Winamp Logo
Hanes Mawr Cymru Podcast Cover
Hanes Mawr Cymru Podcast Profile

Hanes Mawr Cymru Podcast

Welsh, Children-Kids, 1 season, 7 episodes, 1 hour
About
Mae hanes Cymru yn llawn pobl ryfeddol a chymeriadau mawr. Dewch ar daith hwyliog gyda Llinos Mai i'w cyfarfod!
Episode Artwork

Y Gymraeg

Mae’r iaith Gymraeg wedi wynebu sawl her a chyfnod anodd. Felly sut y gwnaeth hi oroesi? Dewch ar daith drwy'r canrifoedd i ddysgu mwy... Awdur: Llinos Mai Cynorthwydd sgript: Siân Rhiannon Williams Cynhyrchydd: Llinos Jones (Terrier Productions) Dylunio: Hefin Dumbrill
5/20/20229 minutes, 57 seconds
Episode Artwork

Jemima Nicholas

Ym 1797 fe wnaeth Ffrainc ymosod ar Brydain, ond roedd menyw ddewr o Abergwaun yn barod amdanyn nhw. Pe bai ymosodiad Ffrainc wedi bod yn llwyddiannus, fe allai hanes Cymru a Phrydain wedi bod yn wahanol iawn. Cobler oedd Jemima Nicholas, a phan glywodd bod deuddeg milwr o Ffrainc gerllaw fe aeth i’w herio gyda dim byd ond fforch wair... Awdur: Llinos Mai Cynorthwydd sgript: Siân Rhiannon Williams Cynhyrchydd: Llinos Jones (Terrier Productions) Dylunio: Hefin Dumbrill
5/20/202210 minutes, 16 seconds
Episode Artwork

Owain Glyndŵr

Mae hanes Cymru yn llawn arwyr cofiadwy, ac mae’n bosib mai dyma’r mwyaf enwog ohonyn nhw i gyd... Dewch yn ôl 800 mlynedd i gyfarfod Owain Glyndŵr, y Cymro olaf i gael ei alw yn Dywysog Cymru. Ai ef ddylai ennill Arwr-ffactor Hanes Mawr Cymru?! Awdur: Llinos Mai Cynorthwydd sgript: Siân Rhiannon Williams Cynhyrchydd: Llinos Jones (Terrier Productions) Dylunio: Hefin Dumbrill
5/20/202210 minutes, 10 seconds
Episode Artwork

Yr Eisteddfod

Croeso i barti mwyaf y flwyddyn! Mae traddodiad barddol Cymru yn chwedlonol, a phob mis Awst daw miloedd at ei gilydd i gystadlu a chymdeithasu. Ond wyddoch chi fod yr arfer yma’n mynd yn ôl canrifoedd? O Eisteddfodau bach lleol i’r digwyddiadau mawr sy’n gyfarwydd i ni heddiw, dyma hanes sy’n llawn gwisgoedd a chymeriadau lliwgar. Awdur: Llinos Mai Cynorthwydd sgript: Siân Rhiannon Williams Cynhyrchydd: Llinos Jones (Terrier Productions) Dylunio: Hefin Dumbrill
5/20/202210 minutes, 34 seconds
Episode Artwork

Merched Beca

Pwy oedd Merched Beca a beth oedd yr helynt mawr? Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd bywyd yn galed iawn yng nghefn gwlad Cymru. Roedd ffermwyr yn rhentu eu ffermydd, ac roedd gan y bobl oedd yn berchen y tir ddylanwad mawr ac arian a threthi. Ond pan gafodd tollbyrth eu gosod ar ffyrdd, fe benderfynodd y werin bobl wrthryfela... Awdur: Llinos Mai Cynorthwydd sgript: Siân Rhiannon Williams Cynhyrchydd: Llinos Jones (Terrier Productions) Dylunio: Hefin Dumbrill
5/20/20229 minutes, 21 seconds
Episode Artwork

Glo, diwydiant a chymunedau

Roedd pyllau glo yn llefydd tywyll a pheryglus a’r gwaith yn galed iawn. Ond fe gafodd y diwydiant effaith enfawr ar Gymru a gweddill y byd. Fe wnaeth cymunedau ffurfio yng nghymoedd y De-ddwyrain a daeth pobl o wahanol rannau o’r byd i fyw a gweithio ym mhorthladdoedd y dinasoedd mawr, ble roedd y glo yn cael ei allforio. Ond er mai pobl gyffredin wnaeth adeiladu’r diwydiant, roedd llawer o’r elw wedi diflannu o’u cymunedau erbyn i oes y pyllau glo ddod i ben. Awdur: Llinos Mai Cynorthwydd sgript: Siân Rhiannon Williams Cynhyrchydd: Llinos Jones (Terrier Productions) Dylunio: Hefin Dumbrill
5/20/202210 minutes, 25 seconds
Episode Artwork

Croeso i Hanes Mawr Cymru

Llinos Mai sy’n cyflwyno cynulleidfa ifanc i Hanes Mawr Cymru! Tanysgrifiwch nawr i glywed y gyfres gyfan yn syth.
5/20/202212 seconds