi cyfle i’w gwestai bob wythnos ddewis caneuon Codi Calon. Un o ddewisiadau Jason oedd “Pride in the Name of Love” gan U2. Dyma fe i sôn mwy am ei ddewis….. Yn ddiweddar Recently Darlledwr Broadcaster Codi Calon Raising the spirits Cyfweliadau Interviews Watsio Gwylio T’m bod Rwyt ti’n gwybod Atgofion Memories Pigion Dysgwyr – Theatr Wild Cats Y darlledwr Jason Mohammad oedd hwnna’n esbonio pam mai “Pride in the Name of Love” oedd ei ddewis fel Cân Codi Calon. Ac roedd angen codi calon arno gan i’w dîm, Dinas Caerdydd, golli i Abertawe yn y ‘Derby’ Cymreig nes ymlaen y diwrnod hwnnw. Yn Aberhonddu mae yna gwmni theatr arbennig wedi ei sefydlu o’r enw Theatr Wild Cats sy’n gweithio gydag unigolion sydd ag anableddau dysgu. Mae Gwenno Hutchinson yn gwirfoddoli gyda’r Theatr ac esboniodd hi wrth Caryl Parry Jones ar ei rhaglen nos Fawrth, sut aeth ati i helpu’r criw….. Anableddau dysgu Learning disabilities Gwirfoddoli To volunteer Gweithgaredd Activity Yn gyfleus Convenient Haeddu To deserve Cyfraniad Contribution Cymdeithasu To socialise Celfyddydau Arts Pigion Dysgwyr – Vaughan Evans Gwenno Hutchinson oedd honna’n sôn am y gwaith pwysig mae Theatr Wild Cats yn ei wneud. Dych chi yn gwybod beth yw Northern Soul? Wel, daeth Vaughan Evans ar raglen Aled Hughes fore Llun wythnos diwetha i esbonio mwy am y symudiad cerddorol hwn…… Symudiad cerddorol Musical movement Tanddaearol Underground Curiad Beat Cefn gwlad The countryside Tywyll Dark Digalon Downhearted Pigion Dysgwyr – Dylan Rhys Parry A dyna ni’n gwybod llawer mwy am Northern Soul a’r Wigan Casino nawr, diolch i Vaughan Evans. Mae Dylan Rhys Parry wedi ei ddewis fel un o arweinwyr y rhaglen deledu S4C Ffit Cymru am 2023. Gweinidog yw Dylan sy’n byw yn Coety ger Pen-y-bont ar Ogwr, ond sy’n dod o Gaernarfon yn wreiddiol. Buodd Dylan yn sgwrsio gyda Heledd Cynwal fore Mercher diwetha a gofynnodd Heledd iddo fe’n gyntaf pam ei fod e wedi rhoi ei enw ymlaen i fod yn rhan o’r gyfres.…….. Gweinidog Minister Y gyfres The series Gwaed Blood Clefyd siwgr Diabetes Canlyniadau Results Ysgogiad Impetus Canrannau Percentages
4/11/202313 minutes, 58 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr 4ydd o Ebrill 2023

Cafodd Aled Hughes sgwrs wythnos diwetha gyda Sioned Mair am Fondue, bwyd sydd yn dod yn ôl i ffasiwn y dyddiau hyn. Ond beth yn union yw Fondue? Doedd dim syniad gydag Aled a dyma i chi Sioned yn esbonio… Toddi To melt Mae’n debyg Probably Amrwd Raw Rhannu To share Argymell To recommend Pigion Dysgwyr – Troi’r Tir Mae’n debyg bod Fondue yn un o nifer o fwydydd y 70au sy’n dod yn ôl i ffasiwn. Cyw iâr mewn basged unrhyw un? Mae Troi’r Tir ar Radio Cymru yn rhoi sylw i faterion ffermio a chefn gwlad, a’r wythnos diwetha dysgon ni ychydig am waith y fet. Mae Malan Hughes yn filfeddyg yn ardal Y Ffor ger Pwllheli a dyma hi yn rhoi syniad i ni o’r math o waith mae hi’n ei wneud o ddydd i ddydd…… Milfeddyg Vet Un ai Either Ymddiddori To take an interest in Ambell i lo Some calves Cathod di-ri Innumerable cats Pry lludw Wood lice Silwair Silage Ardal eang A wide area Pigion Dysgwyr - Maori Wel am fywyd prysur ac amrywiol sy gan milfeddygon on’d ife? I Seland Newydd nawr - ble mae Iwan Llyr Jones, sy'n dod o Finffordd ger Penrhyndeudraeth Gwynedd yn wreiddiol, yn byw. Cafodd Iwan ei ganmol ar-lein am iddo ddewis cael ei seremoni dinasyddiaeth yn Seland Newydd yn gyfan gwbl drwy’r iaith Maori. Dyma Iwan ar Dros Frecwast fore Iau yn esbonio wrth Dylan Ebenezer faint o’r iaith Maori sydd i’w chlywed yn Seland Newydd Canmol To praise Dinasyddiaeth Citizenship Ymateb Response Trawiadol Striking Sylw Attention Tyngu llw To swear an oath Tebygrwydd Similarity Pigion Dysgwyr – Nina Iwan Llyr Jones oedd hwnna’n sôn am y sylw gafodd e ar TiK ToK ar i’w bartner bostio’r seremoni dinasyddiaeth Maori ar Tik Tok. Cafodd Shan Cothi sgwrs gyda Nina Evans Williams yr wythnos diwetha. Llwyddodd Nina i ennill cystadleuaeth addurno cacennau Salon Culinaire yn Llundain yn ddiweddar. Ynys Môn oedd yr ysbrydoliaeth dros ei haddurniad a buodd Nina’n sôn wrth Shan Cothi sut aeth hi ati i gynrychioli’r Ynys ar ei chacen... Addurno To decorate Yn ddiweddar Recently Cynrychioli To represent Ysbrydoliaeth Inspiration Teyrnged Tribute Golygfeydd hardd Lovely scenery Arfordir Coastline Goleudy Lighthouse Tonnau Waves Pigion Dysgwyr – Elin Angharad Ac o un artist at artist arall. Gwestai Beti George yr wythnos diwetha oedd y grefftwraig lledr o ganolbarth Cymru Elin Angharad. Mae gwaith celf wedi bod o ddiddordeb mawr i Elin ers pan oedd hi’n ifanc. Buodd hi’n astudio cwrs celf yn y Brifysgol yng Nghaerdydd, ac erbyn hyn mae hi wedi cychwyn busnes ei hunan yn dylunio a chreu cynnyrch lledr ym Machynlleth. Dyma hi’n sôn am draddodiad crefft ei theulu Dylunio To design Lledr Leather Gwneuthurwr dreser Cymreig Welsh dresser maker Anghyffredin Unusual Diwydiant cig Meat industry Lladd-dai Abattoirs Cymhorthydd Assistant Cymharol fach Relatively small Gwledig Rural Dio’m bwys Does dim ots Pigion Dysgwyr – Kamalagita Elin Angharad oedd honna ar Beti a’i Phobol yn sôn am ei theulu ac am ei gwaith yn dylunio a chreu cynnyrch lledr. Yr wythnos diwetha ar ei raglen cafodd Rhys Mwyn sgwrs gyda Kamalagita Hughes o Dreorci. Dysgodd Kamalagita Gymraeg ar ôl un noson fythgofiadwy mewn clwb yn y de, ble roedd band Cymraeg yn chwarae. Dyma hi i sôn mwy am y noson honno…. Bythgofiadwy Unforgettable Egni Energy Diwylliant Culture Ieuenctid Youth
4/3/202314 minutes, 9 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr 28ain o Fawrth 2023

Pigion Dysgwyr – Fiona Bennett Weloch chi’r gyfres ‘The Piano’ oedd ar y teledu yn ddiweddar? Cyfres oedd hon sy’n rhoi cyfle i bianydd amatur chwarae o flaen panel o feirniaid i drio ennill gwobr, sef perfformio yn y Festival Hall yn Llundain. Un gymerodd ran yn y gyfres oedd y gantores Fiona Bennet a buodd hi’n siarad gyda Shan Cothi am y profiad Beirniaid Judges Cyfres Series Credwch e neu beidio Believe it or not Cyfrinach Secret Cyfansoddi To compose Angladd Funeral Hysbys(eb) Advert Mabwysiadu milgwn Adopting greyhounds Dere lan Tyrd i fyny Ar bwys ein gilydd Wrth ymyl ein gilydd Pigion Dysgwyr – Beti George Ychydig o hanes Fiona Bennett ar y gyfres ‘The Piano’ yn fanna ar Bore Cothi. Buodd Delyth Morgan yn chwarae rygbi dros Gymru yn y gorffennol ac nawr mae hi'n rheoli tîm rygbi merched Cymru dan 18 ac 20 oed. Ond ugain mlynedd yn ôl symudodd hi i fyw i Seland Newydd. Cafodd hi waith yno, priododd hi a buodd hi'n datblygu rygbi merched yno. Dyma Delyth yn sôn wrth Beti George am ble roedd hi yn byw pan oedd hi yn Seland Newydd... Datblygu To develop Deugain munud 40 minutes Deg ar hugain o winllannoedd 30 vineyards Ariannin Argentina Selsig yn y rhewgell Sausages in the fridge Rhyddid Freedom Sefydlu To found Gweithgareddau corfforaethol Corporate activities Tu hwnt Beyond Pigion Dysgwyr – Finyl On’d yw bywyd yn Waiheke yn swnio’n wych? Delyth Morgan oedd yn disgrifio’r ynys ar Beti a’i Phobol. Am y tro cynta mewn tri deg pump o flynyddoedd mae mwy o recordiau finyl yn cael eu gwerthu na CD’s. Beth yw’r apêl felly? Dyna ofynnodd Jennifer Jones i’r ffan finyl Aled Llewelyn ar dros Ginio bnawn Mawrth Cloriau Covers Hel To collect Adnabyddus Famous Y cyfrwng penodol The specific medium Yn tyrchu drwy Rummaging through Ansawdd Quality Gwatsiad Gwylio Unigryw Unique Plethu Meshing Seinydd clyfar Smart speaker Pigion Dysgwyr – Cerdded Nordig Pwy fasai wedi meddwl flynyddoedd yn ôl, on’d ife, byddai finyl yn dod yn ôl i ffasiwn? Nos Fawrth ar ei rhaglen cafodd Caryl Parry Jones sgwrs gyda Catrin o Nordig Cymru. Math o gerdded a chadw’n heini yw Cerdded Nordig, a holodd Caryl Catrin sut dechreuodd ei diddordeb yn y maes. Mwyafrif Majority Traws gwlad Cross country Yn fwy ddiweddar More recently Hyfforddi Training Pigion Dysgwyr Wel dyna i chi ffordd wahanol o gadw’n heini – Cerdded Nordig. Mae Rhian Mills yn ymgynghorydd cwsg, sef person sydd yn helpu pobl i sefydlu patrymau cwsg ac mae busnes gyda hi o’r enw Rested Mama. Cafodd Rhian sgwrs gydag Aled Hughes fore Mercher diwetha gan roi cyngor i ni am beth i’w wneud tasen ni’n deffro ganol nos...…… Ymgynghorydd cwsg Sleep Consultant Cyngor Advice Ail-afael To rekindle Beryg ei bod ar ben That’s it, probably Syth bin Straight away Canolbwyntio To concentrate Synnwyr Sense Pigion Dysgwyr – Olwen Jones Cyngor da gan Rhian yn fanna am sut i fynd yn ôl i gysgu ar ôl deffro ganol nos. Cafodd Olwen Jones ei llun yn ‘The Daily Telegraph’ yn ddiweddar i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched. Mae Olwen a’i theulu yn ffermio ger Tregaron a buodd hi’n rhoi hanes tynnu’r llun wrth Shan Cothi ... Diwrnod Rhyngwladol y Merched International Woman’s Day Cartrefol dros ben Very homely Cwtsio lan Cuddling up Cwympo mewn cariad Falling in love Cylchgronau byd eang Worldwide magazines Sulgwyn Whitsun Ar yr amod On condition
3/27/202314 minutes, 20 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr 21ain o Fawrth 2023

Pigion Dysgwyr – Doctor Cymraeg Cafodd Steven Rule ei eni yn Nghoed-llai ger yr Wyddgrug ond mae llawer yn ei nabod erbyn hyn fel y Doctor Cymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol. Ar Twitter mae Steven yn ateb cwestiynau dysgwyr Cymraeg am yr iaith. Gofynodd Aled Hughes iddo fe’n gynta, gafodd Steven ei fagu ar aelwyd Cgymraeg? Aelwyd Home Cyfryngau cymdeithasol Social media Yr Wyddgrug Mold Bodoli To exist Bellach By now Fel petai As it were Ar y ffin On the border Anogaeth Encouragment Pigion Dysgwyr – Dawnswyr Mon On’d yw hi’n braf cael clywed am blant y ffin yn cael Dysgu Cymraeg? Daliwch ati Doctor Cymraeg! Buodd Mair Jones yn sgwrsio gyda Shan Cothi ar ei rhaglen yr wythnos diwetha yn apelio am aelodau newydd i ymuno â chriw Dawnswyr Môn. Dyma Mair i esbonio yn gynta sut a pryd ffurfiwyd y grŵp... Mi ddaru John sefydlu John formed Treulio To spend (time) Y clo The lockdown Ail-gydio To rekindle Gwlad Pwyl Poland Cynulleidfaoedd Audiences Anferth Huge Yn rhwydd Yn hawdd Yn helaeth Extensively Pigion Dysgwyr – Geraint Roberts Felly os dych chi’n byw yn y gogledd orllewin ac eisiau dysgu dawnsio gwerin , cysylltwch â dawnswyr Môn. Fe gafodd Trystan ac Emma gwmni y pibydd o Ystradgynlais Geraint Roberts ar eu rhaglen yn ddiweddar. Mae Geraint yn chwarae’r bib Gymreig mewn gorymdeithiau a phriodasau, a bu’n esbonio beth yn gwmws yn ei farn e yw eu hapel Mewn – gallech chi ddweud Allan – I ddweud y gwir Hyd – 1’39” Pigion Dysgwyr – Pryd Ma Te Felly os dych chi’n byw yn y gogledd orllewin ac eisiau dysgu dawnsio gwerin , cysylltwch â dawnswyr Môn. Nos Lun ar ei raglen gwahoddodd Rhys Mwyn - Mair Tomos Ifans, Carys Huw, Sian Wheway a Nia Owens i’r stiwdio. Yn yr 80au ffurfion nhw fand o’r enw Pryd Ma Te. Dyma Mair Tomos Ifans yn gynta i sôn am ba offeryn roedd hi yn chwarae yn y band Offeryn Instrument Mi ddaru ni benderfynu Penderfynon ni Genod Merched Chdi Ti Pigion Dysgwyr – Quincy Jones Criw Pryd Ma Te yn fanna’n cofio dyddiau cynnar y band efo Rhys Mwyn. Ddydd Mawrth diwetha roedd y cerddor a’r cyfansoddwr Quincy Jones yn dathlu ei benblwydd yn 90 oed. Ar Dros Ginio y diwrnod hwnnw cafodd y cerddor jazz Tomos Williams gyfle i edrych yn ôl dros ei yrfa, gan ddechrau drwy sôn am ble gafodd Jones ei fagu….. Y cerddor a’r cyfansoddwr The musician and composer Ardal ddiwydiannol Industrial area Hiliaeth Racism Rhaglenni dogfen Documentaries Llygod Ffrengig Rats Cnewyllyn o brofiadau A grain of experiences Y tu hwnt i Beyond Tlodi enbyd Extreme poverty Ysgoloriaeth Scholarship Mireinio ei grefft To refine his craft Pigion Dysgwyr – Berwyn Rowlands Bach o hanes Quinzy Jones yn fanna ar ddiwrnod ei benblwydd yn 90 oed. Gwestai Beti George ar Beti a’i Phobol bnawn Sul oedd Berwyn Rowlands. Berwyn oedd sylfaenydd gwyl ffilmiau Iris sef gwyl ffilmiau ar gyfer y gymuned LGBTQ+ . Dyma fe i sôn am ei ddyddiau Ysgol ar Ynys Môn Sylfaenydd Founder Mynedfa Entrance Babanod Infants Arlunio Painting Gwnïo Sewing Cofrestr register Gydol yr wythnos Throughout the week Ymddangos To appear Chwysu chwartiau Sweating like a pig ( lit: sweating quarts) Pigion Dysgwyr – Sandra de Pol Dw i’n meddwl bod ysgolion Môn wedi newid yn fawr ers dyddiau ysgol Berwyn Rowlands. Wel gobeithio on’d ife? Dros yr wythnosau nesa bydd Aled Hughes yn sgwrsio gyda rhai o enillwyr Gwobr Dysgwr Cymraeg y Flwyddyn y gorffennol i nodi 40 mlynedd er cychwyn y wobr. Wythnos diwetha dechreuodd Aled drwy holi enillydd y flwyddyn 2000 sef Sandra De Pol sy’n dod o’r Ariannin yn wreiddiol ond sydd nawr yn byw yng Nghaerdydd ac yn gweithio fel tiwtor Cymraeg. Ariannin Argentina Adfywio To revive Disgynyddion Descendants Diwylliant Culture Enwebu To nominate Cyfweliadau Interviews Cyfathrebu To communicate Ymdrech Attempt Hynod o arwyddocaol Very significant Heriol Challenging
3/21/202316 minutes, 42 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr 14eg o Fawrth 2023

Pigion Dysgwyr – Adam yn Yr Ardd Dyn ni i gyd wedi clywed, mae’n siŵr, am brinder a chostau tomatos yn ein siopau ni a dyma flas i chi ar sgwrs gafodd Shan Cothi gyda’r garddwr Adam Jones neu Adam yn yr Ardd am y ffrwyth yma. Mae Adam yn credu dylen ni dyfu tomatos ein hunain. Dyma fe’n sôn yn gynta’ am sawl math o domatos sydd yn bosib i ni eu tyfu. Prinder Scarcity Tueddol o To tend to Yn glou Quick Aeddfedu To ripen Tŷ gwydr Greenhouse Anferth Huge Hadau Seeds Chwynnu To weed Olew olewydd Olive oil Maethlon Nutritious Pigion Dysgwyr - Pat Morgan Ffwrdd a ni i’r tŷ gwydr felly i dyfu tomatos… Gwestai Beti George ar Beti a’i Phobl bnawn Sul oedd y cerddor Pat Morgan oedd yn aelod, gyda David R Edwards, o’r band chwedlonol Datblygu. Yn anffodus buodd David farw ddwy flynedd yn ôl, ond mae gan Pat atgofion melys iawn ohono…… Chwedlonol Legendary Atgofion Memories Wedi dwlu Wedi gwirioni Wastad Always Sbort Fun Pigion Dysgwyr – Elin Roberts Pat Morgan oedd honna’n rhannu ei hatgofion am Dave Dablygu. Dylunydd coron Eisteddfod Genedlaethol eleni yw Elin Roberts. Mae Elin yn gweithio allan o weithdy yng Nghaernarfon ac aeth Aled Hughes draw ati hi wythnos diwetha i weld sut oedd y paratoadau yn mynd ymlaen Dylunydd Designer Paratoadau Preparations Undeb Amaethwyr Cymru Farmers Union of Wales Wedi cael ei gymeradwyo Had been approved Ysbrydoliaeth Inspiration Gorffenedig Finished Sgerbwd Skeleton Yn hytrach na Rather than Gwres heat Hoel llosg A burn mark Llechen Slate Pigion Dysgwyr – Bryn Fon A gobeithio, on’d ife, bydd yna goroni yn yr Eisteddfod eleni er mwyn i ni gyd gael gweld coron Elin Roberts. Gwestai Rhys Mwyn ar ei raglen nos Lun oedd y canwr a’r actor Bryn Fôn. Buodd Bryn yn sôn am ei yrfa ym myd cerddoriaeth, gan ddechrau gyda’r teimlad mae’n gael wrth gamu ar lwyfan i berfformio. Camu ar To step on Ymateb Response Difyrach More interesting Addoli To worship Gwerthfawrogi To appreciate Cysur Comfort I ryw raddau To some extent Cael eu denu Being drawn to Cerddorion Musicians O ddifri Seriously Pigion Dysgwyr – Munud I Feddwl Bryn Fôn oedd hwnna’n sgwrsio gyda Rhys Mwyn. Bob bore ar raglen Shan Cothi dyn ni yn cael clywed gwahanol unigolion yn rhoi Munud i Feddwl i ni. Dechrau’r wythnos diwetha tro Huw Tegid oedd hi, a dyma fe’n sôn am rywle arbennig mae e’n mynd heibio iddo wrth deithio ar yr A470. Cyfarwydd Familiar Swyn Charm Dychmygu To imagine Gwibio To dart Cul a serth Narrow and Steep Brigau Twigs Llethrau Slopes Yn drech na Greater than Yn cael ei roi o’r neilltu Aside Anogaeth Encouragement Pigion Dysgwyr – Bethan Jones Geiriau doeth Huw Tegid yn fanna yn rhoi mwy na munud i feddwl i ni. Nos Fercher ar ei rhaglen cafodd Caryl Parry Jones sgwrs gyda Bethan Jones. Mae Bethan yn aelod o Glwb Blodau Celyn yn ardal Aberaeron a dyma hi’n sôn am y blodau dyn ni’n debyg o’u gweld ar ddechrau’r gwanwyn fel hyn… Doeth Wise Lili wen fach Snowdrop Saffrwn Crocus Bodlon Content Wedi cael ei sefydlu Has been established Deugain 40
3/14/202314 minutes, 9 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr 7fed o Fawrth 2023

Pigion Dysgwyr – Handel Cyfansoddwr y mis ar raglen Shan Cothi fore Llun oedd George Freidric Handel. Ymunodd Geraint Lewis â Shan i sôn mwy am y ffigwr mawr yma ym myd cerddoriaeth glasurol. Dechreuodd Geraint drwy sôn am dad Handel… Cyfansoddwr Composer Parchus Respectable Cyfreithiwr Lawyer Offerynnau Instruments Colli ei dymer Losing his temper Cwato To hide Dianc To escape Deifiol Crafty Iachawdwriaeth! Goodness! (lit: salvation) Wrth reddf Instinctive Pigion Dysgwyr – Coffi Y cyfansoddwr Geraint Lewis oedd hwnna’n disgrifio sut dechreuodd gyrfa arbennig iawn Handel. Pnawn Llun ar Dros Ginio cafodd Cennydd Davies sgwrs gyda pherchennog cwmni coffi Poblado yn Nantlle, Gwynedd, sef Steffan Huws. Diben y sgwrs oedd ceisio dod i ddeall pam bod y diwydiant a’r diwylliant coffi mor boblogaidd y dyddiau hyn. Diben Purpose Diwydiant a diwylliant Industry and culture Deniadol Attractive Arogl Smell Cymdeithasol Social Hel atgofion Reminiscing Mam-gu a tad-cu Nain a taid ` Pigion Dysgwyr – William Owen Roberts Cennydd Davies a Steffan Huws oedd y rheina’n sôn am boblogrwydd coffi. Tasai rhaid i chi symud tŷ, oes yna bethau dylech chi gael gwared ohonyn nhw cyn i chi symud? Credwch neu beidio llyfrau mae’r awdur William Owen Roberts eisiau eu gwaredu, gan ei fod yn bwriadu symud tŷ yn fuan. Dyma fe’n esbonio pam wrth Beti George... Cael gwared o/gwaredu To get rid of Cafn Trough Llwythi Loads Tomen A heap Hel To collect Rhif y gwlith Innumerable (lit: as numerous as the dewdrops) Gwadd To invite Methu dygymod â Can’t cope with Troednodyn Footnote Pigion Dysgwyr – CBD Yr awdur William Owen Roberts ddim yn hoff iawn o Kindle felly, dych hi’n cytuno gyda fe bod cael llyfr go iawn yn well? Bore dydd Mawrth ar ei raglen buodd Aled Hughes yn sgwrsio gyda Dafydd Leigh o Benybont, perchennog cwmni Joio CBD. Chwe blynedd yn ôl sylwodd Dafydd bod newidiadau bach yn digwydd yn ei iechyd, a chafodd ddiagnosis o Ulceritive Colitis, sydd yn gyflwr difrifol iawn. Dyma Dafydd yn sôn am beth wnaeth e ei hunan i drio gwella ei iechyd, ac osgoi cymryd gormod o dabledi. Cyflwr difrifol Serious condition Anghyfreithlon Illegal Ymchwil Research Yn y pendraw In the end Creu olew fy hun Create my own oil Cyfrifoldeb Responsibility Lleihau To reduce Arwain To lead Pigion Dysgwyr – Owen Williams A phob lwc i Dafydd o ran ei iechyd a’i fusnes on’d ife? Ar raglen Caryl Parry Jones nos Fawrth, rhoddodd Caryl her i Owen Williams i greu Coctel arbennig i ddathlu Dydd Gwyl Dewi a dyma i chi gyngor Owen ar sut i wneud coctel Cymreig. Her A challenge Cyngor Advice Awgrymu To suggest Ysgawen Elderflower Siglo To shake Pigion Dysgwyr - Tryweryn Beth fasai Dewi Sant yn ei feddwl o goctel yn cael ei greu i ddathlu ei ŵyl, tybed? Mae yna bodlediad newydd wedi ei ryddhau ar BBC Sounds dan y teitl Drowned. Cyflwynydd y Podlediad ydy Betsan Powys a buodd hi’n sgwrsio amdano gyda Kate Crockett fore Mercher. Dyma i chi flas ar y sgwrs... Cyfrwng Medium Yn gyfarwydd Familiar Parhau To continue Arwyddocâd Significance Yn gyfansoddiadol Constitutionally Euog Guilty Tueddiad A tendency Prif beiriannydd Chief engineer Yn llwyr ddeall Completely understand Haenau Layers
3/7/202314 minutes, 19 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr 28ain o Chwefror 2023

Pigion Dysgwyr – Heledd Sion ...dwy Heledd - Heledd Cynwal a’r gwestai ar ei rhaglen, Heledd Sion. Buodd y ddwy yn sôn am fyd ffasiwn ac yn arbennig felly am ddillad ail law. Dyma Heledd Sion yn esbonio sut dechreuodd ei chariad hi at ffasiwn, a pham aeth hi ati i werthu hen ddillad ar y we Uwch seiclo To upcycle Gwinio To sew Cyfnither Female cousin Gwehyddu Weaving Yn llonydd Still Addasu To adapt Awch Eagerness Esblygu To evolve Didoli To sort Buddsoddi To invest Pigion Dysgwyr - Francesca Sciarillo Heledd Cynwal yn fanna’n cadw sedd Shan Cothi’n gynnes ac yn sgwrsio gyda Heledd Sion am uwch seiclo dillad. Francesca Sciarillo oedd Dysgwr y Flwyddyn yr Urdd yn 2019 ac eleni mae hi wedi bod yn gweithio fel tiwtor Cymraeg i Oedolion. Eidalwyr ydy rhieni Francesca, ac ar raglen Dei Tomos nos Sul buodd hi’n dweud faint o ddylanwad gafodd ei hathrawes Gymraeg arni, sef Nia Williams, pan oedd Francesca yn ddisgybl yn Ysgol Alun yr Wyddgrug . Disgybl Pupil Yr Wyddgrug Mold Dylanwad Influence Eidales Italian (female) Sylweddoli To realise Darganfod To discover Pigion Dysgwyr – Dion Davies Ac mae Francesca newydd gael ei phenodi fel swyddog hybu darllen yn adran blant y Cyngor Llyfrau. Pob lwc iddi yn ei swydd newydd on’d ife? A sôn am lwc, prynodd yr actor Dion Davies docyn loteri pan oedd e’n ymddangos mewn pantomeim yn Aberdaugleddau fis Rhagfyr, ond anghofiodd e bopeth am y tocyn. Dyma Dion yn sôn am beth ddigwyddodd pan oedd e’n gwagio ei gar ddechrau Chwefror… Ymddangos To appear Gwagio To empty Hap a damwain Chance Sa i’n gallu Dw i ddim yn medru Pencadlys Headquarters Pigion Dysgwyr – Costa Rica Dyna beth yw sioc braf i’w chael – gwagio’r car a ffeindio eich bod wedi ennill pum deg pump o filoedd o bunnau ar y loteri! Nos Lun roedd y naturiaethwr Iolo Williams yn sôn am ei ymweliad â Costa Rica. Gwlad fechan ydy hi, tebyg i Gymru ond mae sawl peth yn wahanol rhwng y ddwy wlad a dyma Iolo‘n sôn ychydig am y gwahaniaethau rhwng Costa Rica a Chymru… Dylanwad Influence Argraff Impression Amrywiol Varied Gwlad werdd A green country Tebygrwydd Similarity Cynefinoedd Habitiats Amcangyfrif Estimate Gorchuddio To cover Ugain y cant 20% Pigion Dysgwyr – Angela Owen Mae Iolo Williams yn amlwg wrth ei fodd gyda Costa Rica, on’d yw e? Nos Iau ar ei rhaglen cafodd Caryl Parry Jones sgwrs gyda Angela Owen. Mae Angela a’i ffrindiau wedi sefydlu Clwb Cerdded yn Mhen Llŷn a dyma hi‘n esbonio pam gwnaeth hi benderfynu sefydlu’r clwb arbennig yma yn y lle cynta Sefydlu To establish Awyr iach Fresh air Anhygoel Incredible Diogel Safe Pigion Dysgwyr – Jac y Do Angela Owen oedd honna’n sôn am lwyddiant Clwb Cerdded Pen Llŷn. Bob mis mae Daniel Jenkins Jones yn sgwrsio ar raglen Shan Cothi am aderyn y mis. A’r aderyn y mis yma oedd Jac y Do. Heledd Cynwal oedd unwaith eto’n cadw sedd Shan yn gynnes ddydd Mercher a dyma i chi flas ar y sgwrs cafodd hi gyda Daniel. Jac-y-Do Jackdaw Golygfa aeafol Winter scenery Ar ein gwarthau ni Imminent Heidio To flock Drudwennod Starlings Gwlad yr haf Somerset Wrth iddi nosi As the night draws in Cynrhon Maggots Enw torfol Collective noun
2/28/202313 minutes, 37 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr 21ain o Chwefror 2023

Pigion Dysgwyr – Aled Hughes 13.2 Sut beth oedd golchi dillad cyn dyddiau peiriannau golchi, neu cyn dyddiau trydan hyd yn oed? Wel, yn ystod yr wythnos diwetha yn yr Amgueddfa Lechi Genedlaethol yn Llanberis, buodd plant ysgol yn cael gwybod mwy am hyn gan ‘ Anti Marged’ sef yr actores Rhian Cadwaladr. Dyma Mari Morgan o’r Amgueddfa yn sôn wrth Aled Hughes am y digwyddiad…… Amgueddfa Lechi Genedlaethol National Slate Museum Dathlu arferion Celebrating the custom Diwrnod penodol A specific day Plantos Kids Cyflwyno Presented Cymhleth Complicated Rhoi benthyg To lend Teimlo trueni To pity Bwrdd sgwrio Scrubbing board Chwarelwyr Quarrymen Pigion Dysgwyr - Jo Heyde Plant y gogledd yn cael dipyn o sioc dw i’n siŵr o ddysgu sut oedd golchi dillad ers talwm gan ‘Anti Marged’. Dim ond ers pedair blynedd mae Jo Heyde (ynganiad – Haidy Cymraeg) o Lundain wedi dechrau dysgu Cymraeg, ac mae hi erbyn hyn yn bwriadu dod i Gymru i fyw. Dyma hi’n dweud wrth Dei Tomos pryd dechreuodd ei diddordeb hi yn y Gymraeg. Cyfnod Period Yn awyddus Eager Gwasanaethau Services Diolchgar Thankful Yn raddol fach Gradually Yn ei chyd -destun In its context Mynd ati To go about it Wedi fy machu i Has got me hooked O’ch pen a’ch pastwn eich hun By your own devices Yn reddfol Instinctively Pigion Dysgwyr – Emma Lyle 14.2 Stori wych Jo Heyde oedd honna , sydd yn rhugl yn y Gymraeg ar ôl ei dysgu am bedair blynedd yn unig. Lansiwyd y ddol Barbie ar ddiwedd y 50au, ond mae natur a phwrpas y ddol wedi newid yn fawr er hynny. Ar Dros Ginio cafodd Jennifer Jones gyfle i holi un o ffans Barbie, Emma Lyle, am y newidiadau hyn... Torri tir newydd Breaking new ground Dychmygu To imagine Bob lliw a llun All sorts Yn ei chyfanrwydd In its totality Yn ddihangfa o realiti An escape from reality Cynhwysol Inclusive Cadair olwyn Wheelchair Ehangu To expand Yn berthnasol Relevant Uniaethu â To identify with Pigion Dysgwyr – Bryn Tomos 14.2 Mae Barbie yn sicr wedi newid yn fawr ers fersiwn gwreiddiol y pumdegau , ond tybed beth yw hanes ei chariad Ken y dyddiau hyn? Nos Fawrth lansiodd Caryl Parry Jones slot newydd ar ei rhaglen sef “24 awr yn…….”a Betws-y-Coed oedd dan y chwyddwydr yn y slot cynta. Sut le oedd y pentref i dyfu fyny ynddo, oedd cwestiwn Caryl i Bryn Tomos - un gafodd ei fagu yno. O dan y chwyddwydr Under the magnifying glass I raddau To an extent Wst ti be? Do you know what? Fatha mywion Like ants Wnaeth o fy nharo i It struck me Y llwybrau a’r golygfeydd The paths and scenery Pigion Dysgwyr – Mattie Roberts Darlun o Fetws-y-Coed yn fanna gan Bryn Tomos, gaeth ei fagu yn y pentref. Mae Mattie Roberts o Gaerdydd wedi bod yn codi arian ar gyfer ysgol yn Accra, prif ddinas Ghana, ers blynyddoedd. Dyma hi’n sôn wrth Shan Cothi am yr ysgol a pham ei bod hi’n awyddus i’w helpu...….. Prif ddinas Capital Adnoddau Resources Hynod o anodd Extremely difficult Pigion Dysgwyr – John Thomas 13.2 A gobeithio bydd Mattie’n llwyddiannus drwy godi arian unwaith eto i helpu’r ysgol yn Ghana on’d ife? Ar ei raglen mae Ifan Evans yn sgwrsio gyda chynrychiolwyr timau rygbi ar draws y wlad, a’r wythnos diwetha tro y Strade Sospans oedd hi. Cafodd Ifan air gyda John Thomas cadeirydd y tîm hwnnw…. Cynrychiolwyr Representatives Anhygoel Incredible Cynyddu ein niferoedd Increasing our numbers Undeb Rygbi The Rugby Union
2/21/202313 minutes, 46 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr 14eg o Chwefror 2023

Pigion Dysgwyr – Dion Mae Dion Paden, sy’n dod o Gerrigydrudion yn Sir Conwy yn wreiddiol, wedi symud i fyw i Darwin yng ngogledd Awstralia, ac yn ddiweddar cafodd Shan Cothi gyfle i sgwrsio gyda Dion. Gofynnodd Shan iddo fe’n gynta pam symudodd e i Awstralia? Yn ddiweddar Recently Pigion Dysgwyr - Meinir Dion o Darwin yn siarad gyda Shan Cothi yn fanna. Ar raglen Beti a’i Phobol ddydd Sul y gwestai oedd Meinir Thomas o Ynys Môn. Mae Meinir yn chwarae hoci i dîm dros 55 Menywod Cymru. Mae hi’n hoffi nofio gwyllt hefyd a dyma Meinir i ddweud beth sydd mor arbennig am nofio ym mhob tywydd a hynny drwy’r flwyddyn. Menywod Merched Arnofio To float Tonnau Waves Plentyndod Childhood Golwg gwirion arna i I looked ridiculous Be ar y ddaear…? What on earth…? Gwefreiddiol Thrilling Morlo Seal Pigion Dysgwyr – Dros Ginio 6.2 Meinir yn poeni dim am beth mae pobl yn ei feddwl amdani’n nofio’n wyllt, chwarae teg iddi hi. Gwestai Dewi Llwyd yn y slot 2 cyn 2 ar Dros Ginio bnawn Llun oedd y cyn bêl-droediwr a’r arlunydd Owain Vaughan Williams, a’i frawd Gethin. Mae Owain erbyn hyn yn hyfforddi gôl-geidwaid Fleetwood Town ac mae Gethin yn gerddor ac yn drydanwr. Dyma’r ddau yn sôn am rywbeth anffodus ddigwyddodd yn eu plentyndod… Arlunydd Artist Gôl-geidwaid Goalkeepers Yn gerddor ac yn drydanwr A musician and electrician Sail Basis Go dyngedfennol Really fateful Llithro To slip Dychmygu To imagine Cymar Partner Dihangfa An escape Pigion Dysgwyr – Geraint Rhys Whittaker Y ddau frawd, Owain a Gethin oedd rheina’n sgwrsio gyda Dewi Llwyd. Yn ddiweddar mae gwyddonwyr wedi bod yn recordio synau anifeiliaid sydd yn byw ym mhegwn y gogledd a phegwn y de. Mae nhw’n aml yn synau does neb byth yn eu clywed. Un sydd wedi gweithio yn y maes yma yw Geraint Rhys Whittaker a buodd e’n siarad am ei waith ar Dros Frecwast fore Mawrth. Gwyddonwyr Scientists Synau Sounds Pegwn y gogledd North Pole Darganfod To discover Mor rhyfeddol So amazing Ail-ddadansoddi To reanalyse Nodau Aims Ysbrydoli To inspire Swnllyd Noisy Amgylchedd Environment Pigion Dysgwyr – James Cuff Stori wyddonol anhygoel yn fanna ar Dros Frecwast. Beth wnaeth eich ysbrydoli chi i ddysgu Cymraeg? Cerddoriaeth Gymraeg oedd ysbrydoliaeth James Cuff ddechreuodd dysgu Cymraeg bedair blynedd yn ôl. Erbyn hyn mae e’n ddigon hyderus yn yr iaith i siarad am ei daith bersonol gyda’r Gymraeg ar Radio Cymru. Dyma i chi flas ar sgwrs gafodd e gydag Aled Hughes… Anhygoel Incredible Cymreictod Welshness Mo’yn Eisiau Becso Poeni Colli mas To lose out Pigion Dysgwyr – Snwcyr Amlwch Gobeithio, on’d ife, bod yna rai eraill fel James gaeth eu hysbrydoli i ddysgu Cymraeg ar Ddydd Miwsig Cymru, ddydd Gwener diwetha. Ar ei rhaglen nos Fercher cafodd Caryl Parry Jones sgwrs gyda Jeff Price o Amlwch. Jeff yw Is-Gadeirydd clwb snwcer y dre sydd yn dathlu 90 mlynedd ers ei sefydlu. Gofynnodd Caryl i Jeff yn gynta sawl bwrdd snwcer sydd yn y clwb Is-gadeirydd Vice chairman Sefydlu Founded Mae hi’n glamp o neuadd It’s a huge hall Calch (sialc) Chalk Rheolaeth Management
2/15/202314 minutes, 30 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr 7fed o Chwefror 2023

Pigion Dysgwyr – Shan Jones Dych chi wedi gwylio’r rhaglen, Priodas Pum Mil ar S4C o gwbl? Mae tîm y rhaglen yn gwneud holl drefniadau priodas ac yn ffilmio’r cyfan. Ar Chwefror 19 bydd priodas Shan Jones o bentref Llanuwchllyn a’i gŵr Alun i’w gweld ar y rhaglen. Priododd y ddau haf y llynedd, a chafodd Shan Cothi ar Bore Cothi gyfle i holi Shan Jones ar ddydd Santes Dwynwen, gan ddechrau drwy ofyn, sut brofiad oedd e i gael y camerâu yn eu dilyn nhw ar y diwrnod mawr? Ffeind Caredig Cymwynasgar Obliging Am oes For life Ystyried To consider Goro (gorfod) fi wneud dim byd Doedd rhaid i mi wneud dim Anhygoel Incredible Rhannu’r baich Sharing the load Pwysau Pressure Clod Praise Pigion Dysgwyr – Gareth John Bale Shan Jones oedd honna’n sôn am y profiad o gael tîm Priodas Pum Mil i drefnu ei phriodas. Nesa, dyn ni’n mynd i gael blas ar sgwrs gafodd Bethan Rhys Roberts gyda Gareth Bale ar ei rhaglen Bore Sul. Nage nid y Gareth Bale yna , ond yr actor Gareth John Bale. Mae e’n actor sydd wedi gweithio ar nifer o ddramâu, nid am bel -droed y Gareth Bale arall, ond yn hytrach am rygbi ac yn arbennig felly sioe- un-dyn ble roedd e’n portreadu Ray Gravell... Mwy diweddar More recently Yn gyfarwydd Familiar Hirgron Oval Degawd Decade Canmlwyddiant Centenary Awyrgylch Atmosphere Naws Mood Ymateb ysgytwol A terrific response Her A challenge Uniaethu gyda To identify with Pigion Dysgwyr – Munud i Feddwl 31.1 Nid rygbi ond pêl-droed oedd thema Munud i Feddwl y Parchedig Ddoctor Manon Ceridwen James fore Mawrth ar Bore Cothi. Beth allen ni ddysgu o wylio’r gêm gwpan gyffrous ddiweddar rhwng Wrecsam a Sheffield Utd tybed? Gwerthfawrogi ein cymuned yn un peth, yn ôl Manon.. Parchedig Reverend Gwerthfawrogi To appreciate Cynghrair League Gornest Match Tylwyth teg Fairy Diffuant, angerddol Genuine, Passionate Diwylliant Culture Dehongli To interpret Cyfrifoldeb Responsibility Cyfraniad Contribution Pigion Dysgwyr – Nia Wyn Jones Manon Ceridwen James oedd honna’n rhannu Munud i Feddwl gyda ni ar Bore Cothi. Gwestai Beti George ar Beti a’i Phobl wythnos diwetha oedd Dr Nia Wyn Jones o Brifysgol Bangor. Hanes Cymru ydy’r pwnc mae hi’n darlithio arno a gofynnodd Beti iddi hi’n gynta sut mae mae hi’n llwyddo i gael ei myfyrwyr i gymryd diddordeb yn y pwnc….. Darlithio To lecture Cyfleu’r wybodaeth To convey the information Cymhleth Complicated Gwrthryfel Rebellion Taith dywys Guided tour Y Gadeirlan The Cathedral Y Mers The Marches Esgob Bishop Bodoli mewn dogfennau Existing in documents Goroesi To survive Pigion Dysgwyr – Salsa Wel dyna syniadau ymarferol gwych o ddod a hanes Cymru yn fyw on’d ife? Nos Fercher cafodd Caryl Parry Jones sgwrs gyda Sion Sebon. Mae Sion yn mynd i nosweithiau clwb Salsa Bangor yn rheolaidd, a dyma fe’n rhoi syniad i ni o beth sy’n digwydd yn y nosweithiau hyn... Yn rheolaidd Regularly Gosodedig Fixed Symudiadau pendant Definite moves Cysylltiad Connection T’bod? (wyt) Ti’n gwybod? Pigion Dysgwyr – Bat out of Hell A dyna ni, os dych chi’n byw ochrau Bangor ac yn ffansïo ‘chydig o salsa , dych chi’n gwybod ble i fynd. Mae Sioned Evans o Bancyfelin ger Caerfyrddin yn Sydney Awstralia ar hyn o bryd, yn gweithio ar Sioe Gerdd Bat Out of Hell fel Is Gyfarwyddwr ac mae hi hefyd yn chwarae’r allweddellau yn y gerddorfa. Cafodd Shan Cothi sgwrs gyda Sioned wythnos diwetha gan ofyn iddi hi’n gynta faint o bobl oedd yn y cast. Sioe Gerdd Musical Is Gyfarwyddwr Associate Director Allweddellau Keyboard Cerddorfa Orchestra Offerennau taro Percussion instruments
2/7/202315 minutes, 23 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr Ionawr 31ain 2023

Pigion Dysgwyr – Angharad a Elizabeth Cafodd Angharad Alter ac Elizabeth James, sy’n gweithio i Gymwysterau Cymru, eu magu yn Whitby yn Swydd Efrog, cyn i Angharad a’i theulu symud i Reading. Cafodd Shan Cothi sgwrs gyda’r ddwy am eu profiadau o ddysgu Cymraeg. Dyma beth oedd gan Angharad i’w ddweud yn gynta. Cymwysterau Cymru Qualifications Wales Annog ein gilydd Encouraging each other Y cyfnod clo The lockdown Rhyfeddol Astonishing Cyd-destun Context Cydbwysedd Balance Cyfleoedd Opportunities Awyrgylch Atmosphere Pigion y Dysgwyr – Beti 29.1 Syniad diddorol on’d ife – creu ystafelloedd siarad Cymraeg er mwyn dod i arfer â sgwrsio yn yr iaith. Gwestai Beti George ar Beti a’i Phobl bnawn Sul oedd Rhian Boyle, awdur y ddrama radio Lush. Dyma Rhian yn esbonio wrth Beti ychydig am ei dyddiau ysgol ym Mhorthaethwy, Ynys Môn. Mae gen i gywilydd I’m ashamed Amddiffyn To defend Ysgaru To divorce TGAU GCSE Hunangofiant Autobiography Trais Violence Fatha Fel Cyboli Messing around Anghyfreithlon Illegal Mwg drwg Cannabis Pigion y Dysgwyr – Sarah Hill 23.1 ...ac mae drama Rhian Boyle, ‘Lush’, i’w chlywed ar BBC Sounds ar hyn o bryd. Nos Lun ar raglen Rhys Mwyn roedd Dr Sarah Hill yn dewis ei hoff gerddoriaeth ac yn sgwrsio gyda Rhys am ei dewisiadau. Dyma hi’n sôn am un gân arbennig gan Dafydd Iwan Dechreuad Beginning Doethuriaeth Doctorate Cynulleidfa fychan A small audience Cyfoes Contemporary Yn seiliedig ar Based on Cân werin Folk song Yr Unol Daleithiau The United States Pigion Dysgwyr – Benny Hill 24.1 Dr Sarah Hill oedd honna’n sôn am ‘Mae’n wlad i mi’ – addasiad Dafydd Iwan o gân Woody Guthrie. Pnawn Mawrth ar y Post Prynhawn cafodd Dylan Jones gyfle i sgwrsio gyda Julie Kirk Thomas. Yn niwedd y 70au a dechrau’r 80au roedd Julie yn un o’r Hill‘s Angels, merched oedd yn rhan bwysig o raglen gomedi Benny Hill. Dyma Julie i sôn am sut berson oedd Benny.... Addasiad Adaptation Swil Shy Caredig Kind Hael iawn Very generous Ddaru fi Wnes i Cynhyrchydd Producer Cyfres Series Pigion Dysgwyr – John Rees Trends Antiques 2023 Julie yn fanna yn sôn am gymeriad y comedïwr Benny Hill. Mae John Rees yn arbenigwr hen greiriau a nwyddau ‘vintage’. Mae e hefyd yn rhedeg cwmni Cow and Ghost Vintage ag yn gwerthu ei nwyddau yn y “Bazaar Vintage and Antique Warehouse” yn Arberth. Dyma fe ar Bore Cothi fore Llun... Hen greiriau Curios Ro’n i’n dwlu ar Ro’n i wrth fy modd efo Trugareddau Bric-a-brac Ymfalchïo To be proud of Ymchwil Research Yn glou Yn sydyn Cyfoes Modern Gwerthfawrogi To appreciate Ansawdd Quality Pregethwr Preacher Pigion Dysgwyr – Cetra 25.1 Mae’r hen bethau wastad yn dod yn ôl i ffasiwn on’d yn nhw? Dim ond ers 2019 mae Cetra Coverdale Pearson wedi bod yn dysgu Cymraeg. Mae Cetra yn byw yn Swydd Derby ond cafodd hi ei geni yn swydd Stafford. Cafodd Cetra (Setra) sgwrs gyda Aled Hughes fore Mercher a buodd hi’n sôn am yr adeg clywodd hi’r Gymraeg gynta ar wyliau ym Mhorthmadog…. Yn y fan a’r lle There and then Anhygoel Incredible Tanio To inpire Brwdfrydedd Enthusiasm Her A challenge Profiad Experience Cyfrwng medium
1/31/202315 minutes, 27 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr Ionawr 24ain 2023

Pigion Dysgwyr – Chris Summers Mae’r cogydd o Gaernarfon Chris Summers newydd symud i Lundain i weithio fel prif chef tafarn hynafol y Cheshire Cheese ar Fleet Street yng nghanol dinas Llundain. Cafodd Trystan Ellis Morris gyfle i holi Chris am ei yrfa fel chef, gan ddechrau gyda’r adeg pan wnaeth e gyfarfod â Gordon Ramsay. Hynafol Ancient Lasai fo Basai fe wedi gallu Poblogaidd Popular Coelio Credu Parch Respect Cyflwyno To introduce Sbio Edrych Smalio Esgus Padell ffrio Ffrimpan Pigion Dysgwyr – Nerys Howell 16.1 Chris Summers yn amlwg â pharch mawr tuag at Gordon Ramsay, a r’yn ni’n aros ym myd y cogyddion gyda’r clip nesa. Buodd y gogyddes Nerys Howell yn sgwrsio gyda Shan Cothi am y gwahanol ffyrdd r’yn ni’n defnyddio sbeisys... Ryseitiau Recipes Sy’n cynnwys Which include Sawrus Savoury Tanllyd Fiery Pobi To bake Ymchwil Research Penodol Specific Buddion iechyd Health benefits Meddyginiaethau Medicines Afiechydon Illnesses Pigion Dysgwyr – Munud I Feddwl 17.1 Nerys Howell oedd honna’n siarad am sbeisys gyda Shan Cothi. Arhoswn ni gyda Bore Cothi i wrando ar y Parchedig Ddoctor Manon Ceridwen James yn rhoi Munud i Feddwl i ni fore Mawrth. Parchedig Reverend Digalon Trist Dyled Debt Manteisio To take advantage of Llonni’r galon To gladden the heart Diddanu To entertain Iselder Depression Tywynnu Shining Cadarnhaol Positive Cysuro To comfort Pigion Dysgwyr – Joe Healy 16.1 A rhywbeth arall sy’n llonni’r galon ar ddydd Llun Glas yw dysgu Cymraeg on’d ife, a does dim gwell esiampl o hynny na Joe Healy, Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022 ac sydd nawr yn diwtor Cymraeg i Oedolion ei hunan. Mae Joe yn dod o Wimbledon yn wreiddiol, a chafodd Aled Hughes sgwrs gyda fe a chael ychydig o’i hanes... Sylweddoli To realise Cynrychioli To represent Anhygoel Incredible Yn llythrennol Literally Trywydd Thread Enwebu To nominate Pigion Dysgwyr – Peaky Blinders 17.1 Ie, anhygoel on’d ife? Joe Healy, Dysgwr y Flwyddyn ac nawr yn dechrau gweithio fel tiwtor Cymraeg i Oedolion. Mae’r gantores a’r actores Mabli Gwynne ar hyn o bryd yn perfformio yn Sioe Peakey Blinders yn Camden yn Llundain. Cafodd Shan Cothi gyfle i sgwrsio gyda hi fore Mercher am y sioe. Cymeriadau Characters Creadigol Creative Denu To invite Menyw Merch Gwyddeles Irish Woman Greda i! I don’t doubt it! Adolygiadau Reviews Clyweliad Audition Pigion Dysgwyr – Caren Hughes 17.1 Mabli Gwynne oedd honna’n sôn am ei chymeriadau yn sioe Peaky Blinders. Pa mor daclus ydy eich tŷ chi? Wel os dych chi eisiau ‘tips’ ar sut i dacluso, Caren Hughes o Ynys Môn ydy’r un i chi. Dyma hi’n dweud wrth Caryl Parry Jones am y ffordd orau i gadw’r ystafell ymolchi’n daclus... Cadachau Cloths Di-raen In poor condition Gweddill The rest of
1/24/202315 minutes, 20 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr Ionawr 17eg 2023

Pigion Dysgwyr – Kath Morgan 8.1 Gwestai Beti George ar Beti a’i Phobl wythnos dwetha oedd cyn gapten pêl-droed merched Cymru, Kath Morgan. Mae angen bod yn berson hyderus iawn i gymryd y swydd honno on’d oes? Wel nid felly yn ôl Kath... Cyn gapten Former captain Yn falch Proud Difaru To regret Braint An honour Ymfalchïo To be proud of oneself Cyfrifoldeb Responsibility Gormod o bwysau Too much pressure Mynnu To insist Cyfarwyddiadau Instructions Pigion Dysgwyr 10.1 – Gareth Bale O cyn-gapten tîm merched Cymru i gyn-gapten tîm dynion Cymru - Gareth Bale, a daeth y newyddion yr wythnos diwetha bod y pêl-droediwr enwog yn ymddeol. Dyma Nic Parri yn edrych yn ôl ar ei yrfa ar Dros Frecwast fore Mercher. Cyfadde(f) To admit Di-ri(f) Innumerable Annisgwyl Unexpected Ystyried To consider Syllu To stare Llusgo To drag Pencampwriaeth Championship Ysbrydoliaeth Inspiration Aruthrol Huge Breuddwydiol, euraidd Dreamy, golden Yng nghysgod In the shadow Pigion Dysgwyr – Aled Hughes 9.1 R’yn ni’n aros yng Nghaerdydd ar gyfer y clip nesa o raglen Aled Hughes. Cafodd Aled sgwrs gyda Tim Hartley am yr ymgyrch lwyddiannus i gael datblygwyr i ddefnyddio enwau Cymreig ar stad o dai sydd ar hen bencadlys BBC Cymru yn Llandaf. Dyma Tim yn sôn mwy am hanes y pencadlys a rhai o’r strydoedd sydd wedi ei henwi ar ôl unigolion enwog. Ymgyrch llwyddiannus A succesful campaign Datblygwr Developer Pencadlys Headquarters Unigolion Individuals Safle wreiddiol The original site Darlledwr Broadcaster Fel petai ysbrydion yna As if spirits were there Cawr Giant Cofnodi To record Sefydlydd Founder Cadw ar gof To keep on record Pigion Dysgwyr - Alun Gibbard 13.1 Mae’n braf gweld bod enwau Cymraeg ar ardal sydd â hanes pwysig iawn o ran yr iaith, on’d yw hi? Mae Shan Cothi yn gwahodd rhywun i roi Munud I Feddwl i ni bob dydd. Mae’r rhan yma o’r rhaglen yn rhoi munud i ni feddwl a sefyll yn ôl o brysurdeb ein bywydau bob dydd. Tro Alun Gibbard oedd hi fore Gwener. Dychmygwch Imagine Coedwig Wood Y tu draw Beyond Tirwedd Landscape Cysurus Comforting Gwrando’n astud Listen closely Cyfarwydd Familiar Sefyll yn rhydd Freestanding Ehangder The expanse Pigion Dysgwyr – Vicky Alexander 11.1 Munud i Feddwl ar ffurf llun bach yn fanna gan Alun Gibbard. Nos Fercher ar raglen Caryl cafodd hi sgwrs gyda Vicky Alexander o Lanbradach. Mae Vicky yn helpu yn Nghanolfan Soar ym Merthyr Tydfil a hi sydd yn rhedeg y siop lyfrau yno dyma hi i sôn mwy am y lle. Enfys Rainbow Cefnogi To support Cynhesrwydd Warmth Canolfan Gelfyddydol Arts centre Creadigol Creative
1/17/202311 minutes, 45 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr Ionawr 10fed 2023

Aled Hughes – Warner Brothers 5.1 Sefydlwyd y cwmni ffilm Warner Brothers ganrif yn ôl i eleni. Bore Iau cafodd Aled Hughes gwmni Dion Hughes yr adolygydd ffilm i sôn ychydig am y cwmni enwog hwnnw. Adolygydd Reviewer Sefydlwyd Was established Canrif A century Creu To create Anferth Huge Brodyr Brothers Y dechreuad The beginning Datblygu To develop Parhau Continuing Bodoli To exist Beti a’I Phobl – Rhian Morgan Ychydig o hanes cwmni Warner Brothers yn fanna ar raglen Aled Hughes. Gwestai Beti George ar Beti a’i Phobl yr wythnos diwethaf oedd yr actores a’r gomediwraig Rhian Morgan. Dyma hi’n sôn am yr adeg pan fuodd hi’n perfformio yng Nghadeirlan St Paul’s yn Llundain Y Gadeirlan The Cathedral Portreadu To portray Dywediadau Sayings Llwyfan Stage Ganwyd Was born Bri Popular Credwch neu beidio Believe it or not Syfrdan Astounded Dychmygol Imaginary Pigion Dysgwyr – Nofio Oer 3.1 A Rhian Morgan wedi rhoi dipyn o sioc i gynulleidfa St Paul’s dw i'n siŵr. Mae llawer o bobl yn dathlu’r flwyddyn newydd drwy fynd i nofio yn y môr, er bod y môr yn oer iawn yr adeg yma o’r flwyddyn. Un sydd wrth ei bodd yn nofio drwy’r flwyddyn, heb boeni am y tywydd, yw Heather Hughes o Ynys Môn. Cafodd hi air gyda Rhodri Lewis ar Dros Ginio bnawn Mawrth a gofynnodd Rhodri iddi hi pam wnaeth hi fentro i’r môr oer yn y lle cyntaf… Cynulleidfa Congregation Gwaedlif ar yr ymennydd Haemorrhage on the Brain Sbïo Edrych Modd i fyw Great pleasure Pa mor fodlon How satisfied Tŷ’d efo fi Dere gyda fi Anadla! Breath! Menig Gloves Pigion Dysgwyr – Rhys Meirion 2.1 Ac mae Heather Hughes yn amlwg yn mwynhau’r profiad o nofio yn y môr oer erbyn hyn. Mae cyfres newydd o Canu Gyda Fy Arwr wedi dechrau ar S4C, cyfres ble mae Rhys Meirion yn gwireddu breuddwyd aelodau o’r cyhoedd ac yn rhoi cyfle iddyn nhw ganu gyda’u harwyr. Cafodd Mari Grug gyfle i holi Rhys am y gyfres newydd... Cyfres Series Arwr Hero Gwireddu breuddwyd To fulfil a dream Aelod o’r cyhoedd Member of the public Gwyddoniaeth Science Enwebu To nominate Darganfyddiad A discovery Profiad Experience Atgofion Memories Anghenraid A necessity Pigion Dysgwyr – Cwm Rhyd y Rhosyn 4.1 Pa arwr fasech chi’n ei ddewis i ganu gyda chi tybed? Dw i’n siŵr basai llawer ohonoch yn enwi Dafydd Iwan, ac ar raglen arbennig gyda Huw Stephens clywon ni Dafydd ac Edward Morris Jones yn cofio un o recordiau plant mwya econig y Gymraeg, ryddhawyd union bum deg mlynedd yn ôl - Cwm Rhyd y Rhosyn….. Rhyddhawyd Was released Magwraeth Upbringing Rhyfeddol o ffodus Very lucky Parchedig Reverend Callach na fi Wiser than me Diwylliedig Cultured Olwynion Wheels Injan ddyrnu Threshing-machine Boneddiges Gentlewoman Pigion Dysgwyr – Braille 4.1 Dafydd Iwan ac Edward oedd y rheina'n sôn am y recordiad eiconig Cwm Rhyd y Rhosyn. Ar Ionawr y 4ydd 1809 cafodd y Ffrancwr Louis Braille ei eni. Fe oedd y dyn ddyfeisiodd y system o ddarllen ag ysgrifennu ar gyfer bobl sydd a nam ar eu golwg neu sy’n ddall. Bore Mercher cafodd Aled Hughes sgwrs gyda Hannah Stevenson sydd yn defnyddio Braille bob dydd. Nam golwg Visual Impairment Dall Blind Sa i’n gallu Dw i ddim yn medru TGAU GCSE Dirywio to deteriorate Cyflwr Condition Dychrynllyd Frightening Agwedd Attitude Casgliad A collection Gwahanol gyfuniadau Different combinations Cwtogi To shorten
1/10/202314 minutes, 34 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr Ionawr y 6ed 2023

Bore Cothi – Iau – 29/12/22 Heledd Cynwal oedd yn cyflwyno Bore Cothi yn lle Shan Cothi wythnos diwetha a buodd hi’n gofyn i sawl person sut flwyddyn oedd 2022 wedi bod iddyn nhw. Roedd yr awdures Caryl Lewis wedi cael blwyddyn cynhyrchiol iawn, fel cawn ni glywed yn y clip nesa ‘ma... Cynhyrchiol Productive Ymhelaethwch! Say more! Llwybr Path Anarferol Unusual Datblygu To develop Mynd ati To go about it Yn fy nhwpdra In my stupidity Tueddu Tend to Naill ai...neu Either...or Cynrychioli To represent Dros Ginio – Iau 29/12/22 Yr awdures Caryl Lewis yn sôn am ei blwyddyn brysur ac anarferol. Rhaglen arall fuodd yn edrych yn ôl ar 2022 oedd Dros Ginio a chlywon ni rai o’r sgyrsiau diddorol gafwyd yn ystod y flwyddyn. Dyma flas ar sgwrs rhwng Alun Thomas a’r Dr Elain Price sydd yn ddarlithydd mewn Astudiaethau Cyfryngau ym Mhrifysgol Abertawe. Gofynnodd Alun iddi hi beth oedd ei hoff ffilm... Darlithydd Lecturer Astudiaethau Cyfryngau Media studies Sy’n serennu Which stars Ces i fy swyno I was charmed Egni Energy Cyfoeth Richness Cenedlaethau Generations Yn gwirioni ar Yn dwlu ar Y llinell orau The best line Aled Hughes – Mawrth 27/12/22 Ie, mae hi’n adeg gweld hen ffilmiau ar y teledu on’d yw hi? Mae hi hefyd yn adeg y Panto a chafodd Sara Gibson sgwrs gydag Erin Dolan sydd yn cymryd rhan Maid Marian ym mhanto Robin Hood yn Theatr Colwyn... Y rhan The part Cynyrchiadau Productions Ddaru nhw Wnaethon nhw Rhediad llawn A full run Tarfu ar To disturb Profiad Experience Ymarfer To rehearse Bore Cothi – Iau – 29/12/22 ...Sara Gibson oedd yn holi yn fanna gan mai hi oedd yn cyflwyno yn lle Aled Hughes wythnos diwetha. Helen Prosser, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol oedd yn rhoi Munud i Feddwl i ni fore Iau a dyma beth oedd ganddi i’w ddweud... Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu Director of Teaching and Learning Cynhesrwydd ysbryd The warmth of the spirit Agosáu Approaching Adlewyrchu’n dawel Reflecting quietly Cyhoeddwyd Was announced Gwahanu To separate Cyfyngu ar hawliau Restricting the rights Dymchwel To demolish Heddychlon Peaceful Ar raddfa fach On a small scale Ar y Marc – Sadwrn – 24/12/22 Helen Prosser yn fanna am i wneud pethau da a phwysig ar raddfa fach yn y flwyddyn newydd. Ar ôl cyfnod o fis heb gemau, tybed sut bydd sêr Uwch Gynghrair Lloegr yn ymdopi pan fyddan nhw'n ail-ddechrau chwarae . Wel, Mathew Banks, o Bwllheli yn wreiddiol, ydy Prif Hyfforddwr Cryfder a Chyflwr, neu Strength & Conditioning Coach i dîm cynta Southampton. Gofynnodd Dylan Jones iddo fe sut un ydy Nathan Jones, y Cymro sydd yn rheolwr newydd ar y clwb... Uwch Gynghrair Premier League Ymdopi To cope Yn cael ei benodi Being appointed Cynlluniau hyfforddi Training plans Yn galetach Harder Addasu To adapt Dros Frecwast – Gwener – 30/12/22 Ond yn anffodus colli wnaeth Southampton eto ddydd Sadwrn ac maen nhw ar waelod y tabl erbyn hyn. Yn ystod yr wythnos daeth y newyddion trist am farwolaeth y peldroediwr eiconig Pele. Bethan Clement fuodd yn siarad gyda’r comedïwr a’r ffan pêl-droed Gary Slaymaker gafodd y cyfle i gwrdd â Pele pan aeth i’w ffilmio. Bonheddwr Gentleman Croen Skin Ynni Energy Parch Respect Rhyngwladol International Amddiffynnwr Defender Cydnabod To acknowledge Crynhoi dylanwad Summarise the influence Ehangach Wider Rhyfeddol Amazing
1/5/202314 minutes, 56 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr Rhagfyr 30ain 2022

Troi’r Tir – Cofio’r Nadolig 18.12 Buodd Troi’r Tir yn hel atgofion am Nadoligau’r gorffennol. Un o’r rheini siaradodd ar y rhaglen oedd Bessie Edwards o Gribyn ger Llanbedr-Pont-Steffan, a dyma hi’n cofio dydd Nadolig oedd yn wahanol iawn i Nadoligau’r dyddiau hyn... Hel atgofion Recollecting Tylwyth Teulu Arferiad A custom Celyn Holly Addurno To decorate Dim byd neilltuol Nothing particularly Melysion Sweets Cyngerdd cystadleuol A competitive concert Adloniant Entertainment Bore Cothi – Alwyn Sion 20.12 Blas ar Nadoligau’r gorffennol yn fanna gydag atgofion Bessie Edwards. Yn ystod wythnos y Nadolig ar Bore Cothi clywon ni Shan Cothi yn holi gwahanol bobl beth yw ystyr y Nadolig iddyn nhw. Dyma i chi Alwyn Sion yn sôn am sut oedd cymuned ffermio ardal Meirionnydd yn paratoi at yr Ŵyl….. Gwyddau Geese Nefoedd Heaven Plentyndod Childhood Prysurdeb Business Pluo To pluck Cynnau tân To light a fire Llygad barcud A keen eye Rhwygo To tear Braster Fat Glynu To stick Aled Hughes Rysait Nadolig 19.12 Pluo twrci ar gyfer ei rostio oedd Alwyn a’i deulu mae’n debyg, ond nid dyna sut oedd hi ers talwm. Dyma Elin Thomas yn esbonio wrth Aled Hughes sut oedd pobl yn coginio twrci yn y gorffennol pell... Brodorol Native Darganfod To discover Y cyfnod Tuduraidd The Tudor Age Poblogaidd Popular Ymhlith Amongst Bonheddig Aristocratic Uchelgeisiol Ambitious Y bedwaredd ganrif ar bymtheg 19th century Ymarferol Practical Cyfrol Tome Trystan ac Emma – Iwan Jones 16.12 Dw i’n siŵr bod nifer ohonon ni wedi bwyta llawer gormod dros yr Ŵyl, ond mae angen i Iwan Jones o Lwynygroes ger Tregaron fod yn ofalus iawn faint a beth mae e’n ei fwyta, a hynny oherwydd ei fod yn hoff iawn o gystadlu mewn cystadlaethau Ironman. Mae Iwan newydd ddod yn ôl o’r Unol Daleithiau ar ôl cystadlu ym mhencampwriaeth Ironman y byd. Dyma fe’n esbonio wrth Trystan ac Emma sut mae paratoi at gystadleuaeth o’r fath... Wedi bennu Wedi gorffen Ymroddiad Commitment Cyffwrdd To touch Egni Energy Yn feddyliol gryf Mentally strong Llonydd Tranquil Dros Ginio – Traddodiadau’r Nadolig 19.12 Iwan Jones oedd hwnna’n sôn am sut mae paratoi’n gorfforol ac yn feddyliol ar gyfer cystadleuaeth Ironman. Ar Dros Ginio cafodd Dewi Llwyd sgwrs gyda’r hanesydd Nia Watkin Powell am hanes Gŵyl y Nadolig. Dyma i chi flas ar y sgwrs... Cymharol diweddar Fairly recent Cydnabuwyd Was acknowledged I ryw raddau To some extent Yr Ymerodraeth Rufeinig The Roman Empire Mabwysiadu To adopt Troad y rhod Solstice Ailymddangos To reappear Led-led Throughout Wedi goroesi Has survived Dynodi To note Cofio – Nadolig 21.12 Diddorol on’d ife, bod cymaint o arferion y Nadolig wedi dod yn wreiddiol o’r oes cyn Crist. Ac i orffen yr wythnos hon dyma glip o raglen Cofio gyda W J Jones o Fangor yn cofio cinio Nadolig anarferol gafodd e yn yr Aifft adeg yr Ail Ryfel Byd. Yr Aifft Egypt Y lluoedd arfog The Armed Forces Gweinyddiaeth Administration Rheidrwydd Necessity Ufuddhau To obey Pa mo afresymol bynnag However unreasonable be it Byddent Basen nhw Llw tragwyddol An eternal oath Atgas Detestable Yn awchus Eagerly
12/30/202213 minutes, 34 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr Rhagfyr 20fed 2022

Radio Ysbyty – Codi Calon Claf 18.12 Nos Sul buodd Huw Stephens yn rhoi hanes dyddiau cynnar Radio Ysbyty Glangwli Caerfyrddin, gafodd ei sefydlu bum deg mlynedd yn ôl. Dyma i chi flas ar sgwrs gafodd Huw gyda sylfaenydd yr orsaf, y darlledwr Sulwyn Thomas Cafodd ei sefydlu Was established Sylfaenydd Founder Darlledwr Broadcaster Fy annwyl wraig My dear wife Cadeirio Chairing Ffodus Lwcus Cymysgu’r sain Mixing the sound Ro’n i’n methu’n deg I couldn’t at all Aelod selog A faithful member Ambell I Gan – Bronwen Lewis 11.12 Ychydig o hanes sefydlu Radio Ysbyty Glangwli yn fanna gan Sulwyn Thomas. Cafodd Gwennan Gibbard gwmni’r gantores Bronwen Lewis ar y rhaglen Ambell i Gân. Gofynnodd Gwenan iddi hi yn gynta pwy sydd wedi dylanwadu arni hi Dylanwadu To influence Tyfu lan Tyfu fyny Tad-cu Taid Emynau Hymns Traddodiadol Traditional Yn grac Yn flin Cyfweliad Interview Swnllyd Noisy Swynol Beautifully Ffili Methu Bore Cothi - Banc Bwyd Eglwys Crist 13.12 Bronwen Lewis oedd honna’n sôn am ei theulu cerddorol. Dydd Mawrth ar Bore Cothi aeth Shan Cothi i Eglwys Crist Caerfyrddin ble mae aelodau’r eglwys wedi sefydlu banc bwyd ar gyfer y gymuned. Yn gyntaf dyma y Parchedig Delyth Richards gyda ychydig o gefndir y fenter Parchedig Reverend Esgob Bishop Bendithio To bless Addoli To worship Cynnyrch Produce Blwch Box Yn gyson Regularly Beti a’I Phobl – Marc Howells 18.12 Da iawn aelodau Eglwys Crist, ond dyw hi’n drueni bod rhaid agor banciau bwyd y dyddiau hyn? Gwestai Beti George ar Beti a’i Phobol bnawn Sul oedd Marc Howells o Ddinbych yn wreiddiol, fe yw pennaeth Adnoddau Dynol y cwmni meddyginiaeth Astro Zeneca. Adnoddau Dynol Human Resources Meddyginiaeth Medicine Llywodraethau Governments Datblygu To develop Diwydiant gwyrdd Green industry Yr amgylchedd The environment Aled Hughes – Joseff Gnagbo 14.12 Golwg bach gwahanol yn fanna ar waith y cwmni meddyginiaeth Astro Zeneca ar Beti a’i Phobol. Bore Mercher cafodd Aled Hughes gwmni Joseff Gnagbo. Daw Joseff o’r Traeth Ifori yn wreiddiol cyn iddo fe orfod ffoi oddi yno. Erbyn hyn mae’n byw yng Nghymru ac yn rhugl yn y Gymraeg. Gofynnodd Aled iddo fe beth mae Cymru wedi ei gynnig iddo fe…. Gorfod ffoi Had to escape Cyfrannu To contribute Personoliaeth Personality Ymladd To fight Trefedigaeth Colony Annibyniaeth Independence Hyrwyddo To promote Troi’r Tir – Jamie Stroud 12.12 Joseff Gnabo , wnaeth ffoi o’r Traeth Ifori , dod yn rhugl yn y Gymraeg ac sydd nawr yn gweithio fel tiwtor Cymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd. Gwych on’d ife? Un arall sy wedi dysgu Cymraeg ydy Jamie Stroud sy’n gweithio ar fferm lysiau gydweithredol Tyddyn Teg ger Caernarfon. Mae’r fferm yn cyflenwi 170 o focsys llysiau yr wythnos i’r gymuned leol yn ogystal â chynnal siop fferm, becws a llysiau i siopau a bwytai lleol. Buodd Jamie ar raglen Troi’r Tir ddydd Llun i esbonio mwy am waith y fferm Cydweithredol Cooperative Cyflenwi To supply Hinsawdd Climate Bwydydd Cyflawn Wholefoods Anarferol Unusual Pannas Parsnips Cynhaeaf To harvest Meithrinfa planhigion Plant nursery Hau hadau Sowing the seeds Cnwd Crop Bresych Cabbage
12/20/202213 minutes, 33 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr Rhagfyr 13eg 2022

Bore Cothi – Rhys Taylor 5.12 Beth yw eich hoff garol Nadolig? Falle cewch gyfle i glywed y band jazz, Rhys Taylor a’i Fand, yn ei pherfformio ar Carioci Carolau Cothi cyn y Nadolig. Dyma Rhys Taylor ei hun ar raglen Bore Cothi wythnos diwetha yn sôn am ei hoff garolau e.... Traddodiadol Traditional Morio canu Singing their hearts out Poblogaidd Popular Amrywiaeth Variety Sioeau cerdd Musicals (Carolau) plygain Traditional Welsh carols Trefniant Arrangement Cydio To grasp Croen gwŷdd Goosebumps Disglair, pur, nefolaidd Brilliant, pure, heavenly Caryl – Llanllwni 5.12 Carioci Carolau Cothi, rhywbeth i edrych ymlaen ato on’d ife? Ac mae plant bach ardal Llanllwni ger Llanbedr Pont Steffan yn edrych ymlaen bob bore i weld pa ddrygioni mae’r hen gorachod ar y silff wedi bod yn ei wneud yn ystod y nos, fel clywon ni gan Nerys Thomas ar raglen Caryl... Drygioni Naughtiness Corachod Elves Wedi gwirioni’n lân Infatuated with Peth diweddar A recent thing Beti A'i Phobol – Shan Ashton 11.12 Mae plant ysgol feithrin Llanllwni wir yn edrych ‘mlaen at y Dolig on’d yn nhw? Shan Ashton oedd gwestai Beti ar Beti a’i Phobol bnawn Sul. Mae Shan wedi cael gyrfa amrywiol ac wedi gorfod magu ei phlant ar ei phen ei hun, ar ôl iddi hi a’i gŵr wahanu pan roedd y plant yn ifanc. Sut wnaeth hi ymdopi â’r sefyllfa anodd yma? Dyna un o gwestiynau Beti iddi hi... Gwahanu To separate Ymdopi â To cope with Cymdogion Neighbours Heb eu hail Second to none Asgwrn cefn Backbone Llifo To saw Man a man Might as well Agwedd iach A healthy attitude Breintiedig Privileged Dros Ginio – John Eifion a Helen Medi 5.12 Shan Ashton oedd honna yn sgwrsio gyda Beti George Bob dydd Llun mae Dewi Llwyd ar Dros Ginio yn cael cwmni 2 cyn 2. Tro brawd a chwaer oedd hi yr wythnos hon, John Eifion a Helen Medi. Mae’r ddau yn gerddorol iawn a chafodd y ddau eu magu ar fferm Hendre Cennin rhwng Penygroes a Chricieth yng Ngwynedd. Dyma Helen i ddechrau yn sôn am eu magwraeth... Magwraeth Upbringing Aelwyd Hearth Arddegau Teenage years Cymdeithasau Societies Diddanu To entertain Dylanwadu To influence Deuawd Duet Cylchwyl A local festival Llenyddol Literary Rheolaidd iawn Very regularly Aled Hughes – Adrian Cain 7.12 John Eifion a Helen Medi yn sôn am eu magwraeth gerddorol ar fferm Hendre Cennin . Dydd Mercher cafodd Aled Hughes sgwrs gydag Adrian Cain o Ynys Manaw. Mae Adrian yn athro yn unig ysgol Manaweg yr ynys sef Bunscoill Ghaelgagh (yngenir fel ‘Bynsgwl gilgach’). Mae Adrian yn siarad pedair iaith - Cymraeg, Manaweg, Gwyddeleg a Saesneg. Dechreuodd Adrian ddysgu Cymraeg tua phum mlynedd yn ôl ac mae e nawr yn dysgu ychydig o Gymraeg i blant yr ysgol ar Ynys Manaw. Ynys Manaw Isle of Man Manaweg Manx Gwyddeleg Irish Language Tŵf Growth Ifan Evans Eden 6.12 On’d yw hi’n braf clywed am dŵf y Manaweg? Pob lwc iddyn nhw ar Ynys Manaw gyda’u hiaith arbennig. Mae gan y grŵp Eden sengl Nadolig allan sef Adre Nôl, a phrynhawn ddydd Mawrth cafodd Ifan Evans siawns i sgwrsio gyda Non Parry o’r grŵp gan ofyn iddi hi yn gynta beth oedd hi’n gwneud y prynhawn hwnnw. Addurno To decorate Goleuadau Lights
12/13/202212 minutes, 57 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr Rhagfyr 6ed 2022

Bore Cothi - Huw Williams 29.11 Ddechrau’r wythnos buodd Sian Cothi yn darlledu o’r Ffair Aeaf yn Llanelwedd. Dydd Mawrth cafodd gyfle i siarad ag un o filfeddygon yr Ŵyl sef Huw Williams o Dywyn, Meirionydd. Beth yn union yw gwaith y milfeddygon yn ystod y Ffair Aeaf? Dyma Huw yn esbonio... Ffair Aeaf Winter Fair Milfeddygon Vets Darlledu Broadcasting Hamddenol Leisurely Archwilio To inspect Anhygoel Incredible Y cylch The ring Beirniad Judge Rhesymu’n gyhoeddus Outlining the reasons publicly Arddangoswyr Exhibitioners Beti a’I Phobl – Sylvia Davies 4.12 Blas ar waith milfeddygon y Ffair Aeaf yn fanna ar Bore Cothi. Sylvia Davies oedd gwestai Beti George bnawn Sul . Dyma i chi ran o’r sgwrs ble mae hi’n esbonio pam wnaeth hi benderfynu mynd i’r brifysgol i astudio anthropoleg ar ôl iddi hi ddechhrau gweithio mewn banc... Doedd fy mryd i ddim I wasn’t inclined Trywydd traddodiadol A traditional path Aeth ar gyfeiliorn Went astray Ennill fy nhamed To earn my living Gradd Degree Tystiolaeth Evidence Tystysgrif Certificate Dyrchafiad Promotion Mo’yn Eisiau Crefydd Religion Dros Ginio – Rhys Mwyn 28.11 Sylvia Davies oedd honna’n esbonio wrth Beti George beth wnaeth iddi hi benderfynu mynd i brifysgol yn hytrach nag aros yn y banc. Nia Ceris oedd yn cyflwyno Dros Ginio bnawn Llun a chafodd hi sgwrs gyda’r cyflwynydd radio a’r archeolegydd Rhys Mwyn am y mosaig anhygoel o oes y Rhufeiniaid cafodd ei ffeindio ar dir fferm yn Swydd Rutland. Ydy hi’n bosib i rywbeth mor hen a hynny fod mewn cyflwr da? Dyma beth oedd gan Rhys i’w ddweud... Y Rhufeiniaid The Romans Cyflwr Condition Wedi cael llonydd Been undisturbed Goroesi To survive Aredig Ploughed Ail gladdu To rebury Cofnodi To record Y bedwaredd ganrif The fourth century Chwalu To destroy Gaeafau garw Rough winters Tir sad Stable land Caryl – Professor Llusern 30.11 Beth fydd yn digwydd i’r mosaig hwnnw tybed, fydd e’n cael ei ail gladdu fel roedd Rhys yn ei awgrymu? Cawn weld on’d ife? Cafodd Caryl Parry Jones gyfle i sgwrsio â chonsuriwr nos Fercher o’r enw Professor Llusern. Mae e’n dod o Fostyn yn Sir y Fflint a gofynnodd Caryl iddo fe pa mor anodd yw hi i ymuno â’r Magic Circle….neu’r Cylch Hud….. Consuriwr Magician Hen ddywediad Old saying Cyfrinachau hud a lledrith Magic secrets Enwebu To nominate Dros dro Temporary Wir o ddifri Really serious Bore Cothi - Cwn Selsig 30.11 Wel dyna ni, os dych chi’n ffansio bod yn gonsuriwr, dych chi gwybod beth i’w wneud nawr. Erbyn bore Mercher roedd criw Shan Cothi wedi dod yn ôl o’r Ffair Aeaf yn Llanelwedd i’r stiwdio yng Nghaerfyrddin lle cafodd gyfle i siarad ag Emma Hughes sydd yn berchennog ar Seth. Ci Daschund yw Seth ag Emma yw sefydlydd Cymdeithas Cŵn Selsig Gogledd Cymru, a gofynnodd Shan iddi hi‘n gynta faint o aelodau sydd yn y gymdeithas Sefydlydd Founder Perchennog Owner Mae gen i ofn I’m afraid Pryderon Worries Gweddol rhwydd Eitha hawdd Ifan Evans – Llanbed 1.12 Ramp i gŵn selsig – dyna dda on’d ife? Aeth criw Rhaglen Ifan Evans allan o’r stiwdio ddydd Iau a mynd draw i Lanbedr Pont Steffan gan ei bod yn noson siopa hwyr y dref. Cafodd Ifan gyfle i holi Meinir Evans gwraig leol ddechreuodd busnes pobi yn ystod y cyfnod clo. Gofynnodd Ifan iddi hi’n gynta beth yn union yw’r busnes Pobi To bake Y cyfnod clo Lockdown Syndod o dda Surprisingly well Shwd (sut) fraint Such a privilege Cacs Cacennau Ffili Methu Ieuenctid Youth Deugain mlynedd 40 years Ddim digon o blwc Not brave enough Danteithion Delicacies
12/6/202213 minutes, 36 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr Tachwedd 29ain 2022

Bore Cothi – Iestyn Jones Mae Iestyn Jones o Gapel Hendre yn Sir Gaerfyrddin yn gerddor llwyddiannus sy’n gweithio yn y West End, ac ar hyn o bryd mae e’n aelod o gerddorfa sioe ‘Back to The Future’. Buodd Iestyn yn sôn wrth Shan Cothi am ei yrfa…………. Cerddor llwyddiannus A successful musician Cerddorfa Orchestra Sioe gerdd Musical theatre Dwlu ar Wrth ei fodd efo Llwyfan Stage Anghyffredin Unusual Profiadau Experiences Trwy rinwedd By virtue of Beti a’i Phobl – John Owain Jones 27.11 Iestyn Jones oedd hwnna’n sôn am rai o’i brofiadau yn y West End ar Bore Cothi. Pnawn Sul ar Beti a’i Phobl y Parchedig John Owain Jones oedd gwestai Beti. Bydd e’n ymddeol fel gweinidog ar Ynys Bute yn yr Alban ym mis Chwefror 2023 ar ôl treulio 12 mlynedd fel gweinidog yno. Dyma fe’n sôn am sut dechreuodd ei gysylltiad â’r ynys... Parchedig Reverend Gweinidog Minister Yn y fyddin In the army Hel pres Casglu arian Llongau Ships Ymerodraeth Empire Ffrindiau mynwesol Bosom pals Ddaru Wnaeth Naill ai Either Gwas priodas Best man Gwneud Bywyd yn Haws – Lloyd Henri 22.11 Y Parchedig John Owain Jones yn fanna, ac mae Owain yn cyfrannu’n aml i’r slot Thought for Today Radio Alban ac wedi cyfrannu hefyd i’r Daily Service Radio 4. Bydd e hefyd yn cyfrannu ar Munud i Feddwl, Radio Cymru. Nos Fawrth ar ei rhaglen Gwneud Bywyd yn Haws, cafodd Hanna Hopwood gwmni Lloyd Henri , athro coginio sydd wedi sgwennu llyfr o’r enw Cegin Mr Henri. Gofynnodd Hanna iddo fe’n gynta pam aeth o ati i sgwennu’r llyfr Ymarferol Practical Cynyddu To increase Enfawr Huge Llwyth Loads Gwastraff Waste Yn eu harddegau In their teens Rhwng y cloriau Between the covers Heriol Challenging Cynhwysyn Ingredients Sawrus Savoury Aled Hughes – Ian ap Dewi 21.11 Dw i’n siŵr basai hwnna’n gwneud anrheg Dolig neis i rywun –Cegin Mr Henri. Dyw hi ddim yn bosib dianc rhag pêl-droed y dyddiau hyn nag yw hi? Bore Llun aeth Aled Hughes i Ganolfan yr Urdd Llangrannog a chafodd air gyda Ian ap Dewi sylfaenydd tîm pêl-droed y pentre sef Crannog. Dianc rhag To escape from Sylfaenydd Founder Cyfaill Ffrind Y gynghrair The league Cais Application Cymuned Community Ieuenctid Youth O dipyn i beth Little by little Mas Allan Caryl – Eleri Lloyd Jones 22.11 Hanes sefydlu tîm pêl-droed Crannog yn fanna ar raglen Aled Hughes. Cafodd Caryl Parry Jones gyfle i sgwrsio gyda Eleri Lloyd Jones o Ffostrasol yng Ngheredigion ar ei rhaglen nos Fawrth. Mae Eleri yn athrawes wrth ei gwaith bod dydd, ond gyda’r nos mae hi’n hoff iawn o uwchgylchu dodrefn. Uwchgylchu Upcycle Dodrefn Celfi Tywyll Dark Gweddill The rest Yn dueddol Tend to Cael gwared To get rid of Harddwch Beauty Derw Oak Goleuo To lighten Newid ei wedd To change its complexion Bore Cothi – Elinor Young Os nad oeddech chi’n gwybod beth ydy uwchgylchu o’r blaen, dych chi’n siŵr o fod yn gwybod nawr! Wythnos diwetha roedd rhaglen Shan Cothi yn rhoi sylw i elusennau bychain Cymru a buodd Elinor Young o Cŵn Cymorth Cariad yn siarad â Shan am y gwaith mae ei chi Tana yn ei wneud ar ran yr elusen Elusennau bychain Small charities Lles Welfare Cleifion Patients Mwythau Pandering Delwedd Image Ystyried To consider
11/29/202213 minutes, 48 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr Tachwedd 22ain 2022

Bore Cothi - Gruffydd Rees 16.11 Ydy gwenyn yn cysgu dros y gaeaf? Nac ydyn, ddim yn ôl y gwenynwr Gruffydd Rees o’r Dryswyn yn Sir Gaerfyrddin. Dyma Gruffydd yn dweud mwy wrth Shan Cothi….. Gwenyn Bees Cwch Hive Para To last Peillio To pollinate Hanfodol Essential Diwydiant Industry Cnwd Crop Trystan ac Emma – Gari’r Gwiningen Y gwenyn yn brysur yn bwyta mêl drwy’r gaeaf – braf on’d ife? Nesa dyma i chi hanes Gari, anifail anwes Emma o Lanbedrog ym Mhen Llŷn, sydd wrth ei fodd yn mynd am dro i’r traeth gyda thri o gŵn Emma. Dim byd yn rhyfedd am hynny nag oes? Wel oes, gan mai cwningen ydy Gari. Dyma Emma’n sgwrsio gyda Trystan ac yr Emma arall… Cwningen Rabbit Aballu And so on Dychmygu To imagine Ymateb Response Aled Hughes – Nyrsus Phillipines 14.11 Felly peidiwch â chael gormod o sioc tasech chi’n gweld cwningen yn mynd am dro ar draethau Pen Llŷn! Fore Llun cafodd Aled Hughes gyfle i sgwrsio gyda Noel Davies mab Lottie, nyrs o Ynysoedd Philippines yn wreiddiol, ddaeth draw i Gymru i weithio yn y Gwasanaeth Iechyd gyda nifer o nyrsys eriall o’r Ynysoedd. Llais Noel ei hunan dyn ni’n ei glywed ar ddechrau’r clip pan oedd e’n 6 oed. Mae e dipyn yn henach nawr ac ymunodd e gydag Aled i ddathlu 21mlynedd ers i nyrsys o’r Ynysoedd gyrraedd Cymru ac i roi ychydig o’i hanes personol e… Uffernol Hellish Cyn gyd-weithwraig annwyl A dear former colleague Yn gyfarwydd Familiar Poblogaidd Popular Hyfforddi To train I chdi I ti Beti – Iestyn Davies 20.11 Noel Davies oedd hwnna’n sgwrsio gydag Aled Hughes yn sôn gymuned Philippino y gogledd. Bnawn Sul ar raglen Beti a’i Phobl, cyn dditectif ac Uwch Arolygydd Heddlu Gogledd Cymru, Iestyn Davies oedd y gwestai. Dyma fe’n sôn am rywbeth doniol iawn ddigwyddodd iddo fe pan oedd e’n blismon ar Ynys Môn Uwch Arolygydd Superintendent Cau stopio Gwrthod stopio Buarth Farmyard Drewi Stinking Sylweddoli To realise Yn wirioneddol In reality Caryl – Wendy Williams 14.11 Wel dyna stori dda ‚on‘d ife ? Nos Lun a’r raglen Caryl roedd Wendie Williams o Gaerfyrddin yn sôn am y rhaglen deledu Yma O Hyd a’r effaith mae’r gân arbennig hon wedi ei gael y tu hwnt i fyd siaradwyr Cymraeg… Y tu hwnt Beyond Cysylltu To contact Torf Crowd Ias A shudder Aberth Sacrifice Ymgyrchu Campaigning Hunaniaeth Identity Llefain Crïo Angerdd Passion Bore Cothi – Manon Fisher Jenkins 15.11 Ac mae sawl fersiwn o’r gân i’w gael erbyn hyn on’d oes, ers Cwpan y Byd. Mae Manon Fisher Jenkins o Gaerdydd wedi newid gyrfa sawl gwaith er mai yn ei phedwardegau yn unig mae hi. Ond erbyn hyn mae hi wedi dod o hyd i yrfa sydd wrth ei bodd. Dyma hi’n esbonio wrth Shan Cothi... Gradd Degree Amgueddfa Museum TAR PGCE Tost Sâl Mamolaeth Maternity leave Hedyn A seed Tad-cu Taid Rhandir Allotment Dwlu Mwynhau Andros o ffodus Lwcus iawn
11/22/202216 minutes, 21 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr Tachwedd 15fed 2022

S'mae... Ry'ch chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse ydw i, ac i ddechrau'r wythnos yma... Aled Hughes - Dafydd Iwan 7.11 Roedd Dafydd Iwan yn westai ar raglen Aled Hughes fore Llun i sôn am Yma o Hyd, y gân sydd wedi ei dewis fel anthem tîm Pêl-droed Cymru ar gyfer Cwpan y Byd. Recordiwyd Yma o Hyd gynta bron i bedwar deg mlynedd yn ôl, ond mae hi wedi cael bywyd newydd yn ddiweddar, gyda recordiad newydd sydd wedi cael sylw mawr y tu hwnt i Gymru. Tu hwnt Beyond Wedi hen arfer Well used to Bodoli ers degawdau Existed for decades Rhyfedda Strangest Pwysleisio’r angen Stresses the importance Ail-greu To recreate Ers tro For a long time Ysbrydoli To inspire Yr alwad The call Llorio To floor Bore Cothi – Roy Noble 7.11 ...a buodd chwarter miliwn o blant ysgol Cymru yn canu Yma o Hyd fel rhan o Jiwbili yr Urdd, gwych on’d ife? Ddydd Llun hefyd cafodd Shan Cothi gyfle i groesawu y darlledwr Roy Noble oedd yn edrych ymlaen at ei ben-blwydd yn 80. Dechreuodd Roy drwy sôn am ei ddyddiau cynnar yn darlledu……. Darlledwr Broadcaster Traffordd Motorway Bwrw To hit Yr Hollalluog The Almighty Camsyniad Camgymeriad Menwyod Merched Wejen Cariad Yn gymharol ddiweddar Fairly recently Traddodiad Tradition Beti a’I Phobl – Meleri Davies 13.11 Roy Noble oedd hwnna’n siarad gyda Shan Cothi. Brynhawn Sul, Meleri Davies o Fenter Ogwen oedd gwestai Beti George ar Beti a’i Phobl. Mae brawd Meleri, Dewi Prysor, yn nofelydd a gofynnodd Beti oedd diddordeb gyda hi mewn creu llenyddiaeth yn ogystal Llenyddiaeth Literature Dihangfa An escape Rhyddiaith Prose Cerddi rhydd Free verse Chwant An inclination Cyfrwng Medium Atomfa Nuclear power station Dylanwad Influence Amaethwyr Farmers Ymbelydredd Radiation Peri dychryn To cause alarm Dros Ginio - Delyth Wyn a Elin Fflur 8.11 Blas ar sgwrs gafodd Beti George gyda Meleri Davies oedd hwnna, a nawr cawn wrando ar ran o sgwrs cafodd Jennifer Jones ar Dros Ginio gyda Delyth Wyn ag Elin Fflur sef cynhyrchydd a chyflwynwraig y gyfres deledu Sgwrs Dan y Lloer. Cynhyrchydd Producer Cyflwynwraig Female presenter Addas i’r cyfnod Suitable for the period Dynoliaeth Humanity Rhyfeddu To wonder Gwerthfawrogi To appreciate Cymdeithasu To socialise Cefnlen Backdrop Creu’r naws Creating the atmosphere Caryl - Heledd Fflur 8.11 Ac mae rhaglenni Sgwrs Dan y Lloer wedi bod yn rhai gwych on’d yn nhw? Heledd Fflur, sydd yn dod o Drewyddel, Sir Benfro yn wreiddiol, yw garddwraig wadd rhaglen Caryl gyda’r nosau, a’r wythnos yma buodd hi’n sôn wrth Caryl am gyfrinachau tyfu moron da Cyfrinachau Secrets Dyfrhau To water Os wedwn i If I say so Pridd Soil Parhau To continue Yn hytrach na Rather than Diog Lazy Sychder Drought Arwynebedd Surface area Tueddol i Tend to Ifan Evans – Clive Edwards 10.11 Dyna ni wedi cael gwybod sut i dyfu moron da – dyfrhau o’r gwaelod! Brynhawn Iau buodd Ifan Evans yn siarad gyda’r canwr Clive Edwards am ei gryno ddisg, neu CD, newydd, Dyddie Da, sy'n cael ei ryddhau cyn bo hir. Llongyfarchiadau Congratulations Offerynwyr Instrumentalists Ffair Aeaf Winter Fair Hala Anfon Diniwed Innocent
11/15/202218 minutes, 38 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr Tachwedd yr 8fed 2022

BETI A’I PHOBOL - MIRAIN IWERYDD Y cyflwynydd Mirain Iwerydd oedd gwestai Beti George wythnos diwetha. Myfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth ydy Mirain ac mae hi’n cyflwyno Hansh a Stwnsh Sadwrn ar S4C, a’r Sioe Frecwast Radio Cymru 2 fore Sul. Mae hi hefyd yn cyflwyno rhaglen gerddoriaeth newydd bob nos Fercher ar Radio Cymru. Cefndir Jamaicaidd ac Indiaidd sydd gan fam Mirain a gofynnodd Beti iddi oedd hi wedi profi hiliaeth o gwbl o’r herwydd… Hiliaeth Racism O’r herwydd As a consequence Dathlu diwylliant Celebrating the culture Synnu To be surprised Ffodus Lwcus (G)wynebu To face Cymharol Relatively Cyfryngau cymdeithasol Social media Becso Poeni Bodoli To exist SHELLEY A RHYDIAN Mirain Iwerydd oedd honna’n sgwrsio gyda Beti George. Yr actor, canwr a sylwebydd Rhys ap William oedd gwestai Shelley a Rhydian brynhawn Sadwrn. Rhys oedd yn sylwebu yn Stadiwm y Principality yn ystod y gêm rygbi rhwng Cymru a’r Crysau Duon ddydd Sadwrn diwetha ond beth tybed yw hanes y sgidiau arbennig iawn mae e’n eu gwisgo yn ystod y gêm? Sylwebydd Commentator Y Crysau Duon The All Blacks Cefnogaeth Support Rhyngwladol International Gan amlaf Usually Dylanwadu To influence NIA PARRY - GOGGLEBOX Yn anffodus doedd Rhys ddim yn gallu dylanwadu ar y sgôr ddydd Sadwrn wrth i Gymru golli’n drwm yn erbyn y Crysau Duon. Mae Huw Williams o Frynaman yn un o dri brawd (Mike a Stephen yw’r ddau arall) fydd yn ymddangos ar y gyfres newydd Gogglebocs Cymru cafodd ei weld am y tro cynta nos Fercher diwetha. Nia Parry fuodd yn cadw sedd Aled Hughes yn gynnes wythnos diwetha, a chafodd hi sgwrs gyda Huw am y gyfres... Ymddangos To appear Cyfres Series Yr Wyddgrug Mold Swyddogol Official Anghytuno To disagree Hogyn Bachgen Licsen Baswn i’n hoffi Dodi pethau lan Rhoi pethau i fyny Sbort Hwyl BORE COTHI - ALED HALL Hanes y brodyr o Frynaman ar Gogglebox Cymru yn fanna ar raglen Aled Hughes. Mae’r tenor o Bencader, Aled Hall, newydd gyhoeddi ei hunangofiant “O’r Da I’r Direidus”. Gofynnodd Shan iddo a oedd cyfnod wedi bod ble roedd e‘n meddwl bod pethau‘n galed, ac ei fod wedi gwneud y peth iawn yn dilyn y llwybr cerddorol. Hunangofiant Autobiography Direidus Mischievous Y llwybr cerddorol The musical path Llwyfan Stage Cyfarwydd â Familiar with Sa i’n credu Dw i ddim yn credu Ystyried To consider Cynulleidfa fyw A live audience Braidd dim Hardly any Annog To encourage DROS GINIO - DAU CYN DAU …a dw i’n siŵr bydd hanesion diddorol iawn yn hunangofiant Aled Hall. Brawd a chwaer o Aberystwyth oedd ar Dau Cyn Dau yn y rhaglen Dros Ginio. Mae Gwenan Creunant yn gweithio i Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen ac mae Deian yn gweithio i Gomisiynydd y Gymraeg. Dyma i chi flas ar y sgwrs… Ymddiriedolaeth Trust Rhan fwyaf eich oes Most of your life Bwrlwm Buzz Amrywiaeth variety Cymuned glos A close community Atgofion a magwraeth Memories and upbringing Tafod ym moch Tongue in cheek Gwirionedd Truth BORE COTHI - MARK ADEY Gwenan a Deian yn fanna yn amlwg wrth eu boddau gydag Aberystwyth. Mae Mark Adey yn athro Gwyddoniaeth yn ysgol Uwchradd Llanisien, Caerdydd ac mae e hefyd yn ffan mawr o Elvis ac yn perfformio tipyn fel Elvis. Mae e’n dod o Bontlliw ger Abertawe yn wreiddiol a gofynnodd Shan Cothi iddo a oedd e’n clywed Cymraeg ar yr aelwyd pan oedd e’n blentyn. Gwyddoniaeth Science Ar yr aelwyd At home Trwy gyfrwng Through the medium of Rhyfedd Strange Cyfarwyddo To become familiar with Sail Foundation Dynwared To imitate Enfawr Huge Llwyth o Loads of Addas Appropriate
11/8/202215 minutes, 21 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr 1af o Dachwedd 2022

BORE COTHI Buodd Mari Grug yn cadw sedd Shân Cothi yn gynnes ddechrau’r wythnos diwetha, a chafodd hi sgwrs gyda Eirian Muse o Garmel ger Caernarfon am greu basgedi. Dechreuodd diddordeb Eirian mewn basgedi pan gafodd daleb i fynd i weithdy creu basgedi fel anrheg penblwydd tua phum neu chwe blynedd yn ôl. Dyma Eirian yn dweud yr hanes… Taleb - Voucher Ar hap - Accidentally Helyg - Willow Sir Amwythig - Shropshire Cymhwyster - Qualification Gwledig - Rural Hwb - A boost Gwlad yr Haf - Somerset Cynnyrch adnewyddadwy - Renewable produce Hyblyg - Pliable Trwch - Thickness BETI A’I PHOBL Eurig Druce ydy Rheolwr Gyfarwyddwr cwmni ceir Citroën yn y Deyrnas Unedig a fe oedd gwestai Beti George wythnos diwetha. Mae’n dod o bentref Bethel ger Caernarfon yn wreiddiol a phwy gwell nag Eurig i drafod ceir gyda Beti. Dyma i chi flas ar y sgwrs … Rheolwr Gyfarwyddwr - Managing Director Y Deyrnas Unedig - The UK Anferth - Huge Cynhyrchu’n unigol - Individually produced Diwydiant - Industry Sylfaen - Foundation Trydanol - Electrical Perthnasol - Relevant ALED HUGHES Roedd y grŵp cerddorol HAPNOD yn boblogaidd yn ystod yr 80au. Roedd pedwar aelod o’r grŵp - Cefin Roberts, Rhian Roberts, Gwyn Vaughan Jones ac Ann Llwyd. Dyma nhw’n sôn wrth Aled Hughes sut cafodd y grŵp ei ffurfio yn y lle cynta, Ann sy’n siarad gynta. Tywysog - Prince Trefniannau - Arrangements Emynau - Hymns Cyfres - Series Unig - Lonely Cyhoeddus - Public Dere - Tyrd JONATHAN YN 60 Mae’r cyn-chwaraewr rygbi Jonathan Davies yn dathlu ei ben-blwydd yn 60 eleni a buodd e’n edrych yn ôl ar ei fywyd a'i yrfa gyda Sarra Elgan. Dyma fe’n sôn am yr adeg pan fuodd ei dad farw, a Jonathan ond yn bedair ar ddeg oed. Paratoi - To prepare Twlu - Taflu Yn grac - Yn flin Llefain - Crïo Cyfnod - Period Mam-gu - Nain CLONC Roedd yna gystadleuaeth rhyfedd iawn ar Radio Cymru wrth i Radio Clonc gymryd drosodd tonfeddi Radio Cymru nos Fawrth. Dyma i chi “Richard” o Gaernarfon yn trïo ennill gwobr fawr cystadleuaeth Alff a Bet… Rhyfedd - Strange Tonfeddi - Wavelength Di o’m bwys - Dydy o ddim yn bwysig Llythyren - Letter Asiantaeth Gofod - Space Agency Teyrnas - Kingdom Madarch - Mushroom Unigryw - Unique COFIO Cymdeithas oedd thema’r rhaglen archif Cofio gyda John Hardy bnawn Sul. Dyma glip o raglen o ddiwedd y ganrif ddiwetha gyda phobl ar draws Cymru, yn hen ac ifanc, yn trafod sut mae cymdeithas a chymuned wedi newid. Cymuned - Community Rhywsut - Somehow Elfen - Element Bodoli - To exist Y cymoedd - The valleys Fawr o neb - Hardly anyone Hwn a’r llall - This and that Tlodi - Poverty Hela cwningod - Hunting rabbits Hwyrach - Efallai Parch - Respect Wedi darfod - Has ceased to exist
11/1/202217 minutes, 27 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr 25ain o Hydref 2002

BETI A’I PHOBOL Joe Healy, enillydd Dysgwr y Flwyddyn oedd gwestai Beti George yn ystod Wythnos y Dathlu. Mae Joe’n dod o Wimbledon yn ne Llundain yn wreiddiol ond mae wedi bod yn byw yng Nghaerdydd ers deg mlynedd. Daeth i Gaerdydd i fynd i'r brifysgol, ac mae wedi aros yno. Dechreuodd ddysgu Cymraeg yn 2018 ac yn y clip yma mae’n sôn am sut wnaeth teulu Mared, ei cyn- gariad, ei helpu i ddysgu’r iaith… Treulio amser - To spend time Mynd mas - Mynd allan Profiad - Experience Mam-gu - Nain Cymdeithasol - Sociable Gorfodi - To force Cefnogol - Supportive Becso - Poeni Trochi - To immerse ALED HUGHES Dim ond ers mis Ebrill eleni mae Katie Owen o Ferthyr yn dysgu’r iaith ar ôl iddi gymryd rhan yn y rhaglen Iaith ar Daith gyda’r DJ Huw Stephens yn fentor iddi hi. Dyma hi’n sgwrsio gydag Aled Hughes… Gwahanol - Different Tad-cu - Taid ALED HUGHES Cafodd Laura Jones o Gaerdydd ychydig o wersi Cymraeg yn yr ysgol, ond penderfynodd ddysgu’r Gymraeg fel oedolyn er mwyn cyfieithu rhannau o’r Quran. Dyma flas ar y sgwrs cafodd hi gydag Aled Hughes... Oedolyn - Adult TGAU - GCSE Annog - To encourage Gyrfa - Career Cyfleoedd Gwaith - Work opportunities Bwlch - A gap Dywediadau - Sayings ALED HUGHES Beth tybed oedd rheswm Kelly Webb-Davies sy’n dod o Awstralia’n wreiddiol dros ddysgu’r iaith? Fel cawn ni glywed mae hi’n briod â Peredur Glyn awdur nofel o’r enw ‘Pumed Gainc y Mabinogi’ ac mae hi wedi magu ei mab drwy’r Gymraeg. Dyma hi’n sgwrsio efo Aled Hughes... Ieithyddiaeth - Linguistics Bathu term - To coin a phrase Sillafu - To spell Seiniau - Sounds Clwt - Cewyn Llwglyd - Hungry BORE COTHI Mae stori Sara Maynard o Sir Gaerfyrddin ychydig yn wahanol. Cafodd hi ei haddysg mewn ysgolion Cymraeg ond ar ôl gadael ysgol collodd hi ei hyder o ran sgwennu Cymraeg. Aeth hi ar gwrs Cymraeg i Oedolion i wella’r sgil yma ac erbyn hyn mae hi’n swyddog iaith ym Mhrifysgol De Cymru. Ysgol gynradd - Primary School Ysgol Gyfun - Secondary School Trwy gyfrwng - Through the medium of Ysgrifenedig - Written Sbarduno - To spur BORE COTHI Cafodd Shân Cothi sgwrs ddiddorol arall gyda Dickon Morris, cafodd ei eni yng Nghaergrawnt, ei fagu yn Sir Benfro ond sydd erbyn hyn yn byw yng Nghaerdydd. Mae e’n gweithio fel daearegydd ac yn amlwg mae e wrth ei fodd gyda’r gwaith... Caergrawnt- Cambridge Daearegydd - Geologist Plentyndod - Childhood Dinbych y Pysgod - Tenby Diwydiant - Industry Tirwedd - Landscape Llethrau serth - Steep slopes Amrywiaeth - Variety
10/25/202215 minutes, 48 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr 20fed o Hydref 2022

BETI A’I PHOBOL Mae Bethan Wyn Jones yn awdures llyfrau natur, ac mae colofn natur gyda hi bob wythnos yn yr Herald Gymraeg sydd yn rhan o’r Daily Post. Hi oedd gwestai Beti George wythnos diwetha a yma hi’n sôn am yr adeg pan fuodd ei gŵr hi farw… Cyflwyniad - Introduction Galar - Bereavement Gwlad Pŵyl - Poland Gofal dwys - Intensive care Go lew - Ddim yn ddrwg Meddygon - Doctors Canmol - To praise Amodau - Conditions Sioc enbyd - Devastating shock Anghredinedd - Disbelief ALED HUGHES Maggie Ogunbanwo o Benygroes ger Caernarfon fuodd yn siarad efo Aled Hughes fore Mercher, ar ôl iddi hi ennill Gwobr Mentergarwch yng Ngwobrau Womenspire Chwarae Teg 2022... Gwobr Mentergarwch - Entrepreneur Award Ysbrydoli - To inspire Rhan fwyaf - Mainly Pres - Arian Goro - Gorfod IFAN EVANS Mae Alun Rees, yn dod o Sir Gaerfyrddin, neu Sir Gar, yn wreiddiol ond erbyn hyn mae e’n byw yn Nashville, America ac yn gweithio efo’r rhaglen deledu “American Pickers”. Mae e’n teithio ar draws y wlad gyda’i waith – o Nashville i Kansas i Mount Rushmore – tua 14 awr yn ei fan! Adnabyddus - Enwog Llanw lan â thanwydd - Fill up with fuel Cerddorol - Musical Antur - Adventure Yn ddiweddar - Recently Rhaglen ddogfen - Documentary Darlledu - To broadcast Deuawd - Duet Amrywiol - Varied Unigryw - Unique DROS GINIO Mewn pum wythnos bydd Cymru yn chwarae pêl-droed yn erbyn Unol Daleithiau America yn Qatar. Dyma fydd y tro cynta i Gymru fod yn nghystadleuaeth Cwpan y Byd ers 64 o flynyddoedd. Pa fath o le yw Qatar? Pa fath o groeso caiff cefnogwyr Cymru yno? Mae Rhodri Ogwen yn byw yno ers tua 10 mlynedd a dyma fe’n siarad ar Dros Ginio… Cynnwrf - Excitement Canolbwyntio - To concentrate Rhwydwaith - Network Gwelliannau bach - Small improvements Cefnogwyr - Fans Cyfweliad - Interview Pwyllgor Trefnu - Organising Committee Llysgennad - Ambassador Gradd - Degree Diogel - Safe CARYL PARRY JONES Un sydd yn sicr o fod yn Qatar ydy Ian Gwyn Hughes o Gymdeithas Pêl-droed Cymru. Fe oedd gwestai Caryl nos Fercher a buodd yn sôn am daith emosiynol yn ddiweddar i Ypres, Gwlad Belg. Roedd taid Ian Gwyn Hughes, Lewis Valentine, yn y Rhyfel Byd Cyntaf a llwyddodd Ian i ddod o hyd i gofeb ym mynwent Tyne Cot, gydag enw ffrind ei daid arni. Dyma Ian yn dweud yr hanes... Rhyfel Byd Cyntaf - First World War Mynwent - Cemetary Cofeb - Monument Bedd Hedd Wyn - The grave of Hedd Wyn ( a Welsh poet) Croesoswallt - Oswestry Cafodd ei saethu - Was shot Corff - Body Ymchwil - Research Almaenig - German COFIO Trysor oedd thema’r rhaglen archif Cofio gyda John Hardy ac yn ôl 2009 buodd e’n sgwrsio gyda David Clement o Ffynnon Taf ger Caerdydd am y dyddiadur buodd e’n ei gadw ers 1957. Dyma i chi flas ar y sgwrs... Sylw - Attention Cofnodi - To note Cyflawni - To achieve Amcangyfrif - Estimate Pori - To browse Yr ifanca - Y fenga Menyw - Dynes Llefain - Crïo Erchyll - Terrible
10/21/202215 minutes, 32 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr 11eg o Hydref 2022

TAITH DDRYMIO TUDUR OWEN Mi roedd Tudur Owen yn chwarae drymiau i fand o’r enw Pyw Dall yn niwedd yr 80au ac mi roedd o isio dechrau chwarae eto….creisis canol oed falle? Mi osododd her iddo fo’i hun i ddysgu’r drymiau eto ac mi gafodd o sgwrs efo un o ddrymwyr gorau a mwya profiadol Cymru, Graham Land, a chlywed sut wnaeth o gymryd diddordeb mewn drymio yn y lle cynta… Gosod her - To set a challenge Profiadol - Experienced Sbïad - Edrych Camgymeriad - Mistake Profiad - Experience GWNEUD BYWYD YN HAWS Caffein oedd pwnc rhaglen Gwneud Bywyd yn Haws nos Fawrth efo Hanna Hopwood. Mewn coffi dan ni‘n gweld caffein fel arfer, ond mae o i'w gael mewn diodydd eraill hefyd fel buodd Dr Teleri Mair yn sôn ar y rhaglen… Symbylydd - Stimulant Ymennydd - Brain Egni - Energy Yn fwy effro - More awake Cyffur - Drug Yn benodol - Specifically Rheswm meddygol - Medical reason Esgyrn - Bones Yn gymedrol - Moderately ALED HUGHES Bore Llun ar ei raglen mi gafodd Aled Hughes sgwrs efo Megan Cynan Corcoran o ardal Beddgelert, sydd wedi bod yn chwilio i hanes ei theulu, ac sydd wedi darganfod ei bod yn perthyn i Rhodri Mawr, un o hen Dywysogion Cymru! Ymchwil - Research Canrifoedd - Centuries Tarddiad - Origins Yr Anwyliaid - The Anwyl clan Llyfrgell Gen(edlaethol) - The National Library Arfbais - Coat of arms Cyswllt - Connection Cist - Chest Genedigaeth(au) a marwolaethau - Birth(s) and deaths Cynefin - Habitat ALED HUGHES Cafodd Aled Hughes sgwrs efo’r actores o Benarth, Morfydd Clark sy’n chwarae rhan y cymeriad Galadriel yn y gyfres Lord of the Rings – Rings of Power sydd ar y teledu ar hyn o bryd. Ond mi fuodd Morfydd yn chwarae rhan cymeriad chwedlonol arall yn y gorffennol sef Blodeuwedd, mewn drama lwyfan Theatr Genedlaethol Cymru. Dyma hi’n sôn wrth Aled am y profiad hwnnw... Chwedlonol - Mythical Uchafbwyntiau - Highlights Hollol anhygoel - Totally incredible Tu fas - Outside Lleoliad - Location Traddodiadol - Traditional Y gyfres - The series Llong rhyfel - Warship Arwres - Heroine BORE COTHI Rhywbeth arall sydd ar y teledu, ac yn y sinemâu, ar hyn o bryd ydy Blonde, addasiad ffilm o nofel am fywyd un o eiconau mwya Hollywood, Marilyn Monroe. Aeth Lowri Haf Cooke i weld y ffilm ar ran rhaglen Bore Cothi. Addasiad ffilm - A film adaptation Dadleuol - Controversial Dehongliad - Interpretation Adnabyddus - Enwog Camdrin - To abuse Delwedd - Image Eithriadol - Exceptional Amrwd - Raw Dychrynllyd - Frightening Trais - Violence BORE COTHI Mae Syr Bryn Terfel yn mynd ar daith o gwmpas Prydain y mis yma ac mi gafodd o sgwrs efo Shân Cothi am raglen perfformiadau’r daith. Dyma i chi flas ar y sgwrs… Cydio - To grasp? Cyfansoddwr - Composer Amryddawn - Versatile Dramodydd - Dramatist Alawon - Melodies Telyn - Harp Yn arw - A great deal
10/11/202215 minutes, 3 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr 4ydd o Hydref 2022

BETI A’I PHOBOL Karl Davies oedd gwestai Beti George yr wythnos hon. Mae Karl newydd ddod yn ôl i Gymru ar ôl bod yn dysgu Saesneg i oedolion am bedair blynedd yn China…a dyma fo’n sôn am hanes Cadi, y gath fach, wnaeth deithio mewn awyren yr holl ffordd o China i Gaerdydd...  Y gradures fach - Poor thing (lit: the little creature) Mabwysiadu - To adopt Erchyll - Dreadful Epaod - Apes TRYSTAN AC EMMA Mae Elsi Williams yn dod o Fethesda yng Ngwynedd yn wreiddiol ond yn byw yn Llandudno erbyn hyn. Mae hi’n mynd i nifer fawr o ddosbarthiadau ffitrwydd i gadw’n heini, fel cawn ni glywed yn y clip nesa ‘ma. Trïwch ddyfalu be ydy oedran Elsi wrth i chi wrando arni’n sôn am gadw’n heini – mi gewch chi’r ateb cyn diwedd y clip… Ddaru - Gwnaeth Coedwig - Wood Clychau’r gog - Bluebells Anhygoel - Incredible DEI TOMOS Roedd y Moody Blues yn fand poblogaidd iawn yn y chwedegau a’r saithdegau ac mae’n debyg mae Nights in White Satin oedd un o’u caneuon mwya enwog. Roedd un o aelodau’r band, Ray Thomas, yn perthyn i'r cyflwynydd, cerddor ac actor Ryland Teifi. Fo oedd gwestai Dei Tomos nos Fawrth a dyma fo’n rhoi ychydig o’r hanes... Cyflwynydd - Presenter Cerddor - Musician Yn enedigol o - A native of Yn fachan - Yn fachgen Dur - Steel Ar fy mhwys i - Wrth fy ymyl i Modrybedd - Aunties Roedd e’n dwlu ar - Roedd o’n dotio ar ALED HUGHES Mae’r cyflwynydd Bethan Elfyn wedi bod yn sal ers 2005 ac wedi bod yn aros am drawsblaniad ysgyfaint am flynyddoedd er mwyn iddi hi gael gwella. O’r diwedd mae hi wedi cael clywed ei bod ar y rhestr am drawsblaniad... Trawsblaniad ysgyfaint - Lung transplant Wedi cwympo - Has fallen Triniaeth - Treatment Dirywiad - Deterioration Celloedd - Cells Dinistrio - To destroy BORE COTHI Mi gafodd Shân Cothi sgwrs efo Martina Roberts sy’n dod o’r Weriniaeth Tsiec yn wreiddiol ond sydd nawr yn dysgu yn Sir Benfro. Dyma hi’n sôn am sut dechreuodd hi ddysgu Cymraeg... Y Weriniaeth Tsiec - The Czech Republic Ystyried - To consider Denu - To attract Gwella - To improve Almaeneg - German language GWNEUD BYWYD YN HAWS Mi fuodd Hanna Hopwood yn sgwrsio efo Branwen Llywelyn sydd wedi derbyn her 'Medi Ail Law', ond beth yn union ydy’r her ‘ma? Her - A challenge Mae'n hysbys - It’s known Amgylchedd - Environment Diwydiant - Industry Hinsawdd - Climate Mynd i'r afael - To get to grips with Codi ymwybyddiaeth - To raise awareness Annog - To encourage Ar hap - Randomly Egwyddorion - Principles Annibynnol - Independent
10/4/202214 minutes, 59 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr 27ain o Fedi 2022

Radio’r Cymry Mae hi bron yn ganrif ers i'r geiriau Cymraeg cyntaf gael eu clywed ar y radio. Yn y gyfres newydd, Radio’r Cymry, mae Hywel Gwynfryn yn edrych ar raglenni, digwyddiadau â'r cymeriadau sydd wedi gwneud Radio Cymru yr hyn ydy o heddiw. Yn 1935 daeth Sam Jones yn Bennaeth y BBC ym Mangor ac roedd hi’n ddechrau ar gyfnod cyffrous iawn yn hanes Radio Cymraeg. Dyma ei ysgrifenyddes, Morfudd Mason Lewis, yn sôn am y dyddiau hynny..... Canrif - Century Cyfres - Series Pennaeth - Head Parchu - To respect Peirianwyr - Engineers Tyrfa - A crowd Rhaglenni byw - Live programmes Pennill - A verse A ddeuai - Fasai’n dod Aled Hughes Aeth Aled Hughes draw i Forfa Nefyn ym Mhen Llŷn i gwrdd â Reuben Hughes, sy’n bencampwr reslo braich! Mae o’n aelod o glwb reslo braich Roar yn Llandybie, Sir Gaerfyrddin, ac mae o newydd ennill ei gystadleuaeth reslo braich gynta. Pencampwr - Champion Am sbort - For fun Yr amser yn brin - Time was scarce Penderfynol - Determined Diogelwch - Safety Poendod - A worry Gwarchod - To protect Rhoi'r fantais - To give an advantage Cryfder - Strength Gwneud Bywyd yn Haws Ar Gwneud Bywyd yn Haws nos Fawrth, buodd Hanna Hopwood yn sgwrsio efo Dr Elinor Young. Mae gan Elinor gi therapi o’r enw Tana sydd yn rhan o gynllun Cŵn Cymorth Cariad a dyma hi’n sôn ychydig wrth Hanna am y cynllun… Cafodd ei sefydlu- Was established Hwlffordd - Haverfordwest Disgwyliadau - Expectations Hyfforddiant - Training Cyfathrebu - To communicate Perchennog - Owner Lles - Welfare Dychryn - To frighten Llyfu - To lick Bore Cothi Therapi sy’n cael sylw yn y clip nesa ‘ma hefyd, sef Adweitheg, neu Reflexology. Mi roedd hi’n Wythnos Adweitheg y Byd wythnos diwetha, ac mi fuodd Sioned Jones yn sgwrsio efo Shân Cothi am y therapi. Mae Sioned yn dod o Waunfawr yng Ngwynedd yn wreiddiol, ond erbyn hyn mae hi’n byw yng Nghaerdydd ac yn berchen ar gwmni J Reflexology yn y ddinas. Cysur - Comfort Adweitheg - Reflexology Heriau - Challenges Gradd ychwanegol - An extra degree Addas - Suitable Dan bwysau - Under pressure Egni - Energy Treulio - To digest Crediniol - Convinced Beichiogi - To become pregnant Bore Cothi Sut mae gwybod y gwahaniaeth rhwng colomen a sguthan? Dyna oedd cwestiwn Shân Cothi i Daniel Jenkins Jones, a dyma fo’n ateb mewn ffordd ddiddorol iawn. Colomen - Pigeon (Y)sguthan - Wood Pigeon Gwahaniaethu - To differenciate Turtur Dorchog - Collared Dove Tlws - Pretty Coedwigoedd - Woodlands Yn bla - A plague Cerddorol - Musical Atgoffa - To remind Sill - Syllable Aled Hughes Tybed ydy amser yn ymddangos i fynd yn arafach i blant nag ydy o i oedolion? Mae Dr Rhys Morris yn gweithio yn adran astroffiseg, Prifysgol Bryste, ac mae’n grediniol bod hynny’n digwydd. Dyma fo’n esbonio pam mae o’n credu hynny wrth Aled Hughes... Ymddangos - To appear Hŷn - Henach Atgofion - Memories Canran - Percentage Ymenydd - Brain Golygfeydd - Scenes Cyfnod llai - A shorter period Manylyn - A detail Gweledol - Visual
9/27/202214 minutes, 24 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr 22ain o Fedi 2022

Dros Frecwast Y garddwr o Fôn, Medwyn Williams, yn cofio cwrdd â’r Frenhines Elizabeth yr 2il mewn sgwrs efo Dylan Ebenezer. Brenhines - Queen Cynllunio - To plan Arddangosfa - Exhibition Deuthi - Dweud wrthi hi Gwybodus iawn - Very knowledgable Byd garddwriaethol - Gardening world Croen - Skin Bore Cothi Shân Cothi yn cael sgwrs efo enillydd Tlws y Cerddor yn Eisteddfod Genedlaethol Tregaron 2022, Dr Edward Rhys-Harry o Benclawdd, Abertawe. Gofynodd Shân iddo fo sut deimlad ydy hi i glywed ei ddarnau yn cael eu perfformio gan gerddorfa neu gantorion? Tlws y Cerddor - The Musicians Trophy Darnau - Pieces Cerddorfa neu gantorion - Orchestra or singers Unig - Lonely Cyfansoddi - To compose Sefyllfa gyhoeddus - A public setting Aled Hughes Mae Sian Davies a Dyddgu Mair Williams o Nefyn wedi sefydlu busnes arlwyo pysgod, Môr Flasus, ym Mhen Llŷn ac aeth Aled Hughes draw i gael sgwrs efo Dyddgu am y fenter. Arlwyo - Catering Crancod - Crabs Cwta - A meagre Gweledigaeth - Vision Lleihau - To reduce Cynnyrch - Produce Penrhyn - Peninsular Cregyn - Shell Potes - Soup Cimwch - Lobster Bore Cothi Brenhines Canu Gwlad o Ddyffryn Aeron, Cererdigion oedd gwestai Shan Cothi fore Iau. Recordiodd ei sengl cynta ar label Cambrian yn ôl yn 1969 pan oedd hi’n ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Dyffryn Aeron, ac mae hi wedi bod yn perfformio ers dros 50 mlynedd . Pan holodd Shan y gantores, Doreen Lewis, roedd hi newydd ddod yn ôl o Ddulyn Canu gwlad - Country & Western Disgybl - Pupil Dulyn - Dublin Llanw - Llenwi Sa i'n cofio - Dw i ddim yn cofio Nefoedd! - Good heavens! Cyfanwaith - The complete set Dw i'n dwlu ar - Dw i wrth fy modd efo Geraint Lloyd Cafodd Geraint Lloyd sgwrs efo Trystan Phillips, Pennaeth Ysgol Penparc, Aberteifi ac sydd yn ogystal yn Faer Aberteifi. Un o Rhuthun ydy o yn wreiddiol ond mae o wedi setlo yng Ngheredigion ers 20 mlynedd ac wedi ymuno â chôr lleol. Cystadlu - To compete Llwyddiannus - Succesful Ffodus - Lwcus Canlyniad - Result Cynulleidfa - Audience Dan ei sang - Full to the brim Gwobr - Prize Cyn arweinydd - Former conductor Braint - A privilege Gwneud Bywyd yn Haws Nos Fawrth mi gafodd Hanna Hopwood sgwrs efo Sioned Hâf o Gaerdydd am ei thaith colli pwysau, sy’ wedi arwain at drawsnewid y ffordd mae hi’n cynllunio bwyd. Trawsnewid - To transform Colli pwysau - To lose weight Cynllun penodol - Specific plan
9/21/202213 minutes, 39 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr 13eg o Fedi 2022

Aled Hughes Hanes anhygoel, ac emosiynol, Gerallt Wyn Jones gafodd ei fabwysiadu yn chwe mis oed o Fanceinion a chael ei fagu ym Methesda, Gwynedd. Aeth Aled Hughes draw ato am sgwrs a dyma Gerallt yn sôn am yr adeg pan ddaeth o i gyswllt efo’i deulu biolegol am y tro cynta… Dod i gyswllt - Come into contact Anhygoel - Incredible Mabwysiadu - To adopt Y fenga - Yr ifanca Tridiau - Tri diwrnod Angladd - FuneralBeti a'i Phobol Ann Ellis, Prif Weithredwr y Mauve Group, sef cwmni sy’n gweithio mewn nifer fawr o wledydd ar draws y byd, oedd gwestai Beti George. Mae ganddi bedwar cartre – ar ynys Cyprus, yn Rhufain, yn Dubai ac yn Miami ond cafodd Ann ei magu ym Merain, Sir Ddinbych, sef cartref uchelwraig o’r unfed ganrif ar bymtheg, Catrin o Ferain. Dod o hyd i - To find Prif Weithredwr - Chief Executive Rhufain - Rome Uchelwraig - Noblewoman Yr unfed ganrif ar bymtheg - 16th century Hardd - Beautiful Cyfoethoca - Richest Cytundeb - Contract Ysbrydoli - To inspire Menywod - MerchedGwneud Bywyd yn Haws Roedd hi’n wythnos ymwybyddiaeth Meigryn wythnos diwetha, ac roedd gan Hanna Hopwood raglen arbennig yn edrych ar Feigryn, neu Migrane, sy’n effeithio ar un ymhob saith person. Ei gwestai arbennig oedd Dr Anna Maclean, a mi roedd rhaid i Dr Anna ymddeol yn gynnar o’i swydd fel meddyg teulu oherwydd meigryn cronig ac erbyn hyn mae hi’n weithgar yn codi ymwybyddiaeth o’r cyflwr. Ymwybyddiaeth Meigryn - Migrane Awareness Cyflwr - Condition Dyddiol - Daily Diolch i’r nefoedd - Thank goodness Byd enwog - World famous Chwistrelliad - Injection Cyffur - DrugCofio Pensaernïaeth oedd pwnc y rhaglen archif “Cofio gyda John Hardy “ bnawn Sul. Roedd gwreiddiau’r pensaer enwog Frank Lloyd Wright yng Nghymru. Cafodd ei fam ei geni ar fferm yn Llandysul ac enw ei gartre yn America oedd “Taliesin”. Mi fuodd Ian Michael Jones yn rhoi ychydig o hanes y pensaer i ni. Pensaernïaeth - Architecture Gwefreiddiol - Thrilling Trawiadol - Striking Bythgofiadwy - Ever-memorable Andros o stori - A heck of a story Dylunio - To design Erw - Acre Rhaeadr - Waterfall Fel petai - As if Hud a lledrith - MagicCrwydro’r Cambria Mae Dafydd Morris Jones, sy’n ffermio yn ardal Ponterwyd, Ceredigion ac Ioan Lord, sy’n hanesydd diwydiannol, yn crwydro mynyddoedd y Cambria ar eu beics gan roi cipolwg ar hanes a thirwedd yr ardal. Ioan sy’n dweud lle yn union oedden nhw y diwrnod o’r blaen. Hanesydd diwydiannol - Industrial historian Cipolwg - A glimpse Tirwedd - Landscape Mwyngloddiau aur - Gold mines Gweithfeydd aur Rhufeinig - Roman gold works Am wn i - As far as I know Plwm - Lead Oes efydd - Bronze age Talaith - Region Ansawdd - QualityBore Cothi Mae Gŵyl Fwyd a Diod flynyddol yr Alban yn cael ei chynnal ar hyn o bryd. Mae Marian Evans yn byw yn Lossiemouth, tref glan y môr, rhwng Inverness ac Aberdeen a buodd Marian yn sôn am frecwast traddodiadol y wlad ar Bore Cothi... Ffasiwn beth - Such a thing Ansawdd - Texture Morwyr pysgota - Fishermen Saim - Fat Cynhesu - Twymo Enllyn - Dairy products Y llwybr cul - The narrow path
9/16/202212 minutes, 28 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr 6ed o Fedi 2022

Bore Cothi Sarah Astley Hughes sy’n byw yng Nghaerdydd, ond sy’n dod Lanrhaeadr ym Mochnant, Powys yn wreiddiol, fuodd yn sôn wrth Shelley Rees Owen ar Bore Cothi fore Iau am ei phenderfyniad i groesawu’r gwallt llwyd ar ôl cael llond bol o orfod lliwio ei gwallt bob pythefnos! Croesawu - To welcome Lliwio - To dye Sylweddoli - To realise Ffili - Methu Colurwraig - Make-up artist Bwrw Golwg Ddechrau wythnos diwetha mi ddaeth y newyddion am y llifogydd ofnadwy sydd wedi taro Pacistan. Dyma i chi Tom Davies o’r elusen Cymorth Cristnogol yn sôn am y drychineb… Llifogydd - Floods Trychineb - Disaster Heb rybudd - Without warning Diflannu’n weddol glou - Disappearing quite quickly Distryw - Destruction Ceisio dygymod â - Trying to come to terms with Yn sgil - As a consequence of Cilio - To recede Newid hinsawdd - Climate change Argyfyngau - Crisis Cymry a Mwy Pan symudodd Gwenfair Griffith a’i theulu i Sydney, Awstralia, sefydlodd hi Grŵp Chwarae Cymraeg er mwyn helpu ei phlant i gadw cysylltiad â’u gwreiddiau yng Nghymru. Yn y rhaglen hon, mae Gwenfair yn cwrdd â Lin Dodd sy’n byw yng Nghaerffili, ond sy’n dod o Tseina yn wreiddiol, ac sy’n ceisio dod yn rhan o’r gymuned leol … Y gymuned leol - The local community Cyfathrebu - To communicate Y profiad - The experience Aled Hughes Mae Vaughn Smith o Washington yn medru siarad 36 o ieithoedd ac mae’n rhugl mewn 24 ohonyn nhw! Rhai o’r ieithoedd mae o’n eu siarad ydy Rwmaneg, Ffineg, Sbaeneg, Pwyleg, Norwyeg, Iseldireg….ac erbyn hyn mae Cymraeg ar ei restr o ieithoedd yn ogystal. Pwyleg - Polish Iseldireg - Dutch Defnyddiol - Useful Tras Cymreig - Welsh heritage Ar ei thraws - Across it Y Deyrnas Unedig - The UK Cefais fy swyno - I was enchanted Yn ddiweddarach - Later on Dros Ginio Draw i Feirionnydd aeth Dewi Llwyd i gwrdd â thad a merch o bentre Llanuwchllyn, sef Huw Antur a Marged Gwenllian. Mae Huw yn Gyfarwyddwr Gwersyll yr Urdd yng Nglanllyn ac mae Marged hefyd yn gweithio i’r Urdd fel Swyddog Cymunedol Meirionnydd. Cyfarwyddwr Gwersyll - Camp Director Swyddog Cymunedol - Community officer Dylanwad - Influence Dau gan llath - 200 yards Tebyg - Similar Milltir sgwâr - Square mile Hwyrach - Perhaps Ymgyrchu - Campaigning Cynyddu - To increase Lleihau - To decrease Aled Hughes Cyhoeddodd Aled Hughes newyddion cyffrous ar Radio Cymru ddydd Mercher diwetha! O Hydref y 3ydd, mi fydd cyflwynydd newydd ar y tonfeddi bob nos Lun i Iau o 9 tan hanner nos. Pwy ydy o, neu hi. tybed…? Cyflwynydd - Presenter Tonfeddi - Wavelength Ar fin datgelu - About to disclose Llawn cyffro - Full of excitement Rhoi’r gorau iddi - To give it up Arloesol - Pioneering Cyfrwng - Medium Heb unrhyw amheuaeth - Without any doubt Cynulleidfa - Audience
9/16/202215 minutes, 8 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr 30ain o Awst 2022

Dros Ginio Mae Jeremy Paxman wedi dweud ei fod am roi’r gorau i University Challenge wedi 28 mlynedd o gyflwyno’r cwis.   Dr Alun Owens fuodd yn sôn wrth Dewi Llwyd am ei amser ar y rhaglen yn 2015 pan oedd o’n fyfyriwr yn Mhrifysgol Abertawe. Dyna oedd y tro cynta i Brifysgol Abertawe fod ar y rhaglen ers tua 20 mlynedd.     Rhoi’r gorau i To give up Haerllug Cheeky Camddeall To misunderstand Ymdrech An attempt Dychrynllyd Frightening Yr ystafell werdd The green room Lled awgrym A hint of a suggestion Delwedd darlledu Broadcasting image Croesholwr Cross examiner Dirmygus Scornful Bore Cothi Dr Alun Owens oedd hwnna’n sôn am ei brofiad ar University Challenge. Mi fuodd Heledd Cynwal yn cadw sedd Shan Cothi yn gynnes wythnos diwetha ac mi gafodd hi sgwrs efo’r arbenigwraig ffasiwn, Sina Haf Hudson am y cynllunydd ffasiwn o Siapan , Issey Myake fuodd farw ar Awst 5 eleni... Persawr Perfume Oglau Fragrance Hawlio To claim Fyw i rywun arall No-one else would dare Blaenllaw Prominent Dylanwadu To influence Plentyndod Childhood Arddull Style Efrog Newydd New York Ymysg Amongst Dysgwr y Flwyddyn Joe Healy Ychydig o hanes y cynllunydd ffasiwn o Siapan , Issey Myake yn fan ’na ar Bore Cothi. Ar raglen Aled Hughes cafodd Bryn Tomos sgwrs efo enillydd cystadleuaeth Dysgwr y flwyddyn yn Eisteddfod Ceredigion eleni  sef Joe Healy o Wimbledon ond sydd erbyn hyn wedi setlo yng Nghaerdydd.  Gofynnodd Bryn iddo fo oedd o wedi clywed am y Gymraeg pan oedd o’n blentyn ysgol yn Llundain.  Tyfu lan Growing up Ymwybodol Aware Ysgogi To motivate Ysbrydoli To inspire Mo’yn Eisiau Shelley & Rhydian a Sarra Elgan ...a llongyfarchiadau mawr i Joe ar ennill Dysgwr y Flwyddyn ynde?. Y gyflwynwraig Sarra Elgan oedd gwestai Shelley Rees Owen a Rhydian Bowen Phillips fore Gwener – a buodd hi’n sôn am roi gwersi Cymraeg i chwaraewr rygbi enwog iawn o Dde Affrica, Bryan Habana.  O ddifri Seriously Stwr A row Hala Anfon Dishgwl Edrych Awyddus Eager Brwdfrydedd Enthusiasm Ymateb Response Profiad anhygoel An incredible experience Ni y Nawdegau Sarra Elgan oedd honna fuodd yn diwtor Cymraeg ar Bryan Habana! Buodd Esyllt Sears y ddigrifwraig yn edrych yn ôl ar oes aur y nawdegau yng Nghymru.   Dyma hi’n trafod “brand” Cymru, neu ella diffyg brand Cymru.  Digrifwraig Comedienne Oes aur Golden Age Diffyg Lack of Byth yn buddsoddi ceiniog  Never investing a penny Arbenigwyr Experts Cael gwared o nadroedd Getting rid of snakes Gwelededd Visibility Anwastad Rugged Mabwysiadu arloesedd Adopting innovation Beti a’i Phobol ‘Brand Cymru’ yn cael amser caled gan Esyllt Sears yn fanna. Yr artist Seren Morgan Jones o Aberystwyth oedd gwestai Beti George wythnos diwetha.  Pan oedd hi’n 15 oed symudodd y teulu i Kuwait, ond nid dyna ddiwedd ei theithio, fel cawn ni glywed... Mas Allan Awyddus Eager Twymo lan Warming up Tamaid bach Tipyn bach Porfa las Green grass Anialwch Desert
8/30/202214 minutes, 6 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr Awst 23ain 2022

Cofio - Gwersylla oedd thema Cofio dros y Sul ac mi gaethon ni gyfle arall i glywed Wil Parry Williams o Dregarth yng Ngwynedd, yn sôn am weithio fel Red Coat yng ngwersyll Butlins, Pwllheli rhwng 1954 a 1961. Agorwyd y gwersyll 75 mlynedd yn ôl a chlywon ni’r recordiad arbennig yma am y tro cynta ar raglen Cofio yn 2009. Gwersylla To campOddeutu AboutYchwanegol AdditionalGan benna(f) MainlyAdnoddau ResourcesCychod BoatsAdran feithrin NurseryAdloniant EntertainmentDiddori To entertainDyletswyddau cyffreinol General dutiesDei Tomos – Wel ia, hi di hi yn wir – hanes diddorol Butlins Pwllheli yn fanna ar Cofio. Aeth Dei Tomos i Aberystwyth i weld llyfrgell bersonol Gerald Morgan sydd yn awdur, ac yn gyn athro a phrifathro. Mi aeth draw i’w gartref a chael gweld rhywbeth prin iawn - copi o Destament Newydd William Salesbury oedd yn dyddio’n ôl i 1567! Prin iawn Very rareRhagair IntroductionBiau To ownYn gymharol ddiweddar Fairly recentlyCasglwyr CollectorsCofi dre Person o Gaernarfon O fath yn y byd Of any kind Bore Cothi - Dei Tomos oedd hwnna’n cael golwg ar lyfrgell arbennig Gerald Morgan. Shelley Rees Owen fuodd yn cadw sedd Shan Cothi yn gynnes ddydd Mercher diwetha ac mi gafodd hi sgwrs efo Daniel Jenkins Jones o’r RSPB am y Pâl neu’r Puffin. Colur dros eu pig Makeup over their beakTriongl TriangleLlachar BrightMas yn yr Iwerydd Out in the AtlanticNythu To nestY bedwaredd ganrif ar bymtheg 19th centuryLlongddrylliad ShipwreckLlygod mawr RatsDifa To destroyBeti a’i Phobol - Bach o hanes y palod yn fanna , bechod eu bod wedi ein gadael ni erbyn hyn ynde? Cafodd Beti George sgwrs efo’r dylunydd a’r gemydd Ann Catrin Evans o Dregarth ger Bangor. Ann wnaeth Coron Eisteddfod yr Urdd eleni. Dyma Beti’n gofyn iddi hi ai cael gyrfa ym maes celf oedd hi eisiau ei wneud erioed? Dylunydd a gemydd Designer and jewellerCoron CrownCam i’r tywyllwch A step into the unknownCelfyddydau The artsBywoliaeth A livelihoodClod PraiseHybu To promoteCefnogaeth SupportCydnabyddiaeth AcknowledgementNi y Nawdegau - Ann Catrin Evans yn siarad efo Beti George am ei gwaith fel dylunydd a gemydd. Nos Iau ar Radio Cymru, y ddig-rifwraig Esyllt Sears oedd yn edrych yn ôl ar Oes Aur y 90au ... Digrifwraig Female comedian Oes aur Golden ageAberthu To sacrificeUchafbwyntiau HighlightsMaeddu Curo Ymdrechion AttemptsLlwyfannau StagesDygymod To put up withGoroesi To surviveAmherthnasol IrrelevantBore Cothi - Esyllt Sears oedd honna’n edrych yn ôl ar y nawdegau. Mi roedd hi’n Wythnos y Bandiau Pres ar Bore Cothi ac mi gafodd Shelley Rees Owen sgwrs efo Tomos Evans o Fand Cross Keys, enillodd Dosbarth 4 a 3 yn Eisteddfod Genedlaethol Tregaron. Dyma i chi flas ar y sgwrs,,,Bandiau pres Brass bands Llwyddiannus iawn Very successful Dyrchafu To be promoted Darnau Pieces Yn glou Quickly Crynhoi To summarise
8/23/202213 minutes, 36 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr 16eg o Awst 2022

Stiwdio Nofel hanesyddol enillodd gwobr Daniel Owen yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni ac ar Stiwdio buodd Nia Roberts yn dathlu bywyd a gwaith awdures sy’n enwog ar ei nofelau hanesyddol sef Marion Eames. Hi sgwenodd Y Stafell Ddirgel a’r Rhandir Mwyn, ac roedd hi hefyd yn gerddor talentog. Cafodd hi ei geni yn 1921 a buodd farw yn 2007. Aeth Nia draw i Ddolgellau i gwrdd â’r Dr Buddug Hughes yng Nghapel y Tabernacl I gael ‘chydig o hanes cynnar Marion Eames… Cymry alltud Welsh exiles Dianc To escape Yn ddiwylliannol ac yn grefyddol Culturally and religiously Cyfarfu Gwladys a William Gwladys and William met Yr aelwyd The home Prinder tai affwysol Severe housing shortage Prin oedd ei gafael ar y Gymraeg Her grasp of Welsh was very weak Chwithig aruthrol Lletchwith iawn Awyddus Eager Cyfoedion Peers Aled Hughes Ychydig o hanes bywyd cynnar yr awdures Marion Eames yn fan’na ar Stiwdio. Dach chi’n dechrau pob sgwrs yn Gymraeg? Mae Awel Vaughan Evans o Adran Seicoleg Prifysgol Bangor yn ymchwilio i beth sy'n gweithio orau i annog pobl i ddechrau sgyrsiau yn y Gymraeg. Dyma hi’n siarad efo Aled Hughes fore Mawrth. Ymchwilio To research Annog To encourage Arbrawf Experiment Cortyn gwddw Lanyard Yn fwy tebygol More likely Ysgogi To inspire Caniatâd i’r ymennydd Permission for the brain Yn benderfynol Determined Llwybr yr Arfordir Coastal path Daearyddiaeth Geography Dei Tomos Y swigen oren yn gweithio felly – da ynde? Dei Tomos fuodd yn holi’r dramodydd a’r sgriptiwr o Bensarn Ynys Môn, Dewi Wyn Williams, oedd yn cofio y crwydriaid yn galw heibio ei fferm ar yr Ynys. Un ohonyn nhw oedd Washi Bach, crwydryn oedd yn eitha enwog ar Ynys Môn. Crwydriaid Tramps Piser Pitcher Bing Alley in a cow house Yn fratiog iawn Very ragged Mwmian To mumble Gwneud Bywyd yn Haws Hanes Washi Bach yn fan’na ar raglen Dei Tomos. Mae Kayley Sydenham yn dod o Gasnewydd, ond yn astudio ym Mhrifysgol Bangor ar hyn o bryd ac ar Gwneud Bywyd yn Haws buodd Kayley yn edrych yn ôl ar ei phrofiadau fel myfyrwraig y flwyddyn gyntaf gan siarad yn onest am iechyd meddwl ac am hunan anafu. Profiadau Experiences Hunan anafu To self harm Barddoni To write poetry Lles Welfare Cerdd A poem Gor bryder Anxiety Trafod yn agored To talk openly Gwaethygu To worsen Ffili Methu Mo’yn canolbwyntio Want to concentrate Ni y Nawdegau Kayley Sydenham oedd honna ac os dach chi’n fyfyriwr sy’n cychwyn yn y coleg mae’n bosib cael help a phob math o gyngor drwy gyfrwng y Gymraeg ar les a iechyd meddwl wrth fynd ar myf.cymru Ar Ni y Nawdegau buodd y gomedÏwraig Esyllt Sears yn edrych yn ôl ar y 90au ac yn canolbwyntio ar ffilmiau Cymraeg. Dyma hi’n sôn am ffilm o 1992 cafodd ei enwebu am Oscar – ‘Hedd Wyn’.. Lles Welfare Cafodd ei enwebu Which was nominated Yn gwegian yn feddw In a drunken stupor Degawd Decade Ffynnu Thriving Yn borcyn Naked Dadansoddi To analyse TGAU GCSE Beti a’i Phobol Ifan Jones Evans Esyllt Sears oedd honna’n edrych yn ôl ar y ffilm Hedd Wyn. Ffermwr a darlledwr o Geredigion oedd gwestai Beti George – Ifan Jones Evans - un sydd i’w glywed ar Radio Cymru o ddydd Llun hyd at ddydd Iau. Cafodd Ifan ei fagu ym Mhont-rhyd-y-groes yng Ngheredigion, ac mae’n sôn yn y clip yma am hanes diwydiant yr ardal, yn arbennig felly y gweithfeydd plwm, arian a sinc Darlledwr Broadcaster Diwydiant Industry Gweithfeydd plwm Lead works Olion Remains Twyni tywod Sand dunes Nant A brook Mwynau Minerals Tirwedd Landscape Gadael ôl To leave a mark
8/16/202213 minutes, 40 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr 2il o Awst 2022

Gwneud Bywyd yn Haws Hanna Hopwood yn holi Gwenllian Thomas, sy’ wrth ei bodd yn gwneud triathlon – nofio, rhedeg a beicio! Mae hi’n fam brysur ond mae cymryd rhan mewn triathlon yn rhan bwysig o’i bywyd. Sut dechreuodd ei diddordeb yn gamp tybed? Camp Sport Bant I ffwrdd Dim taten o ots Dim ots o gwbl Croesawu To welcome Meddylfryd Mindset Rhannu profiadau To share experiences Dros Frecwast – Gemau'r Gymanwlad Gwenllian yn fan’na yn sôn am ei diddordeb mewn triathlon sef un o’r campau cynta i ddigwydd yn Ngemau’r Gymanwlad eleni. Agorwyd y Gemau yn Birmingham ar yr 28ain o Orffennaf a chafodd Ifan Gwyn Davies sgwrs efo Ashleigh Barnikel sy’n cymryd rhan yn y Gemau fel aelod o garfan Jiwdo Cymru... Gemau’r Gymanwlad Commonwealth Games Carfan Squad Un fodfedd dros bum troedfedd Five foot one Dwywaith ei maint Twice her size Pencampwraig Champion (female) O ddifri Seriously Rhyngwladol International Torfeydd Crowds Ail wynt Second wind Dros Frecwast – Ewros y merched A phob lwc i garfan Cymru yn y Gemau ynde? Mi wnawn ni aros ym myd y campau efo’r clip nesa ‘ma, ond i fyd pêl-droed y tro ’ma ac i gystadleuaeth Ewros y Merched 2022. Y Gymraes Cheryl Foster oedd yn dyfarnu’r gêm gynderfynol rhwng Ffrainc a’r Almaen wythnos diwetha ac roedd Cheryl yn arfer chwarae i dîm pêl-droed merched Cymru. Lowri Roberts fuodd yn sgwrsio efo Owain Llyr cyn y gêm.. Dyfarnu To referee Cynderfynol Semi final Y Seintiau Newydd TNS Dychmygu To imagine Ysbrydoli To inspire Y genhedlaeth nesa The next generation Bore Cothi Yr Almaen enillodd gan fynd â nhw i’r ffeinal yn erbyn Lloegr, ac mi gafodd Cheryl gêm dda iawn fel dyfarnwr. Cafodd Shan Cothi sgwrs efo Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru, Helgard Krause Mae Helgard yn dod o ardal Pfalz yn Yr Almaen yn wreiddiol, a daeth hi i Gymru yn 2005 ac erbyn hyn mae’n byw yn Aberaeron. Dwy flynedd ar ôl iddi hi symud i Gymru, dechreuodd Helgard ddysgu Cymraeg ac o fewn ychydig fisoedd, roedd hi’n rhugl. Pa mor anodd oedd dysgu Cymraeg iddi hi…? Prif Weithredwr Chief Executive Parhau To continue Mwyafrif Most Aled Hughes Ac mae Helgard yn cael ei hanrhydeddu yn yr Eisteddfod eleni drwy dderbyn y Wisg Werdd. Buodd Aled Hughes yn siarad efo Meirion Pritchard o Landysul ond sy nawr yn byw ac yn gweithio yn Efrog Newydd efo cwmni Meta. Dyma’r cwmni sy’n berchen ar Facebook, Instagram a Whatsapp ac sy’n datblygu’r dechnoleg nesa ym myd realaeth rithiol , neu virtual reality. Dyma Meirion yn sôn ychydig wrth Aled am ei gefndir ac am ei waith.. Anrhydeddu To honour Y Wisg Werdd The Green Gown Efrog Newydd New York Sy’n berchen ar Which owns Datblygu To develop Amrywiol Varied Hyrwyddo To promote Pensaer Architect Celf Art Dylunio To design Dros Ginio Guto ac Elis Meirion Pritchard oedd hwnna’n sôn am sut dechreuodd ei ddiddordeb yn y byd digidol Dau frawd oedd gwesteion Alun Thomas ar “Dau cyn Dau” bnawn Llun. Dau fardd o bentre Trefor yng Ngwynedd oedd y gwestai. Guto Dafydd, sydd wedi ennill y Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith a’i frawd Dr Elis Dafydd sydd wedi ennill Cadair Eisteddfod yr Urdd. Gofynnodd Alun i Guto’n gynta oedd y cysylltiad efo barddoniaeth yna pan oedd o’n ifanc Barddoniaeth Poetry Ddim fel y cyfryw Not as such Gwirioni ar Dwlu ar Pori To browse Adeiladol Constructive Sylw a bri Attention and fame Clod Praise Cenfigen Jealousy Cyfathrebu To communicate Aeddfedu To mature
8/2/202213 minutes, 47 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr 26ain o Orffennaf 2022

Pigion Aled Hughes Rhestr fer dysgwr y flwyddyn Mi fuodd Aled Hughes yn cael sgwrs efo’r 4 sydd ar restr fer Dysgwr y Flwyddyn 2022. Mi fydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi yn Eisteddfod Tregaron wythnos nesa. Bore Llun mi gafodd o gyfle i ddod i nabod Stephen Bale, un o’r pedwar sydd yn y ffeinal. Mae Stephen yn dod o ardal Castell-nedd yn wreiddiol ond erbyn hyn mae o’n byw yn Sir Fynwy. Rhestr fer Short list Cyhoeddi To announce Castell-nedd Neath Sir Fynwy Monmouthshire Cwrs dwys Intensive course Yn y pendraw In the end Degawd Decade Gohebydd Correspondent Rhyngwladol International Y Llewod The Lions Hyrwyddo To promote Pigion Aled Hughes DyFlwyddyn – Sophie Tuckwodd Stephen Bale oedd hwnna – gohebydd rygbi sydd ar restr fer Dysgwr y Flwyddyn eleni. Dydd Mawrth mi gafodd Aled gyfle i gael sgwrs efo Sophie Tuckwood un arall sydd ar y rhestr fer. Daw Sophie o Nottingham yn wreiddiol ond symudodd hi i Sir Benfro ddeg mlynedd yn ôl. Wynebu To face Ar yr un pryd At the same time Yr ifanca Y fenga Cyfathrebu To communicate Pigion Aled Hughes DyFlwyddyn – Joe Healy Ac mae Sophie erbyn hyn wedi ennill cymhwyster Dechrau Dysgu i fod yn diwtor Cymraeg i Oedolion ac mae hi’n dysgu dosbarthiadau Mynediad yn Sir Benfro.. Cyfle i ddod i nabod Joe Healy oedd hi ddydd Mercher. Mae Joe yn dod o Wimbledon yn wreiddiol ond erbyn hyn mae o’n byw yng Nghaerdydd. Gwiwer Squirrel Diwylliant Culture Cysylltiad Connection Braidd ‘di gadael Hardly left Ymwybodol Aware Iau ‘fengach/ifancach Pigion Aled Hughes Rhestr fer dysgwr y flwyddyn – Ben Ó Ceallaigh Mae Aled yn amlwg yn mwynhau sgwrsio efo’r 4 sydd ar restr fer Dysgwr y Flwyddyn ac yn synnu bod eu Cymraeg nhw cystal ar ôl cyn lleied o amser yn dysgu. Dydd Iau mi gafodd o gyfle i sgwrsio efo’r pedwerydd ymgeisydd, Ben Ó Ceallaigh sydd ond wedi bod yn dysgu ers 20 mis! Daeth Ben i Gymru o Iwerddon flwyddyn yn ô,l ac erbyn hyn mae o’n darlithio yn Gymraeg. Darlithio Lecturing Ymgeisydd Candidate Gwyddeleg Irish language Rhwystredig Frustrating Parhau To continue Rhyfeddol Amazing Mynychu To attend Diolchgar Thankful Pigion – Bore Cothi Sioe Fawr Lowri Dyna bedwar dysgwr gwych ynde? Pob lwc i bob un ohonyn nhw yn rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn wythnos nesa. Roedd y Sioe Fawr ymlaen yn Llanelwedd wythnos diwetha am y tro cynta ers tair blynedd ac mi roedd Shan Cothi wrth ei bodd yng nghanol hwyl y sioe. Clwyd oedd Sir Nawdd y sioe a mi gafodd Shan air efo Lowri Lloyd Williams, llysgennad y sioe, fore Llun. Mae Lowri’n dod o Efenechtyd ger Ruthin. Rownd derfynol Final round Y Sioe fawr The Royal Welsh Nawdd Sponsorship Llysgennad Ambassador Braint ac anrhydedd An honour and a privilege Cynrychioli To represent Atgofion Memories Cystadlu To compete Agosatrwydd Intimacy Pigion – Ar Blat Roy Noble Shan a Lowri yn amlwg wrth eu boddau yn y Sioe yn Llanelwedd. Cafodd Beca Lyne-Pirkis gwmni y darlledwr Roy Noble i drafod bwyd. Ydy Roy yn hoffi bwyta allan tybed? Darlledwr Broadcaster Ers achau A long time ago Pan o’n i’n caru When I was courting Lan lofft I fyny’r grisiau Swllt A shilling Wejen Girlfriend Beudy Cowhouse Hanesyddol Historical
7/26/202214 minutes, 22 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr 19eg o Orffennaf 2022

Cor y Byd Llangollen Cȏr CF1 o Gaerdydd enillodd gystadleuaeth Cȏr y Byd yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen eleni. Dyma i chi flas ar sgwrs rhwng Eilir Owen Griffiths, arweinydd y côr a Shan Cothi fore Llun diwetha. Arweinydd Conductor Ymarfer Rehearsal Datblygu To develop Paratoi To prepare Llwyfan A stage Symudiadau Movements Cerddorion Musicians Creu To create Balch Proud Anwen bowlio i'r gymanwlad …a llongyfarchiadau mawr i Eilir ac i gôr CF1 ynde? Eleni mi fydd Anwen Butten yn cystadlu am y chweched tro yng Ngemau’r Gymanwlad yn Birmingham, ac mi fydd y gemau’n cychwyn ar yr 28ain o Orffennaf. Mae Anwen wedi cael ei dewis fel Capten Tîm Cymru yn y gemau eleni, felly bydd hi’n gapten ar 202 o athletwyr o Gymru. Gofynnodd Shan Cothi i Anwen sut dechreuodd hi ar y bowlio…. Gemau’r Gymanwlad Commonwealth Games Tîm hŷn Senior Team Hyfforddi To coach Cefnogwr brwd An enthusiastic supporter Profiadol Experienced Yn olygu Means Anrhydedd Honour Dros Ginio Dyfrig a Rhodri …a phob lwc i Anwen ac i dîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwald nes ymlaen yn y mis. Tad a mab o Ddolgellau oedd gwesteion Dewi Llwyd bnawn Llun. Y tad , Dyfrig Siencyn, yn arweinydd Cyngor Gwynedd a’r mab, Rhodri ap Dyfrig yn Gomisiynydd Cynnwys Ar-lein S4C. Dyma Dyfrig i ddechrau’n sôn am ei rôl fel arweinydd y cyngor... Gomisiynydd Cynnwys Ar-lein Online Content Commissioner Y gallu The ability Cymhellion Motives Nodweddion Characteristics Dadleugar Argumentative Etifeddu To inherit Perthynas Relationship Anawsterau Difficulties Chwaraeon rygbi De Affrica Dyfrig Siencyn a’i fab Rhodri oedd rheina yn sgwrsio efo Dewi Llwyd. Mi gafodd tîm rygbi Cymru fuddugoliaeth hanesyddol yn erbyn De Affrica yn Ail brawf Cyfres yr Haf. Gareth Anscombe a Josh Adams oedd arwyr Cymru yn Stadiwm Toyota, Bloemfontein yn ennill y gêm i Gymru yn y munudau ola. Heledd Anna, cyflwynydd Chwaraeon Radio Cymru fuodd yn trafod efo tîm sylwebu’r gêm, dau gyn chwaraewyr i dimau rhyngwladolCymru, Emyr Lewis a Caryl James... Buddugoliaeth hanesyddol An historic victory Ail brawf Cyfres yr Haf The second test in the Summer Series Arwyr heroes Tîm sylwebu Commentary team Yn ysu Itching Maswr Outside half Mewnwr Scrum half Bore Cothi HG yn 80 ...ac yn anffodus collodd Cymru’r trydydd prawf yn Cape Town ddydd Sadwrn, ar ôl perfformiad da iawn. Dydd Mercher y 13eg o Orffennaf mi roedd y darlledwr Hywel Gwynfryn yn dathlu ei ben-blwydd yn 80 oed. Mi ddaeth o mewn i'r stiwdio at Shan Cothi i ateb cwestiynau am ei barti penblwydd delfrydol . Un o westeion y parti yn sicr basai’r diweddar Hywel Teifi Edwards... Delfrydol Ideal Y diweddar The late Areithiwr Orator O’r frest Off the cuff Di-nodyn Without notes Cŷn a morthwyl Hammer and chisel Cynhwysfawr Comprehensive Cynhesu To warm Cynghrair League Diwrnod Dathlu Dai Tad Huw Edwards y BBC oedd Hywel Teifi Edwards a phen-blwydd hapus iawn i’n Hywel ni ynde? Dydd Sul cyn y Sioe Frenhinol mi roedd Radio Cymru yn cael diwrnod i gofio a dathlu bywyd y diweddar Dai Jones oedd yn cyflwyno’r rhaglen Cefn Gwlad. Mi roedd Dai hefyd yn ganwr arbennig iawn fasai wedi medru gwneud gyrfa iddo’i hun ym myd yr opera. Dyma glip o’r archif lle roedd Beti George yn holi Dai ar gyfer Beti a’i Phobol yn 1989. Y Sioe Frenhinol The Royal Welsh Cefn Gwlad The countryside Hiraethu To long for Pridd Soil Brycheiniog Breconshire Llond dwrn A small amount Aredig Ploughing Dyled A debt Cyfryngau media Mwyniant Pleasure
7/19/202212 minutes, 31 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr 12fed o Orffennaf 2022

Dros Ginio Beti a Raymond Mam a mab o Ddyffryn Nantlle yng Ngwynedd oedd gwesteion Dewi Llwyd bnawn Llun. Y cyn Aelod Seneddol Betty Williams a’i mab, y Rhingyll , neu Sarjant, Raymond Williams sy’n gweithio i Heddlu Gogledd Cymru. Cyn Aelod Seneddol - Former Member of Parliament Yn hen gyfarwydd - Very familiar Llwyddiant ysgubol - A roaring success Petrusgar - Hesitant Y naill a’r llall - One or the other Trychineb - Disaster Ffasiwn beth - Such a thing Am wn i - As far as I know Serth - Steep Brwdfrydig - Enthusiastic ABC Y Geiriadur Raymond Williams a’i fam Betty yn sôn am ran Raymond yn y gyfres Y Llinell Las. Taith drwy’r wyddor yng nghwmni Ifor ap Glyn ydy ABC y Geiriadur, i ddathlu canmlwyddiant Geiriadur y Brifysgol - geiriadur mwya Cymru. Mae’r geiriadur ar gael ar-lein erbyn hyn ,ac mae o am ddim! Mae’r awdures Manon Steffan Ross yn gwneud defnydd mawr o’r geiriadur ar-lein fel buodd hi’n sôn wrth Ifor… Canmlwyddiant - Centenary Penodol - Specific Gweddu - To suit Antur - Adventure Cyd-destun - Context Amaethyddol - Agricultural Mynediad i’r bydoedd - Access to the worlds Dylsa - Dylai Stiwdio Phyllis Kinney Yr awdures Manon Steffan Ross oedd honna’n sôn am sut mae hi’n defnyddio’r Geiriadur ar-lein wrth sgwennu ei cholofn yn Golwg. Dydd Llun y 4ydd o Orffennaf mi roedd Phyllis Kinney yn dathlu ei phen-blwydd yn 100 oed, a buodd ei merch, Eluned Evans yn sôn wrth Nia Roberts am ddyddiau cynnar ei Mam yn America. Mae cerddoriaeth wastad wedi bod yn rhan enfawr o fywyd Phyllis ers ei dyddiau cynnar yn Pontiac, Michigan. Mi roedd Phyllis a’i gŵr Meredydd Evans, wrth gwrs, yn awdurdod ar ganu gwerin Cymraeg. Awdurdod ar ganu gwerin - An authority on folk music Graddau di-rif - Many degrees Meistr mewn cyfansoddi - Masters in Composing Sbarduno - To inspire Parchedig - Reverend Cyflwyniad - Introduction Ddaru hi - Wnaeth hi Gweinidog - Minister Trwy gyfrwng - Through the medium of Emynau - Hymns Gwneud Bywyd Yn Haws - Aids A phen-blwydd hapus iawn i Phyllis Kinney ynde, yn gant oed ac yn ôl ei merch mewn hwyliau da iawn. Ar Gwneud Bywyd yn Haws yr wythnos hon buodd Hanna Hopwood a’i gwesteion yn nodi pedwar deg mlynedd ers buodd farw’r Cymro Terrence Higgins – un o’r bobl cynta ym Mhrydain i farw o salwch yn gysylltiedig ag AIDS. Dyma i chi ran o sgwrs rhwng Hanna a Mark Lewis sydd yn Uwch Swyddog Polisi i Grŵp HIV ac AIDS Aelodau Seneddol San Steffan . Dyma’r ddau yn sôn am bodlediad newydd A Positive Life sydd ar gael ar BBC Sounds . Yn gysylltiedig ag - Associated with San Steffan - Westminster Holl bwysig a chanolog - All important and central Tyfu lan - Tyfu fyny Hoyw - Gay Cwato - Cuddio Bore Cothi Elinor Ychydig o hanes Terrence Higgins yn fan’na ar Gwneud Bywyd yn Haws. Elinor Staniforth o Gaerdydd fuodd yn siarad efo Heledd Cynwal ar Bore Cothi. Dechreuodd Elinor ddysgu Cymraeg yn 2019 ac mae hi wedi derbyn swydd fel Tiwtor Cymraeg efo Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin ym Mhrifysgol Bangor. Dyma hi’n esbonio pam dechreuodd hi ddysgu’r iaith… TGAU - GCSE Rhydychen - Oxford Tanio - To fire Pam lai - Why not Cymdeithasu - To socialise Yn llythrennol - Literally Bore Cothi Llangollen A phob lwc i Elinor ynde, yn ei swydd newydd efo Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin Prifysgol Bangor. Mae Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn ôl ar ôl y cyfnod clo. Mi fydd y dre yn llawn lliw efo cantorion a dawnswyr o bob rhan o’r byd yn cystadlu yn y pafiliwn. Mae’r gyflwynwraig Sian Thomas wedi bod yn arwain y llwyfan cystadlu ers rhai blynyddoedd. Beth sy’n arbennig am yr Eisteddfod hon felly? Cantorion - Singers Rhyngwladol - International Cyflwynwraig - Female presenter Melin ddŵr - Water mil Prydferth - Pretty Ar gyrion - On the outskirts Tyle - Hill Cwympo mas - To fall out Cytûn - In harmony Atseinio - To echo Dyletswyddau - Duties
7/12/202215 minutes, 47 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr 5ed o Orffennaf 2022

Dei Tomos Gwilym Owen Dw i’n siwr ein bod ni i gyd yn gwybod am Harri’r Wythfed a’i chwe gwraig, ond ar raglen Dei Tomos clywon ni hanes bonheddwr o ogledd Cymru, Edward Gruffydd, oedd fel Harri wedi priodi sawl gwaith, a hynny pan oedd Harri’n frenin. Un o Stad y Penrhyn ger Bangor oedd Edward a dyma i chi ran o sgwrs cafodd Dei amdano efo’r darlithydd Gwilym Owen o Brifysgol Bangor... Bonheddwr - Genlteman Mewn gwirionedd - In reality Fawr hŷn - Hardly any older Pwys mawr - Great pressure Cyfoethocach - Richer Cefnog - Well-off Dylanwadu - To influence Tystiolaeth - Evidence Dychwelyd - To return I’r neilltu - To one side Dros Ginio Elfyn ac Alun Doedd na ddim sôn bod Edward wedi cael yr un problemau cyfreithiol a gafodd Harri o ran priodi sawl gwaith – ond hanes ddiddorol ynde? Dau frawd o fyd y gyfraith oedd gwesteion Dewi Llwyd ar Dros Ginio, y bargyfreithiwr a’r gwleidydd Elfyn Llwyd a’i frawd y plismon Alun Hughes. Roedd eu tad yn blismon, felly roedd y gyfraith yng ngwaed y ddau! Elfyn, y brawd mawr, sy’n siarad gynta ... Cyfreithiol - Legal Bargyfreithiwr - Barrister Ddaru - Wnaeth Ganwyd - Was born Sicrhau - To ensure Beti a’i Phobol Hanes Elfyn Llwyd yn enwi ei frawd yn fan’na, ar raglen Dewi Llwyd Yr artist Meirion Jones oedd gwestai Beti George ac yma mae’n sôn am dafodiaith Mwldan - ardal wledig ger Aberteifi. Mi wnaeth Meirion ymchwil MA ym Mhrifysgol Llambed, neu Llanbedr Pont Steffan, ar y dafodiaith. Oedd o’n gyfarwydd ag ardal a thafodiaith Mwldan cyn gwneud yr ymchwil? Dyma fo’n ateb cwestiwn Beti... Tafodiaith - Dialect Cyfarwydd â - Familiar with Crwt - Bachgen Mynychu - To attend Crynhoi - To assemble Ysgolhaig - Scholar Cofnodi - To record Danto - To lose heart Ofergoeliaeth - Superstition Talwrn – Pennill Mawl Y CWPS A’R FFOADURIAID Golwg ar dafodiaith arbennig ardal Mwldan yn fan’na ar Beti a’i Phobol. Cystadleuaeth rhwng timau o feirdd ydy’r Talwrn Radio Cymru. Dyma i chi un gerdd o gystadleuaeth yr wythnos diwetha rhwng tîm y ‘Cwps’, Aberystwyth a thîm y ‘Ffoaduriaid’ - er dw i ddim yn meddwl eu bod yn ffoaduriaid go iawn rhywsut! Sylwebwyr chwaraeon oedd testun y gerdd... Cerdd - Poem Ffoaduriaid - Refugees Sylwebwyr chwaraeon - Sport commentators Testun - Subject Chwiban - Whistle Cyffur - Drug Dall - Blind Gweiddi’n groch - Shouting loudly Harten - Heart attack Môr o ddagrau llaith - A sea of moist tears Bore Cothi Y Gwcw Wel am gerdd hyfryd ynde? Dach chi wedi clywed y gog, neu’r gwcw eleni? Wel, os nad ydych chi, fydd na ddim llawer o gyfle i’w chlywed eto gan fod y gwcw am ddechrau ar ei thaith yn ôl i Affrica cyn bo hir, fel buodd Daniel Jenkins-Jones o’r RSPB yn sôn wrth Shan Cothi Marchogaeth - Horse riding Yn fy unfan - Still Arwydd - A sign Ar fin - About to Goroesi - To survive Creaduriaid - Creatures Eos - Nightingale Gwenoliaid - Swallow Diwylliant - Culture Clychau’r Gog - Bluebells Bore Cothi Dawnsio ...ac arhoswn ni efo Bore Coffi am y clip nesa – ond i fyd y bale awn ni y tro ‘ma. Mae Luke Bafico (pron. Bahfeeko) o Gaerdydd yn ddawnsiwr proffesiynol ac mae o wrthi’n ymarfer ar gyfer fersiwn modern o’r bale The Nutcracker fydd yn teithio Cymru yn nes ymlaen yn y flwyddyn. Dyma Luke yn esbonio wrth Shan Cothi sut dechreuodd o ym myd y ddawns Nes ymlaen - Later on Tyfu lan - Tyfu fyny
7/5/202212 minutes, 28 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr Mehefin 29ain Mehefin 2022

Beti a'i Phobol Aled Roberts Ar Beti a'i Phobol ddydd Sul, mi gaethon ni gyfle i ail-wrando ar sgwrs Beti efo Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg, fuodd farw mis Chwefror eleni yn 59 mlwydd oed. Cafodd Aled ei eni a'i fagu yn Rhosllannerchrugog, ger Wrecsam, a dyma i chi flas ar y sgwrs ble mae o'n esbonio wrth Beti beth oedd o'n ei weld yn heriau'r swydd a sut oedd o'n eu hwynebu... Heriau - Challenges Hwyrach - Efallai Arweinydd cyngor - Council leader Hamddenol - Leisurely Gwthio - To push Awyddus - Eager Adlewyrchu - To reflect Cryfder - Strength Twf aruthrol - Huge growth Drwy gyfrwng - Through the medium of ...ac mae colled mawr i Gymru ac i'r Gymraeg ar ôl Aled Roberts. Aled Hughes ac Meurig Rees Jones Buodd Syr Paul McCartney yn perfformio yn Glastonbury wythnos diwetha ac yntau newydd ddathlu ei benblwydd yn 80. Ond oeddech chi'n gwybod bod y Beatles yn ymwelwyr cyson â Phortmeirion? Meurig Rees Jones ydy Rheolwr Lleoliadau Portmeirion, a buodd o'n siarad efo Aled Hughes fore Llun am gysylltiad y canwr a'r ardal dros y blynyddoedd Rheolwr Lleoliadau - Location Manager Y cyswllt - The contact Bythynnod hunanarlwyo - Self catering cottages Ar les byr - On a short lease Gatws - Gatehouse A dyna i chi hanes pobl enwog yn mwynhau gwyliau moethus yn y chwedegau ym Mhortmeirion. GBYH Campio Math gwahanol iawn o wyliau sy nesa wrth i Hanna Hopwood holi beth sy'n gwneud bywyd yn haws wrth fynd i wersylla. Kelly Morris sy'n esbonio beth ydy apêl y math yma o wyliau... Moethus - Luxurious Gwersylla - Camping Cyfeillgar - Friendly Mas tu fas - Outside Dw i'n dwlu mynd - Dw i wrth fy modd yn mynd Chwarae aboiti - Playing around Sbort - Hwyl Hala amser - Treulio amser Llanw - Llenwi Ia, mae gwersylla'n sbort, tydy, ond i'r tywydd fihafio ynde? BORE COTHI CROQUET 2206 Mae'n debyg fod y gêm croquet wedi dod yn fwy poblogaidd yn dilyn cyfresi fel Bridgerton ac un o'r rhai sy wedi dechrau chwarae'r gêm ydy Davyth Fear o Lanrug ger Caernarfon. Aeth Davyth a'i wraig, Rhiannon, i ddiwrnod agored yng nghlwb croquet Llanfairfechan yn 2018 a phenderfynu rhoi tro arni a dyn nhw ddim wedi edrych yn ôl ers hynny. Rheolau - Rules Dyfeisio - Devise Yr Ymerodraeth Brydeinig - The British Empire Cymhleth - Complicated Naill ai - Either Hanes croquet yn nhref fach lan y môr Llanfairfechan yn fan'na ar Bore Cothi. DROS GINIO NEIL AC ALED ROSSER Tad a mab, Neil ac Aled Rosser oedd gwestai dau cyn dau efo Dewi Llwyd. Mae'r ddau yn gerddorion ac mae Aled, y mab, yn byw yn y gogledd ac mae Neil yn byw yng Nghaerfyrddin, ac newydd ymddeol o ddysgu. Dyma i chi ran o'r sgwrs ble maen nhw'n sôn am effaith y cyfnod clo ar eu bywyd teuluol... Cerddorion - Musicians Turnio pren - Woodturning Rhingt - Rhwng Rhwystredig - Frustrating Ffili - Methu Heolydd - Ffyrdd Ddim rhy ffôl - Ddim yn rhy ddrwg Gweld eisiau - Colli Aelwyd gerddorol - A musical home Pwysleisio - To emphasise A dan ni'n aros efo cerddorion yn y clip nesa. Cafodd Georgia Ruth sgwrs efo'r delynores Catrin Finch. GEORGIA A CATRIN FINCH Mae Catrin wedi bod yn perfformio ers blynyddoedd efo Seckou Keita, sy'n canu'r Kora, offeryn o Orllewin Affrica. Mae Catrin a Seckou wedi rhyddhau tair albwm gyda'i gilydd. Ond doedd ei phrofiad cynta o gydweithio efo perfformiwr Kora ddim yn un hapus iawn. Toumani Diabaté oedd y perfformiwr ac yn Theatr Mwldan, Aberteifi oedd y cyngerdd. Dyma Catrin yn dweud yr hanes... Telynores - Female harpist Offeryn - Instrument Yn llythrennol - Literally I ystyried - Considering Parhau - To continue
6/29/202215 minutes, 22 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr Mehefin 21ain Mehefin 2022

Gwneud Bywyd yn Haws Oeddech chi’n gwybod mae’r Ffindir a’r Swistir ydy’r ddwy wlad hapusa i fyw ynddyn nhw? Wel yn ôl un adroddiad beth bynnag. Dewch i ni gael clywed dipyn am fywyd yn y ddwy wlad gan Dwynwen Hedd o’r Swistir a Tristan Owen Williams o’r Ffindir. Dyma nhw’n sgwrsio efo Hanna Hopwood ar Gwneud Bywyd yn Haws. Mor ddwfn - So deep Diwylliant - Culture Cyd-fynd - To agree Traddodiad - Tradition Coedwigoedd - Forests Penodol - Specific Ysgogi - To motivate Noeth - Naked Bedydd tân - Baptism of fire A sôn am sauna, os dach chi isio gwybod rhagor gan Trystan a Dwynwen ac am fywyd yn y Ffindir a’r Swistir yna agorwch ap BBC Sounds a theipio’r geiriau Gwneud Bywyd yn Haws i fewn i’r bar bach chwilio. Aled Hughes a Maggie Morgan Wedi dysgu Cymraeg mae Maggie Morgan a buodd hi’n chwilio mewn i hanes ei theulu yn y gobaith o ddod o hyd i’r rhesymau pam nad oedd ei theulu bellach yn siarad Cymraeg. Cafodd Aled Hughes sgwrs efo Maggie ar ei raglen fore Llun. Bellach - By now Di-Gymraeg - Non Welsh speaking Mewn gwirionedd - In reality Teulu estynedig - Extended familly Tad-cu - Taid Aelod - Member Yr aelwyd - The hearth Mamiaith - Mother tongue Mae mwy o hanes Maggie i’w gael yn y rhaglen arbennig ‘Fy Achau Cymraeg’ ar BBC Sounds Ifan Evans a Nan Thomas Enillodd rhaglen Ifan Evans wobr arbennig mewn ŵyl Geltaidd yn ddiweddar ac un o’r cynta i’w longyfarch ar ei raglen oedd Nan Thomas o Eglwyswrw. Roedd Nan yn falch bod Cymru’n gwneud yn dda ar lwyfan rhyngwladol ac yn awyddus i ni gymryd rhan fel gwlad yn yr Eurovision Song Contest, ond pwy fasai Nan yn licio ei weld yn cynrychioli Cymru yn y gystadleuaeth tybed? Achau - Ancestry Gwobr - Award Llongyfarch - To congratulate Llwyfan rhyngwladol - International stage Cynrychioli - Represent Pwy gelen i? - Pwy gawn ni? Yr unig fai - The only fault Pallu - Gwrthod Dewis da ynde? Morgan Elwy enillodd Can i Gymru y llynedd, ac mae o’n diwtor Cymraeg yn ogystal! Rhys Mwyn a Catrin Saran Buodd Rhys Mwyn yn trafod sut mae cerddoriaeth yn siapio ein bywydau efo Catrin Saran o Abertawe. Aeth Catrin yn eitha emosiynol wrth gofio am ei mam-gu yn canu ‘Y Darlun – Dwy Law yn Erfyn’ – iddi pan oedd hi’n blentyn... Mam-gu - Nain Erfyn - Praying Difyr - Diddorol Wyres - Grand-daughter ‘Y Darlun – Dwy Law yn Erfyn’ dyna i chi gân hyfryd, syml ac un emosiynol iawn i Catrin Saran ynde? Bore Cothi - Shan Cothi a Debra Drake Os dach chi’n gwylio ‘The Great British Sewing Bee’ dach chi’n siŵr o fod yn nabod Debra Drake sydd yn cystadlu yn y rhaglen. Mi wnaeth hi blesio’r beirniaid yn arbennig yr wythnos o’r blaen ac ennill gwobr ‘Dilledyn yr Wythnos’. Dyma Debra yn sôn am y gystadleuaeth wrth Shan Cothi... Beirniaid - Judges Dilledyn - Garment Uffar o brofiad - Hell of an experience Gwnio - To sow Her - A challenge Cyd-destyn - Context Becso - Poeni Cywrain - Elaborate Trawsnewid - To transform Dyluniad - A design Lluchio - Taflu A phob lwc i Debra efo’r gystadleuaeth o hyn ymlaen! Dei Tomos a Dani Schlick Mi symudodd Dani Schlick o Berlin i Gymru saith mlynedd yn ôl, mae hi wedi dysgu Cymraeg ac erbyn hyn mae hi’n gweithio i’r Mentrau Iaith. Dyma hi’n egluro wrth Dei Tomos sut daeth hi i Gymru i ddechrau, a pham ei bod hi wedi dysgu Cymraeg. Wedi gwirioni ar - Wedi dwlu ar Tebygrwydd - Similarity Synau - Sounds Ymdopi - To cope Ieithyddol - Linguistic Cam - A step Mynychu digwyddiadau - Attending evebts Cysylltiadau - Connections
6/21/202217 minutes, 8 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr Mehefin 14eg 2022

Dros Ginio Dafydd Iwan Mi fydd tîm pêl-droed Cymru yn cystadlu yng Nghwpan y Byd yn Qatar fis Tachwedd ar ôl i'r tîm guro Wcráin yn Stadiwm Dinas Caerdydd wythnos diwetha. Mi wnaeth y crysau coch yn wych ond roedd canu'r Wal Goch yn bwysig hefyd yn enwedig wrth iddyn nhw ganu 'Yma o Hyd' efo Dafydd Iwan. Dyma Dafydd yn sôn am y profiad ar Dros Ginio Breuddwyd - A dream Cyfuno - To combine Manteisio ar y cyfle - Taking advantage of the opportunity Bwriadol - Intentional Mynegi teimladau - Expressing the feelings Rhyfeddol - Wonderful Cyfraniad - Contribution Trefnwyr cefn llwyfan - Backstage organisers Profiad bythgofiadwy - An unforgettable experience Ac mi gyrhaeddodd y gân 'Yma o hyd' rhif 1 yn siart I-Tunes wythnos diwetha - anhygoel ynde? Arfon Wyn Un o arwyr Cymru yn y gêm oedd y gôl-geidwad, neu'r gôli, Wayne Hennessey. Aeth Wayne i ysgol gynradd Biwmares pan oedd o'n blentyn a dyma i chi Arfon Wyn, oedd yn bennaeth yr ysgol ar y pryd, yn sôn wrth Dylan Ebenezer am sut dechreuodd gyrfa bêl-droed Wayne... Pennaeth - Head Hogyn dymunol - A likeable boy Dihyder - Lacking in confidence Dirprwy - Deputy Syth bin - Straight away Menyg - Gloves Wedi dotio - Wrth ei fodd Y gamp - The sport Diolch i staff Ysgol Biwmares ynde, am roi'r cyfle cynta i Wayne Hennessy. Beti a Geraint Davies Geraint Davies oedd gwestai Beti a'i Phobol dydd Sul Eleni mae Geraint wedi ymddeol fel cynghorydd sir dros ardal Treherbert yng Ngwm Rhondda ar ôl iddo fo wneud y gwaith am dros 30 mlynedd. Buodd o hefyd yn Aelod Cynulliad dros y Rhondda rhwng 1999 a 2003, roedd o'n fferyllydd yn y cwm am flynyddoedd maith a hefyd yn aelod o'r clwb tenis lleol. Dyn prysur iawn felly... Aelod Cynulliad - Assembly member Fferyllydd - Chemist Cyflwyniad - Introduction Sbort mawr - Llawer o hwyl Parhau eich bywyd - Prolong your life Ymennydd - Brain Poblogaidd - Popular Rhyfedd - Strange Wedi cwympo - Had fallen O ganlyniad - As a consequence Diddorol ynde - Covid wedi gwneud i bobl feddwl mwy am eu hiechyd a'u ffitrwydd. Aled Hughes ac Alex Harry Gemau'r Gymanwlad Mi wnawn ni aros ym myd y campau rŵan ond y tro 'ma efo Gemau'r Gymanwlad. Bydd y gemau'n cael eu cynnal yn Birmingham ddiwedd mis Gorffennaf ac un o'r athletwyr fydd yn mynd i Birmingham ydy Alex Harry, sy'n dod o Lanelli yn wreiddiol, ac sy wedi cael ei dewis yn rhan o dim reslo Cymru. Dyma flas i chi ar y sgwrs rhwng Aled Hughes ac Alex... Gemau'r Gymanwlad - The Commonwealth Games Pwysau - Weight I gael dy ystyried - For you to be considered Cynrychioli dy wlad - Representing your Country Aled Hughes a Non Stanford Pob lwc i Alex ynde a hefyd i Non Stanford sydd yn rhan o dîm triathlon Cymru. Pa fath o baratoadau mae hi wedi eu gwneud ar gyfer Gemau'r Gymanwlad tybed? Aled Hughes oed yn holi eto... Paratoadau - Preparations Canolbwyntio - To concentrate Cic lan y pen-ôl - A kick up the backside Cydwybod - Conscience Geraint Lloyd a Nia Medi Wel, dan ni wedi sôn am bêl-droed, tenis, athletau ac rŵan dan ni'n mynd i glywed hanes criw bach sydd am seiclo o Lundain i Amsterdam - Fflamingos Pinc Trystan. Mae'r pum 'fflamingo' am wneud y daith er cof am eu ffrind Trystan Gwyn Rees fuodd farw dair blynedd yn ôl. Geraint Lloyd fuodd yn holi un o'r criw, Nia Medi... Er cof am - In memory of Cymeriad lliwgar - A colourful character Tyle - Hill Galar - Bereavement Cyfnod tywylla ein bywydau - Darkest period of our lives Doniol - Amusing Cynghori - To advice
6/14/202214 minutes
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr Mehefin 7fed 2022

Beti a Ceri Isfryn Mae Ceri Isfryn wedi gweithio ar sawl gyfres deledu fel The One Show, Watchdog Rogue Traders, a Panorama a hi ydy cynhyrchydd y gyfres House of Maxwell sy'n dilyn hanes Robert Maxwell a'i deulu. Dim ond dwy oed oedd Ceri pan fuodd Robert Maxwell farw yn 1991. Faint felly oedd hi'n gwybod am hanes teulu Maxwell cyn dechrau gweithio ar y gyfres? Dyma hi'n sgwrsio efo Beti George... Cynhyrchydd - Producer Cenhedlaeth - Generation Dylanwad - Influence Ymchwilio - To research Diflasu - To become bored of Iddew - Jew Datblygu - To develop Moesau - Morals Cofeb - Memorial Delwedd - Image Ceri Isfryn yn sôn wrth Beti George am ei gwaith ymchwil i deulu Robert Maxwell. Dros Ginio Ieuan a Rhisiart Y ddau frawd Ieuan Wyn Jones a Rhisiart Arwel oedd y ddau cyn dau efo Dewi Llwyd . Roedd Ieuan yn arfer bod yn Ddirprwy Brif Weinidog Cymru ac mae Rhisiart yn gerddor. Faint o ffrindiau oedden nhw pan oedden nhw'n ifanc tybed? Dirprwy Brif Weinidog Cymru - Deputy First Minister of Wales Cerddor - Musician Traddodiad - Tradition Ddaru - Gwnaeth Difyr - Diddorol Ffraeo - To row Prin dw i'n cofio - I hardly remember Tueddiad - A tendency Ar wahân - Separately Cecru - Bickering Y ddau frawd Ieuan Wyn Jones a Rhisiart Arwel yn fan'na'n sgwrsio gyda Dewi Llwyd. GBYH Eleri Evans Ar Gwneud Bywyd yn Haws nos Fawrth cafodd Hanna Hopwood gwmni Eleri Evans sy'n byw yng Ngorllewin Cymru gyda'i gŵr Ian, a'u plant Alys sy'n 7, Aaron sy'n 9 a Liam sy'n 17. Oherwydd gwahaniaeth oedran y plant roedd hi'n anodd weithiau cadw pawb yn hapus. Dyma Eleri'n sôn am sut aeth y teulu ati i geisio gwella'r sefyllfa... Mo'yn - Eisiau Llwyth - Loads Sylweddoli - To realise Mynd am wâc - Mynd am dro Mae e'n dwlu ar - Mae o wrth ei fodd efo Wel dyna syniad da ynde - gwrando ar leisiau'r plant a chadw pawb yn hapus! Rhydian a Shelley ac Esther Rhydian a Shelley fuodd yn cadw sedd Aled Hughes yn gynnes ac mi gaethon nhw sgwrs efo Esther, sy'n 13 oed ac yn mynd i Ysgol David Hughes, Porthaethwy ar Ynys Môn. Ar ei ffordd i Eisteddfod yr Urdd oedd Esther, a dyma hi'n sôn am yr holl gystadlu oedd o'i blaen... Parti Deulais - Two voice party Llefaru Unigol - Solo recitation Côr Gwerin - Folk Choir Detholiad - A selection Tawelu - To quieten Cyngor - Advice Cefnogi - To support Enfawr - Huge Wel mi roedd Esther wedi cael eisteddfod brysur yn doedd? Bore Cothi Sioned Mair a Caryl Parry Jones Buodd Caryl Parry Jones a'i ffrind Sioned Mair yn cystadlu yn Eisteddfodau'r Urdd pan oedden nhw yn Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy Sir Ddinbych, a dyma glip bach ohonyn nhw'n hel atgofion am y cyfnod yna.. Hel atgofion - Reminiscing Arweiniad - Leadership Ysbrydoli - To inspire Roedd y brwdfrydedd yn heintus - The enthusiasm was infectious Creu ymdeimlad o berthyn - Create a feeling of belonging Bodoli - To exist Hyfforddi - Coaching Y diweddar - The late Caryl ac Sioned yn amlwg wedi mwynhau cystadlu yn Eisteddfodau'r Urdd. Stiwdio Os wnaethoch chi wrando ar yr Eisteddfod wythnos diwetha dw i'n siŵr eich bod wedi clywed sawl côr ac unigolion yn canu caneuon oedd wedi cael eu cyfansoddi gan Robat Arwyn. Mae Robat yn dod o Ddyffryn Nantlle yn wreiddiol ond erbyn hyn mae'n byw yn Nyffryn Clwyd yn agos at le cafodd Eisteddfod eleni ei chynnal. Gofynnodd Nia Roberts iddo fo pryd ddechreuodd ei ddiddordeb mewn cyfansoddi... Cyfansoddi - To compose Dylanwadau cynnar - Early influences Alawon - Tunes Arbenigo - To specialise Unawdydd - Soloist
6/7/202214 minutes, 41 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr Mai 31ain 2022

Beti a Sian Eirian Mae Eisteddfod yr Urdd yn cael ei chynnal yn Nimbych yr wythnos hon ac mi gafodd Beti George gwmni Cyfarwyddwr Dros Dro yr Eisteddfod, Sian Eirian, ar Beti a'i Phobol fore Sul. Yn y gorffennol buodd Sian yn gweithio fel Pennaeth Rhaglenni Plant S4C a dyma hi'n sôn am yr adeg aeth hi â CYW (y cyw annwyl felly- eicon rhaglenni plant bach) i gyfarfod â Boris Johnson pan oedd o'n Faer Llundain... Cyfarwyddwr Dros Dro - Temporary Director Awyddus I ymestyn - Eager to extend Adran Gyfathrebu - Communications Department Sylweddoli - To realize Tanddaearol - Underground Heddlu cudd - Secret police Terfysgwr - Terrorist Gweithredu - To act (upon) Degau ar ddegau - Many (lit: tens on tens) Hanes 'Cywgate' yn fan'na gan Sian Eirian. Butlins Oeddech chi'n gwybod bod yna Eisteddfodau o fath yn Butlins Pwllheli ac yn Butlins y Barri ers talwm? Wel cystadleuaeth talent oedden nhw cael eu galw mewn gwirionedd! Buodd Ffion Emyr yn cyflwyno rhaglen oedd yn edrych yn ôl ar 75 mlynedd ers agor Butlins Pwllheli. Dyma hi'n cael sgwrs efo Bob Morris fuodd yn gweithio yn Butlins, ac sy'n cofio gweld Billy Butlin ym Mhwllheli, ac yna hanes Mair Evans o Lanbedr Pont Steffan, neu Llambed, wnaeth yn dda iawn yn y cystadlaethau talent - ei mam Janet sy'n dweud yr hanes. Datganiad - Statement Gwersyllwyr - Campers Beirniadaeth - Adjudication Beirniaid - Judges Wedi dotio ar - Wedi dwlu ar Neb llai na - None other than Gwlad yr Haf - Somerset Meddyliwch ennill cystadleuaeth dalent a Catherine Zeta Jones yn dod yn ail i chi - gwych yn de? Bore Cothi a Manuela Manuela Niemetscheck, sy'n seicotherapydd celf, oedd dysgwr y flwyddyn Bwrdd Betsi Cadwaladr. Mae'r gystadleuaeth yn cael ei chynnal bob dwy flynedd ac roedd y tri beirniad yn cytuno mai Manuela oedd yn haeddu teitl Dysgwr y Flwyddyn. Dyma Manuela ar Bore Cothi yn rhoi ychydig o'i hanes hi ac yn sôn am ei swydd ddiddorol ... Haeddu - To deserve Llwyth - Loads Dwyieithog - Bilingual Bwrw ymlaen - To get on with it Mae talent dysgu ieithoedd anhygoel gan Manuela yn does? Dros Ginio Caryl a Miriam Mam a merch, Caryl Parry Jones a Miriam Isaac, oedd gwesteion Dewi Llwyd bnawn Llun. Caryl sy'n dechrau'r sgwrs, yn cofio am ei magwraeth yn Ffynnongroyw, Sir y Fflint. Gwerthfawrogi magwraeth - Appreciating the upbringing Pentref glofaol - A coal mining village Pwll glo - Coal mine Brawdgarwch - Brotherhood Y Parlwr Du - Point of Ayr Diwylliant - Culture Nefolaidd - Heavenly Arddull - Style Mae'n amlwg bod Caryl a Miriam wedi cael magwraeth wrth eu boddau, ac atgofion melys iawn gan Miriam o Nain a Taid I Mewn I'r Gol Yn 2021, mi fuodd yna newid anferth i Glwb Pêl-droed Wrecsam wrth i ddau o sêr Hollywood, Ryan Reynolds a Rob McElhenney brynu'r clwb! Cyhoeddodd y ddau fideo aeth yn feiral - a chael Maxine Hughes , sy'n byw yn yr Unol Daleithiau i gyfieithu ar y pryd ar y fideo. Rŵan dan ni'n mynd i glywed lleisiau Maxine, Wayne Phillips, fuodd yn chwarae i Wrecsam, a hefyd Cledwyn Ashford sy'n sgowt I academi'r clwb yn sôn am y newid ddaeth i'r clwb ers i'r sêr ddod mewn. Dylan Griffiths, o Adran Chwaraeon Radio Cymru, fuodd yn dilyn y stori Cyfieithu ar y pryd - Instantaneous translation Perchnogion - Owners Cadarnhad - Confirmation Hyrwyddo - To promote Sylw byd eang - Worldwide attention Disgleirio - To shine Llwyfan - A stage Argraffiadau cynnar - Early impressions Breuddwyd - A dream Yn y cefndir - In the background A dw i'n siŵr bod ffans Wrecsam i gyd yn drist ddydd Sul pan gollodd y clwb gêm fwya'r tymor o bum gôl i bedair. Stiwdio Tlws y Dysgwr Ac mi ddown ni'n ôl at Eisteddfod yr Urdd efo'r clip ola. Mae gan Francesca Sciarrillo atgofion melys iawn o'r Eisteddfod gan iddi hi ennill Medal y Dysgwyr pan oedd yr Eisteddfod yng Nghaerdydd yn 2019, ac erbyn hyn mae hi'n byw ei bywyd drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae ei rhieni'n dod o'r Eidal yn wreiddiol a dyma Francesca yn disgrifio sut gwnaeth ei thad ymateb i'w llwyddiant yn yr Eisteddfod Atgofion - Memories Trwy gyfrwng - Through the medium of Yr Wyddgrug - Mold Cyfarwydd - Familiar
5/31/202217 minutes, 15 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr Mai 24ain 2022

Dei Tomos a Gwyn Elfyn Yr actor Gwyn Elfyn oedd gwestai Dei Tomos wythnos diwetha. Fo oedd Densil yn Pobol y Cwm am flynyddoedd ac yn siarad efo acen de Cymru ar y rhaglen. Ond yn y clip nesa dan ni'n clywed Gwyn yn sgwrsio efo Dei Tomos efo acen ogleddol Blaenau Ffestiniog. Pa acen ydy yr un naturiol iddo fo felly? Tafodiaith - Dialect Cyfeillion - Ffrindiau Honni - To claim Lwcus ydy Gwyn Elfyn ynde, yn medru siarad yn naturiol yn nhafodiaith y de a'r gogledd. Gwenno Williams Tafarn yr Heliwr Dydd Llun cafodd Aled Hughes sgwrs efo Gwenno Williams o dafarn gymunedol Yr Heliwr yn Nefyn. Roedd pobl Nefyn wedi codi arian i brynu'r adeilad ac i ail-wneud rhannau o'r dafarn er mwyn ei chael yn barod ar gyfer y cyhoedd. Awgrymodd Aled wrth Gwenno bod stori yr Heliwr yn stori o gymuned yn uno ac yn llwyddo a dyma oedd ymateb Gwenno... Cymuned - Community Hwb - A boost Gwireddu - To make it happen Ail-wneud - To redo Gwirfoddoli - To volunteer Budd mawr - A great benefit Gwobr - Prize Ysbrydoliaeth - Inspiration Mentrau cymunedol - Community enterprises Cyd-weithio - To co-operate Aballu - And so on Mae hi'n braf iawn gweld yr holl fentrau cymunedol yma'n llwyddo yn tydy? Aled Hughes Dr Who Daeth newyddion cyffrous am y gyfres Doctor Who wrth i'r doctor nesa gael ei enwi, sef yr actor Ncuti Gatwa. Cafodd Ncuti ei eni yn Rwanda a'i fagu yn yr Alban. Mae'n enwog am ei ran yn y gyfres boblogaidd Sex Education, a fo fydd yn chwarae rhan Doctor rhif un deg pedwar yn y gyfres eiconig. Mae Alun Parrington yn "Whovian" sef un o ffans enfawr y gyfres, a dyma fo'n sôn wrth Aled Hughes am Ddoctoriaid y gorffennol... Cyfres - Series Cyfnod - Period (of time) Dal fy nychymyg - To catch the imagination Goro - Gorfod Pennod - Episode Gadael argraff - To leave an impression Gwatsiad - Edrych ar Cenhedlaeth - Generation Alun Parrington oedd hwnna'n amlwg yn edrych mlaen at gyfres newydd Dr Who. Bore Cothi maeth bwyd Mae Angharad Griffiths wedi cymhwyso fel therapydd maeth ar ôl tair blynedd o astudio ac mae hi wedi agor clinig maeth i ddysgu pobl am fwyd, ac yn arbennig felly pwysigrwydd bwyta bwyd maethlon. Dyma glip o Angharad yn esbonio wrth Shan Cothi pa fath o fwydydd sy'n rhai maethlon... Cymhwyso - To qualify Maeth - Nutrition Maethlon - Nutritious Yn dueddol o - Tend to Ymddangos - To appear Cynhwysion - Ingredients Lleihau - To reduce Mo 'yn - Eisiau Bore Cothi Ffrwythau Tun Tybed fasai Angharad yn ystyried bod tun o peaches, neu eirin gwlanog, yn fwyd maethlon? Wel mae'n bosib cawn ni'r ateb yn y clip nesa ma o raglen Bore Cothi, lle mae'r cogydd Nerys Howell yn cymharu ffrwythau tun efo ffrwythau ffres... Hylif - Liquid Twymo i dymheredd - Warm to tempretature Triniaeth gwres - Heat treatment Toddi - To melt Braster - Fat Mwynau - Minerals Amrywio - To vary Diddorol ynde, manteision ar y ddwy ochr yn fan'na wrth gymharu ffrwythau ffres efo ffrwythau tun. Beti a'i Phobol Russell Isaac Roedd Russell Isaac yn arfer gweithio fel newyddiadurwr ond erbyn hyn mae o'n gweithio efo'r Cenhedloedd Unedig. 40 mlynedd yn ôl aeth Russel draw i ochr arall y byd ar ran rhaglen newyddion Cymraeg ITV - Y Dydd- ac ar ran y rhaglen Saesneg Report Wales, i adrodd am ryfel Ynysoedd y Malfinas. Dyma fo'n sôn wrth Beti George sut gaeth o wybod ei fod yn gorfod mynd draw yno... Y Cenhedloedd Unedig - United Nations Llynges - Navy Ar fin - About to Cysylltiadau - Connections Ymchwilydd - Researcher Mynnu - To insist Archentwyr - Argentinians Gorchymyn - A command Cyfarwyddyd - Instruction
5/24/202212 minutes, 52 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr Mai 17fed 2022

Beti a Dr Sara Louise Wheeler Mae'r Dr Sara Louise Wheeler yn dod o ardal Wrecsam yn wreiddiol, ac mae hi'n falch iawn ei bod hi'n siarad efo acen arbennig pentref Rhosllannerchrugog. Ond fel cawn ni glywed yn y clip nesa doedd pawb ddim yn hoff o'r acen honno... Magwraeth - Upbringing Tafodiaith - Dialect Herio - To challenge Os dach chi isio gwybod rhagor am hanes diddorol Sara mi fedrwch chi wrando ar y sgwrs yn llawn ar bodlediad Beti a'i Phobol. Aled Hughes a Grant Peisley Mae Grant Peisley yn chwarae criced i dîm dros 50 oed Cymru er ei fod yn dod o Awstralia'n wreiddiol. Mae o'n byw yng Nghymru ers dros ugain mlynedd erbyn hyn, ac wedi dysgu Cymraeg. Mae criced yn ofnadwy o bwysig i bobl Awstralia - felly sut deimlad ydy chwarae dros Gymru i Grant tybed? Dyma fo'n sgwrsio efo Aled Hughes... Rhyngwladol - International Cwpan y Byd - World Cup Ers yn ddim o beth - Since being a small child Braf clywed Grant yn disgrifio ei hun fel Cymro Newydd yn tydy, a dwi'n siwr bydd o'n falch iawn o fod yn rhan o dîm Cymru yn erbyn Awstralia. Erin Bryfdir Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn 10 oed eleni ac mae'r coleg wedi medru helpu llawer o bobl i ddilyn cyrsiau yn y prifysgolion ac mewn addysg bellach drwy gyfrwng y Gymraeg. Un o'r rheini ydy Erin Bryfdir sydd yn Sister yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor, a dyma hi'n sôn am sut wnaeth cyflwyniad gan y coleg, pan oedd hi yn yr ysgol uwchradd, newid ei bywyd. Drwy gyfrwng - Through the medium of Cyflwyniad - Presentation Disgybl - Pupil Megis dechrau - Just starting Ysbrydoli - To inspire Gradd - Degree Ysgoloriaeth Cymhelliant - Incentive scholarships Llysgennad - Ambassador Mantais - Advantage Darlithoedd - Lectures Erin Bryfdir oedd honna , un o'r miloedd sydd wedi manteisio ar y cyfle i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg diolch i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Rob Malcolm Jones cocktails. Faint ohonoch chi sy'n mwynhau coctêls? Mae na gymaint o wahanol rai yn does? Mae Rob Malcolm Jones yn byw yn Efrog Newydd ac yn nabod ei goctêls yn dda. Shan Cothi gaeth sgwrs efo fo fore Mawrth Efrog Newydd - New York Ffurfiol - Formal O ddifri - Seriously Bodoli - To exist Poblogaidd - Popular Cynrychioli - To represent Egniol - Energetic Wel dyna ni - y Dirty Martini amdani! GBYH - Eilir Owen Griffiths Mae iechyd meddwl wedi dod mwy i'r amlwg ers y cyfnod clo, ac roedd hi'n wythnos iechyd meddwl wythnos diwetha. Cafodd Hanna Hopwood gwmni yr arweinydd côr a'r cerddor Eilir Owen Griffiths fuodd yn siarad am y tro cyntaf yn gyhoeddus am ei siwrne iechyd meddwl bersonol. Arweinydd côr - Choir conductor Cerddor - Musician Yn gyhoeddus - Publicly Y lle tywylla(f) - The darkest place Eithafoedd - Extremes Creadigol - Creative Yr wythnos ganlynol - The following week Cyfansoddi - Composing Yr arweinydd côr a'r cerddor Eilir Owen Griffiths yn siarad yn bersonol iawn am ei sefyllfa yn ystod y cyfnod clo. Bore Cothi - Hot Cakes Mae na gyfres newydd ar BBC3 - Hot Cakes- ac mae dau o Gaerdydd, Gareth a'i bartner Ryan o gwmni Let them See Cake yn serennu yn y gyfres. Cafodd Shan Cothi sgwrs efo'r ddau a chanfod bod Ryan wedi dysgu Cymraeg dros y cyfnod clo ac mai dyma oedd ei gyfweliad cynta yn Gymraeg.. Cyfres - Series Canfod - To discover Cyfweliad - Interview Joio mas draw - Really enjoing
5/17/202214 minutes, 43 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr Mai 10fed 2022

Bore Cothi Anne Henrot Un o Wlad Belg ydy Anne Henrot ac mi ddechreuodd ddysgu Cymraeg ym 1984 ar ôl bod ar wyliau i Gymru. Mi wnaeth hi deithio ar hyd a lled Cymru pan oedd hi yma - o Gaerdydd i Fangor. Mae hi wedi ymweld â Chasgwent sawl gwaith ac mae wrth ei bodd gyda'r ardal. Dyma Anne yn dweud wrth Shan Cothi sut a pham dechreuodd hi ddysgu Cymraeg. Gwlad Belg - Belgium Yn rhyfeddol - Wonderous Ail-ddechreuais i - I re-commenced Anne Henrot, fuodd yn Nant Gwrtheyrn am bythefnos yn unig, a heblaw am hynny wedi dysgu Cymraeg yn ei chartref yng Ngwlad Belg. Gwych ynde? Aled Hughes ac Ezzati Ariffin Mae E'zzati yn dod o Brunei yn wreiddiol, ond mae hi'n disgrifio ei hun fel "merch Bruneian yng Nghymru" erbyn hyn. Buodd hi'n egluro wrth Aled Hughes mwy am yr ŵyl Hari Raya Aidilffitri sydd yn dathlu diwedd cyfnod ymprydio Ramadan. Gŵyl - Festival Ymprydio - Fasting Am wn i - As far as I know Canolbwyntio - To concentrate Dihuno - Deffro Bennu - Gorffen Dathliad - A celebration A phob hwyl i bawb fydd yn dathlu Hari Raya Aidilffitri, neu Eid al-Ffitr iid ffitr, ynde? Gwneud Bywyd yn Haws - Carys Mai Hughes Mae Carys Mai Hughes yn gweithio o'i champerfan yn hytrach nag o adre er mwyn teithio Ewrop a gwneud y gorau o bob eiliad o'i hamser hamdden. Dyma hi ar Gwneud Bywyd yn Haws yn sgwrsio o lan Llyn Léman... Darlledu - To broadcast Ar bwys - Wrth ymyl Rhyngwladol - International Diflasu - To become weary of Gwenu - Smiling Sa i'n mynd - Dw i ddim yn mynd Dyna'r bywyd ynde - mae gweithio o'r camperfan yn gwneud bywyd yn dipyn haws i Carys Mai Hughes dw i'n siŵr o hynny. Papur Ddoe Mae Elin Tomos yn dilyn hanesion o hen bapurau newydd yn y gyfres Papur Ddoe. Mae hi'n dod ar draws sawl stori ddifyr fel hanes llofruddiaeth Dafydd Lewis cafodd ei saethu yn ei ben gyda phistol llaw yn 1844. Dyma'r hanesydd Erin White i roi ychydig o'r hanes. Llofruddiaeth - Murder Yn dwyn yr enw - Named Tyddyn - Smallholding Cynnyrch - Produce Y Chwyldro Diwydiannol - The Industrial Revolution Swm sylweddol - A considerable amount Tollborth - Toll gate Ymosodiad gan ladron - An attack by thieves Tystion - Witnesses Daethpwyd o hyd - Was found Cwato - Cuddio Hanes llofruddiaeth Dafydd Lewis yn fan'na ar Papur Ddoe. Ifan Evans a Nigel Owens Un o'r pethau unigryw ym myd rygbi Cymru ydy timau cymunedol o bob oedran yn cael chwarae rowndiau terfynol eu cystadlaethau yn y stadiwm cenedlaethol yng Nghaerdydd. Er bod Nigel Owens wedi ymddeol fel dyfarnwr rygbi, buodd o yn y Stadiwm yn helpu efo'r gemau. Cafodd Ifan Evans sgwrs efo fo am y digwyddiad... Dyfarnwr - Referee Rowndiau terfynol - Finals Gêm y gymuned - The community game Rowndiau terfynol - Finals Cyfleoedd - Opportunities Yr Undeb - The Union (WRU) Unigryw - Unique Profiad - Experience Wastad - Always Braf gweld Nigel yn helpu'r gêm gymunedol yn tydy? Stiwdio Cefyn Burgess Mae'r artist Cefyn Burgess yn cofio arian yn cael ei gasglu yn yr ysgol Sul ers talwm ar gyfer cenhadaeth yr Eglwys Bresbyteraidd yn Casia India. Cyn y cyfnod clo aeth o draw i Casia er mwyn cael dysgu mwy am bobl y rhan yna o'r byd, ac mae o wedi creu arddangosfa artistig o'i brofiadau yno. Aeth Elinor Gwynn draw i Storiel, Bangor i weld yr arddangosfa a chael gair efo Cefyn am y gwaith. Os dach chi yn yr ardal o gwbl mae'r arddangosfa ymlaen tan yr 2il o Orffennaf 2022. Arddangosfa - Exhibition Casgliad - Collection Bylchau cenhadol - Missionary collection boxes Yn gyfarwydd - Familiar Dychymyg - Imagination Yn fy oed ac amser - At this stage in my life Ehangach - Wider Talaith - State
5/10/202216 minutes, 8 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr Mai 3ydd 2022

Aled Hughes a Vaughn Smith Glanhau carpedi yn Washington, yn yr Unol Daleithiau, ydy gwaith Vaughn Smith. Mae'n gallu siarad 24 iaith yn rhugl, mae o'n hyperpolyglot. Mae'r Gymraeg yn un o'r ieithoedd hynny a dyma fo'n cael sgwrs yn Gymraeg efo Aled Hughes Hyd y cofiaf - As far as I remember Ces i fy swyno - I was enchanted Yn ddiweddarach - Later Brodorol - Native Gwyddeleg - Irish language Vaughn Smith ddysgodd un o ieithoedd brodorol Mecsico oherwydd ei fam, a'r Gymraeg oherwydd cefndir ei dad - ond beth am y 22 o ieithoedd eraill? Anhygoel ynde? Aled Hughes ac Iwan Rheon Bydd lawer ohonoch chi'n cofio'r actor Iwan Rheon am ei berfformiadau fel Ramsay Bolton yn Game of Thrones. Mae o wedi actio yn Gymraeg yn y gorffennol - fo oedd Macsen White yn Pobol y Cwm, ond heb actio yn Gymraeg ers rhai blynyddoedd erbyn hyn. Y newyddion da ydy ein bod ni'n mynd i weld Iwan cyn bo hir ar S4C mewn cyfres newydd sbon 'Y Golau'. Dyma glip ohono fo'n sgwrsio efo Aled Hughes Cefndir - Background Anhygoel - Incredible Cyfres - Series Llwyfan - Stage Atgofion melys - Fond memories Chwedl - Legend Anferth - Huge Amrywiaeth - Variety Cymeriadau - Characters Yn dueddol - To tend to Iwan Rheon oedd hwnna'n sôn am ei yrfa ac am gyfres newydd ar S4C ' Y Golau'. Bore Cothi ac Angharad Mair Tasech chi'n cael mynd ar fordaith - ble basech chi'n mynd a phwy fasech chi'n mynd efo chi? Dyma oedd dewis y gyflwynwraig Angharad Mair ar Bore Cothi Mordaith - Cruise Cyflwynwraig - Female presenter Aduniad - Reunion Gwaith ymchwil - Research Ffrindiau hoff gytûn - Best friends Mordaith ddiddorol iawn i Angharad a'i ffrindiau, yn enwedig os bydd Elvis yno! Pigion - Ni'n Dau Efeilliaid Nic Parri fuodd yn cyflwyno rhaglen arbennig am efeilliad. Mae Nic ei hun yn un o efeilliaid ac yn y clip yma mi gawn ni ei glywed yn sgwrsio efo efeilliaid bach o Fethesda yng Ngwynedd, Anni Glyn a Kate Ogwen Efeilliaid - Twins Yr un fath - Identical Ffraeo - To row O, annwyl de? Yr efeilliaid Anni a Kate oedd y rheina, ond pa un o'r ddwy oedd yn rhoi'r golau mlaen tybed? Gwneud Bywyd yn Haws Nos Fawrth ar Gwneud Bywyd yn Haws gaeth Hanna Hopwood gwmni Lliwen MacRae un o sylfaenwyr y grwp facebook GeNi sy'n rhoi llwyfan i famau beichiog a mamau newydd i rannu profiadau. Annwyl - Cute Sylfaenwyr - Founders Beichiog - Pregnant Profiadau - Experiences Heb ofni - Without fear O leia - At least Pynciau - Subjects Ymuno - To join Fatha - Yr un fath â Felly os dach chi'n fam newydd neu'n feichiog cofiwch am dudalen Facebook GeNi. Mali Harries Yr actores Mali Harries, sy'n chware rhan Jaclyn Parri yn yr opera sebon, Pobol y Cwm, fuodd yn sôn am fod yn fentor iaith i'w ffrind, yr actores Amanda Henderson. Mae Amanda, sy'n chware'r rhan Robyn yn y gyfres Casualty, wrthi'n dysgu Cymraeg efo help Mali yn y gyfres Iaith ar Daith ar S4C. Ffrindiau mynwesol - Bosom pals Twymgalon - Warmhearted Egnïol - Enegetic Yn gyfarwydd â - Familiar wuth Wedi cael ei throchi - Has been immersed
5/3/202214 minutes, 48 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr Ebrill 26ain 2022

Bore Cothi - Ciwcymbyr Mae na ddywediad Saesneg 'cool as a cucumber' yn does? Ond beth sydd y tu ôl i'r dywediad hwn tybed? Alison Huw fuodd yn sgwrsio am hyn efo Shan Cothi... Sail wyddonol - A scientific basis Oeri'r gwaed - Cools the blood Ar drothwy - The onset of Cynnwys - To include Dyfrllyd - Watery Unigryw - Unique Si - A rumour Rhesymol - Reasonable Rhwydd - Hawdd Cnwd - Crop Dyna ni felly - ewch ati i blannu'ch ciwcymbers! Eden Cafodd y band Eden ei ffurfio yn 1996 ac ar ôl cyfnod o beidio perfformio mi ddaethon nhw'n ôl at ei gilydd yng ngwyl fawr Caerdydd, Tafwyl, yn 2016. Cafodd hyn ei ddisgrifio fel 'comeback' y ganrif ar Golwg 360! Roedd Rachael Solomon yn aelod o'r band a hi oedd gwestai Iwan Griffiths fore Sul. Dyma hi'n sôn am y profiad o berfformio yn Tafwyl... Man a man - Might as well Ymateb - Response Symudiadau - Movements Cynulleidfa - Audience Synnu - To be surprised Cysylltu - To connect Www, caneuon newydd gan Eden - rhywbeth i edrych ymlaen ato ynde? Aled Hughes Siarcod Ar raglen Aled Hughes clywon ni Lowri O'Neill, myfyrwraig bywydeg ym Mhrifysgol Abertawe, yn sôn am ei phrofiadau yn nofio efo siarcod yn Hawaii. Oedd hi mewn cawell? Oedd yna reolau am sut i ymddwyn wrth nofio efo nhw? Dyna oedd rhai o gwestiynau Aled i Lowri... Bywydeg - Biology Cawell - Cage Ymddwyn - To behave Bwystfil - Monster O hyd - Length Yn y bôn - Basically Cystadleuaeth syllu - Staring competition Ymddangos - To appear to Ysglyfaethod gweithredol - Predator Yn ôl pob golwg - Apparently Merch ddewr iawn ydy Lowri O'Neill ynde? Bore Cothi - deg uchaf adar Dan ni'n aros efo byd natur rŵan ond efo rhywbeth dipyn llai peryglus na siarcod sef yr adar sy'n dod i'n gerddi yng Nghymru. Gofynnodd yr RSPB i bobl nodi pa adar oedden nhw'n eu gweld yn eu gerddi ac mi wnaeth Daniel Jenkins Jones rannu deg ucha yr arolwg ar raglen Shan Cothi... Arolwg - Survey Crybwyll - To mention Ymdrech - Attempt Ji-binc - Chaffinch Pioden - Magpie Nico - Goldfinch Ysguthan - Woodpigeon Drudwy - Starling Titw Tomos las - Blue tit Aderyn y to - House Sparrow Aderyn y to yn ennill unwaith eto, chwarae teg ynde? Dros Ginio - Mererid a Hanna Mam a merch oedd gwesteion Dau cyn Dau Dewi Llwyd bnawn Llun diwetha a'r ddwy yn byw yn ardal Caerfyrddin, sef y prifardd Mererid Hopwood a'i merch, y cyflwynydd radio a theledu Hanna Hopwood. Nid yng Nghymru cafodd Hanna ei geni a dyma Mererid yn dweud rhagor am hynny... Prifardd - National crowned/chaired poet Cyflwynydd - Presenter Tystysgrif geni - Birth certificate Yn benderfynol - Determined Sylweddoli - To realize Y cyfnod Llundeinig - The London period ...a dyna beth da bod y teulu wedi symud i Gymru ynde, fel ein bod ni'n medru gwrando ar Hanna'n cyflwyno Gwneud Bywyd yn Haws ar Radio Cymru. Y Ffatri Ddillad Roedd ffatri ddillad Laura Ashley yn gyflogwr pwysig yng ngogledd Powys gan roi gwaith i tua wyth cant o bobl yr ardal ar un adeg. Buodd Eddie Bebb o Lanidloes yn gweithio i'r cwmni am 37 o flynyddoedd a chafodd Sian Sutton sgwrs efo am ddyddiau cynnar a llewyrchus Laura Ashley... Cyflogwr - Employer Llewyrchus - Prosperous Hwb - A boost Ysbryd - Spirit
4/26/202213 minutes, 54 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr Ebrill 19eg 2022

Stiwdio Sharon a Saran Ar Stiwdio nos Lun mi gafodd Nia Roberts gwmni'r fam a'r ferch, yr actorion, Sharon a Saran Morgan. Mae Saran newydd ennill gwobr Marc Beeby y 'Best Debut Performance' am ei pherfformiad yn y ddrama radio 'Release' ar Radio 4 yn Ionawr 2021. Gyda'i mam yn y proffesiwn, oedd hi'n syndod bod Saran hefyd wedi dilyn yr un llwybr gyrfa? Gwobr - Award Mewn gwirionedd - In reality Sa i'n credu - Dw i ddim yn meddwl Disgyblaethau - Disciplines Llefain - Crïo Rhwystro - To obstruct Ei hargymell hi - To recommend her Llawfeddyg - Surgeon Bregus - Vunerable O fy herwydd hi - Because of me Cynyrchiadau - Productions Saran Morgan yn falch iawn o ddilyn ôl-traed ei mam yn tydy? Aled Hughes a Toda Sgwrs o'r archif sy nesa, o 2020, pan brofodd Toda Ogunbanwo a'i deulu hiliaeth ym mhentre Penygroes, Gwynedd, pan gafodd swastika ei beintio ar ddrws garej eu cartre. Aled Hughes fuodd yn sgwrsio efo Toda. Profi - To experience Hiliaeth - Racism Blin - Angry Derbyniol - Acceptable Ymddiheuro - To apologise Galwad - A calling Gweinidog - Minister Dallt - Deall Plentyndod - Childhood Profiad ofnadwy o hiliaeth yn fan'na i deulu Toda ym Mhenygroes Gwynedd. Nant Gwrtheyrn Pedwardeg mlynedd yn ôl mi gyrhaeddodd y criw cynta o ddysgwyr Cymraeg Nant Gwrtheyrn. Ond lle mae'r dysgwyr rheini rŵan? Mae Wyn Roberts, rheolwr cyfathrebu a marchnata'r Nant, wedi dod o hyd i un o'r tiwtoriaid cynta, ond rŵan mae o eisiau cysylltu efo'r dysgwyr gwreiddiol...... Cyfathrebu a marchnata - Communications and marketing Hogyn - Bachgen Pentref chwarelyddol - A quarrying village Atgyfodi - Resurrect Y diweddar - The late Yn uniongyrchol - Directly Hel atgofion - To reminisce Felly os dach chi'n nabod rhywun oedd yn un o'r dysgwyr gwreiddiol cysylltwch â Wyn yn y Nant. Beti a Dai Jones Buodd Dai Jones, Llanilar farw fis Mawrth eleni a chollodd Cymru un o'i chymeriadau mwya lliwgar. Buodd Dai ar nifer o raglenni Cymraeg ar S4C ac ar Radio Cymru gan gynnwys Sion a Sian, Cefn Gwlad ac Ar Eich Cais. Mi gaethon ni gyfle'r wythnos diwetha i glywed rhaglen arbennig, efo Beti George yn sgwrsio efo Dai yn 2002, a dyma i chi flas ar y sgwrs... Tafodiaith - Dialect Gwybyddus - Familiar Rhaff - Rope Llacio - To loosen Llenwi - To fill Mor dynn - So tight Ar ei liniau - On his knees Lan - i fyny Cynhyrfu - To agitate Y diweddar Dai Jones oedd hwnna'n sôn wrth Beti George am rai o'i anturiaethau. Dros Ginio Dyfan ac Arfon Gwilym Dau frawd oedd y Ddau Cyn Dau fuodd yn siarad efo Alun Thomas ar Dros Ginio pnawn Llun sef yr actor Dyfan Roberts a'r canwr gwerin, Arfon Gwilym. Dyma nhw'n sôn am eu magwraeth... Anturiaethau - Adventures Awgrymu - To suggest Telynores - Harpist (female) Celfyddydau - Arts Anochel - Inevitable Dylanwadau - Influences Diwylliant - Culture Roedd bri ar y canu - Singing was popular Anogaeth - Encouragement Adrodd - Recitation Bach o hanes y ddau frawd Dyfan Roberts a Arfon Gwilym ar Dros Ginio. Gwlad yr Ia Cafodd Geraint Lloyd sgwrs efo Alaw Edwards o Drefriw, Llanrwst sy'n byw ar hyn o bryd yng Ngwlad yr Iâ. Mae Alaw newydd ddechrau gweithio yno fel au pair ac mae hi'n byw mewn pentre o'r enw Suðureyri, pentre pysgota bach yng ngogledd gorllewin yr ynys. Pam dewisodd fynd yno i weithio tybed? Gwlad yr Iâ - Iceland Argraff - Impression Agwedd - Attitude Penodol - Definite
4/19/202218 minutes, 41 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr Ebrill 12fed 2022

Troi'r Tir Lamb Cam Mae'n dymor wyna a llawer o ffermydd erbyn hyn efo camerâu yn y siediau i gadw llygad ar y defaid a'r ŵyn. Mae Fferm Llwyn yr Eos yn Amgueddfa Werin Cymru, St Ffagan, wedi bod yn ffrydio ffilmiau o'r ŵyn bach yn cael eu geni ers blynyddoedd. Dyma Bernice Parker, sy'n gweithio i'r amgueddfa efo'r hanes... Tymor wyna - Lambing season Amgueddfa Werin Cymru - National Museum of History Ffrydio - To stream Yn gyfrifol am - Responsible for Cadw mewn cysylltiad - Keeping in contact Ymatebion - Responses Ar wahân - Apart Yn llythrennol - Literally Darlledu - To broadcast Gwatsio - Gwylio Byd-eang - Worldwide Felly os dach chi eisiau gweld ŵyn bach yn cael eu geni, dach chi gwybod lle i fynd! Beti a Carren Lewis Mae Carren Lewis yn dod o Benrhyndeudraeth ger Porthmadog yn wreiddiol, ond dreuliodd cyfnod yn byw yn Marmaris yn Nhwrci. Buodd Carren yn sôn wrth Beti George am yr adeg aeth hi i gartref plant yn Ne Ddwyrain Twrci gan feddwl bod dau blentyn yna iddi hi eu mabwysiadu . Ond siom cafodd hi fel cawn ni glywed yn y clip nesa ma... Cartref plant - Orphanage Mabwysiadu - To adopt Hogan - Merch Dall - Blind Ddaru ni - Wnaethon ni Genod - Merched Cefndir - Background Amgylchiadau - Circumstances A nes ymlaen yn y sgwrs clywon ni bod Bedri wedi setlo'n iawn efo'i deulu newydd ac newydd gwneud ei arholiadau TGAU. Newsround 50 Mae'r rhaglen newyddion Newsround yn dathlu ei phenblwydd yn hanner cant eleni a bore Mawrth mi roedd Alex Humphreys, cyflwynydd tywydd S4C sydd hefyd wedi cyflwyno Newsround, yn trafod y rhaglen ac yn esbonio pam mae cyflwyno newyddion i blant yn wahanol i'w gyflwyno i oedolion. TGAU - GCSE Cyflwynydd - Presenter Trwy gydol eu hoes - Throughout their lives Newyddiaduriaeth - Journalism Dyfalu - To guess Yn gyhoeddus - Publicly Trafod - To discuss Cyd-bwysedd - Balance Y buarth - The (school) yard Cyflawn - Complete Gwasanaethau brys - Emergency services Alex Humphreys oedd honna'n sôn am Newsround, y rhaglen newyddion i blant. Cloddio Aur Mae Aur Clogau'n enwog ac yn ffasiynol iawn y dyddiau hyn. O ardal Dolgellau daw'r aur ac mae'r daearegwr Elin Mars Jones yn cloddio am yr aur ar hyn o bryd. Dyma hi'n sgwrsio efo Aled Hughes am ei gwaith ... Daearegwr - Geologist Cloddio - To mine Aur - Gold Cynhyrchu - To produce Graddio - To graduate Canfod strwythurau - Finding structures Hanes cloddio aur Clogau yn fan'na gan Elin Mars Jones. Huw Foulkes a Côrdydd Weloch chi ffeinal Côr Cymru ar S4C? Wel am gystadleuaeth dda ynde? Côrdydd enillodd a dyma arweinydd y côr Huw Foulkes yn siarad efo Shan Cothi am y noson fawr... Chwys domen - Sweating buckets Wedi gwirioni'n lân - Were over the moon Beirniaid - Adjudicators Hollol gytûn - Unanimous Disgyblaeth - Discipline Cegrwth - Open mouthed Anghrediniaeth lwyr - Total disbelief Wedi dod i'r brig - Had won Byd o les - A world of good Beiddgar - Bold Wedi elwa - Had profited Huw Foulkes yn amlwg wedi gwirioni efo perfformiad Côrdydd yng nghystadleuaeth Côr Cymru. Dros Ginio Mam a merch oedd gwestai Dewi Llwyd pnawn Llun yn y slot dau cyn dau. Roedd Eirwen Thomas yn arfer gweithio fel athrawes ac mae ei merch, Elinor Williams, yn un o benaethiaid Ofcom yng Nghymru. Mae'r ddwy'n byw yn agos iawn i'w gilydd ym mhentre bach Llanedi, yn Sir Gaerfyrddin. Yn y clip nesa 'ma mae Elinor yn sôn am ei Alopecia Penaethiaid - Chjef officers I ddygymod ag o - To cope with it Cyflwr - Condition Moel - Bald Cymhleth - Complicated Pendantrwydd - Determination Tebygolrwydd - Likelyhood
4/12/202214 minutes, 25 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr Ebrill 5ed 2022

Post Prynhawn - Beryl y Nyrs Ar Post Prynhawn dydd Llun mi gafodd Nia Cerys sgwrs efo Beryl Roberts, nyrs arbennig sy newydd ymddeol yn 55 oed. Cychwynnodd ei gyrfa yn ysbyty Clatterbridge ac mae hi wedi gweithio gyda chleifion Canser ers hynny yn Ysbyty Gwynedd, Ysbyty Glan Clwyd ac yn Wrecsam. Dyma i chi flas ar y sgwrs ... Cleifion - Patients Triniaethau - Treatments Y gweddill - The rest Datblygu - To develop Pennaeth - Head Sgileffeithiau - Side-effects A phob lwc i Beryl ar ei hymddeoliad ynde? Beti a Beks Beks - Rebekah James oedd gwestai Beti George wythnos diwetha. Roedd Beks yn arfer cyflwyno rhaglenni ar Radio Cymru ond erbyn hyn mae hi'n byw yn Hong Kong. Dyma i chi ran o'r sgwrs efo Beti ble mae Becks yn esbonio pam gwnaeth hi werthu ei thŷ, a'i char a rhoi'r gorau i'w gyrfa efo'r BBC ugain mlynedd yn ôl.... Cyflwyno - To present Rhoi'r gorau i - To give up Cwympo - Syrthio Anhygoel - Incredible Delfrydol - Ideal Yn llythrennol - Literally Enfawr - Huge Ysgariad - Divorce Go gyhoeddus - In the public eye ...ac mae Beks yn dathlu ei phenblwydd yn 50 eleni a dw i'n siŵr bydd yna dipyn o ddathlu draw yn Hong Kong. Aled Hughes - Edina a Lin Y Gymraeg sydd yn cysylltu Edina Potts-Clement o Hwngary a Lin Dodd o Tsieina ac mae'r ddwy erbyn hyn yn gweithio yn yr un ysgol - Ysgol Gymraeg Caerffili. Gofynnodd Aled Hughes i'r ddwy ohonyn nhw ar ei raglen bore Mawrth pam wnaethon nhw ddysgu Cymraeg Addysg Cyfrwng Cymraeg - Welsh medium education Cymraeg yw iaith y dyfodol - clywch clywch Lin. Bore Cothi - Rich Pooley Heledd Cynwal oedd yn cadw sedd Shan Cothi yn gynnes fore Iau a buodd hi'n sgwrsio efo Richard Pooley sy'n byw yn Shotton yn Sir y Fflint, ond sy'n dod o Gaerdydd yn wreiddiol ac sydd wedi bod yn dysgu Cymraeg ers 8 mlynedd. Mae Richard wedi dechrau Clwb Siarad Shotton i roi cyfle i ddysgwyr ac i siaradwyr y Gymraeg yr ardal ddefnyddio'r iaith Ymdrech - Attempt Cylchdaith - Circuit Addas - Appropriate Profiadau - Experiences Cefnogol - Supportive Syniadau gwych yn fan'na gan Richard Pooley am sut i roi cyfleoedd i bobl ardal Shotton ddefnyddio eu Cymraeg. Ar Blat - Owain Wyn Evans Buodd Beca Lyne-Pirkis yn siarad efo Owain Wyn Evans, y cyflwynydd tywydd, ac os dach chi'n cofio llwyddodd Owain i chwarae'r drymiau am 24 awr er mwyn codi arian i Plant Mewn Angen y llynedd. Dyma Owain yn sôn am sut oedd drymio wedi bod o help iddo fo mewn cyfnodau anodd pan oedd o'n ifanc... Cyfnodau - Periods of time Hoyw - Gay Ffonau symudol - Mobile phones Estron - Foreign Owain Wyn Evans y cyflwynydd tywydd oedd hwnna'n sgwrsio efo Beca Lyne-Pirkis. Byd Iolo Aeth Iolo Williams ar daith i Allerdale yng ngogledd yr Alban - rhyw awr a hanner i'r gogledd o Inverness ac mi aeth o â ni, gwrandawyr Radio Cymru, ar y daith efo fo..... Gwarchodfa - Nature reserve Erwau - Acres Hir dymor - Long term Ail-wylltio - Rewilding Ysgubor - Barn Baw - Excrement Ucheldir - Highlands Tylluan - Owl Nythu - To nest Hela - To hunt
4/5/202215 minutes, 36 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr Mawrth 29ain 2022

Gwneud Bywyd yn Haws - Mirain Rhys Am 6 ar nosweithiau Mawrth mae Hanna Hopwood a'i gwesteion yn trafod be sy'n gwneud bywyd yn haws, a'r thema wythnos diwetha oedd teimladau plant. Dyma glip o'r Dr Mirain Rhys sy'n Uwch Ddarlithydd mewn seicoleg ym Mhrifysgol Met Caerdydd, yn esbonio pa mor bwysig ydy cael plant i feddwl yn bositif, a sut mae'n bosib gwneud hynny efo sylwadau cadarnhaol... Uwch Ddarlithydd - Senior lecturer Sylwadau cadarnhaol - Affirmations Ar hap - Randomly Darbwyllo unigolion - To convince individuals Y gwirionedd - The truth Yn ehangach - Wider Cyflawni - To achieve Gallu - Ability Datblygu - To develop Hyblyg - Flexible Ac i glywed rhagor o'r sgwrs yna rhwng Hanna a'r Dr Mirain Rhys mae'n bosib gwrando eto ar ap BBC Sounds drwy chwilio am Gwneud Bywyd yn Haws. Marchnad Llanbed Ychydig o hanes Marchnad Llanbedr Pont Steffan, neu Llambed, sy nesa. Mae'r farchnad wedi ennill gwobr Y Farchnad Orau yng Nghymru gyda'r Slow Food Awards. Dyma ymateb Jane Langford, un o drefnwyr Marchnad Llanbed ac un o'r stondinwyr, Yve Forrest o Cegin Yve i'r wobr... Pleidleisio - To vote Syndod - A surprise Cynhyrch - To produce Ansawdd - Quality Blawd - Flour Cynnyrch - Product Bro Morgannwg - Vale of Glamorgan Awyrgylch gefnogol - Supportive environment Cyfeillgar - Friendly Ychydig o hanes marchnad Llambed ar raglen Troi'r Tir wythnos diwetha. Hanes cerdded Dach chi erioed wedi meddwl am hanes cerdded? Mae Andrew Green wrthi'n paratoi llyfr am hanes cerdded yng Nghymru. Pa mor bell yn ôl mewn hanes fydd o'n mynd tybed? Dyma fo'n sgwrsio efo Aled Hughes.... Arfordir - Coast Gwledig - Rural Pentwr - Heap Oes - Age Ôl traed - Footprint Darganfod - To discover Andrew Green oedd hwnna'n sôn am ei lyfr newydd am hanes cerdded yng Nghymru. Bore Cothi a Tom Pitts-Tucker Shan Cothi gafodd air efo Tom Pitts-Tucker fore Mercher. Mae o'n byw ger Trefynwy ac wedi bod yn dysgu Cymraeg ers tua tair blynedd a dyma fo yn rhoi ychydig o'i hanes... Sir Efrog - Yorkshire Mo'yn dychwelyd - Eisiau dod yn ôl Meddygon teulu - GPs Anhygoel - Incredible Her - A challenge Annog - To encourage Diwylliant - Culture Allwedd - Goriad Tom Pitts-Tucker yn esiampl da o'r rhai sy'n dysgu Cymraeg ar ôl symud i fyw i Gymru. Dwyieithrwydd Dros y Dwr Aeth Ifor ap Glyn i Wlad Belg i ddarganfod mwy am yr iaith Iseldireg yn Fflandrys a Brwsel a'i pherthynas efo'r Ffrangeg. Drwy lwc daeth ar draws Lieven Dehandschutter sydd â'r Iseldireg yn famiaith iddo, ond mae o hefyd yn rhugl yn y Gymraeg. Gwlad Belg - Belgium Iseldireg - Flemish Sefydlwyd - Was established Iaith weinyddol - Administrative language Y werin - The ordinary people Tafodieithoedd - Dialects Rhwydd hynt i ymgryfhau - A free hand to strengthen Pur anaml - Rarely Cellwair - Banter Diddorol ynde? Sefyllfa Iseldireg yng Ngwlad Belg debyg iawn i'r Gymraeg yng Nghymru. Stiwdio - John Williams Mae'r cyfansoddwr John Williams wedi dathlu ei ben-blwydd yn 90 eleni. Yn ystod ei yrfa mae o wedi cyfansoddi'r gerddoriaeth ar gyfer rhai o'r ffilmiau mwya eiconig yn hanes y sinema, gan gynnwys Star Wars, Superman, ET a Harry Potter. Efo enw fel John Williams ydan ni'n medru ei hawlio fel Cymro tybed? Wedi'r cwbl roedd ei dad yn cadw siop ym Mangor. Ond yn anffodus Bangor Maine oedd hwnnw ac nid Bangor Gwynedd. Americanwr oedd John Williams a dyma i chi gyfansoddwr arall, Owain Llwyd yn rhoi ychydig o'i hanes i ni... Hawlio - To claim Cyfansoddwr - Composer Cyflawni - To achieve Enwebu - To nominate Parch - Respect Symlrwydd - Simplicity Cerddorfa - Orchestra Canadwy - Singable Ysbrydoli - To inspire Cyfarwyddwr - Director
3/29/202216 minutes, 25 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr Mawrth 22ain 2022

Cofio 'Theatr' Byd y Theatr oedd thema Cofio efo John Hardy ac mae byd y theatr Gymraeg wedi newid yn llwyr dros yr hanner canrif diwetha. Dyma Falmai Jones yn cofio sut gychwynnodd ei gyrfa hi a sut arweiniodd hynny at ffurfio'r theatr gymunedol Theatr Bara Caws... Cynulleidfaoedd Audiences Does bosib Surely Perthnasol Relevant Egin A bud Yn gorfforol Physically Sefydlog Settled Gwreiddiau Roots Heb fawr o bres Without much money Atgof Memory Peth a peth This and that Falmai Jones oedd honna'n cofio dechreuad Theatr Bara Caws. Gwneud Bywyd yn Haws - Naomi Saunders Mae gan Naomi Saunders dros gant o blanhigion yn ei chartref ac mae hi wrth ei bodd yn tyfu ffrwythau, llysiau a phlanhigion cartref, ond sut dechreuodd y diddordeb yma? Planhigion Plants Sbïo Edrych Nain a Taid Mam-gu a Tad-cu Ailgydio To resume Addurno To decorate Naomi Saunders yn fanna yn sôn am ei phlanhigion ar Gwneud Bywyd yn Haws. Aled Hughes ac Elis James Buodd Elis James yn trafod dyfodol yr iaith efo Aled Hughes fore Iau a gofynnodd Aled iddo fo pam ein bod ni yng Nghymru'n poeni cymaint am y Gymraeg... Pryder naturiol Natural concern Ysgwyddo'r baich Shouldering the burden Cyfrifoldeb Responsibility Ymgyrchu Campaigning TGAU GCSE Dan warchae Under siege Bygythiad Threat Amddiffynnol Defensive Cefndryd Cousins Daioni Goodness ... a gobeithio'n wir bydd merch bach Elis yn dal ati efo'r Gymraeg draw yn Llundain, ynde? AR BLAT - Beca a Mari Cyfres newydd ydy Ar Blât ac yn y clip nesa mi gawn ni glywed Beca Lyne-Pirkins a Mari Løvgreen yn trafod popeth "bwyd" ac yn enwedig bwyd cysur. Cyfres Series Bwyd cysur Comfort food Brenhines Queen Hallt Salty Llawdrwm Heavy handed Wystrys Oyster Mae'n amlwg bod Mari Løvgreen wir yn mwynhau cinio dydd Sul ei mam yn tydy? Aled Hughes a Dr Jonathan Hurst Mae'r Dr Jonathan Hurst yn dod o Stockport yn wreiddiol ac yn byw yn Lerpwl. Mae o'n gweithio yn y Liverpool Women's Hospital ac yn Ysbyty Plant Alder Hey. Mae o wedi dysgu Cymraeg er mwyn siarad yr iaith efo'i gleifion o Gymru. Mi fydd Jonathan yn derbyn gwobr Dathlu Dewrder 2022 am wneud gwahaniaeth gwerthfawr i fywydau teuluoedd o ogledd Cymru drwy ddysgu Cymraeg a'i defnyddio efo'r cleifion. Cleifion Patients Gwobr Dathlu Dewrder Celebrating Bravery Award Gwahaniaeth gwerthfawr A valuable difference Cysylltiad Connection Babanod Babies Genedigaeth Birth Sylweddoli To realise Cymhleth Complicated Ystyried To consider Gwych iawn ynde, mae Jonathon yn llawn haeddu'r wobr yn tydy ? Llythyr o Wcrain Dydd Iau ar Radio Cymru mi glywon ni gyfieithiad o ail lythyr yr awdur o Wcrain Andrey Kurkov, a'r tro 'ma gaethon ni ychydig o hanes ei frawd a'i deulu. Ifan Huw Dafydd oedd yn darllen. Llawn haeddu Fully deserves Droeon Several times Myfyrio To meditiate Pwyllog Measured Brwydro ffyrnig Fierce fighting Bochdew Hamster Cymharol ddiogel Comparatively safe Arfau Weapons Ffynnon A well Sythu Freezing
3/22/202215 minutes, 59 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr Mawrth 15fed 2022

Geraint Lloyd a Ann Cooper Athrawes gelf oedd Anne Lloyd Cooper cyn iddi hi ymddeol ond rŵan mae ganddi fusnes yn gwerthu gwawdluniau , neu 'caricatures'. Roedd hi wedi gwneud un o Geraint Lloyd ac roedd yn falch iawn ohono fo, ond sut a pham wnaeth Ann ddechrau gwneud y lluniau 'ma? Dyma hi'n dweud yr hanes wrth Geraint... Gwawdluniau - Caricatures Graddio - To graduate Degawdau - Decades Gwerth chweil - Worthwhile Tomen o luniau - Heaps of pictures Gweddill - The rest Elfennau - Elements Anne Lloyd Cooper o Gapel Garmon yn Sir Conwy oedd honna yn sôn am ei busnes gwneud gwawdluniau. Stiwdio Shirley Valentine Ar y podlediad wythnos diwetha clywon ni Manon Eames yn sôn am ei haddasiad hi o'r ddrama Shirley Valentine. Mae'r ddrama ar daith o gwmpas Cymru ar hyn o bryd ac mi aeth Branwen Cennard i'w gweld. Shelley Rees-Owen oedd yn cymryd rhan Shirley, sut hwyl gaeth hi tybed? Cafodd Nia Roberts sgwrs efo Branwen ar raglen Stiwdio... Addasiad - Adaptation Camu - To step Ysgubol - Sweeping Her aruthrol - A huge challenge Yn llythrennol - Literally Cyfathrebu - To communicate Cael eich denu - Being drawn into Menyw - Merch Cyffwrdd - To touch Roedd Branwen Cennard yn amlwg wedi mwynhau 'Shirley Valentine' yn doedd? Bore Cothi gwylio adar Mae'r Dr Emyr Wyn Jones, meddyg o Doncaster, yn mwynhau byd natur a thynnu lluniau o adar ar gyfer ei gyfrif trydar. Dechreuodd ei ddiddordeb pan oedd yn fachgen ifanc ym Mhwllheli ac mae o wrth ei fodd efo enwau Cymraeg yr adar. Dyma ran o sgwrs cafodd Shan Cothi efo fo... (c)hwyaid - Ducks Dylanwad - Influence Bywydeg - Biology Modrwyon - Rings Brych y coed - Mistle thrush Gylfinir - Curlew Siglo - Waging Cnocell y coed - Woodpecker Troellwr bach - Grasshopper warbler Telor yr helyg - Willow warbler Tydy enwau Cymraeg ar adar yn wych 'dwch? Dw i wrth fy modd efo 'cnocell y coed' - dach chi'n medru ei glywed yn cnocio wrth ei enwi yn tydach? Beti a'i Phobol Siân Elen Siân Elen Tomos ydy Prif Weithredwr GISDA, elusen sy'n cefnogi rhai sy'n ddigartref rhwng 16-25 oed yn y gogledd, a hi oedd gwestai Beti George. Prif Weithredwr - Chief Executive Digartrefedd - Homelessness Cynnydd - Increase Cynllunio - Planning Datblygu - To develop Darpariaeth - Provision Llety - Accommodation Buddsoddiad - Investment Y galw - The demand Rhestri aros - Waiting lists Siân Elen Tomos, o GISDA yn fan'na yn esbonio sut mae digartrefedd yn broblem fawr i bobl ifanc y gogledd. Sam Robinson Mae Sam Robinson o Rydychen yn wreiddiol, wedi bod yn dysgu Cymraeg ers pedair mlynedd. Mae o'n byw ym Machynlleth erbyn hyn yn ffermio ac adeiladu waliau. Cafodd o sgwrs hir efo Dei Tomos a dyma i chi ran o'r sgwrs ble mae o'n sôn am pryd clywodd o'r Gymraeg am y tro cynta... Rhydychen - Oxford Y Goron - The (Eisteddfod) Crown Barddoniaeth - Poetry Mynnu - To insist Adrodd - Narrating Ymwybodol - Aware Cydio - To take hold of Uffernol - Hellish Mewnfudwyr - Immigrant Safle - Position Doedd dim eisiau i Sam boeni am ei Gymraeg o gwbl, nac oedd? Llythyr o Wcrain Dydd Iau ar Radio Cymru clywon ni gyfieithiad o waith yr awdur o Wcrain Andrey Kurkov, sy'n edrych yn ôl ar ddigwyddiadau yr wythnosau diwetha yn y wlad ac ar sut gwnaeth ei deulu ddianc o'u cartref yn Kyiv. Ifan Huw Dafydd oedd yn darllen. Mae'n bosib gwrando ar y llythyr ar BBC Sounds ac mi fydd llythyr arall wythnos nesaf. Dianc - To escape Llawenydd - Happiness Gofidiau - Worries Ffrwydrad - Explosion Pwyllo - To pause Rhyfel - War Ochneidio - To sigh Adnabyddus - Enwog Cymhlethdodau - Complications Difetha - To spoil
3/15/202214 minutes, 51 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr Mawrth 8fed 2022

Bore Cothi Ieuan Rhys I le fasech chi'n licio mynd ar fordaith? Mwynhau'r haul 'falle yn y Caribî, neu teithio o gwmpas ynysoedd Môr y Canoldir? Nid dyna oedd ateb y diddanwr Ieuan Rhys i gwestiwn Heledd Cynwal fore Llun... Mordaith - Cruise Diddanwr - Entertainer Gwlad yr Iâ - Iceland Taro deuddeg (idiom) - To strike a chord Twym - Poeth Chwysu - To sweat Trwchus - Thick Tirwedd - Lanscape Oefad - Nofio Trais - Crime Helen Cynwal yn cadw sedd Shan Cothi'n gynnes ac yn holi Ieuan Rhys am ei fordaith ddelfrydol. Bore Sul Non Evans Bore Sul cafodd Iwan Griffiths sgwrs efo'r cyn chwaraewr rygbi Non Evans a sôn i ddechrau am ei magwraeth yn y Fforest ger Abertawe. Mae Non wedi ennill 87 o gapiau dros Gymru a hefyd wedi cystadlu dros ei gwlad mewn Jiwdo, Reslo a chodi Pwysau! Delfrydol - Ideal Cyn chwaraewr - Former player Magwraeth - Upbringing Lan - Fyny Dodi - Rhoi Ro'n i'n dwlu - Ro'n i wrth fy modd Codi pwysau - Weightlifting Ffurflen gais - Application form Ymgeisio - To apply Menywod - Merched Non Evans oedd honna'n sôn am ei magwraeth a hynny'n esbonio llawer am Non Evans, yr oedolyn sy'n hynod o heini. Troi'r Tir Rebecca Morris o Gasblaidd, Sir Benfro sy'n siarad yn y clip nesa. Mae hi'n ffermio efo'i phartner ac yn godro defaid er mwyn gwneud caws defaid. Mae'r ddau newydd ddechrau busnes Ewenique Spirits lle mae nhw'n creu fodca sydd a 'whey', neu maidd, ynddo fo, sef y gwastraff sydd i'w gael ar ôl gwneud caws o'r llaeth defaid. Godro - To milk Maidd - Whey Llaeth - Llefrith Gwastraff - Waste Sefydlu - To establish Arbrofi - To experiment Cyfrinach - A secret Wel, whe-he a phob lwc efo'r fodca arbennig ynde? Gwyl lyfrau Llyfrau plant oedd yn cael sylw Hanna Hopwood a'i gwesteion ar Gwneud Bywyd yn Haws nos Fawrth, a buodd Jo Knell yn sôn am y cynghorion mae hi wedi eu paratoi ar gyfer rhieni a gofalwyr sy'n dysgu Cymraeg, fel rhan o Ŵyl Ddarllen 'Amdani' Cynghorion - Tips Mas - Allan Datblygiad iaith - Language development Ynganiad - Pronunciation Mwya poblogaidd - Most popular I glywed rhagor o sgwrs Hanna Hopwood efo Jo Knell fel rhan o Ŵyl Ddarllen 'Amdani' Y Ganolfan Ddysgu Cymraeg Cenedlaethol, ewch i chwilio am Gwneud Bywyd yn Haws yn ap BBC Sounds Stiwdio Manon Eames Ar Stiwdio nos Lun diwetha, mi roedd Nia Roberts yn sgwrsio efo'r awdures Manon Eames am gynhyrchiad Cymraeg newydd o glasur Willy Russell, "Shirley Valentine". Nid dyma'r tro cynta i Manon addasu'r ddrama hon ar gyfer cynulleidfa Gymraeg, ac fel mae hi'n egluro, y tro 'ma mae hi wedi wedi newid cyfnod a lleoliad y ddrama. Cynhyrchiad - Production Addasu - To adapt Cyfnod a lleoliad - Period and location Perthnasol - Relevant Gwirionedd - Truth Degawd - Decade Trafferth - Difficulties Ail-asesu - To reassess Unigrwydd - Loneliness Cynulleidfa - Audience Cyffyrddiadau - Touches Manon Eames yn fan'na yn sôn am 'Shirley Valentine ' drama Gymraeg sydd yn teithio theatrau Cymru ar hyn o bryd. Trystan ac Emma Dach chi wedi gwneud rhywbeth gwirion erioed, a theimlo'n rêl ffŵl wedyn? Dyna ddigwyddodd i Trystan pan oedd o'n perfformio efo Band Pres Deiniolen. Dyma fo'n dweud yr hanes... Pres - Brass Llwyth - Loads Dibrofiad tu hwnt - Extremely inexperienced Sul y Cofio - Remembrance Sunday Y gofgolofn - The monument Deutha fi - Dweud wrtha i Yn ddistawach - Quieter Atgofion - Memories
3/8/202221 minutes, 27 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr Mawrth 1af 2022

Shan Cothi a Geraint Jones Sut mae gwneud y dorth berffaith? Wel roedd hi'n wythnos Real Bread Week wythnos diwetha ac ar Bore Cothi mi gafodd Shan farn y pobydd Geraint Jones. Mae Geraint a'i wraig yn berchen ar fecws yn Llydaw a dyma oedd ganddo fo i'w ddweud wrth Shan... Llydaw - Brittany Burum - Yeast Toes - Dough Lefain - Leaven Crasu - To bake Codi chwant - To whet the appetite Malu - To mill Ffwrn - Popty Troad y ganrif diwetha - Turn of the last century Naws neilltuol - Special quality Geraint Jones yn fan'na yn codi chwant ar Shan Cothi, ac arnon ni i gyd dw i'n siŵr! Troi'r Tir Sam Robinson Mae'r bugail Sam Robinson yn dod o Rydychen yn wreiddiol ond mae o'n byw ym Mro Ddyfi yng ngogledd Powys erbyn hyn. Fel cawn ni glywed ar Troi'r Tir mae o erbyn hyn yn rhugl yn y Gymraeg ac yn mwynhau cymryd rhan yn y gymuned leol. Bugail - Shepherd Rhydychen - Oxford Athroniaeth - Philosophy Ta waeth - Beth bynnag Anhygoel - Incredible Tafodiaith - Dialect Hardd - Beautiful Gwirioni - Dwlu ar Tirwedd - Landscape Cyfoeth - Wealth A Sam wedi codi acen hyfryd Gogledd Powys yn ogystal. Tasech chi eisiau dysgu mwy am Sam buodd erthygl amdano yn ddiweddar ar Cymru Fyw. Post Prynhawn Brownies Pam bod criw o Brownies Tunbridge yng Nghaint yn cael cyfarfod Zoom efo Brownies Y Felinheli yng Ngwynedd? Carole Boyce oedd yn gyfrifol am drefnu'r digwyddiad a dyma hi'n rhoi'r hanes ar Post Prynhawn... Caint - Kent Rhwydwaith Menywod Cymru - Welsh Women's Network Ymateb - Response Cyflwyno - To introduce Ymwybodol o fodolaeth - Aware of the existance Heol - Ffordd Cyfarwydd - Familiar Cangen - Branch Daearyddiaeth - Geography Ac yn ogystal â dysgu Cymraeg i Brownies Caint mae Carole yn diwtor Cymraeg i Oedolion yn dysgu dosbarthiadau ar-lein i ddysgwyr Sir Benfro a dysgwyr Prifysgol Bangor. Aled Hughes Virginia a Porthcawl Ond dysgwyr o Virginia yng ngogledd America, ac o Borthcawl fuodd yn sgwrsio efo Aled Hughes wythnos diwetha. Beth ydy'r cysylltiad rhwng Anne De Marsay o Virginia, ag un o athrawon Ysgol Gynradd Newton ym Mhorthcawl, Henley Jenkins? Cawn wybod mewn munud ond i ddechrau dyma Anne yn dweud sut aeth hi ati i ddysgu Cymraeg. Medden nhw - They said Hudolus - Magical Ystod eang - A wide range Gwych ynde? Dysgu Cymraeg yn dod â phobl ar draws y byd at ei gilydd ac yn help i blant ysgol Cymru yn ogystal. Cofio Enwau Dodo Rŵan ta - 'dodo' . Na, ddim fel yn 'dw i'n 'dod o' Gymru, a dim fel yr aderyn oedd yn arfer byw yn Mauritius. Na, mae 'dodo' yn hen air Cymraeg a dyma'r Dr Sara Louise Wheeler sy'n arbenigo ar enwau o bob math ,yn sôn am ei chysylltiad personol hi â'r gair... Arbenigo - To specialize Atgyfodi - To resurrect Nithoedd - Nieces Gan gynnwys - Including Ffurfiol - Formal Dilyniant - Sequel Tarddiad - Source Byddar - Deaf Ysgol breswyl - Boarding school Un genhedlaeth - One generation Mae'n braf cael clywed am hen enwau'n cael eu hatgyfodi yn tydy? Bore Sul Tomos Parry Tomos Parry oedd gwestai Elliw Gwawr fore Sul. Mae Tomos yn dod o Ynys Môn yn wreiddiol ac mae o'n yn berchen ar fwyty Brat yn Llundain. Mae gan y bwyty un seren Michelin ac fel cawn ni glywed mae gan Tomos gynlluniau i agor rhagor o fwytai yn y ddinas fawr... Yn amlwg - Obviously Uchelgais - Ambition Datblygu - To develop
3/1/202217 minutes, 14 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr Chwefror 22ain 2022

Mali Ann Rees Bore Sul Bore Sul diwetha roedd yr actores Mali Ann Rees yn sgwrsio efo Betsan Powys am ei bywyd a'i gyrfa. Aeth Mali i goleg drama adnabyddus, ond fel clywon ni yn y sgwrs, doedd y cyfnod yn y coleg ddim yn un hawdd iddi hi. Adnabyddus - Enwog Cyfnod - Period (of time) Her - A challenge Lan - Fyny Cyfarwyddwyr - Directors Goroesi - Surviving Sa i'n gwybod - Dw i ddim yn gwybod Ystyried - To consider Ta beth - Beth bynnag Da clywed, ynde, bod penderfyniad Mail i ddal ati yn benderfyniad cywir, ac ei bod yn medru gwneud gyrfa i'w hunan fel actores. Troi'r Tir Mae Dai Jones yn dod o Gapel Bangor yng Ngheredigion yn wreiddiol ond erbyn hyn mae o'n gweithio fel rheolwr fferm Woodlands ger Greenwich yn Llundain. Fferm gymuned yw hon a dyma Dai yn esbonio beth sy'n digwydd ar y fferm ar Troi Tir... Cymuned - Community Cyfer - Acre Gwenith - Wheat Gwirfoddolwyr - Volunteers Gwartheg - Cattle Hwch - Sow Gwair - Hay Syndod - A surprise Argraff - Impression Pwysau - Pressure Hanes beth sy'n digwydd ar fferm gymuned yn Llundain ar Troi'r Tir yn fan'na. Beti a Edward Keith Jones Edward Keith Jones oedd gwestai Beti George, a fo ydy Prif Ymgynghorydd Newid Hinsawdd Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Yn yr 8 mis diwetha mi gafodd salwch difrifol a buodd o yn yr ysbyty am wythnosau. Yn y clip yma mae o'n sôn am sut mae'r cyfnod hwnnw o salwch wedi newid y ffordd mae o'n edrych ar y byd ac ar y blaned... Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol - National Trust Prif ymgynghorydd - Chief consultant Newid hinsawdd - Climate change Difrifol - Serious Llai o amynedd - Less patience Llewygu - To faint Ymennydd - Brain Dynol - Human Anadlu - To breathe Llwyth - Loads Edward Keith Jones oedd hwnna o'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn swnio'n benderfynol iawn yn doedd? Beth arall fasech chi'n ddisgwyl gan ddyn ddringodd pob mynydd yng Nghymru, 183 ohonyn nhw, i ddathlu ei ben-blwydd yn hanner cant. Munud i Feddwl Casia William Yr awdures a'r bardd Casia William oedd yn rhoi munud i feddwl i ni fore Mercher a buodd hi'n sôn am y gêm sydd wedi troi'n ffenomenom ar draws y byd - Wordle Penderfynol - Determined Yn eiddgar - Fervently Cynifer ohonom - So many of us Wedi cael ein hudo - Have been captivated Ehangu - To expand Yn gynyddol anghyfartal - Increasingly unequal Tegwch - Fairness Methdalwr - A bankrupt Byd-eang - Worldwide Cyfiawnder - Justice Casia William yn rhoi munud i ni feddwl am pa mor anghyfartal ydy'r byd y dyddiau hyn. Bore Cothi Syr Geraint Evans Ar Bore Cothi buodd y bas bariton Anthony Stuart Lloyd yn rhoi ychydig o gefndir y canwr byd enwog Syr Geraint Evans fasai wedi dathlu ei ben-blwydd yn gant oed ar Chwefror un deg chwech eleni. Dechreuodd drwy sôn am y stryd lle cafodd Syr Geraint ei eni - stryd reit enwog a dweud y gwir... Arweinydd - Conductor Menywod - Merched Rhyngwladol - International Ysgrifennydd Cartref - Home Secretary Rhyfedd ynde, bod cymaint o enwogion wedi cael eu geni mewn un stryd fach yng Nghilfynydd ger Pontypridd. Bore Cothi Sophie Tuckwood Arhoswn ni efo Bore Cothi am y clip ola. Cafodd Shan Cothi sgwrs efo Sophie Tuckwood sy'n dod o Nottingham yn wreiddiol ond sy'n byw yn Hwlffordd erbyn hyn. Mae Sophie wedi dysgu Cymraeg cystal fel ei bod wedi dechrau gweithio fel tiwtor Cymraeg i oedolion, ac fel cawn ni glywed enillodd hi wobr arbennig iawn llynedd Hwlffordd - Haverfordwest Gwobr - Award Yr ifanca - Y fenga Cwympo - Syrthio Trwy gyfrwng - Through the medium of
2/22/202215 minutes, 39 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr Chwefror 15fed 2022

Bore Cothi ac Aled Jones Dach chi wedi bod yn gwylio 'The Masked Singer'? Rhaglen ydy hon lle mae pobl enwog yn canu mewn gwisgoedd sydd yn cuddio pob rhan o'r corff, fel bod neb yn medru eu nabod nhw. Tasg y panel oedd dyfalu pwy oedd y tu ôl i'r wisg. Roedd y ffeinal nos Sul ac mi ddaeth y Gymraes Charlotte Church yn ail - hi oedd 'Mushroom'. Ond roedd Cymro yn y gystadleuaeth hefyd, Aled Jones - a fo oedd "Traffic Cone". Bore Mercher ar Bore Cothi mi gaeth Shan Cothi sgwrs efo Aled am y rhaglen... Dyfalu - To guess Yr ail gyfres - The second series Chwyslyd - Sweaty O mam bach - OMG Taith Gadeirlan - The Cathedral Tour CYMRU CARWYN Evan James Ac os gweloch chi'r ffeinal - mi roddodd Charlotte Church gliw Cymraeg i'r panel, y gair 'modryb' - ond doedd hynny ddim wedi helpu'r panel o gwbl gan fod neb ohonyn nhw'n deall Cymraeg! Mae Carwyn Jones yn teithio o gwmpas Cymru ac yn rhannu ychydig o hanes y llefydd mae o'n ymweld â nhw efo gwrandawyr Radio Cymru. Nos Iau, mi fuodd o ym Mhontypridd a chael hanes cynnar Evan James, sef awdur cân sy'n cael ei chlywed yn aml ar hyn o bryd yn ystod y gemau rygbi rhyngwladol... ia, yr anthem genedlaethol, Hen Wlad fy Nhadau . Dyma Gwen Griffiths.... Rhyngwladol - International Hynafol - Ancient Diwylliant - Culture Melin wlân - Woolen Mill Ar bwys - Wrth ymyl Cynhyrfus - Exciting Y Chwyldro Diwydiannol - The Industrial Revolution Camlas - Canal Beirdd - Poets Blaengar - Progressive Cofio - Nigel Owens yn ymddeol Gwen Griffiths oedd honna'n rhoi ychydig o hanes Evan James awdur geiriau 'Hen Wlad fy Nhadau' wrth Carwyn Jones. Ymddeol oedd pwnc Cofio wythnos yma a chafodd John Hardy sgwrs efo Nigel Owens sydd wedi ymddeol fel dyfarnwr rygbi rhyngwladol ers dros dwy flynedd erbyn hyn. Gofynnodd John iddo fo oedd o'n colli'r dyfarnu o gwbl... Dyfarnwr Rygbi Rhyngwladol - International Rugby referee Gweld eisiau - To miss Torf - Crowd Trosgais - Conversion Ysgol gyfun - Comprehensive school Y diweddar - The late Yn galetach - Harder Nawr ac yn y man - Now and then Cyfrifoldeb - Responsibility Ifan a Tom Bwlch Nigel Owens yn cadw ei hun yn brysur ar y fferm ar ôl iddo fo ymddeol fel dyfarnwr rygbi rhyngwladol. Pnawn Mercher mi gafodd Ifan Evans sgwrs efo ffarmwr bach arall, Tomos Lewis, un ar ddeg oed o Ddihewyd ger Llanbedr Pont Steffan yng Ngheredigion. Mae Tomos wedi cymryd rhan yn rhaglen Cefn Gwlad efo Ifan yn 2020 ac mae wedi sôn wrtho fo o'r blaen ei fod wedi mynd i drafferthion yn yr ysgol am roi mwy o sylw i ffermio nag i'w waith ysgol. Dyma fo dweud wrth Ifan beth ddigwyddodd pan anghofiodd Tomos wneud ei waith cartref... Trafferthion - Trouble Ambyti e - Amdano fo Rhwydd - Rhwydd Y Da a'r lloi - The cattle and calves Drygioni - Mischief Safle - Position Bachwr - Hooker Sa i'n gwybod - Dw i ddim yn gwybod Cais - A try Chwaled - A rout Aled Hughes a Andrew White Star Wars Dw i'n siŵr bod Tomos wedi mwynhau'r gêm ddydd Sadwrn gan fod Cymru wedi curo'r Alban o ugain pwynt i un deg saith. Y Millennium Falcon ydy llong ofod mwya adnabyddus ffilmiau Star Wars, ond oeddech chi'n gwybod mai yn Noc Penfro cafodd y llong ei hadeiladu? Mi gaeth Aled Hughes sgwrs efo Andrew White o gronfa'r loteri i sôn am brosiect i greu arddangosfa yn Noc Penfro i ddathlu'r ffaith fod y Millennium Falcon wedi cael ei hadeiladu yno yn y 70au. Adnabyddus - Famous Llong ofod - Space ship Arddangosfa - Exhibition Byd eang - Worldwide Sïon - Rumours Cyfrinach - Secret Denu - To attract Adfywiad economaidd - Economic renewal Atgyfnerthu - To strenghen Teimlad o falchder - Feeling of pride Ar y Marc Lowri Serw Aled Hughes yn fan'na yn cael tipyn o hanes adeiladu'r Millenium Falcon yn Noc Penfro. Mae Lowri'n dod o Lanrwst ac yn gweithio fel nyrs iechyd meddwl i blant a phobl ifanc. Ond mae hi hefyd yn ffan mawr o dîm pêl-droed Wrecsam. Mae hi wedi sefydlu grŵp sgwrsio ar gyfer merched sy'n cefnogi Wrecsam fel un ffordd o helpu efo unrhyw broblemau iechyd meddwl. Beth sy'n digwydd yn y sesiynau tybed? Dyma Lowri'n sgwrsio ar Ar y Marc Sefydlu - To establish Cymuned - Community Gwerthfawrogi - To appreciate Gwamalu - To vacillate Angerddol - Passionate Boed - Whether it be Llifo drwy dy wythiennau - Flowing through your veins Gôl-geidwad - Goalkeeper Y Wefr - The thrill
2/15/202215 minutes, 39 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr Chwefror 8fed 2022

1. Theo Davies-Lewis a Beti ai Phobol Buodd Beti George yn sgwrsio efo Theo Davies-Lewis y sylwebydd gwleidyddol sydd wedi sgwennu colofnau i'r Spectator, y Times a fo ydy prif sylwebydd gwleidyddol National Wales. Mae o hefyd i'w glywed ar Radio Cymru yn gyson yn trafod materion gwleidyddol a gofynnodd Beti iddo fo sut dechreuodd ei ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth... Sylwebydd gwleidyddol - Political commentator Y chweched - The sixth form Ymgyrch - Campaign I ryw raddau - To an extent Llwyfan cenedlaethol - National stage Senedd ieuenctid - Youth parliament Rhydychen - Oxford Cyfweliadau - Interviews Darlledu - Broadcasting San Steffan - Westminster 2. Iwan Griffiths a Delme Thomas Mae Theo Davies-Lewis yn brysur iawn fel sylwebydd gwleidyddol ac mae hi'n anodd credu mai dim ond 24 oed ydy o, yn tydy? Bore Sul diwetha Iwan Griffiths oedd yn cyflwyno rhaglen Bore Sul ac mi gafodd o gwmni'r cyn chwaraewr rygbi Delme Thomas a dyma Delme'n sôn am gael ei ddewis i chwarae dros y Llewod am y tro cynta yn 1966. Cyn chwaraewr - Former player Y Llewod - The Lions Tu fas - Outside Llys-dad - Stepfather Atgofion - Memories Y mwya llwyddiannus - The most successful Y gyfres - The series 3. Bore Cothi - Sbeisys ar fwyd Delme Thomas oedd hwnna'n sôn am y teithiau buodd o arnyn nhw efo'r Llewod. Bore Llun mi fuodd yr hanesydd bwyd, Elin Williams yn sôn am beth i roi ar fwydydd yn lle halen, a dyma hi'n esbonio wrth Shan Cothi am y gwahaniaeth mae ychwanegu perlysiau'n medru ei wneud i'r bwyd.... Ychwanegu - To add Perlysiau - Herbs Gweini - To serve (food) Yn gynhenid - Inherently Yn draddodiadol - Traditionally Hwb - A boost Rhwydd - Hawdd Mawn - Peat Corgimychiaid - Prawns Lleithder - Moisture 4. Bore Cothi - Blwyddyn Newydd Tsieineaidd Ac mi wnawn ni aros gyda Bore Cothi am y clip nesa 'ma. Bore Mawrth buodd Shan yn dathlu'r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd ac yn sgwrsio efo Karl Davies, sy'n dysgu Saesneg i oedolion yn ninas Foshan, yn Tsieina. Blwyddyn y Teigr ydy hi eleni... Sidydd - Zodiac Angerddol - Passionate Dewr - Brave Llonydd - Placid Cwningen - Rabbit Ymerawdwr - Emperor Ych - Ox Nofiwr glew - A courageous swimmer Cyn gynted â - As soon as Baedd - Boar 5. Geraint Lloyd a Simon Owen Williams Karl Davies oedd hwnna'n sôn ychydig am ddathliadau'r Flwyddyn Newydd Tsieineadd efo Shan Cothi. Nos Fercher, mi gafodd Geraint Lloyd sgwrs efo Simon Owen Williams sy'n gweithio yn America. Mae'n Bennaeth ar ysgol breifat yn Long Island Efrog Newydd ac mae'n siarad y Wenhwyseg, sef tafodiaith arbennig de-ddwyrain Cymru. Efrog Newydd - New York Tafodiaith - Dialect Crwt - Hogyn Trais - Violence Ymadrodd - Phrase Safonol - Standard Hunan ddysgedig - Self taught Mam-gu - Nain Wilia - Siarad Aelwyd - Hearth 6. Trystan ac Emma - Nel y Parot Mae'n braf clywed y Wenhwyseg yn fyw ac yn iach yn Efrog Newydd yn tydy? Dw i'n siŵr basai Nel, parot Mari Lloyd o Gommins Coch, yn medru dynwared Simon yn siarad y Wenwyseg. Mae Nel eisoes yn medru dynwared dwy acen Gymraeg, fel clywodd Trystan ac Emma fore Gwener... Dynwared - To mimic Eisoes - Already Synau - Sounds Pert - Pretty Anferth - Huge Hardd - Beautiful Plu - Feathers Uniaith - Monolingual (acen) Gog neu Hwntw - A north Wales or south wales accent
2/8/202215 minutes, 47 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr Chwefror 4ydd 2022

1. Beti a'i Phobol a Rebecca Roberts Buodd Beti George yn sgwrsio efo'r nofelydd Rebecca Roberts o Brestatyn. Mae hi wedi sgwennu pedair nofel ac wedi ennill sawl gwobr am ei llyfrau. Yn un o'i llyfrau mae'r prif gymeriad efo anabledd ac yn gwisgo coesau prosthetig yn union fel rhai merch yr awdur. Roedd Rebecca wedi bod yn ymgyrchu i gael Llywodraeth Cymru i awdurdodi ysbytai i wario ar goesau a breichiau prosthetig. Dyma hi'n sôn wrth Beti sut cafodd hi wybod bod yr ymgyrch wedi llwyddo... Anabledd - Disability Ymgyrchu - To campaign Llywodraeth Cymru - The Welsh Government Awdurdodi - To authorize Arbenigol - Specialized Byd o wahaniaeth - A world of difference Deisebu - To petition Arbenigedd - Expertise Gwaith ymchwil - Research Dadlau fy achos - Arguing my case Rhoi cynnig arni - To give it a go 2. Cymru Carwyn Iau efo Max Boyce Rebecca Roberts oedd honna'n sgwrsio gyda Beti George am y gwahaniaeth mae cael coesau prosthetig wedi gwneud i fywyd ei merch. Yn y gyfres Cymru Carwyn mae Carwyn Jones yn trafod y pethau sy'n gwneud Cymru'n wlad mor arbennig, yn enwedig felly pobl a hanes y wlad. Yn y clip nesa mi gawn ni glywed Carwyn yn sgwrsio gydag un o drysorau mwya Cymru, Max Boyce. Cymuned - Community Sylw - Attention Dwlu bod - Wrth fy modd bod Hollol lofaol - Predominantly coalmining Prydferth - Beautiful Mo'yn - Eisiau 3. Aled Hughes a Mirain Iwerydd Carwyn Jones oedd hwnna'n sgwrsio gyda Max Boyce. Mi roedd Mr Urdd yn gan mlwydd oed wythnos diwetha ac mi lwyddodd yr Urdd i ddathlu'r pen-blwydd mewn steil drwy dorri record y byd am y nifer mwya o fideos o bobl yn canu'r un gân sef Hei Mistar Urdd. Bore Mercher mi roedd y cyflwynydd Mirain Iwerydd yn sgwrsio efo Aled Hughes am y cyfleoedd mae hi wedi eu cael efo'r Urdd gan gynnwys taith i Batagonia. Dyma Mirain yn sôn am y daith arbennig honno... Cyflwynydd - Presenter O bob cwr - From every corner Y Wladfa - The Welsh settlement in Patagonia Diolchgar - Thankful Cyffelyb - Equivalent Hala ni mas - Anfon ni allan Llwyfan - Stage Lledaenu - Spread Neges Ewyllys Da - The Peace and Good Will Message Cyfrinach - Secret Ymwybodol - Aware 4. Betsan Powys ac Owain Wyn Evans Mirian Iwerydd yn fan'na yn sôn am rai o'r pethau pwysig mae'r Urdd yn ei wneud. Mae Owain Wyn Evans yn gyfarwydd wrth gwrs fel cyflwynydd y newyddion a'r tywydd, ond yn ddiweddar mae o hefyd wedi dod yn enwog am ei ddrymio. Ar gyfer Plant Mewn Angen buodd o'n drymio am ddau ddeg pedair awr a chodi swm anhygoel o arian. Dyma fo'n datgelu mewn sgwrs efo Betsan Powys faint o bres yn union a godwyd... Cyfarwydd - Familiar Pedair awr ar hugain- 24 hours Anhygoel - Incredible Datgelu - To reveal Taw - Mai Amlwg - Prominent Cefnogaeth - Support Anferth - Huge Her - A challenge Ffili - Methu 5. Isio Babi Tri phwynt wyth miliwn o bunnau- dyna swm anhygoel ynde? Nos Fercher mi glywon ni stori Carys Barratt a'i gŵr, Craig, fuodd yn trio cael babi am flynyddoedd. Mae'r rhaglen yn dilyn hanes Carys dros y misoedd pan oedd hi'n paratoi i gael triniaeth IVF, misoedd o obaith ac o siom. Dyma Carys yn rhoi ychydig o gefndir i ni... Triniaeth - Treatment Cefndir - Background Di-Gymraeg - Ddim yn siarad Cymraeg Gofal plant - Childcare Ffodus - Lwcus Llonni - Gwneud yn hapus Ar waith - Working 6. Trystan ac Emma a Mot y ci Pob lwc i Carys ac i Craig ynde? Ac i orffen , dyma i chi hanes anhygoel Mot y ci, aeth ar goll am 5 wythnos. Aeth Tecwyn Vaughan Jones o Fae Colwyn â Mot am dro ond rhywsut aeth y ci ar goll. Ar ôl i Tecwyn chwilio a chwilio efo help cymdogion, drones, yn wir help y gymuned gyfan, o'r diwedd gwelodd neges ar Facebook oedd yn rhoi gobaith iddo fo ..... Mi ddaru - Gwnaeth Ymateb - Response Wedi crwydro - Had wandered Tebygrwydd - Similarity Anobaith llwyr - Sheer hopelessness Traddodiad - Tradition Dianc - To escape Rhuthro - To rush Sefyll yn stond - Standing still Yn cyfarth ac yn llyfu - Barking and licking
2/4/202216 minutes, 56 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr Ionawr y 28ain 2022

1. Aled Hughes a Melanie Owen Melanie Carmen Owen, sy'n dod o Aberystwyth yn wreiddiol ond sy'n byw yng Nghaerdydd erbyn hyn, oedd gwestai Aled Hughes bore Llun diwetha. Melanie fydd yn cyflwyno cyfres newydd o Ffermio ar S4C ond mae hi hefyd wedi mentro i fyd y 'stand-up'. Sut digwyddodd hynny tybed? Caredig Kind Awgrymu To suggest Menywod Merched Beirniadu To adjudicate Yn fuddugol Victorious Profiadau personol Personal experiences Perthnasol Relevant Her A challenge Cynulleidfa Audience Addasu To adapt 2. Bore Cothi - Muhammad Ali Melanie Owen oedd honna'n esbonio sut dechreuodd hi weithio ym myd 'stand-up'. Ar Ionawr 17 eleni basai Muhammad Ali wedi dathlu ei benblwydd yn 80 oed. Un gafodd cwrdd â'r dyn ei hun, oedd Hywel Gwynfryn yn ôl yn 1966 draw yn LLundain, pan oedd Hywel yn gweithio fel gohebydd i'r rhaglen Heddiw. Roedd Cassius Clay (fel roedd Muhammad Ali ar y pryd) yn Llundain yn barod i focsio yn erbyn Henry Cooper, a chafodd e anrheg arbennig gan Hywel.. Syllu Staring Tawelwch Silence Cerddi Poems Pencampwr Bocsio'r Byd Boxing World Champion Na welwyd ei debyg o'r blaen Never seen his like before Wrth-law Nearby 3. Gwneud Bywyd yn Haws - Caris Hedd Bowen Hywel Gwynfryn yn sôn wrth Shan Cothi am ei sgwrs gyda Cassius Clay, neu Mohammed Ali. Roedd y bocsiwr hwnnw'n enwog am ei farddoniaeth gyda llinellau fel: Float like a butterfly, sting like a bee. His hand can't hit what his eyes can't see. Tybed ai barddoniaeth TH Parry Williams oedd wedi ei ysbrydoli? Nos Fawrth ar Gwneud Bywyd yn Haws cafodd Hanna Hopwood gwmni menyw arbennig sydd wedi wynebu sawl her gorfforol a meddyliol. Ar ôl iddi wella o ganser Hogkins Lymphoma roedd Caris Hedd Bowen yn teimlo'n ddiolchgar, ac yn teimlo fel tasai hi'n profi bywyd am y tro cynta. Dyma hi'n disgrifio ei theimladau wrth Hanna... Ysbrydoli To inspire Diolchgar Thankful Cyfweliadau Interviews Mas y bac Allan i'r cefn Gwynto Arogli Yn grac Yn flin 4. Ar y Marc Sadwrn - Dave Rogers Caris Hedd Bowen yn ysbrydoli Hanna Hopwood wrth rannu ei stori. I glywed y bennod yn llawn ewch draw i BBC Sounds a chwilio am Gwneud Bywyd yn Haws. Mae Dave Rogers yn byw yng Nghaerloyw ac wedi dysgu Cymraeg, a fe sy'n cynnal cyfri Twitter newydd Clwb Pêl-droed Casnewydd @YrAlltudion. Mae'r cyfrif yn ffordd o rannu newyddion am y tîm, y canlyniadau ac ati, ac hynny i gyd drwy'r Gymraeg. Mae llawer o gefnogwyr Casnewydd yn ddysgwyr ac mae Dave yn trio dysgu termau pêl-droed Cymraeg i'r dilynwyr, fel esboniodd e wrth Dylan Jones ar Ar y Marc... Pennod Episode Caerloyw Gloucester Yr Alltudion The Exiles Canlyniadau Results Cefnogwyr Fans Dilynwyr Followers Tad-cu Taid 5. Ifan Evans a Mari Gwilym Dave Rogers yn rhoi gwasanaeth Gymraeg i gefnogwyr Casnewydd - ac i'w fab hefyd. Mae Ifan Evans wedi sôn sawl tro bod ofn llygod bach arno fe ac roedd e wedi dychryn pan welodd e lygoden bach yn y tŷ. Ar ei raglen ddydd Mawrth clywon ni hanes gan Mari Gwilym am gael llygod bach yn ei thŷ hi. Olion Traces Baw llygoden Mouse droppings Hogia bach! Dear me! Cofi Dre Person o Gaernarfon Hadau Seeds Llygoden bengron goch Bank vole Cael gwared ar To get rid of Anghenfil Monster 6. Bore Cothi a Llew Richards Mari ac Ifan yn trafod llygod yn fan'na. Mae Llew Richards sy'n 17 oed, a'i frawd Bryn sydd yn 15, wedi cychwyn menter newydd ar ddechrau blwyddyn newydd - rhentu cae er mwyn i bobol gael dod â'u cŵn yno i redeg a chwarae. Dyma Llew yn sôn wrth Shan Cothi am y fenter Newydd... Dere Tyrd Wedi dod i glawr Has come about Ni sy berchen e We own it Gwartheg Cattle Tennyn Lead Llanw lan Welling up Rhyddid Freedom
1/28/202217 minutes, 8 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr Ionawr y 21ain 2022

1) Aled Hughes - David Bowie Basai David Bowie wedi bod yn 75 oed eleni a chafodd Aled Hughes sgwrs gydag un o'i ffans mwya , Ffion John. Dyma Ffion yn cofio'r tro cynta iddi hi glywed cerddoriaeth Bowie a sut gwnaeth hynny arwain at ei hobsesiwn gyda fe... Y fenga Yr ifanca Cynhyrchu To produce Ymchwilio To research Llewygu To faint Gofod Space Dychmygu To imagine Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol The National Trust 2) Cofio - Ymarfer Corff Ffion Jones oedd honna'n sôn am ei hobsesiwn gyda David Bowie. Ymarfer Corff oedd thema Cofio pnawn Sul diwetha, ac roedd cyfle i glywed rhan o sgwrs cafodd Dewi Llwyd yn 2015 gyda Becky Brewerton oedd yn chwarae golff yn broffesiynol. Un o Abergele ydy Becky ac adeg y sgwrs roedd hi newydd ddathlu ei phen-blwydd yn 33 oed Datgelu To reveal Andros o ifanc Ifanc iawn Yn y man Mewn munud Ddaru o Gwnaeth e 3) Bore Cothi - Y Gylfinir Enillodd Becky Brewerton sawl twrnament golff rhyngwladol ac mae hi dal yn ennill ei bywoliaeth ym myd golff. Daniel Jenkins Jones o'r RSPB ydy 'dyn yr adar' ar Bore Cothi a dydd Mercher buodd e'n trafod yr aderyn sy'n enwog am ei big, sef y gylfinir Bywoliaeth Livelyhood Y Gylfinir Curlew Rhydyddion Waders Cyfarwydd iawn Very familiar Cyfandir Continent Nythu To nest Ar waenydd On moorlands Rhostiroedd Heathlands Plu Feathers Cryman Sickle 4) Geraint Lloyd - Lluniau Daniel Jenkins Jones o'r RSPB yn fan'na yn rhannu gwybodaeth am y gylfinir. Mae yna lyfr lluniau sydd yn rhoi ychydig o hanes ardaloedd Efailnewydd, Llannor a Penrhos ym Mhen Llŷn yn mynd i gael ei gyhoeddi'n fuan a Rhian Jones fuodd yn sôn am un o'r hanesion sydd yn y llyfr gyda Geraint Lloyd Cyhoeddi To publish Crefyddol Religious Y Bedwaredd ganrif ar bymtheg 19th century Porthladd Port Am wn i I suppose Gwasanaethau (religious) services Sefydlu To establish 5) Bore Sul - Ariel Jackson Hanes y capten llong Hugh Hughes a Baner Bethel yn fan'na ar raglen Geraint Lloyd. Penderfynodd Ariel Jackson o Napa, California ddysgu Cymraeg ar ôl iddi hi weld arwyddion Cymraeg am y tro cyntaf pan oedd hi yma ar wyliau. Erbyn hyn mae hi wedi bod yng Nghymru sawl gwaith, wedi dod yn rhugl yn yr iaith ac wedi dysgu Cymraeg i Puck ...ei chi! Y Deyrnas Unedig The UK Y ffin The border Sir Fynwy Monmouthshire Swynol Charming Gorchmynion Commands Cymuned Community Llenyddiaeth Literature Diwylliant Culture Breuddwyd Dream 6) Gwneud Bywyd yn Haws - Cylchgronau Ariel Jackson o Napa, California yn siarad ar Bore Sul efo Bethan Rhys Roberts. Nos Fawrth ar GBYH roedd Hanna Hopwood yn cael cwmni Rhiannon Jenkins o Eifionydd sydd wedi gweithio yn Llundain fel is olygydd ar gylchgronau Cosmopolitan, Men's Health, Women's Health a Runner's World. Pa fath o le yw ei weithio ynddo, tybed? Is-olygydd Subeditor Awyrgylch Atmosphere Cymysgu To mix Cylchgronau Magazines Cynnwys Content O dan bwysau Under pressure Yn wirioneddol Really Blaenllaw Prominent Boed o Whether it be Lles Welfare Hyrwyddo To promote
1/21/202214 minutes, 42 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr Ionawr y 14eg 2022

1) Cofio 02/01/22 Dyn ni’n aml iawn yn edrych yn ôl ar y flwyddyn flaenorol ddechrau Ionawr, on’d dyn ni? A dyma’n union ddigwyddodd ar Cofio yr wythnos diwetha wrth i nifer o glipiau gwych o’r archif gael eu hail-ddarlledu. Dyma un o’r goreuon, T Glynne Davies yn holi Mrs Hannah Jones am ei hatgofion o gadw gwesty yn y Rhyl am dros 40 o flynyddoedd... Y flwyddyn flaenorol The previous year Ail-ddarlledu To rebroadcast Atgofion Memories Ddaru Wnaeth Gweithwyr cyffredin Ordinary workers Enwogion Celebrities Digri Doniol Tynnu gwynebau Pulling faces 2) Rhaglen Beti a’i Phobol - 09/01/22 ...a chafodd y clip yna ei recordio’n wreiddiol yn 1982. Buodd Beti George yn sgwrsio gyda Samuel Kurtz, Aelod Ceidwadol Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro yn Senedd Cymru. Mae'n weithgar iawn gyda'r Ffermwyr Ifanc ac yn cefnogi elusen DPJ. Elusen iechyd meddwl yng Nghymru ydy DPJ sydd yn helpu’r rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl mewn ardaloedd gwledig ac mewn amaethyddiaeth. Dyma Samuel yn esbonio wrth Beti pa effaith cafodd y cyfnod clo ar ei iechyd meddwl e... Ceidwadol Conservative Elusen Charity Gweithgar Active Gwledig Rural Amaethyddiaeth Agriculture Digalon Depressed Egni Energy Cysgod Shadow Hala Treulio Sicrhau To ensure 3) Aled Hughes 04/01/22 – Mawrth Samuel Kurtz yn dweud wrth Beti George ei bod yn bwysig siarad am unrhyw broblemau iechyd meddwl. Mae gan Aled Hughes bodlediad o’r enw "Siarad Moel" a bore Mawrth diwethaf cafodd e sgwrs gyda Heledd Iago sy'n gweithio ym maes geneteg. Gyda ffilm Spiderman yn boblogaidd iawn yn y sinemâu ar y foment gofynnodd Aled i Heledd fasai hi’n bosib rhyw ddydd i rywun allu cael pwerau fel rhai "Spiderman"? Genynnau Genes Pryfaid cop Corynod Ymbelydredd Radioactivity Gwyddonwyr Scientists Bwlch Gap Plentynnaidd Childish 4) Trystan ac Emma 07/01/22 – Gwener Dych chi’n meddwl bod Aled yn ffansïo’i hyn fel Spiderman? Swnio felly, on’d yw e? Ar Ionawr 1af, roedd y nofel Winnie The Pooh yn y newyddion gan ei bod erbyn hyn yn rhan o’r ‘parth cyhoeddus’, sy’n golygu nad oes hawlfraint arni hi bellach.’ ac ar eu rhaglen fore Gwener cafodd Trystan ac Emma sgwrs gyda Rhian Nash o Lwydcoed ger Merthyr Tudful, sydd yn ffan mawr o’r cymeriad Winnie the Pooh ….. Parth Cyhoeddus Public Domain Hawlfraint Copyright Casglu To collect Enfawr Huge Addas Suitable Hudolus Magical Rhinweddau Virtues 5) Aled Hughes 03/01/22 – Llun – Dyna i chi gwestiwn da gan Emma on’d ife – pa gymeriad o Winnie the Pooh dych chi’n debyg iddo tybed? Bore Llun y 3ydd o Ionawr roedd hi’n 45 mlynedd yn union I’r diwrnod ers i Radio Cymru ddod i fodloaeth ac un o’r cyflwynwyr cynta y bore hwnnw oedd Hywel Gwynfryn a dyma fe’n sôn am y darllediad cyntaf hwnnw... Bodolaeth Existence Cyflwynwyr Presenters Darllediad Broadcast Cyfrifoldeb Responsibilty Cynulleidfa Audience Gweddill y diwrnod The rest of the day Annog To encourage O ddifri Seriously Deugain a phump Pedwar deg pump 6) Dros Ginio - 06/01/21 – Iau - Llaeth Hywel Gwynfryn oedd hwnna’n sôn am ddarllediad cynta Radio Cymru pedwardeg pump o flynyddoedd yn ôl. Yn yr wythdegau, cyflwynwyd y ‘cwotâu llaeth’ oedd yn rheoli faint o laeth oedd ffermwyr yn cael ei gynhyrchu. I nifer yng nghefn gwlad Cymru, roedd hyn yn creu problemau mawr a buodd yna lawer o brotestiadau. . Dyma’r newyddiadurwr Alun Lenny, oedd yn gweithio ar y stori ar y pryd, yn sôn wrth James Williams ar Dros Ginio am y protestiadau, ond hefyd yn sôn fel mae rhai wedi elwa wrth arallgyfeirio oherwydd y cwotâu.... Llaeth Llefrith Cynhyrchu To produce Elwa To profit Arallgyfeirio To diversify Ffynnu To prosper Rhewgell Freezer Argyfyngus Critical
1/14/202217 minutes, 22 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr Ionawr y 7fed 2022

Ifan Evans - Diolch o Galon – IOAN TALFRYN – 28/12/21 Enwebodd Tony Williams ei diwtor Cymraeg, Ioan Talfryn, i dderbyn Tlws Diolch o Galon ar raglen Ifan Evans. Ond fel ‘Llywelyn’ mae Ioan yn nabod Tony a chawn ni wybod pam hynny ar ôl i Ioan ateb galwad ffôn Ifan… Enwebu To nominate Tlws Trophy Cyfleus Convenient Cymorth Help Ar flaenau fy nhraed On my toes Astrus Anodd Yn barhaol Constantly Beti A’I Phobol – 02/01/22 – Kristofer Hughes Tony, neu, i roi ei enw dosbarth Cymraeg iddo fe, Llywelyn, yn Diolch o Galon i’w diwtor Cymraeg, Ioan Talfryn, ar raglen Ifan Evans. Mae sawl peth diddorol ac anarferol am Kristoffer Hughes. Mae e’n bagan, fe yw Pennaeth Derwyddon Ynys Môn, mae‘n awdur nifer o lyfrau am fytholeg a chwedlau Cymru. Fe oedd gwestai Beti George a dyma i chi flas ar y sgwrs gafodd e gyda Beti. Anarferol Unusual Pennaeth derwyddon Chief of the druids Chwedlau Fables Sbïwch Edrychwch Distawu To silence Urdd Order Defodau Rites Annog To encourage Yn gamp go iawn A real achievement Diwylliant Culture Munud i Feddwl – 30/12/21 – Helen Prosser Kristoffer Hughes yn fan’na yn canmol dysgwyr y Gymraeg, ac un sydd wedi gwneud cyfraniad enfawr i ddysgu Cymraeg i oedolion yw Helen Prosser sydd yn un o gyfarwyddwyr strategol y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol. Hi gaeth y cyfle ola i Ddweud ei Dweud yn 2021 a dyma hi’n edrych ar y pethau positif o‘r flwyddyn diwetha, ac hefyd yn edrych ymlaen at 2022. Cyfraniad enfawr Huge contribution Cyfarwyddwyr Directors Amgen Alternative Datblygu To develop Wedi ei ffrydio’n fyw Streamed live Cynulleidfa Audience Pwyslais Emphasis Troedio caeau To tread the fields Cymeradwyo To applause Diweddglo A finale Doniau Skills Geraint Lloyd – 29/12/21 – Rhianwen Condron Helen Prosser oedd honna’n dangos nad oedd 2021 yn ddrwg i gyd a bod lle i fod yn optimistaidd am 2022. Roedd Geraint Lloyd yn edrych yn ôl ar rai o sgyrsiau cofiadwy’r flwyddyn diwetha a dewisodd un gaeth e gyda Rhianwen Condron ddechrau mis Rhagfyr. Cafodd Rhianwen ei geni yng Nghymru ond symudodd i Stratford Upon Avon i fyw pan oedd hi’n 8 oed. Enillodd hi wobr Highway Heroes am ei gwaith yn helpu dynion sydd yn gweithio ar briffyrdd Prydain, gan gynnig cymorth iddyn nhw ymdopi gyda phroblemau iechyd meddwl... Cofiadwy Memorable Gwobr Award Priffyrdd Highways Ymdopi To cope Hewlydd (heolydd) Ffyrdd Pryd ‘ny That time Sut lwyddiant Such success Hala Anfon Oherwydd hyn Because of this Jim Parc Nest – 26/12/21 Rhianwen Condron oedd honna, sydd yn gwneud gwaith arbennig gyda rhai o weithwyr ffyrdd Lloegr. I gael eich galw’n Brifardd mae’n rhaid i chi ennill un ai’r Gadair neu’r Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae’r Prifardd T. James Jones wedi ennill y ddwy ddwywaith ac mae ei ddau frawd yn Brifeirdd hefyd! Er mwyn ennill y Gadair mae’n rhaid sgwennu cerdd mewn cynghanedd, hen grefft sydd â llawer iawn o reolau cymhleth. Mewn rhaglen arbennig cafodd Nia Roberts sgwrs gyda’r bardd gan ofyn iddo’n gynta pam dechreuodd o sgwennu mewn cynghanedd…. Cymhleth Complicated Dylanwad Influence Braint Privilege Dw i’n dwlu Dw i wrth fy modd Arddull Style Beirniad Adjudicator Awgrymu’n gynnil To suggest in a subtle way Gor-glywed To overhear Y casgliad The conclusion Bore Cothi - Dydd Mawrth, 28ain o Ragfyr – Sian James Ac nid yn unig mae brodyr T James Jones yn Brifeirdd ond mae ei wraig, Manon Rhys, a’i nai, Tudur Dylan, yn Brifeirdd hefyd! Buodd Heledd Cynwal yn cyflwyno ambell raglen Bore Cothi dros y gwyliau ac yn un o’r rhaglenni hynny cafodd hi gwmni’r gantores Sian James ar slot Y Fordaith. Ble basai Sian yn mynd ar fordaith ddychmygol tybed? Cantores Female singer Mordaith ddychmygol Imaginary cruise O ystyried Considering Di o’m bwys Dyw e ddim yn bwysig Lodes Merch ifanc Profiad hyfryd A lovely experience Ddaru nhw Wnaethon nhw Tirwedd Landscape Trin a thrafod To discuss Rhinweddau Virtues
1/7/202214 minutes, 45 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr Rhagfyr 31ain 2021

01. Aled Hughes – Elfyn Jones Does dim golygfa well, nac oes, na mynyddoedd Cymru yn wyn o dan eira ar ddiwrnod braf o aeaf. Mae’n demtasiwn mawr i fynd i ddringo’r mynyddoedd bryd hynny, on’d yw hi? Ond cofiwch, tasech chi’n mentro allan mae’r mynyddoedd yn gallu bod yn lefydd peryglus iawn, fel eglurodd Elfyn Jones sy’n gadeirydd Tîm Achub Mynydd Llanberis, wrth Aled Hughes Yn union Exactly Gorchuddio To cover Anhygoel Incredible Denu To attract Ceudyllau Potholes Twyllodrus Deceptive Amgylchiadau Circumstances Dyffrynnoedd Valleys Yn wirioneddol Really Offer Equipment 02. Cofio – Nia Roberts a Caryl Parry Jones Cyngor da gan Elfyn Jones yn fan’na ar raglen Aled Hughes – byddwch yn ofalus os dych chi am ddringo’r mynyddoedd yn y gaeaf. Mae’n siŵr ein bod yn clywed mwy o ganu adeg y Nadolig nag ar unrhyw adeg y flwyddyn, gyda charolau, caneuon am Sion Corn i’r plant bach a chaneuon pop Nadoligaidd i’r plant mawr! Ond beth sy’n gwneud cân Nadolig dda? Dyma i chi farn Nia Roberts a Caryl Parry Jones... Nadoligaidd Christmassy Naws Mood Cydio yn To attach to Myfyrio To reflect Addoli To worship Dyfynodau Quotation marks Ein heneidiau ni Our souls Hud a swyn Magic and enchantment Preseb Manger Dyheu am To yearn for 03. Dros Ginio – Betsan Powys ac R Alun Evans Ac ar ddiwedd y clip yna clywon ni ddarn o un o ganeuon Nadolig Caryl - “Drama’r Preseb”. Dau sydd wedi gwneud cyfraniad pwysig i’r BBC dros y blynyddoedd oedd gwestai Dewi Llwyd ar Dros Ginio –R Alun Evans a’i ferch Betsan Powys. Buodd R Alun Evans yn gyflwynydd a chynhyrchydd gyda’r BBC am 32 o flynyddoedd ac yn weinidog gydag enwad yr Annibynwyr am flynyddoedd. Roedd Betsan yn Olygydd Rhaglenni y BBC nes iddi hi roi'r gorau i'r swydd yn 2018. Dyma i chi flas ar y sgwrs... Cyflwynydd a chynhyrchydd Presenter and producer Enwad yr Annibynwyr Independents denomination Golygydd Rhaglenni Programme editor Siglen Swing Parchu To respect Penderfynol, ystyfnig Determined, stubborn Cymwynasgar Obliging Cefnogol Supportive 04. Hywel Gwynfryn a Sian Phillips (Darllediad Arbennig Dydd Nadolig) Un arall sydd wedi gwneud cyfraniad enfawr i’r BBC dros y blynyddoedd ydy Hywel Gwynfryn a fe gafodd y cyfle i gael sgwrs gyda’r actores fyd enwog Siân Phillips, sydd yn dod o Waen-Cae-Gurwen yn Sir Castell Nedd Port Talbot yn wreiddiol. Dyma hi’n sgwrsio am un rhan o’i gyrfa wnaeth ddim gweithio cystal â hynny... Cyfraniad enfawr A huge contribution Cyhoeddwraig Announcer ( female) Ro’n i’n dwlu ar Ro’n i wrth fy modd efo Uffernol Hellish Cyngor y Celfyddydau Arts Council Clychau Bells Mas o anadl Out of breath Pennaeth Head 05. Geraint Lloyd - Rhys Jones o Gwmffrwd Dyna stori dda on’d ife? Mae hyd yn oed Sian Phillips yn gallu bod mewn trwbl gyda’i bos! Ddaeth Sion Corn i’ch tŷ fore Nadolig? Os mai dod lawr y simnai wnaeth e, gobeithio eich bod wedi gwneud yn siŵr bod y simnai’n lân iddo fe! Glanhawr simneiau ydy Rhys Jones o Gwmffrwd ger Caerfyrddin a gofynnodd Geraint Lloyd iddo fe pam dewisodd e wneud y swydd arbennig hon... Glanhawr simneiau Chimney sweep Bachan Dyn (Di)bennu Gorfffen Mo’yn Eisiau Ffili Methu Tystysgrif Certificate Tannau nwy Gas fires 06. Geraint Lloyd – Ar y Map Rhys Jones oedd hwnna , ac mae ganddo un o swyddi bwysica adeg yma’r flwyddyn on’d oes? Arhoswn ni gyda Geraint Lloyd am y clip nesa hefyd, aeth Geraint ‘Ar y Map’ i bentref bach Casnewydd Bach yn Sir Benfro, sydd yn enwog fel man geni y mor-leidr Barti Ddu. Mae undeg chwech cenhedlaeth o deulu Richard Davies wedi byw yn y pentre hwn, felly fe yw’r dyn i sôn am berson enwoca Casnewydd Bach a dyma fe’n sôn am hanes Barti Ddu wrth Geraint Lloyd... Man geni Birthplace Morleidr Pirate Cenhedlaeth Generation Taw Mai Yn lled ifanc Quite young Crydd Cobbler Cofnodi To record Carreg goffa Memorial stone Trichanmlwyddiant Tercentenary Genedigaeth Birth Marwolwaeth Death
12/31/202116 minutes, 31 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr Rhagfyr 24ain 2021

01. Gwneud Bywyd yn Haws – Hyder Mewn Lliw Dillad oedd yn cael sylw Hanna Hopwood ar Gwneud Bywyd yn Haws nos Fawrth a chafodd hi sgwrs gyda’r hyfforddwr delwedd Sonia Williams o’r cwmni ‘Hyder Mewn Lliw’… Hyfforddwr delwedd Image coach Cynllunio To plan Canolbwyntio To concentrate Pwysigrwydd Importance Arna chdi Arnot ti Cymryd sylw To pay attention Ysbryd Spirit Dos Cer Yr union liw The exact colour Penodol Specific Drych Mirror Coelio Credu 02. Beti a'i Phobol – Mei Jones I glywed mwy o’r sgwrs yna ewch draw i wefan BBC Sounds a chwilio am Gwneud Bywyd yn Haws, yno hefyd gewch chi glywed cyfweliad gyda Llio Angharad sy’n rhannu cynghorion ar sut i edrych ar ôl ein dillad. Bu farw’r actor, sgriptiwr ac awdur Mei Jones yn ddiweddar, ac i gofio amdano ail-ddarlledwyd sgwrs cafodd Mei gyda Beti George rai blynyddoedd yn ôl. Er bod Mei wedi actio pob math o gymeriadau mae’n debyg mai fel Wali Tomos yn C’mon Midffîld y bydd llawer iawn o bobl yn ei gofio... Y diweddar The late Ail-ddarlledu To rebroadcast Twmffat Idiot (idiomatic) Y gyfres The series Dim cythraul o beryg No way Diawledigrwydd Mischief Cysuro fy hun Consoling myself Yn llythrennol Literally 03. Gareth yr Orangutan ar Bore Cothi Y diweddar Mei Jones oedd hwnna mewn sgwrs gyda Beti George Oeddech chi’n gwybod bod yna Orangutan sy’n siarad Cymraeg? Gareth yw ei enw ac mae’n swnio’n debyg iawn i Gog o Ddyffryn Nantlle. Falle mai dyna sut mae Orangutans yn siarad, pwy â ŵyr? Shan Cothi oedd yn holi Gareth am ei hoff sŵn… Synhwyrau Senses Cerddor Musician Offerynau Instruments Aballu And so on Deilen A leaf Haenen A layer Crybwyll To mention 04. Trystan ac Emma – Delia Heaton Gareth yr Orangutan ar Bore Cothi yn rhoi hysbys bach i’r gyfres “Gareth”, ddechreuodd nos Wener diwetha am 10yh ar S4C. Mae Delia Heaton yn dod o Bentrecagal ger Castell Newydd Emlyn yn wreiddiol ond yn byw yn Nelson ger Caerffili ers blynyddoedd. Mae hi wedi bod yn ffan o Cliff Richard ers iddi fod yn ifanc iawn ac fel cawn ni glywed mae hi wedi teithio’n bell iawn i weld Cliff... Pry’ny (pryd hynny) At that time Sgrechian To scream Sefydlu To establish Wnelon nhw ddim Wnaethon nhw ddim 05. Pererin Wyf – Huw Williams Un oedd yn canu yr un adeg â Cliff Richard, ac i ddweud y gwir mae’r ddau’n dal i ganu rhywfaint, oedd Iris Williams o Donyrefail ym Morgannwg. Un o’i chaneuon mwya enwog oedd Pererin Wyf sef cyfieithiad o ‘Amazing Grace’. Mae tad Georgia Ruth yn dod o Donyrefail hefyd a chafodd Georgia sgwrs gyda’i thad am y pentref bach hwn sydd yn Rhondda Cynon Tâf... Diwylliant y cymoedd The culture of the Valleys Traddodiad Tradition Cymanfa ganu Hymn singing festival Ail Rhyfel Byd Second World War Losin Sweets 06. Geraint Lloyd – Rheilffordd Dyffryn Rheidol Darlun o Donyrefail y gorffennol yn fan’na ar raglen Georgia Ruth, a hynny gan ei thad. Aeth Geraint Lloyd allan o’r stiwdio ddydd Mercher a chael cyfarfod â Chyfarwyddwr a Rheolwr Rheilffordd Rheidol, Llyr Ap Iolo. Rheilffordd fach yw hon sy’n mynd o Aberystwyrth i Bontarfynach. Mae llawer iawn o newidiau‘n digwydd gyda’r rheilffordd ar hyn o bryd a dyma Llyr yn sôn am rai ohonyn nhw Cyfarwyddwr a Rheolwr Director and Manager Pontarfynach Devil’s bridge Buddsoddiad Investment Ail-drefnu To rearrange Atyniad Attraction Storfa Storage area Galluogi To enable Ail-gydio To rekindle
12/24/202116 minutes, 22 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr Rhagfyr yr 17eg 2021

1. Dros Ginio - Dafydd Iwan ac Alun Ffred Jones Basai’n anodd ffeindio dau frawd mwy enwog yng Nghymru na Dafydd Iwan ac Alun Ffred Jones. Mae Dafydd yn ganwr enwog, ac Alun Ffred yn enwog yn y byd teledu ac, fel Dafydd Iwan, ym myd gwleidyddiaeth hefyd Ond pa mor agos ydy’r ddau ohonyn nhw fel brodyr? Dewi Llwyd gafodd gyfle i holi, ac eglurodd Alun i ddechrau ei fod o’n dipyn ifancach na’r brodyr eraill yn y teulu… Rhyngddyn nhw Between them Yr un cylchoedd The same circles Dyn diethr A stranger Cadw pellter Keeping a distance Yn achlysurol Occasionally Dotio ar Dwlu ar Rhyfedda Strangest Llywydd y Blaid President of Plaid Cymru Gweini To serve Wedi drysu Confused 2. Bore Cothi – Alwyn Humphreys a West Side Story Dafydd Iwan yn fan’na yn dweud nad oedd e a’i frodyr yn agos iawn at ei gilydd, ond hanes dau deulu oedd yn casáu ei gilydd sydd yn y ddrama ‘Romeo and Juliet’. Ac roedd y nofel, y sioe gerdd a’r ffilm ‘West Side Story’ yn seiliedig ar y ddrama honno. Dydd Gwener diwetha cafodd fersiwn newydd o’r ffilm ei gweld am y tro cynta. Cyfarwyddwr y ffilm ydy Stephen Spielberg ac mae cerddoriaeth wreiddiol Leonard Bernstein i’w chlywed yn y ffilm newydd. Dyma Alwyn Humphries yn rhoi ychydig o hanes West Side Story ar Bore Cothi… Yn seiliedig ar Based on Cyfarwyddwr Director Y cyfle The opportunity Cysylltu To link Cwerylgar Quarrelsome Dioddef o To suffer from Yn rhyfeddol Astonishingly Llwyfan Stage Cynhyrchwyr Producers Digalon Downhearted Gwobrau Prizes 3. Gwneud Bywyd yn Haws - Addurno Hanes Leonard Bernstein a West Side Story yn fan’na ar Bore Cothi. Dych chi wedi codi’r goeden Nadolig eto? Mae Heledd Jones Tandy wedi codi ei choeden hi ers Rhagfyr y cyntaf ac mae hi wrth ei bodd gydag addurno, fel buodd hi’n sôn wrth Hanna Hopwood ar Gwneud Bywyd yn Haws… Caniatáu To permit Beirniadaethau Criticisms Llwm Bleak Gwagle Void Noeth Naked Hel To collect Rhoddion Gifts Allor Altar Defnydd Material Trawsnewid To transform 4. Hiraeth – Noel James - Beth yw hiraeth? Hanna Hopwood yn holi Heledd Jones Tandy am addurno. Hefyd ar y rhaglen roedd Ann-Marie Lewis ac i glywed y rhaglen yn llawn ewch i BBC Sounds a chwilio am Gwneud Bywyd yn Haws. Gair sy’n anodd ei gyfieithu ydy ‘hiraeth’ on’d ife? Y comedïwr Noel James fuodd yn chwilio am yr esboniad gorau o’r gair a dyma fe’n holi’r awdures Angharad Tomos… Gwirioneddol Actual Brifo To hurt Cyfeirio ato To refer to Dyfyniad Quotation Fy nhaid Fy nhad-cu Carreg fedd Gravestone Ysgrif Article Melusaf The sweetest 5. Aled Hughes – Anwen Jones Dyna ddyfyniad da on’d ife, yn dangos bod hiraeth yn gallu brifo weithiau. Mae Anwen Mai Jones, yn Nyrs Arbenigol Diabetes Cymunedol yng Ngheredigion ac mae hi wedi ennill gwobr Nyrsio Cymunedol yn ddiweddar. Dyma hi’n dweud wrth Aled Hughes beth oedd y cynllun cymunedol enillodd y wobr iddi hi... Arbenigol Specialist Cymunedol Community Darparu To provide Clinigau Clinics Cleifion Patients Ail-strwythuro Restructure Ymgynghori gyda’r meddygfeydd Consulting with the surgeries Ardal wledig ddiarffordd A remote rural area Bwlch Gap Lleihau To reduce 6. Beti – John Alwyn Griffiths Anwen Mai Jones yn esbonio bod llawer iawn o’r cynlluniau gorau yn dod o’r rhai sy’n gweithio ar y llawr yn hytrach nag oddi wrth y rheolwyr. Mae John Alwyn Griffiths wedi sgwennu sawl nofel ditectif ond roedd e’n arfer gweithio fel ditectif yn ogystal, gydag Adran Dwyll Heddlu Gogledd Cymru. Fe oedd gwestai Beti George ar Beti a’i Phobol a dyma fe’n sôn am y math o bobl oedd e’n synnu o’u gweld nhw’n twyllo. . Oedd e’n synnu He was surprised Adran Dwyll Fraud Squad Twyllo To defraud Cyfreithwyr Lawyers Cyfrifydd Accountant Cyfaill Ffrind Ar ei union Straight away
12/17/202112 minutes, 56 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr Rhagfyr y 10fed 2021

01. Beti – Laura Karadog Clip o Beti a’i Phobol ddydd Sul diwetha, a Laura Karadog oedd gwestai Beti. Yn y clip hwn mae Laura’n sôn am yr amser buodd hi’n gweithio yn San Steffan fel profiad gwaith yn rhan o gwrs gradd mewn gwleidyddiaeth Prifysgol Aberystwyth. Fel gwnawn ni glywed cafodd hi brofiadau diddorol iawn yno…. San Steffan Westminster Gradd mewn gwleidyddiaeth A politics degree Breintiedig Privileged Yn rheolaidd Regularly Erchyll Awful Hurt Stupid Dinistrio bywydau Destroying lives Diniwed Innocent Grym Power Tu hwnt Beyond Heb os Without doubt 02. Bore Cothi – Rhona Duncan Ychydig o hanes diddorol Laura Karadog yn fan’na ar Beti a’i Phobol. Oes planhigion gyda chi yn y tŷ? Dych chi’n poeni fyddan nhw’n para dros y gaeaf? Os felly dylai’r tips glywon ni ar Bore Cothi fod o ddiddordeb mawr i chi. Rhona Duncan, sy’n rhedeg siop blanhigion yng Nghaerdydd, fuodd yn rhoi cynghorion ar sut i ofalu am blanhigion suddlon... Planhigion suddlon Succulent plants hinsawdd cras An arid climate Dail Leaves Mo’yn Eisiau Gofod Space Hyd oes Lifespan Enfawr Huge 03. Cofio – Bryn Terfel Rhona Duncan oedd honna ac mae hi’n amlwg yn caru planhigion suddlon! Canu a Byd y Gân oedd thema Cofio wythnos diwetha. Dyma i chi glip o Bryn Terfel yn sgwrsio gyda Beti George yn ôl yn 1995 ac yn sôn am weithio gyda chantorion enwog ac yn sôn am sut mae hynny wedi effeithio ar ei ddiddordeb mewn gwin… Cantorion Singers Arweinyddion Conductors Cig eidion Beef Rhyngddon ni Between ourselves 04. Shelley a Rhydian yn holi Dan Lloyd Tenoriaid ‘tempremental’, gwin a bwyd da – dyna i chi flas ar fywyd seren y byd opera yn fan’na ar Cofio. Daniel Lloyd oedd y gwestai cyntaf i ateb Ho Ho Holiadur y Sioe Sadwrn gyda Shelley a Rhydian, ond cyn iddo fe wneud hynny, holodd Shelley Dan am ei waith ar un o ffilmiau’r Muppets.. O nerth i nerth From strength to strength Barf/Locsyn Beard Aled Hughes – Carys Eleri Daniel Lloyd oedd hwnna’n sôn am ei ran e yn un o ffilmaiu’r Muppets. Dych chi wedi meddwl beth i’w gael yn anrheg Nadolig i rywun, wel mae hi wastad yn braf cael llyfr newydd on’d yw hi? Wel beth am lyfr newydd gan yr actores a’r gomedïwraig Carys Eleri ‘Dod nôl at fy nghoed’. Llyfr ydy hwn ble mae Carys yn sôn am rai o’r digwyddiadau sy wedi newid ei ffordd o feddwl a’i ffordd o fyw. Un o’r digwyddiadau hynny oedd marwolaeth ei thad ac yn y clip yma mae Carys yn sôn wrth Aled Hughes am daith beics o Lundain i Baris aeth hi a’i chwaer Nia arni ychydig wythnosau ar ôl iddyn nhw golli eu tad. Dameg Parable Ffili Methu Sa i’n gwybod Dw i ddim yn gwybod Angladd Funeral Dim lot o glem Not much of an idea Nunlle Nowhere Pennod Chapter Galar Grief Datgelu To reveal Tanwen Cray - Gucci Ac os dych chi eisiau gwybod sut aeth y daith beics – prynwch y llyfr! Ar raglen Aled Hughes ddydd Llun cafodd Aled gwmni’r hanesydd ffasiwn Tanwen Cray, a soniodd Tanwen am y ffilm ‘House of Gucci’ sydd yn y sinemâu ar hyn o bryd. Ond, oeddech chi’n gwybod bod yna Gymraes o Groesoswallt wedi prodi un o’r Guccis, sef un o deuluoedd mawr y byd ffasiwn? Olwen Price Gucci oedd hi a dyma Tanwen yn dweud yr hanes wrth Aled. Croesowallt Oswestry Sefydlu To establish Sylfaenydd Founder Menyw Dynes Y tîm cynhyrchu The production team Yn gysylltiedig Connected to Offeiriaid A priest Rhyfeddol Astonishing
12/10/202117 minutes, 57 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr Rhagfyr y 3ydd 2021

01. GBYH - Leisa Mererid Pam dylen ni ddysgu ioga i’n plant, a sut basai gwneud hyn yn eu helpu? Dyma rai o gwestiynau Hanna Hopwood ar Gwneud Bywyd yn Haws i’r awdures llyfrau ioga i blant, Leisa Mererid . Dyma flas i chi ar y sgwrs ... Yn gynyddol Increasingly Dyrys Complex Ymwybyddiaeth o’n cyrff Awreness of our bodies Delwedd corff Body image Heriau bywyd Life challenges Angor Anchor Gorbryder Anxiety Isymwybod Subconscious Myfyrio To meditate Synhwyrau Senses Gorlethu To overwhelm 02. Aled Hughes - Dr Sara Wheeler Leisa Mererid yn cael ei holi gan Hanna Hopwood. Hefyd ar y rhaglen roedd Nia Parry ac Anwen Gruffydd Wyn yn sôn am sut aeth y ddwy ffrind ati i sgwennu ‘Llyfr Bach Lles’, ac yn ogystal mae Laura Karadog yn sôn am ymarfer ioga. I glywed y sgyrsiau yma ewch draw at BBC Sounds a chwilio am Gwneud Bywyd yn Haws. Ar raglen Aled Hughes fore Mawrth, clywon ni sgwrs am Gastell Dinas ger Llangollen gyda’r Dr Sara Wheeler, a dechreuodd Aled a Sara sgwrsio drwy ddyflau o le daeth yr enw ar y castell... Brân Crow Gerllaw Nearby Deillio To derive Cymeriadau o chwedloniaeth Mythical characters Tueddu i fod Tends to be Yn answyddogol Unofficially Dyffryn Valley Gorffwys To rest 03. Stiwdio - Twm Morys Sgwrs am enw Dinas Brân yn fanna rhwng Aled Hughes a’r Dr Sara Wheeler. Mae hi bron yn flwyddyn ers marwolaeth yr awdur Jan Morris ac ar Stiwdio nos Lun, cafodd Nia Roberts sgwrs efo’i mab, y bardd a‘r cerddor Twm Morus. Dyma Twm yn sôn wrth Nia am ei fagwraeth gyda Jan... Magwraeth Upbringing Tomennydd Heaps Annog To encourage Coblyn o hwyl Great fun Grym geiriau The power of words I raddau To an extent Atalnodi Punctuation Llafar Spoken Golygyddion Editors Proflenni Proofs Mympwy A whim 04. Sioeau Cerdd Steffan - Lili Mohammad Twm Morys yn fan’na yn yn sôn am Jan Morris ac am ei fagwraeth gyda hi ar “Stiwdio gyda Nia Roberts” nos Lun diwethaf. I glywed rhagor o’r sgwrs ewch i BBC Sounds. Gwesteion Steffan Rhys Hughes ar ‘Sioeau Cerdd Steffan’ yr wythnos diwetha oedd merch ysgol o Gaerdydd, Lili Beth Mohammad, a dyma hi’n esbonio wrth Steffan o ble daeth ei diddordeb hi mewn sioeau cerdd... Cyfryngau Media Cantores amryddawn A versatile singer(female) Arddulliau Styles Yn benodol Specifically Atgofion Memories 05. Dros Ginio - Angharad Lee Y ferch ysgol o Gaerdydd, Lili Beth Mohammad, oedd honna yn sgwrsio gyda Steffan Rhys Hughes am sioeau cerdd. Mae gan y Gymraeg fel pob iaith arall ei thafodieithoedd. Y Wenhwyseg ydy tafodiaith de-ddwyrain Cymru ond does dim llawer o bobl yn ei siarad erbyn hyn. Dyma ddau o’r de-ddwyrain, Vaughan Roderick ac Angharad Lee yn trafod pam mae hynny wedi digwydd... Tafodieithoedd Dialects Adennill To reclaim Corfforol Physical Galaru To mourn Bodoli To exist Yn gyfarwydd Familiar Plethu To weave in and around Yn weddol glou Quite quickly 06. Pigion - Geraint Lloyd gyda Elis a Sion Vaughan Roderick ac Angharad Lee yn trafod y Wenhwyseg ar Dros Ginio. Dros y penwythnos buodd Geraint Lloyd yn mwynhau Eisteddfod y Ffermwyr Ifainc ym Mhontrhydfendigaid yng Ngheredigion. Cafodd sgwrs gyda sawl un fuodd yn cymryd rhan, a dyma i chi sgwrs cafodd e gydag enillwyr y ddeuawd dan wyth ar hugain oed, Elis Jones a Sion Eilir o Glwyd. Deuawd Duet Pysgotwyr Perl Pearl Fishers Awydd Eagerness Beirniad Adjudicator Heriol Challenging Rhwydd Hawdd Aruthrol o dda Exceptionally good Safon Standard Clod Praise Arwerthwr Auctioneer
12/3/202116 minutes, 9 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr Tachwedd 26ain 2021

01. Bore Cothi - Daniel Jenkins Jones - Cnocell Y Coed Aderyn y mis ar raglen Bore Cothi oedd Cnocell y Coed. Roedd Caryl Parry Jones wedi gweld cnocell yn ei gardd ac roedd hi eisiau gwybod mwy am yr aderyn cyffrous. Oes mwy nag un math o gnocell i’w weld yng Nghymru tybed? Dyma beth oedd gan Daniel Jenkins Jones neu ‘Jenks’ i’w ddweud wrth Caryl…. Cnocell y Coed Woodpecker Creaduriaid Creatures Nythu To nest Ymddangos To appear Rhyfedd iawn Very strange Onglau Angles Madfall Lizard Neidr Snake Hardd Pretty Rhyfeddu To marvel Anarferol Unusual 02. Aled Hughes - Hayley Thomas Llawer o wybodaeth yn fan’na am gnocell y coed gan Jenks. Fuoch chi’n edrych ar raglen Plant Mewn Angen y BBC nos Wener diwetha? Roedd y noson wedi codi miliynau o bunnoedd at elusennau plant. Gwych, on’d ife? Ar ddechrau wythnos her Plant Mewn Angen cafodd Aled Hughes sgwrs gyda Hayley Thomas sy’n gweithio fel swyddog gyda phrosiect Thrive, prosiect sy’n rhoi cymorth i blant a’u mamau yn ardal Port Talbot ac Afan . Pa mor bwysig ydy arian Plant Mewn Angen i elusen fel Thrive? Dyma Hayley yn esbonio… Esbonio To explain Profiadau Experiences Cam-drin Abuse Canolbwyntio To concentrate Diogelwch Safety Cyfleoedd Opportunities Lloches Refuge Dychryn To frighten 03. Radio Cymru 2 – Strictly Hayley Thomas oedd honna yn siarad am pa mor bwysig ydy arian Plant Mewn Angen i elusennau fel Thrive. Bob wythnos ar y Sioe Frecwast ar Radio Cymru 2, mae Caryl Parry Jones yn dal i fyny gyda Meg Neal, i sôn am beth sy’n digwydd yn Strictly. Roedd rhywbeth arbennig iawn wedi digwydd wythnos diwetha a dyma Meg yn rhoi’r hanes i ni… Hudolus Magical Byddar Deaf Egnïol Energetic Ddim cystal Not so good Meddwl y byd o’i gilydd Think the world of each other 04. Beti a'i Phobol - Steffan Huws Hanes Strictly yn fan’na gan Meg a Caryl. Mae Steffan Huws, gwestai Beti George wythnos diwetha, wedi cael bywyd diddorol iawn. Mae Steffan yn dod o Bontypridd yn wreiddiol, ond erbyn hyn mae’n rhedeg busnes coffi Poblado, yn Nyffryn Nantlle yng Ngwynedd. Treuliodd Steffan lawer o amser yn byw ac yn gweithio dramor yn Taiwan ac yn Columbia yn ne America. Yn y clip nesa, mae Steffan yn sôn wrth Beti am y tro cynta iddo fe fentro dramor.... Alldaith Expedition Cronfa Fund Trobwynt Turning point Yng nghanol nunlle In the middle of nowhere Anferth Huge Datblygiad personol Personal development Dilornus Disparaging Meddylfryd Mindset 05. Lisa Gwilym - Kizzy Crawford Steffan Huws oedd hwnna’n sôn am ei brofiad yn mynd ar alldaith dramor am y tro cynta. Ar raglen Lisa Gwilym nos Fercher roedd Kizzy Crawford yn sgwrsio am ei halbwm newydd ‘Rhydd’. Hi sgwennodd holl ganeuon yr albwm a hi chwaraeodd pob offeryn arno hefyd. Ac yn ogystal hi wnaeth gynhyrchu’r albwm mewn stiwdio yn ei chartref yn Aberfan Offeryn Instrument Cynhyrchu To produce Cyfrannu To contribute Hyder Confidence Mae gen i gof I have a recollection Wedi gwirioni Wedi dwlu ar Rhyddhau To release 06. Sioeau Cerdd Steffan ..ac arhoswn ni gyda cherddoriaeth yn y clip nesa, ond cerddoriaeth o sioeau cerdd y tro ‘ma. Dyma i chi ran o sgwrs gafodd Steffan Rhys Hughes wythnos diwetha gyda un o sêr y West End, Samuel Wyn-Morris, sy'n sôn am ei brofiadau'n perfformio yn y sioe gerdd Les Miserables. Sioeau cerdd Musicals Diwydiant Industry Ddim yn fêl i gyd Not a bed of roses Becso Poeni Camu ar lwyfan To step on to a stage Bwrw mlaen Get on with it Dwlen ni Baswn i wrth fy modd
11/26/202116 minutes, 32 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr 19eg o Dachwedd 2021

1. Dros Ginio - Pabi Coch Roedd hi’n Sul y Cofio ddydd Sul diwetha a llawer o bobl yn falch o wisgo’r pabi coch yn symbol i gofio am y rhai gollodd eu bywydau mewn rhyfeloedd. Ond o ble ddaeth y symbol yma? Pam mai pabi coch dyn ni’n ei wisgo? Dyma’r hanesydd Iwan Hughes yn rhoi cefndir y pabi coch mewn sgwrs gyda Catrin Haf Jones ar raglen Dros Ginio… Deillio To derive Claddu To bury Ffrind pennaf Best friend Ysbrydoliaeth Inspiration Teyrnged Tribute Arferiad Custom Mabwysiadu To adopt Yn ddiweddarach Later on Plant amddifad Orphans Dylanwad Influence Adnabyddus Aware 2. Rhaglen Aled –Merched yn y Rhyfel Byd 1af Ychydig o hanes y pabi coch yn fan’na ar Dros Ginio. Ac i aros gyda Sul y Cofio cafodd Aled Hughes sgwrs gyda’r hanesydd Elin Tomos am gyfraniad merched yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf … Cyfraniad Contribution Delwedd traddodiadol Traditional image Ymddwyn To behave Argraffu To print Cymwysedig Qualified Unigryw Unique Wedi gwirioni’n lân Yn dwlu ar Carcharorion Rhyfel Prisoners of War Teimladwy Poignant 3. Rhys Mwyn - Geraint Jones - Planedau Yr hanesydd Elin Tomos yn fan’na yn sôn am gyfraniad enfawr merched yn ystod y rhyfel byd cyntaf. Nos Lun roedd Rhys Mwyn a’i westeion yn dewis a chwarae traciau oedd yn cyfeirio at y planedau a’r sêr, fel rhan o dymor y BBC, Ein Planed Nawr. Dyma glip o Rhys yn sgwrsio gyda Geraint Jones, sy’n bennaeth Astudiaethau’r Planedau yn yr UCL yn Llundain. Ymchwil Research Llong ofod Spaceship Sadwrn Saturn Lleuadau Moons Nentydd Brooks Nwyon Gases Hylif Liquid Brwdfrydig Enthusiastic Seryddiaeth Astronomy 4. Canu Protest Geraint Jones oedd hwnna’n sôn am y blaned Sadwrn , y lleuadau a Blur gyda Rhys Mwyn. Mae cyfres rhif 3 o ‘Canu Protest’ yn ôl. Gruff Lynch a Dyl Mei sy’n edrych ar hanes canu protest yn Iwerddon, Yr Alban, a Lloegr. Yn y clip yma, dyn ni’n clywed gan Gruff a gan y casglwr recordiau Meurig Jones am gân brotest enwog y Beatles... Arbrofol Experimental Terfyn An end Enwoca Most famous Ddaru nhw Wnaethon nhw 5. Cerdd Dant, Canu Gwerin a'r Geroddorfa Hanes cân brotest y Beatles Give Peace a Chance yn fan’na gyda Griff Lynch a Meurig Jones. Canu bach yn wahanol nawr sef canu gwerin a chanu cerdd dant. Mae cerdd dant yn fath arbennig o ganu yn Gymraeg sy’n gofyn am sgiliau gwahanol iawn i unrhyw fath arall o ganu. Cantores gwerin ydy Linda Griffiths a chafodd hi her i ganu cerdd dant gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC Dyma Linda’n sgwrsio gyda Lisa Gwilym am ei phrofiad o ganu cerdd dant gyda’r gerddorfa. Her A challenge Yn gyhoeddus In public Cyhur Muscle Anadlu To breathe Y bwriad The intention Bedydd tân Baptism of fire Amser prin Short space of time Ces i gathod bach (idiom) I had kittens Canolbwyntio To concentrate Egwyddor Principle Cyfleu To convey 6. Troi'r Tir - Meithrinfa Cwtsh y Clos Linda Griffiths yn fan’na i weld wedi mwynhau’r profiad o ganu cerdd dant. Ar Troi’r Tir wythnos diwetha clywon ni am hanes meithrinfa ger Llanarthne, Sir Gaerfyrddin sydd ar glos fferm. Meithrinfa Cwtsh Y Clos yw enw'r ac a dyma Gwenllian Stephens ac Ann Davies yn rhoi hanes y feithrinfa… Clos Farmyard Cyd-berchennog Co-owner Ansawdd Standard Galluogi To enable Achlysur Occasion Ŵyna Lambing Llo Calf Da godro Milking cows Caseg Mare Antur Adventure Fel y cyfryw As such
11/19/202115 minutes, 13 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr 12fed o Dachwedd 2021

1. Gwneud Bywyd yn Haws – Clip Cytiau Elliw Gwawr ac Angharad Haf Wyn Mae BBC Radio Cymru yn rhoi sylw i’r argyfwng newid hinsawdd yn ystod tymor yr Hydref gyda rhaglenni arbennig o’r enw ‘Ein Planed Nawr’. Un o’r rhaglenni hynny ydy ‘Gwneud Bywyd yn Haws’ ac yn rhaglen wythnos diwetha clywon ni bod defnyddio clytiau, neu cewynnau, aml-ddefnydd yn llawer iawn gwell i’r amgylchedd na defnyddio’r rhai sy’n cael eu taflu ar ôl eu defnyddio unwaith yn unig. Dyma glip o Hanna Hopwood yn sgwrsio gyda dwy fam sy’n defnyddio’r clytiau aml-ddefnydd, Angharad Haf Wyn ac Elliw Gwawr… Argyfwng newid hinsawdd Climate change crisis Clytiau/cewynnau Nappies Aml-ddefnydd Multiple use Amgylchedd Environment Ymchwil Research Buddsoddi To invest Arbrofi To experiment Ymrwymo To commit ‘Ta beth Beth bynnag Cyflwr Condition Tueddu i hyrwyddo Tends to promote 2. Ifan Evans – Gwobr i Edna Jones Dyna i chi flas ar raglen ‘Gwneud Bywyd yn Haws’ gyda Hanna Hopwood sydd ar Radio Cymru bob nos Fawrth am 6pm. Ac os dych chi eisiau clywed mwy o’r sgwrs yma ewch draw i wefan bbc sounds, neu am ragor o raglenni sy’n sôn am yr amgylchedd ewch at y wefan bbc.co.uk/einplanednawr Unwaith eto mae rhaglen Ifan Evans yn dweud ‘Diolch o Galon’ i rywun arbennig sydd wedi gwneud gwahaniaeth yn eu hardal, neu glwb, neu mewn cymdeithas arbennig. Wythnos diwetha aeth Ifan i Ynys Môn, i roi tlws Diolch o Galon i Edna Jones, Trefnydd CFFI yr Ynys Tlws Trophy Syfrdanu Astounded Gweithgar Hardworking Ces i fy nychryn I was shocked Enwebiad Nomination Talcen caled A hard grafft Cyn-aelodau Former members Mewn chwinciad In a jiffy Becso Poeni 3. Newid Hinsawdd Taid a Fi – Micro Plastic ...ac os dych chi’n nabod rhywun dach chi’n meddwl dylai ennill tlws ‘Diolch o Galon’, cofiwch gallwch chi anfon enwebiad at Ifan drwy e-bost ar ifan@bbc.co.uk Yn y rhaglen ‘Newid Hinsawdd :Taid a Fi’ mae Leisa Gwenllian yn mynd ar daith i gyfarfod rhai o’r bobol ar ei stepen drws sydd yn gwneud gwaith difyr ac phwysig i wella’r amgylchedd, yng nghwmni ei thaid, neu dad-cu, y naturiaethwr Duncan Brown. Yn y clip yma, mae Leisa yn cael sgwrs am feicroblastig gyda Nia Jones a’r Dr Dei Huws o Brifysgol Bangor. Hudolus Magical Mor brydferth So beautiful Uwch Ddarlithydd Senior lecturer Gwyddorau Môr Marine Science Gwasgariad Dispersal Llygredd Pollution Amsugno To absorb Tanwydd Fuel Ynni Energy Lleihau To reduce 4. Rhys Mwyn – Fflur Dafydd Pwy fasai’n meddwl bod meicroblastig mor gyffredin on’d ife? Mae e yn ein siwmperi hyd yn oed! Roedd yr awdures Fflur Dafydd gyda Rhys Mwyn wythnos diwetha a buon nhw’n rhannu ei dewisiadau o draciau ffync. Yn ystod y sgwrs soniodd Fflur sut gwnaeth hi ddewis caneuon ar gyfer y gyfres deledu ‘Amgueddfa’ oedd ar S4C eleni, er mwyn cael rhoi rhagor o haenau i’r cymeriadau… Cyffredin Wide-spread Haenau Layers Cymeriadau Characters Golygfeydd Scenes Drych Mirror Dylanwadau Influences 5. Geraint Lloyd – Randall Bevan ..a’r newyddion da ydy bod cyfres arall o Amgueddfa ar y ffordd, ac mae Fflur wrthi’n sgwennu’r sgript ar hyn o bryd. Randall Bevan o Ipswich sydd yn gyn-drampolinydd, ac yn 88 oed oedd yn cadw cwmni i Geraint LLoyd nos Fercher, a soniodd Randall ei fod wedi derbyn neges arbennig gan ffrind enwog iawn – pwy oedd e tybed? Halais i Anfones i Gynnau fach A moment ago Tylwyth Teulu Ŵyr a ŵyres Grandson and grandaughter 6. Clip Dros Ginio Randall a Buzz – wedi dyna stori dda on’d ife? Wythnos diwetha, cyhoeddodd Wales Online restr o 15 o Gymry du dylen ni roi sylw iddyn nhw. Roedd Sian Jones, y steilydd gwallt 22 oed o Gaerdydd, yn un o’r pymtheg yma. Cafodd hi sgwrs gyda Catrin Haf Jones ar raglen Dros Ginio, a dyma hi’n sôn am ei harbenigedd hi mewn gwalltiau unigolion duon… Unigolion duon Black individuals Cyhoeddi To publish Arbenigedd Expertise Penodol Specific Yn cynnwys Including Mor brin So scarce Gradd Degree Fy synnu i Surprises me Hyfforddi Training
11/12/202118 minutes, 33 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr 5ed o Dachwedd 2021

1. Dei Tomos – Llyfr Glas Nebo, Sara Borda Green Mae’r nofel Llyfr Glas Nebo gan Manon Steffan Ros wedi cael ei chyfieithu i sawl iaith, gyda Manon ei hun wedi ei chyfieithu i’r Saesneg. Mae Sara Borda Green yn dod o Batagonia ac mae hi wedi cyfieithu’r nofel i’r Sbaeneg. Ar raglen Dei Tomos buodd Sara’n sôn am rai o’r problemau gafodd hi wrth gyfieithu. Dyma i chi flas ar y sgwrs... Y Wladfa Welsh settlement in Patagonia Diwylliannol Cultural Her A challenge Dealledig Understood Ariannin Argentina Addasu To modify Tŷ Gwydr Tŷ haul/conservatory Cyffredin Common Osgoi To avoid Y golygoddion The editors Penodol Specific 2. BORE COTHI – Naomi Saunders, planhigion y tŷ dros y gaeaf Fasai tŷ gwydr, neu dŷ haul, yn help i gadw planhigion tŷ yn fyw dros y gaeaf tybed? Wel mae hynny’n dibynnu ar y tŷ ac ar pa mor gynnes ydy hi yn ôl Naomi Saunders fuodd yn siarad am ofalu am blanhigion tŷ gyda Shan Cothi… Dyfrio To water Gor-ddyfrio Overwatering Canolbwyntio To concentrate Oes tad Yes indeed Amsugno To absorb Dyfnder Depth Gadael iddyn nhw fod To let them be Goleuni Light Tymheredd cyson Constant temperature Rheiddiadur Radiator 3. Gwneud Bywyd yn Haws – Teleri James Jones Digon, ond nid gormod o ddŵr felly i gadw’n planhigion tŷ yn fyw ac yn iach dros fisoedd y gaeaf, dyna gyngor Naomi Saunders i ni. Cynghorion ar sut i leihau gwastraff glywon ni ar Gwneud Bywyd yn Haws. Wrth edrych ymlaen at Cop26 mae Radio Cymru wedi bod yn rhoi sylw i’r argyfwng newid hinsawdd gyda chyfres o raglenni arbennig Ein Planed Nawr. Nos Fawrth ar Gwneud Bywyd y Haws, clwyon ni Teleri James Jones yn sôn am ei hobi o werthu a phrynu yn ail law ar y we er mwyn lleihau gwastraff… Cynghorion Advice Lleihau gwastraff To reduce waste Argyfwng newid hinsawdd Climate change crisis Ail-law Second hand Newydd sbon Brand new Cael gwared ar To get rid of Dodrefn Furniture 4. Beti George – Paula Roberts Teleri James Jones oedd honna’n siarad gyda Hanna Hopwood am ei harfer o werthu yn ail law drwy’r we er mwyn lleihau gwastraff. I glywed y rhaglen i gyd ewch i BBC Sounds a chwilio am Gwneud Bywyd yn Haws, ble cewch chi glywed yn ogystal gyfweliad gyda Gwenllian Williams sy’n sôn am Eco Bryder Cafodd Beti George sgwrs gyda’r Dr Paula Roberts sydd yn darlithio mewn Gwyddorau Naturiol ym Mhrifysgol Bangor. Mae Paula wedi treulio amser yn yr Arctig ac Antartica, ond am ei hanes yn seiclo yng Ngogledd Affrica byddwn ni’n clywed yn y clip nesa... Eco Bryder Eco anxiety Darlithio To lecture Gwyddorau Naturiol Natural Sciences Bwlch Pass Bugeilio defaid Shepherding sheep Cerrig Stones Amlwg Obvious Braw Fright Copa Summit Hŷn Henach Denu sylw To draw attention 5. Bryn Tomos – Leisa a Duncan Brown Hanes taith ddifyr a pheryglus Paula Roberts yn Morocco oedd hwnna ar Beti a’i Phobol. Yn y rhaglen ‘Newid Hinsawdd :Taid a Fi’ mae Leisa Gwenllian yn mynd ar daith i gyfarfod rhai o’r bobol ar ei stepen drws sydd yn gwneud gwaith difyr ac phwysig i wella’r amgylchedd, gan ddechrau ei thaith gyda’i thaid, neu dad-cu, y naturiaethwr Duncan Brown. Dyma Leisa a Duncan yn edrych ymlaen at y rhaglen gyda Bryn Tomos... Amgylchedd Environment Y frwydr i atal The fight to stop Cynnwys To include Mawndir Peatland Gwair Grass Gwrthsefyll llifogydd to withstand flooding Arloesol Innovative Hynod o falch Very proud Tynna’r goes arall Pull the other leg 6. Geraint Lloyd – Dr Wynne Davies Rhaglen ddiddorol ac amserol iawn arall ar Radio Cymru ‘Newid Hinsawdd :Taid a Fi’ . Derbyniodd Dr Wynne Davies un o brif wobrwyon Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru sef Is-Lywyddiaeth Oes Er Anrhydedd a derbyniodd Fedal Arian y Gymdeithas yn ogystal. Dyma i chi flas ar sgwrs cafodd Geraint Lloyd gyda Dr Wynne Davies ble mae e’n sôn am ei gysylltiad hir iawn â’r Gymdeithas, a’r Sioe Frenhinol... Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru The Royal Welsh Agricultural Society Gwobrwyon Awards Is-Lywyddiaeth Oes Er Anrhydedd Honorary Life Vice President Sylweddoli To realise Olrhain hanes To trace the history Merlod Ponies Achau Pedigree Pencampwriaeth Championship Rhyfel War Bridfa Stud farm Pedolau Horseshoes
11/5/202117 minutes, 3 seconds
Episode Artwork

Pigion y Dysgwyr 29ain Hydref 2021

Aled Hughes – Erin Fflur a Mari Elen Mae pedair cenhedlaeth o deulu fferm y Pandy, Rhos-y-gwaliau ger y Bala wedi bod yn cystadlu mewn treialon cŵn defaid, a’r ddwy ferch fferm ifanc, Erin Fflur a Mari Elen ydy’r diweddara i gystadlu. Cafodd Aled Hughes air gyda’r ddwy a dyma i chi flas ar y sgwrs... Cenhedlaeth Generation Y diweddara The most recent Rheoli To control Ar gyrion On the outskirts Praidd Flock Canolbwyntio To concentrate Amynedd Patience Dallt Deall Cyngor Advice Yn y gwaed In the blood Cynhaliwyd Was held GWNEUD BYWYD YN HAWS Hanes teulu fferm y Pandy a’r treialon cŵn defaid yn fanna. Buodd Theatr Genedlaethol Cymru yn teithio gyda’i drama ‘Anfamol ‘ yn ddiweddar. Hon ydy drama lawn gynta i’r cwmni ei llwyfannu’n fyw ers dechrau’r cyfnod clo, ac mae’n cymryd golwg ar fywyd mam sengl. Sut mae’r ddrama hon yn cymharu â rhaglenni teledu ar yr un thema, fel Motherland tybed? Dyna fuodd Hanna Hopwood a'i gwesteion Rhiannon Mair a Llinos Patchel yn ei drafod ar Gwneud Bywyd yn Haws Llwyfannu To stage Cyfresi Series Pegynnu Polarizing Cymeriadau Characters Gor-ddweud To exaggerate Elfennau Elements Anweledig Invisible Rhianta Parenting Denu To attract Prydferthwch Beauty Mor glou Mor gyflym Datgelu’n raddol Gradually revealing Arwyr Glew – Erwau’r Glo Mae’n amlwg bod Llinos a Rhiannon wedi mwynhau ‘Anfamol ‘ yn fawr iawn. Mae’r diwydiant glo yn aml iawn yn cael ei gysylltu gyda llygredd, ond clywodd Aled Sam am gynllun sydd yn defnyddio glo gorllewin Cymru i buro dŵr ar draws y byd. Dyma Aled yn sgwrsio gyda Jeff Macavoy o gwmni glo Western Carbons ger Rhydaman yn Sir Gaerfyrddin. Y diwydiant glo The coal industry Llygredd Pollution Puro To purify Tunnell A ton Rhyfedd Strange Dros Ginio Wel, wel, pwy fasai’n meddwl? Diemwntau du gorllewin Cymru yn puro dŵr Saudi Arabia. Dyna ddiddorol on’d ife? Wythnos diwetha, roedd Paul Simon yn dathlu ei ben-blwydd yn 80 oed. Mae e wedi dylanwadu ar gerddorion ar draws y byd, gan gynnwys cerddorion Cymru fel Delwyn Sion, sydd yn dipyn o ffan o’r dyn o Efrog Newydd. Buodd e’n sôn ychydig am yrfa Paul Simon gyda Jennifer Jones ar Dros Ginio... Dylanwadu To influence Rhyfeddol Astonishing Degawd A decade Poblogaidd Popular Canwr gwerin Folk singer Deuawdau Duets Beti a’i Phobl – Ann Jones Fasai hi ddim wedi bod yr un fath tasen nhw wedi cadw’r enw Tom and Jerry, na fasai? Cadeirydd Cenedlaethol Sefydliad y Merched, Ann Jones o Landdewi Brefi yng Ngheredigion oedd gwestai Beti George. Dyma hi’n sôn wrth Beti am bwysigrwydd y Sefydliad.. Sefydliad y Merched Women’s Institute Pwysigrwydd Importance Delwedd Image Ymgyrchydd Campaigner Yn wirioneddol Truly Materion Cyhoeddus Public affairs Cyfrifol Responsible Amgylchedd Environment Parchu llais To respect the voice Geraint Lloyd Dyna ni felly, Jerusalem ond ddim jam i Sefydliad y Merched! Yr arbenigwr hen bethau John Rees oedd gwestai Geraint Lloyd nos Fercher a buodd e’n sôn am rywbeth o’r enw ‘chippy paint’. Beth yw hwnnw tybed? Arbenigwr Expert Tad-cu Taid Celfi Dodrefn Gweithdy Workshop Traul Wear and tear Brwnt Budr
10/29/202115 minutes, 37 seconds
Episode Artwork

Pigion y Dysgwyr 22ain Hydref 2021

CYMRY NEWYDD Y CYFNOD CLO - MOHINI GUPTA Bardd o Delhi Newydd, Mohini Gupta, ddysgodd Cymraeg ar ôl iddi dreulio tri mis yn Aberystwyth yn 2017. Mae hi wedi cyfieithu cân boblogaidd yr Anhrefn a Candelas, Rhedeg i Baris, i Hindi ac mae’n gobeithio cryfhau’r cysylltiad rhwng y ddwy iaith yn y dyfodol. Dyma hi’n esbonio pam dechreuodd hi ddysgu Cymraeg Bardd Poet Cymrawd Fellow Cwympo mewn cariad To fall in love Mwyaf rhyfeddol Most amazing Y gynghanedd Welsh metrical alliteration Yn gysylltiedig â barddoriaeth Connected to poetry Led-led y wlad Throughout the country Gweithdy Workshop Sylweddoli To realise Cenhadon Missionaries GWNEUD BYWYD YN HAWS – ROB LISLE A DAVID THOMAS Mohini Gupta oedd honna’n sôn am y cysylltiad rhwng y Gymraeg a Hindi. Cafodd Hanna Hopwood gwmni rhai o gystadleuwyr 'Dysgwr y Flwyddyn 2021', i rannu cynghorion am sut i wneud bywyd yn haws wrth ddysgu Cymraeg. Mae Rob Lisle wedi bod yn helpu dysgwyr eraill i ddechrau sgwrsio yn Gymraeg mewn ffordd ymarferol a dyma e’n esbonio wrth Hanna sut mae e’n mynd o’i chwmpas hi... Mynd o’i chwmpas hi To go about it Dipyn o gamp Quite an achievment Cymryd yn ganiataol To take for granted Canolbwyntio Concentrating Ystyried Considering Gwybodaeth gyffredinol General information Mo’yn Eisiau BORE COTHI -MELANGELL DOLMA A RHIANNON OLIVER Mae’n wych gweld rhai fel Rob, sydd wedi dysgu Cymraeg, yn rhoi help llaw i’r rhai sydd eisiau ei defnyddio. Un gafodd gyfle i ddefnyddio’r Gymraeg yn fuan ar ôl ei dysgu ydy’r actores Rhiannon Oliver a lwyddodd i gael rhan yn ‘Enfys’ drama ddigidol Theatr Genendlaethol Cymru. Clywon ni’r hanes mewn sgwrs gafodd hi gyda Shan Cothi… Dwys Intensive Cyngor Celfyddydau Cymru Welsh Arts Council Llawrydd Freelance GERAINT LLOYD – JAMES HORNE Wel dyna brofiad gwych i Rhiannon on’d ife? Roedd Geraint Lloyd yn holi ‘dysgwr y dydd’ ar ei raglen wythnos diwetha ar nos Fawrth. Myfyriwr sy’n astudio ym Mhrifysgol Bangor o’r enw James Horne oedd yn cadw cwmni iddo fe. Cwrs TAR PGCE course Parhau To continue Hedfan Flying Cwrs Calan New Year’s course GERAINT LLOYD – ELISABETH HALIJAS Ac arhoswn gyda Geraint Lloyd nawr i glywed rhan o sgwrs gaeth e gydag Elisabeth Halijas dietegydd sydd yn byw a gweithio yng Nghaerdydd, ond sy’n dod o Estonia yn wreiddiol. Fel James Horne, mae hi wedi dysgu Cymraeg yn gyflym iawn – dim ond tair blynedd mae hi wedi bod wrthi. Gofynnodd Geraint iddi hi a oedd y Gymraeg yn help iddi yn y gwaith. Defnyddiol Useful Ymgynghoriad Consultation Gwirfoddoli To volunteer BETI GEORGE – GRANT PEISLEY Wel dyna fywyd prysur sy gyda Elisabeth on’d ife? Ac mae’n wych ei bod hi, sy’n dod o Estonia yn medru cynnig gwasanaeth Gymraeg i’w chleientau. Grant Peisley oedd gwestai Beti George wythnos diwetha. Mae Grant yn dod o Picnic Point ger Sydney Awstralia yn wreiddiol ac roedd e’n hapus iawn pan ofynnodd Beti iddo fe am ei deulu…. Hynafiaid Ancestors Ymhlith y carcharorion Amongst the prisoners Go iawn Really Cyswllt Connection Ieuengaf Fenga/ifanca Cyfnitherod Female Cousins Wel dyna ni, mae wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg ar Radio Cymru wedi mynd â ni i India, Lloegr, Estonia ac Awstralia. Ond ble bynnag dych chi’n byw, o ble bynnag dych chi’n dod, dyn ni yn Radio Cymru a, dw i’n siŵr, pobl Cymru gyfan yn falch iawn ohonoch chi, ac yn falch o’ch cyfraniad at y bywyd Cymraeg. Daliwch ati!
10/22/202114 minutes, 30 seconds
Episode Artwork

Pigion y Dysgwyr 15fed Hydref 2021

S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …” SIWRNA SIONED Siwrna Sioned, sef rhaglen arbennig am ferch arbennig o Lanrug ger Caernarfon. Cafodd Sioned Roberts ddiagnosis o’r clefyd Motor Neurone yn 2006. Mae hi am ddefnyddio pob cyfle i rannu ei phrofiadau er mwyn helpu rhai eraill sydd â’r un clefyd. Dyma hi’n sgwrsio gydag Aled Hughes… Clefyd Disease Ymlaen llaw Before hand Iesgob! Goodness! Sylweddoli To realise Cryfder Strength Magwraeth Upbringing Ymchwil Research Triniaeth iachâd A cure Ymwybyddiaeth Awareness Cyfryngau cymdeithasol Social media SIOE SADWRN SHELLEY A RHYDIAN Ie, fel d’wedodd Aled, roedd Sioned yn gryf, yn ddewr ac yn onest yn fan’na wrth drafod ei phrofiadau hi o’r clefyd Motor Neurone. Rhodri Owen oedd gwestai Shelley a Rhydian ar y Sioe Sadwrn a buodd e’n sôn am yr adeg pan aeth i gyfweld Matthew Rhys am y ffilm A Beautiful Day in the Neighbourhood. Ond doedd cael cyfweld Mattthew ddim yn ddigon i Rhodri, roedd e am gael gair gyda seren arall y ffilm, sef yr actor enwog Tom Hanks. Lwyddodd e i wneud hynny tybed? Dyma fe’n dweud yr hanes… Dewr Brave Cyfweld To interview Rhes A row Anhygoel Incredible Yn llythrennol Literally Tueddiad ofnadwy An awful terndency GERAINT LLOYD Stori anhygoel gan Rhodri Owen am sut lwyddodd e i gael cyfweliad gyda Tom Hanks. Cafodd Geraint Lloyd sgwrs gyda’r gyrrwr ralio Elfyn Evans ar ôl iddo fe ennill Rali'r Ffindir - y Cymro cyntaf i wneud hynny. Enillodd y gyrrwr o Ddinas Mawddwy, ger Dolgellau naw o 19 cymal y rali heriol yma, ac ennill pum pwynt bonws drwy ennill y cymal olaf. Ffindir Finland Cymal Stage (of race) Heriol Challenging Yn fwy diweddar More recently O’r cychwyn cynta From the very start Ychydig o fantais A slight advantage Yn dywyllach darker Gwastad Level Tymheredd Temperature Cyn ised â As low as BETI A’I PHOBL Ac mae hi’n dal yn bosib i Elfyn ennill Pencampwriaeth Rali'r Byd, felly pob lwc iddo fe. Buodd Beti George yn sgwrsio gyda'r fenyw fusnes Sioned Llywelyn Williams, ac yn y clip nesa mae Sioned yn sôn am ei chyfnod yn byw yng Nghaerdydd pan oedd hi’n ifancach, ac yn esbonio pam ei bod wedi dod yn ôl i fyw i Lanuwchlyn yn Ngwynedd, sef yr ardal ble cafodd hi ei magu… Pencampwriaeth Championship Ifancach Fengach Wastad Always Bwrlwm Buzz Am gyfnod For a period Cydnabyddiaeth Acknowledgment Eithriadau Exceptions Broydd Region Yn fwy cyffredin More prevalent Faswn i’n tybio I’d imagine DEWI LLWYD Sioned Llywelyn Williams oedd honna’n falch iawn o fod yn ôl yn Llanuwchllyn. Roedd stori dda gan westai pen-blwydd Dewi Llwyd sef Nia Roberts. Stori oedd hon am yr adeg Nia wedi mynd am glyweliad i chwarae rhan merch Owain Glyndŵr mewn ffilm ar gyfer S4C. Y cyfarwyddwr James Hill oedd yn gwneud y penderfyniad ac roedd Nia yn reit hyderus gan mai ei thad hi, J O Roberts, oedd wedi cael ei ddewis i chwarae rhan Owain. Pwy well felly na Nia i chwarae rhan ei ferch? Ond nid felly aeth hi, fel cawn ni glywed yn y clip yma… Clyweliad Audition Cyfarwyddwr Director Hogiau Bechgyn Diarth (dieithr) Strange Cynhyrchu To produce Trafodaeth A discussion
10/15/202114 minutes, 6 seconds
Episode Artwork

Pigion y Dysgwyr 8fed Hydref 2021

Shwmai... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Wynne Evans dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma, wythnos sy’n rhoi sylw i ddysgu Cymraeg dyn ni’n mynd at raglen … BORE COTHI Mae Kayley Sydenham yn dod o Gasnewydd ac mae hi ar ei blwyddyn gynta ym Mhrifysgol Bangor yn astudio’r Gymraeg. Doedd ei rhieni hi ddim yn siarad Cymraeg o gwbl ond penderfynon nhw ei hanfon hi i ysgol Gymraeg. Hi enillodd Goron Eisteddfod yr Urdd eleni, ac yn mis Medi, hi oedd Bardd y Mis Radio Cymru. Dyma hi’n sgwrsio gyda Shan Cothi am ei chefndir, ac i ddechrau holodd Shan am ei llwyddiant hi yn yr Eisteddfod… Cefndir Background Llwyddiant Success Rhannu fy ngherddi Sharing my poems Cysur Comfort Di-Gymraeg Non Welsh speaking Gwerthfawrogol Appreciative Wythnos y glas Freshers Week Cymdeithasu To socialise GERAINT LLOYD A phob lwc i Kayley, on’d ife, ym Mhrifysgol Bangor. Aeth Geraint Lloyd draw i Ynys Enlli ym Mhen Llŷn am y tro cynta yn ei fywyd wythnos diwetha, a chafodd gyfle i gyfarfod rhai o gymeriadau’r ynys. Lle hyfryd ond unig iawn ydy Enlli heddiw, ond sut oedd hi yno yn y gorffennol tybed? Dyma’r ffermwr Gareth Roberts yn rhoi ychydig o hanes y lle i ni… Blaengar iawn Very progressive Ar un cyfnod At one time Ŷd Corn Rhwyfau Oars Cynnyrch Produce Yr oes honno At that time Diweddara Most recent DEI TOMOS Wel pwy fydde’n meddwl mai merched Enlli oedd yn arwain byd ffasiwn Pen Llŷn? Mae ardaloedd llechi Gwynedd wedi dod i sylw’r byd eleni ar ôl ennill statws Safle Treftadaeth Byd Unesco. Ond oeddech chi’n gwybod bod llawer iawn mwy i’r diwydiant llechi na chynhyrchu llechi to yn unig? Mae Pred Hughes wedi cyhoeddi llyfr am y diwydiant ac yn y clip yma o sgwrs gafodd e gyda Dei Tomos, mae e’n sôn am y broses o enamlo , hynny yw rhoi enamel ar lechen... Llechi Slates Treftadaeth Heritage Diwydiant Industry Galwad enfawr A huge demand Moethus Luxurious Mwyafrif Majority Rhiniogau Thresholds Godidog Splendid ‘Sech chi’n taeru You’d swear Plisgyn ŵy Egg shell STIWDIO Pred Hughes oedd hwnna’n esbonio’r broses o enamlo llechi wrth Dei Tomos. Nos Lun ar Stiwdio cafodd Nia Roberts sgwrs gyda Arfon Haines Davies am y llyfr mae e wedi ei olygu , sef “Hunanbortread David Griffiths”. Mae David Griffiths yn dod yn wreiddiol o Bwllheli ac mae e’n un o artistiaid portreadau mwyaf blaenllaw Prydain. Mae e wedi creu portreadau o lawer o enwogion dros y blynyddoedd, fel buodd Arfon yn egluro... Blaenllaw Prominent Brenhinol Royal Straeon difyr Interesting stories Braslunio Sketching Archdderwydd Archdruid Cynnwys To include Diymhongar Unassuming Prif Weithredwyr Chief Executives Loncian Jogging BORE COTHI Dipyn bach o hanes yr artist David Griffiths yn fan’na gan Arfon Haines Davies. Nesa cawn ni glywed rhan o sgwrs rhwng y gantores canu gwlad o Geredigion, Doreen Lewis a Shan Cothi, ble mae Doreen yn sôn am ei mordaith delfrydol! Canu gwlad Country (singing) Mordaith delfrydol Ideal cruise Traethau aur Golden beaches Coed palmwydd Palm trees Naws ffwrdd â hi Relaxed atmosphere Ydy glei Ydy siŵr Ffaelu Methu Braint Privilege Atgoffa To remind SHELLEY A RHYDIAN Doreen Lewis oedd honna’n breuddwydio am fynd yn ôl i’r Caribî. Hyfryd! Bob wythnos ar y Sioe Sadwrn, mae Shelley a Rhydian yn gofyn i un o enwogion Cymru gyflwyno ei anifail anwes i ni fel rhan o ‘Cynghrair y Cŵn’, a dyma Eleri Sion yn ein cyflwyno ni i’w chi bach hi, Ralffi. Cynghrair y Cŵn Dog’s league Anrhydedd Honour Uchelael Highbrow Ymateb To respond Barus Greedy Fy nghôl i My lap Gwiwerod Squirrels Ei dîn e His backside Talent cudd Hidden talent Toddi nghalon i Melts my heart Wel mae Ralffi’n swnio’n gi bach bendigedig! A dyna ni’r podlediad am wythnos arall. Ond cyn cloi, cofiwch am holl raglenni arbennig yr wythnos nesaf. Mae cwis “Cystadleu-IAITH” bob dydd am hanner awr wedi deuddeg. Cyfres “Cymry newydd y cyfnod clo” am hanner awr wedi chwech, a bydd bwletin newyddion arbennig bob nos am 8. Ewch i BBC Sounds am fwy o wybodaeth. Diolch yn fawr am eich cwmni, a daliwch ati i wrando a siarad Cymraeg. Dw i’n lwcus mod i’n medru darlledu ar Radio Wales ac yma ar Radio Cymru. Tan y tro nesaf!
10/8/202116 minutes, 23 seconds
Episode Artwork

Pigion y Dysgwyr 1af Hydref 2021

S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … COFIO Plentyndod oedd thema Cofio yr wythnos diwetha a chlywon ni am blentyndod Isora Hughes, plentyndod gwahanol iawn gan ei bod wedi cael ei magu gan ei nani. Roedd mam Isora, Leila Megane, yn gantores enwog ac yn teithio’r byd yn perfformio, ond roedd ganddi ffordd arbennig iawn o adael Isora wybod ei bod yn meddwl amdani hi. T Glynne Davies oedd yn ei holi... Gwâdd To invite Yn ddigalon Trist Anadlu To breathe Peswch A cough Wyddoch chi You know BORE COTHI Cantores arall sy’n gorfod teithio’r byd yw Rhian Lois a buodd hi’n sgwrsio am synhwyrau gyda Shan Cothi. Dyma hi’n trafod beth yw ei hoff arogl yn y byd, sef arogl Elsi. Ond pwy neu beth yw Elsi? Synhwyrau Senses Arogl A smell Bant I ffwrdd Llanw fy nghalon i Fills my heart Croten Merch fach Mam-gu Nain GWNEUD BYWYD YN HAWS Y gantores Rhian Lois oedd honna yn sôn am ei merch fach Elsi. Mae tymor yr Hydref yn dod a sialensau iechyd gydag e, a’r system imiwnedd oedd yn cael sylw Hanna Hopwood yr wythnos hon ar Gwneud Bywyd yn Haws. Buodd Hanna’n siarad gyda Ellie Armstrong o’r cwmni Chuckling Goat i gael gwybod mwy am sut mae’r diod Kefir yn gallu helpu gyda imiwnedd. Ymateb Response Hynod o lwyddiannus Extremely successful Llaeth gafr Goat’s milk Llys-fam Stepmother Tawlu Taflu Cyflyrau croen Skin conditions Eitha tost Quite ill ALED HUGHES Kefir yn amlwg wedi gwneud bywyd yn haws i deulu Ellie Armstrong. Mae Morwenna Tang, yn dod o Shanghai yn China yn wreiddiol. Enw Cymraeg YuQi ydy Morwenna, a daeth hi i Gymru ddwy flynedd yn ôl gyda’i gŵr, Scott Griffiths, sy’n dod yn wreiddiol o Gaerdydd. Mae hi wedi bod yn dysgu Cymraeg trwy Duolingo ac ers dechrau’r cyfnod clo, ar gwrs gyda Dysgu Cymraeg Gwent. Beth wnaeth iddi hi benderfynu dysgu Cymraeg tybed? Adnoddau Resources Bodolaeth Existence IFAN EVANS Cymraeg gwych gan Morwenna yn fan’na ar ôl dim ond dwy flynedd yn dysgu’r iaith. Wythnos yma, cafodd Ifan Evans sgwrs gyda Marc Skone, oedd yn arfer perfformio gyda’r ‘boy band ‘ Cymraeg Mega. Mae e yn ôl yn perfformio nawr yn rhan o’r grŵp newydd Halo Cariad, a gofynodd Ifan iddo fe beth oedd e wedi bod yn ei wneud ers iddo fe adael Mega? Hyn a llall This and that Dim mor ffôl a hynny Not that bad Profiadau Experiences Cyfoethogi To enrich Gwerth chweil Worthwhile Cynhyrchydd Producer Stŵr A row BETI A’I PHOBL Marc Skone oedd hwnna’n sôn am ei fand newydd Halo Cariad. Mae’r ffilm Dream Horse wedi bod yn llwyddiannus iawn. Mae’r ffilm yn seiliedig ar stori wir am griw o bobl o gymoedd de Cymru wnaeth fuddsoddi mewn ceffyl o’r enw Dream Alliance aeth ymlaen i rasio yn Grand National Cymru. Dyma i chi flas ar sgwrs gafodd Beti George gyda chyfarwyddwr y ffilm Euros Lyn... Buddsoddi To invest Cyfarwyddwr Director Adolygu To review Crynhoi To summarise Cynulleidfa Audience Adloniant Entertainment Cynhesrwydd Warmth Llafar Vocal Rhyngwladol International
10/1/202115 minutes, 31 seconds
Episode Artwork

Pigion y Dysgwyr 24ain Medi 2021

S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … RECORDIAU RHYS MWYN …blas ar sgwrs gafodd Rhys Mwyn gyda’r Eidales Francesca Sciarrillo, enillydd fedal y dysgwyr Eisteddfod yr Urdd 2019. Francesca oedd yn lawnsio Siart Amgen 2021 a buodd hi’n sôn am ba mor bwysig oedd artistiaid fel Datblygu, Gruff Rhys a Gwenno iddi hi wrth ddysgu Cymraeg. Amgen Alternative Telynau Harps Llinach Linage Dylanwadu To influence Bodoli To exist Cantores Female singer Annwyl Adorable ALED HUGHES Wel doedd dim eisiau i Francesca boeni dim am ei Chymraeg cyn sgwrsio efo Gwenno nac oedd – mae ei Chymraeg hi’n wych! Dych chi’n hoff o gyfresi trosedd? Mae sawl un ar y teledu y dyddiau hyn on’d oes? Mae cyfres newydd o Silent Witness ar BBC One ar hyn o bryd, ac mae Pembrokeshire Murders wedi cael enwebiad Bafta Cymru. Ond tybed pa mor realistig ydy’r rhaglenni hyn? Dyma farn Nia Bowen, sy’n batholegydd yn Nhreforys, Abertawe. Cyfresi trosedd Crime series Enwebiad Nomination Ymchwil Research Dwfn Deep Cynhyrchwyr Producers Mwy o alw Greater demand Cael eu parchu Being respected Hela rhyw lofrudd Hunting some murderer Disgwyliadau Expectations Golygfeydd Scenes COFIO GRAV Nia Bowen, y patholegydd o Dreforys, oedd honna’n sgwrsio gydag Aled Hughes. Ar y 12fed o Fedi eleni basai Ray Gravell wedi dathlu ei benblwydd yn 70 oed. Roedd Grav yn chwaraewr rygbi, yn gyflwynydd, yn actor a phawb yn hoff iawn ohono. P’nawn Sul roedd rhaglen arbennig gan John Hardy yn Cofio Grav. Dyma glip bach o Grav yn sgwrsio gyda Beti George yng nghlwb rygbi Mynydd-y-Garreg ger Cydweli yn 2004. Crybwyll To mention Cyfrifoldebau Responsibilities Wap ar ôl Yn fuan ar ôl Uchafbwynt Highlight Heb os Without doubt Sodlau Heels Wedi dweud ar goedd Have proclaimed Genedigaeth Birth Bydwraig Midwife Rhegi mewn gorfoledd Swearing in joy BORE COTHI Dyna gymeriad oedd Grav on’d ife? ac roedd hi’n dipyn o sialens i‘r actor Gareth John Bale chwarae rhan y dyn mawr mewn ffilm cafodd ei gweld ar S4C yn ddiweddar. Dyma fe’n sgwrsio gyda Shan Cothi am yr her a’r pwysau o actio cymeriad oedd mor enwog a phoblogaidd â Grav... Her A challenge Pwysau Pressure Mae’r ymateb mor belled The response so far Rhyddhad Relief Droeon Several times Anrhydedd An honour Dyletswydd A duty Dychwelyd To return Dwlu ar To dote on Cynulleidfa An audience Cyfarwyddwr Director BORE COTHI Ac arhoswn ni gyda Bore Cothi nawr i glywed rhan o sgwrs cafodd Shan gyda Dylan Jones i drafod sut a pham buodd e a’i frindiau yn gwneud Her Tri 3 Chopa Cymru yn ddiweddar. Cerddon nhw Gadair Idris, Pen y Fan ac wrth gwrs, Yr Wyddfa... Asgwrn Bone Her Tri Chopa The Three Peaks Challenge Elusen Charity Cadw’n heini Keeping fit Cyflwr Condition Arbenigwyr Experts Cyflawni To fulfil DROS GINIO Basai’n dipyn o her dringo’r tri chopa unrhyw adeg, ond roedd ei wneud tra’n dioddef o gyflwr ar y traed yn anodd iawn baswn i’n meddwl. Y seicolegydd chwaraeon, Seren Lois oedd yn ymuno â Vaughan Roderick ddydd Mercher i drafod sut mae llwyddo mewn chwaraeon ac i sônam yr her a’r pwysau sydd ar athletwyr ifanc, fel enillydd yr US Open, Emma Raducanu. Trafod To discuss Hyfforddwyr Coaches Pencampwraig Female champion Mewnol Inner Balchder Pride Boed hynny Whether it be Goresgyn To overcome Ymdopi To cope Cysurus Comforting Disglair Brilliant
9/24/202115 minutes, 31 seconds
Episode Artwork

Pigion y Dysgwyr 17eg Medi 2021

S'mae... Dach chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … BORE COTHI Mae Gruffudd Eifion Owen yn Brifardd, hynny yw rhywun sy wedi ennill un ai’r gadair neu’r goron yn yr Eistedfod Genedlaethol, ond ddim am farddoniaeth oedd e’n sgwrsio gyda Shan Cothi, ond yn hytrach am synhwyrau. Tybed beth yw hoff flas a lliw y bardd o Ben Llŷn? Barddoniaeth Poetry Ond yn hytrach But rather Synhwyrau Senses Oes tad Goodness, yes Chwalu To demolish Balm i’r enaid Balm to the soul Ysgubol Sweeping Cynnil Subtle ALED HUGHES Y Prifardd Gruffudd Eifion Owen oedd hwnna’n sôn am ei hoff liwiau a’i hoff flasau ar Bore Cothi, ac yn sôn am liwiau anhygoel yr aderyn Coch y Berllan. Wel Coch yr Old Trafford gafodd sylw ym myd chwaraeon dros y penwythnos gyda Ronaldo’n dod yn ôl i Manchester United, ac yn sgorio dwy gôl yn ei gêm gynta. Mae Ronaldo wedi cael dylanwad enfawr ar beldroedwyr eraill, gan gynnwys Katie Midwinter o dim pêl-droed Merched Bethel. Dylanwad enfawr A huge influence Arwr Hero Oni bai am Were it not for Ysbrydoli To inspire Wedi mopio efo Wedi dwlu ar Yn y gwaed In the blood Efelychu To emulate Prif gynghreiriau Main leagues Syfrdanol Stunning Ystadegau Statistics DROS GINIO Ac i aros yn myd chwaraeon, mae Heledd Anna yn rhan o dîm chwaraeon y BBC a Heledd a’i thad Dafydd Roberts oedd gwestai Dau Cyn Dau ar Dros Ginio wythnos diwetha. Mae Dafydd wedi bod yn perfformio gyda’r grŵp Ar Log ers y saithdegau ac mae’r teulu i gyd gyda diddordeb mewn ceddoriaeth fel clywodd Iolo ap Dafydd. Ond pa mor gerddorol ydy Heledd tybed? Edmygu To admire Rhinweddau Virtues Parodrwydd i fentro Willingness to venture Meddylgar Thoughtful Brwdfrydedd Enthusiasm Difaru To regret RHYS MWYN Dafydd Roberts yn fan’na wedi perfformio gydag Ar Log ers y saithdegau, ond ers yr wythdegau mae Neil Rosser yn perfformio ac mae e dal wrthi, y tro ‘ma gyda band rocabili o’r enw Pwdin Reis. Prif gantores y band ydy Betsan Haf Evans a dyma hi a Neil yn sôn wrth Rhys Mwyn am beth sy wedi dylanwadu ar eu cerddoriaeth... Dylanwadu To influence Menywod Merched Hygrydedd Integrity Shwd gymaint Cymaint â hynny GERAINT LLOYD Mae llais arbennig iawn gan Betsan, ond oeddech chi’n gwybod bod yna gôr ar gael i bobl sy ddim yn medru canu’n dda o gwbl? Wel mae Cor Di-Dôn yng Nghaerdydd yn chwilio am aelodau newydd fel clywon ni gan Rhian Thomas fuodd yn sgwrsio gyda Geraint Lloyd…. Di-dôn Tuneless Awgrymu To suggest Sefydlwyd Was established Yn gymdeithasol Socially Lletchwith Awkward Cryn dipyn Quite a lot Arweinydd Conductor BORE COTHI Côr Di-dôn Caerdydd yn chwilio am aelodau ac arweinydd newydd, pob lwc iddyn nhw on’d ife? Mae can mlynedd wedi mynd heibio ers i Harry Secombe gael ei eni. Roedd y comedïwr, actor, canwr a chyflwynydd teledu’n dod o Abertawe yn wreiddiol a dyma i chi flas ar sgwrs cafodd y cerddor a chyflwynydd Alwyn Humphreys am Harry Secombe gyda Shan Cothi... Y fyddin The army Rhyfel War Adloniant Entertainment Milwyr Soldiers Diddanwr Entertainment Cyfresi Series Yn dwlu arno fe Yn ei hoffi’n fawr Eidalaidd Italian Cyfansoddi To compose Denu To attract
9/17/202115 minutes, 35 seconds
Episode Artwork

Pigion y Dysgwyr 10fed Medi 2021

S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, a’r wythnos hon dyn ni’n edrych yn ôl ar bythefnos o raglenni Radio Cymru a dechreuwn ni gyda …” SHAN COTHI ....sgwrs rhwng Shan Cothi a Bardd y Mis, mis Awst sef Yr Athro Derec Llwyd Morgan. Gofynnodd Shan iddo fe ddisgrifio ei haf perffaith a dyma i chi Derec yn sôn am hafau ei blentyndod... Yr Athro - Professsor Llwyth o atgofion - Loads of memories Lle maged i - Where I was brought up Amhrofiadol - Inexperienced Ymdrochi - Bathing Crits - Bechgyn Dwlu ar - Hoff iawn o Yn ei blyg - Crouching Crwmp ar ei gefn - Hunchback Broydd - Areas Trigo - Byw SHAN COTHI (Hann Hopwood) Yr Athro Derec llwyd Morgan oedd hwnna’n sôn am hafau ei blentyndod. Arhoswn ni gyda Bore Cothi nawr ond y tro hwn Hannah Hopwood oedd yn eistedd yn sedd Shan Cothi a chafodd hi sgwrs am adweitheg, neu reflexology, gyda’r Adweithegydd Elin Prydderch. Mae adweitheg wrth gwrs yn hen, hen driniaeth, ond faint ohonoch chi oedd y gwybod bod y driniaeth hon yn cael ei ddefnyddio i lacio wynebau. Dyma Elin yn esbonio... Adweitheg - Reflexology Triniaeth - Treatment Llacio - To relax Hynafol - Ancient Goblygiadau - Implications Pryder - Anxiety Cymalau - Joints Seibiant - A rest Maethlon - Nutritious Cyfrifoldeb - Responsibility Mwy debygol o - More likely to DROS FRECWAST Os oes rhywun yn haeddu cael trinaeth fel adweitheg, er mwyn ymlacio ar ôl deunaw mis y Covid, wel gweithwyr iechyd yw’r rheini yn siwr. Ond canu sydd yn helpu criw o weithwyr iechyd Llanelli ymdopi a’r sefyllfa ofnadwy maen nhw wedi ei wynebu. Dros y cyfnod clo buon nhw’n dod at ei gilydd ar Zoom i ganu, ond yr wythnos diwetha daethon nhw i gyd at ei gilydd wyneb yn wyneb am y tro cyntaf. Roedd hi’n brofiad emosiynol iawn fel clywodd Garry Owen... Cantorion - Singers Profiad - Expereince Gweithiwr cymdeithasol - Social worker Caredig - Kind Croten - Merch fach Cyfeillgar - Friendly Rhyddhad - Release Ers ei sefydlu - Since it was founded Cŵn tywys - Guide dogs Cyfaddef - To admit SIOE FRECWAST A canu o fathau gwahanol sydd yn y tri clip nesa yn ogystal. Mae Rhys Edwards yn enwog fel canwr a gitarydd y band Fleur de Lys o Ynys Môn. Ond mae Rhys yn athro mewn ysgol gynradd ar yr ynys hefyd. Beth mae’r plant yn feddwl o’i ganeuon tybed? Yn dueddol i - Tend to Disgyblion - Pupils Datgan barn - To state an opinion Ystyried fy nheimladau - Consider my feelings Maddau - To forgive Arwydd - Sign DEI TOMOS Band tipyn hŷn na Fleur de Lys oedd yn cael sylw gan Dei Tomos wythnos diwetha sef Hergest, oedd yn dathlu 50 mlynedd ers iddyn nhw gyfarfod am y tro cynta. Ar Awst 31 1971 daeth pedwar cerddor – Derec Brown, Delwyn Sion, Geraint Davies, ag Elgan Phillip at ei gilydd i greu sŵn go arbennig gyda chaneuon fel Dinas Dinlle a Harbwr Aberteifi. Dyma i chi hanes ffurfio’r grŵp gan y bechgyn eu hunain… Cyfarfyddiad - Meeting Cyd-ddigwyddiad rhyfeddol - An amazing coincidence Gor-ddweud - To exaggerate Gwobr - Prize Yn grac iawn - Very angry Cael llwyfan - Perfforming on the main stage – Eisteddfod’s final round Sylweddoli - To realise Arwyr - Heroes Dylanwad - Influence Diflasu - To bore BORE COTHI Math gwahanol o ganu nawr – canu operatig. Patrick Young ydy Cyfarwyddwr Cerdd OPRA Cymru a fe enillodd Gwobr Glanville Jones eleni, sef gwobr am gyfraniad arbennig i gerddoriaeth Cymru. Mae OPRA Cymru yn mynd â byd yr opera i gymunedau ar hyd a lled y wlad ac mae’n gwneud llawer o waith gyda phobl ifanc. Sut dechreuodd diddordeb Patrick mewn opera felly? Dyma fe’n dweud yr hanes wrth Shan Cothi... Cyfarwyddwr Cerdd - Musical Director Cerddorfeydd - Orchestras Gwerthfawrogi - To appreciate Caeredin - Edinburgh Enfawr - Huge Datblygu - To develop Ysbrydoli - To inspire Tinc - Tone Anhygoel - Incredible Agwedd - Attitude
9/10/202116 minutes, 55 seconds
Episode Artwork

Pigion y Dysgwyr 27ain Awst 2021

S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …” DROS GINIO Oeddech chi’n gwybod mai sefyll ar ddarn o blastig a phadlo llynoedd a moroedd Cymru ydy’r peth i’w wneud yn 2021? Padlfyrddio ydy’r gweithgaredd poblogaidd yma ac Elliw Gwawr gafodd sgwrs gyda Carwyn Humphries am hyn ar Dros Ginio Padlfyrddio - Paddle boarding Buddsoddi - To invest Ansawdd - Quality Hyfforddwyr - Trainers Gorbryder - Anxiety Gweithgaredd corfforol - Physical activity Megis - Such as Elfennau diogelwch - Safety elements Tennyn - Leash Gohirio - To postpone SIOE FRECWAST Carwyn Humphries oedd hwnna’n sôn am badlfyrddio ar Dros Ginio. Y gantores Elin Parisa Fulardi, sydd hefyd yn perfformio fel El Parisa, oedd gwestai Shelley a Rhydian ar y Sioe Sadwrn dros y penwythnos a dyma hi’n sôn am sut dechreuodd hi berfformio pan oedd hi’n ifanc iawn… Mo’yn - Eisiau Cerdd dant - A form of singing with the harp Alaw werin - Folk melody Pabell - Tent Profiad - Experience Colli - To miss BORE COTHI Eisteddfodau lleol wedi helpu Elin Parisa Fulardi ddechrau perfformio fel sawl artist Cymraeg arall, da on’d ife? Leisa Mererid oedd yn ateb cwestiynau “beth yw’r haf i mi” ar Bore Cothi a chlywon ni sut mae ei diddordeb hi mewn ioga wedi rhoi syniad iddi am greu adnoddau Cymraeg ar gyfer ysgolion cynradd… Adnoddau - Resources Un ai - Either O fath yn y byd - Of any kind Gwerthoedd - Values Lles a budd - Welfare and well-being Y byd sydd ohoni - The world as it is Llonyddwch - Tranquility Dilyniant - Sequence Adnewyddu - To renew Treulio - To digest GWLEDYDD Y GAN Leisa Mererid oedd honna’n sôn wrth Shan Cothi am yr adnoddau arbennig mae hi wedi eu creu ar gyfer ysgolion cynradd. Beth dych chi’n wybod am Helsingfors, neu ddinas Vasa? Dych chi wedi clywed iaith Meankieli erioed neu glywed canu Yoik? Cewch wybod popeth am y rhain, a mwy, gyda Gwilym Bowen Rhys yn ei raglen Gwledydd y Gân. Yn y clip nesa mae o’n dysgu ychydig am yr iaith Ffineg. Ffineg - Finnish Ystyr - Meaning Enghraifft - Example Tybed - I wonder HUNAN HYDER Da iawn Gwilym am lwyddo i ynganu’r gair anferth yna - well i mi beidio a thrio dw i’n meddwl…Nesa dyma i chi Gerallt Jones o’r cwmni Hyfforddi Grymus yn esbonio sut mae’r gweithgareddau mae e’n eu cynnal gyda phobl ifanc yn helpu gyda’u problemau iechyd meddwl ac yn eu helpu fe hefyd… Maes - Field Allanol - Outdoors Hwylfyrddio - Sailboarding Trafferth - Difficulty Meddyliol - Mental BETI GEORGE Gerallt Jones oedd hwnna’n sôn am sut mae e’n helpu pobl ifanc gyda’u hunan hyder. Buodd Hazel Charles Evans farw yn ystod yr wythnosau diwetha a chafon ni gyfle arall i glywed sgwrs Beti George gyda Hazel yr athrawes, awdures ac un o ffrindiau mawr y Gymraeg. Roedd parch mawr i Hazel am ei gwaith yng Ngymru ac hefyd ym Mhatagonia. Ond fel cawn ni glywed yn y clip nesa, doedd dim dechreuad da iawn i’w gyrfa academaidd hi… Esgusodion - Excuses Eilradd - Secondary O (fy) nghorun i’m sawdl - From head to toe Sefyll arholiad - To sit an exam Creulon - Cruel Pigyrnau - Ankles Seisnigaidd - English (nature) Sosban - Person o Lanelli Cymreigaidd - Welsh (nature)
8/27/202113 minutes, 54 seconds
Episode Artwork

Pigion y Dysgwyr 20fed Awst 2021

S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … COFIO Mae llawer mwy o bobl yn dewis cael gwyliau yng Nghymru eleni a gwyliau oedd them ‘Cofio’ wythnos diwetha. Yn y clip nesa mae T Glynne Davies yn holi Mrs Hannah Jones fuodd yn cadw gwesty yn y Rhyl am dros bedwar deg o flynyddoedd... Rhyfel - War Dogni - Rations Gwerthfawrogi - To appreciate Enwogion - Celebraties Digri - Funny Tynnu wynebau - Pulling faces Maldodi - To pamper POD DYSGWYR Dipyn o hanes Morecambe and Wise a Tony the Wonder Horse yn aros yn y Rhyl yn fan’na ar Cofio. Mae Nick Yeo, dyn ifanc o Gaerdydd wedi dechrau podlediad o’r enw Sgwrsio ar gyfer y rhai sy’n dysgu – ac sy’n rhugl yn y Gymraeg. Hannah Hopwood, oedd yn cyflwyno Bore Cothi, a hi gafodd “sgwrs” gyda Nick… Creu - To create Bodoli - To exist Anffurfiol - Informal Rhithiol - Virtual AmGen - Alternative Profad arbennig - A special experience GARMON RHYS Ie, cofiwch droi mewn i‘r podlediad ‘Sgwrsio’ pan gewch chi gyfle. Mae Garmon Rhys wedi cael rhan yn y sioe Tina – sioe gerdd am fywyd yr anhygoel Tina Turner. Dyma fe’n sôn am y profiad o gymryd rhan yn Tina gyda Caryl a Huw ar y Sioe Frecwast Sioe gerdd - Musical Llwyfannu - To stage Newid wedd - Transformation Ailagor - To reopen Anhygoel - Incredible Am wn i - I suppose Llwgu - To starve Ailymweld - To revisit Cyn hired - So long Celfyddydau - Arts GWNEUD BYWYD YN HAWS Mae hi’n swnio’n sioe gyffrous iawn on’d yw hi? Ar Gwneud Bywyd yn Haws nos Fawrth buodd Hanna Hopwood yn holi Sian Files am ei phrofiadau fel aelod o'r 'sandwich generation'. Sut mae jyglo bod yn riant, cael gyrfa a gofalu am aelodau hŷn o’r teulu? Dyma Sian yn esbonio sut mae dechrau'r cyfrif Instragam Mamgu Mamgu wedi gwneud bywyd yn haws iddi hi… Cyfrif - Account Sawl rhaglen - Several programmes Gofalu am - To care for Sylweddolais i - I realised Bachu ar y cyfle - Grasped the chance Cofnodi - To record Talu sylw - To pay attention RICHARD HOLT Sian Files oedd honna’n sôn am ei chyfrif Instragram Mamgu Mamgu. Weloch chi’r gyfres Richard Holt a’i Felyn Felys ar S4C? Os weloch chi h, byddwch yn gwybod bod Richard yn gogydd patisserie gwych iawn. Nawr mae e wedi agor bwyty bwyd melys mewn melin wynt ar Ynys Môn ac fel clywodd Nia Griffiths mae ei fenter newydd yn un sy’n cael dipyn o sylw ar yr ynys… Cyfres - Series Melin wynt - Windmill Dw i’m be - I don’t know what Cynhyrchu - To produce Erioed wedi gweld - Never seen Nod - Aim Blawd - Flour Gwenith - Wheat Malu - To grind MARED WILLIAMS A phob lwc i Rich Holt gyda’i fenter newydd on’d ife? Mae’r gantores Mared Williams wedi perfformio ar sawl llwyfan yng Nghymru dros y blynyddoedd ac wedi perfformio yn y West End fel un o gast Les Miserable. Clywodd hi’r wythnos diwetha bod ei halbwm Cymraeg cynta wedi ennill gwobr Albym Cymraeg y Flwyddyn eleni. Ifan Davies a Sian Eleri wnaeth longyfarch Mared a gofyn iddi sut oedd hi’n teimlo ar ôl clywed y newyddion. Dyma i chi sut wnaeth hi ymateb… Coelio - Credu Cyfrinach - Secret Rhannu - To share Rhestr fer - Shortlist Yn freintiedig - Privileged Haeddu - To deserve Golygu - To mean Beirniaid - Judges Aeddfedrwydd - Maturity Coroni - To crown
8/20/202115 minutes, 58 seconds
Episode Artwork

Pigion y Dysgwyr 13eg Awst 2021

S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … CRWYDRO'R CAMBRIA Yn y gyfres newydd, Crwydro’r Cambria, mae Ioan Lord a Dafydd Morris Jones yn mynd â ni ar daith i ganol mynyddoedd y Cambria gan ddechrau yn y clip yma gyda phentref bach Ponterwyd yng Ngheredigion… Cyfres - Series Arwydd - A sign Eithriadol - Exceptional Yn ddiweddar - Recently Canolbarth Lloegr - The Midlands Gwythïen - Vein Hewl (Heol) - Ffordd Pellennig - Remote Twr o bobl - A crowd of people RHYS PATCHELL Cofiwch , tasech chi eisiau clywed pob rhaglen yn y gyfres honno ewch i wefan BBC Sounds. Mae cyflwynydd newydd ar Radio Cymru bob bore Sadwrn – y chwaraewr rygbi rhyngwladol Rhys Patchel, a chwarae teg iddo, roedd atebion da gyda fe i gwestiynau digon anodd gan ddwy ferch fach Cyflwynydd - Presenter Chwaraewr rygbi rhyngwladol - International rugby player Arbenigedd - Expertise Diflasu ar - To become bored of Cymhlethu - To complicate Pyst - Posts Llinell ddychmygol - Imaginary line Bant â ni - Ffwrdd â ni Taro - To hit AR Y MARC Siocled a fajitas – deiet da i chwaraewr rygbi rhyngwladol Dwy ferch fach a Catrin Heledd yn ein helpu ni ddod i nabod Rhys Patchell yn well yn fan’na. Newid siâp y bêl nawr a chlip bach am bêl-droed. Mae sawl clwb bach wedi cael amser anodd iawn yn ystod cyfnod Covid felly roedd hi’n braf clywed sôn am glwb newydd yn cael ei ffurfio ym mhentref Llechryd yng Ngheredigion. Cai Emlyn oedd un o westeion Dylan Jones ar Ar y Marc yr wythnos yma a dyma fe’n sôn am y clwb newydd... Digon dewr - Brave enough Ymysg - Amongst Y Gynghrair - The league Rhyfeddol - Amazing Adnabyddus - Enwog Ieuenctid - Youth Hen bennau - Old heads Offer - Equipment Caniatâd - Permission Noddwyr - Sponsors MIRAIN IWERDYDD A phob lwc i glwb pêl-droed Llechryd on’d ife? Mae Miriain Iwerydd wrth ei bodd gyda chrefftau, felly bob wythnos mae hi’n sgwrsio gyda rhywun sy wedi llwyddo i wneud gyrfa yn y maes. Yr wythnos yma – Elin Angharad oedd ei gwestai. Yn gyfarwydd - Familiar Graddio - To graduate LLedr - Leather Datblygu - To develop Uniongyrchol - Directly Arbrofi - To experiment Gweithdy - Workshop Breuddwyd - A dream Creadigol - Creative Di o’m bwys - Does dim ots LISA ANGHARAD Elin Angharad oedd honna’n sgwrsio gyda Mirain Iwerydd am ei gwaith celf lledr. Weloch chi’r rhaglen ddrama wych The Pact ar BBC 1 yn ddiweddar? Un o’r sêr oedd Heledd Gwynn ac ymunodd hi gyda Lisa Angharad a buodd y ddwy’n sgwrsio am eu gwyliau… Becso - Poeni Noeth - Naked Wastad - Always Crac - Angry Rhyddid - Freedom Unigolyn - Individual Hunllef - Nightmare Cyfrifol - Responsible SEREMONI DYSGWYR Ambell i stori ddifyr am wyliau yn fan’na gan Lisa Angharad a Heledd Gwynn. Ac i gloi – dyma Shan Cothi a Trystan Ellis yn cyhoeddi pwy oedd Dysgwr y Flwyddyn yr Eisteddfod AmGen eleni yng nghwmni Shirley Williams, un o’r beirniaid, a David Thomas yr enillydd Beirniaid - Adjudicators Datgelu - To reveal Gwrach - Witch Hud a lledrith - Magic Braint - An honour Ystyried - To consider Cenhedlaeth goll - Lost generation Ymwybodol - Aware Trawsnewid - To transform Cyfoethogi - To enrich Ehangu fy ngorwelion - Widen my horizons
8/13/202116 minutes, 4 seconds
Episode Artwork

Pigion y Dysgwyr 6ed Awst 2021

S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … Gwneud Bywyd Yn Haws Mae llawer ohonon ni wedi gorfod newid ein cynlluniau gwyliau dros cyfnod Covid, ond gwnaeth penderfyniad Carys Mai Hughes i ymestyn ei gwyliau cyn yr ail gyfnod clo newid ei bywyd hi am byth, fel clywon ni ar Gwneud Bywyd Yn Haws… Ymestyn - To extend Yr ail gyfnod clo - The second lockdown Sa i’n mynd gartref - Dw i ddim yn mynd adre Sa i’n beio ti - I don’t blame you Swistir - Switzerland Bore Cothi Mae teithio o gwmpas Ewrop mewn campervan wedi gwneud bywyd yn dipyn haws i Carys on’d yw e? Shelley Rees oedd yn cyflwyno Bore Cothi ddiwedd wythnos diwetha a chafodd hi gwmni’r actores Rhian Cadwaladr. Actores ie, ond hefyd mae hi’n awdur, yn ffotograffydd ac fel cawn ni glywed yn y clip nesa, mae hi’n dipyn o gogyddes hefyd ac wedi ennill gwobr gan neb llai na Nigella Lawson… Lawrlwytho - To download Pobyddion - Bakers Llachar - Bright Cyfrif - Account Gradd - Degree Ieithoedd Canol Oesoedd - Middle Age Languages Troi’r Tir Wel, llongyfarchiadau mawr i Rhian ond hefyd i Nigella am ddefnyddio’r Gymraeg. Mae merched o ardal Cynwyl Elfed yn Sir Gaerfyrddin wedi trefnu taith tractors i godi arian tuag at uned Cemotherapi Ysbyty Glangwili ger Caerfyrddin. Roedd dynion yn cael cymryd rhan hefyd ond ar un amod, fel cawn ni glywed! Dyma i chi rai o’r merched, a’r dynion, yn sôn am y daith… Amod - Condition Disgleirio - Shining Yn flynyddol - Annually Elusennau - Charities Yn dost - Yn sâl Cymuned - Community Gwerthfawrogiad - Appreciation Cydweithio - Cooperating Mas - Allan Silwair - Silage Ifan Evans Amy Evans, Mared Powell, Malcolm Evans a Michelle Evans oedd y rheina yn sôn am daith tractors Cynwyl Elfed. Tybed oedd Malcolm wedi gwisgo fel merch ar gyfer y daith? Roedd Mared yn y clip yna yn sôn ei bod yn dod o Lampumpsaint yn Sir Gaerfyrddin. Ac o Lanpumpsaint mae Alun Rees yn dod yn wreiddiol hefyd, ond erbyn hyn mae o’n byw yn Nashville, ac yn gweithio ar raglen deledu yno. Cafodd Ifan Evans sgwrs gydag Alun a dyma i chi flas ar y sgwrs… Trydanwr - Electrician Cyfryngau - Media Crwt - Bachgen Hyfforddi - To coach Ar yr hewl (heol) - On the road Offer - Equipment Goleuni - Lights Lleoliad - Location Cofio Hanes Alun Rees sy’n byw yn Nashville oedd hwnna ar raglen Ifan Evans. Cyd-ddigwyddiadau oedd thema Cofio’r wythnos diwetha a dyma i chi glip o Aled Richard yn sôn wrth Shan Cothi am rywbeth rhyfedd iawn ddigwyddodd iddo fe … Cyd-ddigwyddiadau - Coincidences Arddegau - Teenage years Hyd y gwyddwn i - As far as I knew Dros Ginio Wel ie, ‘sbŵci’ iawn on’d ife? Dw i’n siŵr bod llawer mwy ohonon ni wedi treulio gwyliau’r haf yma ar lan y môr yng Nghymru yn hytrach na mynd dramor oherwydd Covid. A does unman gwell, nac oes, ond i ni gael y tywydd! Ar Dros Ginio ddydd Mawrth diwetha cafodd Jennifer Jones gwmni’r syrffiwr, nofiwr gwyllt a’r amgylcheddwr Laura Truelove i sôn am pa mor arbennig ydy’r môr iddi hi’n bersonol… Amgylcheddwr - Environmentalist Arfordir - Coast Yn rheolaidd - Regularly Deniadol - Attractive Atynfa - Attraction Dianc - To escape Cyngor - Advice Iselder - Depression Methu ymdopi - Unable to cope Rhagnodi - To prescribe Ïonau - Ions
8/6/202114 minutes, 23 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr 30ain o Orffennaf 2021

S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … LISA ANGHARAD Dych chi wedi bod ar wyliau y tu allan i Gymru a chlywed pobl yn siarad Cymraeg? Yn ôl cyflwynydd y rhaglen deledu Cynefin, Sion Thomas Owen, mae hyn yn digwydd iddo fe bob tro mae’n mynd i ffwrdd. Fe oedd gwestai Lisa Angharad fore Gwener ar RC2, a dyma i chi ychydig o’r hanesion rannodd e am ei wyliau.... Cyflwynydd Presenter Mam-gu Nain Mo’yn Eisiau Cnoi Brathu Anghyfarwydd Unfamiliar CARYL AC ALUN Sion Thomas Owen oedd hwnna’n sôn am ddod ar draws pobl o Gymru ar ei wyliau. Cyflwynydd newydd Sioe Frecwast Bore Sul ar RC2, Miriain Iwerydd, oedd gwestai arbennig Caryl ac Alun yr wythnos yma. Mae’n debyg bod Mirain yn hoff iawn o fisgedi a dyma hi’n dewis ei hoff rai... Mae’n debyg Apparently STIWDIO Dych chi’n cytuno gyda dewis Mirain? Mae’n rhaid dweud bod y bisged siocled tywyll yn swnio’n hyfryd! Mae Oriel Môn, oriel gelf ger Llangefni ar Ynys Môn, yn 30 oed eleni ac i nodi’r penblwydd hwnnw cafodd Nia Roberts sgwrs gydag artist o Fôn, Iwan Gwyn Parry, ar Stiwdio nos Lun. Cafodd yr oriel ei hagor yn wreiddiol er mwyn dangos gwaith yr artist bywyd gwyllt Charles Tunnicliffe, ac mae Iwan yn cofio gweld Tunnicliffe wrth ei waith pan oedd Iwan yn blentyn bach. Pa effaith cafodd hynny ar ei yrfa fel artist tybed...? Oriel gelf Art gallery Cyffredin Common Ymwybodol Aware Dylanwad Influence Trobwynt Turning point Isymwybod Sub-conscious Efelychu To emulate Esblygu To evolve Unigryw Unique Ewyllys Will Cenhedlaeth Generation MOEL Mae Iwan Gwyn Parri wir yn gobeithio bydd e’n berchen ar y darlun hwnnw rywdro on’d yw e? Mae gan Aled Hughes bodlediad gwych o’r enw Moel sy’n trafod pob math o bynciau gwahanol - a’r tro hwn, Ffilmiau Mawr Hollywood oedd yn cael sylw ac yn y clip hwn mae’n trafod ‘Gone with The Wind’... Moel Bald Oedi To delay Dal allan Caught out Heb ‘di Ddim wedi Anhygoel Incredible Ail-adeiladu To rebuild Enfawr Huge Y meddylfryd Mentality SARA GIBSON Ac o bodlediad ‘Moel’ i glip sy’n sôn am steiliau gwallt. Sara Gibson oedd yn cyflwyno rhaglen Aled ar Radio Cymru wythnos diwetha a chafodd hi air gyda’r barbwr Jason Parry o Gaernarfon am ddylanwad pêl-droedwyr ar ffasiwn gwallt dynion. Enghraifft Example Yn gyffredinol Generally Ers talwm In the past Poblogaidd Popular Be ddiawl...? What on earth...? SIOE FAWR SHAN Ie, diddorol on’d ife - dw i’n siŵr eich bod yn cofio i lawer o blant ifanc Cymru liwio eu gwalltiau yn wyn er mwyn efelychu Aaron Ramsey pan oedd yn chwarae i Gymru yn Euros 2016. Roedd y Sioe Fawr, neu’r Sioe Frenhinol, ar ffurf wahanol eleni – ac er nad oedd posib mynd i Lanelwedd i fwynhau’r Sioe, roedd digon o adloniant amaethyddol yn digwydd, ac yn cael ei rannu ar Radio Cymru. A dyw’r sioe ddim yn sioe heb Shan Cothi nac yw? Dyma ran o sgwrs Shan gyda Melanie Owen am… beth arall… ond ceffylau!! Y Sioe Frenhinol The Royal (Welsh) Show Amaethyddol Agricultural Tanio diddordeb To spark an interest Tanllyd Fiery Ymddiried ynddyn nhw Trust in them Hyblyg Flexible Y sylw The attention Pencampwriaethau Championships Pedoli To shoe Berwedig Boiling Prydferth Beautiful
7/30/202116 minutes, 5 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr 23ain o Orffennaf 2021

S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …” Sioe Frecwast Caryl a Huw Mae Caryl Parry Jones a Huw Stephens yn cyflwyno’r sioe frecwast bob bore ar RC2 – a does dim byd gwell nac oes yna, na dechra’r bore gyda llond trol o chwerthin. A dyna’n union ddigwyddodd wythnos diwetha wrth i’r criw ymarfer eu hacenion Americanaidd… Cyflwyno Presenting LLond troll o chwerthin A barrel load of laughs Acenion Accents Sylwi To notice Albanaidd Scotttish Bore Cothi Da, ond pwy sy’n dweud Kipper Tie y dyddiau hyn tybed? Mae Shan Cothi yn lico ei bwyd! Mae hi’n caru bwyta a siarad am fwyd, a’r wythnos yma cafodd hi gwmni Lisa Fearn ar ei rhaglen i sôn am ‘smwddis’… Daioni Goodness Maeth Nutrition Chwalu To shatter Llyfn Smooth Ansawdd Texture Cymhleth Complicated Mwyar Berries Di-siwgr Sugar free Ysbigoglys Spinach Y rhwydda yr hawdda Clip Troi’r Tir Lisa Fearn yn fan’na dweud bod mefus yn un o’r cynhwysion mwya poblogiadd yn y smwddis a mefus oedd ar fwydlen Terwyn Davies a chriw Troi’r Tir – wel, wedi’r cyfan mae Wimbledon newydd ddod i ben! Tipyn o sylw A bit of attention Pencampwriaeth Championship Trigolion Residents Cyfryngau cymdeithasol Social media Cefdir blaenorol Previous background Datblygu To develop Croesffordd Crossroad Fesul pwysau According to weight Cofio Bwyd a Diod A dw i’n siwr gwnaeth Shan fwynhau Cofio yr wthnos yma – achos y pwnc oedd… Bwyd a Diod. Tybed ai bwyd iach fydd yn cael sylw’r rhaglen yma yn ogystal? Er gwaetha In spite of Pob ymdrech Every attempt Mymryn o lonydd A little peace and quiet Am wn i As far as I know Cyffwrdd To touch Clip Cerddwr Cudd Ie, mae bwydo plant yn gallu bod yn her weithiau on’d yw e? Ble roedd Cerddwr Cudd Catrin Angharad yr wythnos yma? Dyma hi’n ein hatgoffa ni o’r cliws cyn datgelu’r lleoliad… Datgelu To reveal Cerddwr cudd Secret walker Her Challenge Golygu To mean Dyfalu To guess Digon o ryfeddod Wonderful Coelio Credu Llamidyddion Porpoises Prin Rare Denu To attract Clip Geraint Lloyd Leah a Sïan Mae Pen Llŷn yn swnio’n lle gwych i fod ynddo fe yn ystod gwyliau’r haf on’d yw e? Mae Sïan Eluned yn ferch ysgol o’r Felinheli ger Caernarfon ac mae hi’n cystadlu mewn sioeau harddwch – ond dim rhai cyffredin, fel eglurodd ei mam, Leah, wrth Geraint Lloyd Harddwch Beauty Cymuned Community Elusennau Charities Yn gyfarwydd â Familiar with Colur Make up Gwirfoddol Voluntary
7/23/202114 minutes, 17 seconds
Episode Artwork

Pigion y Dysgwyr 16eg Gorffennaf 2021

S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … DROS GINIO Dros yr wythnosau diwetha ar Dros Ginio mae Gwenfair Griffiths wedi bod yn holi rhai o newyddiadurwyr Cymru am eu Stori Fawr nhw... Betsan Powys oedd yn cael ei holi y tro diwetha a buodd hi’n sôn am sut oedd hi’n teimlo fel gohebydd ifanc yn Bosnia yn ystod y rhyfel oedd yno yn y 90au. Gohebydd - Correspondent Rhyfel - War Sbïo - Edrych Darbwyllo - To convince Cyflawni - To achieve Y fyddin - The army Anghyfarwydd - Unfamiliar Cydbwyso - Balancing Dychrynllyd - Terrifying Ergyd - A shot STIWDIO Lleisiau Betsan Powys a rhai o’r milwyr fuodd yn ymladd yn Bosnia yn fan’na. Ar Stiwdio nos Lun, cafodd Nia Roberts gwmni’r Athro Menna Elfyn i drafod cyfrol mae Menna newydd ei golygu o’r enw “Cyfrinachau – Eluned Phillips”. Roedd Eluned yn fenyw ddiddorol iawn , roedd hi wedi teithio’r byd a dod yn ffrindiau gydag enwogion fel Picasso ac Edith Piaf. Roedd hi’n fardd ac yn awdur. Enillodd hi goron yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith y tro cynta yn 1967 ac wedyn yn 1983. Roedd hi wedi sgwennu nofel hunangofiannol ond wnaeth hi mo’i chyhoeddi. Dyma Menna’n egluro pam..... Athro - Professor Cyfrol - A volume Enwogion - Famous people Hunangofiannol - Autobiographical Dagrau pethau - The sadness of it Amheuon - Suspicions Sïon - Rumours Mewn gwirionedd - In reality SHAN COTHI Ychydig bach o hanes y fenyw ryfeddol Eluned Phillips yn fan’na gan Menna Elfyn. Pa ffilmiau sy’n gwneud i chi eisiau mynd ar wyliau? Buodd Dorien Morgan yn siarad gyda Shân Cothi am ffilmiau hafaidd, ac am wylio ffilmiau o’r car mewn ‘drive through’... Y fenyw ryfeddol - The amazing woman Dala lan - To catch up Sa i’n dreifio - Dw i ddim yn gyrru Simsan - Unsteady Crybwyll - To mention Cwympo - Syrthio Efrog Newydd - New York Cludo - To transport Cymeriadau - Characters Dylanwadu - To influence TROI’R TIR A sôn am wyliau, sut fasech chi’n licio gwyliau mewn pod glampio? Mae Joyce Jenkins yn byw ar fferm ym Mlaenplwyf yng Ngheredigion ac mae hi wedi dechrau busnes gosod podiau glampio ar y fferm gyda’i merch yn nghyfraith Gwenan Jenkins. Dyma hanes y fferm a’r menter newydd. Gosod - To rent out Menter - Venture Darn o dir - Piece of land Clawdd - Wall Golygfa - Scenery Mo’yn - Eisiau Unigryw - Unique Canu gwlad - Country & Western ALED HUGHES ...a phob lwc i’r ddwy yn eu menter newydd ond’ife? Mae Michael Davies Hughes yn dod o Gricieth yn wreiddiol ond mae e ‘n byw yn Eureka, gogledd Califfornia erbyn hyn. Mae e newydd gwblhau y ras seiclo anodda yn y byd sef y Ras Ar Draws America. Mae hi’n ras dros 3 mil o filltiroedd, ar hyd 12 talaith wahanol, dros 175 mil o droedfeddi o ddringo, a hynny i gyd yn digwydd mewn 12 diwrnod… Waw Cwblhau - To complete Talaith - State Troedfeddi - Feet (measurement) Seibiant - A respite Corfforol - Physical Gwthio - To push Ddaru - Wnaeth Twll dan grisiau - Cwtsh dan stâr Anialwch - Desert GERAINT LLOYD Roedd hynny’n dipyn o gamp gan Micheal on’d oedd? I Arberth yn Sir Benfro aeth Geraint Lloyd wythnos diwetha i gael sgwrs am yr ardal gyda Dysgwr y Flwyddyn y llynedd, Jazz Langdon. Dyma i flas ar y sgwrs… Dipyn o gamp - Quite an achievement Ar bwys - Wrth ymyl Amgueddfa - Museum Yn gyffedinol - Generally Yn beodol - Specifically Terfysgoedd Beca - The Rebecca Riots
7/16/202115 minutes, 54 seconds
Episode Artwork

Pigion y Dysgwyr 9fed Gorffennaf 2020

S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …” SIOE FRECWAST …Un o gyflwynwyr gorau Cymru, Heledd Cynwa,l oedd gwestai Cocadwdl Caryl Parry Jones a Geraint Hardy yr wythnos ‘ma a dyma hi’n ateb cwestiwn am wyliau tramor… Cyflwynwyr - Presenters Prydfertha - The most beautiful Digon teg - Fair enough Mwya trawiadol - Most striking Tempro - To air O’r cyfryw wely - From the said bed Nefoedd - Heaven Oglau’n neis - Smelling nice DANIEL GLYN Pawb yn y stiwdio yn fan’na yn hiraethu am wyliau tramor, ond tybed fyddwn ni’n defnyddio arian digidol i dalu am ein gwyliau yn y dyfodol? Dych chi’n deall yn iawn beth yw arian crypto? Na? Doedd Dan Glyn ddim yn gwbod rhyw lawer chwaith, ond yn ffodus roedd ei westai, Euros Evans, yn gwybod y cyfan Dylsa fi - Dylwn i Pres - Arian Ffydd - Faith Cynhyrchu - To produce Arian parod - Cash Cyfalafiaeth - Capitalism Cyfnod go ddrwg - Quite a bad period LISA GWILYM Wel dyna ni felly, mater o ffydd ydy’r arain crypto, ond cofiwch bod gwerth yr arian yma’n medru mynd i fyny neu mynd i lawr. Mae sawl swydd ddiddorol wedi bod gan y gyflwynrwaig Amanda Prothero Thomas, fel clywodd Lisa Gwilym ar ei rhaglen fore Sul Trwydded - Licence Delfrydol - Ideal Euraidd - Golden Anhygoel - Incredible SHAN COTHI A dyna hanes swydd ddiddorol Amanda Prothero Thomas yn Ynysoedd Cayman yn y Caribî. Roedd Bob Marley – sy’n enwog am ei fiwsig reggae- yn dod o ynysoedd y Caribî ac mae Morgan Elwy yn ffan mawr o’i waith. Enillodd Morgan gystadleuaeth Can i Gymru eleni gyda’i gân reggae Bach o Hwne a soniodd Morgan wrth Shan Cothi am ddylanwad cerddoriaeth Bob Marley ac eraill ar ei fywyd ... Dylanwad - Influence Wastad - Always Clod - Praise Dau ddegawd - Two decades Ysbrydoliaeth - Inspiration O safon - Of quality BETI GEORGE Ac awn ni o ynysoedd y Caribî, cartref reggae, i Ynys Môn cartref Llinos Medi Huws . Hi yw Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn - un o arweinwyr cyngor ifancaf Prydain a hi oedd gwestai Beti George wythnos diwetha. Gofynnodd Beti iddi pam aeth hi i’r byd gwleidyddol yn y lle cynta …. Y byd gwleidyddol - The political world Dim bwriad o gwbl - No intention at all Rhai unigolion - Some individuals Aelod Cynulliad - Assembly Memeber Trïo dwyn perswâd arna i - Trying to persuade me Hybu - To encourage Difaru - To regret Cyngor - Advice Pleidleisio - To vote Es i o’i chwmpas hi - I went about it DEI TOMOS Llinos Medi Huws oedd honna, Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn - Mam Cymru. Ac roedd Catrin o Ferain yn cael ei galw’n Fam Cymru yn ogystal achos bod ganddi deulu mor fawr. Mae llun enwog o Catrin yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, llun ohoni gyda’i llaw yn gorwedd ar benglog. Clywon ni ychydig o hanes y llun yma mewn sgwrs rhwng Dei Tomos a Helen Williams Ellis o Lasfryn ger Pwllheli. Dyma i chi flas ar y sgwrs... Penglog - Skull Wedi hudo - Had lured Unswydd - Of one purpose Datgelu - To reveal Ym meddiant - In the possession of Amgueddfa - Museum Yn gyfarwydd â - Familiar with Gwys - Summons
7/9/202113 minutes, 55 seconds
Episode Artwork

Pigion y Dysgwyr 2il Gorffennaf 2021

S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … GERAINT LLOYD …mae Angharad Jones wedi llwyddo i ddysgu Cymraeg i safon uchel iawn mewn dim ond naw mis. Dyma hi’n dweud wrth Geraint Lloyd pam aeth hi ati i ddysgu’r iaith… Safon - Standard Anghredadwy - Unbelievable Ysbrydoliaeth - Inspiration Yn falch - Proud Is-deitlau - Subtitles Cyfnod Allweddol - Key Stage Drysau - Doors Diwylliant - Culture Cyfrifol - Responsible Trosglwyddo’r iaith - Transferring the language Y genedlaeth nesaf - The next generation CATRIN ANGHARAD Angharad Jones oedd honna, ac mae hi wedi gwneud yn wych i ddysgu Cymraeg mewn cyn lleied o amser on’d yw hi? Mae Catrin Angharad yn ôl ar Radio Cymru ar b’nawniau Sadwrn, ac yn ei rhaglen bydd hi’n rhoi cliwiau i’r gwrandawyr ddyfalu ble mae’r ‘cerddwr cudd’ am fynd am dro. Y tir chliw dydd Sadwrn oedd traeth, Brynach, a storm. Nawr ‘te mae Sant Brynach gyda chysylltiad ag ardal Trefdraeth yn Sir Benfro, tybed ydy hwnnw’n gliw da, a thybed pwy oedd y cerddwr cudd? Cerddwr cudd - Secret Walker Dyfalu - To guess Yn wirioneddol - Truly Rhaid i mi gyfaddef - I must admit (Nid) nepell - Ddim yn bell Tewhau - To fatten Mas o dymor - Out of season Hamddenol - Leisurely Mewn dyfynodau - In quotation marks TRYSTAN AC EMMA Catrin Angharad oedd honna’n siarad gyda’r cerddwr cudd, ac on’d yw hi’n drueni mawr mai dim ond un siaradwr Cymraeg sy’n byw yn y pentre bach hyfryd hwnnw erbyn hyn? Dych chi’n yrrwr da a gofalus? Byddwch yn onest nawr! Wel, cafodd Trystan ac Emma air gyda’r hyfforddwr gyrru Iwan Williams i glywed pa mor dda ydy pobl Cymru gyda’i sgiliau gyrru… Llawlyfr - Handbook Hanfodol - Essential Cadw rheolaeth - Keeping control Derbyniol - Acceptable Gaethon nhw wared ar - They got rid of Cyflwyno - To introduce LISA ANGHARAD Wel mae’r prawf gyrru wedi newid dros y blynyddoedd on’d yw e? Lisa Angharad oedd yn cyflwyno y Sioe Sadwrn yr wythnos hon a gofynnodd Trystan ab Owen iddi hi am ei diddordeb mewn planhigion, achos roedd gyda fe stori FAWR i’w dweud am brynu planhigion... Cyn lleied - So little Yn gyffredinol - Generally ALED HUGHES Wel yn wir, mae mwy o arian nag o synnwyr cyffredin gydag ambell un on’d oes? Pan oedd Aled Hughes a Gav Murphy yn eu harddegau roedden nhw wrth eu boddau gyda gemau fideo. Buodd y ddau’n cael hwyl yn trafod gemau fideo retro yr 80 au a’r 90au ar raglen Aled, a dyma i chi eu barn ar un o gemau’r 80au – y Pac-Man O’ch chi heb weld - You hadn’t seen STIWDIO Dydy Aled a Gav ddim yn ffans mawr o Pac-man felly! Yr wythnos yma ar Stwidio buodd Nia Roberts yn trafod ffuglen hanesyddol gyda dau awdur sef Sion Hughes a Myrddin ap Dafydd. Dyma i chi flas ar y sgwrs... Ffuglen hanesyddol - Historical fiction Wastad - Always ‘nhaid - ‘nhad-cu O’n cwmpas ni - Around us Penodau - Chapters Annisgwyl - Unexpected Beth sy’n fy nharo i - What strikes me Yr ymchwil anorfod - The unavoidable research Y chwilota - The searching Cyffwrdd - To touch Y cyffro cychwynnol - The initial excitement
7/2/202115 minutes, 30 seconds
Episode Artwork

Pigion Dysgwyr 25ain Mehefin 2021

S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …” CARYL AG ALUN …wel pêl-droed wrth gwrs! Mae Cymru wedi llwyddo i fynd drwodd i rownd nesa’r Ewros ac mae Carl Roberts yn un o’r bobl lwcus sy wedi bod yn Baku ac yn Rhufain yn sylwebu ar gemau Cymru ar ran Radio Cymru. Cafodd Caryl ac Alun sgwrs gyda fe ar y Sioe Frecwast fore Iau… Sylwebu - Commentating Ychwanegu - To add Syth bin - Straight away Ynganu - To pronounce Awrgylch - Atmosphere Yn drydanol - Electric Yn y cnawd - In the flesh Cymeradwyo - To applause Parchus - Respectful Di-ri - Countless Llifoleuadau - Floodlights MERCHED Y WAL GOCH Dim ond ychydig o ffans Cymru oedd wedi gallu mynd i Baku oherwydd Covid, ond roedd hi dal yn bosib clywed y Wal Goch yn canu drwy gydol y gêm. Mae’r Dr Penny Miles yn un o fenywod y Wal Goch ond dyw hi ddim wastad wedi cael croeso gan rhai o’r cefnogwyr eraill. Penderfynodd hi felly fod angen gwneud gwaith ymchwil i brofiadau menywod sy’n gwylio gemau pêl-droed, fel cawn ni glywed yn y clip nesa ’ma… Drwy gydol - Throughout Menywod - Merched Ymchwil - Research Aelodau - Members Rhannu eu profiadau - Sharing their experiences Yn gyffredinol - Generally Meithrin - To nurture TITWS TAF …a dyn ni’n aros gyda merched a phêl-droed yn y clip nesa. Oeddech chi’n gwybod bod tîm pêl-droed merched yng Nghaerdydd o’r enw Titws Tâf Cymric? Dyma i chi rai o’r chwaraewyr yn dweud eu hanes … Defod - Custom Hogan - Merch Rhanbarthol - Regional Parhau - To continue Gwledig - Rural Hogiau - Bechgyn Genod - Merched Annog - To encourage LISA GWILYM … dyn ni heb orffen eto gyda merched na gyda phêl-droed. Mae Sioned Dafydd yn brysur iawn ar hyn o bryd yn sylwebu ar y pêl-droed ar S4C, ond gaeth hi amser i sôn wrth Lisa Gwilym am ei dydd Sul perffaith , a hynny yn Madrid. Ond wrth gwrs roedd rhaid dod â thimoedd pêl-droed y ddinas mewn i’r sgwrs… Dwlu ar - Mad about Cartrefol - Homely Prif ddinas - Capital city Wrth ystyried - Considering Ffili - Methu Enfawr - Huge Yn amlwg - Obviously Yn gwmws yr un peth - Exactly the same Sa i’n rhugl - Dw i ddim yn rhugl Unioni - To unite ESGUSODWCH FI Nid pêl-droediwr ond chwaraewr rygbi oedd tad y ‘TikToker’ Ellis Lloyd Jones, ac mae’r ffaith honno a’r ffaith bod Ellis yn berfformiwr drag wedi achosi ambell i broblem iddo fe yng nghymoedd y de. Fe oedd gwestai Podlediad Esgusodwch Fi wythnos diwetha a dyma i chi flas ar ei sgwrs… Cymoedd - Valleys Colur - Make-up Yn falch - Pleased FFION EMYR Y Perfformiwr drag TIK Tok, Ellis Lloyd Jones oedd hwnna’n sgwrsio ar Esgudowch Fi. Mae’r gantores Betsan Haf yn briod ag Eleri, a buodd hi’n rhannu ambell i stori am sut wnaeth eu perthynas ddatblygu gyda Ffion Emyr… Cantores - Singer (female) Datblygu - To develop Cwrdd - Cyfarfod Graddio - To graduate Cwympo mewn cariad - To fall in love Trefnu - To organise
6/25/202116 minutes, 32 seconds
Episode Artwork

Pigion y Dysgwyr 18fed Mehefin 2021

S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …” DEWI LLWYD ...pêl-droed wrth gwrs gan fod yr Ewros wedi cychwyn a Chymru wedi dechrau’n dda gyda gêm gyfartal yn erbyn tîm y Swistir. Cyn y gêm honno cafodd Dewi Llwyd air gydag Iwan Roberts cyn i Iwan deithio allan i Baku i weld dwy gêm gynta Cymru... Gêm gyfartal - Drawn game Gohirio - To postpone Pencampwriaeth - Championship Cefnogwyr - Fans Awyrgylch - Atmosphere Cenfigenus - Jealous Dw i’n amau dim - I don’t doubt Crynhoi - To summarise Ymosodwr - Attacker Yn ddyfnach - Deeper SIOE FRECWAST A phob lwc i Gymru yn y gemau nesa on’d ife? Cofiwch mae’n bosib clywed sylwebaeth fyw ar holl gemau Cymru yn yr Ewros ar Radio Cymru. A phêl droed oedd pwnc Ffeithiadur y Sioe Frecwast gyda Caryl, Huw a Hywel Llion fore Llun, a chlywon ni nifer o ffeithiau diddorol iawn am y gêm... Iesgob annwyl! Good grief! Cynhyrchu To produce Fel a gydnabuwyd As acknowledged Iseldiroedd Netherlands Clip Gilian Elisa Mae yna dîm pêl-droed yn y Llanfairpwll enwog hefyd cofiwch! Rhydian Bowen Phillips a Shelley Rees oedd yn cyflwyno yn lle Trytsan ac Emma fore Gwener, a’r actores Gillian Elisa oedd eu gwestai a buodd hi’n sôn am ei phrosiect newydd yn LLundain... Gwmws - Exactly Adeiladol - Constructive Ciniawa - To dine Dan y Wenallt - Under Milk Wood Llwyfannu - To stage Ymarferion - Rehearals DEWR Clywon ni Rhydian Bowen Phillips ar Bodlediad Dewr yn ogystal. Roedd Rhydian yn arfer perfformio gyda’r band Mega a buodd e’n sgwrsio gyda Non o’r band Eden am rai o’r sylwadau negyddol a chas roedden nhw’n derbyn ar gyfryngau cymdeithasol, yn enwedig ar o wefannau cymdeithasol cynta yn Gymraeg – maes-e… Cas - Nasty Cyfryngau cymdeithasol - Social media Canmol - To praise Bodoli - To exist Sylwadau - Comments Canolbwyntio - To concentrate Yn fyw - Live Cynulleidfa - Audience Diflannu - To disappear TRYSTAN AC EMMA Ie , mae’r cyfryngau cymdeithasol yn gallu bod yn lefydd negyddol iawn on’d y’n nhw. Buodd Lowri Cooke yn adolygu’r ffilm newydd Dream Horse ar Bore Cothi a chlywon ni bod gan y ffilm gysylltiadau cryf iawn â Chymru. Rhyfeddol - Amazing Cyfarwydd - Familiar Llwyth - Loads Cyfarwyddwr - Director Trin - To treat Argraff - Impression Urddas - Dignity Nid nepell o - Ddim yn bell o Gorbwysleisio - Overemphasising Difreintiedig - Deprived Ffraeth - Witty LISA GWILYM Arhoswn ni gydag actorion Cymreig – y tro hwn Steffan Rhodri sy’n byw yn Llundain ar hyn o bryd. Beth mae e’n licio wneud ar ei ddydd Sul delfrydol? Rhannodd yr actor ei benwythnos perffaith gydag Ifan Davies oedd yn cyflwyno yn lle Lisa Gwilym Delfrydol - Ideal Cyflwyno - Presenting Amrywio - To vary Ymhellach - Further Traddodiadol - Traditional Arbrofol - Experimental Dylanwadau - Influences Dwyrain Canol - Middle East Môr y Canoldir - Mediterranean Sea Cyfuniad - Combination Dychmygol - Imaginative
6/18/202115 minutes, 12 seconds
Episode Artwork

Pigion y Dysgwyr 11fed Mehefin 2021

S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … BORE COTHI Credwch neu beidio roedd hi’n wythnos dathlu llaeth, neu lefrith, yr wythnos diwetha felly penderfynodd Bore Cothi ofyn i’r cogydd Kit ELlis rannu rhai o’i hoff ryseitiau llaeth – a daeth hi’n amlwg ei bod hi’n ffan mawr o’r stwff gwyn... Yr un fagwraeth - The same upbringing Godro - Milking Cyflawn - Complete Cryfhau - To strengthen Tlodi - Poverty Brasder - Fat Cydbwysedd - Balance Mwy o les - More good Uchafbwynt - Highlight Atgyfodi - To revive TROI'R TIR Mwy o laeth/llefith nawr. Clywodd Troi’r Tir gan ffermwr ifanc o Ynys Môn sydd wedi arallgyfeirio ac yn godro defaid! Beth sy’r tu ôl i’r cynllun hwn tybed? Arallgyfeirio - To diversify Ar fin - About to Ysgytlaeth - Milk shake Addasu - To modify Rhinweddau - Virtues Cynhesu byd eang - Global warming Yn faethol - Nutriciously Egni - Energy Amrwd - Crude Ehangu - To expand TRYSTAN AC EMMA Nid godro pengwiniaid mae Dafydd Wyn Morgan ond casglu unrhywbeth sy’n ymwneud â nhw. Buodd e’n sgwrsio gyda Trystan ac Emma am ei hobi diddorol ac rhywsut trôdd y sgwrs at y band Eden roedd Emma’n rhan ohono ac at eu cân eiconig ‘Paid â bod ofn’... Chwarter canrif - A quarter of a century Casgliad gwreiddiol - The original Yn glou iawn - Yn gyflym iawn Ennill ei chalon hi - To win her heart Mynd mas ‘da fi - Mynd allan efo fi Yn ddiweddarach - More recently Cyffesu - To confess Ffefrynnau - Favourites Yn gyson - Constantly Dychwelyd - Returning ALED HUGHES Basai ‘Paid â bod ofn’ yn gân dda i Angharad Mair ei chlywed cyn iddi fynd ar awyren, gan fod ganddi ofn hedfan. Dyma i chi ran o sgwrs gafodd Angharad gyda pheilot cwmni BA ble roedd hi’n gobeithio cael cyngor ar sut i ymdopi gyda’r ofn mawr yma... Camu mewn - To step in Crynu - Shaking Ystadegau - Statistics Diogel - Safe Mynd o’i le - To go wrong Y gyfrinach - The secret Wrth y llyw - Steering Hediad - Flight ALED HUGHES Cyflwyno rhaglen Aled Hughes oedd Angharad Mair yn fan’na a’r clip hwnna’n dangos yn glir mai’r Gymraeg wrth gwrs ydy’r ateb i wella popeth! Cafodd Caryl a Geraint gwmni Megan Williams, sydd yn cyflwyno’r tywydd, ar eu rhaglen ar RC2 fore dydd Mercher. Ydy hi’n mwynhau’r swydd hon tybed? Canmol To praise Beio To blame Cyflwyno Presenting Clip Bronwen Lewis Gobeithio bydd gan Megan lawer mwy o newyddion da i ni dros yr haf on’d ife? Mae’r gantores Bronwen Lewis wedi bod yn y newddion yn ddiweddar oherwydd llwyddiant ei chaneuon Cymraeg ar Tik Tok. Ond mae hi wedi llwyddo mewn sawl ffordd arall, ar raglen ‘The Voice’ ond hefyd fel actores yn y ffilm ‘Pride’. Dyma i chi flas ar sgwrs gaeth Bronwen gyda Rhydian a Shelley am ei rôl yn y ffilm honno… Ar y gorwel - In the pipeline Fflili - Methu Profiad - Experience Agwedd - Attitude Y byd creadigol - The creative world Ymateb - Response Ysbrydoledig - Inspiring
6/11/202116 minutes, 10 seconds
Episode Artwork

Pigion y Dysgwyr 4ydd Mai 2021

S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … BETI GEORGE Gwestai Beti George wythnos diwetha oedd y newyddiadurwraig o Gonwy, Maxine Hughes sydd erbyn hyn yn gweithio yn Washington DC. Buodd hi’n byw yn Istanbul pan oedd hi’n gweithio i gwmni Newyddion TRT World ac yn 2016 roedd sawl sefyllfa beryglus wedi codi yn y wlad. Be oedd effaith hynny arni hi tybed? … Profiad - Experience Hardd - Pretty Anhygoel - Incredible Darlledwr - Broadcaster Ymosod - To attack Uffernol - Hellish Awyrennau - Aeroplanes GWNEUD BYWYD YN HAWS Roedd hi’n amser cyffrous ond peryglus iawn i Maxine a’i theulu yn Istanbul yn 2016 on’d oedd hi? Mae llawer iawn ohonon ni wedi gorfod hunan ynysu am rywfaint yn ystod y flwyddyn diwetha on’do? Ond doedd gan Mari Huws ddim dewis – roedd hi’n byw ar ynys fach Ynys Enlli. Hi ydy warden yr ynys ac mae hi wedi bod yn brysur yn cael rhai o dai Enlli yn barod ar gyfer ymwelwyr yn ystod yr haf. Nos Fawrth ar Gwneud Bywyd yn Haws caethon ni ychydig o flas bywyd ar yr ynys gan Mari... Ynys Enlli - Bardsey Island Anferth - Huge Cynnal a chadw - To maintain Her - A challenge Llnau - Glanhau Cyflwr - Condition Goleudy - Lighthouse Mae’n anodd dychmygu - It’s difficult to imagine Amlwg - Obvious GWNEUD BYWYD YN HAWS Ychydig o flas ar fywyd Ynys Enlli yn fan’na ar Gwneud Bywyd yn Haws. Roedd hi’n benwythnos Gwneud Gwahaniaeth ar BBC Radio Cymru a buodd nifer o bobl yn siarad am eu profiadau o wneud gwahaniaeth yn y gymuned neu am beth sy wedi gwneud gwahaniaeth i’w bywydau nhw. Lowri Morgan oedd gwestai Aled Hughes a soniodd hi am effaith rhedeg ar ei bywyd hi Gwneud Gwahaniaeth - Making a difference Mae’n rhaid i mi gyfaddef - I must admit TGAU - GCSE Ysgafnhau - To lighten Amynedd - Patience Hynod ysbrydoledig - Extremely inspiring Yr un - The same Corfforol - Physical Cymhelliad - Motivation Dewrder - Bravery Hyfforddi - Coaching IFAN EVANS Rhywun arall sy wedi gwneud gwahaniaeth yn ei chymuned yw Ela Jones – a hi oedd yn derbyn gwobr DIOLCH O GALON rhaglen Ifan, a dyma un o’i ffrindiau hi’n sôn mwy amdani wrth Ifan Jones Evans Gwobr - Award Gwirfoddol - Voluntary Cyngor doeth - Wise advice Dirwgnach - Uncomplaining Yn ddiwyd - Diligently Ychwanegol - Extra Cymuned wledig - Rural community Amhrisiadwy - Invaluable Cydwybodol - Concientious DROS GINIO Ela Jones yn llawn haeddu’r wobr on’d oedd hi? Mae cŵn defaid yn werthfawr iawn i ffermwyr, ond pwy fasai’n meddwl basai ci bach o Fangor yn cael ei werthu am bris dorodd record y byd! Jenifer Jones glywodd hanes LASSIE ar Dros Ginio Cŵn defaid - Sheepdogs Arwethiant - Sale Blaenorol - Previous Rhinweddau - Virtues Cynghrhair - League Hen-daid - Great grandfather Cynharach - Earlier Prin iawn - Very rare Gast - Bitch Clip Steffan Sioe Frecwast Ac o seren y cŵn defaid i hanes rai o sêr Hollywood mewn ffilm a chysylltiadau cryf iawn â Chymru. Mi wnaeth Steffan Rhodri ymuno â Shelley a Rhydian i sôn am ei ffilm Hollywood newydd – Dark Horse... Ffilm ddogfen Documentary Perchen To own Llwyddiannus iawn Very succesful Cymeriadau Characters Pentrefwyr Villagers Sain Sound Awgrymu To suggest Talu teyrnged Paying a tribute
6/4/202115 minutes, 59 seconds
Episode Artwork

Pigion y Dysgwyr 28ain Mai 2021

S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … BETI A'I PHOBL Merch o Gaerdydd ydy Sara Yassine ond mae ei theulu hi’n dod o’r Aifft yn wreiddiol. Gofynnodd Beti i Sara beth mae Caerdydd yn ei olygu iddi hi Yr Aifft - Egypt Golygu - To mean Trwy gydol fy mywyd - All my life Hen dad-cu - Great-grandfather Rhyfel Byd Cyntaf - First World War Morwr - Seaman GWNEUD BYWYD YN HAWS Ychydig o hanes Sara Yassine yn fan’na ar Beti a’i Phobl Mae hi wedi bod yn flwyddyn rhyfedd on’d yw hi? Pwy fasai wedi medru darogan fel roedd rhaid i ni gyd newid ein ffordd o fyw oherwydd Covid? Sut flwyddyn bydd eleni tybed? Dyma i chi glip o Llio Angharad, awdures y blog bwyd a theithio “dine and disco”, yn ceisio darogan beth fydd y 'trends' bwyd ar gyfer gweddill y flwyddyn… Darogan - To predict Dilynwyr - Followers Dy hynt a dy helynt di - All about you Ail- greu - To re-create Datblygu - To develop Eitha poblogaidd - Quite popular Profiadau gwahanol - Different experiences PENBLWYDD DEWI LLWYD Wel , tybed fyddwn ni’n gweld holl ‘trends’ Llio Angharad yn ystod y flwyddyn? Cawn ni weld on’d ife? Mae rhaglen Tudur Owen ar Radio Cymru yn boblogaidd iawn ond mae Tudur hefyd yn hoff o wneud gwaith ‘stand-up’. Fe oedd gwestai penbwlydd Dewi Llwyd fore Sul a soniodd e wrth Dewi am ei deimladau am fynd yn ôl ar lwyfan i berfformio… Llwyfan - Stage Cynulleidfa fyw - Live audience Ymwybodol - Aware Camu ar - To step onto Ail-gychwyn - To start again Diweddaru fy neunydd - Update my material Am wn i - I suppose Padl fyrddio - Paddle boarding Mae’n llonyddu rhywun - It’s relaxing Cydbwysedd - Balance Cyhyrau - Muscles ALED HUGHES Tudur Owen yn edrych ymlaen mwy at badl fyrddio nag at fynd yn ôl i berfformio, ond dw i’n siŵr byddwn yn ei weld ar lwyfan eto cyn bo hir. Mae’r milfeddyg Malan Hughes wedi gweld llawer iawn o bethau rhyfedd wrth ei gwaith ac yn ddiweddar gwelodd hi rywbeth rhyfedd iawn – llo gyda thair llygad. Tynnodd hi lun o’r llo ac mae’r llun hwnnw wedi cael ei rannu ar draws y byd! Milfeddyg - Vet Gwlybaniaeth - Moisture Y creadur - The creature Aeiliau - Eyebrows Amrannau - Eye lash Pwy â ŵyr? - Who knows? Penglog - Skull Cromfachau - Brackets Caniatâd - Permission Y diweddara - The most recent DROS GINIO Hanes llo gyda thair llygad yn fan’na – diddorol on’d ife?l Mae’n 50 mlynedd ers rhyddhau albym Marvin Gaye – Whats Going On. Y cerddor Carwyn Ellis fuodd yn sôn wrth griw Dros Ginio am bwysigrwydd yr albym yn gerddorol, ac yn wleidyddol Rhyddhau - To release Cerddor - Musician Dylanwadol - Influencial Enfawr - Huge Cyd-destun - Context Cefndir - Background Hynod bwysig - Extremely important Perthnasol - Relevant Hiliaeth - Racism AR Y MARC Y cerddor Carwyn Ellis oedd hwnna’n sôn am albwm eiconig Marvin Gaye. Roedd Abertawe yn chwarae yn erbyn Barnsley ar y Liberty nos Sadwrn diwetha mewn gêm ail-gyfle’r Bencampwriaeth. Abertawe enillodd ac ond i’r tîm ennill un gêm arall bydd Abertawe yn cael dyrcharfiad i’r Uwchgynghrair. Mae OJ wedi ei fagu yn Sheffield, yn ffan mawr o Barnsley ac yn dal i fyw yn yr ardal, ond sut a pham dysgodd e Gymraeg? Dyma fe’n esbonio ar Ar y Marc… Gêm ail-gyfle - Play off Y Bencampwriaeth - The Championship Dyrchafiad - Promotion Uwchgynghrair - The Premier League Rheolwyr - Managers Uniongyrchiol - Direct Cyfleon - Opportunities
5/28/202115 minutes, 19 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr 21ain o Fai 2021

Clip Bronwen Lewis Mae’r gantores Bronwen Lewis o Gwm Dulais wedi dod yn dipyn o seren ar Tik Tok. Ond sut digwyddodd hynny tybed? Dyma hi’n dweud yr hanes wrth Shan Cothi.. Llwytho To load Beth bynnag chi mo’yn Whatever you want Cyfieithiadau Translations Ffili credu Methu coelio Sylw Attention Clip Dan Glyn a Meilir Sion Bronwen Lewis oedd honna’n sôn sut daeth hi’n seren Tik Tok. Yr actor, dyn busnes ac awdur, Meilir Sion, oedd yn ateb cwestiynau diog Daniel Glyn wythnos diwethaf. Os dych chi’n gwylio’r gyfres deledu Rownd a Rownd byddwch yn siŵr o fod wedi gweld Meilir ar yr iard gychod yn chwarae cymeriad Carwyn…. Ond tybed ydy Dan wedi gwneud ei waith ymchwil cyn y cyfweliad? Cyfres Series Iard gychod Boat yard Ymchwil Research Cyfweliad Interview Bellach By now Y gymdeithas gyfan The whole community Ystrydeb Stereotype Clip Priodas Sian Beca Sian Beca, un arall sydd yn actio yn Rownd a Rownd d oedd yn westai ar raglen Ffion Emyr nos Wener ond doedd dim dryswch ynglŷn ag enw ei chymeriad yn y gyfres, Cathryn, y tro ’ma. Yn y clip yma gwnawn ni glywed ychydig o hanes dawns gynta diwrnod priodas Sian Dryswch Confusion Gwasanaeth Service Tân gwyllt Fireworks Yn iau Younger Profiadol Experienced Clip Haydn Holden Actor mewn opera sebon arall oedd yn sgwrsio gyda Shelley a Rhydian ar y Sioe Sadwrn – sef Haydn Holden o Drawsfynydd sydd yn actio yn Coronation Street, ond hanes Matteo ei gi cawn ni yn y sgwrs nesa ’ma… Manceinion Manchester Caer Chester Mabwysiadu To adopt Elusennau Charities Achub To rescue Hwyrach Efallai Clip Troi’r Tir Hanes achub Matteo, ci Haydn Holden oedd hwnna ar y Sioe Sadwrn. Dechreuodd Meinir Evans o ardal Llanbedr-Pont-Steffan fusnes coginio brownies o gegin ei fferm yn ystod y pandemig, a dyma hi’n dweud ei stori ar Troi’r Tir… Pobi To bake Gweithareddau Activities Athrawes gyflenwi Supply teacher (f) Canmol To praise Ymateb Response Archeb An order Cefnogaeth Support Poblogaidd Popular Pice ar y maen Welsh cakes Danteithion Delicacies Clip Sion Dant Melys Ac mi arhoswn ni gyda danteithion melys yn y clip nesa – dyma hanes Sion a James sy wedi sefydlu cwmni losin/da da/fferins neu swîts o’r enw Sweet Elite. Geraint Lloyd gafodd air gyda Sion sy nid yn unig yn rhedeg y cwmni ond hefyd ar gwrs coluro yn Llundain… Sefydlu To establish Coluro Make up Tyfiant Growth Y trywydd yma This track Traddodiadol Traditional Ers llawer dydd Ers talwm Cymysgedd A mixture
5/21/202114 minutes, 39 seconds
Episode Artwork

Pigion y Dysgwyr 14eg Mai 2021

S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … DDIM YN DDU A GWYN Mae dinas Minneapolis wedi bod yn y newyddion yn y misoedd diwetha gan mai dyna lle cafodd George Floyd ei lofruddio gan Derek Chauvin, oedd yn swyddog heddlu ar y pryd. Buodd y newyddiadurwraig Maxine Hughes yn dilyn yr achos mewn rhaglen arbennig ar Radio Cymru, Ddim yn Ddu a Gwyn. Mae Maxine yn dod o Gonwy yn wreiddiol ond yn byw yn Washington DC erbyn hyn, a dyma hi’n cael sgwrs gyda Gerallt Jones sy’n byw yn Minneapolis... Achos llys - Court hearing Llofruddio - Murder O dan sylw - Under attention Llinyn amser - Timeline Protestiadau chwyrn - Fierce protests Euogrwydd - Guilt Anghydraddoldeb hiliol - Racial inequality Carfan - A faction Mynychu - To attend Cyfryngau - Media TROI’R TIR Dau o Gymry America yn fan’na yn rhoi syniad i ni o fywyd Minneapolis yn dilyn marwolaeth George Floyd. Mae cwmni byrgyrs ‘Ansh’ yng Nghaerdydd wedi bod yn boblogaidd iawn ers iddyn nhw agor ger Victoria Parc yn Nhreganna y llynedd. Dyma hanes Aled o’r Rhondda a Sion o Lanbedr Pont Steffan adawodd eu swyddi blaenorol i ddechrau eu busnes byrgyrs newydd. Blaenorol - Former Cigydd - Butcher Cynnyrch - Produce Awyddus - Eager Diwylliant - Culture Clymu mewn - To tie in DEI TOMOS ...stori dda arall ar Troi Tir yn fan’na a phob lwc i’r ddau gyda’u busnes newydd on’d ife? Mae Dafydd Iwan wrth gwrs yn enwog am ei ganeuon, ond roedd Dei Tom yn awyddus i siarad gyda fe am ei lyfr newydd sy’n sôn am hanes rhai o’r caneuon hynny. Gofynnodd Dei iddo fe pwy oedd wedi dylanwadu mwya arno fe o ran cyfansoddi caneuon... Dylanwadu - To Influence Cyfansoddi - To compose Ein hoes ni - In our time Teimladau cymysg - Mixed feelings Traddodiad canu gwleidyddol - A tradition of political singing Tueddfryd - A tendency Y dirwasgiad - The depression Buddsoddi - To invest Cyni - Adversity Arwr - Hero Uniongyrchol - Direct BETI A’I PHOBL Dafydd Iwan oedd hwnna’n sôn am ddylanwad Woodie Guthrie ar ei ganeuon. Gwestai Beti George wythnos diwetha oedd y ddawnswraig Jen Angharad, a gofynnodd Beti iddi hi sut wnaeth hi gwrdd â’I phartner Zayn, a hynny dros 30 mlynedd yn ôl.... Ble gwrddoch chi? - Lle wnaethoch chi gyfarfod? Digwydd bod - As it happens Sylweddoli - To realise Gweinyddu - Administrating Pam lai? - Why not? Y dechreuad - The beginning DROS GINIO Wedi meddwl, mae cabaits a the yn swnio bach yn od on’d yw e? Mae Lowri Roberts sy’n byw yn Gaersallog, neu Salisbury, yn gweithio fel archeolegydd morol, ond beth yn union mae hynny’n ei olygu? Vaughan Roderick fuodd yn ei holi ar Dros Ginio… Henebion - Antiquities Yn cynnwys - Including Llongdrylliadau - Shipwrecks Dyfnderoedd - Depths Taid - Tad-cu Bedyddio - To baptise Wedi eu claddu - Buried
5/14/202113 minutes, 39 seconds
Episode Artwork

Pigion Dysgwyr 7fed Mai 2021

S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … BORE COTHI Ar Bore Cothi cafodd Shan sgwrs gyda Menna Michoudis (YNGANIAD – MICH-W-DIS) sydd yn dod o Bontuchaf ger Rhuthun yn wreiddol ond sydd yn byw ar Ynys Skiathos yng Ngwlad Groeg ers dros 15 mlynedd bellach. Mae hi’n briod, mae dau o blant gyda hi ac mae hi’n gweithio mewn swyddfa dwristiaeth gyda’i gŵr. Holodd Shan sut gwrddodd hi a’i gŵr a dyma’r hanes... Gwlad Groeg - Greece Cwrdd â - Cyfarfod efo Hogan hurt - Merch dwl Prydferth - Beautiful Andros o hen - Very old Dotio ar - Dwlu ar Duwies - Goddess Anhygoel - Incredible GERAINT LLOYD Hanes Menna o Skiathos yn fan’na ar Bore Cothi. Mae’r Ganolfan Genedlaethol sy’n gyfrifol am Gymraeg i Oedolion wedi gwneud apêl am ragor o diwtoriaid a buodd Geraint Lloyd yn sgwrsio gyda Helen Prosser o’r Ganolfan am hyn ond cafodd e sgwrs yn ogystal gyda Ali Evans sydd wedi bod yn dysgu Cymraeg yn ei gweithle. Dechreuodd Geraint drwy ofyn o ble roedd Ali’n dod yn wreiddiol... Canolfan Genedlaethol - National Centre Gweithle - Workplace Yn eitha diweddar - Quite recently Hwlffordd - Haverfordwest Sa i’n gallu - Dw i ddim yn medru GWNEUD BYWYD YN HAWS Ali Evans oedd honna’n disgrifio ei thaith bersonol hi’n dysgu Cymraeg. Buodd Hana Hopwood Griffiths a’i gwesteion yn trafod beth sy’n troi tŷ yn gartref. Mae llawer o brofiad o symud tŷ gan Ann-Marie Lewis a buodd hi yn rhannu ‘tips’ ar droi adeilad yn gartref ar y rhaglen. Mae’r sgwrs honno i glywed ar BBC Sounds ac ewch i chwilio am Gwneud Bywyd yn Haws os dych chi eisiau ei chlywed. Ond dw i am rannu clip o Heledd Jones-Tandy sy'n troi ei thŷ’n gartref wrth ddod o hyd i unrhyw esgus dros ddathlu…. Crempog - Pancake Caniatáu - To allow Beirniadaethau - Judgements Llwm - Bleak Gwagle - Emptiness Addurniadau - Decorations Pasg - Easter Allor - Altar Clustogau - Pillows Crysurus - Comforting Arbrofi - To experiment Dychymyg - Imagination DEWI LLWYD Dathlu ei phenblwydd oedd y gantores Kizzy Crawford a hi oedd gwestai penblwydd Dewi Llwyd. Mae’r artist o Aberfan yn 25 oed a dyma hi’n rhannu hanes un penblwydd sydd yn aros yn ei chof... Yn fyw - Live Arwresau - Heroines Yn gyson - Constantly Arwyr cerddorol - Musical heroes Cefnogol - Supportive Llwyddiant - Success Adolygu - Revising ALED HUGHES Ac awn ni i sôn am benblwydd arall nawr – penblwydd yr e-bost yn 50 oed. Doedd Aled Hughes ddim yn gallu credu bod cymant â hynny o amser wedi mynd heibio ers y digwyddiad hwnnw, felly gofynnodd e i Mei Gwilym am hanes yr e-bost... Go iawn? - Really? Dyfeisio - To invent Cyfathrebu - To communicate Llond bol - A gutsful Gwrthod - To refuse Y gweddill ohonon ni - The rest of us SIOE TUDUR Hanes yr e-bost yn fan’na ar raglen Aled Hughes. Wel mae’r gwanwyn wedi cyrraedd a dw i’n siŵr byddwn ni i gyd yn gweld gwenyn o gwmpas y lle yn o fuan. Roedd Tudur Owen yn credu ei fod wedi gweld brenhines wenynen yn ei dŷ, ond roedd Dyl Mei wedi gwneud ei waith cartref ac yn rhoi gwers fach iddo fe ar fyd y gwenyn … Gwenyn - Bees Brenhines wenynen - Queen bee Digwydd bod - As it happens Dynion sain - Sound man Llonydd - Still Denu - To attract Yr hogiau - The boys Hwyrach ymlaen - later on Mŵg - Smoke
5/7/202119 minutes, 36 seconds
Episode Artwork

Pigion y Dysgwyr 30ain Ebrill 2021

S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … BORE COTHI Oes gyda chi hoff arogl? Arogl blodau gwyllt falle, neu dân coed neu fara yn cael ei bobi? Dw i’n siŵr basech chi’n cael eich synnu wrth glywed beth yw hoff arogl Donna Edwards, sy’n chwarae rhan Britt yn Pobol y Cwm. Hi oedd gwestai Y SYNHYWRAU Bore Cothi yr wythnos diwetha– a dyma hi’n siarad am ei hoff arogl… Arogl - Smell Synhwyrau - Senses Glöwr - Coal miner Mŵg - Smoke Tamprwydd - Dampness Sicrwydd - Certainty Tad-cu - Taid Cysur - Comfort Cnoi - To chew GWNEUD BYWYD YN HAWS Falle na fasai llawer yn rhoi aroglau cwrw a sigaret fel eu hoff arogl ond mae’n hawdd deall sut basen nhw’n codi hiraeth ar Donna on’d yw hi? Ar Gwneud Bywyd Yn Haws wythnos diwetha clywon ni Sian Angharad yn sôn wrth Hanna Hopwood Griffiths am ei phrofiadau’n byw gydag 'alopecia areata' ers pan oedd hi’n ifanc iawn. Dyma i chi flas ar y sgwrs… Wedi dychryn - Frightened Gwaethygu - Worsen Cuddio - To hide Mewn penbleth - In a quandry DROS GINIO Sian Angharad oedd honna’n sôn wrth Hanna Hopwood Griffiths am ei phrofiadau’n byw gydag 'alopecia areata'. Mae’n debyg bod llai ohonon ni’n prynu jîns ers y cyfnod clo, achos ein bod ni’n fwy cyfforddus mewn dillad llac! Ond dych chi’n gwybod unrhyw beth am hanes y jîns denim? Dyma i chi Judith Jones a Jenifer Jones yn rhoi’r hanes hwnnw i ni ar Dros Ginio… Defnydd - Material Gwau - To knit Nes ymlaen - Later on Darparu - To provide Nwyddau - Goods Cloddio am aur - Digging for gold Rhan annatod - An integral part TROI'R TIR Hanes y jîns denim yn fan’na ar Dros Ginio. Mae’r chwaraewr rygbi rhyngwladol Wyn Jones yn ffermio yn ogystal â bod yn chwaraewr rygbi proffesiynol. Mae hyn yn gallu bod yn broblem adeg Pencampwriaeth y Chwe Gwlad gan ei fod wastad yn digwydd yn ystod y cyfnod ŵyna fel clywon ni ar Troi’r Tir… Ŵyna - Lambing Y Chwe Gwlad - Six nations Rhyngwladol - International Crwtyn ifanc - Bachgen ifanc Ieuenctid - Youth Dim hawl - No right Rhwyddach - Haws DEWI LLWYD Wyn Jones yn fan’na yn sôn am y problemau o geisio bod yn ffermwr ac yn chwaraewr rygbi rhyngwladol yr un pryd. Y delynores Catrin Finch oedd gwestai penblwydd Dewi Llwyd yr wythnos yma a buodd hi’n sôn am sut basai hi’n licio newid delwedd y delyn yn y byd cerddorol. Dyma i chi glip bach o’i sgwrs gyda Dewi… Telynores - Harpist (female) Hyblyg - Flexible Delwedd - Image Cerddorddfa - Orchestra Agwedd - Attitude Offeryn - Instrument Cefndir - Background Hamddena - Spending leisure time Dianc rhagddo fo - To escape from it Tawelwch - Silence SIOE FRECWAST Cerddor arall, Elin Fflur sy’n cyflwyno’r Sioe Frecwast fore Sul ar Radio Cymru 2 a dyma hi’n rhoi gwers i ni ar siopa yn yr ‘Ysgol Sul’… Ail-agor - To reopen Troedfeddi sgwâr - Square feet Dylunio - To design Yn wirion bost - Crazy Y Môr Tawel - Pacific Ocean Brodorol - Native Cyfwerth â dant baedd - Worth the same as a boar’s tooth Carthen Gymreig - A Welsh quilt Derbynneb - Receipt
4/30/202115 minutes, 9 seconds
Episode Artwork

Pigion Dysgwyr 23ain Ebrill 2021

S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … DEI TOMOS Buodd y canwr o Dreforus ger Abertawe, Neil Rosser, yn sôn am un o’i ganeuon enwoca ‘Ochr Treforus o’r Dre’ gyda Dei Tomos a dyma i chi flas ar y sgwrs... Enwoca - Most famous Adlewyrchu - To reflect Traddodiad - Tradition Cynefin - Local area Cymeriadau - Characters Hala - To spend (time) Magwraeth - Upbringing Tylwyth - Teulu Tyfu lan - Growing up COFIO Neil Rosser yn fan’na yn sôn am ei gân ‘Ochr Treforus o’r Dre’ . Pen Llŷn oedd pwnc Cofio yr wythnos yma – a buodd John Hardy a Hywel Gwynfryn yn edrych yn ôl ar y cyfnod pan agorwyd Butlins yn ardal Pwllheli. Cafodd Hywel sgwrs gydag un oedd yn cofio’r adeg yn dda ac yn nabod Billy Butlins yn eitha da hefyd... Cyfnod - period Chwedl y bobl ddŵad - According to the visitors Gweithio’n ddiwyd - Working hard Ail-fildio - Rebuilding Yr oes honno - In that time ALED HUGHES Ychydig o hanes agor Butlins Pwllheli ar Cofio wythnos diwetha. Kong v Godzilla ydy un o ffilmiau mawr y sinema ar hyn o bryd, ac roedd barn gwahanol iawn i’w gilydd amdani gyda Gary Slaymaker ac Aled Hughes fel cawn glywed yn y clip yma... Allet ti dyngu - You could swear Creaduriaid - Creatures Dogfen - Documentary Ara bach - Slowly Brywdro - Fighting Chwedloniaeth - Mythology Awch - Appetite Torcalonnus - Heartbreaking Cydio yn nychymyg - Catches the imagination TRYSTAN AC EMMA Mae’n anodd meddwl am y ffilm nawr heb ddychmygu Taid, neu dad-cu, Godzilla yn cwympo mas gyda thaid Kong mewn rhyw dafarn on’d yw hi...Ac awn ni o fyd Godzilla a Kong nawr i fyd yr UFOs. Mae llawer o bobl yn honni eu bod wedi gweld Ufo ac mae Richard Foxhall yn un ohonyn nhw. Dyma fe’n disgrifio wrth Emma a Trystan beth welodd e uwchben Dyffryn Nanllte yng Ngwynedd 40 mlynedd yn ol… Honni - To allege Cwympo mas - Falling out Llu awyr - AirForce Hofrennydd - Helicopter Llonydd - Still Ymarfer - Exercise Llachar - Bright Adennydd - Wing Ta waeth - Anyway FY NGHYMRU Tybed beth welodd Richard yn Nhalysarn flynyddoedd yn ôl? Rhyfedd iawn on’d ife? Mae etholiad Senedd Cymru yn cael ei gynnal ar Fai 6ed eleni. Aeth y cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol, Nathan Brew, i holi barn pobl o gefndir BAME er mwyn gweld beth mae’r etholiad hwn yn ei olygu iddyn nhw... Etholiad - Election Cyn-chwaraewr - Former player Rhyngwladol - International Gwinedd (ewinedd) - Nails Balch - Proud Tebygrwydd - Similarity Ysbrydoliaeth - Inspitration Uniaethu - To identify (with) BETI GEORGE Arhoswn ni gyda chwaraewyr rygbi rhyngwladol yn y clip nesa ‘ma. Buodd Beti George yn sgwrsio gyda Rhys Patchell, ac roedd gan Beti ddiddordeb mawr mewn beth mae Rhys a’i gyd-athletwyr yn ei fwyta er mwyn cadw’n heini Cyd-athletwyr - Fellow athletes Darparu - To provide Amcan - Estimate Llaeth - Llefrith Claddu - To bury Cyffredin - Normal Cyhyrau - Muscles
4/23/202115 minutes, 11 seconds
Episode Artwork

Pigion y Dysgwyr 16eg Ebrill 2021

S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … SHAN COTHI Y cerddor Brychan Llyr oedd gwestai Shan Cothi yr wythnos yma ac esboniodd e wrth Shan pam ei fod mor hoff o bobl, o fwyd ac o gerddoriaeth Yr Eidal… Cerddor - Musician Hala - Treulio Cyfarwydd - Familiar Annwyl - Endearing Parchus - Respectable Rhufain - Rome Cyfle - Opportunity Twr - A crowd Eidalwyr - Italians Wedi syfrdanu - Stunned Rhyfeddu - To marvel SIOE FRECWAST Brychan Llyr oedd hwnna yn sôn am gig arbennig iawn yn yr Eidal. Mae’r rhaglen Cymru, Dad a Fi ar S4C yn un boblogaidd iawn. Mae’r rhaglen yn dilyn Connagh Howard oedd yn un o sêr Love Island a'i dad, Wayne, ar daith drwy ynysoedd Cymru. Dyma nhw’n sgwrsio gyda Caryl a Huw Stephens am eu hymweliad ag Ynys Enlli. Ynys Enlli - Bardsey Island Profiad - Experience Bythgofiadwy - Unforgettable Cysylltiad hudolus - A magical connection Cyfres - Series TROI’R TIR Dysgodd Wayne Howard Gymraeg fel oedolyn a gwnaeth yn siŵr bod ei fab Connagh yn cael addysg Gymraeg. Mae’r ddau yn amlwg yn mwynhau eu teithiau o gwmpas ynysoedd Cymru. Mae Lydia Edwards yn dod o Fetws Gwerfyl Goch yn Sir Ddinbych a chafodd ei magu ar fferm ddefaid. Yn ystod y cyfnod clo aeth hi i weithio ar fferm ar Ynysoedd y Malvinas, neu’r Falklands. Dyma hi’n esbonio ar Troi’r Tir pam penderfynodd hi fynd draw yno Y cyfnod clo - Lockdown Hogan - Merch Twrnai - Solicitor Lapio gwlân - Skirting and rolling the fleece Lluchio - To throw Anhygoel - Incredible Hunanynysu - To self-isolate Cneifio - Shearing Sa ti’n dreifio - Os nad wyt ti’n gyrru HUW LLYWELYN A GARETH EDWARDS Bywyd gwahanol iawn yn hemisffîr y de yn fan’na i Lydia. Roedd y darlledwr chwaraeon Huw Llywelyn Davies yn ffrindiau gyda chyn fewnwr Cymru - Syr Gareth Edwards pan oedden nhw’n blant ac roedden nhw’n ymarfer rygbi gyda’i gilydd. Ond fel gwnawn ni glywed yn y clip nesa roedd byd rygbi’r plant yn dipyn gwahanol bryd hynny i’r byd fel mae e nawr… Darlledwr - Broadcaster Cyn-fewnwr - Former scrum half Cyfnod - Period Dyfarnwr - Referee Crits - Bechgyn Rhyngwladol - International Ochrgamu - To sidestep Heol(hewl) - Lôn Dros yr ystlys - Into touch Cryfder - Strength Hyfforddwyr - Coaches Unigolion - Individuals DILWYN MORGAN Huw Llywelyn Davies a Syr Gareth Edwards yn cofio eu plentyndod yn fan’na. Mae yna nifer o ofergoelion yn y byd morwrol a buodd Dilwyn Morgan yn rhannu rhai ohonyn nhw ar y rhaglen Ar Lan y Môr … Ofergoelion - Superstitions Byd morwrol - The seafaring world Chwibanu - Whistling Her - A challenge Ail-fedyddio - To rebaptise Hen goel - An old omen Anlwc - Bad luck Oedd yn berchen - Owned Celwydd - A lie Un ai - Either Y duwiau - The gods PENBLWYDD DEWI LLWYD Dilwyn Morgan oedd hwnna’n sôn am rai o ofergoelion y byd morwrol. Y gantores Doreen Lewis oedd gwestai pen-blwydd Dewi Llwyd yr wythnos diwetha a hithau’n dathlu ei phenblwydd yn 70 oed. Gofynnodd Dewi iddi hi pa un oedd y pen-blwydd mwya cofiadwy iddi hi. Cofiadwy - Memorable Gyrfa - Career Rhyfedda - Most amazing Dros y fro i gyd - All over the area Anrhegion - Presents Mis mêl - Honeymoon Cystal ag y bu - As good as it used to be Adloniant - Entertainment Ymateb - Response Llonni - To become cheerful
4/16/202116 minutes, 50 seconds
Episode Artwork

Pigion Dysgwyr 9fed Ebrill 2021

S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … DROS FRECWAST Chris Gunter ydy’r chwaraewr cyntaf yn hanes tîm pêl-droed Cymru i ennill cant o gapiau yn dilyn y gêm gyfeillgar rhwng Cymru a Mecsico wythnos diwetha. Mae cyn-golwr Cymru, Owain Fôn Williams, yn arlunydd da ac mae o wedi peintio llun arbennig i Chris i ddathlu’r achlysur. Dyma i chi Owain yn sgwrsio gydag Owain Llyr o adran chwaraeon Radio Cymru ar Dros Frecwast. Arlunydd - Artist Yn y gorffennol - In the past Digon hawdd - Easy enough Canfed - Hundredth Cais - Request Newydd sbon - Brand new Creu - To create Ei ên - His chin Sbïo - Edrych Cyfnod - a period of time SIOE SADWRN …a llongyfarchiadau mawr i Chris Gunter am ennill ei ganfed cap yn y gêm rhwng Cymru a Mecsico. Roedd hon yn gêm bwysig i Sioned Dafydd hefyd – y tro cynta iddi hi sylwebu’n fyw ar S4C ar gêm bêl-droed Cymru. Mae Sioned hefyd wedi dechrau podlediad pêl-droed newydd, Y Naw Deg, ar y cyd â chyflwynydd y Sioe Sadwrn – Rhydian Bowen Phillips. Buodd y ddau’n sgwrsio am hyn ac am gêm Mecsico ar y Sioe Sadwrn… Sylwebu’n fyw - Commentating live Ar y cyd â - Together with Cyflwynydd - Presenter Gwlad Belg - Belgium Joio mas draw - Mwynhau yn fawr Cyfres - Series Pob agwedd - All aspects Uwch Gynghrair Lloegr - English Premier League Criw cynhyrchu - Production team Hala - Anfon Ymchwil - Research GWNEUD BYWYD YN HAWS …ac enillodd Cymru’r gêm honno o un gôl i ddim a Chris Gunter yn gapten ar y tîm! Capten tîm rygbi Cymru ydy Alun Wyn Jones ac mae ei wraig, y Dr Anwen Jones, wedi sefydlu blog o’r enw The Jones Essential ar ôl iddi hi benderfynu cymryd saib gyrfa yn dilyn cyfnod mamolaeth. Dyma hi’n esbonio rhai o’r rhesymau dros gymryd y saib ar Gwneud Bywyd yn Haws… Saib gyrfa - A career break Cyfnod mamolaeth - Maternity leave Uwch ddarlithydd - Senior lecturer Gradd meistr - Masters degree Doethuriaeth - PhD Dod i ben - Come to an end Heriol - Challenging TROI’R TIR Dr Anwen Jones oedd honna’n esbonio pam ei bod hi wedi cymryd saib yn ei gyrfa. Hanes Ffion Medi a'i mam Mairwen Rees o Lanfynydd ger Llandeilo yn Sir Gaerfyrddin sydd nesa. Mae’r ddwy wedi dechrau cwmni gosod blodau o’r enw ‘Sied yr Ardd’yn ystod y cyfnod clo. Ond pwy o’r ddwy ydy’r bòs tybed? Gosod blodau - Flower arranging Fferm odro - Dairy farm Ŵyna - Lambing Cenhedlaeth - Generation Ffair Aeaf Rithiol - Virtual Winter Fair Cyfryngau cymdeithasol - Social media Torchau - Wreaths Archebu - To order Deilen - A leaf FFION EMYR Mae’n amlwg mai Mam ydy’r bòs on’d yw hi? Ar raglen Ffion Emyr nos Wener, clywon ni am briodas arbennig Celyn a’i gŵr, Owen, o Gasnewydd, ond pam bod Dr Who yn rhan o’r stori yma? Dyma Celyn yn rhoi’r hanes... Goleudy - Lighthouse Llai traddodiadol - Less traditional Casnewydd - Newport Cwympo mewn cariad - To fall in love Dw i’n cymryd - I assume Darpar ŵr - Prospective husband Dadwisgo - To undress Anhygoel - Incredible Sa i’n gwybod - Dw i ddim yn gwybod TRYSTAN AC EMMA Tardis mewn priodas yng Ngwent, pwy fasai’n meddwl on’d ife? Nid hen focs plismon fel y Tardis ydy diddordeb mawr Dai Mason ond hen geir, a buodd e’n rhestru’r holl geir sy yn ei garej mewn sgwrs gyda Trystan ac Emma. Dyma i chi flas ar y sgwrs… Y chwedegau - The sixties Llai pwerus - Less powerful Yn ddiweddar iawn - Very recently Eitha balch - Quite proud Hen dad-cu - Great grandfather Cyflwr gwael - Poor condition
4/9/202115 minutes, 58 seconds
Episode Artwork

Pigion y Dysgwyr 2il Ebrill 2021

S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … TROI’R TIR Mae Steffan Harri yn actor llwyddiannus sy wedi serenu ar lwyfan y West End mewn sioeau mawr fel Shrek, ond gyda’r theatrau ar gau, penderfynodd Steffan fynd yn ôl i helpu ar y fferm deuluol. Dyma fe’n dweud yr hanes ar Troi Tir Parhau To continue Ŵyna Lambing Dyweddio To engage (to marry) Gwarchod yr ŵyn swcis Looking after the pet lambs Bugeilio Shepherding Gwellt Hay Byrlymus Extremely busy Uffernol Hellish Wlyb sopen Extremely wet Colledion Losses STIWDIO Yr actor Steffan Harri oedd hwnna’n rhoi blas ar fywyd fferm ar yr adeg prysur hwn iddyn nhw. Ac i ni aros myd y theatr, roedd dydd Llun diwetha yn Ddiwrnod Theatr y Byd, ac ar Stiwdio cafodd Nia Roberts sgwrs gyda Melisa Annis, sy’n byw yn Efrog Newydd ac yn gweithio ym myd y theatr yno. Yn y darn yma, mae Melisa’n egluro sut glaniodd hi yn Efrog Newydd yn y lle cyntaf a pha fath o waith mae hi’n ei wneud y dyddiau hyn... Anhygoel - Incredible Dramodydd - Dramatist Cyfarwyddo - To direct Cynhyrchu - To produce Pres - Arian Ysiwrant iechyd - Health insurance Cynhyrchiad - Production DAF A CARYL Dipyn o hanes Melisa Annis yn fan’na ar Stiwdio. Mae llawer iawn ohonon ni angen mynd i’r siop trin gwallt ar ôl y misoedd pan oedd pob salon ar gau. Ond pa steil gwallt sy’n ffasiynol y dyddiau hyn tybed? Dyna un o gwestiynau Daf a Caryl i Paula Morris Jones o siop trin gwallt Paula’s yng Nghaernarfon a dyma oedd gyda hi i’w ddweud… Siop trin gwallt - Hairdressers Yn ôl yn y dydd - Back in the day Poblogaidd - Popular Barf - Beard Talcen - Forehead Drych - Mirror DEWI LLWYD Dw i’n siwr bod salon Paula a phob salon arall yn Nghymru yn brysur iawn y dyddiau ‘ma. Dymunodd Dewi Llwyd benblwydd hapus i gyn Brif Weinidog Cymru Carwyn Jones ar ei raglen fore Sul. Mae Carwyn yn gweithio i Brifysgol Aberystwyth nawr a gofynodd Dewi iddo fe beth yw ei gynlluniau ar gyfer y dyfodol Cyn Brif Weinidog - Former First Minister Cymysgedd - A mixture Athro yn y Gyfraith - Professor of Law Ymchwil - Research Ymgynghori - Consulting Darlledu - Broadcasting Datblygu - To develop Gwleidydd - Politician Bywoliaeth - Livelihood Meysydd - Fields LISA GWILYM Carwyn Jones yn swnio’n hynod o brysur yn fan’na. Un fasai’n hoff iawn o cael rhoi ei thraed i fyny ydy’r actores Hannah Danielgan ei bod hi’n disgwyl babi a hi oedd gwestai Bore Sul Lisa Gwilym ar RC2. Beth fasai Hanna’n ei wneud tasai hi’n ennill y loteri? Dyna oedd cwestiwn Lisa iddi hi Rhodd - A gift Yn haeddiannol iawn - Very deserving Beichiogrwydd - Pregnancy Delfrydol - Ideal Ysu am - To long for Cynnes clyd - Warm and cosy Cloncian - Gossiping Cymdeithasu - Socialising HUW CHISWELL Hanna Daniel yn fan’na yn crisialu dymuniadau llawer iawn ohonon ni dw i’n siŵr o ran cymdeithasu pan ddaw’r cyfnod clo i ben. Un o ganeuon mwya eiconig Huw Chiswel ydy Nos Sul a Baglan Bay a buodd Chiz yn siarad gyda Geraint Lovegreen am gefndir y gan arbennig hon... Ymdrin â - To deal with Profiad - Experience Diwylliannau - Cultures Y cyfuniad - The combination Cwmpasu - to encompass
4/2/202114 minutes, 30 seconds
Episode Artwork

Pigion y Dysgwyr 26ain Mawrth 2021

S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …” NIA ROBERTS - MORFYDD CLARK Mae Morfudd Clark yn Seland Newydd ar hyn o bryd yn ffilmio cyfres newydd o Game of Thrones, a fel soniodd hi wrth Nia Roberts, roedd cael Cymro arall ar y set yn gysur mawr iddi hi… Cyfres - Series Cysur mawr - A great comfort Cwympo mewn cariad - To fall in love Profiad - Experience Sylweddoli - To realise So ti’n deall - Dwyt ti ddim yn deall ALED HUGHES Morfudd Clarke yn cael amser i ymarfer ei Chymraeg tra’n ffilmio Game of Thrones- da on’d ife? Ar raglen Aled Hughes clywon ni sut mae’r môr a syrffio yn arbennig wedi helpu merch ifanc gydag iselder. Dyma i chi flas ar y sgwrs rhwng Aled a Laura Truelove o'r Rhondda … Cyfnod o iselder - A period of depression Nofio gwyllt - Wild swimming Pwerus iawn - Very powerful Cysylltiad - Connection Ar bwys - Wrth ymyl Rhyddhau - To release Yn wirioneddol - Truly DANIEL GLYN Laura Truelove o'r Rhondda yn esbonio wrth Aled Hughes sut mae syrffio wedi ei helpu i ymdopi gyda’i chyfnod o iselder. Y cerddor a’r actor Neil Williams, oedd yn arfer perfformio gyda’r band Maffia Mr Huws, oedd gwestai Daniel Glyn fore Sadwrn a soniodd e wrth Daniel am elusen sy’n bwysig iawn yn ei fywyd. Cerddor - Musician Elusen - Charity Cartref gofal - Care Home Gwyrthiol - Miraculous Hollol amlwg - Totally obvious Creu - To create Yn fyw - Live Baglu - To trip COFIO …a gobeithio bydd cyfle i Neil gario ymlaen gyda’i waith pwysig unwaith bydd y cyfnod clo drosodd on’d ife? Dw i’n siŵr bod llawer ohonon ni’n falch ei bod yn bosib cael torri ein gwallt unwaith eto ar ôl misoedd y clo. Falle bod sawl ci hefyd yn edrych ymlaen at fynd i’r salon i gael ‘trim’ bach. Ar Cofio yr wythnos diwetha clywon ni Katie Hughes Ellis o Borthmadog sy'n berchen ar siop anifeiliaid a salon i gŵn ym Mhwllheli yn sôn am sut i steilio blew y cŵn Sy’n berchen ar Who owns I fyny’r grisiau lan stâr Blew cwta Short haired Dibynnu ar To depend on Yn debyg i Similar to Sgynnoch chi gi? Oes ci gyda chi? TROI’R TIR Hanes salon cŵn Pwllheli oedd hwnna ar Cofio yr wythnos diwetha. Mae Janie Davies yn dod o Bumpsaint sir Gaerfyrddin yn wreiddiol ond erbyn hyn mae hi’n ffermio o yn Mayenne yng ngogledd orllewin Ffrainc gyda ei phartner. Dyma hi’n sôn ar Troi’r Tir am beth wnaeth iddi hi benderfynu setlo yn Ffrainc… Fferm ddefaid - Sheep farm Ma’s - Allan Amser ŵyna - lambing season Ŵyn swci - Pet lambs Pert - Del Tsêp - Rhad IFAN EVANS Janie Davies o Sir Gâr y wreiddiol oedd honna’n sôn am ei phenderfyniad i ffermio yn Ffrainc. Roedd ffermwr arall o Sir Gâr i’w glywed ar Ant and Dec’s Saturday Night Takeaway nos Sadwrn. Steven John oedd y ffermwr hwnnw, a buodd e’n llwyddiannus mewn cystadleuaeth ar y rhaglen a dyma fe’n dweud wrth Ifan Evans beth enillodd e i gyd… Gwobr - Prize Bant - Away Twym - Cynnes Llond llwyth - A shedful Bai Elin - Elin’s fault
3/26/202114 minutes, 17 seconds
Episode Artwork

Pigion y Dysgwyr 12fed Mawrth 2021

S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … TRYSTAN AC EMMA Roedd gan Trystan ac Emma ddiddordeb mawr mewn rhestr oedden nhw wedi ei weld o‘r gemau bwrdd mwya poblogaidd – a Monopoly oedd ar y brig wrth gwrs! Cafodd y ddau sgwrs gyda Dyfed Edwards o gwmni What Board Games i drafod y rhestr ac i ystyried apel gemau bwrdd yn gyffredinol Rhestr - List Gemau bwrdd - Board games Ar y brig - In the top spot Ystyried - To consider Yn gyffredinol - Generally Yn amlwg - Obviously Ennyn diddordeb - To arouse the interest Ymddiddori - To be interested in Ehangu meddyliau - To expand the minds Rhyngrwyd - Internet FFION EMYR A dw i’n siŵr bod llawer mwy ohonon ni wedi bod yn chwarae gemau bwrdd yn ystod y cyfnod clo on’d oes? Rhywbeth arall sy wedi bod yn boblogaidd yn ystod y flwyddyn ddiwetha ydy cwisiau. Daeth Cris, cwis feistr rhaglen Geth a Ger i gael sgwrs gyda Ffion Emyr nos Wener a rhoi tips iddi hi ar sut i ennill mewn cwis tafarn. Yr un un diddordebau - Exactly the same interests Ail-greu - To re-create Rhyfeloedd - Wars Dw i’n cymryd - I presume Rhestrau - Lists Prif Wenidogion - Prime Ministers Arlywyddion - Presidents Taleithau - States ALED HUGHES Wel dych chi’n gwybod beth i’w wneud nawr pan fydd cwisiau tafarn yn ail-gychwyn – dim ffrindiau yn eich tîm! Gyda Phrifysgol Lerpwl yn dechrau cwrs gradd MA ar hanes a cherddoriaeth y Beatles, cafodd Aled Hughes a Meurig Rees Jones sgwrs am y cysylltiad rhwng y Fab 4 a Chymru Gradd - Degree Cerddoriaeth - Music Cysylltiad - Connection Ddaru nhw - Wnaethon nhw Hel - To collect Diswyddo - To sack GERAINT LLOYD Meurig Rees Jones oedd hwnna yn sôn wrth Aled Hughes am y cysylltiadiau rhwng y Beatles a Chymru. Daeth y sianti yn boblogaidd iawn yn ddiweddar ar Tik Tok ac ar-lein. Ar raglen Geraint Lloyd buodd Anna Sherratt yn sôn am ei chôr rhithiol, Côr Pawb, ac yn rhoi her i Geraint ymuno â nhw i ganu ac i greu sianti môr Her - A challenge Sylweddoli - To realise Caneuon gwerin - Folk songs Ymuno â - To join Dolen - Link Archebu - To order Ymchwilio - Researching Yn y cefndir - In the background SHELLEY A RHYDIAN Tybed fydd Geraint yn derbyn yr her? Dyn ni’n siŵr o gael gwybod ar ei raglen on’d dyn ni?. Matthew Rhys oedd gwestai Shelley a Rhydian bnawn Sadwrn. Fe oedd yn dewis rhai o’i hoff ganeuon ‘codi calon’ ac yn rhannu rhai o’i hanesion Hollywood – fel pan gafodd y fraint o eistedd ar bwys Michelle Obama mewn swper moethus! Y fraint - The honour Ar bwys - Wrth ymyl Moethus - Luxurious Pob arweinydd y byd - Every world leader Fforcais i e - I forked it Prawf - Proof Ffrwydro - To explode Wir Dduw - God’s truth GWNEUD BYWYD YN HAWS Meddyliwch tasai‘r tomato wedi glanio ar ffrog Michelle – roedd Matthew yn lwcus iawn on’d oedd e? Yr wythnos hon ar Gwneud Bywyd yn Haws buodd Hanna Hopwood Griffiths yn sgwrsio gyda thri sydd wedi dysgu Cymraeg. Yn y clip yma mae hi’n sgwrsio gyda’r Dr Jonathan Hurst, meddyg yn Ysbyty Merched Lerpwl ac Ysbyty Plant Alder Hey sydd wedi dysgu Cymraeg er mwyn gallu siarad yn Gymraeg gyda theuluoedd o Ogledd Cymru sy’n gorfod mynd i’r ddwy ysbyty Mynychu - To attend Yn rheolaidd - Regularly Ymddengys - It appears Gwenu - Smiling Fy annog - Encourages me
3/12/202115 minutes, 22 seconds
Episode Artwork

Pigion Dysgwyr 5ed Mawrth 2021

S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … Sioe Frecwast - Andria Doherty Dych chi’n un o’r miliynau sy wedi gwylio It’s a Sin ar Channel 4? Roedd cysylltiad Cymreig cryf gyda’r gyfres gan fod dau o’r actorion yn dod o Gymru ac yn siarad Cymraeg. Roedd Andria Doherty yn actio rhan Eileen, mam un o brif gymeriadau’r gyfres, Colin. Andria oedd gwestai Daf a Caryl ar Radio Cymru 2 a dyma hi’n rhoi ychydig bach o’i hanes… Cyfres - Series Gwallgo(f) - Mad Dros ben llestri - Over the top Ymateb - Response Poblogaidd - Popular Enfawr - Huge Ysgytwol - Mind-blowing Diweddar - Recent Adrodd - Recitation Ychwanegolion - Extras Nathan Brew Andria Doherty oedd honna, un o sêr It’s a Sin, yn sgwrsio gyda Daf a Caryl. Un arall o westeion RC2 yr wythnos diwetha, oedd y sylwebydd a’r cyn chwaraewr rygbi Nathan Brew. Gan fod y penwythnos diwetha yn un pwysig iawn i dîm rygbi Cymru oherwydd y gêm fawr yn erbyn Lloegr, roedd hi’n amserol iawn i Nathan sôn am obeithion Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni. Sylwebydd - Commentator Amserol - Timely Pencampwriaeth y Chwe Gwlad - Six nations Synnu - Surprised Ysbryd - Spirit Anafiadau - Injuries Yn hytrach na - Rather than Ymarfer - Training Rheolau - Rules Lleihau - To reduce Byd Iolo Williams Roedd Nathan Brew yn optimistaidd yn fan’na am obeithion Cymru, ac roedd o yn iawn – enillodd Cymru o 40 – 24. Llongyfarchiadau mawr i dîm Cymru on’d ife? Yn rhaglen Byd Iolo wythnos diwetha buodd Iolo Williams yn dweud wrthon ni sut mae e wedi ymdopi gyda chyfnod anodd y pandemig… Ymdopi - To cope Cynffon - Tail Heb os nac oni bai - Without doubt Andros o anodd - Terribly difficult Bywyd gwyllt - Wildlife Ar gyrion - On the outskirts Ffodus - Lwcus Deutha chi - Dweud wrthoch chi Yn llythrennol - Literally Goroesi - To survive Dros Ginio - Edwina Williams Iolo Williams yn fan’na yn esbonio sut mae o wedi ymdopi gyda chyfnod y pandemig. Dych chi’n gwisgo het? Oes het-fobl yr Urdd gyda chi? Roedd digon o angen het yn ystod tywydd oer yr wythnosau diwetha, ond ydy gwisgo het wedi dod yn rhywbeth ffasiynol erbyn hyn? Dyma farn Edwina Williams Jones ... Cynllunydd - Designer Dilledyn ymarferol - A practical clothing Toreth - An abundance Crasboeth - Boiling hot Yn y cysgod - In the shade Achlysuron - Occasions Cefnogaeth - Support Geraint Lloyd - casglu ceir Y cynllunydd Edwina Williams Jones oedd oedd honna’n trafod hetiau gyda Jennifer Jones ar Dros Ginio. Nid hetiau ond hen geir ydy diddordeb Sharon Jones Williams o Bentre Berw ar Ynys Môn. Roedd Geraint Lloyd wrth ei fodd yn sgwrsio gyda hi a chlywed am hanes yr hen Mercedes sy gan y teulu Cau - To refuse Miri - Fuss Gynnau - A moment ago Tyrchu - To rummage (y)myrraeth - Curiosity Chwilota - To search for Dewi Llwyd - Osian Roberts Hanes diddorol Mercedes Sharon o Bentre Berw oedd hwnna, ar raglen Geraint Lloyd. Osian Roberts oedd gwestai pen-blwydd Dewi Llwyd wythnos diwetha. Fe yw cyfarwyddwr technegol tîm pêl-droed cenedlaethol Moroco, swydd fuodd e’n ei gwneud gyda thîm pêl-droed Cymru yn y gorffennol. Ond fel clywon ni yn y sgwrs gyda Dewi mae gan Osian sgiliau y tu hwnt i fyd y bêl… Cyfarwyddwr technegol - Technical Director Y tu hwnt - Beyond Fy ngorwelion i - My horizons Digrifwr - Comedian Llefaru - To recite Trin geiriau - To have a way with words Sbïo - Edrych Siarad cyhoeddus - Public speaking Datblygu - To develop
3/5/202114 minutes, 45 seconds
Episode Artwork

Pigion y Dysgwyr 26ain Chwefror 2021

S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … Vicky Jones - Trystan ac Emma Roedd Vicky Jones o Benmaenmawr yn digwydd bod yn sgwrsio gyda Trystan ac Emma am wneud cacennau pen-blwydd, a dyma hi’n digwydd sôn am gwsmeriaid enwog iawn brynodd gacennau ganddi hi’n ddiweddar... Yn ddiweddar - Recently Digwydd bod - Happened to be Pobi - To bake Tra bo nhw - While they were Baner - Flag Neidr - Snake Mwydod - Worms Bethan Clements - Sioe Frecwast Vicky yn amlwg wedi gwneud argraff dda iawn ar griw ‘I’m a Celebrity’ gyda’i chacennau arbennig. Y sylwebydd chwaraeon, Bethan Clement oedd yn ateb cwestiynau cocadwdl-ydw ar raglen Huw Stephens wythnos diwetha. Dyma ffordd arbennig Huw o ddod i nabod ei westeion yn well – mae’n rhaid iddyn ateb bob cwestiwn gyda cocadwdl- ydw neu wrth gwrs cocadwdl- nac ydw ! Argraff dda iawn - A very good impression Sylwebydd - Commentator Y brenin - The king Taten bôb - Baked potato Ail-agor - To re-open Digon têg - Fair enough Gohebu - Commentating Eilyddion - Substitutes Twymo lan - Warming up Anwybyddu fi’n llwyr - Totally ignoring me Ymddihero - To apologise Gary Slaymaker - Dros Ginio Bethan Clements oedd honna’n cocadwdl-dw-io gyda Huw Stephens. Mae 30 mlynedd ers i’r ffilm Silence of the Lambs gael ei rhyddhau a buodd Vaughan Roderick a Gary Slaymaker yn trafod y ffilm ar Dros Ginio. Pa mor dda oedd y ffilm mewn gwirionedd – ydy hi’n un o’r goreuon? Dyma i chi flas ar y sgwrs Rhyddhau - To release Arswyd - Horror Cynnil - Subtle Creulon - Cruel Ymhlith - Amongst Os dymunwch chi - If you wish Llofryddion cyfres - Serial Killers Llwyddiant - Success Gweddill ei oes - The rest of his life Ebychiad - A gasp Sugno’r awyr - Sucking the air Anwen Davies a Nicola Cook - Dwy Fam a Dau Dad Wel mae’n swnio fel bod Anthony Hopkins wedi mwynhau arswydo pawb, on’d yw hi? Ar y rhaglen Dwy Fam a Dau Dad, clywon ni stori Anwen Davies, neu Nicola Cooks, oedd yn dod o Ystalyfera yn wreiddiol cyn iddi hi gael ei mabwysiadu gan deulu o’r Barri a chael enw newydd. Fel y clywon ni ar y rhaglen, er bod teulu newydd Anwen wedi bod yn agored iawn gyda hi, roedd ganddi gwestiynau o hyd am amgylchiadau ei mabwysiadu. Mabwysiadu - To adopt Amgylchiadau - Circumstances Rhieni maeth - Foster parents Croesawu - To welcome Cynnwys - Contents Ynglŷn â - About Cyfrinachau - Secrets Dewi Llwyd - Mei Emrys Cofiwch os dych chi eisiau gwybod mwy am stori Anwen dych chi’n gallu gwrando ar y rhaglen yn llawn ar Radio Cymru ar BBC Sounds. Mei Emrys oedd yn edrych drwy papurau’r penwythnos ar raglen Dewi Llwyd ac roedd sôn yn un o’r papurau am bêl-droedwyr enwoca Cymru – Gareth Bale. Ydy Bale cystal chwaraewr nawr ag oedd e’n arfer bod? Dyma farn Mei a Dewi …. Cewri’r gorffennol - Past giants Ar fenthyg - On loan Ail-danio ei yrfa - Rekindle his career Ddim yn ymddiried - Doesn’t trust Gwrthodedig - Rejected Alltud - Exiled Cynghrair y Pencampwyr - Champions League Cyfraniad - Contribution Cydymdeimlo - Sympathy Aled Hughes - Beca Brown Ac ar y gair, sgoriodd Bale gôl anhygoel i Spurs yn Ewrop wythnos diwetha. Mae’n debyg bod nifer o bobl wedi mabwysiadu cŵn dros y cyfnod clo ac un o’r rheini ydy Beca Brown. Dyma hi’n sôn wrth Aled Hughes sut aeth hi ati i fabwysiadu milgi o Iwerddon Milgi - Greyhound Heriau - Challenges Croesfrid - Mongrel Peri braw mawr - To cause a huge fright Mor ddiethr â’i gilydd - As unfamiliar as each other Ymdebygu - To resemble Yr awydd i hela - The urge to hunt Hyfforddwyr - Trainers Milfeddygon - Vets Gwobrwyo’r ymddygiad - To reward the behaviour Yn y bôn - Essentially
2/26/202114 minutes, 27 seconds
Episode Artwork

Pigion y Dysgwyr 18fed Chwefror 2021

S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … Dros Ginio - Anthony Evans Morgi a Draenog y Môr- dyn nhw dim yn swnio’n ddeniadol iawn nac ydyn, er eu bod yn bysgod blasus iawn. Mae pysgotwyr yng Nghernyw eisiau newid enwau eu pysgod er mwyn iddyn nhw swnio’n fwy lleol a deniadol. Ddylai ni wneud yr un peth yng Nghymru? Dyma farn y cogydd Anthony Evans yn sgwrsio gyda Vaughan Roderick… Morgi - Dogfish Draenog y Môr - Sea Bass Pwysleisio - To emphasise Cregyn gleision - Mussels Cynnyrch - Produce Moethus - Luxurious Croen - Skin Papur tywod - Sandpaper Dros Frecwast - Cledwyn Ashford Y cogydd Anthony Evans oedd hwnna yn meddwl dylid newid enwau rhai o‘r pysgod sy’n cael eu dal yng Nghymru. Mae ychydig bach o Hollywood wedi cyrraedd Wrecsam gyda’r newyddion bod yr actorion Ryan Reynolds a Rob McElhenney wedi prynu’r clwb pêl-droed. Mae ffans y clwb wrth eu boddau a dyma un ohonyn nhw, Cledwyn Ashford, yn sgwrsio gyda chriw Dros Frecwast am y newyddion cyffrous Dylanwad - Influence Y gymuned - The community Anhygoel - Incredible Perchnogion - Owners Dyled - Debt Sicrhau pryniant - To clinch the purchase Buddsoddi - To invest Ieuenctid - Youth Ysbryd - Spirit Troi’r Tir - Emyr Lewis ..a nawr symudwn ni o bêl-droed i rygbi ac roedd Cymru’n chwarae yn erbyn yr Alban ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad y penwythnos diwetha. Ar Troi’r Tir yr wythnos diwetha, clywodd Terwyn Davies hanes ffermwr o ganolbarth Cymru sy bellach yn ffermio yn yr Alban. Pwy oedd e’n ei gefnogi yn y gêm fawr tybed? Pencampwriaeth y Chwe Gwlad - Six nations Y Canolbarth - Mid Wales Sir Drefaldwyn - Montgomeryshire Rheolwr - Manager Gradd amaeth - A degree in agriculture Sioe Frecwast - Emyr Lewis Gan ein bod ni newydd fod ym myd amaeth beth am i ni sôn am y Tarw – na nid yr anifail fferm ond Emyr Lewis oedd yn arfer chwarae fel rhif wyth i Lanelli ac i Gymru. Cafodd e’r enw tarw achos ei rediadau cryf fel wythwr yn torri drwy’r gwrthwynebwyr ond roedd dawn cicio ganddo hefyd fel buodd e’n sôn wrth Daf a Caryl… Rhediadau - Runs Gwrthwynebwyr - The opposition Cryn dipyn o bwysau - Quite a lot of pressure Digwydd bod - As it happens Asgell - Wing Buddugoliaethau - Victories O’ch plaid chi - In your favour Cenhedlaeth - Generation Cerddorol - Musical Unigryw - Unique Gwneud Bywyd yn Haws - Cerys Davage Ac mae Emyr Lewis yn sylwebu ar holl gemau Cymru yn y Chwe Gwlad ar Radio Cymru. Un o effeithiau’r cyfnod clo yw nad yw hi wedi bod yn bosib mynd i wrando ar gerddoriaeth fyw. Mae’n debyg bod hyn wedi effeithio ar bobl ifanc yn fwy na neb. Ar Gwneud Bywyd Yn Haws, cafodd Hanna Hopwood sgwrs am hyn gyda Cerys Davage sydd ar ei hail flwyddyn ym Mhrifysgol Aberystwyth … Sylwebu - To commentate Cymdeithasol - Social Gweld eisiau - To miss Bloc Llety - Residential block Mae e wir yn drueni - It’s a real shame Yn gyfarwydd iawn - Very familiar Dathlu - To celebrate Cyfryngau cymdeithasol - Social media Bore Cothi - Aled Llyr Gruffudd Cerys Davage o Brifysgol Aberystwyth oedd honna’n sôn am sut mae'r cyfnod clo wedi effeithio ar fywyd cymdeithasol myfyrwyr. Enillodd Aled Llŷr Gruffudd wobr yn ddiweddar am un o’i ffilmiau, a gofynnodd Shan Cothi iddo fe sut cafodd e’r syniad am y ffilm...... Gwobr - Award Pwnc - Subject Galar - Bereavement Nain - Mam-gu Gwacter - Emptiness Di-nod - Pointless Ysbrydoli - To inspire
2/19/202149 seconds
Episode Artwork

Pigion y Dysgwyr 12fed Chwefror 2021

S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … TROI’R TIR Roedd gêm gynta Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn un gyffrous iawn gyda Chymru yn ennill o bum pwynt yn unig. Pwy tybed oedd Gwenan Morgan Lyttle yn ei gefnogi dydd Sadwrn gan ei bod hi bellach yn byw yng Ngogledd Iwerddon ac wedi priodi Gwyddel? Dyma i chi glip o Gwenan yn sgwrsio gyda Terwyn Davies ar Troi Tir Pencampwriaeth y Chwe Gwlad - Six Nations Championship Cefnogi - To support Gwyddel - An Irishman Gwartheg - Cattle Tad-cu - Taid Bugail - Shepheard Yn y gwaed - In the blood Y Weriniaeth - The Republic Hwyluso - To facilitate Ar y ffin - On the border DANIEL GLYN AC ELLIW GWAWR Dw i’n siŵr bod Gwenan yn hapus iawn dydd Sadwrn ar ôl i Gymru guro’r Iwerddon. Y newyddiadurwraig Elliw Gwawr oedd gwestai Daniel Glyn ar y sioe Frecwast dros y penwythnos. Dyma hi’n sôn am sut mae’r blynyddoedd diwetha wedi bod yn rhai diddorol iawn iddi hi… Newyddiadurwraig - Female journalist Anghyffredin - Uncommon Prif Weinidogion - Prime Ministers Llywodraethu - To govern Newid enfawr - A huge change Llywodraeth Cymru - The Welsh Government Anhygoel - Incredible San Steffan - Westminster Cyn lleied â - As little as Gwefannau cymdeithasol - Social media Diddiolch - Thankless TATŴS TRYSTAN AC EMMA Elliw Gwawr oedd honna’n sôn am waith newyddiadurwraig wleidyddol yn ystod y blynyddoedd prysur diwetha. Ar ôl i Brooklyn Beckham, y model sy’n fab i David a Victoria Beckham, gael tatŵ arall i ychwanegu at yr holl ink sy ar ei gorff, cafodd Trystan ac Emma sgwrs gydag Elin Mai o Lanberis sy hefyd yn dipyn o ffan o datŵs… Na fo - Dyna fe/fo Uniaethu - To empathise Wastad - Always Ymhelaethu - To expand Ysgogi - To inspire GWEN SGWRS YR HET Hanes tatŵs Elin Mai yn fan’na ar raglen Trystan ac Emma. Mae het Geraint Lloyd wedi teithio ar draws Gymru wrth i un gwrandäwr ei phasio at wrandäwr arall. Yr wythnos diwetha roedd yr het wedi cyrraedd Castell-Nedd a dyma Geraint yn holi perchennog newydd yr het - Gwen… Ymgymryd â her - Taking up a challenge Elusen - Charity Elwa - To benefit Gwledd - A feast FFION DAFIS Gwen o Gastell-Nedd oedd honna, yn sôn am ei hetiau. Roedd gan yr actores Ffion “gwallt” Dafis ddewis anodd iawn i’w wneud yn ddiweddar - parhau i actio rhan Alwenna yn y gyfres boblogaidd Rownd a Rownd neu wneud cyfres newydd o’r ddrama boblogaidd ‘Byw Celwydd’. Hi oedd gwestai penblwydd Dewi Llwyd dydd Sul gan ei bod yn dathlu ei phenblwyddd yn hanner cant. Dyma hi’n esbonio wrth Dewi pam gwnaeth hi ddewis ‘Byw Celwydd’… Cyfres - Series Yn werthfawrogol iawn - Very appreciative Pryderus - Worried Cyfuniad - A combination Troi a throsi - Tossing and turning Anwyldeb - Affection Yn wythnosol - Weekly Magwraeth - Upbringing FY STORI I - DEWI TUDUR Penderfyniad anodd iawn yn fan’na i Ffion Dafis. Mewn rhaglen arbennig o’r enw Fy Stori i, glywon ni hanes yr artist Dewi Tudur sydd yn byw yn yr Eidal erbyn hyn. Yn y rhaglen clywon ni ei fod wedi cael cyfnodau trist iawn yn eu fywyd ond yn y clip yma dyma fe’n sôn am ddigwyddiad hapus iawn newidiodd ei fywyd yn llwyr… Cyfeillgarwch - Friendship Gwas y Neidr - Dragonfly Selio - Based Diniweidrwydd - Innocence Cynhyrchwyr - Producers Dyma fi’n digwydd - I happened to Ro’n i wedi gwirioni - I was delighted Unig ac anial - Lonely and desolate
2/12/202116 minutes, 4 seconds
Episode Artwork

Pigion Dysgwyr 5ed Chwefror 2021

S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … Steffan Cennydd Os oeddech chi’n un o’r miliynau wyliodd y gyfres The Pembrokeshire Murders ar ITV yn ddiweddar, efallai eich bod chi’n cofio cymeriad mab y ditectif DCI Steve Wilkins. Luke Evans oedd yn chwarae rhan y ditectif a Steffan Cennydd o Gaerfyrddin oedd yn chwarae rhan y mab. Dyma i chi flas ar sgwrs gafodd Caryl a Daf gyda Steffan ar eu rhaglen yr wythnos yma Mwya llwyddiannus - Most successful Golygfa - Scene Gyferbyn â - Opposite to Mae’n fyd enwog - He’s world famous Egni - Energy Rhwydd - Hawdd Derwen - Oak Marian Brosschot Steffan Cennydd oedd hwnna ac roedd e’n amlwg wedi mwynhau cymryd rhan yn The Pembrokeshire Murders. Mae Marian Brosschot yn diwtor Cymraeg i Brifysgol Bangor a buodd hi'n dysgu Cymraeg ym Mhatagonia y llynedd. Mae hi’n rhugl mewn Cymraeg, Saesneg, Iseldireg a Sbaeneg ac mae hi nawr yn dysgu Daneg. Pwy well felly i roi cynghorion ar ddysgu iaith. Dyma ambell i gyngor rannodd hi ar raglen Aled Hughes wythnos diwetha. Gofynnodd Aled iddi hi oedd canu yn ffordd dda o ddysgu iaith… Iseldireg - Dutch Daneg - Danish Ystyr dyfnach - A deeper meaning Arwynebol - Superficial Llythrennol - Literal Trwytho - To saturate Dywediadau - Sayings Chdi - Ti Wsos - Wythnos Ynganiad - Pronunciation Am w’n i - As far as I know Jonathan Simcock Rhywun sy wedi llwyddo i ddysgu Cymraeg yn rhugl ydy Jonathan Simcock, er ei fod yn byw yn Derby. Mae Jonathon wedi bod yn trefnu clwb a gwersi Cymraeg i ddysgwyr ardal Derby a Nottingham ers blynyddoedd. Cafodd Shan Cothi sgwrs gydag e ar Bore Cothi a gofynnodd hi i Jonathon sut oedd Cylch Dysgwyr Derby a Nottingham wedi ymdopi â’r cyfnod clo… Ymdopi - To cope Arferol - Usual Tu hwnt - Beyond Ymhlith - Amongst Alltud - Exiled Cerdd - Poem Offeryn - Instrument Cymunedol - Community Llawen - Merry Llion Thomas Felly os dych chi’n barod i gymryd rhan yn y noson lawen cysylltwch â Jonathon Simcock, dw i’n siŵr basai’n falch iawn o glywed gennych. Mae gan Llion Tomos o Ynys Môn gi talentog iawn o’r new Max – fel clywodd Emma a Trystan ar eu rhaglen fore Gwener… Dallt - Deall Sillafu - To spell Cawn ni weld - We’ll see Aballu - And so on Gwenith Evans Wel dyna ni berfformiad perffaith i noson lawen Cylch Derby – Llion rhaid i chi gysylltu â Jonathon Simcock! Therapydd cerdd ydy Gwenith Evans o Benparc ger Aberteifi, a buodd hi’n gweithio yn Seland Newydd tan tua dau fis yn ôl ond erbyn hyn mae hi’n byw yng Nghymru unwaith eto. Dyma hi’n sôn ychydig wrth Hanna Hopwood Griffiths am ei phrofiad yn Seland Newydd yn ystod y pandemig… Ffodus - Fortunate Eitha clou - Quite quickly Llond llaw - Handful Dihunais i - Wnes i ddeffro Rhyddid - Freedom Ffaelu - Methu Sa i’n siŵr - Dw i ddim yn siŵr Aeron Pughe Hanes y cyfnod clo yn Seland Newydd yn fan’na ar y rhaglen Gwneud Bywyd yn Haws. Mae priodi yng nghefn gwlad Cymru yn gallu bod yn rhywbeth peryglus iawn yn ôl yr hanesion glywon ni ar Troi’r Tir. Dyma i chi Aeron Pughe o Gomins Coch ger Machynlleth i ddechrau yn rhoi hanes ei briodas e… Drygioni - Mischief Gwas priodas - Best man Cwmpodd y goeden - The tree fell Llanast - Mess Budreddi - Dirt Yn enedigol o - A native of Fawr ddim cwsg - Hardly any sleep Traddodiad - Tradition Rhaffau - Ropes Groes yr heol - Ar draws y ffordd
2/5/202116 minutes, 53 seconds
Episode Artwork

Pigion y Dysgwyr 29ain Ionawr 2020

S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … OWAIN TUDUR JONES Y cyn bêl-droediwr Owain Tudur Jones oedd gwestai Lisa fore Sul. Enillodd Owain saith cap pêl-droed dros Gymru ac mae e nawr yn sylwebu ar gemau pêl-droed ar ran S4C. Ond am ei ddiddordeb mawr mewn dringo mynyddoedd Eryri buodd e’n sôn wrth Lisa. Dyma i chi flas ar y sgwrs… Sylwebu - To commentate Sbïo - Edrych Gwerthfawrogi - To appreciate Golygfeydd - Views Her - A challenge Curiad y galon - The heartbeat Cynyddu - Increasing Datblygu - Develops Adnabyddus - Well known Ysfa - Urge Gofal biau hi - Take care TRYSTAN AC EMMA Owain Tudur Jones oedd hwnna’n sôn am ei hoffter o fynydda. Sut mae gwneud y baned berffaith? Dyma farn Eirlys Smith o Gaffi Paned Pinc yn Llangadfan ynm Mhowys ar raglen Trystan ac Emma… Llaeth - Llefrith Tywallt - To pour Ymdrech - Effort Llesol - Beneficial Dail te - Tea leaves Amgylchedd - Environment Euog - Guilty CLIP BWYD YN HAWS Tebot a dail te amdani felly! Mae llawer iawn ohonon ni’n gweithio o’n cartrefi y dyddiau hyn, sydd yn gallu bod yn dipyn o her o dro i dro. Gofynnodd Hannah Hopwood Griffiths i’w gwrandawyr am gynghorion gweithio o gartre. Dyma oedd rhai o’u tips nhw! Ardal penodol - A specific area Yn llythrennol - Literally Cymudo - To commute Diffodd - To switch off Yr holl synhwyrau - All the senses Ar bwys - Wrth ymyl Egni - Energy Ddim yn tycio - Doesn’t succeed TROI’R TIR Digon o ‘dips’ yn fan’na ar sut i wneud gweithio o gartre’n fwy pleserus. Ar Troi’r Tir yr wythnos yma clywon ni hanes cwpwl o Sir Drefaldwyn sy'n ffermio ac yn tyfu madarch yn ardal Llanerfyl ym Mhowys. Dyma Gwenllian yn esbonio sut dechreuon nhw gyda’r fenter newydd Madarch - Mushrooms Prif Weithredwr - Chief Executive Dirgelwch ac arbrawf - A mystery and experiment Cyfeillgarwch - Friendship Awyddus i arallgyfeirio - Eager to diversify Madarch wystrys - Oyster mushrooms Llwch llif - Sawdust Ffwrn fawr ddiwydiannol - A large industrial oven Cyfandirol - Continental Perlysiau - Herbs RHYS MEIRION Hanes menter tyfu a gwerthu madarch yn fan’na ar Troi’r Tir. Bob bore Gwener ar RC2 mae Huw Stephens yn dod i nabod ei westeion drwy ofyn nifer o gwestiynau iddyn ac mae’n rhaid ateb y cwestiynau drwy ddweud ‘cocadwdl-ydw’ neu ‘cocadwdl-nac ydw’. Y canwr enwog Rhys Meirion oedd yn ateb y cwestiynau wythnos yma Dychmygwch - Imagine ‘Sti - You know CLIP ANNES POST CYNTAF Rhys Meirion yn gwerthu hufen ia, pwy fasai’n meddwl? Does dim byd gwell ar benwythnos na chael brecwast llawn wedi ei goginio, a gwell byth os mai rhywun arall sydd wedi ei goginio fe. Yr actores Annes Elwy soniodd wrth Kate Crocket ar y Post Cynta sut mae hi wedi arallgyfeirio yn ystod y cyfnod clo drwy goginio brecwast a’i gludo i dai ei chwsmeriaid... Cludo - To carry Yn raddol bach - Gradually Be yn y byd - What on earth Yn dawel bach - Without much ado Lledaenu - To spread Yn y pendraw - In the end Fy nghynnal i - Keeps me going Gwahaniaethu - To distinguish Bywoliaeth - Livelyhood
1/29/202116 minutes, 7 seconds
Episode Artwork

Pigion y Dysgwyr 21ain Ionawr 2020

S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … AR Y MARC Mae Luke Williams o Stafford wedi dechrau cyfrif Twitter, Pêl-droed 5 munud - @PD5Munud, i helpu pobl ddysgu Cymraeg – a hynny drwy ddefnyddio eu cariad tuag at bêl-droed. Cafodd Dylan Jones air gyda Luke ar Ar y Marc Dechreuwr - Beginner Canolradd - Intermediate Parhau - To continue Barnau - Opinions Cyfle - Opportunity Gwelliannau - Improvements BYWYD YN HAWS Blog Cymraeg i ddysgwyr sy’n licio pêl-droed – da iawn Luke - am syniad gwych. Hana Hopwood Griffiths oedd yn gofyn beth sy'n gwneud bywyd yn haws i Sophie Richards, ond am gyfnod doedd ei bywyd hi ddim yn hawdd o gwbl. Buodd Sophie am flynyddoedd yn diodde o boenau yn ei bol ac ar ei brest a doedd y meddygon ddim yn siŵr beth oedd yn bod arni hi. Yn y diwedd cafodd hi ddiagnosis ei bod hi’n diodde o’r cyflwr endometriosis ac mae hi erbyn hyn yn cynnal blog i helpu merched sy’n diodde o’r un cyflwr. Dyma Sophie’n dweud yr hanes… Am gyfnod - For a period Brest - Chest Diodde(f) - Suffering Cyflwr - Condition Bant - I ffwrdd Tyfu lan - Growing up Oddi ar y triniaeth - since the treatment COFIWCH DRYWERYN Sophie Richards oedd honno, sy’n cynnal blog i helpu merched sy’n diodde o’r cyflwr endometriosis. Dw i’n siŵr eich bod wedi gweld y slogan ‘Cofiwch Dryweryn’ ar waliau ar hyd a lled Cymru ac ar sticeri ceir hefyd. Cafodd y slogan gwreiddiol ei beintio ar wal ar yr A487 ger Llanrhystud yng Ngheredigion ac ar Cofio yr wythnos diwetha cyfaddefodd yr academydd Meic Stephens wrth Beri George mai fe beintiodd y geiriau eiconig hynny yn y chwedegau a hynny pan oedd e’n dysgu Cymraeg… Cyfaddefodd - Admitted Y ddelwedd - The image Darganfod - To discover Ledled - Throughout LISA GWILYM Meic Stephens yn cyfadde anghofio’r treiglad meddwl wrth beintio slogan enwoca’r Gymraeg! Dych chi wedi gwneud addunedau blwyddyn newydd eleni, ac os felly dych chi wedi llwyddo i’w cadw nhw hyd yn hyn? Yn yr Ysgol Sul ar raglen Lisa Gwilym ddydd Sul – edrychodd hi’n ôl ar hanes traddodiad gwneud addunedau… Addunedau Resolutions Mynychu Attend Cyhydnos y gwanwyn Spring Equinox Sicrhau To ensure Yn fwy tebygol More likely Dyled Debt (G)addo dychwelyd promise to return Y Rhufeiniaid The Romans Hynafol Ancient Crefyddol Religous Diwylliant Culture Yn benodol iawn Very specific DROS GINIO Dyma i chi adduned blwyddyn newydd gwych- dwedwch wrth unrhyw ddysgwr dych chi’n ei nabod i wrando ar y podlediad hwn, ac ar bodlediadau Cymraeg eraill wrth gwrs! Mam a mab – Jên a Dylan Ebenezer oedd gwesteion Dau Cyn Dau Dewi Llwyd ar Dros Ginio. Mae Dylan a’i dad Lyn yn ffans mawr o dîm Arsenal, sut oedd hyn wedi effeithio ar ei bywyd fel teulu tybed? Wedi gwirioni - Mad about Agwedd - Attitude Hunllef - Nightmare Ei grud e - His cradle Profiad poenus - A painful experience Rhwydo - To ensnare Gwadu - To deny Gwarchod - To babysit Dad-cu - Taid Cyswllt - Connection Brechlyn - Vaccine TRYSTAN AC EMMA Gobeithio bydd Jên fel sawl mam-gu, neu nain, yn cael gweld eu hwyrion yn y dyfodol agos on’d ife? Dych chi’n ffan o Dr Who, beth ydy’ch barn chi o Jodie Whitaker fel y Doctor a phwy sech chi’n licio ei weld fel y Dr Who nesa? Dyma oedd barn y super-fan Harry Coles ar raglen Trystan ac Emma… Cymuned enfawr - A huge community Dilyniant - A following Cyfres - Series Sibrydion - Whispers Camu mewn - To step in Paid â dweud - You don’t say Yn dy dyb di - In your opinion Cymeriad - Character Sirioldeb - Cheerfulness
1/22/202114 minutes, 35 seconds
Episode Artwork

Pigion y Dysgwyr 15fed Hydref 2020

S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …” Ffion Emyr a Tim …ga i ddymuno blwyddyn newydd dda i chi gyd, ac ar ddechrau’r flwyddyn newydd, cafodd Ffion Emyr sgwrs gyda Tim, sy’n dod o Fethesda yng Ngwynedd yn wreiddiol ond sy erbyn hyn yn byw yn Fflorida. Cwestiwn cynta Ffion i Tim oedd ers pryd mae e’n byw yn Fflorida… Di mopio efo’r lle - Wedi dwlu ar y lle Fatha - Fel (yr un fath â) Diodydd - Drinks Beti George a Mark Drayford Coctêls arbennig Betesda yn fan’na …yr holl ffordd o Fflorida. Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford oedd gwestai Beti George yr wythnos diwetha ac yn y clip yma mae e’n sôn am yr adeg gwnaeth e ddysgu siarad Cymraeg yn rhugl… Prif Weinidog - First Minister Tad-cu - Grandfather Cwrdd gyda - Cyfarfod efo O ddifri - Seriously Llywodraeth - Government Degawd - Decade Datganoli - Devolution Cyfleon - Opportunities Canolbwyntio - To concentrate Dwyieithog - Bilingual Elis James a Dafydd Iwan Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, oedd hwnna yn sgwrsio gyda Beti George. Ond a ddylen ni gredu beth mae gwleidyddion yn ei ddweud wrthon ni? Dw i ddim yn siŵr ar ôl gwrando ar Dafydd Iwan, oedd yn siarad gyda Ellis James y rhaglen – Dwy Iaith Un Ymennydd Gwleidyddion - Politicians Ymennydd - Brain Beirniadu - To criticise Dweud celwydd - Lying Anwiredd - Untruth Y gwirionedd - The truth Celu - To conceal Rhoi’r argraff - To give the impression Esgus - To pretend Cydymdeimlo - To sympathize Osgoi cyfadde - To avoid admitting Nigel Owens Nid dweud celwydd ond bod yn rhy onest oedd bachgen bach wrth siarad gyda’r dyfarnwr rygbi Nigel Owens fel y cawn ni glywed yn y clip nesa pan oedd Nigel ateb cwestiwn Angharad Mair iddo fe sef o’r holl gêmau mae o wedi eu dyfarnu pa rai sydd yn aros yn y cof… Dyfarnwr - Referee Rownd derfynol - Final Chwe Gwlad - Six Nations Yn cynnwys - Including Gwynebau - Faces Crwtyn bach - Bachgen bach Becso - Poeni Achlysur - Occasion Carys a Meryl Angharad Mair oedd honna yn cyflwyno rhaglen Aled Hughes ac yn sgwrsio gyda Nigel Owens sy newydd ymddeol o ddyfarnu gêmau rygbi. Carys Eleri a Meryl Evans, mam a merch o’r Tymbl yn Sir Gaerfyrddin, oedd gwesteion Dau Cyn Dau Catrin Heledd ar Dros Ginio yr wythnos diwetha a dyma nhw’n sôn am sut maen nhw wedi ymdopi gyda’r cyfnod clo Y cyfnod clo - The lockdown Gwefannau cymdeithasol Social media Unigrwydd - Loneliness Ymgymryd â her - Undertaking a challenge Presenoldeb - Presence Agosáu - To become closer Yr aelwyd - The home Ysgrifenyddes - Secretary (female) Cetra Bore Cothi Carys Eleri a Meryl Evans, mam a merch o’r Tymbl sy’n amlwg wedi mwynhau cwmni ei gilydd yn ystod y cyfnod clo. Mae Cetra Coverdale Pearson yn dod o swydd Stafford yn wreiddiol ond yn byw yn ardal Derby erbyn hyn, ond fel cawn ni glywed o’r sgwrs hon gyda Shan Cothi, mae hi wedi dysgu Cymraeg yn arbennig iawn a hynny mewn ychydig dros flwyddyn. Dyma hi’n esbonio ar Bore Cothi pam penderfynodd hi ddysgu’r iaith a sut aeth ati i wneud hynny… Anhygoel - Incredible Cwympo mewn cariad - To fall in love Y cam cynta - The first step Sylw - Attention Ro’n i’n synnu - I was surprised
1/15/202115 minutes, 24 seconds
Episode Artwork

Pigion y Dysgwyr 25ain Rhagfyr 2020

S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …” DROS GINIO … gadawodd Jessy y band Little Mix achos ei hiechyd wythnos diwetha. Buodd Vaughan Roderick yn sôn am hyn gyda Lloyd Macey, cyn gystadleuwr yr X-Factor, ar un o raglenni Dros, a buon nhw’n trafod hefyd y pwysau mawr sy ar bobl yn llygaid y cyhoedd,. Pwysau - Pressure Llygad y cyhoedd - The public eye Sylwadau - Comments Cystadleuwyr - Competitors Creulon - Cruel So nhw’n gadael - Dyn nhw ddim yn gadael Ymateb - Response Pydew - Well Gwenwynig - Poisonous Cyfathrebu - To communicate Beirniadu - To criticise ALED HUGHES Lloyd Macey oedd hwnna’n sôn wrth Vaughan Roderick am y pwysau sy ar bobl yn llygad y cyhoedd y dyddiau hyn. Wnaethoch chi sylwi ar seren ddisglair iawn yn yr awyr wythnos yma? Ai dyma oedd y seren mae sôn amdani yn Stori’r Geni tybed? Dyma farn y ffisegwr Aled Illtud oedd yn trio ateb cwestiwn mawr Aled Hughes yr wythnos yma 'Wnaeth seren y Nadolig ymddangos go iawn?'… Seren ddisglair - A sparkling star Stori’r Geni - The nativity Y dynion doeth - The wise men Sadwrn - Saturn Ffrwydro - To explode Egni - Energy Tasgu - To spill Bydysawd - The universe Egni - Energy PAPURAU DEWI LLWYD Aled Illtyd ac Aled Hughes oedd y rheina’n trafod seren Bethlehem. Glenda Jones a Prysor Williams oedd yn adolygu’r papurau ar raglen Dewi Llwyd fore dydd Sul a dyma i chi flas ar eu sgwrs ble maen nhw’n trafod beth sy’n boblogaidd i’w brynu y Nadolig hwn… Adolygu - Reviewing Yn ôl - According to Mynd lan - Codi Gwin wedi’i fwydo - Mulled wine Gwerthfawrogiad - Appreciation Gwerthiant - Sales Tu fas - Outside Rhybudd - Warning Iawndal - Compensation Addurniadau - Decorations Ansawdd - Quality DAF A CARYL Glenda Jones a Prysor Williams yn fan’na yn trafod beth sy’n boblogaidd y Nadolig yma. Mae’n debyg bod beiciau yn boblogaidd iawn hefyd gyda llawer mwy o bobl yn eu defnyddio ers y cyfnod clo, ond fydd yna newid yn y math o feiciau mae pobl yn eu prynu y dyddiau hyn tybed? Dyma i chi farn Marc Real ar y Sioe Frecwast gyda Daf a Caryl fore Mawrth. Amgylchiadau - Situations Ail-feddwl - To rethink Anferthol - Huge Galluogi - To enable Anhygoel - Incredible Cynnydd - Increase Serth iawn - Very steep Chwysu - Sweating TROI’R TIR Ond nid e-feic fydd gan Sion Corn i deithio o amgylch y byd wrth gwrs ond ceirw, a Rhian Tyne fuodd yn sôn wrth Terwyn Davies ar Troi’r Tir am gadw ceirw ym Mhen Llŷn… Ceirw - Deer Paratoi’r caeau - Preparing the fields Uchder - Height Trîn - To treat Fatha - Yr un fath â Unigrywder - Uniqueness Silwair - Silage Glaswellt - Grass NADOLIG RADIO CYMRU Rhian Tyne oedd honna’n sôn am geirw Pen Llŷn. Gan ein bod mewn cyfnod clo arall dros y Nadolig beth gwell na chael Radio Cymru yn gwmni i chi. Dyma i chi flas o’r hyn gallwch ei glywed ar yr orsaf dros yr Ŵyl… Yr orsaf - The station I’ch aelwyd chi - To your home Naws y Nadolig - The Christmas spirit Cerddorfa Genedlaethol - National Orchestra Oedfa - Religous service Seren lachar - A bright star Ynghyd - Together .
12/25/202013 minutes, 28 seconds
Episode Artwork

Pigion y Dysgwyr 18fed Rhagfyr 2020

S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … GWNEUD BYWYD YN HAWS Ar y rhaglen Gwneud Bywyd yn Haws mae Hanna Hopwood Griffiths a'i gwestai'n trafod beth sy'n gwneud bywyd yn haws iddyn nhw. Dyma Carys Evans, sy’n dod o Ynys Môn yn wreiddiol ond sydd nawr yn byw yn Sir Fynwy, ac mae hi’n ysgrifennu blog o’r enw Colon Lân , er mwyn rhannu beth wnaeth bywyd ychydig bach yn haws iddi ar ôl iddi gael diagnosis o gansr y coluddyn. Cansr y coluddyn - Bowel cancer Ymwybodol - Aware Parhau - To continue Profion gwaed - Blood tests Rhyw fath o dyfiannau - Some kind of growths Iau - Liver Ymledu - To spread Cadarnhau - To confirm Triniaeth - Treatment Rhannu fy mhrofiadau - To share my experiences STIWDIO Carys Evans oedd honna yn dweud beth wnaeth bywyd yn haws iddi hi ar ôl iddi gael newyddion drwg iawn am ei hiechyd. Wel, mae hi bron yn Nadolig ac felly mae’n siŵr bydd y ffilm ‘The Sound of Music ‘ i’w gweld ar ryw sianel dros y gwyliau. 'Teulu' oedd thema rhaglen wythnos diwetha o Cofio ac yn y clip yma mae Nia Roberts yn sgwrsio gyda Rhys Jones am hanes y teulu Von Trapp sef stori’r sioe gerdd a’r ffilm enwog… Wedi ei seilio ar - Based on Lleianes - Nun Wedi hen godi ei ben - Had long since raised its head Gorthrwm yr Iddewon - The oppression of the Jews Canolbwyntio ar yr agwedd - Concentrating on the aspect Rhyfeddol - Amazing Ddaru nhw gynhyrchu - They produced Gogoniant - The glory Bywyd hollol annibynnol - Totally independent life BORE COTHI Rhys Jones oedd hwnna yn sôn am ‘The Sound of Music’ ar Cofio. Wel, mae na beryg i ni or-fwyta, gor-yfed ac eistedd gormod ar y sofa yn gwylio ffilmiau fel ‘The Sound of Music’ dros y Nadolig on’d oes na? Dyma i chi gynghorion Anna Reich ar sut i gadw’n heini ac yn iach dros y gwyliau… Ymchwiliwch nhw - Research them Tro ar ôl tro - Time after time Cymhleth - Complicated Newid meddylfryd - Change the mindset Cryno - Compact Hallt - Salty Sychedig - Thirsty Chwerw - Bitter HUW STEPHENS Dyna ni felly – jog bach cyn stwffio’r twrci! Trystan ap Owen oedd yn sôn am ffilmiau’r wythnos ar Sioe Frecwast Huw Stephens fore Gwener, felly pa ffilm Nadolig wnaeth Trystan ei hargymell i ni tybed? Argymell - To recommend Nadoligaidd - Christmassy Addas iawn - Very suitable Hud a lledrith - Magic Wedi cael ei leoli - Has been located Ymenydd - Brain Cyfoethog - Rich Troslais - Voiceover Cymeriad - Character Achub - To rescue DROS GINIO Argymhelliad ffilm Nadolig deuluol yn fan’na gan Trystan ap Owen . I lawer ohonon ni, fasai hi ddim yn Ddolig heb y twrci, ond sut flwyddyn mae hi wedi bod i’r rhai sy’n gwerthu twrcwns? Carys Thomas a Sion Jones fuodd yn siarad gyda Jennifer Jones ar Dros Ginio… Llawn mor brysur - Just as busy Trefnus - Organised Archebu - To order Ymdopi - To cope Y fwy cyndyn - More reluctant Yn draddodiadol - Traditionally Coron - Crown Arferion - Habits Rhewgell - Freezer Gwerthiant - Sales STIWDIO Sgwrs am dwrcwns yn fan’na ar beth arall ond Dros Ginio! Wrth i Coronation Street ddathlu 60 mlynedd ar y sgrîn, ar Stiwdio nos Lun buodd Nia Roberts a’i gwestai Dr. Manon Wyn Williams yn ceisio dadansoddi pam fod yr opera sebon wedi parhau’n boblogaidd am gymaint o amser. Dadansoddi - To analyse Gweithgaredd deuluol - A family activity Yn cael ei darlledu - being broadcast Yr holl atgofion - All the memories Cymuned glòs - A close community Dosbarth gweithiol - Working class Cysurus - Comforting Wedi cael ei beirniadu - Has been criticised Delwedd - Image Adlewyrchu - To reflect
12/18/202016 minutes, 10 seconds
Episode Artwork

Pigion y Dysgwyr 12fed Rhagfyr 2020

S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … Daniel Glyn - Connie Orff Y cymeriad drag – Connie Orff, neu Alun Saunders, oedd gwestai Daniel Glyn fore Sadwrn a buodd e’n sôn wrth Daniel am sut dechreuodd Alun berfformio fel y cymeriad ‘Connie Orff’…… Cymeriad - Character Llwyfan - Stage Cynulleidfa - Audience Ffurfiau - Forms Ysgol Glanaethwy - A Welsh language performance school Geraint Lloyd - Llion Jones Hanes y cymeriad drag ‘ Connie Orff’ yn fan’na ar raglen Daniel Glyn. Mae hi wedi bod yn anodd gweudd llawer o bethau yn ystod y cyfnod clo, on’d yw hi? Ac un o’r pethau hynny yw priodi, fel clywon ni gan Llion Jones, sy’n athro Cymraeg, ac oedd wedi gorfod gohirio ei briodas ddwywaith yn ystod y cyfnod… Gorfod gohirio - had to postpone Y pedwerydd ar bymtheg - The 19th Digwydd bod - As it happened Bellach - By now Gwas Priodas - Best man Darlledu’n fyw - To broadcast live Yn rhithiol - Virtually Yn gorfforol - Physically Dathliad - Celebration Dros Ginio - Elinor Wyn Reynolds Llongyfarchiadau i’r ddau ohonyn nhw a gobeithio cân nhw gyfle am ddathliad go iawn yn fuan on’d ife? Faint ohonoch chi sy wedi darllen nofelau ‘Bridgette Jones’ neu wedi gweld y ffilmiau amei bywyd hi? Llawer ohonoch chi dw i’n siŵr. Wyddoch chi bod dau ddeg pump o flynyddoedd wedi bod ers i’r nofel gynta amdani gael ei chyhoeddi? Dyma glip o Jennifer Jones ac Elinor Wyn Reynolds ar Dros Ginio yn dathlu chwarter canrif y cymeriad Bridgette Jones a’i dyddiadur Yn llythrennol - Literally Yr oriau mân - The early hours Mor hurt - So stupid Arwrol - Heroic Seinio cloch - Sounding a bell Oedd yn taro deuddeg - Which struck a chord Eitha diniwed - Quite innocent Cyfryngau cymdeithasol - Social media Bodoli - To exist Mwyach - By now Yn ddiweddarach - Later on Aled Hughes - Cath Ayers Os ydy Bridgette Jones yn dathlu chwarter canrif, mae Coronation Street dipyn ar y blaen ac ar fin dathlu 60 mlynedd. Mae Cath Ayres wedi actio yn y gyfres a buodd hi’n sôn wrth Aled Hughes am gwrdd a sêr y gyfres pan gafodd ni rôl yn yr opera sebon eiconig. Enwog - Famous Cyffredin - Ordinary Golygfa - Scene Yn gwmws - Exactly Bore Cothi - Meinir Evans Cath Ayres oedd honna’n sôn wrth Aled Hughes am ei phrofiadau’n action yn ‘Coronation Street’. Meinir Evans o gwmni Brownies Hathren oedd gwestai Bore Cothi fore Mawrth a gofynnodd Shan Cothi iddi hi beth oedd arwyddocâd yr enw ‘Hathren’ … Arwyddocâd - Significance Yn y gwaed - In the blood Atgofion melys - Sweet memories Aelwydydd amaethyddol - Agricultural homes Tu fas - Outside Llanw bola - Filling the stomachs Cyndeidiau - Forefathers Nant - Brook Tarddu - To derive Rhys Mwyn - John Gower Ychydig o hanes cwmni Brownies Hathren yn fan’na ar Bore Cothi. Roedd ‘The Clash ‘ yn un o fandiau ‘pync’ cynta Prydain a buodd Joe Strummer, un o aelodau’r band, yn byw yng Nghasnewydd ar un adeg. Tybed oedd e’n berson gwyllt bryd hynny fel y rhan fwyaf o berfformwyr pync? John Gower fuodd yn sôn wrth Rhys Mwyn am y rocyr gwyllt pan oedd yn byw yng Nghymru… Yn ei ugeiniau cynnar - In his early twenties Cynhyrchu - To produce Yn gyson - Regularly Prif leisydd - Lead vocalist Canu gwerin - Folk singing Di-nod - Insignificant Teyrngedu’r ffaith - Attributing the fact Trychinebus - Disastrous Darganfod - To discover
12/11/202015 minutes, 8 seconds
Episode Artwork

Pigion y Dysgwyr 4ydd Rhagfyr 2020

"S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … " ALED HUGHES - RHYS AB OWEN Mae na lawer o bobl yn credu mai rhywbeth newydd yw clywed Cymraeg yn cael ei siarad mewn rhannau o Gaerdydd. Ond mae llyfr Owen John Thomas, The Welsh Language in Cardiff : A history of survival yn dangos bod yr iaith wedi bod yn fyw iawn mewn sawl ardal o’r ddinas yn y gorffennol. Daeth mab yr awdur, Rhys ab Owen, i sgwrsio am y llyfr gydag Aled Hughes a dyma i chi flas ar y sgwrs… Y bedwaredd ganrif ar bymtheg - 19th Century Enghreifftiau - Examples Y mwyafrif llethol - The vast majority Cyfrifiad - Census Yn fanteisiol iawn - Very advantageous Delwedd - Image Canrif yn ddiweddarach - A century later Tu fas - Outside Y dystiolaeth - The evidence Yr Eglwys Newydd - Whitchurch FFION EMYR - SANDRA LLAN Ychydig o hanes y Gymraeg yng Nghaerdydd yn fan’na ar raglen Aled Hughes. Mae gan Ffion Emyr raglen newydd nos Wener ar Radio Cymru, a phob wythnos mae hi’n mynd i ofyn “pwy sy’n gwneud y coctel gorau yng Nghymru?” . Sandra Llan oedd ei gwestai cyntaf…. Mi fydd gynnon ni - Bydd gyda ni Hyd yn oed - Even Brifo - Anafu Nei di’m cofio - Wnei di ddim cofio TRYSTAN AC EMMA - JOHN PRITCHARD Hanes coctels peryglus Llanberis oedd hwnna ar raglen Ffion Emyr. Wel gwnaeth tîm pêl-droed Cymru yn dda yn y gêmau diweddar yn Nghwpan y Cenhedloedd ac ennill dyrchafiad i Grŵp A yn y gystadleuaeth. Ond oeddech chi’n gwybod bod yna dîm Pêl-droed Cerdded Cymru hefyd, a bod y tîm wedi ennill Cwpan y Byd? Beth yn union ydy Pêl-droed Cerdded? Dyna un o gwestiynau Trystan Ellis Morris ac Emma Walford i John Pritchard o Ynys Môn sy’n chwarae Pêl-droed Cerdded dros Gymru... Cwpan y Cenhedloedd - Nations Cup Dyrchafiad - Promotion Pencampwr o fri - A renowned champion Yr un rheolau - The same rules Arferol - Usual Pwyslais - Emphasis Yn dda i ddim - No good Dw i’n dychmygu - I imagine GWNEUD BYWYD YN HAWS - GWENNO ROBERTS John Pritchard, un o sêr tîm Pêl-droed Cerdded Cymru oedd hwnna’n siarad gyda Trystan ac Emma ar eu rhaglen newydd sbon bob bore Gwener am 9. Mae Gwenno Roberts wedi dechrau cwmni codi pwysau o’r enw Vulcanna Fit ac yn ystod rhaglen gynta y gyfres newydd ‘Gwneud Bywyd yn Haws’ gofynnodd Hannah Hopwood iddi hi pam yr enw Vulcanna? Codi pwysau - Weightlifting Edmygu - To admire Ysbrydoliaeth - Inspiration Ofnadwy o ddewr - Terribly brave Mewn oes - In an age Dyletswyddau - Duties Ymgyrchu - To campaign Prydferth - Beautiful Noeth luniau - Nude portraits Penodol - Specific POST CYNTAF - ANT A DEC Wel dyna sgwrs aeth â ni o godi pwysau i Vulcanna i Michelangelo ac i golli pwysau, diddorol on’d ife? Os ydych chi’n un o’r MILIYNAU sy’n gwylio I’m a Celeb sy’n cael ei ffilmio yng Nghastell Gwrych ger Abergele, byddwch chi wedi clywed Ant a Dec yn siarad ychydig o Gymraeg. Cafodd Dylan Jones air gyda’u tiwtor Garffild Lewis ar y Post Cyntaf.... Y gyfres The series Darlledu - Broadcast Cyflwynwyr - Presenters Llais cyfarwydd - A familiar voice Ynganu - Pronunciation Cywair - Register (of language) Ymddiriedolaeth - Trust Ymgynghorwyr - Consultants Tîm cynhyrchu - Production team Agwedd - Attitude SIOE FRECWAST - CARYL A DAF Ac arhoswn ni gyda I’m a Celeb am y clip ola. Un sy’n byw yn agos iawn at Gastell Gwrych ydy Sian Rees a gofynnodd Caryl a Dafydd iddi hi sut ymateb sy wedi bod yn yr ardal i’r gyfres.. Ymateb - Response Pwnc trafod - Talking point Arferiad - A habit Hyd y gwela i - As far as I can see Yn eu hoed a’u hamser - Of a certain age Byrlymu - Buzzing Rhoi ni ar ben ffordd - Bring us up to date
12/4/202015 minutes, 49 seconds
Episode Artwork

Pigion y Dysgwyr 27ain Tachwedd 2020

S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … JENI OGWEN - IFAN EVANS ...beth dych chi’n feddwl sy’n gyffredin rhwng Jenny Ogwen, oedd yn arfer cyflwyno rhaglenni teledu Cymraeg, ac Ifan Evans? Wel mae’r ddau â stori i’w dweud am Cliff Richards! Dyma i chi flas ar eu sgwrs nhw ar raglen Ifan... Llofnod - Autograph Diawch - Goodness (an exclamation) Naill ai - Either Ar bwys - Near to Paid sôn - You don’t say Gwaetha’r modd - Unfortunately Trefdraeth - Newport (Pembrokeshire) Nefolaidd - Heavenly So ti - Dwyt ti ddim Mor gaeth - So restricted ALED HUGHES - SIOE FRECWAST HUW STEPHENS Jenny Ogwen yn fan’na yn sôn am Cliff Richards ac am Ynys y Barri ar raglen Ifan Evans. Aled Hughes oedd yn ateb cwestiynau Cocadwdl-do Huw Stephens wythnos diwetha – dyma i chi gyfle i glywed rhai o gyfrinachau Aled… Cyfrinachau - Secrets Ysgwydd - Shoulder Cwlwm - Knot Llwyth - Tribe Eu hadnabod nhw - To know them Ar faes y gad - On the battlefield Rhwyfo - To row (a boat) Parch - Respect Yr un pryd - The same meal RICH HOLT - SIOE SADWRN DANIEL GLYN Wel dyna ni’n cael gwybod am datŵs a thatws Aled yn fan’na! Mae‘r cogydd Richard Holt i’w weld ar S4C ar hyn o bryd yn y gyfres Anrhegion Melys Richard Holt, a fe wrth gwrs yw seren y sioe! Fe hefyd oedd gwestai arbennig Daniel Glyn fore Sadwrn a dyma Richard yn sôn ychydig am ei gefndir a’i waith. Cefndir Background Cerddoriaeth Music Llygoden Ffrengig Rat Cyfuniad Combination Danteithion anhygoel Incredible delicacies Pwysau Pressure Newydd sbon Brand new WRECSAM POST CYNTAF ..a chofiwch wylio Anrhegion Melys Richard Holt ar S4C i gael syniadau am gacennau blasus. Roedd yna ddathlu mawr yn Wrecsam wythnos diwetha wrth i’r newyddion dorri fod sêr Hollywood Ryan Reynolds a Rob McElhenny am brynu clwb pel-droed y dre. Cafodd Dylan Jones sgwrs am y newyddion hyn gyda Chris Evans, cadeirydd tafarn gymunedol Wrecsam, Saith Seren, ar Y Post Cyntaf… Dioddef - To suffer Gwireddu - To fulfil Yn rheolaidd - Regularly Boddi eu gofidiau - Drowning their sorrows Wedi cryfhau - Has strengthened Wedi cael ei ffrydio’n fyw - have been streamed live Mentrau cymunedol - Community ventures Byd-eang - Worldwide Ymddiriedolaeth - Trust Mewn bodolaeth - In existence BETI A’I PHOBOL ...a phob lwc i glwb ac i dre Wrecsam gyda’r fenter newydd on’d ife? Mae cefndir teuluol Cymreig gan Robert Joseph Jones ond cafodd ei eni yn Pennsylvania yn yr Unol Daleithiau ac mae o’n byw nawr yn nhalaith Efrog Newydd. Mae o wedi dysgu Cymraeg ac yn ei siarad yn rhugl fel clywon ni yn y sgwrs yma gyda Beti George Unol Daleithiau - United States Talaith Efrog Newydd - New York State Etifeddiaeth Gymreig - Welsh heritage Cyhoeddi - To publish Tanysgrifio - To subscribe Rhyfedd - Strange Eglurhad - Explanation GWENDA WATSON - ALED HUGHES Mae Cymraeg gwych gan Robert Joseph Jones on’d oes, i feddwl mai o hen lyfr ‘Teach yourself Welsh’ ddysgodd o’r iaith. Mae Gwenda Watson newydd ddathlu ei phen-blwydd yn 90ed. Treuliodd hi ran o’i phlentyndod yn byw ar Ynys Enlli a buodd hi’n sôn ychydig am ei phlentyndod ar yr ynys wrth Aled Hughes... Pobl mewn oed - The elderly Gweinidog - Minister Cymorth - Help Ynys anghysbell - Remote island Atgofion - Memories Nefoedd ar y ddaear - Heaven on earth
11/27/202015 minutes, 45 seconds
Episode Artwork

Pigion y Dysgwyr 20fed Tachwedd 2020

S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … Elin Angharad – Tro’r Tir Mae Elin Angharad o Fachynlleth ym Mhowys wedi dechrau busnes yn gwneud ac yn gwerthu ategolion lledr. Dyma hi’n sôn wrth griw Troi’r Tir am sut cafodd hi’r syniad o ddechrau’r busnes a sut aeth hi ati i’w sefydlu… Ategolion lledr - Leather accessories Sefydlu - To establish Ymddiddori mewn - To take an interest in Dilyn gyrfa - Pursue a career Gweithdy - Workshop Profiad Gwaith - Work experience Penblwydd Cardiau Draenog - Bore Cothi Merch arall o Bowys sydd wedi sefydlu busnes ei hunan ydy Anwen Roberts a hi oedd un o westeion Shan Cothi yr wythnos yma. Mae ei chwmni, Cwmni Cardiau Draenog, wedi bod mewn busnes am 10 mlynedd ac mae gan Anwen gynlluniau arbennig am sut i ddathlu hynny. Arbenigo - To specialise Cyfoes - Modern Dylunio - To design Casgliad - A collection Yn go llwm - Really tough Personoleiddio - To personalise Yr amrywiaeth - The variety Arddulliau - Styles Anhygoel - Incredible Archeb - Order Richard Burton – Aled Hughes Wel am syniad da, ond’ ife? Tybed beth fydd yr anrhegion bach – cewch wybod os wnewch chi archebu cardiau gan Anwen! Roedd yr actor Richard Burton yn dod o Bontrhydyfen yn Nghwm Afan yn wreiddiol, a tasai fe’n fyw basai wedi dathlu ei benblwydd yn 95 oed yr wythnos yma. Cafodd Aled Hughes sgwrs am yr actor byd enwog gyda Sian Owen, ei nith, sy’n dal i fyw ym Mhontrhydyfen. Cof plentyn - A child’s memory Atgof - a recollection Ffili symud - Couldn’t move Mo’yn mynd lan loft - Wanted to go upstairs Enw’r Clip: Clip Penblwydd Bryn Terfel Rhaglen: Dewi Llwyd Seren fyd enwog arall oedd yn dathlu ei benblwydd yr wythnos diwetha sef Bryn Terfel a fe oedd gwestai penblwydd Dewi Llwyd fore dydd Sul. Dyma i chi flas ar y sgwrs ble mae Dewi’n holi Bryn a oes yna bendraw i yrfa canwr opera… Pendraw - An end Unwaith yn rhagor - Once more Heb os nac oni bai - Without doubt Cynulleidfa yn cymeradwyo - The audience applauding Mwyniant - Pleasure Cydnabyddiaeth - Acknowledgement Cymhelliad - Motivation Beirniaid - Adjudicators Clod - Praise Cyffelybu - Compare Tony Ac Aloma - Cofio ‘Falle nad ydy’r ddeuawd Tony ac Aloma o Sir Fôn yn sêr byd enwog fel Bryn Terfel a Richard Burton, ond er hynny digwyddodd rhywbeth iddyn nhw mewn caffi yn Nhregaron yn y chwedegau wnaeth iddyn nhw ddechrau meddwl eu bod nhw wedi cyrraedd! Dyma’r ddau yn hel atgofion gyda John Hardy… Deuawd - Duet Hel atgofion - Reminiscing Sêr y byd - Global stars Pres - Arian Pa mor boblogaidd - How popular Ffefryn - Favourite Gwyndaf Lewis - Geraint Lloyd Tony ac Aloma oedd rheina, sêr canu Cymraeg yn y chwedegau a’r saithdegau, yn cofio am ddigwyddiad arbennig yn Nhregaron. Cafodd Geraint Lloyd gyfle i longyfarch Gwyndaf Lewis o glwb Ffermwyr Ifanc Hermon am ennill gwobr ‘Cefnogwr Cymunedol y Flwyddyn’. Beth yn union oedd Gwyndaf wedi ei wneud i ennill y wobr? Wel llawer iawn o bethau, fel cawn ni glywed yn y clip nesa ’ma… Gwobr - Award Cefnogwr Cymunedol - Community supporter Enwebu - To nominate Yn llawn haeddu - fully deserve Ymdrechion rhyfedda - the most amazing effort s Hyfforddi - To train Elusennau - Charities Llwybr arfordir - Coastal path Cyfwerth â - Equivalent of
11/20/202015 minutes, 6 seconds
Episode Artwork

Pigion y Dysgwyr Tachwedd 13eg 2020

"S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma..." Clip Sam Thomas – Geraint Lloyd Mae gorsaf radio Bronglais – sef gorsaf radio Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth, yn dathlu ei phenblwydd yn 50 oed. Cafodd Geraint Lloyd hanes yr orsaf gan Sam Thomas o Lanafan a dyma i chi flas ar y sgwrs… Gorsaf radio - Radio Station Clwb ieuenctid - Youth club Cynhyrchu - To produce Sioe geisiadau - Request show Cleifion - Patients Darlledu - To broadcast I ddod ynghlwm - To become involved Gwirfoddoli - To volunteer Amrywiaeth - Variety Cyfoes - Contemporary Clip Mark Drayford – Dewi Llwyd Hanes gorsaf radio Bronglais yn fan’na ar raglen Geraint Lloyd. Dw i’n siŵr ein bod ni i gyd wedi gweld llawer iawn ar Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, yn rhoi gwybod i ni am sefyllfa Covid y wlad yn ystod y misoedd diwetha. Fe oedd gwestai Dewi Llwyd dydd Sul diwetha a chlywon ni bod teulu’r Prif Weinidog wedi bod yn sâl gyda Covid yn ystod y cyfnod hwnnw. Gofynnodd Dewi Llwyd iddo fe sut oedd e wedi dygymod â’r sefyllfa… Prif Weinidog Cymru - First Minister of Wales Dygymod â - To put up with Yr Ail Ryfel Byd - The Second World War O dan bwysau aruthrol - Under immense pressure Cwympo’n dost - To fall ill Ymdopi - To cope Clip Tudur Owen Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, oedd hwnna’n sôn wrth Dewi Llwyd sut oedd e wedi ymdopi pan fuodd aelodau o’i deulu’n sâl gyda Covid. Gyda’r tywydd yn oeri, penderfynodd Tudur, Manon a Dyl Mei ei bod hi‘n dywydd perffaith i swatio a chwarae gêm fwrdd – ond beth oedd eu hoff gêm fwrdd nhw tybed? Swatio - To snuggle Rheolau - Rules Gwyddbwyll - Chess Plentyndod - Childhood Clip Siorts Clive Tudur Owen a’r criw yn sôn am eu hoff gêmau bwrdd yn fan’na. Mae Clive Rowlands yn un o sêr byd rygbi Cymru. Buodd e’n gapten ar y tîm cenedlaethol yn y chwedegau ac wedyn yn hyfforddwr Cymru ar ôl iddo fe ymddeol fel chwaraewr. Buodd e hefyd yn rheolwr ar dîm y Llewod. Yn anarferol iawn cafodd ei wneud yn gapten tîm Cymru yn ei gêm gynta dros y wlad - gêm yn erbyn Lloegr. Dyma fe’n cofio’r gêm arbennig honno… Cenedlaethol - National Hyfforddwr - Coach Y Llewod - The Lions Anarferol - Unusual Pencampwriaeth - Championship Cyd-chwaraewyr - Team-mates Ymarfer - Practice Parc yr Arfau - The Arms Park Y tri chwarteri - The three-quarters Mewnwr - Scrum half Clip Ifan a Gary Gwallt Trueni i Clive golli’r gêm gynta ‘na on’d ife? Mae Gary Jones, neu Gary Gwallt, yn byw yn Abir ger Benidorm. Trin gwallt ydy ei waith e ond mae hi wedi bod yn anodd iawn i’r busnes gario ymlaen oherwydd Covid. Beth felly mae Gary wedi bod yn ei wneud yn y cyfamser? Ifan Evans fuodd yn ei holi… Trin gwallt - Hairdressing Y cyfamser - The meantime Distaw - Quiet Gwirfoddolwr ar gyfer elusen - A volunteer for a charity Andros o hwyl - Loads of fun Cyngor - Advice Ymchwil - Research Eitha llym - Quite strict Clip Bore Cothi – Kit Ellis Gary Jones oedd hwnna yn rhoi blas i ni ar fywyd Benidorm yn ystod y cyfnod clo. Blas ar fwyd wedi ei goginio’n araf sydd yn y clip nesa. Rhoddodd Shan a chriw Bore Cothi her i Kit Ellis, sef coginio sawl pryd yn ei ‘slow cooker’… a dyma sut aeth hi… Y cyfnod clo - The lockdown Her - Challenge Hyder - Confidence Arbrofi - To experiment Y gyfrinach - The secret Brasder - Fat Rhwydd - Easy Twlu - to throw Oergell - Fridge
11/13/202013 minutes, 54 seconds
Episode Artwork

Pigion y Dysgwyr Tachwedd 6ed 2020

S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … Shelley a Rhydian - Sioe Sadwrn Roedd yr actor Ieuan Rhys yn astudio drama yn y coleg pan gafodd ei gyfle cynta i actio’n broffesiynol ac yn fuan iawn dechreuodd actio rhan Sarjant James yn Pobol y Cwm a buodd e’n actio’r rhan hwnnw am flynyddoedd maith. Fe oedd un o westeion Shelly a Rhydian ar y Sioe Sadwrn a dyma fe’n esbonio sut cafodd e ei swydd actio gynta… Cwpla - To finish Lan llofft - Upstairs Cyfweliadau - Interviews Cwrdd â - To meet Pennod - Episode Parodd - It lasted Huw Stephens a Huw Chiswell - Sioe Frecwast Radio Cymru 2 Yr actor Ieuan Rhys oedd hwnna’n sôn am sut cafodd o’r cyfle i actio ar Pobol y Cwm. Mae Huw Stephens yn mynnu bod ei westeion yn ateb ei gwestiynau drwy roi’r gair Cocadwdl o flaen yr ateb. Dw i’n siŵr ei bod hi’n ddigon anodd i gofio’r holl atebion yes/no yn Gymraeg heb y dasg ychwanegol honno! Y canwr Huw Chiswell oedd yn ateb y cwestiynau Cocadwdl yr wythnos diwetha a dyma i chi sut aeth o ymlaen… Diflas - Boring Bronoeth - Topless Eitha anghyffredin - Quite unusual Cwlwm - Knot Yn benodol - Specifically Fy nghlustffonau - My headphones Ymwrthod - To reject Cyfaill - Friend Suro’r syniad - Spoiled the idea Fy isymwybod - My subconcious Dewi Llwyd a Shan Cothi - Dewi Llwyd Huw Chiswell yn cocadwdlio efo Huw Stephens yn fan’na. Fel arfer cyflwyno rhaglenni mae Shan Cothi ond hi oedd gwestai Penblwydd Dewi Llwyd ddydd Sul. Sut oedd Shan am ddathlu’r diwrnod mawr tybed? Ffordd unigryw - An unique way Alla i ddychmygu - I can imagine Yn hŷn (e)to - Older again Marchogaeth - Horse riding Uniaethu - To empathise Meddiant - Possession Fy niweddar ŵr - My late husband Teulu gofaint - Blacksmith family Angerdd - Passion Daniel Glyn a Hannah Daniel - Sioe Frecwast Radio Cymru 2 Penblwydd hapus iawn i Shan Cothi. Yr actores Hannah Daniel oedd yn ateb Cwestiynau Diog Daniel Glyn wythnos diwetha a dyma i chi flas ar ei hatebion hi… Cwestiynau diog - Lazy Questions Cymeriad - Character Eitha pert - Quite pretty Hoff lwyfan - Favourite stage Amgueddfa - Museum Darlithoedd - Lectures Atgofion melys iawn - Very sweet memories Lisa Gwilym a Gary Melville Yr actores Hannah Daniel yn cofio am ei dyddiau ysgol wrth ateb Cwestiynau Diog Daniel Glyn. Lisa Gwilym oedd yn cyflwyno rhaglen Aled Hughes wythnos diwetha a buodd hi’n sgwrsio gyda Gary Melville am hanes recordiau 7 modfedd… Unol Daleithau - United States Poblogaidd - Popular Creu - To create Offer - Equipment Gwasgu - To press Rhyddhau - To release Gan amla(f) - More often than not Disodli - To replace Trystan ac Emma – Post Cyntaf Dipyn bach o hanes y byd recordiau yn fan’na gan Gary Melville. Cafodd seremoni wobrwyo BAFTA Cymru ei chynnal nos Sul a dau o’r enillwyr oedd Trystan Ellis Morris ac Emma Walford am eu gwaith yn cyflwyno’r gyfres Prosiect Pum Mil. Kate Crocket gafodd gyfle i longyfarch y ddau ar Post Cynta’ fore Llun… Seremoni wobrwyo - Award ceremony Llongyfarchiadau - Congratulations Mae’n rhaid (i mi) cyfadde - I must admit Llond y lle - Full up Wedi cael eu henwebu - Had been nominated Cefndryd - Male cousins Esblygiad - Evolution Yn y bôn - Basically Cymunedau - Communities Cyfranwyr - Contributors Cyflawni - To achieve
11/6/202014 minutes, 58 seconds
Episode Artwork

Pigion y Dysgwyr Hydref 30ain 2020

"S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …” Beti George Cafodd Beti George y cyfle i sgwrsio gydag Aran Jones o’r cwmni Say Something in Welsh ar ddiwedd wythnos dysgwyr BBC Radio Cymru. Yn ôl Aran, mae’r cwmni gafodd ei greu unarddeg o flynyddoedd yn ôl, yn newid cyfeiriad yn y ffordd maen nhw’n dysgu’r iaith. Dyma Aran yn dweud mwy am hyn wrth Beti… Ymdrech sylweddol - A substantial effort Addasiad niwrolegol - a neurological adjustment Arbrofi - To experiment Bron yn ddi-baid - Almost non-stop Ymenydd - Brain Cymhleth - Complex Eitha hyblyg - Quite flexible Dwys - Intense Syfrdanol - Astounding Cyflawni - To achieve Ar y Marc Aran Jones o Say Something in Welsh oedd hwnna’n sgwrsio gyda Beti George. Un fuodd yn defnyddio gwefan Say Something in Welsh i ddysgu Cymraeg ydy’r Almaenwr Klaus Neuhaus. Does gan Klaus ddim cysylltiad â Chymru o gwbl heblaw am ei gariad tuag at tîm pêl-droed y wlad. Mae e’n ffan mawr o dîm Cymru ers chwarter canrif ac erbyn hyn mae e’n aelod llawn o’r wal goch ac yn dilyn y tîm ar hyd a lled y byd. A dyma pam mae e wedi dechrau dysgu Cymraeg fel buodd e’n esbonio wrth Dylan Jones ar Ar y Marc… Peirannydd cyfathrebu - Communication engineer Hyd yn hyn - Up to now Awyrgylch - Atmosphere Canlyniad - Result Heulwen - Sunshine Yr olygfa - The scene Mo’yn - Eisiau Yn ddiweddarach - Later on Rownd derfynol - The final Aled Hughes (Natalie Jones) Dysgu Cymraeg i blant fydd Natalie Jones ar ôl iddi orffen ei chwrs ymarfer dysgu. Cafodd Natalie ei magu ym Mhwllheli ond mae hi’n byw yn San Cler yn Sir Gaerfyrddin erbyn hyn. Yn ystod y mis yma mae hi wedi cael y cyfle, bob nos Iau ar S4C, i gyflwyno cyfres sydd yn rhan o fis Hanes Pobol Ddu yng Nghymru. Dyma hi’n sôn wrth Aled Hughes am beth hoffai hi weld yn newid yng Nghymru o ran y boblogaeth ddu… Dinbych y Pysgod - Tenby Hyfforddi - To train Profiadau newydd - New experiences Anweledig - Invisible Hiliaeth - Racism Bodoli - To exist Parch a sylw - Respect and attention Annhegwch - Unfairness Balchder - Pride Hunaniaeth - Identity Bore Cothi Natalie Jones oedd honna’n sôn wrth Aled Hughes am brofiadau’r boblogaeth ddu yng Nghymru. Daeth y syniad o gael pobl noeth ar galendrau gan y Calender Girls ar ddiwedd y nawdegau, ac ers hynny dyn ni wedi gweld sawl calendr gyda phobl bron yn noeth, neu’n borcyn, yn aml iawn i godi arian at achosion da. A nawr mae Calendr Clo-rona ar werth i godi arian at wefan iechyd meddwl meddwl.org. Syniad Catrin Toffoc oedd hyn ac mae hi wedi perswadio deg o gantorion clasurol Cymru i ddangos y cyfan! Un ohonyn nhw ydy’r tenor Trystan Llyr Griffiths a buodd e’n esbonio wrth Shan Cothi sut aeth e ati i dynnu llun ohono’i hun yn hollol noeth... Noeth - Naked Ei dîn ma’s - His backside out Y mannau iawn - The right places Pipo ma’s - Peepimg out Siglo chwerthin - Rolling with laughter Y tywyllwch - The dark Twlu - To throw Hydrefol - Autumnal Twym - Cynnes Stiwdio Trystan Llyr Griffiths oedd hwnna’n esbonio ar Bore Cothi sut aeth e ati dynnu llun ohono’i hun yn hollol noeth ar gyfer calendr Clo-rona... Ar Stiwdio wythnos diwetha agwedd y Cymry tuag at gelf weledol oedd yn cael sylw ac yma mae Nia Roberts yn holi’r artist Mike Jones am ei fagwraeth, a faint o gelf oedd o’i gwmpas pan oedd e’n ifanc... Agwedd - Attitude Celf weledol - Visual art Cyd-destun - Context Ysbrydoliaeth - Inspiration Lisa Gwilym Mike Jones yn esbonio wrth Nia Roberts beth wnaeth ei ysbrydoli e i fod yn artist. Mae’r band Ail Symudiad o Aberteifi yn perfformio ers y saithdegau ac mae’n debyg mai nhw yw un o’r grwpiau sydd wedi gigio mwyaf o gwmpas Cymru. Mae’r ddau frawd yn y band, Rich a Wyn wedi rhyddhau cân newydd. Dyma Rich yn cael sgwrs gyda Lisa Gwilym am greu’r gân honno a’r hanes y tu ôl iddi hi. Rhyddhau - To release Yr ysfa i greu - The desire to create Y dôn - The tune Testun - Text Carcharorion rhyfel - Prisoners of War Anghredadwy - Unbelievable Yr un egwyddor - The same principle Gwersyll - Camp
10/30/202016 minutes, 52 seconds
Episode Artwork

Pigion y Dysgwyr 23ain Hydref 2020

Post Cyntaf Roedd hi’n wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg BBC Radio Cymru wythnos diwetha a gaethon ni’r cyfle i glywed gan lawer iawn o ddysgwyr am eu bywydau a’u profiadau’n dysgu’r iaith. Dechreuodd yr wythnos fore Llun wrth i Dylan Jones holi Barry Lord o Drefaldwyn ym Mhowys. Cafodd Barry ei ysbrydoli i ddysgu’r Gymraeg ar ôl bod yn yr Eisteddfod Genedlaethol pan aeth hi i ardal Meifod ym Mhowys yn 2015. Ond ydy’r pandemig wedi cael effaith ar ei brofiadau Cymraeg yn y dosbarth a’r tu allan i’r dosbarth? Eu bywydau a’u profiadau - Their lives and experiences Cafodd Barry ei ysbrydoli - Barry was inspired Trefaldwyn - Montgomery Hyder - Confidence Pabell - Tent Yn galonogol iawn - Very encouraging Anhygoel - Incredible Cyfathrebu - To communicate Gan gynnwys - Including Aled Hughes Barry Lord o Drefaldwyn yn dal i ddysgu ac i ddefnyddio’r Gymraeg er gwaetha’r pandemig. Mae Kai Saraceno yn dod o’r Eidal yn wreiddiol a buodd o’n byw yn y Ffindir ers pan oedd e’n naw oed. Ar hyn o bryd mae’n astudio’r Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor. Dyma i chi glip o Aled Hughes yn ei holi am ei hanes e’n dysgu’r Gymraeg. Er gwaetha - In spite of Bodoli - To exist Ar hap - By chance Cymeriad - Character Mae’n deg dweud - It’s fair to say Newid cyfeiriad - To change direction Yn falch - Pleased Cymuned - Community Trafod - To discuss Aled Hughes …a dyma i chi glip arall o Kai. Drwy gydol Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg roedd Kai ar ein sioeau yn gyson er mwyn sgwrsio gyda dysgwyr eraill a rhoi’r teimlad i ni gyd sut beth yw dod at yr iaith o‘r newydd fel oedolyn. Un ferch gafodd ei holi oedd Shaun McGovern, sy’n dod o Washington DC yn wreiddiol ond sy erbyn hyn yn byw yng Nghaernarfon. Dyma i chi flas ar y sgwrs… Chdi - Ti Gwatsiad - Gwylio Ffindir - Finland Yn ddiweddar - Recently Y rhan fwyaf - Most Wedi cuddio - Hidden Shan Cothi Eidalwr yn siarad yn Gymraeg gydag Americanes am eu profiadau’n dysgur iaith – gwych on’d ife? Gwestai Sian Cothi i ddathlu’r wythnos arbennig hon oedd Janet Tabor o Gastell-Nedd. Mae hi wedi bod yn dysgu Cymraeg ers pedair blynedd a dyma hi’n sôn am ei thaith yn dysgu’r iaith. Caeredin - Edinburgh Caint - Kent Casgwent - Chepstow Hwb - Boost Dychmygu - Imagine Gerallt Lloyd Janet Tabor oedd honna wedi cael blas ar y Gymraeg drwy fynd ar un o gyrsiau Gwent. Tiwtor Cymraeg oedd un o westeion Geraint Lloyd wythnos diwtha – Eilir Jones sydd yn dysgu yng ngogledd ddwyrain Cymru. Mae Eilir hefyd yn gomedïwr ac yn berfformiwr a dyma fe’n egluro wrth Geraint pam oedd e eisiau dod yn diwtor a sut cafodd e’r swydd … Tyrd draw - Come over Fesul awr - Hourly Hyfforddiant - Training Cymwysterau - Qualifications Cyngor - Advice Gwerthfawrogi - To appreciate Cefnogaeth - Support Yr Wyddgrug - Mold Sara Yassine Eilir Jones oedd hwnna’n sôn am fywyd tiwtor Cymraeg. Mae Sara Yassine a’i thad Ali yn dod o Grangetown, Caerdydd ac mae’r ddau’n siarad Cymraeg. Mae eu teulu yn dod o’r Aifft ac o Somalia yn wreiddiol. Dyma Ali’n rhoi o ychydig o hanes y teulu ac wedyn Sara’n chwilio am hanes poblogaeth leiafrifol Caerdydd. Yr Aifft - Egypt Lleiafrif - Minority Mwyafrif y disgyblion - The majority of the pupils Ymgynghorydd Treftadaeth - Heritage Consultant Bedyddio - To baptise Cofnod - Record Cafodd ei gaethiwo - Was enslaved Eu cadw’n gaeth - Kept captive Y Gymanwald - The Commonwealth O dras Prydeinig - Of British heritage
10/23/202017 minutes, 43 seconds
Episode Artwork

Pigion y Dysgwyr 16eg Hydref 2020

Aled Hughes Mae’r gân Bohemian Rapsody gan y band Queen yn enwog iawn ond roedd rhai yn y band eisiau galw’r gân yn Mamma. Fasai’r gân wedi bod mor boblogaidd gyda’r enw hwnnw tybed? Dyna buodd Geraint Cynan yn ei drafod gyda Aled Hughes a dyma i chi flas ar y sgwrs… Mymryn - A little Crybwyll - To mention Cydio - To grasp Crynhoi’r cyfnod - To summarise the period Yn ddiamheuol - Without doubt Mewn un ystyr - In one respect Uchafbwynt - Highlight Cyfarwyddwr - Director Rhyddhau - To release Gweddu - To suit Dros Ginio Geraint Cynan oedd hwnna’n trafod Bohemian Rhapsody ar raglen Aled Hughes. Roedd Marathon Llundain yn dathlu ei benblwydd yn bedwar deg eleni ond ras wahanol iawn oedd i’w chael penwythnos cyntaf Hydref eleni. Roedd y rhedwyr elitaidd yn rhedeg yn y ddinas fel arfer, ond roedd rhaid i bawb arall redeg ras rithiol. Un o’r rhai gymerodd ran yn y ras rithiol oedd Paul Williams o Lanfihangel y Creuddyn yng Ngheredigion a dyma fe’n siarad am y profiad gyda Dewi Llwyd.. Rhithiol - Virtual Her anferth - A huge challenge Y tywyllwch - The dark Gweddill ein hoes - The rest of our lives (Roedd…)wedi cael eu gohirio - Had been cancelled Dw i’n casglu - I take it Ar y brig - On top Yn argoeli’n dda - It augurs well Rhys Mwyn A phob lwc i Paul yn y rasys sydd i ddod on’d ife? Roedd Huw Jones yn bennaeth S4C yn y gorffennol ac wedi dal swyddi pwysig iawn ym mywyd cyhoeddus Cymru dros y blynyddoedd, ond daeth e’n enwog yn y chwedegau a’r saithdegau fel canwr pop a chanwr caneuon protest. Mae nifer o’r caneuon rheiny i’w cael ar albwm o’r enw Adlais gafodd ei rhyddhau yn wreiddiol yn 1976. Mae’r albwm ar gael yn ddigidol nawr a dyma i chi Huw yn esbonio wrth Rhys Mwyn sut gwnaeth e ddewis y caneuon ar gyfer yr albwm Adlais - Echo Y casgliad - The collection Haeddu - To deserve Awgrym - Suggestion Priodol - Appropriate Mwyafrif - Majority Adlewyrchu - To reflect Ymgyrchoedd - Campaigns Cyfrifoldeb - Responsibility Cenedlaethau - Generations Sioe Frecwast Huw Jones oedd hwnna’n sgwrsio gyda Rhys Mwyn am yr albwm ddigidol Adlais. Mae cystadleuaeth Bake Off Channel 4 wedi dechrau’n barod. Mae Caryl a Daf wrth eu boddau yn trafod y sioe ac un arall sy’n mwynhau ydy’r canwr opera Alun Rhys Jenkins. Buodd y tri’n sgwrsio am fara soda a rhywbeth o’r enw ‘bogels’. Beth yw hwnnw tybed? Gwrandewch ar y clip nesa ’ma i ffeindio allan … Eitha rhwydd - Quite easy Triog - Treacle Surdoes - Sourdough Enfys - Rainbow Bogel - Navel Toes - Dough Geraint Lloyd O diar, dw i’n meddwl bydd hi’n anodd edrych ar ‘bagel’ heb feddwl am fotwm bol ar ôl hynny...Nos Fawrth diwetha, cafodd Geraint Lloyd sgwrs gyda Gwenda Owen o Bontyberem. Gwenda oedd yn cael dewis cyngherddau oedd wedi aros yn y cof iddi hi, a dewisodd hi gyngerdd oedd yn golygu llawer iawn iddi hi’n bersonol … Cancr y fron - Breast cancer Triniaeth - Treatment Llawdriniaeth - Surgery Cyfres - Series Uniaethu - To empathise Ta waeth - Anyway Llawn dop - Full to the brim Cyfansoddi - To compose Gwerthiant - The sales Sian Cothi Gwenda Owen oedd honna’n rhannu atgofion am gyngerdd arbennig iawn gyda Geraint Lloyd. Mae hi wedi bod yn amser caled iawn i gantorion proffesiynol ers y cyfnod clo gan nad oedd yn bosib rhoi perfformiadau byw. Ond mae’r tenor Aled Hall wedi bod ar lwyfan Eglwys St James yn Islington, Llundain, y penwythnos diwetha yn perfformio gydag opera ensemble. Shan Cothi gafodd yr hanes ganddo ar Bore Cothi Rhagarweiniad - Introduction Hala - To send Angerdd - Passion Yn go glou - Quite quickly Cantorion - Singers Mo’yn - Eisiau Cerddoriaeth fyw - Live music Cynulleidfa - Audience Becso - Poeni
10/16/202019 minutes, 3 seconds
Episode Artwork

Pigion y Dysgwyr 9fed Hydref 2020

Yr actores Siân Harries, Seran Dolma, tîm pêl-droed merched yng Nghaerffili a gemau fideo
10/9/202020 minutes, 35 seconds
Episode Artwork

Pigion y Dysgwyr 2il Hydref 2020

Joseph Gnagbo, Jason Edwards, y drymiwr Gethin Davies, a Beca Lyne Pirkis
10/2/202021 minutes, 23 seconds
Episode Artwork

Pigion y Dysgwyr 25ain Medi 2020

Dyfed Thomas, Sioned Mills, Bethan Mair a sut all gragen cranc ein gwarchod rhag covid-19
9/25/202017 minutes, 23 seconds
Episode Artwork

Pigion y Dysgwyr 18fed Medi 2020

Y peilot Robin Aled, Wiliam Lamb, Shelley Rees a gêm enfawr clwb pêl-droed Bangor 1962
9/18/202022 minutes, 58 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr 11eg o Fedi 2020

TRYSTAN AC EMMA – TX: 31.8.20 – CYFUNIADAU RHYFEDD O FWYDYDD Bwyd oedd yn cael sylw Emma Walford a Trystan Ellis-Morris wythnos diwetha ac yn y clip yma cawn glywed am rai o’r cyfuniadau rhyfedd o fwydydd mae rhai pobol yn eu mwynhau… Cyfuniadau rhyfedd Strange combinations Sylw Attention Mae’n debyg Apparently Anarferol Unusual Fatha Fel (yr un fath â) GARI WYN – TX: 31.8.20 – SGWRS AM DECHNOLEG ARIAN Cwstad a grefi – ych a fi! Yn rhaglen gyntaf ei gyfres newydd sy’n rhoi sylw i bob math o fusnesau, cafodd Gari Wyn sgwrs gyda Euros Evans, sydd yn hoff iawn o Bitcoins. Roedd Gari eisau gwybod pam bod Euros mor hoff o’r arian newydd... Hwyrach (ŵrach) Efallai Ysgubol Sweeping Aur Gold Sylweddoli To realise Pres Arian Ffydd Faith Mudiad A movement Anhygoel Incredible Cofnod arian Financial record Maes cymleth A complicated field RHAGLEN ALED HUGHES – TX: 1.9.20 – TRAFOD CADW GWENYN EFO GRUFF REES Tybed ydy Euros yn iawn a byddwn ni gyd yn defnyddio Bitcoins yn y dyfodol? Dyn ni wedi cael sawl stori am gadw gwenyn ar y podlediad yn ddiweddar ond ar raglen Aled Hughes clywon ni bod carchar yn Lloegr wedi dechrau cadw gwenyn. Ydy hyn yn medru bod o help i’r rhai sydd yn y carchar? Dyna ofynodd Aled i Gruffydd Rees ... Gwenyn Bees Carchar Prison Ail-ddysgu To re-educate Heol (hewl) Road Rhwydd Hawdd Cwyr Wax Mas Allan Cwch (gwenyn) Bee hive Paill Pollen CLIP Y SIOE FRECWAST - ADAM YN YR ARDD - TX 01.09/20 Gruffydd Rees yn fan’na yn esbonio sut basai cadw gwenyn yn gallu helpu’r rhai sy yn y carchar. Bob mis ar Sioe Frecwast Radio Cymru 2 mae’r garddwr o Gorslas yn Sir Gaerfyrddin, Adam Jones, yn rhoi cyngor i Daf a Caryl. Tatws a thomatos oedd yn mynd a’i sylw yn y clip nesa. Dechreuodd Adam drwy edrych yn ôl ar dywydd mis Awst a sut mae hynny wedi effeithio ar yr ardd…. Rhoi cyngor to give advice Rhyfeddol Strange Diogelu To secure Cidnabêns Kidney beans Ffyn Sticks Cynaeafu To harvest Plicio To pluck Medi ffrwyth dy lafur Reaping the fruits of your labour Ffa dringo Runner beans Caledu To harden Prennaidd Wooden Plannu To plant RHAGLEN GERAINT LLOYD - CLIP O SGWRS TELERI BOWEN – AR Y MAP CYNWYL ELFED - TX: 1.9.20 Adam Jones oedd hwnna‘n rhoi cyngor i Daf a Caryl am beth i’w wneud gyda’u tomatos a’u tatws. Pa mor dda dach chi’n nabod eich milltir sgwâr? Wel pob nos Fawrth, mae Geraint Lloyd yn dod i nabod pentref neu dref wahanol yng Nghymru. Yn y clip nesa Cynwyl Elfed oedd yn cael sylw, ac un sydd yn nabod y lle yn dda ydy Teleri Bowen… Milltir sgwâr Square mile Gwledig Rural Y priffordd The highway Lan I fyny Tad-cu Taid Teuluol Familial Diflannu To disappear Sefydlu To establish Y chweched ganrif The sixth century
9/11/202011 minutes, 2 seconds
Episode Artwork

Pigion y Dysgwyr 28ain Awst 2020

Marc Roberts, Huw Owen o Cyw, Cetra Coverdale Pearson, Osian Dwyfor
8/28/202014 minutes, 26 seconds
Episode Artwork

Pigion y Dysgwyr 21ain Awst 2020

MALI LLYFNI Yn ystod y pythefnos nesa, mae BBC Radio Cymru yn rhoi sylw i effaith Covid 19 ar bobl ifanc ar ein rhaglenni - ‘Haf Dan Glo’ . Nos Lun diwetha cafodd Nia Lloyd Jones sgwrs gyda Mali Llyfni o Benygroes yng Ngwynedd i holi sut oedd y pandemig wedi effeithio arni hi... Cyflwyno To present Amgylchiadau teuluol Family circumstances Gweithwyr allweddol Key workers Wedi (fy) nharo i Has struck me Ansicrwydd Uncertainty Y gymuned wedi eich cofleidio chi The community has embraced you Holi To ask about Cyflogi To employ Y genhedlaeth nesa’ The next generation Rhyfedd Strange REBECCA HAYES Mae John Hardy yn cyflwyno rhaglen gynnar iawn ar Radio Cymru, ac os wnewch chi godi’n ddigon cynnar i wrando arni hi mae’n gymysgedd hyfryd ben bore o gerddoriaeth a sgyrsiau diddorol. Dyma i chi flas ar sgwrs gyda Rebecca Hayes fasai’n berthnasol i bob un ohonoch chi’n sy’n codi’n gynnar, gan gynnwys John Hardy wrth gwrs... Perthnasol Relevant Ceiliog Cockerel Cyn-berchennog former owner Dirwy A fine Llwyth o gwynion Loads of complaints Dihuno Deffro Gwireddu To verify Canfod To find Honiadau Allegations Shwd (Sut) beth Such a thing Rhybudd Warning WINNIE JAMES Cafodd Ifan Jones Evans sgwrs gyda Winnie James y gogyddes o Grymych yn Sir Benfro wythnos diwetha. Mae Winnie newydd briodi ond sut mae’r cyfnod clo wedi effeithio arni hi tybed?... Mwy tebygol More likely Torrodd hynny (fy) nghalon i That broke my heart Chi m’bo Dach chi’n gwybod Sa i di cael Dw i ddim wedi cael Am sbel For a while LISA ANGHARAD Mae yna ddigon o raglenni gwych i wrando arnyn nhw ar BBC Radio Cymru wrth gwrs, drwy’r dydd bob dydd, ond tybed beth mae Hywel Llion yn cynghori Lisa Angharad i’w wylio ar y teledu? Cynghori To advice Dychmygu To imagine Yn y bôn Essentially Yn amlwg Obviously Wastad Always CARYS ELERI Sdim byd gwell na chael llythyr drwy’r post nac oes, ac fel eglurodd Carys Eleri wrth Catrin Heledd a Carl Roberts, cafodd hi lythyr arbennig iawn yn ddiweddar Yn ddiweddar Recently Ro’n i wedi hala’r gân I had sent the song Rhyddhau To release Perthynas Relationship Yn gyson Consistently Tad-cu Taid Llosgi To burn Llawysgrifen Handwriting Am fod mor garedig For being so kind CARYS EDWARDS A CAROL JONES Ac i orffen yr wythnos yma, dyma i chi Carys Edwards o Wenynfa Pen y Bryn a Carol Jones o gwmni jam y "Welsh Ledi" yn sôn am eu menter newydd wrth i'r ddau gwmni uno. Gwenynfa Apiary Stondin Stall Mêl Honey Ei chynnyrch hi Her produce Manylion Details Datblygu To develop Cynhyrchu To produce Cystadlu To compete Canolbwyntio To concentrate Eirin Plums Yn dymhorol Seasonal
8/21/202013 minutes, 33 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr Awst 13eg 2020

Doedd dim Eisteddfod Genedlaethol eleni ond mi fyddwn ni’n edrych yn ôl ar Ŵyl AmGen Radio Cymru ar Pigion yr wythnos yma Mae hi’n draddodiad i gael cywydd croeso i groesawu’r Eisteddfod i’r ardal bob blwyddyn. Wrth gwrs mae pethau’n wahanol eleni ond ysgrifennodd y bardd Ceri Wyn Jones gywydd croeso i’r Eisteddfodd AmGen a dyma hi i chi… Amgen Alternative Bardd Poet Cywydd Croeso A poem to welcome the Eisteddfod Cerdd Poem Sbort Fun Adeg anghyffredin Unusual period Er nad oedd yr Eisteddfod yn debyg i’r un dyn ni wedi arfer â hi , mae’r dysgwyr yn dal i gael lle pwysig iawn yn yr Eisteddfod AmGen. Dros y penwythnos cyhoeddodd Hywel Gwynfryn a Rhiannon Lewis enillydd Tlws Dysgwr y Flwyddyn a dyma i chi Dona Lewis o’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn darllen y feiriniadaeth ar ran y tri beirniad… Cyhoeddi To announce Beirniadaeth Adjudication Ein hysbrydoli Inspiring us Rownd derfynol Final Eu hymdrechion Their efforts Wedi dod i’r brig To have won Cyfweliad Interview Mam-gu Nain Prin oedd y cyfle The opportunity was rare Cyfleoedd Opportunities Er mwyn ennill cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn roedd yn rhaid i’r 5 oedd ar y rhestr fer gynnal sgwrs radio gyda Shan Cothi, a dyma flas i chi ar sgwrs Jazz gyda Shan Rhestr fer Short list Yn falch Proud Teimlo’n euog Feeling guilty Cymdeithasu To socialise Cyfrwng Saesneg English medium Safonau Standards Cwympo To fall Cyd-lynydd Co-ordinator Yn gyfrifol am Responsible for Datblygiadau pwnc Subject developments Y dwlu ar To dote on Mae’r gantores Gwawr Edwards wedi ennill 2 o brif wobrau canu’r Eisteddfod Genedlaethol yn y gorffennol a dyma hi’n sôn am sut oedd hynny wedi helpu ei gyrfa fel cantores broffesiynol Ysgoloriaeth Scholarship Cystadleuaeth Competition Ta beth Anyway Cynhyrfu To stir Llawn cystal siawns As good a chance as any Ar fin mynd About to go Braint o’r mwya The greatest honour Pluen yn fy nghap A feather in my cap Ymfalchïo To take pride in Gofynodd Shan Cothi i Stifyn Parri wobrwyo 3 pherson sy’n haeddu tlws eisteddfodol arbennig iawn – Tlws Steddfod Stifyn – a dyma pwy benderfynodd Stifyn oedd yn dod i’r brig… Tlws Trophy Beiriniadu To adjudicate (fy) ngên yn syrthio My jaw dropping Crio Llefain Yn ddiweddarach Later Llorio To floor Creu cerddoriaeth Creating music Beichio crio Crying my eyes out Toda Ogunbanwo oedd yn rhoi araith Llywydd y Dydd Eisteddfod AmGen ddydd Gwener. Symudodd Toda Ogunbanwo, sy’n ugain oed, i Benygroes yng Ngwynedd o Harlow yn Essex pan oedd yn 7 mlwydd oed. Ym mis Mehefin eleni paentiodd rhywun swastica ar ddrws garej y teulu ym Mhenygroes. Roedd hyn yn sioc i lawer o bobl gan ei fod wedi digwydd mewn pentre bach Cymraeg ei iaith. Ond fel mae Toda yn dweud yn ei araith fel Llywydd, mae hiliaeth i’w chael ym mhobman Araith Llywydd y Dydd The President of the Day’s address Coelio Credu Datrysiad Resolution Canran fawr A large percentage Esgusodi ei hun Excusing himself Caethweision Slaves Nad ydy hiliaeth yn bodoli That racism doesn’t exist Casineb Hate Diwylliannau Cultures Lleiafrif Minority Mae’r actor Rhys Ifans wedi treulio‘r cyfnod clo yn Llundain, a dyma fe’n rhoi syniad i ni o sut brofiad oedd bod dan glo yn y ddinas fawr dros y misoedd diwetha… Dan glo Locked down Profiad Experience Dilys Valid Yn benodol Specifically Wneith o atseinio It will resonate Wnaeth o (fy) nharo It struck me Roedd y gwynt yn fy nghyffwrdd i The wind was touching me Anwes A caress Wel, dych chi wedi cael blas ar Ŵyl AmGen Rdio Cymru yn fan’na ond cofiwch bod POPETH o’r Ŵyl i’w glywed ar BBC SOUNDS felly gallwch chi fynd yn ôl i wrando ar unrhyw beth, unrhyw bryd.
8/14/202016 minutes, 10 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr Awst 7fed 2020

Cofio Does dim llawer ohonon ni am fynd ar daith dramor eleni nac oes? Teithiau Tramor oedd pwnc Cofio wythnos diwetha a dyma glip o Emyr Wyn, Huw Ceredig, Dewi Pws, Ifan Gruffydd a John Pierce Jones yn chwarae’r rownd Beth yn y Byd ar y rhaglen Pwlffacan yn 2001. Bwriad y rownd oedd gweld pwy oedd y gorau am nabod ieithoedd tramor gan ddechrau gyda’r geiriau ‘estoy embarazada’ Hyddysg Learned Gwybodus Knowledgeable Bryn Terfel a Malcom Allen Ryn ni’n nabod Bryn Terfel fel un o leisiau enwoca Cymru – ond mae e hefyd yn ffan mawr o bêl-droed a fe oedd gwestai y cyn-bêldroediwr Malcolm Allen ar y Coridor Ansicrwydd. Dyma Bryn yn sôn am yr adegau pan wnaeth e gwrdd â’i arwyr o fyd opera a’r byd ffilmiau…. Alla i fentro dweud I can say without doubt Yn rhan annatod An integral part Y tymheredd The temperature Wedi torri tir Has broken the ground Ein cenhedlaeth ni Our generation Cerddor Musician Manon Steffan Ross Rhywun arall sy’n ffan o bêl-droed ydy’r awdures Manon Steffan Ross – ac mae ei chariad at glwb Lerpwl i’w weld yn glir – ar ran o’i chorff! Noson mor hwyliog Such a fun evening Difaru To regret Ystyried To consider Uwchgynghrair Premier League Ymddiheuriadau Apologies Newid trywydd yn gyfangwbl Change tack completely Diwylliedig Cultured Gwenllian Jones a Daniel Glyn Roedd Gwenllian Jones yn arfer cyflwyno rhaglenni plant ar S4C ond erbyn hyn mae hi’n byw yn Awstralia. Hi oedd gwestai Dan Glyn fore Sadwrn ac roedd rhaid iddi hi ateb Cwestiynau Diog Daniel… Cyflwyno To present Cwestiynau Diog Lazy Questions I’r carn Rock solid Cymeriad cryf A strong character Y pegwn arall The other extreme Dangos fy hun Showing off Eisiau sylw Wanting attention Llwyfan Stage Allwedd Goriad Dihirod Scoundrels Cofio Gari Williams Mae Gari Wiliams yn cael ei ystyried yn un o’r diddanwyr mwya doniol yn hanes Cymru. Buodd Gari farw 30 mlynedd yn ôl a dyma i chi glip o’i ffrind agos, yr actor John Ogwen, yn cofio amdano fe ar Dros Ginio gyda Gwenllian Grigg… Un o’r diddanwyr mwya doniol One of the funniest entertainers Yn fy nyblau Laughing my head off Heb iddo yngan gair Without him saying a word Cysylltiad arbennig A special connection Y rhan fwya Most Yn fyw Live Galwad Cynnar Mae’r cyfnod clo wedi bod yn adeg o addasu i lawer iawn ohonon ni ac ar Galwad Cynnar clywon ni sut mae peiriannydd o Lanberis wedi addasu ei gwmni er mwyn helpu meddygon a’r cyhoedd i fod yn fwy diogel rhag Covid 19. Gwaith cwmni Gethin fel arfer ydy cynhyrchu offer dringo, sut symudodd e o hynny i gynhyrchu offer meddygol? Dyma fe’n esbonio wrth Gerallt Pennant... Addasu Adapting Peiriannydd Engineer Cynhyrchu ffer meddygol Manufacturing medical equipment Argo! Goodness! Dylunio To design Yn arbenigo Specialise Tystysgrif Certificate Bellach By now Y galwad The demand
8/7/202013 minutes, 21 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr Gorffennaf 31ain 2020

Aled Hughes a hanes Sabrina Vergee Efallai eich bod wedi clywed am rai sy wedi dringo 14 copa ucha Eryri, sy’n ddipyn o gamp. Ond mae Sabrina Verjee o Cumbria wedi rhedeg ‘Y Wrainwrights’ yn Ardal y Llynnoedd - 214 copa, ie 214, a hynny mewn 6 diwrnod, 17 awr a 51 munud. Hi ydy’r ferch gynta i wneud hyn ac un sy’n ei hadnabod yn dda ydy Jane Harries, golygydd Cylchgrawn Adventure She, a chafodd Aled Hughes dipyn o hanes Sabrina ganddi ar ei raglen... Copa Summit Camp Achievement Edmygu To admire Parchu To respect Yn ddi-stop Without stopping Anhygoel Incredible Menyw Dynes Bwriadu To intend Mor glou So quickly Aruthrol Tremendously Chwyddodd e lan It swelled up Dychmygu To imagine Dyrchafiad Leed United Mae ffans Leeds United yn meddwl bod y tîm hwnnw wedi creu dipyn o gamp, drwy ennill dyrchafiad i Uwchgynghrair Lloegr ar ôl iddyn nhw ddisgyn o’r Uwchgynghrair 16 o flynyddoedd yn ôl. Buodd Dylan Jones a rhai o ffans eraill Leeds yn dathlu ar Ar y Marc... Dyrchafiad Promotion Uwchgynghrair Premier League Y chwiban ola The final whistle Cefnogwyr Fans Blynyddoedd maith Many years Yn haeddianol Deservedly Y ffyddloniaid The faithful Ysbrydoliaeth Inspiration Dadansoddwr Analyst Gwyddbwyll Chess Chwa o awyr iach A breath of fresh air Cofio: Swyddi Swyddi cofiadwy oedd yn cael sylw ar Cofio wythnos diwetha wrth i rai o’r gwrandawyr rannu hanes rhai o’r swyddi oedd gyda nhw yn y gorffennol… Cofiadwy Memorable Profiadau Experiences Taro tant To strike a chord Pigo Collecting Yr henoed The elderly Llnau Glanhau Twrcwns Turkeys Lleta Widest Godro to ‘milk’ Ceiliogod Stags Andros o lot o hwyl Loads of fun Marc Roberts a Daniel Glyn Cigydd oedd swydd tad Marc Roberts o’r band Catatonia. Oedd Marc wedi ystyried bod yn gigydd o gwbl pan oedd o’n blentyn? Dyna un o gwestiynau Daniel Glyn iddo fe fore Sadwrn... Ystyried To consider Cerddor Musician Yn hŷn Yn henach Gwaed Blood Ddim gymaint Not as much I ryw raddau To some extent Gethin Jones Tybed ai chef oedd y cyflwynydd teledu Gethin Jones eisiau bod pan oedd yn blentyn? Wel mae’n cael cyfle i ddangos ei ddoniau coginio ar hyn o bryd gan ei fod yn cystadlu yn y rhaglen Celebrity Masterchef. Mae Gethin yn Ffrainc ar hyn o bryd ond ymunodd e â Caryl a Daf i sôn am ei brofiadau ar y rhaglen, a dechreuodd wrth sôn am y seleb dall oedd yn cystadlu yn y sioe ac roedd yn ysbrydoliaeth i Gethin. Cyflwynydd Presenter Doniau Skills Dall Blind Ysbrydoliaeth Inspiration Darllediad A broadcast Cyllyll Knives Winwnsyn Nionyn Gwendidau Weaknesses Angharad Tomos a Dewi Llwyd Yr awdures Angharad Tomos oedd gwestai penblwydd Dewi Llwyd fore Sul a dyma hi’n sôn dipyn am yr her o gael plant i ddarllen rhagor o lyfrau yn oes y cyfrifiaduron... Rownd cyn-derfynol Semi final Yr her The challenge Yn oes In the age of Chwyldro Revolution Yn gymharol brin Comparatively rare Diddanu To entertain Brwydr Battle Ymddiddori To take an interest in Pa bynnag gyfrwng Whichever media Perthnasol Relevant
7/31/202014 minutes, 30 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr Gorffennaf 24ain 2020

Beti George ac Aled Roberts Comisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts, oedd gwestai Beti George wythnos diwetha'. Cafodd Aled ei fagu yn Rhosllannerchrugog, oedd yn bentref Cymraeg ei iaith ger Wrecsam. Mae gan bobl Rhos acen arbennig iawn ond fel ddwedodd Aled wrth Beti, doedd hynny ddim yn fantais bob tro... Mantais advantage Ar eich tyfiant growing up Swydd allweddol a key job Diogelu to protect Hwyrach maybe Pwysau pressure Profiad experience Ifan Evans a Sara Gibson Daeth y newyddiadurwraig Sara Gibson i ymuno ag Ifan Evans ddydd Mercher i sôn am rai o straeon mwya poblogaidd Cymru Fyw, ond yn y clip nesa mae hi’n rhoi hanes her ffotograffiaeth arbennig iawn.. Her challenge Y cyfnod clo lockdown Sefydlu to establish Sathru to trample Cywrain skillful Cofnod a record Bord bwrdd Pwerus iawn very powerful Byw Heb Blastig Mae defnyddio llai o blastig yn cael ei gyfri’n un o’r heriau pwysica o ran achub y blaned. Ydych chi wedi lleihau eich defnydd o blastig yn y blynyddoedd diwetha? Ffion Francis oedd un o westeion Shan Cothi ddydd Mawrth, a buodd hi’n rhoi cyngor am y pethau bychain gallwn ni i gyd eu gwneud i wella’r sefyllfa.. Achub y blaned saving the planet Lleihau reduce Cyngor advice Ail-lenwi to refill Osgoi to avoid Tatws Rhost Perffaith Mae Dafydd a Caryl yn cyflwyno’r Sioe Frecwast ar Radio Cymru 2 – ac mae’n rhaid i’r ddau godi gynnar , felly dydy hi ddim yn syndod eu bod yn licio siarad am fwyd! Yr wythnos yma, roedd Caryl eisiau rhannu tips coginio gyda Daf - a dyma’r ffordd orau o goginio tatws rhost mae’n debyg! Saim y cig the meat’s rendered fat Twymo to heat Ymddangos to appear Gwefannau cymdeithasol social media Mêl honey Cwmni Tanya Whitebits Sioned Owen ydy’r enw – a’r brens – y tu ôl i’r cwmni lliw haul ffug llwyddiannus Tanya Whitebits. Jennifer Jones gafodd hanes y cwmni a’r entrepeneur o Drefor yng Ngwynedd ar Dros Ginio yr wythnos hon.. Ffug fake Y peryglon the dangers Heneiddio ‘r croen ageing the skin Efeilliaid twins Ariannu to finance Cymwysterau qualifications Mynychu to attend Cynnyrch product Symudol mobile Drewllyd smelly Datblygu to develop Lisa Gwilym a Shan Cothi Gan fod Huw Stephens ar ei wyliau, Lisa Gwilym oedd yn cyflwyno Sioe Frecwast Radio Cymru 2 fore Gwener. Shan Cothi oedd ei gwestai a phenderfynodd Lisa ofyn ychydig o gwestiynau Cocadwdl-do iddi!.... Ydw glei of course I have Nefoedd wen Oh heavens! Yn gyfarwydd â familiar with Amrywio to vary Bant â ti away you go Yn glou quickly Fel y cythraul like the devil Delwedd image Sa i’n.. dw i ddim yn..
7/24/202015 minutes, 7 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr Gorffennaf 17eg 2020

RHYS GWYNFOR Y canwr Rhys Gwynfor oedd yn cadw cwmni i Shelley a Rhydian ar y Sioe Sadwrn. Cawn glywed ychydig o hanes teulu Rhys i ddechrau cyn iddo fe rannu’r gyfrinach am sut i ennill cystadleuaeth Cân i Gymru, fel gwnaeth e gyda’r band Jessop a’r Sgweiri.... Cyfrinach Secret Cystadleuaeth Competition Cynllun Plan Pentre genedigol Native village Del Pert Mwy neu lai More or less Namyn With the exception of Ar lwyfan On stage Twyllo To cheat HENO AUR AC ANGHARAD MAIR Mae cyfres newydd yn edrych yn ôl ar raglen Heno yn y 90au wedi dechrau ar S4C – Heno Aur. Angharad Mair fuodd yn sôn am y gwaith o gasglu clipiau o’r archif ar gyfer y gyfres gyda Lisa Gwilym fore Sul. Cyfres Series Casglu Gathering Digideiddo Digitising Ymwybodol Aware Gwerth chweil Worthwhile Gwahanol agweddau Different aspects Amlwg Obvious Cyfweliadau Interviews Dadansoddi breuddwydion Analysing Diniwed Innocent PENBWLYDD HAPUS CARYL LEWIS Yr awdures Caryl Lewis oedd gwestai penblwydd Dewi Llwyd yr wythnos yma, ac dyma hi’n sôn sut mae ei phlant yn ei helpu hi i ysgrifennu nofelau…. I’r perwyl hwnnw For that purpose Annibynnol Independent Cyn i chi gyhoeddi Before you publish Eu barn nhw Their opinion Tu hwnt Extremely Beirniadol Critical Llym Harsh Doniol Funny Addasu To adapt Eu hawydd nhw Their appetite Ysbrydoliaeth Inspiration HEDDLU GOGLEDD CYMRU Mae yna gyfres newydd ar Radio Cymru sy'n dilyn rhai o blismyn y gogledd wrth eu gwaith bob dydd. Dyma flas ar Heddlu Gogledd Cymru gyda hanes un o’r plismyn yn delio gyda pherchennog ci oedd wedi lladd dafad. Digwyddiad Incident Dianc To escape Tennyn A lead Bellach By now Ymgartrefu To settle Hyderus Confident Y pellter The distance Wal gerrig Stone wall Dinistro To destroy Bwriadu To intend BRECWAST LISA ANGHARAD Mae Llio Angharad yn blogio am fwyd a hi oedd yn cadw cwmni i Lisa Angharad ar y Sioe Frecwast fore Sadwrn. Ac wrth gwrs – roedd y ddwy eisiau siarad am frecwast! Dyfeisgar Innovative Creadigol Creative Anhygoel Incredible Ansicr Uncertain Cefnogi To support Sicrhau To ensure ALLAN WILLIAMS A GERAINT LLOYD Nos Fawrth buodd Geraint Lloyd yn sgwrsio gyda Allan Williams o Flaencwrt yng Ngheredigion sydd yn dathlu hanner can mlynedd fel barbwr eleni. Buon nhw’n sôn am sut mae byd y barbwr wedi newid dros y blynyddoedd a daeth Geraint o hyd i gysylltiad teuluol gyda’r barbwr yn ystod y sgwrs. Cysylltiad teuluol Family connection Amrywio Varying Pryd hynny At that time Trwm ei glyw Hard of hearing Cerwch! Get away! ( meaning you don’t say) Y Parchedig The Reverand
7/17/202016 minutes, 4 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion i Ddysgwyr 10fed o Orffennnaf

Al Lewis a Lerpwl Eleni enillodd clwb pêl-droed Lerpwl Uwchgynghrair Lloegr am y tro cynta erioed. Mae’r canwr Al Lewis yn ffan mawr o’r clwb a gofynnodd Dylan Jones iddo fe ar Ar y Marc sut oedd e’n teimlo ar ôl clywed y newyddion am lwyddiant Lerpwl… Dy deimladau Your feelings Uwchgynghrair Permier League Rhyddhad Relief Boddhad Satisfaction Gwaith ymchwil Research Cynghrair y Pencampwyr Champions League Moronen A carrot Addasu To modify Y Cigydd Rob Rattray Nos Fawrth buodd Geraint Lloyd yn sgwrsio gyda Rob Rattray o Lanfihangel y Creuddyn ger Aberystwyth, sydd yn dathlu pedwardeg mlynedd eleni o weithio fel cigydd, a dyma fe’n cofio’r dyddiau cynnar gyda Geraint. Chi’n go lew? Are you OK? Bwtsera Butchering Mam-gu a tad-cu Grandmother and grandfather ‘Benu To finish Palles i I refused to Dyn cyn ei amser A man before his time Ar yr asgwrn On the bone Coleg Amaethyddol Agricultural College Yn fy ngwaed i In my blood Y rhyfel The war Peredur ap Gwynedd a'r band Pendulum Band o Awstralia yn wreiddiol ydy Pendulum ond erbyn hyn maen nhw’n enwog ar draws y byd ac un o’u haelodau ydy Peredur ap Gwynedd. Dyma i chi flas ar sgwrs fach gafodd Peredur gyda Daniel Glyn pan oedden nhw’n sôn am yrfa Peredur yn y byd cerddorol… Oriau mân y bore Early hours of the morning Ymwybodol Aware Man a man Might as well Ysbrydoliaeth Inspiration Mentro To venture Bois y Rhondda Pythefnos yn ôl roedd yna raglen o’r enw Bois y Rhondda ar S4C ac roedd yr ymateb i’r rhaglen yn ffafriol iawn gyda llawer iawn o bobl yn dweud eu bod wedi ei mwynhau’n fawr. Dyma i chi glip o Rhian Morgan Ellis a Cole, un o’r Bois ar y rhaglen, yn cael sgwrs gyda Rhydian a Shelley ar y Sioe Sadwrn. Cais Request Amlinellu Outlining Hynt a helynt The fortunes Awyddus Eager Mewn gwirionedd In reality Canfyddiad Perception Addewid Promise So ti Dwyt ti ddim Profiad Experience Gwefannau cymdeithasol Social media Adolygiad Bois y Rhondda Un o’r rhai oedd wedi mwynhau rhaglen Bois y Rhondda oedd Hywel Llion a dyma fe’n sôn wrth Dafydd a Caryl ar y Sioe Frecwast pa mor braf ydy cael portread realistig o Gwm Rhondda a’i drigolion… Cynhyrchiad ‘Drych’ arall Another ‘Drych’ production Cymeriadau Characters Antur Adventure Seren fach A little star Ystrydebau Strerotypes Milltir sgwar Square mile Ymwybodol Aware Pyllau glo Coal pits Olion Remains Y gymuned The community Gobaith ‘Gobaith’ oedd y gair ddewisodd Ifor ap Glyn yr wythnos yma, gair pwysig iawn i lawer ohonon ni yn y cyfnod yma. Dyma Ifor yn sôn am y gwahanol ffyrdd dyn ni’n defnyddio’r gair ‘gobaith’ yn y Gymraeg. Galluogi To enable Diolchgar Thankful Deillio Derives Cawell Cage Nwyon peryglus Dangerous gases Ysgyfaint Lung Diffygio Failing Does na’m rhyfedd It’s not surprising Mudiad ieuenctid Youth movement Cyfleu To convey
7/10/202016 minutes, 3 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr 3ydd o Orffennaf

Enw’r Clip: Love Island Enw’r rhaglen: Y Sioe Sadwrn …ydych chi un o ffans Love island? Doedd Shelley Rees un o gyflwynwyr Y Sioe Sadwrn ddim yn gwybod beth oedd yn digwydd ar y rhaglen ond cafodd hi a Rhydian Bowen Phillips gyfle ar y Sioe Sadwrn i holi un oedd wedi cymryd rhan yn y rhaglen – Connagh Howard o Gaerdydd… Cyflwynwyr Presenters Cyfle Opportunity Am y gorau For the best Wedi arafu Had slowed down Cwrdd â To meet Troslais Voiceover Bagiau ffa Bean bags Cymreictod Welshness Enw’r Clip: Robert Llywelyn Tyler Enw’r rhaglen: Beti a’i Phobol Hanesydd o Gasnewydd, Robert Llywelyn Tyler, gafodd ei holi gan Beti George yr wythnos hon. Mae Robert yn byw yn Abu Dhabi erbyn hyn ond mae hanes Cymru a’r Gymraeg yn bwysig iawn iddo fe Hanesydd Historian Glöwr Coal Miner Yr Ail Ryfel Byd The Second World war Casnewydd Newport (Gwent) Stad Cyngor Council estate Ysgol Uwchradd Secondary school Lladin Latin Arddegau Teenage years Cadw cysylltiad To keep in contact Cyfeillion Friends Enw’r Clip: Cân Sara Enw’r rhaglen: Ynys yr Hunan Ynyswyr Gwesteion Dylan Ebenezer ar Ynys yr Hunan Ynyswyr yr wythnos hon oedd yr actor Llŷr Ifans a’r hanesydd a’r cyflwynydd Sara Huws. Dyma Sara yn dewis cân sydd yn un arbennig iawn iddi hi. .. Hunan Ynyswyr Self isolators Cerddorol Musical Hafau Summers Dylanwad Influence Gwaddol Inheritance Corfforol Physical Campwaith Masterpiece Enw’r Clip: Sharon Roberts Enw’r rhaglen: Daniel Glyn Sharon Roberts, neu Gaynor ar Pobol y Cwm, fuodd yn ateb Cwestiynau Diog Daniel Glyn. Dechreuodd Daniel drwy ofyn i’r actores oedd hi’n hapus gyda’r enw Sharon pan oedd hi’n blentyn… Cwestiynau Diog Lazy Questions Y gyfres The series Direidus Mischievous Wedi cael fy hudo I was charmed Dros ei ben a’i glustiau Head over heels Un ai Either Achub mynydd Mountain rescue Wedi dy sbarduno Had spurred you Pryd a gwedd Looks Chwarae cuddio Playing hide and seek Enw’r Clip: Y Theatr Genedlaethol Enw’r rhaglen: Daf a Caryl Mae Theatr Genedlaethol Cymru a BBC Cymru Fyw wedi creu tair drama feicro i fynd ar lein yn ddiweddar. Dyma’r actor Tara Bethan sydd yn cymryd rhan yn y dramâu yn sôn amdanyn nhw wrth Dafydd a Caryl Yn ddiweddar Recently Theatr Genedlaethol Cymru National Theatre of Wales Ar y cyd Jointly Y bwriad The intention Cyfarwyddwyr Directors Yr ochr dechnegol The technical side Sain Audio Ongl Angle Torri ar draws To interrupt Hynod effeithiol Highly effective Enw’r Clip: Ffrind newydd Rhian Enw’r rhaglen: Galwad Cynnar Dyma Rhian Arwel o Lantrisant yn sôn am ffrind newydd sydd wedi dod i fyw gyda hi a’i theulu yn ddiweddar. Gerallt Pennant oedd yn holi Rhian am hanes Wil y ffrind newydd Hwyaden Duck Yng nghyffiniau In the area Yn tywynnu Shining Lapio Wrapping Cael gwared To get rid Ymchwilo To research Y caethiwo The confinement Crwydro o’r nyth Wandering from the nest
7/3/202015 minutes, 10 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr Mehefin 26ain 2020

AL LEWIS AC ENDAF EMLYN Roedd Endaf Emlyn yn seren y byd pop yn Gymraeg ac yn Saesneg yn ystod y chwedegau a’r saithdegau. Dydd Gwener diwetha’ cafodd 3 albym Endaf eu rhyddhau yn ddigidol. Mae Al Lewis yn ffan mawr o’i waith a gofynnodd Rhys Mwyn iddo ddewis rhai o’i hoff ganeuon gan Endaf Emlyn Canwr cyfansoddwr Singer songwriter Wnaeth fy nenu i Attracted me Creu enw Made a name Cysyniadol Conceptual O flaen y gad Ahead of his time Diethr Unheard of Senglau Singles Yn cael eu clymu at ei gilydd Are tied in together Macrell Mackerel Teimlad hireithus A nostalgic feeling ANTONIO RIZZO A GWIN CYMREIG LLANSADWRN Mae Antonio Rizzo yn dod o Fanceinion yn wreiddiol ac mae ei rieni yn dod o’r Eidal. Dysgodd e Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor ac erbyn hyn mae e’n ei siarad yn rhugl. Mae Antonio wedi bod yn cynhyrchu gwin ers 2006 ac mae e’n gobeithio agor gwinllan yn Llansadwrn, Sir Gâr, yn y dyfodol. Shan Cothi gafodd ei hanes Manceinion Manchester Cynhyrchu To produce Gwinllan Vineyard Sir Gâr Carmarthenshire Trefynwy Monmouth Cernyw Cornwall Unigryw Unique Celf Art BRIALLT WYN A GERAINT LLOYD Nos Lun diwetha, mi gafodd Geraint Lloyd sgwrs gyda Briallt Wyn o Gorsgoch ger Llanbedr Pont Steffan, neu Llambed, yng Ngheredigion sydd wedi creu grwp ar Facebook er mwyn dysgu iaith arwyddo i bobl. Dyma hi’n esbonio’r cyfan wrth Geraint... Arwyddo To sign Tad-cu a Mam-gu Taid a Nain Byddar Deaf Dall Blind Sa i’n cofio Dw i ddim yn cofio Yr wyddor The alphabet Dod i ben To cope Addasu To adapt Swyddogol Official Ymateb To respond Dechreubwynt Starting point AR Y MARC Mae pêl-droed yn ôl ac felly roedd Dylan Jones a chriw Ar y Marc yn hapus iawn wythnos diwetha. Ond roedd gan Dylan gwestiwn anodd i un o’r panelwyr – Iwan Griffith, sy hefyd yn ddyfarnwr pêl-droed.... Y cyfnod clo Lockdown Dyfarnwr Referee Diduedd Unbiased Dylanwadu To influence Torf Crowd Awyrgylch Atmosphere Y wefr The thrill Yn wyliadwrus Cautious Cwrt cosbi Penalty box Cic o’r smotyn Penalty Ddim yn weddus Foul (language) COFIO TRYCHINEB HILLSBOROUGH Ac arhoswn ni gyda’r pêl-droed yn y clip nesa’ – ond i gofio trychineb Hillsborough tro ’ma. Vaughan Roderick a Dylan Llywelyn sy’n cofio’r drychineb ddigwyddodd yn 1989, wrth i’r rhaglen Cofio fynd â ni yn ôl i’r 80au..... Trychineb Disaster Canlyniadau Results Gohebydd Commentator Gwendid Weakness Ystyried To consider Platfformau cymdeithasol Social media Trydar Tweeting SIAN REES WILLIAMS Yr actores Sian Reese Williams oedd gwestai Beti George wythnos diwetha a dyma hi’n sôn am ei chymeriad, y ditectif Cadi John, yn y gyfres Craith..... Cymeriad Character Cyfres Series Datblygu To develop Pennod Episode Menywod Women Dyw hi ddim yn malio She doesn’t care Dwys Intense Bodoli To exist
6/26/202015 minutes, 1 second
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr Mehefin 19eg 2020

HEATHER JONES Mae Dewi Llwyd yn dymuno pen-blwydd hapus i un o’i westeion ar ei raglen bob bore Sul. Yr wythnos yma, y gantores Heather Jones oedd yn torri’r gacen pen-blwydd. Dyma Heather yn cofio am benblwyddi’r gorffennol – ei magwraeth yng Nghaerdydd a’i pherthynas gyda’r canwr Geraint Jarman… Magwraeth Upbringing Hudolus Magical Plentyndod Childhood Cernyw Cornwall Bywiog Lively Swil Shy Denu To attract Efengyl Tangnefedd The Gospel of Peace (a hymn) Yn benderfynol Determined IFAN EVANS A'R WELSH WHISPERER Bachgen bach deg mlwydd oed sy’n mynd i Ysgol Cilie Parc ydy Osian, ac ei arwr ydy’r perfformiwr Welsh Whisperer. Ar raglen Ifan Evans cafodd Osian y cyfle i holi ei arwr, ac roedd gyda fe gwestiynau diddorol iawn i’r Welsh Whisperer… Arwr Hero Yn y man In a moment Enwoca Most famous Glou Quick Cerddoriaeth Music Deuawd Duet Rhed! Run! Hendy-gwyn Whitland YNYS YR HUNAN YNYSWYR Bob wythnos ar y rhaglen Ynys yr Hunan Ynyswyr mae dau westai yn trafod eu hoff lyfrau, eu hoff gerddoriaeth a’u hoff ffilmiau, er mwyn trio perswadio Dylan Ebenezer i adael iddyn nhw aros ar yr ynys. Y gwesteion wythnos diwetha oedd y gomedïwraig Esyllt Sears a’r actor Richard Ellis ac yn y clip mae’r ddau westai yn sôn am beth sydd wedi eu helpu drwy’r cyfnod clo, a beth fasen nhw’n mynd gyda nhw i’r ynys ... Hunan-ynyswyr Self-isolators Cyfnod clo Lockdown Sylweddoli To realise Pa mor llwglyd How hungry Oesoedd yn ôl Ages ago Argymell To recommend PATRICK RIMES A BETI GEORGE Un sy’n gwneud rhywbeth bach yn wahanol yn ystod y cyfnod clo ydy’r cerddor Patrick Rimes. Mae Patrick wedi dod yn ôl i’w gartref ym Methesda, Gwynedd dros y cyfnod er mwyn helpu ei fam gyda’r busnes caws llaeth dafad... Cerddor Musician Godro To milk Ar y gweill In the pipeline (idiom) Ei chael hi’n anodd Finding it difficult Pa mor hurt How stupid Brwdfrydig Enthusiastic Wedi cymryd yr awenau Taken charge of Diadell A flock Ffynhonnell Source Rhy styfnig Too obstinate Annibynnol Independent DROS GINIO Buodd Jennifer Jones yn holi Jenni Hall sy’n fam i 10 o blant ar Dros Ginio yr wythnos yma. Sut, tybed, mae hi’n ymdopi gyda’r cyfnod clo? Dyma i chi flas ar y sgwrs... Ymdopi To cope Prif heriau Main challenges Gafon ni drafferth We had difficulties Hawsach Easier Sylwadau Comments STEFFAN RHYS HUGHES Mae’r cerddor Steffan Rhys Hughes wedi bod yn gwneud fideos cerddorol ers dechrau'r cyfnod clo. Penderfynodd e ddod â chriw o Gymry'r West End at ei gilydd i berfformio caneuon o sioeau a ffilmiau cerdd - er mwyn rhoi gwên ar wynebau pobl. Y syniad oedd codi arian i’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, ac i annog pobl i fynd yn ôl i'r theatrau pan mae hi'n saff i wneud hynny. Daf a Caryl glywodd yr hanes.... Annog To encourage Cantorion Singers Balchder Pride Canlyniad Result Cysylltu â To contact Taflu rhwyd To cast a net Yn falch o wneud Happy to do so Mor hael So generous Negeseuon Messages Creadigol Creative
6/19/202015 minutes, 25 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr Mehefin 12fed 2020

LOWRI MORGAN A DANIEL GLYN Hanes Lowri Morgan yn teithio dwy awr i waelod Môr Iwerydd mewn llong danfor, er mwyn gweld y Titanic. Mae Lowri wedi cael sawl antur yn ystod ei bywyd ac mae wedi sgwennu amdanyn nhw yn ei llyfr newydd ‘Beyond Limits’ . Dyma hi’n sôn wrth Daniel Glyn sut oedd hi’n teimlo wrth weld y Titanic… Môr Iwerydd The Atlantic Ocean Llong danfor Submarine Yn gwmws Exactlly Ei cholli hi Losing it (mentally) Lleddfu To soothe Cwympo To fall Ymchwil Research Pa mor glou How quickly Sylweddoli To realise Cymaint o fraint How much of a privilege Carreg fedd Tombstone NON ROBERTS Mae hi’n adeg cneifio ar ein ffermydd ac mae llawer o bobl ifanc drwy Gymru yn mynd o amgylch ffermydd i helpu gyda ‘r gwaith. Dyma Non Roberts, merch fferm o Dalyllychau, Caerfyrddin, a myfyrwraig ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn sôn wrth Terwyn Davies am sut mae hi a’i ffrindiau’n helpu’r cneifio drwy lapio gwlân i bobl leol… Profiadadau Experiences Cneifio Sheering Myfyrwraig Student (female) Lapio To wrap Cwrdd To meet Gynnau Just now Clymu sachau Tying sacks Gwinio (gwnïo) Stichting BRYN WILLIAMS A DEWI LLWYD Y cogydd proffesiynol Bryn Williams oedd gwestai pen-blwydd Dewi Llwyd wythnos diwetha. Mae gan Bryn ddau fwyty yn Llundain ac un ym Mae Colwyn – Porth Eirias. Dyma i chi flas (sori eto) ar y sgwrs... Cogydd Chef Wedi’i hen sefydlu Well established Bwydlen Menu Gweini To serve O safon Of quality IFOR AP GLYN - Y GYMRAEG MEWN 50 GAIR Yn y clip nesa cawn ni glywed Ifor ap Glyn yn trafod y gair ‘gwynt’. Gair pwysig iawn i forwyr ers talwm ac mae hynny wedi effeithio ar y ffordd dyn ni’n defnyddio’r gair heddiw. Dyma Ifor yn esbonio… Yr hen forwyr gynt The ancient mariners Iaith lafar Oral language Wedi gostegu’n ddi-rybudd Had quelled without warning Darogan To forecast Ceiliog y Gwynt Weather vane. Y Gwyddel The Irishman Y meirw The dead Ffroen yr ych The oxen’s nostril Cyswllt newydd New context Ar fin digwydd About to happen HANES MARY HOPKIN Roedd Mary Hopkin yn seren y byd pop Cymraeg a Saesneg yn niwedd y chwedegau ac yn ystod y saithdegau. Hi oedd un o’r artistiaid cynta i gael recordio ar label Apple ac roedd Paul McCartney yn sgwennu caneuon yn arbennig iddi hi. Roedd y cyfarwyddwr teledu Eurof Williams yn cofio Mary yn canu yn y capel ym Mhontardawe pan oedd hi’n ifanc. Erbyn hyn mae e wedi gwneud rhaglen deledu amdani hi, a buodd e’n sôn ar raglen Rhys Mwyn nad oedd hynny’n beth hawdd iawn i’w wneud Cyfarwyddwr Director Cyfres Series Annibynwyr Independants Eisoes Already Awyddus Keen Dychmygu To imagine Yn ddiweddarach Later on Hir a llafurus Long and laborious Atgofion Memories Si Rumour DYLAN EBENEZER Dylan Ebenezer, cyflwynydd y gyfres newydd – Ynys yr Hunan Ynyswyr, oedd gwestai Caryl a Daf ddydd Mercher a chafodd y ddau gyfle i holi Dylan am ei brofiadau ynysu ei hunan. Yn y clip yma cawn glywed sut mae Dylan yn cadw’n heini a beth mae e’n ei ddarllen yn ystod y cyfnod clo.. . Hunan ynyswyr Self-isolators Y cyfnod clo The lockdown Anadlu’n ddwfn To breathe deeply Gollwng stêm To let off steam Llwyth Loads Cymeriad adnabyddus A famous character Etifeddu To inherit Rhyfeddol Amazing Wedi mwynhau mas draw Really enjoyed Cyfrannu To contribute
6/12/202016 minutes, 7 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr Mehefin 5ed 2020

YNYS YR HUNAN YNYSWYR Mewn cyfres newydd ar Radio Cymru, mae Dylan Ebenezer yn cael dewis pwy sy’n cael aros ar yr ynys gyda fe ar ôl iddo fe glywed beth yw hoff lyfrau, caneuon a ffilmiau’r gwesteion. Dyma i chi’r chwaraewr rygbi rhyngwladol Rhys Patchell yn trio perswadio Dylan i adael iddo fe aros ar yr ynys drwy sôn am ei hoff lyfr... Hunan Ynyswyr’ Self Isolators Awgrymu To suggest Cyfres o ddarlithoedd A series of lectures Yn seiliedig ar based on Cyflawni breuddwydion Fulfilling dreams Llefain To cry Canllawiau Guidelines Ysbrodoli To inspire Darganfod To discover Delwedd Image Alla i ddychmygu I can imagine EISTEDDFOD T Drwy’r wythnos diwetha buodd Ifan Jones Evans a Nia Lloyd Jones yn rhannu pob cystadleuaeth yr Eisteddfod hon gyda gwrandawyr Radio Cymru. Dydd Mawrth clywon ni gystadleuaeth yr Ymgom i flwyddyn 6 ac iau. Ymgom Enfys Caerfyrddin o Adran Myrddin enillodd – sef Tomos, Esyllt, Serian ac Efa Haf, ac mi gafodd Nia sgwrs gyda Efa Haf i gael gwybod mwy am yr ymgom arbennig yma… Ymgom Sketch Iau Younger Crafu ‘mhen Scratching my head Hyfforddi To coach Mo’yn To want Yn wên o glust i glust With a broad smile Diwedd cyfnod End of an era Dymuno’n dda - To wish well Llongyfarchiadau Congratulations EISTEDDFOD T Roedd yna gystadlaethau tra gwahanol yn yr Eisteddfod eleni hefyd a dyma Heledd Roberts yn sôn wrth Ifan Jones Evans a Nia Lloyd Jones am rai o’r cystadlaethau gwahanol hynny gan gynnwys ei hoff gystadleuaeth hi - Anifeiliaid Anwes Talentog! Cyfryngau cymdeithasol Social media Trydar Twitter Beirniadu Adjudicating Perthynas Relationship Ci defaid Sheepdog Casgliad o ddoniau A collection of talents Uchafbwynt Highlight Lleidr Thief Cynllunio Planning Y cyffro The excitement SENGL NEWYDD YWS GWYNEDD Mae Yws Gwynedd yn ganwr pop poblogaidd iawn ond dyw e ddim wedi rhyddhau albwm na pherfformio’n fyw ers rhai blynyddoedd. Lisa Gwilym fuodd yn siarad gyda Yws ar raglen Aled Hughes. Mae Yws wedi ysgrifennu ei gân cyntaf ers tair blynedd ac wedi gorfod gwneud hynny mewn ffordd ychydig yn wahanol y tro yma. Dyma fe’n son wrth Lisa am sut lwyddodd e a’r band i recordio cân heb fynd i’r stiwdio... Cyhoeddi To announce Colli’r awen To lose the muse Potsian Messing around Yr hogia The lads Lloft sbâr Spare bedroom Anhygoel Incredible CERDDORIAETH NEWYDD Tra’r oedd Lisa Gwilym yn edrych ar ôl rhaglen Aled Hughes, Sian Eleri oedd yn edrych ar ôl rhaglen Lisa! Ac ar nos Fercher cafodd hi gwmni dau aelod o’r grŵp Anelog – Danny Cattell a Lois Rogers o Ddinbych. Fel Yws Gwynedd dydy Anelog ddim wedi rhyddhau albwm ers rhai blynyddoedd ond mae ‘na un newydd ar y ffordd.... Rhyddhau To release Rhedeg yn gyson Running regularly Yn weddol ddistaw Relatively quiet Ar hap Randomly COFIO'R 60 A MARWOLAETH JFK Thema Cofio yr wythnos diwetha oedd y chwedegau, ac yn y clip yma mae Charlotte Davies, Americanes sy wedi dysgu Cymraeg, yn sôn am y diwrnod cafodd JFK ei ladd Yn ddiweddarach More recently Ymateb Response Annisgwyl Unexpected Cefnogaeth Support Hawliau sifil Civil rights Cofrestru To register Yn ei erbyn Against him Adlewyrchu To reflect
6/5/202016 minutes, 21 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr Mai 28ain 2020

Myrddin ap Dafydd ar Aled Hughes Dw i’n sîwr bod y rhan fwya ohonon ni wedi dysgu geirfa newydd un ai yn y dosbarth, wrth ddarllen neu, wrth gwrs, drwy wrando ar Radio Cymru. Ond mae na nifer o eiriau tafodieithiol wnawn ni ond eu clywed drwy ymweld ag ardaloedd arbennig yng Nghymru. Dych chi wedi clywed y gair ‘ “wilibowan” a “sbensh” er enghraifft? Dyma oedd gan Myrddin ap Dafydd i’w ddweud am hen eiriau’r Gymraeg wrth Aled Hughes yr wythnos hon. Tafodieithol Dialectal Wedi gwirioni Really liked Ehangach Wider Y fraint The privilege Yn hanu o Hails from Yn y bôn Essentially Moethus Luxurious Cogio Pretending Yn glymau In Knots Ffashiwn beth Such a thing Catrin Gerallt a Hannah Daniel - Dau Cyn Dau ar Dros Ginio Mam a merch o Gaerdydd fuodd yn cadw cwmni i Dewi Llwyd ar Dau Cyn Dau yr wythnos yma – sef Catrin Gerallt a Hannah Daniel. Mae Catrin Gerallt yn newyddiadurwraig brofiadol iawn sydd wedi gweithio ar raglenni fel Taro Naw, Manylu a’r One Show ac mae Hannah yn actores sydd wedi perfformio mewn cyfresi fel Gwaith Cartref, Hinterland ac Un Bore Mercher. Newyddiadurwraig brofiadol An experienced (female) journalist Cyfresi Series I’r graddau To the extent Y cyfyngiadau The restrictions (G)wynebau cyfarwydd Familiar faces Hogyn Bachgen Mam-gu Nain Cyfres newydd A new series Gweld isie To miss Caryl a Dafydd – Radio Cymru 2 Mae hi’n anodd gweithio ym myd comedi ar adeg mor sensitif ag yw hi nawr, ond dw i’n siŵr ei bod yn bwysicach, o bosib, oherwydd y sefyllfa i godi calonnau pobl. Y gomedïwraig Esyllt Sears oedd gwestai arbennig Caryl a Daf yr wythnos hon i sôn am sut mae’n bosib gwneud i bobl chwerthin y dyddiau hyn... Trafod To discuss Ystafell ddelfrydol Ideal room Yn dynn Tightly Cyffwrdd To touch Ysgwyd ei ysgwyddau Shaking his shoulders Chwerthiniad A laugh Cynulleidfa Audience Gynnau A moment ago Saernïo To construct Llenwi’r bwlch Filling the gap Bore Cothi Faint ohonoch chi sy’n coginio yn amlach y dyddiau hyn? Gaeth Shan Cothi wybod sut i wneud pasta ffres gan Michelle Evans Fecci a dyma i chi flas ar y sgwrs... Diffyg A shortage Oergell Fridge Blawd Flour Rhwydd Easy Tylino To knead Yn gwmws Exactly Garlleg Garlic Winwns Onions Ysbigoglys Spinach Dwlu wneud e Enjoy doing it Cofio – Traed Traed oedd pwnc Cofio yr wythnos diwetha a dyma glip o 2002 pan gafodd Nia Roberts sgwrs gyda Gwenno Saunders o Gaerdydd fuodd yn cymryd rhan yn y sioe Lord of the Dance gyda Michael Flatley. Cwestiwn Nia i Gwenno oedd sut mae’r dawnsio wedi effeithio ar ei thraed hi... Gwyddelig Irish Cystadleuaeth Competition Canolbwyntio Concentrating Ffiaidd Horrible Niwed Harm Cymorth Help Beti a’i Phobol Matt Spry o Aberplym (Plymouth) oedd gwestai Beti George wythnos dwetha. Matt oedd Dysgwr y Flwyddyn yn 2018 ac yn y clip nesa mae e’n sôn am ei hanes yn Lloegr, ei fam-gu o Gymru a pham dewisodd e’r enw Aberplym am Plymouth... Ymuno â Joins with Darganfod To discover Cernyweg Cornish language Ynganu To pronounce Ymwybyddiaeth Awareness Dyfnaint Devon Tad-cu Taid Cysylltiad Connection Syfrdanol Amazing Ar y ffin On the border
5/28/202015 minutes, 59 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr 22ain o Fai 2020

IFAN EVANS Prysor Lewis Mae Prysor Lewis yn dod o Aberaeron yng Ngheredigion yn wreiddiol ond erbyn hyn mae e’n byw ar fferm yn nhalaith Texas yn yr Unol Daleithiau mewn cymuned o’r enw Guthrie. Mae e’n gowboi go iawn fel clywon ni pan gafodd Ifan Evans sgwrs gyda fe am ei fywyd a’i waith, a chywed ychydig o hanes ei gariad newydd hefyd! Talaith State Yr Unol Daleithiau The United States Cymuned Community Sa i’n credu I don’t believe Ambell gymeriad The odd character Becso To worry Pen tost Headache Llawn canmoliaeth Full of praise Mas tu fas Outside -------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------- DROS GINIO Fformiwla 1 Roedd Pencampwriaeth Fformiwla 1 y Byd yn 70 oed wythnos yma. Mae Gwilym Mason Evans o Aberystwyth wedi gweithio gyda thimau fel Bennetton a Honda sawl gwaith yn ystod y Bencampwriaethau. Ond gweithio i’r Llu Awyr oedd e cyn hynny a dyma Vaughan Roderick ar y rhaglen Dros Ginio yn gofyn i Gwilym beth wnaeth iddo fe fod eisiau gweithio i dimau Fformiwla 1 … Pencampwriaeth Championship Y Llu Awyr The Airforce Cyfweliad Interview Yr heolydd The roads O amgylch Around Peiriannau Machines Wedi bennu Finished Cyd-fynd Agree Antur Adventure -------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------- GERAINT LLOYD Cneifio Ar ei raglen nos Fercher, cafodd Geraint Lloyd sgwrs gyda Llinos Owen o Feddgelert. Y llynedd cynhaliodd Llinos a’i gŵr Gareth gystadleuaeth Cneifio Gelert ac roedd e’n llwyddiannus iawn. Ma hi’n anodd iawn cynnal cystadleuaeth cneifio eleni wrh gwrs oherwydd Cofid 19, ond mae Llinos a Gareth wedi defnyddio’r dechnoleg ddiweddara i wneud yn siŵr bod y gystadleuaeth yn mynd yn ei blaen… Cneifio Shearing Gohirio To postpone Datblygu to develop Do Tad Yes indeed Manylion Details Sut mae modd How it is possible Cyfarchion Greetings Amryw o gneifwyr Several shearers Pencampwr Champion Ar wasgar y byd All over the world -------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------- LISA GWILYM Manon Steffan Ross Bob bore Dydd Sul ar ei rhaglen ar Radio Cymru 2 mae Lisa Gwilym yn mynd “Dan Do” gyda gwestai arbennig i weld sut maen nhw’n ymdopi gyda’r newid mawr yn ein ffordd o fyw oherwydd Covid 19. Yr wythnos dIwetha – yr awdures Manon Steffan Ros oedd ei gwestai. Sut mae ei bywyd hi wedi newid tybed? Llawrydd Freelance I dy fywyd di gynt To your previous existance Mewnblyg Introverted Llofftydd Bedrooms Ychydig yn hŷn A bit older Tridiau Three days Oedolion cyfrifol Responsible adults Dianc to escape Y broses greadigol The creative process Y tu hwnt i Beyond -------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------- DANIEL GLYN Huw Brassington Does dim llawer ohonon ni wedi bod yn cerdded y mynyddoedd yn yr wythnosau diwetha nac oes? Ond cyn i Covid 19 ein poeni ni roedd Huw Brassington wedi gwneud rhywbeth anhygoel a rhedeg 47 copa mewn 24 awr. A hynny gyda chriw camera yn ei ddilyn! Daniel Glyn gafodd yr hanes a gofyn y cwestiwn oedd ar wefusau pawb….sef pam? Bellach By now Her Challenge Twyllo to cheat Cael ei olygu Being edited Ymwybodol Aware Eithafol Extreme Cyflawni To accomplish Trwy fy oes Throughout my life Pwysau Pressure Egni Energy Ffrwtian Spluttering Yn grediniol Convinced -------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------- CARYL A DAF The Great British Menu Huw Brassington yn esbonio wrth Daniel Glyn pam wnaeth o redeg 47 copa mewn 24 awr . Dych wedi bod yn gwylio The Great British Menu ar BBC 2 o gwbl? Os ydych chi byddwch yn nabod yr enw Hywel Griffiths. Llwyddodd y cogydd o Fethesda yng Ngwynedd sydd gydag un seren Michelin yn ei fwyty ger Abertawe i gyrraedd ffeinal y gystadleuaeth. Fe oedd gwestai Caryl a Daf ar Radio Cymru 2 ac roedd y ddau eisiau clywed mwy am yr her oedd yn ei wynebu ar y rhaglen… Rhyfeddu To be amazed Gweini To serve Am gamp! What an achievement Adolygiadau Reviews Gweiddi To shout Mwya trawiadol Most striking Cynnyrch Produce Llenyddiaeth Literature Cyfyngu To restrict
5/22/202024 minutes, 47 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr 15fed o Fai 2020

S'mae... Dach chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …” Geraint Lloyd – Mercher 06/05/20 Dwynwen Hedd …mae Dwynwen Hedd yn dod o Drefach ger Llanbedr Pont Steffan yng Ngheredigion yn wreiddiol ond erbyn hyn mae hi’n byw yn y Swisdir yng nghanol y mynyddoedd. Cafodd Geraint Lloyd sgwrs gyda hi ar ei raglen nos Fercher, ac yn y darn yma mae hi’n esbonio wrth Geraint sut mae ei bywyd hi wedi newid yn ddiweddar. Clecs Gossip Rheolau Rules Dipyn llymach Quite a bit stricter Cenfigefnus Jealous Ffili Can’t Y byd arlwyo The catering world Tymhorol Seasonal Diflannu To disappear Mynd i bennu Going to end Aroglu To smell -------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------- Storiwyr – Sadwrn 09/05/20 Stori Ffion Clywon ni sawl stori a jôc yn y rhaglen Storiwyr dydd Sadwrn. Dyn ni’n mynd i wrando nawr ar un o’r straeon sef hanes yr actores Ffion Dafis pan oedd hi’n teithio, neu’n trio teithio, o gwmpas Asia... Antur Adventure Cyntefig Primitive Angenrheidiol Necessary Gronyn tywod Grain of sand Cael fy nghludo Being transported Sibrwd To whisper Drwgweithredwr Wrongdoer Swyddog arfog Armed officer Llygedyn o obaith A glimmer of hope Gwerthfawrogol Appreciative -------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------- Herbert a Heledd yn Achub y Byd - Ffeindio cariad Clip o bodlediad sy nesa. Mae podlediad wythnosol gan Catrin Herbert a Heledd Medi, dwy ferch o’r ddinas sydd fel arfer yn sgwrsio am newid eu ffordd o fyw er mwyn achub y blaned. Dydy’r clip dyn ni’n mynd i wrando arno ddim mor uchelgeisiol â hynny fodd bynnag – dyma i chi Catrin a Heledd yn sôn am eu bywyd carwriaethol yn ystod y cyfyngiadau. Achub To save Uchelgeisiol Ambitious Bywyd carwriaethol Lovelife Y cyfyngiadau The lockdown Mewn perthynas In a relationship Twym Warm ` Yn ddifrifol iawn Very serious Esgus To pretend ------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------ Aled Hughes – Llun 04/05/20 Kimono Mae Karl Davies yn byw yn Tseina ar hyn o bryd ond mae e’n ymweld yn aml â Japan. Dros y blynyddoedd mae e wedi prynu sawl kimono a gofynodd Aled Hughes iddo fe beth oedd yr apêl… Dilledyn Clothing Cyson Regular Mor gyfyng So confined Sidan Silk Anhygoel Incredible Llac Loose Ffedog Apron Addurno To decorate Y rhai mwya cain The most elegant Gwniadwaith Embroidery ----------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------- Awr Werin – Mercher 06/05/20 Sian James Ar yr Awr Werin wythnos diwetha buodd Lisa Gwilym yn edrych yn ôl ar albwm cynta Sian James 30 mlynedd yn ôl yng nghwmni Sian. Mae’r ddwy newydd wrando ar y gân Marchnad Llangollen o’r albwm ac mae Lisa’n meddwl bod dylanwad y band gwerin Gwyddelig Clannad arni. Beth oedd gan Sian i’w ddweud am hynny tybed... Gwerin Folk Gwyddelig Irish Dylanwad Influence Unigol Individual Yn rhyfedd iawn Strangely enough ----------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------- Sioe Frecwast – Mercher 06/05/20 Jade Davies Mae Jade Davies yn dod o Ruthun yn wreiddiol ond mae hi wedillwyddo i ddod yn seren y West End yn ifanc iawn. Sut ddigwyddodd hynny? Daf a Caryl fuodd yn ei holi hi ar y Sioe frecwast... Llwyddo To succeed Seren Star Profi To prove Graddio To graduate Breuddwyd A dream
5/15/202021 minutes
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr 7fed o Fai 2020

S'mae... Dach chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …” Beti A’I Phobol – Sul a Iau – 26 a 30/04/20 Cai Wilshaw Gwestai Beti George oedd y sylwebydd gwleidyddol Cai Wilshaw ac yn y clip yma mae e’n sôn am ei brofiad o weithio fel intern i Nancy Pelosi, sef menyw, neu ddynes, fwya pwerus Unol Daleithiau America Sylwebydd gwleidyddol Political correspondent Etholiadau Elections Cyswllt Connection Rhydychen Oxford Ymweliad A visit Gwleidyddiaeth Politics Y Gyngres Congress Swyddfa’r wasg The press office Chwant Desire Cynhadleddau’r wasg Press conferences -------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------- COFIO – Sul a Mercher 03 a 06/05/20 Colur Cai Wilshaw oedd hwnna’n sôn wrth Beti George am Nancy Pelosi. Gwesteion gwahanol iawn i Cai oedd gan Beti ar un o’i rhaglenni yn 1976. Pobol ifanc oedd thema Cofio wythnos diwetha a chlywon ni ran o sgyrsiau gafodd Beti gyda rhai o ferched y de yn cofio pa fath o golur oedden nhw’n ddefyddio pan oedden nhw’n ifanc... Colur Make-up Bodlon Willing Dodi To put on Mochyndra Filth Rhydd Free Nisied Handkerchief Bant Away Gwefusau Lips Heol Road -------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------- Oedfa – Sul 03/05/20 Ysbyty Gwynedd Wel mae pethau wedi newid ers i Beti gael y sgwrs honno on’d dyn nhw? Mae llawer iawn ohonon ni’r dyddiau hyn yn ddiogel iawn yn ein cartrefi yn ystod y cyfnod anodd yma , ond mae llawer o bobl yn gorfod gweithio wrth gwrs. Un o’r rheini yw Menna Morris sydd yn gweithio fel nyrs yn Adran Frys Ysbyty Gwynedd. Ar raglen Oedfa ddydd Sul gofynnodd John Roberts i Menna ddisgrifio’r sefyllfa yn yr ysbyty ar hyn o bryd….. Adran Frys A&E Ardaloedd Areas Gwisgoedd amddiffynol Personal Protection Equipment Ffedog a menyg An apron and gloves Unedau damweiniau Accident units Argyfwng Crisis ----------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------- Sioe Frecwast Radio Cymru 2 gyda Daf a Caryl - Mawrth, 28/04/20 Dolly Parton Mae ganddon ni le mawr i ddiolch i’r gweithwyr allweddol i gyd on’d oes? Menna Morris, nyrs yn Ysbyty Gwynedd fuodd yn siarad gyda John Roberts ar Oedfa. Sioned Mills ydy arbenigwraig Radio Cymru ar bodlediau a hi oedd yn cadw cwmni i Daf a Caryl ar y Sioe Frecwast ddydd Mawrth. Dyma hi’n sôn am un o’i hoff bodlediadau, na nid Pigion y Dysgwyr, ond un am Dolly Parton… Gweithwyr allweddol Key workers Arbenigwraig Expert (female) Yn benodol Specifically Cyfres Series Yr eilyn The idol Yn wirioneddol dda Really good Dogfen Documentary Egni Energy Pennod Chapter Amlenni Envelopes Goddefgarwch Tolerance ---------------------------------------------------------------------------------------------------------- Lisa Gwilym – Mercher 29/04/20 Osian Candelas Sioned Mills yn fan’na yn amflwg yn ffan mawr o Dolly Parton. Nos Fercher cafodd Lisa Gwilym sgwrs gyda Osian Williams o’r band Candelas a’i chwaer Branwen. Mae Osian yn byw yng nghartre’r teulu yn Llanuwchllyn ger y Bala a gofynnodd Lisa iddo fe ble mae e’n recordio’i gerddoriaeth y dyddiau hyn… Gweddill y tŷ The rest of the house Taflu llwyth o bethau Throwing loads of stuff Cyfansoddi Composing O ystyried Considering Offer Equipment Offerynnau Instruments Yn syth bin Straight away Yn fyw Live Yn wyrthiol Miraculously Yn ysu Yearning -------------------------------------------------------------------------------------------------------------------- Geraint Lloyd – Mawrth – 28/04/20 Sbaen A dw i’n siŵr bod yna edrych ymlaen mawr at albwm newydd Candelas. Mae Gwenno Fflur yn dod o Rydyfoel ger Abergele yn wreiddiol, ond mae hi ar hyn o bryd yn dysgu mewn Ysgol Brydeinig Ryngwladol yn Sbaen ac mae hi wedi bod yn byw ac yn gweithio yno ers 5 mlynedd. Cafodd Geraint Lloyd sgwrs gyda hi ddydd Mawrth a holi sut oedd pethau yn Sbaen erbyn hyn Ysgol Brydeinig Ryngwladol International British School Rheolau tipyn llymach Much harsher rules Dw i’n byw a bod I spend all my time Yn gaeth i’r cartre Confined to the house Rhwystrau Obstacles Dirwyon Fines Caniatâd Permission Y rhyddid The freedom Derbynneb Receipt Mygydau Masks ------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
5/7/202016 minutes
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr 30ain o Ebrill

S'mae... Dach chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … Recordiau Rhys Mwyn Llun 20/04/20 Heledd Watkins "Mae clipiau'r wythnos hon i gyd yn sôn am sut mae gwahanol bobl yn ymdopi gyda'r sefyllfa anodd sydd wedi codi oherwydd Covid-19. Dyma Heledd Watkins o'r band HMS Morris yn dweud ar ba gerddoriaeth mae hi'n gwrando yn ystod y cyfnod yma..." ymdopi - to cope profiadau cerddorol - musical experiences gwyllt a gwallgof - wild and mad llwyth - loads droeon - several times yn benodol - specifically syllu - staring gorfeddwl - overthinking cynrychioli - to represent trefnu - arrange Sioe Frecwast "Sul – 19/04/20 Meilir Rhys Williams ".Nesa, sut dach chi'n cadw'n brysur yn y cyfnod anodd yma - garddio, coginio, gwrando ar Radio Cymru? Ar y Sioe Frecwast dydd Llun clywon ni sut oedd yr actor Meilir Rhys Williams o Rownd a Rownd yn cadw ei hun yn brysur..." paratoi - to prepare gwreiddio - to root pobi - to bake gwyddbwyll - chess yn fras - broadly ffyn - sticks andros o hwyl - lots of fun Sioe Frecwast Daf a Caryl "Iau 23/04/20" Owain Wyn Evans Owain Wyn Evans ydy 'dyn tywydd' BBC North West Tonight, ond mae e, fel llawer ohonon ni, yn gorfod gweithio o gartre y dyddiau hyn. Cafodd llawer o wylwyr y rhaglen sioc wythnos diwetha wrth i Wyn orffen sôn am y tywydd a rhedeg at ei ddrymiau a'u chwarae'n fyw ac yn wyllt ar y teledu. Mae miloedd o bobl wedi gweld y clip ohono yn gwneud hyn a chafodd Daf a Caryl sgwrs gyda fe fore Iau am y digwyddiad alla i ddychmygu - I can imagine y blaned Mawrth - The planet Mars gwefannau cymdeithasol - social media dim clem - no idea cyflwynydd - presenter ysbrydoli - to inspire rhagolygon - forecast unigryw - unique anhygoel - incredible Geraint Lloyd Llun 20/04 Dartiau Facetime "Ffordd wahanol iawn sy gyda Llion Thomas i gadw ei hun yn brysur dros y cyfnod yma. Dartiau ydy hobi Llion a 'sech chi'n meddwl basai'n anodd iawn cael gêm dartiau yn erbyn rhywun arall y dyddiau hyn. Ond mae Llion wedi ffeindio ffordd i wneud hynny, fel buodd e'n esbonio wrth Geraint Lloyd." yndw 'chan - ydw, fachgen taflu - to throw ble bynnag - wherever gormod - too much cystadlaethau mawr - big competitions Bore Cothi Llun 20/04/20 "John Williams" "Mae'n bywyd pob un ohonon ni wedi newid gyda'r argyfwng yma on'd dyw e? Ond mae bywyd John Williams o Abergele wedi newid yn llwyr. Mae John yn colli ei olwg oherwydd Glaucoma, ond dyw e ddim yn hollol ddall. Cyn mis Mawrth eleni ei hoff ffordd o dreulio amser oedd teithio o gwmpas Prydain ar y bws neu ar y tren. Mae hynny wrth gwrs wedi stopio am nawr ond dyma John yn sôn wrth Shan Cothi am ei deithiau cyn y cyfyngiadau... " argyfwng - crisis coll ei olwg - losing his sight y cyfyngiadau - the lockdown hollol ddall - totally blind waeth heb â gofidio - there's no point worrying gwneud yn fawr ohono - to make the most of it teimlo'n gaeth - feeling confined cyffredin - normal gweddill y ffordd - the rest of the way ucheldiroedd - highlands Bore Cothi Gwener 24/04/20 Jonathan Davies "Er nad ydy'r cyn chwaraewr rygbi Jonathon Davies yn gallu codi arian i'w hoff elusen - Ysbyty Felindre Caedrydd, mae o'n dal i gadw'n heini a chodi arian yr un pryd - a hynny" ti byth yn llonydd - you're never still egni - energy mo'yn - eisiau cynnal yr elusennau - support the charities llywydd - president hashnod - hashtag colli chydig bach o chwys - shed a little sweat yr un mor dynn - as tight pwysau - weight ... a dyna ni am yr wythnos yma. Gobeithio eich bod chi wedi mwynhau'r podlediad yma a'i fod wedi bod yn ddefnyddiol ac yn ddifyr i chi. Mae tudalen eirfa arbennig yn cyd-fynd a'r podlediad yma i'w chael ar bbc.co.uk/radiocymru/ a chlicio ar Pigion.
4/30/202019 minutes, 29 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr 23ain o Ebrill 2020

Aled Hughes Gwener 17/04/20 Breuddwydio "Dych chi'n cofio eich breuddwydion? Dych chi'n breuddwydio am bethau gwahanol oherwydd argyfwng y feirws? Dyna rai o'r pethau gododd mewn sgwrs gafodd Ffion Dafis gyda'r seiolegydd Dr Mair Edwards. Yn ôl Dr Mair mae cwsg a breuddwydio yn bwysig iawn i’n iechyd meddwl ni ac mae'r adeg anodd yma yn gwneud i bobl freuddwydio mewn ffyrdd gwahanol iawn" breuddwydion - dreams argyfwng - crisis hynod lachar - extremely vivid yr eglurhâd - the explanation trwmgwsg - deep sleep ymwybodol - aware pryder - concern yn fwy tebygol - more likely cyfuniad - a combination ansawdd cwsg - the quality of sleep Ifan Evans Dydd Iau 16/04/20 Bronwen Lewis "Ffion Dafis oedd honna yn eistedd yn sedd Aled Hughes ddydd Gwener diwetha ac yn cael sgwrs gyda'r Dr Mair Edwards am freuddwydio. Nid Ffion oedd yr unig un oedd yn eistedd yn sedd y cyflwynydd arferol. Dydd Iau Trystan Ellis Morris oedd yn cymryd lle Ifan Evans a buodd e'n sgwrsio gyda'r gantores Bronwen Lewis o Flaendulais yng Nghwm Nedd. Buodd rhaid i Bronwen ganslo sawl gig oherwydd y feirws a dyma hi'n sôn wrth Trystan am syniad gafodd hi i godi arian" Y cyflwynydd arferol - the usual presenter ben ei waered - upside down creu - to create mo'yn - eisiau beth bynnag - whatever wedi crio'r glaw - had cried loads ffili credo - can't believe mor garedig - so kind elusennau - charities anhygoel - incredible Geraint Lloyd Llun 13/04/20 ENDAF GRIFFITHS "Pedair mil o bunnoedd am gig dwy awr - da on'd ife?. Buodd Clwb Ffermwyr Ifanc Pont-Siân yn codi arian mewn ffordd arbennig iawn ddydd Llun y Pasg. Bwriad aelodau'r clwb oedd cerdded, rhedeg neu seiclo yr holl ffordd o Gaerdydd i Gaergybi, taith o 218 milltir, a hynny heb adael eu cartrefi, er mwyn codi arian at ddau ysbyty yn y de-orllewin. Ond pa mor bell aethon nhw tybed? Endaf Griffiths – aelod o’r clwb fuodd yn ateb y cwestiwn hwnnw ar Raglen Geraint Lloyd nos Lun…" Swyddogion - officials dechrau becso - beginning to worry chwalu'r targed - smashed the target yn hytrach na - rather than ymateb - response arweinyddion - leaders cyfrannu - contributing cronfa - fund unedau gofal dwys - Intensive care units annog - to encourage Sioe Frecwast Llun 13/04/20 35 Diwrnod "Da iawn Clwb Ffermwyr Ifanc Pont-Siân, rhedeg i Baris - dipyn o gamp! Buodd Fflur Dafydd ar y Sioe Frecwast gyda Daf a Caryl fore Llun y Pasg ar Radio Cymru. Fflur ydy awdures y gyfres boblogaidd 35 diwrnod, a'r newyddion da ydy bod cyfres newydd yn dechrau cyn bo hir. Dyma Fflur yn edrych ymlaen at y gyfres... " Y gyfres boblogaidd - the popular series cynulleidfa - audience yn gyfarwydd ag e - familiar with (it) corf - body y bennod - the first episode llawn cyfrinachau - full of secrets yn raddol - gradually yn cylchdroi - revolving y briodferch - the bride ysgafnder - levity Sioe Frecwast Sadwrn – 18/04/20 Cwestiynau Diog "...a bydd y gyfres newydd o 35 diwrnod yn cychwyn ar S4C yn fuan. Dyma i chi glip arall o'r Sioe Frecwast gyda Daniel Glyn yn gofyn ei Gwestiynnau Diog i’r gantores Ani Glass. Y cwestiynau ydy: beth yw ei hoff liw hi a'i hoff ddarn o wydr... " Cwestiynau Diog - Lazy Questions darn of wydr - piece of glass yn y gorffennol - in the past cyfnod - period eglwys - Ystyr Bore Cothi Iau – 16/04/20 Adam yn yr Ardd "Cwestiynau diog Daniel Glyn yn cael eu hateb yn fan'na gan Ani Glass. Os dych chi'n licio garddio beth wnech chi yn ystod y cyfnod anodd yma? Wedi cwbl mae'r canolfannau garddio wedi cau. Wel dyma i chi rai o'r tips gaeth Shan Cothi gan 'Adam yn yr Ardd' ..." Tyfu'n glou - to grow quickly yn ormodol - excessively yn dueddol - tends to hadau - seeds synnech chi - you'd be surprised plannu - to plant gwasgaru - to spread egino - to germinate twrio - to delve gwastraffu - to waste
4/23/202016 minutes, 34 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr 16eg o Ebrill 2020

"…clip o Fy Stori i, a stori Glyn Jones sy'n dioddef o'r cyflwr MS oedd yn cael ei rhannu wythnos diwetha. Yn y clip yma mae e'n sôn am rai o'r trafferthion mae e'n wynebu wrth ddefnyddio cadair olwyn ar drafnidiaeth gyhoeddus…. " Fy Stori i - Glyn Jones dioddef o'r cyflwr - suffering from the condition trafferthion - problems cadair olwyn - wheelchair trafnidiaeth gyhoeddus - public transport sicrhau - to ensure 'set ti'n synnu - you'd be surprised anghyfreithlon - illegal dwn i'm faint o weithiau - I don't know how many times sefyllfa - situation ymddiheuro - to apologise "Glyn Jones oedd hwnna'n sôn am rai o'r trafferthion wrth ddefnyddio cadair olwyn ar drafnidiaeth gyhoeddus. Mae'r rhan fwya'r clipiau wythnos yma yn cyfeirio at sut mae pobl yn ymdopi gyda'r sefyllfa sy'n bodoli oherwydd Covid-19. Dyma i chi fam a merch, Gwenda a Gaynor Owen, oedd yn arfer gweld ei gilydd bob dydd yn y gwaith ond sy nawr yn gorfod dibynnu ar Facetime i gadw mewn cysylltiad... " Dros Ginio - Gwenda a Gaynor ymdopi - coping sy'n bodoli - that exists rhyfedd iawn - very strange ar gyfnod arferol - in a normal period ail-wneud - redo beudy godro - milking parlour harddwch - beauty bwthyn gwyliau - holiday cottage sefydlu - to establish trin gwallt - hairdressing "Y fam a'r ferch Gwenda a Gaynor Owen yn fan'na yn sgwrsio gyda Dewi Llwyd ar y rhaglen Dros Ginio. Cafodd Ifan Evans sgwrs o bell gyda'r canwr Aled Hall ddydd Mawrth. Buon nhw'n sôn am yr hynan-ynysu a hefyd am y lleuad enfawr oedd i'w gweld y noson honno .." Ifan Evans - Aled Hall hunan-ynysu - self-isolate lleuad enfawr - huge moon anghysbell - remote ta beth - in any case codi calon - lift the heart anhygoel - incredible "Mae Aled Hall yn dipyn o gymeriad on'd yw e? Mae Manon Ellis wedi arfer rhedeg busnes o'i chartref hyd yn oed cyn argyfwng y feirws. Ond mae'r argyfwng wedi rhoi cyfle iddi hi helpu gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd mewn ffordd ymarferol. Mae hi wedi gwneud deuddeg o fagiau i ddoctoriaid a nyrsus allu rhoi eu dillad ynddyn nhw ar ôl shift yn yr ysbyty gan ddefnyddio duvet sbâr. Dyma hi'n sgwrsio gyda Geraint Lloyd... " Geraint Lloyd - Bagiau argyfwng - crisis ymarferol - practical menyg - gloves cymuned - community cyflwr - condition yn y pendraw - at the end of the day cymaint o sylw - so much attention Trallwng - Welshpool sbïo - edrych codi ymwybyddiaeth - raising awareness "Braf clywed am rywun yn gwneud rhywbeth ymarferol i helpu'r rhai sy'n gweithio i'r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol on'd ife? Owen Evans ydy Prif Weithredwr S4C a fe oedd gwestai Beti George wythnos diwetha. Mae'n debyg bod ei swydd yn golygu gweithio'n galed iawn, ond dydy hynny ddim yn broblem i Owen gan ei fod wedi bod yn gweithio'n galed ers pan oedd e'n fachgen ifanc..." Beti a’I Phobol - Owen Evans Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol - National Health Service Prif Weithredwr - Chief Executive yn golygu - means y gyfraith - the law yn y bôn - basically yn segur - idle lawrlwytho - unloading "Owen Evans oedd hwnna Prif Weithreswr S4C yn siarad ar Beti a'i Phobol. Mae Cadi Mai yn ffrind i Aled Hughes, roedd hi'n arfer gweithio gyda fe ac mae hi'n dod o'r un pentre ag Aled. Ond nawr mae hi'n gweithio yn Fietnam. Dyma ran o'r sgwrs gaeth y ddau ohonyn nhw ar raglen Aled ddydd Llun ble mae Cadi'n disgrifio ei bywyd newydd yn y wlad bell... " Aled Hughes - Fietnam breuddwyd - a dream cael gwireddu hyn - can fulfil this datblygiadau - developments creaduriaid - creatures does wybod - you can't tell cyfryngau cymdeithasol - social media llym - severe mater brys - emergency caredigrwydd - kindness
4/16/202016 minutes, 2 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr 9fed o Ebrill 2020

Bore Cothi Mercher 01/04/20 Carys a Meryl "...Cafodd Shan Cothi sgwrs ddydd Mercher gyda Carys Eleri a'i mam Meryl o’u tŷ yn Y Tymbl ger Llanelli. Mae’r ddwy yn hunan-ynysu ond yn cadw eu hunain yn brysur hefyd gan fod yna Hot Tub newydd gyrraedd y tŷ. Maen nhw’n sôn yn y sgwrs am Nia Medi , merch Meryl a chwaer Carys Eleri ydy hi..." hunan ynysu - self isolating creadigol - creative synfyfyrio - to meditate i'r gwrthwyneb - to the contrary mor glou - so quickly ar garlam - at a pace cynnal - to sustain rhoi at ei gilydd - to assemble Uwch - at ei gilydd piben ddŵr - water pipe Aled Hughes Dydd Llun 30.03.2020 Ffaith ffyrnig "Meryl a Carys Eleri yn edrych ymlaen at yr Hot Tub. Carys gudda llaw ydy prif seren y ddrama Parch ar S4C. Gyda'r ysgolion ar gau, mae Aled Hughes yn annog plant Cymru i gysylltu gyda ffaith ffyrnig y dydd. Llew o Brynrefail, ger Llanberis, oedd yn sgwrsio ac yn rhoi ffaith bore Llun, a ffaith ffyrnig iawn oedd hi hefyd..." annog - to encourage ffaith ffyrnig - a ferocious fact y nawfed ganrif - 9th century gafr - goat egni - energy darganfod - to discover Aled Hughes Iau 02/04/20 Llyfrau plant "Ffaith ffyrnig Llew yn fan'na ar raglen Aled Hughes. Dydd Iau diwetha roedd hi'n Ddiwrnod Rhyngwladol Llyfrau Plant ac yn benblwydd Hans Christian Andersen. Felly dyna oedd y diwrnod perffaith i'r awdures Anghaarad Tomos lansio ei llyfr newydd yng nghyfres Rwdlan , a hynny'n fyw ar raglen Aled Hughes..." Ail ymddangos - to reappear cymeriadau - characters anos - more difficult diogi - to be lazy newydd sbon danlli - brand new cynulleidfa - audience gwaith unig - lonely work ymateb - responding dos ati - go for it y canlyniad - the result Bore Cothi Iau 02/04/20 Ffion "Newyddion da i blant Cymru yn fan'na gan Angharad Tomos. Nesa, dyma i chi flas ar sgwrs cafodd Shan Cothi gyda Yvonne Davies o Dreioan ger Caerfyrddin am ei merch Ffion. Roedd Ffion eisiau gwneud rhywbeth arbennig i helpu’r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol i ddiolch iddyn nhw am yr holl waith maen nhw’n wneud ... " Y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol - The NHS ymdopi - coping ddim yn ffôl - not bad yn y man - shortly wedi dod i glawr - has come to mind cefndir - background dipyn o her - quite a challenge corfforol - physical Jazz gyda Tomos Williams Gwener 03/04/20 Owen Martell "Da iawn Ffion am gael syniad gwych i helpu'r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol. Y nofelydd Owen Martell oedd yn dewis cerddoriaeth ar raglen Jazz Tomos Williams nos Wener. Dyma fe'n sôn am un o'i hoff ganeuon jazz.... " Canol y chwedegau - the mid-sixties sylweddolais i - I realised teimlo'n amgerddol - to feel passionately darnau penodol - specific pieces yr argraff - the impression fel y cyfryw - as such oesol - perpetual bydysawd annelwig - an abstract universe bara beunyddiol - daily bread caethiwed - slavery Ifan Evans Dydd Mawrth 31.03.2020 Iona ac Andy "Owen Martell yn sôn am ei hoff gerddoriaeth jazz yn fan'na. Cafodd Ifan Evans sgwrs gyda chwpwl oedd yn dathlu eu prodas ruddem ddydd Mawrth - y ddeuawd canu gwlad Iona ac Andy. Mae'r ddau yn byw yn yr Alban erbyn hyn ond roedden nhw'n gobeithio dod yn ôl i Gymru i ddathlu penblwydd eu priodas. Dyma Iona'n sgwrsio gyda Ifan... " priodas ruddem - ruby wedding canu gwlad - country & western cyfansoddi - to compose alawon - tunes wedi synnu - surprised gwerth chweil - worthwhile wedi elwa - have benefited pennill - a verse emynau - hymns wedi eu gohirio - postponed
4/9/202015 minutes, 51 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr 02/04/2020

"Mae Bryn Terfel wedi gorfod canslo misoedd o gyngherddau ar ôl iddo fe gael damwain yn Bilbao. Dyma Bryn yn siarad gyda Shan Cothi ac yn sôn am sut digwyddodd y ddamwain ac am yr help mae e'n ei gael i wella." Bore Cothi - Bryn Terfel llithro ar bafin - to slip on a pavement gohirio - to postpone pigwrn - ankle ar y trywydd cywir - on the right track amser brawychus - frightening times fy nghalon i'n gwaedu - my heart bleeds heriol tu hwnt - extremely challenging cymeradwyaeth - applause bagl - crutch yn ganiataol - for granted "Bryn Terfel oedd hwnna'n sgwrsio gyda Shan Cothi. Dydd Sadwrn, Sion Tomos Owen o Dreorci oedd yn trio gwneud i Geraint, Elan a holl wrandawyr Radio Cymru chwerthin yn y slot 'Munud i Chwerthin' gyda stori am ei fam-gu" Y Sioe Sadwrn - Munud i Chwerthin paratoi - to prepare sa i 'di bod - dw i ddim yn gwybod mam-gu - nain rhy barchus - too repectable chwydu - to vomit tad-cu - taid "Dwy stori ddoniol yn fa'na am fam-gu Sion Tomos Owen. Mae'r Dr Radha Nair Roberts yn dod o Singapore yn wreiddiol, ond yn byw yng Nghymru erbyn hyn. Mae hi'r rhugl mewn sawl iaith, gan gynnwys y Gymraeg. Hi oedd gwestai Beti George wythnos diwertha a dyma hi'n esbonio wrth Beti pam ei bod hi'n meddwl bod dysgu ieithoedd yn bwysig.." Beti A’i Phobol - Dr Radha Nair Roberts diwylliant - culture mabwysiedig - adopted gwerthfawr - valuable ymdrech - effort cyfoethog - rich ieithydd - linguist yn gymharol - relatively amddiffynol - defensive dwlu ar - hoffi yn fawr ymenydd - brain "Dr Radha Nair Roberts wedi dysgu Cymraeg yn wych ac yn sgwrsio yn fan'na gyda Beti George. Os dych chi'n hunan ynysu neu'n gweithio o gartre, beth dych chi'n wneud gyda'ch amser sbâr? Gwylio ffimiau mae Tudur Owen yn ei wneud a dyma fe'n sgwrsio gyda Dyl Mei a Manon am y ffilmiau buodd e'n eu gwylio wythnos diwetha..." Tudur Owen - Ffilmiau hunan ynysu - to self isolate dychmygu - imagine arswyd - horror gwirioneddol - really y gweddill - the rest wedi heneiddio - has grown older ngwas i - poor dab "Os dych chi'n gweithio o adre ella na fydd llawer o amser gyda chi i wylio ffilmiau un wahanol iawn i Tudur Owen. Gyda chymaint o bobl yn defnyddio wi-fi er mwyn gweithio gartre mae'n siŵr bydd cyflymder y wifi yn arafu. Sut mae osgoi hyn? Dyma i chi gynghorion Megan Davies ..." Dros Ginio - Gweithio o adre cynghorion - tips cyswllt band eang - broadband connection rhwydwaith - network dan ei sang - overstretched ar y gorwel - on the horizon ffôn daeraol - landline popdy meicrodon - microwave oven diwifr - wireless sain - sound lleihau - to reduce "Tips Megan Davies oedd y rheina ar sut i gadw'r wifi yn gyflym tra'n gweeithio o adre. Un ffordd o gadw'n brysur yn y cyfnod anodd hwn ydy sgwennu caneuon. Dyna mae'r band Sain Cofio wedi ei wneud. Ond nid band cyffredin yw hwn. Tri aelod sydd i'r band - Yncl Gruff, Deio a Casi. Wyth oed ydy Deio a dim ond chwech ydy Casi. Dyma'r ddau yn sgwrsio gyda Dafydd a Lisa ar Radio Cymru 2 " Dafydd a Lisa Radio Cymru 2 - Sain Cofio triawd - trio cyfansoddi - to compose nain - mamgu colli dant - to lose a tooth seren - star
4/2/202016 minutes, 23 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr 25ain o Fawrth 2020

"S'mae... Dach chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …" Galwad Cynnar Dydd Sadwrn 21/03/20 Y Foryd Fach "…Rhys Jones yn disgrifio'r Foryd Fach ger Caernarfon. Mae'r Foryd yn lle pwysig iawn o ran byd natur ac mae'n bosib gweld adar arbennig iawn yno. Dyma flas ar sgwrs Rhys Jones ar Galwad Cynnar bore Sadwrn diwetha... " amrywiaeth - variety nodweddiadol - typical gwyddau duon - black geese unigryw - unique gaeafu - to spend winter gorgyffwrdd - to overlap cynyddu - to increase daearyddiaeth - geography ddim mor gyfarwydd - not as familiar deheuol - southernly Rhaglen Ifan Evans Iau – 19/03/20 Dofednod "Darlun o'r Foryd Fach ger Caernarfon yn fan'na ar Galwad Cynnar. Mi wnawn ni aros efo adar yn y clip nesa gan ei bod hi'n Ddiwrnod Dofednod dydd Iau diwetha – cyfle i ddathlu ein ffrindiau bach pluog. A gwestai Ifan Evans oedd rhywun sydd wrth ei fodd ynghanol y plu i gyd yn enwedig yr ieir, sef Paul Williams o Gwrtnewydd, Ceredigion. Gofynnodd Ifan iddo fe o ble daeth y diddordeb mewn ieir... " dofednod - poultry pluog - feathery Y sioe Frenhinol - The Royal Welsh Show trybini - misery crwtyn - a boy ceiliog - a cockerel y ffefryn - the favourite pert - pretty o mawredd - oh goodness dodwy - to lay Ifan Evans Dydd Mawrth 17/3/20 Mary Bott " A dyn ni'n mynd i aros gyda rhaglen Ifan am y clip nesa sef sgwrs gyda Mary Bott o Aberteifi Mae Mary yn dipyn o gymeriad ac yn fflyrtian dipyn bach efo Ifan... " nes ymlaen - later on egni - energy iengach - remind casglu - to collect Hwyrnos Georgia Ruth Mawrth 17/03/20 loergan "Anodd iawn i Mary gadw'n dawel am ddwy awr swn i'n meddwl... Sian Eleri oedd yn cyflwyno yn lle Georgia Ruth nos Fawrth a’i gwestai oedd Griff Lynch o'r band Yr Odds. Buodd Griff a Sian yn siarad am sioe gerdd Eisteddfod Genedlaethol eleni o’r enw Lloergan. Griff a’i frawd Lewys Wyn sydd wedi ysgrifennu’r gerddoriaeth - oedd y ffaith eu bod nhw mor agos at ei gilydd wedi helpu'r broses tybed?" sioe gerdd - musical yn ormodol - too much strwythur - structure yn hytrach na - rather than yn rhy draddodiadol - too traditional canolbwyntio - to concentrate Bore Cothi Llun – 16/03/20 Côr Ona "Griff Lynch oedd hwnna yn sôn am y sioe gerdd 'Lloergan'. Wel mae hi'n adeg bryderus iawn on'd yw hi? Ond er mwyn codi ein calonnau mae Catrin Angharad Jones neu Catrin 'Toffoc' fel mae llawer yn ei galw wedi creu tudalen Facebook o'r enw Côr Ona, lle mae pobl yn postio fideos ohonyn nhw eu hunain, neu eu plant yn canu. Mae yna thema gwahanol bob dydd - caneuon i famau oedd thema dydd Sul wrth gwrs gan ei bod yn Sul y Mamau. Dyma i chi ran o sgwrs gafodd Shan Cothi gyda Catrin..." y llais - the voice syniadau gwirion bost - ridiculous cyhoeddiadau - notifications hunan ynysu - self isolating ymarferion - rehearsals wyneb yn wyneb - face to face emynau - hymns y to hŷn - the older generation mi anwyd… - ...was born Dros Ginio Llun - 16/03/20 Rowland Wiliams "Catrin 'Toffoc' yn fan'na yn sgwrsio gyda Shan Cothi am y dudalen Facebook Côr Ona. Mae'r peiriannydd Rowland Williams yn dod o Rhigos yn wreiddiol ond nawr mae'n yn byw Martinez ger San Francisco. Dyw e ddim wedi byw yng Nghymru ers dros bedwar deg o flynyddoedd ond dyw e heb golli acen ardal Morgannwg o gwbl. Dyma fe'n siarad gyda Dewi Llwyd... " peiriannydd - engineer llywodraeth - government yn gyson - regularly heolydd - roads ddim yn fodlon - unwilling anghyfforddus - uncomfortable edrych yn syn - looked in astonishment yn rhyfeddol - wonderfully y gyfrinach - the secret
3/25/202017 minutes, 9 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion y Dysgwyr 20fed o Fawrth 2020

Hwyrnos Georgia Ruth - Ynys Blastig niwed harm amgylchedd environment creadigol creative lleihau defnydd reduce the use Cyfarwyddwraig Director (female) darn o gelf piece of art gorddefnydd overuse atgoffa to remind pi pi'n bob man urinating everywhere hybu to promote "Dyn wedi clywed llawer iawn yn ddiwedddar am y niwed mae plastig yn ei wneud i'r amgylchedd, ond dych wedi clywed am yr Ynys Blastig? Prosiect gan Gyngor Gwynedd ydy e a dyma'r actor Iwan Fon yn esbonio wrth Sian Eleri beth yn union yw Ynys Blastig... " Sioe Frecwast Radio Cymru 2 - Gwyneth Keyworth ymddangos to appear cyd-actorion co-actors profiad experience cyfres series doniol funny go iawn in reality amyneddgar patient elfennau elements "Sian Eleri oedd honna ar raglen Hwyrnos Georgia Ruth yn siarad gyda'r actor Iwan Fon am yr Ynys Blastig.– Cafodd Daf a Caryl sgwrs gyda Gwyneth Keyworth ar y Sioe Frecwast bore Mercher. Actores ydy Gwyneth ac mae hi'n ymddangos ar hyn o bryd yn y gyfres “The Trouble with Maggie Cole” ar ITV. Ei chyd-actorion ar y gyfres yw Dawn French a Mark Heap. Sut brofiad ydy gweithio gyda'r ddau tybed….? " BORE COTHI - Mari a Mair trawsblaniad aren kidney transplant rhywbeth yn bod something wrong ychwaneg more profion tests cyflwr genetig genetic condition dim byd o'r fath nothing of the sort anghyffredin unusual bendith blessing anhygoel incredible meddyginiaeth medicine "Gobeithio bydd Mark Heap yn nabod Gwyneth erbyn diwedd y gyfres on'd ife? Dydd Iau clwyon ni hanes dwy ferch ifanc ar Bore Cothi, Mari Siwan Davies o'r Parc ger y Bala a Mali Elwy o Danyfron ger Llansannan yn Sir Conwy. Mae un ohonyn nhw wedi cael trawblaniad aren a’r llall yn aros am un. Dyma Mari i ddechrau'n sgwrsio gyda Shan…. " Sioe Sadwrn - Kid Cymru campfa gym tyfu lan to grow up ymateb response watsio to watch yn gleisiau i gyd bruises all over taflu to throw cyhyrog muscular cwympo to fall ffili esgus cannot pretend "... a chafodd y sgwrs honno ei recordio ar Ddiwrnod Aren y Byd. Mae gan Gethin Williams o ardal Llanelli enw arall sef Kid Cymru - ei enw reslo ydy hwnnw. Ar Sioe Sadwrn gofynnodd Geraint Hardy iddo fe sut dechreuodd y diddordeb mewn reslo... " Dros Ginio - Adam ac Adrian gwas sifil Civil servant arweinydd leader barn wleidyddol swyddogol an official political opinion syndod surprise dylanwad mawr huge influence gwleidyddiaeth politics priodoli to attribute cyfeiriadau references prin iawn ei Gymraeg limited knowledge of Welsh gwythien vein "Hanes Kid Cymru yn fan'na ar Sioe Sadwrn. Yn y gyfres Dau cyn Dau y ddau frawd Adam a Adrian Price oedd yn siarad gyda Dewi Llwyd. Mae Adrian yn was sifil ac yn diwtor Cymraeg i Oedolion ac Adam yw arweinydd Plaid Cymru. Saesneg yw mamiaith Adam ond Cymraeg mae e'n siarad gyda'i frawd Adrian. Sut ddigwyddodd hynny oedd un o gwestiynau Dewi Llwyd i'r ddau. " Cofio - Jimmy Carter gwleidydd politician Cyn-Arlywydd former President y diweddar the late cysylltiadau contacts answyddogol unofficial gofalu amdano fe looking after him pwysau pressure "...Adam Price yn fan'na - gwleididd sydd â chysylltiad agos ag America gan iddo fe astudio ym Mhrifysgol Havard. Ond gwleidydd Americanaidd gyda chysylltiad â Chymru sydd yn y clip nesa - sef Jimmy Cartrer, cyn Arlywydd America. A'r cysylltiad â Chymru? Wel yn 1986 dreuliodd e wythnos yng Ngorllewin Cymru yn pysgota gyda Moc Morgan fel y clywon ni ar Cofio . Dyma John Hardy yn holi'r diweddar Moc Morgan... "
3/20/202015 minutes, 11 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion i Ddysgwyr: 12fed o Fawrth 2020

Rhaglen Aled Hughes - Cŵn defaid gwrando'n astud - listening attentively hyfforddwr cŵn defaid - sheepdog trainer o fri - of renown chwip o sgil - a heck of a skill y prif ci - the main dog y brenin - the king pencampwriaeth - championship llinach - pedigree gast - bitch ara deg - slowly Aeth Aled Hughes draw i Langwm ger y Bala i siarad gydag Aled Owen am ei gŵn defaid. Dyma i chi flas ar y sgwrs... Stiwdio - Iaith Drama adlewyrchu cymdeithas ddwyieithog - reflecting the bilingual society colofnydd teledu - television columnist yn llwyr uniaith - totally monolingual cyd-destun - context ar bwys - near amddiffyn - to defend parchu'r gynulleidfa - respect the audience cyfarwydd - familiar y dihiryn - the villain sarhâd - insult "Aled Hughes yn fan'na yn siarad am gŵn defaid gydag Aled Owen. Maenifer o ddramâu ar S4C y dyddiau hyn yn defnyddio llawer o Saesneg yn ogystal â'r Gymraeg. Mae rhai yn dweud bod hyn yn adlewyrchu cymdeithas ddwyieithog Cymru, ond cwestiwn Nia Roberts i'r colofnydd teledu Sioned Williams oedd ydy hi'n bosib cael y dramâu hyn yn Gymraeg yn unig. Dyma oedd gan Sioned i'w ddweud... Ifan Evans - Bryan yr Organ adnabyddus - famous emynau - hymns pwy feddyliai - who would think cymanfa ganu - hymn singing festival ffefrynau - favourites ymarfer - rehearsing y cywair - the key (music) "Wel doedd yna ddim llawer o Saesneg yn y sgwrs gafodd Ifan Evans gyda Bryan yr Organ. Mae Bryan yn llais cyfarwydd iawn ar Radio Cymru a'r wythnos diwetha roedd e'n dathlu ei ben-blwydd yn 70. Ond ddim parti pen-blwydd cyffredin bydd Bryan yn ei gael fel buodd e'n sôn wrth Ifan... Rhaglen Aled Hughes - Ela Richards Diwrnod Rhyngwladol y Menywod - International Women's Day Y Rhyfel Fawr - The First World War Cadeirydd - Chair Y Groes Goch - The Red Cross Gwlad Groeg - Greece trwsiadus - tidy dychwelyd - to return cofeb - memorial parch - respect uffern - hell ".. a dw i'n siiŵr ei bod hi wedi bod yn gymanfa i'w chofio. Penblwydd hapus Bryan. Roedd hi'n Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod ddydd Llun ac mi gafodd Aled Hughes sgwrs gyda'r hanesydd Efa Lois, am fenyw arbennig iawn sef Ela Richards. Dyma i chi ychydig o'i hanes... " Sioe Fore Radio Cuymru 2 - Padi ysbrydoliaeth - inspiration Archdderwydd - Archdruid fel tae - as it were y fath stori - such a story cymeriad - character uniaethu - to empathise wedi ei chreu - had been created rôn i'n dotio ati hi - I doted on it nerth - strength deynudd sgwennu - writing material "Hanes menyw arbennig iawn yn fan'na - Ela Richards o Lanbedr Pont Steffan. Dydd Mercher cafodd ambell i berson adnabyddus gyfle i ddewis cân sydd wedi eu hysbrydoli nhw. Cân 'Padi' gan y band ' Mynediad am Ddim' oedd dewis yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd a dyma fe'n esbonio pam wrth Dafydd a Caryl ... Bore Cothi - Menna Elen addysg gorfforol - physical education arlunio - drawing rhyddhad - freedom mynd bant - to go away cynllunio - planning yn rhwyddach - easier denu - to attract dwlu dysgu - love teaching strwythuro - structured yn glou - quickly "Yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd oedd hwnna yn sôn am gân wnaeth ei ysbrydoli. Mae'n amlwg bod dysgu plant yn Kuwait wedi ysbrydoli Menna Elen o Lanymddyfri. Mae Menna yn ferch arbennnig sy wedi teithio i 26 gwlad yn barod er mai dim ond 25 oed yw hi. Dyma hi'n dweud wrth Shan Cothi pam ei bod yn mwynhau dysgu yn Kuwait gymaint.
3/12/202013 minutes, 32 seconds
Episode Artwork

Podlediad Pigion i Ddysgwyr - 4ydd o Fawrth 2020

Beti A'i Phobol - Alis Hawkins ail-gydio yn... - to reconnect with dros dair degawd - over three decades sbarduno'r chwant - to motivate the desire mynd bant - to go away annog - to encourage darganfod - to discover ar lafar - orally rhwydd - easy clytwaith - patchwork amrywiol - varied Mae Alis Hawlins yn dod o Gwm Cou ger Castell Newydd Emlyn yn wreiddiol ond wedi byw yn Lloegr ers dros drideg mlynedd. Roedd hi'n poeni ei bod yn colli ei Chymraeg ond mi wnaeth ffrind iddi hi ei helpu i ddod yn ôl i'r arfer o siarad yr iaith ac nawr mae hi'n rhugl umwaith eto. Yn y clip yma mae Allis yn sôn am rywbeth arall helpodd hi gyda'i Chymraeg hefyd. Gwrandewch ar hyn... Geraint Lloyd - Het Mali Sion yn enwedig - especially y gwynt yn hyrddio - the wind blowing strongly marchogaeth - horse riding ambell i gae - the odd field fan hyn a fan draw - here and there Ie, podlediad y dysgwyr wedi helpu Alis i ail-gydio yn ei Chymraeg - da on'd ife? Dych chi wedi clywed am yr Het ar Raglen Geraint Lloyd? Mae'r Het yn cael ei phasio o un person i'r llall bob wythnos, a'r wythnos yma - Mali Sion o Lanrwst oedd y ferch lwcus. Mae Mali yn ferch brysur iawn. Yn ogystal â gweithio yng Nghaffi Ffika yn Llanrwst, mae hi hefyd yn aelod o'r band Serol Serol, a dyma hi'n sôn am y band wrth Geraint LLoyd... Rhaglen Recordiau Rhys Mwyn - Neil Rosser cyfeillion - friends gei di ymateb - you'll get a response cystal â - as good as ymgais - an attempt roedd yn berchen - he owned mo'yn - eisiau y fenyw - the woman myn uffern i - goodness me jacôs - calm blaenoriaeth - priority Mali Sion oedd honna yn sôn wrth Rhys Mwyn am ei band Serol Serol. A dyn ni am aros ym myd pop nawr gyda rhaglen Rhys Mwyn. Nos Lun cafodd Rhys gwmni y canwr Neil Rosser a buon nhw'n edrych yn ôl ar yr albwm "O'r Gad" gafodd ei recordio yn Nyffryn Ogwen. Dyma Neil yn sôn am adeg y recordio... Sioe Frecwast - Pêl-droed cerdded Cwpan Pêl-droed Cerdded y Byd - Walking Football World Cup eitha anhygoel - quite incredible Yr Eidal - Italy dod lan - to come up tairgwaith - three times wedi cynrychioli - has represented baner - flag hyd yn oed - even camp - game Neil Rosser oedd yn siarad gyda Rhys Mwyn am recordio'r albwm 'O'r Gad'. Roedd llawer o bobl yn hapus iawn bedair blynedd yn ôl bod tîm pêl-droed Cymru wedi cyrraedd semis yr Euros yn Ffrainc. Ond oeddech chi'n gwybod bod Cymru wedi ennill Cwpan Pêl-droed y Byd? Mae hynny'n wir ond cwpan ychydig bach yn wahanol oedd e - Cwpan Pêl-droed Cerdded y Byd. Ar y Sioe Sadwrn cafodd Geraint a Elan sgwrs gyda John Pritchard sy'n chwarae i dim pêl-droed cerdded Amlwch ar Ynys Môn ond sydd hefyd wedi chwarae dros Gymru... Cofio - Dewi Sant yr un mor llwyddiannus - as succesful wedi cwympo - has fallen cyd-ddigwyddiad - coincidence haeddu - to deserve nawddseintiau - patron saints beirdd a llysieuwyr - poets and vegetarians yn y bôn - basically llysenw - nickname eitha anniddorol - quite uninteresting creulon - cruel A gobeithio bydd tîm pêl-droed normal Cymru yr un mor llwyddiannus yn yr Euros eleni on'd ife? Roedd hi'n ddydd Gwyl Dewi dydd Sul diwetha a dw i'n siwr basai'r Sant wedi bod yn falch iawn o weld cymaint o ddathliadau ym mhob ran o Gymru. Dw i ddim yn siwr, cofiwch, beth fasai'r hen Ddewi'n feddwl o berfformiad Daniel Glyn yn y clip nesa 'ma... Aled Hughes - Corgi ast - bitch Arwr - Hero sunsur sgleiniog - shiny ginger Sir Aberteifi - Ceredigion Y Frenhines - The Queen ci defiad Cymreig - Welsh sheepdog hel gwartheg - to drive cattle mwythlyd - doting torraid - litter(animals) goroesi - to survive Dewi Sant gwahanol iawn yn cael ei ddisgrifio yn fan'na gan y comedïwr Daniel Glyn. Mae bridiau cwn Cymreig a Phrydeinig yn ffashiynol iawn ar hyn o bryd ac mi aeth Aled Hughes draw i Dalybont i weld dau gorgi Ceredigion Sioned Humphreys a hefyd i weld Jack Russell bach blin o'r enw Nel.
3/4/202016 minutes, 58 seconds
Episode Artwork

Podlediad Dysgu Cymraeg - 27ain o Chwefror 2019

Y darnau gorau o raglenni BBC Radio Cymru gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith. Bore Cothi - Aron Snowsill therapydd maeth - nutrition therapist mamgu - nain dynolryw - mankind gwyddoniaeth - science uwcholeuo - highlight symlrwydd - simplicity cyndeidiau - forefathers doethineb - wisdom analeiddio - analizing Mae Aron Snowsill yn gweithio fel therapydd maeth, sydd yn swnio fel rhywbeth modern iawn on'd yw e? Ond fel d'wedodd Aron wrth Shan Cothi wythnos diwrtha mae llawer iawn o'r hyn mae o'n ei wneud yn ei swydd wedi bod o gwmpas ers amser maith, ac yn bethau roedd ei fam-gu yn gwybod popeth amdanyn nhw. Aled Hughes - Golff arbed - to save paid â mwydro - don't talk nonsense chwythu - to blow peltan - a slap ymchwil - research camu'n ôl - to step back ty'd 'laen - come on! anelu - to aim hir oes - long life drain - thorns Aron Snowsill oedd hwnna yn siarad am ei waith fel therapydd maeth ar Bore Cothi. Mae Aled Hughes yn hoff iawn o drio pethau newydd a'r wythnos diwetha aeth e am wers golff ar faes golff Bangor gyda Sue Evans. Sut hwyl gaeth e tybed? Hwyrnos Georgia Ruth - Ani Glass darlledwr - broadcaster go iawn - real arbrofi - to experiment set byw - a live set offeryn - instrument ychwanegu - additional Falle dylai Aled aros yn ei swydd fel darlledwr - dw i ddim yn medddwl bydd e'n olffiwr proffesiynol rhywsut. Mae gan y gantores Ani Glass albwm newydd a chlywon ni dair cân o'r albwm ar raglen Georgia Ruth. Dyma i chi flas ar sgwrs gafodd Ani gyda Georgia. Ifan Evans - ffered ffured - ferret hela - to hunt clymu - to tie dianc - to escape mwy tebygol - more probable mentro - to venture dere di draw - come over cnoiad - a bite cosi - to tickle crafu - to scratch Mae'n bosib i chi glywed y tair cân gafodd ei chwarae ar y rhaglen drwy fynd ar wefan Radio Cymru. Roedd hi'n Ddiwrnod Cenedlaethol Caru'ch Anifail Anwes ddydd Iau diwetha, wir nawr, a chafodd Ifan Evans sgwrs gyda Cari ac Elidir o Lanwrin ym Mhowys am eu hanifeiliaid anwes sef Sooty a Bon Bon. Ond nid ci neu gath oedd ir anifeiliaid hyn ond dwy ffured. Huw Stephens Radio Cymru 2 - Cocadwdl cyfres - series tywydd erchyll - terrible weather cyfartaledd oedran - average age mae gen i gywilydd - I'm ashamed wedi cael eu hetifeddu - inherited gwyddbwyll - chess ail-afael - resume soddgrwth - cello Dwy ffured, Sooty a Bon Bon, yn ymweld â stiwdio Aberystwyth ar Ddiwrnod Cenedlaethol Caru'ch Anifail - beth nesa tybed? Doedd 'na ddim anifeiliaid ar raglen Huw Stephens ar Radio Cymru 2 fore Gwner ond mi glywon ni sawl 'cocadwdl ' yn y sgwrs rhwng Aled Samuel a Mandy Watkins. Dros Ginio - Steve Hewitt Caergrawnt - Cambridge Llydaweg - Breton Yn llawer nes - much nearer cwympo mewn - to fall in gwrthod - to refuse y Cenhedloedd Unedig - The United Nations cyfieithydd - translator argyfwng - crises amrywiaeth - variety Mandy Watkins o'r gyfres Dan Do ar s4C oedd honna yn 'cocadwdl-dwio' gyda Aled Samuel. Mae Steve Hewitt yn dod o America'n wreiddiol, a symudodd i Brydain pan oedd yn bymtheg oed. Erbyn hyn mae e'n rhugl yn y Gymraeg a chafodd James Williams sgwrs gyda fe yn slot y Byd a'i Bethau ar y rhaglen Dros Ginio dydd Gwener. Dyma Steve yn esbonio pam a phryd dysgodd e'r Gymraeg.
2/27/202016 minutes, 42 seconds
Episode Artwork

Geirfa Podlediad Dysgu Cymraeg - 21ain o Chwefror 2020

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith. Ifan Evans - Kat Von Kaige bwriadu rhyddhau - intends to release wastad wedi - always have dawnsio gwerin - folk dancing llefaru - recitation perthynas - relationship yn hollol - exactly y gwedill - the rest yn bendant - definitely trwm - heavy Mae Rhiannon Osbourne o Ferthyr Tudful yn wreslo ar draws Ewrop gan ddefnyddio'r enw Kat Von Kaige. Ond mae hi hefyd wedi sgwennu caneuon Cymraeg ac mae hi'n bwriadu rhyddhau albwm Cymraeg yn y dyfodol. Dyma hi'n sgwrsio gyda Ifan Evans. Rhaglen Aled Hughes - Monopoly dyfeisio - to invent annheg - unfair sylweddoli - to realise cynyddu eu cyfoeth - to increase their wealth dychmygu - to imagine y pendraw - the end dameg - parable yn weddol boblogaidd - fairly popular cogio - to pretend i'r gwrthwyneb - to the contrary Rhiannon Osbourne oedd honna'n esbonio sut mae sgwennu caneuon wedi ei helpu hi i ddod dros perthynas anodd. Ar raglen Aled Hughes yr wythnos yma roedd Peredur Webb-Davies yn sgwrsio am y gêm 'Monopoply'. Yn y clip nesa cawn ni glywed Peredur yn esbonio o ble daeth y syniad gwreiddiol am y gêm. Sioe Frecwast Radio cymru 2 - Bryn Fôn doniol - funny dwys - intense cyfweliad - interview ymarferol - practical fy nghelf - my art trefnus - organised cyfuniad - combination mae gynno chdi - mae gyda ti anhygoel - incredible Cymraeg coeth - elegant Welsh Wel wel, pwrpas y gêm fodern Monopoly yn hollol wahanol i bwrpas y gêm wreiddiol felly. Rhyfedd on'd ife? Mae Bryn Fôn yn enwog fel canwr ond hefyd fel actor ac mae o'n actio yng nghyfres newydd Hidden ar y BBC. Fe sy'n chwarae rhan Hefin yn ail gyfres y ddrama dditectif. Roedd Bryn yn westai ar y Sioe Frecwast gyda Daf a Caryl, tybed pa fath o ddramâu mae Bryn yn ei licio fwya? Hwyrnos Georgia Ruth - Sian Reese Williams cynhyrchu - to produce Prydeinig - British tirwedd - landscape ansawdd - quality ymateb - response cyfforddus - comfortable Un arall sy'n actio yn y gyfres Hidden ydy Sian Reese-Williams hi sy'n actio rhan DI Cadi John yn y gyfres. Sian oedd gwestai Georgia Ruth nos Fawrth a gofynnodd Georgia iddi oedd hi'n hoff o'r cyfresi Scandi Noir. Beti A'i Phobol - Aled Rees Yr Athro Ddocctor - Proffesor Dr ymchwil - research hyfforddiant - training profiad annymunol - an unpleasant experience fel chi mo'yn - as you want meddygaeth - medicine ymdopi - to cope claf - patient trin - to treat yn astud iawn - very carefully A dw i'n siwr bod llawer o bobl yn edrych ymlaen i weld cyfres newydd Hidden ar BBC Wales ac ar BBC4. Cafodd Beti George sgwrs gyda'r Athro Ddoctor Aled Rees sydd yn rhannu ei amser rhwng gwaith academaidd, gwaith ymchwil a gwaith meddygol. Yn y clip yma mae Beti yn holi am yr hyfforddiant gafodd e fel meddyg. Rhaglen Aled Hughes - Bathodynnau clybiau pêl-droed cynrychioli - to represent llew - lion arfbais - coat of arms morthwyl hirgoes - rivet hammer diflannu - to disappear hunaniaeth - identity adlewyrchu - to reflect diwydiant trwm - heavy industry camarweiniol - misleading dryslyd - confusing Blas ar waith a hyfforddiant meddygon yn fan'na ar Beti a'i Phobol. Ar raglen Aled Hughes clywon ni am y straeon sy'n cael eu cynrychioli ar fathodynnau timau pêl-droed Chelsea, West Ham ac Arsenal. Pwy fasai'n meddwl bod bathodynnau clybiau pêl-droed gyda chymaint o hanes y tu ôl iddyn nhw?
2/21/202016 minutes, 19 seconds
Episode Artwork

Podlediad Dysgu Cymraeg - 12fed o Chwefror 2020

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith. Rhaglen Aled Hughes - Gwartheg yn siarad gwartheg - cattle brefu - mooing ymchwil - research ar brydiau hwyrach - at times perhaps tynnu lloiau - pulling calves blawd - cattle feed heffrod - heiffers tarw - bull fel diawl - intensely coelio - credu Yn yr wythnos pan ddaeth y ffilm 'Dr Dolittle' allan dyma Aled Hughes yn penderfynu basai fe'n trio cael sgwrs gyda gwartheg Bryn Roberts o Benisarwaun ger Llanberis. Roedd e wedi clywed bod gwartheg yn gallu brefu mewn 13 o wahanol ffyrdd a bod pob bref yn golygu rhywbeth gwahanol. Dyma sut aeth sgwrs Aled gyda'r gwartheg druan. Ar y Marc - Corau Rhys Meirion gelynion - enemies dewr - brave cyfres newydd - new series cythraul canu (idiom) - singing rivalry cyd-ganu - singing together profiad gwych - brilliant experience cantorion - singers ymarfer - rehearsal oddi cartre - away buddugoliaeth - victory Aled Hughes oedd hwnna'n trio cael sgwrs gyda gwartheg. Dim ond pedair milltir sy rhwng pentrefi Llanrug a Llanberis yng Ngwynedd ac mae timau pêl-droed y pentrefi yn dipyn o elynion ar y cae chwarae. Penderfyniad dewr felly oedd un Rhys Meirion i ddod â'r ddau dîm at ei gilydd i ganu fel un côr. Ar raglen Ar y Marc cafodd Dylan Jones sgwrs gyda Rhys Meirion, Dafydd Arfon o Lanrug ac Eurwyn Thomas o Lanberis am y syniad dewr yma. Rhaglen Ifan Jones Evans - Colin Jackson cyflwynydd - presenter ei ardal enedigol - area of his birth arfordir - coast Gwersyll - Camp dyfalu - to guess peiriant amaethyddol - agricultural machine go iawn - real Cofiwch wylio'r gyfres newydd nos Iau ar S4C i chi gael gweld sut siâp oedd ar y côr erbyn i Rhys Mrieion orffen gyda nhw. Mae yna gyfres newydd arall yn dod i S4C sef Iaith Ar Daith ac yn un o raglenni'r gyfres mae'r cyflwynydd Eleri Sion yn mynd o gwmpas ardal enedigol y cynathletwr Colin Jackson ac yn rhoi cyfle i Colin, sy'n dysgu'r iaith, ymarfer y Gymraeg ar y ffordd. A dydd Llun diwetha, llwyddodd Ifan Jones Evans i ddod o hydi'r ddau ohonyn nhw ar eu taith a'u holi ble byddan nhw'n mynd nesa. Bore Cothi - Stifyn Parri trawsblaniad gwallt - hair transplant blewyn - a hair tyllu mewn - dig into gwreiddyn - root mae na lu o nyrsys - there's a legion of nurses triawd y buarth - the farmyard trio (welsh folk song) hylif arbennig - special liquid croen - skin ail-blannu - replant planhigyn - plants A bydd yn bosib gweld llawer o bobl sy'n dysgu Cymraehg yn y gyfres Iaith ar Daith, Colin Jackson yn fan'na ond hefyd bydd Carol Vorderman yn ymddangos mewn un o'r rhaglenni. Mae'r actor Stifyn Parri wedi cael trawsblaniad gwallt yn ystod y pythefnos diwetha. Dyma fe ar Bore Cothi'n esbonio'r broses. Oedd hi'n un boenus tybed? Geraint Lloyd - Aberhonddu Aberhonndu - Brecon tref farchnad wledig - a rural market town Y Bannau - The Beacons diwydiant ymwelwyr - tourist industry traddodaid - tradition amrywiaeth - variety atyniad - attraction camlas - canal nwyddau - goods diwydiant haearn - iron industry Stifyn Parri oedd hwnna yn sôn am ei drawblaniad gwallt. Pa mor dda dych chi'n nabod Aberhonddu? Wel dyma'r dref oedd yn cael ei rhoi Ar y Map ar raglen Geraint Lloyd nos Fawrth, ac un sydd yn nabod y lle yn dda ac wedi byw yno ers hanner can mlynedd bellach ydy John Meurig Edwards. Dyma fe'n rhoi ychydig o hanes y dre. Beti A'i Phobol - Elinor Snowsill rhyngwladol - international araith - speech mo'yn - eisiau pwysau - pressure cyfarwydd â - familiar with gorfeddwl - to overthink rhyddhâd - relief gan eitha lot - by quite a big margin anaf - injury bwrw (fy) mhen i - hit my head Bach o hanes tref Aberhonddu yn fan'na ar raglen Geraint Lloyd. Gwestai Beti George yr wythnos diwetha oedd y chwaraewraig rygbi ryngwladol Elinor Snowsill. Roedd Elinor yn arfer dioddef o beth roedd hi'n ei alw'n Performance Anxiety. Beth oedd effaith hyn ar ei gêm a sut wnaeth hi ddodd dros y cyflwr? Dyma hi'n esbonio wrth Beti.
2/12/202018 minutes, 54 seconds
Episode Artwork

Podlediad Dysgu Cymraeg - 5ed o Chwefror 2020

John Gwyn Jones, Dracula, Sioned Mai Davies, Taith John Lloyd, Y brodyr Hallam, Kate Bush
2/5/202019 minutes, 6 seconds
Episode Artwork

Podlediad Dysgu Cymraeg - 29ain o Ionawr 2020

Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cerys Hafana, David Michael Hughes, Brecwast bore Felinfach, Cledwyn Jones, Hyrdi Gyrdi.
1/29/202018 minutes, 1 second
Episode Artwork

Podlediad Dysgu Cymraeg - 22ain o Ionawr 2020

Rhiannon Davies, y theatr, Sharon Morgan, Ben Lake, Harry a Meghan, Bethan Gwanas.
1/22/202016 minutes, 13 seconds
Episode Artwork

Podlediad Dysgu Cymraeg - 16eg o Ionawr 2020

John Alwyn Griffiths, Taron Eggerton, Myfanwy, Geraint Hergest, Elvis, a Martin Johnes.
1/16/202017 minutes, 41 seconds
Episode Artwork

Podlediad Dysgu Cymraeg - 23ain o Ragfyr

Pwdin Nadolig, y tri gwr doeth, hanes blitz Abertawe a mwy...
1/8/202019 minutes, 16 seconds
Episode Artwork

Podlediad Dysgu Cymraeg - 17eg o Ragfyr 2019

Daniel Lloyd, Debbie Harry, Nepal, Acenion, a Sian Thomas.
12/17/201916 minutes, 36 seconds
Episode Artwork

Podlediad Dysgu Cymraeg - 10fed o Ragfyr 2019

Llyfr Adar Mawr y Plant, Beca Bake Off, Peggy Seeger, Aled Wyn Hughes, Anne Spooner, a Cath Wyllt Caernarfon.
12/10/201913 minutes, 29 seconds
Episode Artwork

Podlediad Dysgu Cymraeg - 4ydd o Ragfyr 2019

The Joy Formidable, Ann Evans, Cwestiwn diog, Gruffydd Wyn, The Crown, Erin Richards.
12/4/201916 minutes, 8 seconds
Episode Artwork

Podlediad Dysgu Cymraeg - 26ain o Dachwedd 2019

Medwyn Williams, Reslo, Ysgol Gymraeg Llundain, Bach Bach, Beti a Lynne, a Cath Ayres.
11/26/201916 minutes, 33 seconds
Episode Artwork

Podlediad Dysgu Cymraeg - 20fed o Dachwedd 2019

Celyn, Llyfrau Llafar Cymru, Mari Wyn Williams, Junior Eurovision, a Plant Mewn Angen
11/20/201915 minutes, 1 second
Episode Artwork

Podlediad Pigion i Ddysgwyr - 15fed o Dachwedd 2019

Owen Powell, Catherine Ayres, Menai Williams, Meurig Griffiths, Prif Weinidog Cymru.
11/15/201912 minutes, 6 seconds
Episode Artwork

Podlediad Dysgu Cymraeg - 6ed o Dachwedd 2019

Ffobia, Hapusrwydd, Pobol y Cwm, Kizzy Crawford, Cwestiwn gwirion a Jacob Davies.
11/6/201911 minutes, 18 seconds
Episode Artwork

Podlediad Dysgu Cymraeg - 1af o Dachwedd 2019

Robin Huw Bowen, Tiger Bay a'r Gymraeg, De Affrica, Hen Fegin, Ufo LLangefni, Gwiber.
11/1/201911 minutes, 46 seconds
Episode Artwork

Podlediad Dysgu Cymraeg - 21ain o Hydref 2019

Siri Widgel, Kai Saraceno, Owen Saer, Ffrainc, Priodas Mirain a Jac, Cerdd Megan.
10/23/201910 minutes, 33 seconds
Episode Artwork

Podlediad Dysgu Cymraeg - 18fed o Hydref 2019

Hoff Gadair Rhyd, Gwen Màiri, Syragul Islam, Shelley Rees, Gwyfyn arbennig, Uruguay.
10/18/201911 minutes, 25 seconds
Episode Artwork

Wynne Evans - O Gaerfyrddin i Go Compare - Pennod 4

Y canwr opera, cyflwynydd a dysgwr Cymraeg sy’n edrych yn ôl ar ei fywyd yn ei bodlediad hunangofiannol. Geirfa ddefnyddiol ar gyfer Podlediad O Gaerfyrddin i Go Compare, Wynne Evans, Pennod 4 Dêl - Deal Dwlu ar - To adore, to love Poblogaidd - Popular Gweddi’r Arglwydd - The Lord’s Prayer Cystadleuwyr - Contestants Pwll nofio - Swimming pool Yn gryf - Strongly Cyfle - Opportunity Trueni - Pity, shame Yn ddiweddar - Recently Ysgariad - Divorce Gwên - Smile Arafu - To slow down Aelod - Member Yr Orsedd - The Gorsedd or Congress of Bards (A Welsh honour associated with the Eisteddfod)
10/18/20195 minutes, 45 seconds
Episode Artwork

Wynne Evans - O Gaerfyrddin i Go Compare - Pennod 3

Y canwr opera, cyflwynydd a dysgwr Cymraeg sy’n edrych yn ôl ar ei fywyd yn ei bodlediad hunangofiannol. Geirfa ddefnyddiol ar gyfer Podlediad O Gaerfyrddin i Go Compare, Wynne Evans, Pennod 3 Yn sydyn - Suddenly Hyder - Confidence Yn dost - Ill Asgwrn cefn - Backbone Niwmonia - Pneumonia Gofalu amdani ei hunain - To look after herself Penderfynol - Determined Cadair olwyn - Wheelchair Er cof am - In memory of Falch - Proud Hysbysebion - Adverts Annisgwyl - Unexpected Creision - Crisps Proses - Process Ymddangos - To appear Digwyddiad - Event Troi,troiais - To turn, I turned Casáu - To hate Trafferth - Trouble Drysau - Doors
10/17/20197 minutes, 22 seconds
Episode Artwork

Wynne Evans - O Gaerfyrddin i Go Compare - Pennod 2

Y canwr opera, cyflwynydd a dysgwr Cymraeg sy’n edrych yn ôl ar ei fywyd yn ei bodlediad hunangofiannol. Geirfa ddefnyddiol ar gyfer Podlediad O Gaerfyrddin i Go Compare, Wynne Evans, Pennod 2 Uwchradd - Secondary Chweched dosbarth - Sixth form Dylanwadol - Influential Clustiau - Ears Clasurol - Classical Penderfynu, penderfynais - To decide, I decided Coleg cerdd - College of music Cynigion - Offers Gradd(au) - Grade(s) Arholiad(au) - Exam(s) Dewis - Choice Dros y byd i gyd - All over the world Priodas - wedding Almaeneg - German (language) Ieithoedd - Languages TGAU - GCSE Defnyddiol - Useful Diolchgar - Grateful Brenhinol - Royal Sylweddolais - I realised Pennaeth - Principal,head Lliwio - To colour, to add variation Wrth berfformio - While performing Eidaleg - Italian (language) Gwerthu rhaglenni - To sell programmes Sleifio - To sneak Cantorion - Singers Rhannu - To Share Gwely sengl - Single bed Uchel - High Isel - Low Opera Cenedlaethol Cymru - Welsh National Opera Tai opera - Opera Houses Ffliwt Hud - Magic flute Gyrfa - Career
10/16/20198 minutes, 7 seconds
Episode Artwork

Wynne Evans - O Gaerfyrddin i Go Compare - Pennod 1

Y canwr opera, cyflwynydd a dysgwr Cymraeg sy’n edrych yn ôl ar ei fywyd yn ei bodlediad hunangofiannol. Geirfa ddefnyddiol ar gyfer Podlediad O Gaerfyrddin i Go Compare, Wynne Evans, Pennod 1 Caerfyrddin - Caermarthen a dweud y gwir - to tell the truth trin gwallt - Hairdressing Ymladd - To fight Llym - Strict Achub - To save Arweinion nhw - They led Anrhydedd - honour Brwsel - Brussels Beichiog - Pregnant Atgofion - Memories Meithrin - Nursery Losin - Sweets Gweddol - Ok, so-so Disgybl - Pupil Clown y dosbarth - Class clown Canolbwyntio - To concentrate Athrawon - Teachers Swil - Shy Llwyfan - Stage Ieuenctid - Youth Colli - To loose Prif fachgen - Head boy Bathodyn(nau) - Badge(s) Gwnïo - To sew Cefnogi - To support Tocyn(nau) - Ticket(s) Gwych - Excellent
10/15/20197 minutes, 16 seconds
Episode Artwork

Matt Spry a'i westeion yn trafod dysgu Cymraeg

Matt Spry, Dysgwr y Flwyddyn 2018, sy’n sgwrsio gyda mewnfudwyr o wlad Pwyl, Yr Almaen, Arfordir Ifori a Lloegr, sydd wedi dysgu Cymraeg.
10/14/201952 minutes, 33 seconds
Episode Artwork

Podlediad Dysgu Cymraeg 10fed o Hydref 2019

Ryan Jones, Cwrw, Murray The Hump, Iwcs, Dilys Ann Roberts a Gemau bwrdd
10/10/201913 minutes, 39 seconds
Episode Artwork

Podlediad Dysgu Cymraeg - Hydref yr 2il 2019

Awstralia, Kio Rodis, Leah Peregrine-Lewis, Taith gerdded, Cystadleuaeth a dawnsio.
10/2/201915 minutes, 34 seconds
Episode Artwork

Podlediad Dysgu Cymraeg - 27ain o Fedi 2019

Sion Tomos Owen, Siapan, Alaw Llwyd Owen, Clive Rowlands, Comedi a Canu gwlad
9/27/201911 minutes, 12 seconds
Episode Artwork

Podlediad Dysgu Cymraeg - 19eg o Fedi 2019

Burton a Liz, Jada Davies, Gwyddau, Treorci, tatws a Seiriol Davies
9/19/201915 minutes, 4 seconds
Episode Artwork

Podlediad Dysgu Cymraeg - 11eg o Fedi 2019

Tynnu rhaff, Gwastraffu bwyd, Cofeb, Michelle Evans-Fecci, Cader Idris, a Lydia Williams.
9/11/201915 minutes, 15 seconds
Episode Artwork

Podlediad Dysgu Cymraeg Awst 24ain-30ain

Gwenan Haf Jones, Bronwydd, Abbie Heasley, Stephen Bale, Orig Williams a Gareth Glyn.
9/4/201911 minutes, 38 seconds
Episode Artwork

Podlediad Dysgu Cymraeg Awst 18fed-23ain

Enfys Llwyd, Catrin Stevens, Sloganau crysau-t, Duncan Brown ac Ifor ap Glyn a Tseina.
8/27/201912 minutes, 3 seconds
Episode Artwork

Podlediad Dygsu Cymraeg Awst 10fed - 16eg

Cledwyn Ashford, Alis Huws, Sara Roberts, Roy Bohana, Eirlys Wyn Jones a Ben Lawson.
8/20/201912 minutes, 17 seconds
Episode Artwork

Podlediad Dysgu Cymraeg - Gorffennaf 29ain - Awst 4ydd 2019

Nofio, Dafydd Apolloni, Ruth Herbert Lewis, Jeremy Miles a Faciwîs.
8/6/201915 minutes, 46 seconds
Episode Artwork

Podlediad Dysgu Cymraeg Gorffennaf 13eg - 19eg

Enw Betws y Coed, David Jones, Sean Fletcher, Lynn Davies, Cleif Harpwood, rheolau Saboth
7/30/201913 minutes, 40 seconds
Episode Artwork

Podlediad Dysgu Cymraeg Gorffennaf 13-19eg 2019

Nussey y gog, Arwel Williams, Gwen Parrott, James Whitaker, Huw Thomas, Beca Brown.
7/23/201911 minutes, 22 seconds
Episode Artwork

Podlediad Dysgu Cymraeg Gorffennaf 7fed - 12fed

Sam Brown, Mererid Boswell, Eirian Jones, Pierino Algieri, Eleri Morgan a Esyllt Sears.
7/16/201912 minutes, 16 seconds
Episode Artwork

Podlediad Dysgu Cymraeg Mehefin 30ain - Gorffennaf 6ed

Francesca Sciarrillo, Mari Turner, Nia Mair Roberts, Bridget James, Richard Lewis.
7/9/201913 minutes, 14 seconds
Episode Artwork

Podlediad Dysgu Cymraeg Mehefin 23-28ain

Dr Sarah Hill, Winnie James, Lauren Phillips, Iwan Parry, Wil Griffiths, Aled Williams
7/2/201917 minutes, 19 seconds
Episode Artwork

Podlediad Dysgu Cymraeg Mehefin 16eg-22ain

John Davies, Elliw Gwawr, Helgard Krause, Leah Marian, Rhian Lois ac Annaly Jones
6/25/201913 minutes, 42 seconds
Episode Artwork

Podlediad Dysgu Cymraeg Mehefin 8fed - 15fed

Daniel Sumner, Heather Jones, Sara Louise Wheeler, Ameer Rana, Lucy Hughes a Deri Tomos.
6/18/201917 minutes, 11 seconds
Episode Artwork

Podlediad Dygsu Cymraeg Mehefin 1af-7fed

Owen Derbyshire, Arwyn Groe, Rhys Iorwerth, Geraint Griffiths a Catherine Treganna.
6/11/201916 minutes, 8 seconds
Episode Artwork

Podlediad Dysgu Cymraeg Mai 25-31

Lynwen Harrington, Adam Williams, Ian Gwyn Hughes, Osian Roberts, Elin Fouladi, Protein.
6/4/201914 minutes, 46 seconds
Episode Artwork

Podlediad Dygsu Cymraeg Mai 18fed-24ain

Gill a Gwen GG's, Hannah Daniel, Geordan Burress, Aran Jones, Sioned Foulkes, Tudur Owen.
5/28/201917 minutes, 6 seconds
Episode Artwork

Podlediad Dysgu Cymraeg Mai 11eg-17eg

Huw Ynyr, Menna Pugh Jones, Ameer Rana, Heledd Williams a Ellis Massareli Hughes
5/21/201918 minutes, 29 seconds
Episode Artwork

Podlediad Dysgu Cymraeg Mai 4ydd- 10fed

Bryn Williams, Nest Llewelyn, Medwyn Williams, Alun Huws, Alun Cox, Gwyn Hughes Jones.
5/14/201913 minutes, 56 seconds
Episode Artwork

Podlediad Dysgu Cymraeg Ebrill 27ain-Mai 3ydd 2019

Dani Schlick, Llion Pughe, Rhian Evans, Meinir Heulyn, Dr David Owen a Brian Evans.
5/7/201915 minutes, 4 seconds
Episode Artwork

Podlediad Dysgu Cymraeg Ebrill 20fed - 26ain

Carwyn Elis, Ceri Phillips, Owain Llwyd, Gabriella Jukes, Caryl Bryn a Dani Shlick.
4/30/201915 minutes, 55 seconds
Episode Artwork

Podlediad Dysgu Cymraeg Ebrill 13eg-19eg

Ifor ap Glyn, Owain Arthur, Susan Jones, Elin Fflur, Ioan Isaac Richards, Filipe Pusnick
4/26/201914 minutes, 59 seconds
Episode Artwork

Podlediad Dysgu Cymraeg Ebrill 6ed-12fed 2019

Paul Flynn, Dr Harri Pritchard, Iris Davies, Rhydian Bowen Phillips, Meinir Jones-Lewis
4/16/201915 minutes, 39 seconds
Episode Artwork

Podlediad Dysgu Cymraeg - Mawrth 30ain - Ebrill 5ed 2019

Lloyd Macey, Caryl Parry Jones, Wil Morgan, Neville Hughes, Dr Ioan Rees a Tara Bethan.
4/9/201916 minutes, 40 seconds
Episode Artwork

Podlediad Dysgu Cymraeg - Mawrth 24ain - 29ain 2019

John Mahoney, Neil a'r Welsh Whisperer, Marged Esli, Wyau, Celyn y ci a Sian Grigg.
4/1/201914 minutes, 27 seconds
Episode Artwork

Podlediad Dysgu Cymraeg Mawrth 16eg-22ain 2019

John Ystumllyn, Mair Elliot, Nigel Crossley, Martin Johnes, Meinir Jones Parry a Siop Esi
3/26/201914 minutes, 1 second
Episode Artwork

Podlediad Dysgu Cymraeg Mawrth 9fed-15fed 2019

Eryrod Eryri, Aled Hall a Lea Marian Jones, Wal Berlin, gwersi bale a dysgu Gaeleg.
3/18/201915 minutes, 41 seconds
Episode Artwork

Geirfa Podlediad Dysgu Cymraeg Mawrth 2il-8fed

Bryn Fon, Elaine Rowlands, Mared Lenny, Awel Fôn Evans, Nesta Jones a Bryn Tomos.
3/11/201914 minutes, 48 seconds
Episode Artwork

Podlediad Dysgu Cymraeg Chwefror 23ain - Mawrth 1af

Robin Lyn, Awen Roberts, perm Linda'r Hafod, Einir Dafydd, Richard Tudor a Llinos Davies.
3/4/201913 minutes, 37 seconds
Episode Artwork

Podlediad Dysgu Cymraeg - 25ain o Chwefror 2019

Podlediad yn cynnwys Ceir Trydan, Siestas yn Sbaen a Stadia Pel-droed Prydain
2/27/201914 minutes, 55 seconds
Episode Artwork

Podlediad Dysgu Cymraeg - 18fed o Chwefror 2019

Podlediad yn cynnwys gwaith heddlu Caernarfon, trafod Friends a Chaffi's Eidalaidd
2/18/201914 minutes
Episode Artwork

Podlediad Dysgu Cymraeg - 11eg o Chwefror 2019

Y darnau gorau o raglenni Radio Cymru ar gyfer dysgwyr Cymraeg.
2/11/201915 minutes, 34 seconds
Episode Artwork

Podlediad Dysgu Cymraeg - 4ydd o Chwefror 2019

Nerys Bowen, Super Furry Animals, Pobol y Cwm, Valériane Leblond a The Beatles.
2/4/201914 minutes, 3 seconds
Episode Artwork

Podlediad Dysgu Cymraeg - 21-27 o Ionawr 2019

Uchafbwyntiau Radio Cymru, gyda chyflwyniadau clir, fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.
1/29/201914 minutes, 40 seconds
Episode Artwork

Podlediad Dysgu Cymraeg - Ionawr 11 - 18 2019

Rhaglen Dei Tomos, Emma Walford, Rhys Mwyn, Dubai, Eirfyl Lewis, a John Bercow
1/22/201912 minutes, 3 seconds
Episode Artwork

Podlediad Dysgu Cymraeg Ionawr 1af-11eg

Olwen Dunets, Neil Jones, Vaughan Williams, Meri Huws, Anwen Hardman a Iolo Williams.
1/14/201914 minutes, 48 seconds
Episode Artwork

Podlediad Dysgu Cymraeg Rhagfyr 15fed - 22ain

Deri Thomas, Ruth Pritchard, Arwel Jones, Elin Mai, Mark Lewis Jones a Kyffin Williams
1/4/201913 minutes, 48 seconds
Episode Artwork

Podlediad Dysgu Cymraeg Rhagfyr 8fed - 14eg

Tara Bethan, Steffan Lewis, Chris Rees, Eifion Glyn, Arwel Jones banciau bwyd.
12/17/201819 minutes
Episode Artwork

Podlediad Dysgu Cymraeg Rhagfyr 1af - 7fed

Gwen Ellis, Noel James, Cinio Nadolig Figan, Caerdydd yn brifddinas a The Wizard of Oz.
12/11/201815 minutes, 1 second
Episode Artwork

Podlediad Dysgu Cymraeg Tachwedd 25ain-30ain

John Peel, Manw Lili, Siobhan Davies, Elin Fflur, Llyr ap Cenydd a Stephen Jones.
12/4/201816 minutes, 28 seconds
Episode Artwork

Podlediad Dysgu Cymraeg Tachwedd 17eg-24ain

C'mon Midffild, Dylanwad, Ken Thomas, Guto Dafydd, Taro'r Post a Manw Lili.
11/29/201817 minutes, 31 seconds
Episode Artwork

Podlediad Dysgu Cymraeg: Tachwedd 10fed-16eg 2018

Dai Francis, Hanner Call, Passendale, Nerys Bowen, Julie Goodfrey, a Gillian Elisa.
11/19/201819 minutes, 29 seconds
Episode Artwork

Podlediad Dysgu Cymraeg: Tachwedd 4ydd-9fed 2018

Branwen Niclas, Steven Jones, Matthew Rhys, Tardis, Swci Delic, Post Prynhawn Tammy Jones
11/12/201819 minutes, 37 seconds
Episode Artwork

Podlediad Dysgu Cymraeg - Hydref 28ain - Tachwedd 2il 2018

Y darnau gorau o raglenni BBC Radio Cymru yn arbennig i ddysgwyr Cymraeg.
11/5/201820 minutes
Episode Artwork

Podlediad Dysgu Cymraeg: Hydref 21-27ain 2018

Y darnau gorau o raglenni BBC Radio Cymru yn arbennig i ddysgwyr Cymraeg. BBC Radio Cymru highlights for Welsh learners.
10/29/201821 minutes, 6 seconds
Episode Artwork

Podlediad Hydref 14eg - 20fed

Geraint Curig, Mike Parker, Mihangel Morgan, Glan Davies, Eiry Miles a Emyr Huws Jones.
10/23/201819 minutes, 4 seconds
Episode Artwork

Podlediad i Ddysgwyr - Hydref 6ed - 12fed 2018

Iolo Williams, Betsan Llwyd, Norman Tebbit, Dani Schlick, Hywel Gruffydd, Manw Lili Robin
10/15/201815 minutes, 37 seconds
Episode Artwork

Podlediad i Ddysgwyr - Medi 29ain - Hydref 5ed 2018

Osian Davies, Dora Herbert Jones, Sarah Reynolds, Mari Roberts. Sgorio yn 30 a Salem.
10/8/201816 minutes, 23 seconds
Episode Artwork

Podlediad i Ddysgwyr - Medi 22ain - 28ain 2018

Rhedeg i Paris yn Siecoslafacia, Angharad Price, Iago Llwyd Edwards a Clare Mackintosh
10/1/201813 minutes, 59 seconds
Episode Artwork

Podlediad i Ddysgwyr - Medi 15fed - 21ain 2018

Mari Gwilym, Angharad Mair, Blind Willie Johnson, Sara Peacock a Becky Williams.
9/24/201821 minutes, 7 seconds
Episode Artwork

Podlediad Medi 8fed - 14eg

Daniela Schlik, Ali Evans, Sarah Reynolds, 'Mynydd' Fan y Big, Carys Eleri.
9/24/201815 minutes, 44 seconds
Episode Artwork

Podlediad i Ddysgwyr - Medi 1af - 7fed 2018

Elin Fflur a IVF, Patagonia, Golwg yn 30, ceiniogau coll, trawsblaniad, Rhydian Marc
9/10/201817 minutes, 27 seconds
Episode Artwork

Podlediad i Ddysgwyr: Awst 25ain - 31 2018

Rhys Ifans, Dafydd Iwan a Yws Gwynedd, Lowri Ann Richards, Aled Hall, tylluanod Galwad.
9/3/201821 minutes, 31 seconds
Episode Artwork

Podlediad Awst 18fed-24ain

Greta Hughes, Dr Meic Stephens, mynd trwy fag Ilid Ann Jones a sgwrs Ifan a Lowri Evans.
8/28/201811 minutes, 56 seconds
Episode Artwork

Podlediad i Ddysgwyr - Awst 13eg - 18fed 2018

Pobol y môr, Syr Bryn Terfel, David Ellis, Casglu Cardiau post a Georgia Ruth
8/20/201813 minutes, 18 seconds
Episode Artwork

Podlediad Gorffennaf 28ain - Awst 3ydd

Howell Thomas, nofel Llwyd Owen, Meilir Emrys, Edwin Humphreys ac Andrew White.
8/6/201814 minutes, 59 seconds
Episode Artwork

Podledliad Gorffennaf 21ain - 27ain

Nathan Abrams, Triniaeth IVF, Bethan Davies Antur y Ferch, ac Arwel Hogia'r Wyddfa.
7/30/201812 minutes, 33 seconds
Episode Artwork

Podlediad 15eg-21ain

Annette Bryn Parri, Mari Elen, Llwyd Owen, Eleri Llwyd a Margaret Williams
7/26/201815 minutes, 7 seconds
Episode Artwork

Podlediad Gorffennaf 9fed - 14eg

Mynydd Parys, Huw Brassington, Stifyn Parri, Evita, Rhian Cadwaladr a threfnu priodasau.
7/16/201816 minutes, 35 seconds
Episode Artwork

Podlediad Gorffennaf 1af-7fed

Gwyn Vaughan, cwn defaid, cyfeilyddion Bore Cothi, Gwenno Miller a'r cigydd Dafydd Povey
7/10/201812 minutes, 30 seconds
Episode Artwork

Podlediad Mehefin 9fed-16eg

Elinor Wyn Reynolds a 'Gwenllian', Alun Saunders, Eleri Twynog Davies, Mike a Lyn West.
6/18/201812 minutes, 9 seconds
Episode Artwork

Podlediad Mehefin 2il-8fed

Aled Richards, Cat Jones Hub Cymru Affrica, Odliadur, Giselle Crabtree, Te Macha.
6/11/201812 minutes, 55 seconds
Episode Artwork

Podlediad Mai 20fed - 26ain

Gruffydd Wyn Roberts, Elin Manahan Thomas, Myrddin ap Dafydd, a Sophie Jones
5/29/201812 minutes, 27 seconds
Episode Artwork

Podlediad Mai 12fed - Mai 19eg

Irn-Bru efo Stuart Brown, Dr Rhys Thomas, Arwel Owen gofalwr ysgol ifanc, a Rhys Patchell
5/21/201812 minutes, 18 seconds
Episode Artwork

Podlediad Mai 6ed - 11eg

Lliwiau i wneud i chi fwyta, Gareth Blainey, Dilwyn Morgan, Aneurin Karadog a Llydaw
5/13/201813 minutes, 24 seconds
Episode Artwork

Podlediad Ebrill 29ain - Mai 5ed

Y byd yn fflat, gerddi Aberglasney, D Hughes Jones, Tynnu rhaff a syrpreis Heledd Cynwal
5/7/201811 minutes, 49 seconds
Episode Artwork

Podlediad Ebrill 21ain-28ain

Mattie Pritchard a'i chwn, Blue Genes, Bwyd Bethan, Cofio sinemau, Beti a Meirion Davies.
4/30/201815 minutes, 10 seconds
Episode Artwork

Podlediad Ebrill 14eg - 20fed

Cylchgrawn 'O'r Pedwar Gwynt', canser y coluddyn, ysbrydoliaeth Gareth Jones a Mici Plwm
4/26/201811 minutes, 54 seconds
Episode Artwork

Podlediad Ebrill 7fed-13eg

Ysbrydoliaeth, canu mewn Cernyweg, symud y Mona Lisa, Sion Yaxley a Rhys Tomos.
4/16/201816 minutes
Episode Artwork

Podlediad Mawrth 31-Ebrill 6ed

Deuawdau Al Lewis, Archeoleg yr Aifft, Beca Lynne Perkins, Uchel siryf Gwynedd.
4/9/201811 minutes, 54 seconds
Episode Artwork

Podlediad Mawrth 24ain - 30ain

Dilwyn Morgan, Eden, Dafydd Iwan a tinnitus, colli golwg, gweilch Glaslyn a David Coleman
4/4/201814 minutes
Episode Artwork

Podlediad Mawrth 16eg - 23ain

Llyfrgell Rhydaman, John Cale, y gog, sied Dafydd Morgan a'r cyhydnos efo Eiry Palfrey
3/27/201812 minutes, 44 seconds
Episode Artwork

Pigion Mawrth 5ed - 15fed

Chwist, hysbysebion cyntaf, hanes teulu ystad y Faenol, chwilio am Deian a Loli newydd.
3/19/201816 minutes, 49 seconds
Episode Artwork

Podlediad Chwefror 24ain - Mawrth 2il

Dilyn y freuddwyd, marched mewn pop, Michael Williams, Stifyn Parri a Rachel Lee Stephens
3/9/201815 minutes, 41 seconds
Episode Artwork

Podlediad Chwefror 17eg - 23ain

Gwenno Rees a Phatagonia, Ioan Talfryn, Catrin Williams yn hwylfyrddio a Mair Tomos Ifans
2/26/20188 minutes, 30 seconds
Episode Artwork

Podlediad Chwefror 10fed - 16eg

Hanes Jack the Ripper, ofn clowniaid. golff, cofis Dre, adar rhamantus a Helen Prosser
2/19/201813 minutes, 43 seconds
Episode Artwork

Podlediad Chwefror 3ydd - 9fed

Robert David a Beti,Ioan Hefin a Alfred Russell Wallis,Mark Lewis Jones, hanes wal Berlin
2/12/201814 minutes, 17 seconds
Episode Artwork

Podlediad i Ddysgwyr: Ionawr 28 - Chwefror 4 2018

Bwyta 'Roadkill', Manon Steffan Ros, J.R. Williams, Dafydd Davies a Charlie Chaplin
2/5/201812 minutes, 20 seconds
Episode Artwork

Podlediad Ionawr 21ain-27ain

Coffi, Labordy, rheolwyr pel droed, Paula Leslie, Duncan Bron a Simon Chandler
1/29/201815 minutes, 5 seconds
Episode Artwork

Podlediad i ddysgwyr Ionawr 13- 19eg

Aneurin Karadog, Eira 1947, Chris Bagley a Llwybr y Llofrudd a Bethan Gwanas
1/22/201810 minutes, 4 seconds
Episode Artwork

Podlediad i ddysgwyr Ionawr 7fed - 12fed

Beti George a gofalwyr Dementia, Alex Humphreys, Shrek Steffan Hari a Angharad May
1/15/201810 minutes
Episode Artwork

Podlediad i ddysgwyr Ionawr 1af - 6ed 2018

Cofio trychineb Arena Manceinion, Iolo Williams, Hefin Williama, a hanes Shirley Bassey
1/9/201810 minutes, 1 second
Episode Artwork

Podlediad i ddysgwyr Rhagfyr 9fed - 15fed

Tudur Owen yn drymio, Eric Jones a Lowri Morgan, cofio Huw Jones, Rhys Morris Califfornia
12/18/201711 minutes, 47 seconds
Episode Artwork

Podlediad i ddysgwyr Rhagfyr 2il - 8fed

Cymry 1914-1918, Dylan Davies, Mandy Watkins, Manon Steffan Ros a Gwion Ellis Williams
12/11/201714 minutes, 51 seconds
Episode Artwork

Pigion i Ddysgwyr - 4ydd o Dachwedd 2017

Llŷr Williams, sgwrs am Ferrari, Y Gymraeg yn y Rhondda a Rosalind Lloyd.
12/4/201711 minutes, 58 seconds
Episode Artwork

Podlediad i ddysgwyr Tachwedd 19eg - 25ain

Siop Ty'r Gwrhyd, Huw Stephens a Llio Davies, Diolchgarwch Efrog Newydd, Sue Jones Davies
11/27/201711 minutes, 41 seconds
Episode Artwork

Podlediad i ddysgwyr Tachwedd 12fed - 18fed

Aleida Guevara, Tylluanod, Sion Midway Rees, Grace Capper, Lyn Ebenezer ac Ar y Marc
11/20/201717 minutes, 32 seconds
Episode Artwork

Podlediad i ddysgwyr Tachwedd 5ed - 11eg

Dawnsio tadau, steilio bwyd Mari, Lloyd Davies ym Matagonia a Tiger Bay Dafydd James
11/13/201710 minutes, 41 seconds
Episode Artwork

Podlediad i ddysgwyd Hydref 28ain - Tachwedd 3ydd

Lloyd Macey, Kees Huysmans, John ac Alun, Owen Powell, Dafydd Ieuan, Mark Kendall.
11/7/201711 minutes, 11 seconds
Episode Artwork

Podlediad Hydref 22ain - 27ain

Gareth Humphreys, Gari Nicholas a West Side Story, gyrfa chwist Abergwaun, Becky Williams
10/30/201710 minutes, 14 seconds
Episode Artwork

Podlediad i ddysgwyr Hydref 14eg - 2fed

Ffion Denham yn Honduras, Archie a chomedi gwleidyddol gywir, Inge Hanson a Fi a Mr Huws
10/23/201710 minutes, 28 seconds
Episode Artwork

Podlediad i ddysgwyr Hydref 7fed - 13eg

Grant Paisley, Lauren Phillips, Shan Cothi a Keith Morris a Brigitte Kloareg o Lydaw
10/16/201711 minutes, 46 seconds
Episode Artwork

Podlediad i ddysgwyr Hydref 1af - 6ed

Baledi efo Arfon Gwilym, Lloyd Masey., cadair Osian Rhys Jones a Vilna Thomas Llanddarog
10/9/20179 minutes, 42 seconds
Episode Artwork

Podlediad i ddysgwyr Medi 23-30ain

Hen eiriau Gerallt Pennant, bywyd carchar James, Injaroc, dysgu ieithoedd a Owain Arthur
10/3/201714 minutes, 40 seconds
Episode Artwork

Podlediad i ddysgwyr Medi 16-22ain

Tiger Bay Dafydd James Deddf Erthylu 1967 Dafydd Jones cwmni Roche môr-ladron, Sion Ifan
9/25/201715 minutes, 57 seconds
Episode Artwork

Podlediad i ddysgwyr Medi 9fed - 15fed

Llwyth yr Himba Namibia, Ella Peel, cyfieithu sioeau cerdd, Gaz Top a'r rhewlwyr Cymraeg
9/19/201718 minutes, 54 seconds
Episode Artwork

Podlediad i ddysgwyr Medi 2il - 8fed

Cyfreithiau rhyfedd, Daniel Evans a My Fair Lady, Trawsfynydd, Ifor a'r gair 'drws'
9/12/201712 minutes, 7 seconds
Episode Artwork

Podlediad i ddysgwyr Awst 27ain - Medi 1af

Mansel Charles a gyrfa chwist, Sbardun, Hen Ferchetan a Ifor ap Glyn a hanes y gair dynes
9/5/20179 minutes
Episode Artwork

Podlediad i ddysgwyr Awst 19eg - 26ain

Teyrnged John Ogwen i Robin Griffith, carafanio Gareth Hammer tatw Rhydian Bowen Phillips
8/28/201711 minutes, 38 seconds